Canllawiau

Beth sy'n gwneud elusen (CC4)

Cyhoeddwyd 1 September 2013

Yn berthnasol i England and Gymru

Rhan 1: Am y canllaw hwn

Mae’r canllaw hwn yn amlinellu beth mae’r gyfraith yng Nghymru a Lloegr yn ei ddweud sy’n elusen.

Mae’r canllaw hwn yn berthnasol i chi os ydych chi’n ystyried sefydlu neu gofrestru elusen yng Nghymru a Lloegr.

Mae hefyd yn berthnasol i chi os ydych yn ymddiriedolwr elusen sy’n bod ac rydych am newid diben eich elusen.

Beth mae’r gyfraith yn ei ddweud sy’n elusen

Er mwyn bod yn elusen yng Nghymru a Lloegr, mae’n rhaid i’ch sefydliad fodloni’r diffiniad o elusen yn y

Ddeddf Elusennau (gofyniad cyfreithiol).

Yn ôl y Ddeddf Elusennau mae ‘elusen’ yn sefydliad sydd

  • wedi’i sefydlu at ddibenion elusennol yn unig (gweler rhan 2 y canllaw hwn) ac
  • yn ddarostyngedig i reolaeth awdurdodaeth cyfraith elusennau yr Uchel Lys (gweler rhan 5 y canllaw hwn).

Defnyddio ‘rhaid’ a ‘dylai’

Yn y canllaw hwn, pan ddefnyddiwn ‘rhaid’, golygwn ei fod yn ofyniad cyfreithiol neu reoleiddiol penodol sy’n effeithio ar ymddiriedolwyr neu elusen. Mae’n rhaid i ymddiriedolwyr gydymffurfio â’r gofynion hyn. Er mwyn eich helpu i nodi’r paragraffau hynny sy’n cynnwys gofyniad cyfreithiol neu reoleiddiol rydym wedi defnyddio’r (gofyniad cyfreithiol) wrth ochr y paragraff hwnnw.

Defnyddiwn ‘dylai’ ar gyfer eitemau rydym ni’n eu hystyried yn arfer da, ond nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol penodol ar eu cyfer. Dylai ymddiriedolwyr ddilyn y canllawiau arfer da oni bai bod rheswm da dros beidio â gwneud hynny.

Cynigiwn gyngor llai ffurfiol hefyd ac argymhellion a allai fod yn ddefnyddiol i ymddiriedolwyr wrth iddynt reoli eu helusen.

Rhan 2: Am ddibenion elusennol

Dibenion

‘Diben’ sefydliad yw’r hyn y cafodd ei sefydlu i’w gyflawni.

Fel arfer caiff diben elusen ei ddatgan yng ‘nghymal amcanion’ ei dogfen lywodraethol (y ddogfen gyfreithiol sy’n creu’r elusen ac sy’n dweud sut y dylai gael ei rhedeg).

Er mwyn bod yn elusen mae’n rhaid i’ch sefydliad gael dibenion elusennol yn unig. Ni all gael rhai dibenion sy’n elusennol ac eraill sydd heb fod yn elusennol (gofyniad cyfreithiol).

Dibenion elusennol

Er mwyn bod yn ‘ddiben elusennol’ (yn ôl y diffiniad ohono yn y Ddeddf Elusennau) rhaid iddo (gofyniad cyfreithiol):

  • gael ei gynnwys o fewn y disgrifiadau o ddibenion yn y Ddeddf Elusennau (gweler rhan 3 y canllaw hwn) a
  • bod er budd y cyhoedd - y ‘gofyniad budd cyhoeddus’ (gweler rhan 4 y canllaw hwn)

Er mwyn bod yn elusennol, mae’n rhaid i ddiben fodloni’r ddau faen prawf hyn. Mae’n rhaid i’r diben fod yn sicr ac felly, os oes angen, gellid ei orfodi gan y llys (gofyniad cyfreithiol).

