Adroddiad corfforaethol

Adroddiad blynyddol a chyfrifon Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus 2021 i 2022 (Fersiwn HTML)

Diweddarwyd 21 December 2022

Yn berthnasol i England and Gymru

Adroddiad blynyddol a gyflwynwyd i’r Senedd yn unol ag Adran 60 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005

Cyfrifon a gyflwynwyd i Dŷ’r Cyffredin yn unol ag Adran 7 o Ddeddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000

Cyfrifon a gyflwynwyd i Dŷ’r Arglwyddi drwy Orchymyn Ei Mawrhydi

Gorchmynnwyd ei argraffu gan Dŷ’r Cyffredin ar 21 Gorffennaf 2022

Adroddiad perfformiad

Trosolwg

Diben y trosolwg yw rhoi crynodeb o waith Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, ein pwrpas, y prif risgiau rhag cyflawni ein nodau, a sut rydym wedi perfformio yn ystod y flwyddyn.

Mae’r trosolwg yn cynnwys:

  • datganiad Prif Weithredwr y Gwarcheidwad Cyhoeddus, gan roi ei safbwynt ar ein perfformiad yn ystod 2021 i 2022

  • disgrifiad o bwrpas Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus: yr hyn rydym yn ei wneud, pwy yw ein cwsmeriaid a’n rhanddeiliaid, ein perthynas gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, a’r prif risgiau a materion y gwnaethom eu rheoli yn ystod y flwyddyn

  • crynodeb o berfformiad, gan amlinellu sut y gwnaethom berfformio yn erbyn ein nodau darparu gwasanaeth

Mae esboniad manylach o’n perfformiad ac atebolrwydd yn nhudalennau diweddarach yr adroddiad.

Roedd y prif risgiau a gafodd eu rheoli yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ystod 2021 i 2022 yn cynnwys:

  • delio â chynnydd sylweddol yn y galw am geisiadau atwrneiaethau arhosol, a hefyd ymateb i’r heriau sy’n deillio o bandemig y coronafeirws, gan gynnwys ôl-groniad o geisiadau am Atwrneiaethau a gafodd eu creu am y tro cyntaf yn ystod cyfnod cynnar y pandemig

  • recriwtio a chadw staff – sicrhau bod gennym ddigon o staff sydd â’r sgiliau priodol i ddarparu ein gwasanaethau

  • symud ein swyddfa yn Birmingham i adeilad newydd

Gellir gweld manylion pellach ar y rhain a risgiau eraill a reolwyd yn ystod y flwyddyn yn yr adran Rheoli risg, rheolaeth a sicrwydd.

Datganiad gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus

Stuart Howard

Dechreuais yn fy swydd fel Gwarcheidwad Cyhoeddus ar 14 Mawrth 2022, wrth ddisgwyl am olynydd parhaol i Nick Goodwin, a adawodd y swydd ym mis Mawrth 2022 i ddod yn Brif Weithredwr Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi.

Yn adroddiad y llynedd, disgrifiodd Nick 2020 i 2021 fel cyfnod ‘na welwyd ei debyg o’r blaen’ a chyfnod a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus addasu a newid er mwyn ymateb i effaith pandemig COVID-19.

Drwy gydol 2021 i 2022, mae’r thema honno wedi parhau wrth i ni ganolbwyntio ein hymdrechion ar leihau’r ôl-groniad o geisiadau am atwrneiaeth arhosol a ddechreuodd gronni yn ystod y pandemig. Bydd y gwaith hwn yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wrth i ni fwrw ymlaen.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi arloesi ac wedi cyflwyno ffyrdd newydd o weithio. Rydym bob amser yn ceisio gwella sut rydym yn darparu ein gwasanaethau - gwasanaethau y mae eu hangen ar rai o’r oedolion mwyaf agored i niwed yng Nghymru a Lloegr.