Efallai na fydd diben yn sicr:

  • oherwydd mae’r geiriad a ddefnyddir i fynegi’r diben yn y ddogfen lywodraethol yn aneglur neu
  • oherwydd nid yw cwmpas ac ystyr y diben hwnnw yn glir

Os yw’r diben ei hun heb fod yn sicr ni all fod yn elusennol oherwydd ni fydd yn glir ei fod:

  • wedi’i gynnwys o fewn un neu ragor o’r disgrifiadau o ddibenion neu
  • er budd y cyhoedd

Dibenion na allant fod yn ddibenion elusennol

Ni all diben eich sefydliad fod yn ddiben elusennol os:

  • nad yw wedi’i gynnwys o fewn y disgrifiadau o ddibenion ac nid yw er budd y cyhoedd, gan gynnwys os yw’n:
    • ddiben gwleidyddol - gweler Atodiad 2
    • o yn anghyfreithlon neu’n groes i bolisi cyhoeddus
    • yn bwriadu gwasanaethu diben anelusennol

Sut mae’r gyfraith yn penderfynu beth sy’n ddiben elusennol

I gael canllawiau pellach ar sut mae’r gyfraith yn penderfynu beth yw diben elusennol, gweler Atodiad 3.

Elusennau sy’n cyflawni dibenion yn rhyngwladol

Ni all elusen gael dibenion sy’n anghyfreithiol o dan gyfraith Cymru a Lloegr (gofyniad cyfreithiol).

Nid yw cyfraith Cymru a Lloegr yn gymwys yn fyd-eang a bydd cyfreithiau gwledydd eraill yn wahanol. Mae hyn yn golygu y gallai rhai elusennau sydd wedi’u cofrestru yng Nghymru a Lloegr gael dibenion nad ydynt yn ddilys yn gyfreithiol mewn gwlad arall.

Y safle cyffredinol yw, pe byddai diben yn elusennol o’i gyflawni yng Nghymru a Lloegr, bydd hefyd yn cael ei ystyried yn elusennol os yw elusen sydd wedi’i chofrestru yng Nghymru a Lloegr yn bwriadu cyflawni’r diben hwnnw mewn gwledydd eraill.

Yn yr un modd, os yw diben yn cael ei ystyried yn anfanteisiol neu’n niweidiol os yw’n cael ei gyflawni gan elusen yng Nghymru a Lloegr, bydd yn cael ei ystyried yn anfanteisiol neu’n niweidiol hefyd os yw’n cael ei gyflawni mewn gweledydd eraill gan elusen sydd wedi’i chofrestru yng Nghymru a Lloegr.

Rhan 3: Am y ‘disgrifiadau o ddibenion’

Mae’r Ddeddf Elusennau yn rhestru 13 ‘disgrifiad o ddibenion’.

Mae’r ‘disgrifiadau o ddibenion’ yn rhestr o benawdau cyffredinol y mae’n rhaid i ddiben gael ei gynnwys ynddynt er mwyn bod yn ddiben elusennol (gofyniad cyfreithiol).

Mae pob disgrifiad yn bennawd cyffredinol ac mae dibenion elusennol gwahanol wedi’u cynnwys o dan y penawdau hyn.

Mae’r rhestr o ddisgrifiadau o ddibenion, o’u cymryd gyda’r ystod o ddibenion sydd wedi’u cynnwys o dan bob disgrifiad, yn cwmpasu popeth a gydnabyddir, neu y gellid ei gydnabod, yn elusennol yng Nghymru a Lloegr.

Y 13 disgrifiad o ddibenion

Yr 13 disgrifiad o ddibenion a restrir yn y Ddeddf Elusennau yw:

  • a.atal neu leddfu tlodi
  • b.hyrwyddo addysg
  • c.hyrwyddo crefydd
  • (ch) ch.hyrwyddo iechyd neu achub bywydau
  • d.hyrwyddo dinasyddiaeth neu ddatblygiad cymunedol
  • (dd) dd. hyrwyddo’r celfyddydau, diwylliant, treftadaeth neu wyddoniaeth
  • e.hyrwyddo chwaraeon amatur
  • f.hyrwyddo hawliau dynol, datrys anghydfodau neu gymodi neu hybu cytgord crefyddol neu hiliol neu gydraddoldeb ac amrywiaeth
  • (ff) ff.hyrwyddo gwarchod neu wella’r amgylchedd
  • g.cynorthwyo’r rhai sydd mewn angen ar sail ieuenctid, oedran, salwch, anabledd, caledi ariannol neu anfantais arall
  • (ng) ng.hyrwyddo lles anifeiliaid
  • h.hybu effeithlonrwydd lluoedd arfog y Goron, neu effeithlonrwydd yr heddlu, y gwasanaethau tân ac achub neu’r gwasanaethau ambiwlans
  • i.unrhyw ddibenion eraill a gydnabyddir fel rhai elusennol ar hyn o bryd neu y gellid eu cydnabod fel rhai elusennol drwy gyfatebiaeth, neu o fewn ysbryd y dibenion sydd wedi’u cynnwys o fewn (a) i (h) neu unrhyw ddiben arall a gydnabyddir fel un elusennol o dan gyfraith Cymru a Lloegr