Fe wnaethom gefnogi’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wrth iddi ymgynghori ar gynlluniau i foderneiddio atwrneiaethau arhosol, gan helpu i ymgysylltu â rhanddeiliaid, gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd yn ehangach. Cyhoeddwyd ymateb y llywodraeth ym mis Mai 2022, gan nodi’r garreg filltir ddiweddaraf ar gyfer y prosiect hwn.

Fe wnaethom ddechrau symud staff a gweithrediadau’n raddol yn Birmingham i leoliad newydd yng nghanol y ddinas. Mae’r broses o symud yn benllanw misoedd o gynllunio, ac rydym yn cyflawni hyn gan darfu cyn lleied â phosibl. Rydym yn edrych ymlaen at gwblhau hyn yn ystod hydref 2022.

Mae gwaith wedi dechrau hefyd ar gyflwyno safonau newydd ar gyfer pob dirprwy. Mae’r safonau newydd wedi’u cynllunio i fod yn symlach ac yn gliriach. Byddant yn nodi’n glir y disgwyliadau sydd gennym ar gyfer pob dirprwy wrth i ni eu cefnogi i gyflawni eu cyfrifoldebau mewn ffordd gyson.

Fodd bynnag, rydym wedi wynebu heriau yn ystod y flwyddyn. Mae salwch sy’n gysylltiedig â COVID-19 a’r heriau o ran recriwtio a chadw staff wedi golygu ein bod wedi bod yn gweithredu gyda llai o staff. Ar yr un pryd, rydym wedi bod yn gweithio i ddiwallu’r galw mawr ar ein gwasanaethau wrth i ni weld cynnydd graddol mewn ceisiadau am atwrneiaeth arhosol wrth i gyfyngiadau’r pandemig gael eu llacio. Tua diwedd y flwyddyn, cyrhaeddodd nifer y ceisiadau am atwrneiaeth arhosol y lefel uchaf erioed, sef dros 4,000 y diwrnod. Ers hynny, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer yr Atwrneiaethau Arhosol y mae angen eu prosesu. Mae cwsmeriaid wedi gorfod aros yn hirach nag yr hoffem i’r dogfennau pwysig hyn gael eu cofrestru.

Mewn ymateb, mi wnaethom newid ein harferion a’n prosesau gwaith yn gyflym ac mi wnaeth y model gweithio hybrid sicrhau, mewn gwirionedd, bod modd i ni ddarparu ein gwasanaethau drwy gydol y pandemig. Yn 2020 i 2021, mi wnaethom brosesu 53,000 o geisiadau atwrneiaeth arhosol bob mis ar gyfartaledd, er gwaethaf yr holl gyfyngiadau oedd ar waith. Cododd hyn i gyfartaledd o 60,000 y mis yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, a 62,500 y mis yn ystod misoedd Ebrill a Mai 2022.

Rydym wedi cyflogi staff ychwanegol i fynd i’r afael â’r ôl-groniad ac i wella’r ffordd rydym yn rheoli ceisiadau am atwrneiaethau arhosol ac ymholiadau gan gwsmeriaid. Mae hyn yn cael effaith, gyda nifer yr atwrneiaethau arhosol sy’n cael eu cofrestru bob mis yn ôl i’r hyn oeddent cyn y pandemig. Hoffwn ddiolch i’n timau sydd hefyd yn gweithio bob awr o’r dydd, gyda goramser ac ar draws amryw o batrymau shifft.

O dan arweiniad ein gwerthoedd, rydym wedi cydweithio ar draws y sefydliad. Er nad ydym wedi gallu cyrraedd rhai o’n targedau perfformiad, rydym wedi ymrwymo i leihau’r amser y mae’n ei gymryd i gofrestru Atwrneiaethau Arhosol ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau’r ôl-groniad. Hoffwn ddiolch i’n cwsmeriaid am eu hamynedd yn ystod y cyfnod hwn.