Nid yw’r Ddeddf Elusennau yn diffinio beth yw ystyr pob un o’r disgrifiadau o ddibenion hyn. Fodd bynnag, mae’n darparu rhai diffiniadau, neu ddiffiniadau rhannol, ar gyfer rhai o’r disgrifiadau. Amlinellir y rhain yn Atodiad 4.

Os oes ystyr arbennig gan unrhyw un o’r termau a ddefnyddir yn y disgrifiadau o ddibenion yng nghyfraith elusennau Cymru a Lloegr, mae’n rhaid i’r term gael ei gymryd fel un sydd â’r un ystyr os yw’n ymddangos yn y disgrifiadau o ddibenion (gofyniad cyfreithiol).

I gael gwybod rhagor am ystyr pob un o’r disgrifiadau hyn, a’r mathau o ddibenion sydd wedi’u cynnwys ynddynt, gweler:

Defnyddio’r geiriad o’r disgrifiadau fel dibenion elusennol

Gall fod modd i’ch elusen fabwysiadu fel ei diben y geiriad a ddefnyddir yn un o’r disgrifiadau o ddibenion os yw’r geiriad hwnnw yn egluro:

  • bod yr hyn sy’n cael ei hyrwyddo yn amlwg yn ddiben a gydnabyddir fel un elusennol er budd y cyhoedd
  • sut y bwriedir cyflawni’r diben hwnnw (megis ‘lleddfu tlodi drwy…… ’)

Mewn rhai achosion, gall y geiriad a ddefnyddir yn y disgrifiadau o ddibenion gael mwy nag un ystyr, ac nid yw’r holl ystyron hynny yn ddibenion y mae’r gyfraith wedi’u cydnabod fel rhai elusennol neu rai a all fod er budd y cyhoedd.

Os mai dyma yw’r achos byddwn yn rhoi gwybod i chi a oes modd defnyddio’r geiriad fel diben yr elusen ac a oes angen iddo fod yn gliriach.

Penderfynu a yw’ch diben ‘wedi’i gynnwys o fewn’ y rhestr o ddisgrifiadau o ddibenion

Mae’r Comisiwn yn penderfynu a yw’ch diben ‘wedi’i gynnwys o fewn’ un o’r disgrifiadau o ddibenion drwy ystyried:

  • a yw’ch diben yn rhywbeth y mae’r llysoedd neu’r Comisiwn Elusennau yn ei gydnabod fel rhywbeth sydd wedi’i gynnwys o fewn:
    • y gyfraith achosion berthnasol neu egwyddorion sy’n deillio o gyfraith achosion berthnasol
    • unrhyw ddiffiniad o’r disgrifiad sy’n ymddangos yn y Ddeddf Elusennau

Dibenion newydd

Weithiau nid yw’n amlwg a yw diben wedi’i gynnwys neu beidio yn y disgrifiadau o ddibenion, er enghraifft a yw diben yn newydd neu’n unigryw.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi fel y bo’n briodol os yw hyn yn broblem gyda diben eich sefydliad chi.

Rhan 4: Am y ‘gofyniad budd cyhoeddus’

Y ‘gofyniad budd cyhoeddus’ yw’r gofyniad yn y Ddeddf Elusennau sy’n datgan bod rhaid i ddiben fod ‘er bydd y cyhoedd’ er mwyn bod yn ‘ddiben elusennol’ (gofyniad cyfreithiol).

Mae dwy agwedd ar fudd cyhoeddus:

  • yr ‘agwedd budd’
  • ‘yr ‘agwedd cyhoeddus’

Yr ‘agwedd budd’

Mae’r ‘agwedd budd’ ar fudd cyhoeddus yn ymwneud â’r diben ac a yw’n fuddiol.

Er mwyn bodloni’r ‘agwedd budd’ ar fudd cyhoeddus (gofyniad cyfreithiol):

  • rhaid i ddiben fod yn fuddiol
  • ni all unrhyw golled neu niwed sy’n deillio o’r diben fod yn fwy na’r budd

Yr ‘agwedd cyhoeddus’

Mae’r ‘agwedd cyhoeddus’ ar fudd cyhoeddus yn ymwneud â phwy sy’n cael budd o’r dibenion.

Er mwyn bodloni’r ‘agwedd cyhoeddus’ ar fudd cyhoeddus mae’n rhaid i’r diben (gofyniad cyfreithiol):

  • roi budd i’r cyhoedd yn gyffredinol, neu ran ddigonol o’r cyhoedd
  • nid yw’n creu mwy na budd personol damweiniol

Canllawiau ar y gofyniad budd cyhoeddus

Yn gyffredinol, er mwyn i ddiben fod ‘er budd y cyhoedd’ mae’n rhaid iddo fodloni’r agweddau ‘budd’ a ‘chyhoeddus’ (gofyniad cyfreithiol).

Fodd bynnag, os mai’r diben yw lleddfu neu atal tlodi, mae rheolau gwahanol yn gymwys.

I gael canllawiau ar y gofyniad budd cyhoeddus (gan gynnwys y gwahanol reolau ar gyfer elusennau tlodi) gweler:

Rhan 5: Awdurdodaeth cyfraith elusennau yr Uchel Lys

I fod yn elusen mae’n rhaid i’ch sefydliad fod yn ddarostyngedig i awdurdodaeth cyfraith elusennau’r Uchel Lys (gofyniad cyfreithiol).

Mae hynny’n golygu bod rhaid i’r llys gael y pwˆ er i wneud penderfyniadau am weinyddu a dibenion eich sefydliad fel elusen.

Ni all eich sefydliad fod yn elusen yng Nghymru a Lloegr os yw’n ddarostyngedig i awdurdodaeth gwlad arall, gan gynnwys yr Alban, Gogledd Iwerddon, Ynys Manaw neu Ynysoedd y Sianel.

Os nad yw dogfen lywodraethol eich sefydliad yn egluro ei fod wedi’i gynnwys o fewn awdurdodaeth cyfraith elusennau’r Uchel Lys, byddwn yn rhoi gwybod i chi.

Gall y ffactorau canlynol ddangos bod eich sefydliad wedi’i gynnwys o fewn awdurdodaeth cyfraith elusennau’r Uchel Lys:

  • mae eich dogfen lywodraethol yn mabwysiadu cyfraith Cymru a Lloegr i’w lywodraethu
  • mae’r rhan fwyaf o’ch ymddiriedolwyr yn byw yng Nghymru a Lloegr
  • mae’r rhan fwyaf o eiddo’ch sefydliad yng Nghymru a Lloegr
  • mae canolfan weinyddol eich sefydliad yng Nghymru a Lloegr

Annibynnol ar reolaeth allanol

I fod yn elusen, mae’n rhaid i sefydliad fod yn annibynnol ar reolaeth allanol mewn ffordd a fyddai’n ei atal rhag bod yn ddarostyngedig i reolaeth yr Uchel Lys (gofyniad cyfreithiol).

Rhan 6: Gwybodaeth bellach

Mae’r rhan hon yn rhoi dolenni i ganllawiau eraill a allai fod o ddiddordeb i chi mewn perthynas â’r canllaw hwn.

Mae’r canlynol wedi’i gynnwys yn ein cyfres o ganllawiau budd cyhoeddus:

Mae’r canllaw hwn yn esbonio’r gofyniad cyfreithiol sy’n datgan bod rhaid i ddiben elusen fod er budd y cyhoedd. Gelwir hyn y ‘gofyniad budd cyhoeddus’.

Mae’r canllaw hwn yn esbonio budd cyhoeddus yng nghyd-destun rhedeg elusen.

Mae’r canllaw hwn yn esbonio dyletswydd ymddiriedolwyr i adrodd yn eu Hadroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr ar sut y maent wedi cyflawni dibenion eu helusen er budd y cyhoedd.