Mewn amgylchedd sy’n newid o hyd, yr un peth sydd wedi bod yn gyson yw ein pobl – yn gweithio’n galed mewn amgylchiadau anodd, gydag ymrwymiad cyson i gynnal ein gwerthoedd a helpu i ddiogelu anghenion rhai o’r oedolion mwyaf agored i niwed yng Nghymru a Lloegr. Maent wedi gwneud hyn gyda brwdfrydedd a phroffesiynoldeb, ac rwyf yn hynod falch o hynny.

Rydym wedi canolbwyntio’n briodol ar eu lles corfforol a meddyliol, gan sicrhau diogelwch y rheini yn ein swyddfeydd a pharhau i gefnogi timau a oedd yn gorfod gweithio gartref. Er ein bod wedi cael ein gwasgaru, mae ein pwrpas wedi bod yn gysylltiad rhyngom, ac adlewyrchir hyn yng nghanlyniadau ein harolwg staff blynyddol. Mae ein sgôr mynegai ymgysylltu wedi parhau i gynyddu, o 62% i 65% yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae ein hymrwymiad i’n gweithlu, ac i wneud Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn lle gwell byth i weithio, wedi’i grynhoi yn ein Haddewid i Bobl, a lansiwyd ddiwedd 2021.

Mae’r flwyddyn wedi bod yn un anodd arall, ond rydym yn symud ymlaen gyda gweledigaeth unedig, gan ganolbwyntio ar ein cynlluniau i leihau amseroedd prosesu Atwrneiaethau Arhosol, ac rydym yn edrych ymlaen at y dyfodol wrth i ni geisio newid ac arloesi ymhellach.

Stuart Howard
Gwarcheidwad Cyhoeddus dros Gymru a Lloegr

Gwybodaeth am Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Cyflwyniad

Mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael ei benodi gan yr Arglwydd Ganghellor o dan Adran 57 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005. Mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus hefyd yn Swyddog Cyfrifyddu yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac yn bersonol atebol i’r Arglwydd Ganghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder am weithredu’r asiantaeth yn effeithiol, gan gynnwys y ffordd mae’r asiantaeth yn gwario arian cyhoeddus ac yn rheoli ei asedau. Mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus fel arfer yn ysgwyddo rôl arweiniol fel prif weithredwr hefyd. Mae’r uwch dîm arwain yn ymgymryd â’r rôl hon dros dro, wrth i’r broses o recriwtio prif weithredwr a Gwarcheidwad Cyhoeddus newydd fynd rhagddi.

Mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael cymorth gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i gyflawni ei swyddogaethau statudol o dan y Ddeddf Galluedd Meddyliol a Deddf Gwarcheidiaeth (Unigolion Coll) 2017.

Mae cyfrifoldebau’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ymestyn ledled Cymru a Lloegr. Mae trefniadau ar wahân ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Gweinidogion y llywodraeth a oedd yn gyfrifol am Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ystod y cyfnod adrodd hwn yw:

  • y Dirprwy Brif Weinidog, y Gwir Anrhydeddus Dominic Raab, yr Arglwydd Ganghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder (o fis Medi 2021 ymlaen)

  • y Gwir Anrhydeddus Robert Buckland KC, - yr Arglwydd Ganghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder (tan fis Medi 2021)

  • Tom Pursglove AS, y Gweinidog dros Gyfiawnder a Mynd i’r Afael â Mewnfudo Anghyfreithlon (o fis Medi 2021 ymlaen)

  • Alex Chalk KC AS, yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder (tan fis Medi 2021)

Fel un o asiantaethau gweithredol y Weinyddiaeth Gyfiawnder, mae ein nodau’n cyd-fynd â chynllun cyflawni canlyniadau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Rydym yn gweithredu i ddarparu’r gwasanaethau gorau posibl i ddefnyddwyr, gan weithio’n effeithlon a gwella hygyrchedd.

Adborth gan gwsmer:

Y ffaith bod y ffurflen ar gael am ddim ar-lein yw’r peth gorau amdani. Mae fy nheulu a fy ffrindiau wrth eu boddau ein bod yn gallu gwneud hyn drosom ein hunain. Byddaf yn ddiolchgar am byth i’r bobl a wnaeth hyn yn bosibl. Diolch yn fawr. Dydw i ddim wedi gorfod defnyddio’r atwrneiaeth arhosol eto, ond rydw i’n cysgu’n well nawr ei bod ar waith.