Nid yw’r canlynol wedi’i gynnwys yn ein cyfres o ganllawiau budd cyhoeddus:

Mae’r canllaw hwn yn rhoi trosolwg o ganllawiau budd cyhoeddus y Comisiwn Elusennau. Mae’n esbonio:

Gall y dadansoddiad hwn o’r gyfraith fod o ddiddordeb i ymddiriedolwyr elusen a hoffai wybod mwy am sail gyfreithiol ein canllawiau.

Canllawiau cyffredinol ar sefydlu a chofrestru elusen newydd.

Mae’r cyhoeddiad hwn yn cynnig arweiniad ar y fframwaith cyfreithiol a rheoleiddiol i elusennau a hoffai ymgyrchu ac ymgymryd â gweithgareddau gwleidyddol.

Atodiad 1: Termau technegol

Mae’r termau canlynol yn cael eu defnyddio yn y canllaw hwn, a dylid deall bod ganddynt yr ystyron penodol fel y nodir isod:

Deddf Elusennau: Deddf Elusennau 2011.

Ymddiriedolwyr elusen: y bobl sy’n gwasanaethu ar gorff llywodraethu elusen. Gallant gael eu galw’n ymddiriedolwyr, cyfarwyddwyr, aelodau bwrdd, llywodraethwyr neu’n aelodau pwyllgor. Mae ymddiriedolwyr elusen yn gyfrifol am reoli gweinyddiad yr elusen yn gyffredinol.

Dogfen lywodraethol: dogfen gyfreithiol sy’n pennu dibenion elusen ac, fel arfer, sut y caiff ei gweinyddu. Gall fod yn weithred ymddiriedolaeth, cyfansoddiad, erthyglau cymdeithasu, ewyllys, trawsgludiad, Siarter Frenhinol, cynllun y Comisiwn Elusennau neu’n ddogfen ffurfiol arall.

Uchel Lys: prif lys sifil awdurdodaeth sifil anghyfyngedig yng Nghymru a Lloegr. Mae’n cynnwys tair is-adran: Mainc y Brenin, y Siawnsri a’r Adran Teulu.

Amcanion: ‘Amcanion’ elusen yw datganiad o’i ddibenion. Fel arfer fe’u gwelir yng ‘nghymal amcanion’ dogfen lywodraethol yr elusen. Fodd bynnag, nid oes gan bob elusen ddogfen lywodraethol gyda chymal amcanion.

Fel arfer mae cymal amcanion elusen yn golygu’r un peth â’i dibenion, ond weithiau maen nhw ychydig yn wahanol, e.e.:

  • pan nad yw’r cymal amcanion yn mynegi dibenion y sefydliad yn ddigonol neu’n gyflawn
  • mae’r cymal yn cynnwys mwy na dim ond yr amcanion, megis pwerau

Y gofyniad budd cyhoeddus: y gofyniad cyfreithiol sy’n datgan, er mwyn bod yn elusen, rhaid i ddibenion sefydliad fod er budd y cyhoedd (gofyniad cyfreithiol).

Diben(ion) a diben(ion) elusennol: defnyddiwn y term ‘diben(ion)’ i olygu diben(ion) sefydliad unigol.

Mae diben elusen yn amlinellu’r hyn y cafodd ei sefydlu i’w gyflawni.

I fod yn ‘ddiben elusennol’ mae’n rhaid i ddiben gael ei gynnwys o fewn un o’r disgrifiadau o ddibenion yn y Ddeddf Elusennau a bod er budd y cyhoedd. Rhaid bod modd dangos hyn ym mhob achos (gofyniad cyfreithiol).

Y llysoedd: defnyddiwn y term hwn i olygu, gyda’i gilydd, y Tribiwnlys, yr Uwch Dribiwnlys a’r llysoedd.

Y Tribiwnlys: y Tribiwnlys Haen Gyntaf (Elusen) yw lefel gyntaf apelio yn erbyn penderfyniadau’r Comisiwn Elusennau a amlinellwyd yn Atodlen 6 o’r Ddeddf Elusennau.

Yr Uwch Dribiwnlys: Yr Uwch Dribiwnlys (y Siambr Dreth a Siawnsri) yw ail lefel apelio yn erbyn penderfyniadau’r Comisiwn a amlinellwyd yn Atodlen 6 o’r Ddeddf Elusennau.