Beth mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ei wneud?

Sefydlwyd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ym mis Hydref 2007. Rydym yn cefnogi ac yn galluogi pobl i gynllunio fel bod rhywun yn gofalu am eu hiechyd a’u materion ariannol os byddant yn colli galluedd. Rydym hefyd yn diogelu buddiannau pobl nad oes ganddynt y gallu meddyliol i wneud penderfyniadau penodol drostynt eu hunain.

Rydym yn gyfrifol am y canlynol:

  • cofrestru atwrneiaethau arhosol ac atwrneiaethau parhaus

  • goruchwylio dirprwyon a benodwyd gan y Llys Gwarchod

  • goruchwylio gwarcheidwaid a benodwyd gan yr Uchel Lys

  • cadw cofrestrau cyhoeddus o ddirprwyon, gwarcheidwaid, atwrneiaethau arhosol ac atwrneiaethau parhaus, ac ymateb i geisiadau i chwilio’r cofrestrau

  • ymchwilio i sylwadau, cwynion neu honiadau o gam-drin, a wnaed yn erbyn gwarcheidwaid, dirprwyon, ac atwrneiod sy’n gweithredu o dan bwerau cofrestredig

Ein cwsmeriaid a’n rhanddeiliaid

Rydym yn gwasanaethu nifer o fathau o gwsmeriaid a rhanddeiliaid, gan gynnwys y canlynol:

Rhoddwyr
Pobl sydd wedi gwneud atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus i warchod eu lles neu faterion ariannol os byddant yn colli galluedd yn y dyfodol

Atwrneiod
Pobl sydd wedi cael eu penodi gan roddwyr i reoli eu lles neu faterion ariannol os byddant yn colli galluedd yn y dyfodol

Cleientiaid (a elwir yn ‘P’)
Pobl sydd wedi colli galluedd ac y mae eu lles neu faterion ariannol yn destun achos gerbron y Llys Gwarchod

Dirprwyon
Unigolion lleyg neu broffesiynol neu awdurdodau (fel cyfreithwyr neu awdurdodau lleol) sydd wedi cael eu penodi gan y Llys Gwarchod i reoli lles neu faterion ariannol y cleient

Unigolion coll
Pobl sydd ar goll ac y mae eu materion yn cael eu rheoli gan warcheidwad a benodwyd gan yr Uchel Lys

Gwarcheidwaid
Unigolion sydd wedi cael eu penodi gan yr Uchel Lys i reoli eiddo a materion ariannol unigolyn sy’n absennol neu sydd ar goll

Rhanddeiliaid eraill
Perthnasau i gleient neu roddwr, meddygon teulu neu weithwyr iechyd proffesiynol eraill, elusennau, a’r sector cyfreithiol

Prif faterion, risgiau ac ansicrwydd

Gwelir y risgiau allweddol a wynebwyd gennym yn 2021 i 2022 yn yr adran Rheoli risg, rheolaeth a sicrwydd. Yn y cyd-destun hwn, rydym wedi parhau i gynnal ein busnes o ddydd i ddydd, ond rydym wedi gweld ôl-groniadau sylweddol o ran prosesu atwrneiaethau arhosol.

Y broblem fwyaf y gwnaethom ei wynebu eleni oedd effaith barhaus pandemig COVID-19 a’i effaith ar ein staff, ein gwasanaethau a’n cwsmeriaid.