Atodiad 2: Am ddibenion gwleidyddol

Ni all diben sy’n ‘wleidyddol’ fod yn ddiben elusennol

Yn ôl y gyfraith elusennau, ni all ‘diben gwleidyddol’ fod yn ddiben elusennol. Mae hynny’n golygu na all sefydliad fod yn elusen os oes ‘diben gwleidyddol’ ganddo (gofyniad cyfreithiol).

Fodd bynnag, gall elusen gyflawni ‘gweithgaredd gwleidyddol’ os yw’n hwyluso neu’n cefnogi’r gwaith o gyflawni ei dibenion elusennol.

Gall ymgymryd â gweithgareddau ymgyrchu heb fod yn wleidyddol hefyd os yw’n amlwg yn ffordd o hyrwyddo ei ddibenion elusennol.

I gael rhagor o wybodaeth am hyn gweler:

Beth sy’n gwneud diben yn ddiben ‘gwleidyddol’

Yn ôl y gyfraith elusennau, mae ‘diben gwleidyddol’ yn fwy na dim ond diben sy’n ymwneud â gwleidyddiaeth plaid.

Pan ddefnyddiwn y term ‘diben gwleidyddol’ golygwn yr hyn y mae’r gyfraith elusennau yn ystyried yn ‘ddiben gwleidyddol’. Mae hynny’n golygu unrhyw ddiben, boed yn y wlad hon neu dramor, sydd wedi’i anelu at:

  • hyrwyddo buddiannau plaid wleidyddol arbennig
  • diogelu neu wrthwynebu unrhyw newid yn y gyfraith, boed yn y wlad hon neu dramor
  • sicrhau, neu wrthwynebu, unrhyw newid ym mholisi neu benderfyniadau’r llywodraeth ganol neu’r awdurdodau lleol neu gyrff cyhoeddus eraill, boed yn y wlad hon neu dramor

Nid yw rhai sefydliadau sy’n ceisio cofrestru fel elusennau yn ystyried eu bod yn sefydliadau ‘gwleidyddol’, ond gall fod diben ganddynt y mae’r gyfraith elusennau yn ystyried ei fod yn ‘wleidyddol’.

Penderfynu a yw diben sefydliad yn ‘wleidyddol’

Nid yw’r broses ar gyfer penderfynu a oes gan sefydliad ddiben gwleidyddol yn wahanol i’r broses a ddefnyddir yn gyffredinol i benderfynu a oes gan sefydliad ddibenion elusennol neu beidio.

Daw’r ateb drwy benderfynu:

  • beth yw dibenion sefydliad
  • y rheswm pam mae’r gweithgaredd gwleidyddol yn digwydd.

Nid yw’n fater syml o asesu faint o weithgareddau gwleidyddol y mae’r sefydliad yn eu cyflawni.

Mae’n rhaid i ni ystyried ystod o nodweddion wrth benderfynu a yw sefydliad yn cyflawni gweithgaredd gwleidyddol neu beidio i hyrwyddo diben elusennol, neu a oes ganddo ddiben gwleidyddol.

Byddwn yn ystyried hyn os yw’r gweithgaredd gwleidyddol y mae sefydliad yn ei gyflawni yn:

  • rhan annatod o waith y sefydliad
  • o leiaf rhan o’r rheswm dros fodolaeth y sefydliad
  • yn ddiben ‘annibynnol’, diben ynddo’i hun, heb unrhyw gysylltiad uniongyrchol â gwaith y sefydliad wrth gyflawni ei ddibenion elusennol
  • yr unig weithgaredd, neu weithgaredd parhaus, y sefydliad

Byddwn yn rhoi gwybod i chi os oes problem a bod angen trafod a oes gan eich sefydliad ddiben gwleidyddol.

Pam na all ‘dibenion gwleidyddol’ fod yn ddibenion elusennol

Rhaid i ‘ddiben elusennol’ fod ‘er budd y cyhoedd’ (gofyniad cyfreithiol).

Ym marn y llysoedd nid ydynt mewn sefyllfa i farnu a yw ‘diben gwleidyddol’ er budd y cyhoedd neu beidio (ac felly a yw’n elusennol) oherwydd:

  • nid oes gan y llysoedd unrhyw ffordd o benderfynu a fydd newid arfaethedig yn y gyfraith, neu ym mholisïau plaid wleidyddol, neu bolisi neu benderfyniad y llywodraeth, awdurdodau lleol neu gyrff cyhoeddus eraill, o fudd i’r cyhoedd neu beidio
  • mater i’r Senedd, ac nid y llysoedd, fydd penderfynu ar faterion o bolisi cyhoeddus a newidiadau yn y gyfraith
  • yn achos diben i newid y gyfraith neu bolisi dramor, ni ddylai’r llysoedd liwio cysylltiadau rhwng y DU a gwladwriaethau dramor drwy lunio barn ynghylch eu cyfreithiau neu eu polisïau ac a ddylid eu newid neu eu cadw

Atodiad 3: Sut mae’r gyfraith yn penderfynu beth sy’n ddiben elusennol

Gweler y siart llif am enghraifft o sut mae’r gyfraith yn penderfynu beth yw diben elusennol

Atodiad 4: Diffiniadau yn y Ddeddf Elusennau

Rhan 1

Ystyr “elusen” a “diben elusennol”

PENNOD 1:

Cyffredinol

3 (1)

  • (i) unrhyw ddibenion eraill -
    • (i) sydd heb eu cynnwys o fewn paragraffau (a) i (h) ond fe’u cydnabyddir fel dibenion elusennol drwy rinwedd adran 5 (ymddiriedolaethau adloniadol ac ymddiriedolaethau tebyg, ac ati) neu o dan yr hen gyfraith,
    • (ii) y gellir yn rhesymol eu hystyried fel rhai sy’n cyfateb â, neu sydd o fewn ysbryd, unrhyw ddibenion sydd wedi’u cynnwys o fewn unrhyw baragraffau (a) i (h) neu is-baragraff (i), neu
    • (iii) y gellir yn rhesymol eu hystyried fel rhai sy’n cyfateb â, neu yn dod o fewn ysbryd, unrhyw ddibenion sydd wedi cael eu cydnabod, o dan y gyfraith sy’n gysylltiedig ag elusennau yng Nghymru a Lloegr, fel rhai sydd wedi’u cynnwys o fewn is-baragraff (ii) neu’r is-baragraff hwn.

3 (2)Yn is-adran (1)-

  • (a) ym mharagraff (c), mae “crefydd” yn cynnwys-
    • (i) crefydd sy’n cynnwys cred mewn mwy nag un duw, a
    • (ii) crefydd nad yw’n cynnwys cred yn nuw,
  • (b) ym mharagraff (ch), mae “hyrwyddo iechyd” yn cynnwys atal lleddfu salwch, clefyd neu ddioddefaint dynol.
  • (c) mae paragraff (d) yn cynnwys-
    • (i) adfywio trefol neu wledig, a
    • (ii) hyrwyddo cyfrifoldeb dinesig, gwirfoddoli, y sector gwirfoddol neu effeithiolrwydd neu effeithlonrwydd elusennau,
  • (ch) ym mharagraff (e), ystyr “chwaraeon” yw chwaraeon neu gemau sy’n hyrwyddo iechyd drwy gynnwys sgiliau neu ymdrech corfforol neu feddyliol,
  • (d) mae paragraff (g) yn cynnwys lleddfu drwy ddarparu llety neu ofal i’r unigolion a nodir yn y paragraff hwnnw, a
  • (dd) ym mharagraff (h), ystyr “gwasanaethau tân ac achub” yw’r gwasanaethau a ddarperir gan yr awdurdodau tân ac achub o dan Ran 2 o’r Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004.

(3) Os yw unrhyw dermau a ddefnyddir yn unrhyw baragraffau (a) i (i) o is-adran (1), neu yn is-adran (2), ag ystyr arbennig o dan y gyfraith sy’n ymwneud ag elusennau yng Nghymru a Lloegr, mae gan y term yr un ystyr ag fel y mae’n ymddangos yn y ddarpariaeth honno.

(4) Yn is-adran (1)(i)(i), ystyr “yr hen gyfraith” yw’r gyfraith sy’n ymwneud ag elusennau yng Nghymru a Lloegr sydd mewn grym yn union cyn 1 Ebrill 2008.