Dadansoddi perfformiad

Mesur ein perfformiad

Yn ystod 2021 i 2022 fe wnaethom gynnal archwiliad o berfformiad mewnol sydd wedi rhoi golwg agosach i ni o ran lle gallwn wella sut rydym yn mesur ein perfformiad, gan sicrhau ei fod yn llywio gwasanaeth i gwsmeriaid yn glir ac yn ein helpu i gyflawni ein hamcanion strategol allweddol. Mae’r gwaith hwn wedi dechrau a bydd yn parhau yn 2022 i 2023. Rydym wedi gwella’r ffordd rydym yn adrodd ar berfformiad yn fewnol, er mwyn i ni ddarparu data clir a chywir. Defnyddir ein gwybodaeth perfformiad i lywio penderfyniadau busnes a chefnogi’r gwaith o gyflawni ein prif nodau ac amcanion.

Eleni, rydym wedi ymestyn yr ystod o ddata Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus rydym yn ei chyhoeddi’n allanol fel rhan o ystadegau chwarterol llysoedd teulu’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae hyn yn rhan o’n huchelgais i fod yn agored ac yn dryloyw gyda’n data ac i sicrhau ei fod ar gael i eraill ei ddefnyddio yn eu hymchwil.

Ar hyn o bryd rydym yn adolygu ein mesurau perfformiad a’n dangosyddion perfformiad allweddol er mwyn iddynt adlewyrchu’n well y gwaith sy’n cael ei wneud i gefnogi’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wrth gyflawni ei swyddogaethau statudol, ac er mwyn gwasanaethu ein cwsmeriaid yn well.

Sut rydym wedi perfformio ac effeithiau COVID-19

Mae perfformiad Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn erbyn ei thargedau dangosyddion gwasanaeth i gwsmeriaid wedi’i nodi isod, ynghyd â’r lefelau baich gwaith mwyaf arwyddocaol ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Mae rhagor o fanylion ynghylch yr ystod lawn o dargedau, perfformiad a sut cânt eu mesur wedi’u nodi yn yr atodiad ar berfformiad.

Mae heriau COVID-19, ein heriau wrth recriwtio digon o staff medrus, a chynnydd sylweddol yn y galw, wedi ei gwneud yn anodd i ni fodloni llawer o’n targedau perfformiad, fel yr amser a gymerir i gofrestru atwrneiaethau ac i ymateb i gwynion.

Drwy gydol y broses, rydym wedi canolbwyntio ar gynnal ein darpariaeth gwasanaeth a’r gwasanaeth gorau posibl i gwsmeriaid. Rydym wedi bod yn gweithio’n galed i wella ein gwasanaethau – o ran y ffordd y maent yn gweithredu a’r ffordd y mae pobl yn cael mynediad atynt.

Mae staff sy’n prosesu ceisiadau wedi gweithio yn y swyddfa drwy gydol y pandemig ac yn parhau i wneud hynny, ac mae ein swyddfa yn Birmingham yn gweithredu’n llawn ar hyn o bryd. Rydym wedi gorfod cofio bob amser bod ein cwsmeriaid yn gallu bod yn bobl agored i niwed, ac mae cyfrinachedd eu gwybodaeth yn eithriadol o bwysig. Mae parodrwydd yr asiantaeth i dderbyn risg wedi newid lle bo modd, er mwyn caniatáu i bobl weithio gartref mewn ffordd nad yw’n peryglu’r wybodaeth honno. Mae’r staff wedi bod yn hyblyg ac wedi addasu’n gyflym i ffyrdd newydd o weithio.

Mae COVID-19 wedi effeithio ar rannau eraill o Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus hefyd, ond i raddau llai. Mae ymweliadau wedi parhau – mewn gerddi neu mewn tai a chartrefi gofal pan oedd rheoliadau’r llywodraeth yn caniatáu hynny. Pan nad oedd modd i ni gynnal ymweliadau personol, fe wnaethom gynnal ymweliadau dros y we. Mae’r dull hyblyg hwn wedi lleihau’r effaith ar y gwaith goruchwylio ac ymchwilio.

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi cael trafferth recriwtio a chadw staff, sydd wedi ychwanegu at yr her o fynd i’r afael â’r ôl-groniad o geisiadau am atwrneiaethau arhosol.

Mae’r ymdrechion i leihau’r ôl-groniad o waith, yn enwedig mewn perthynas ag atwrneiaethau arhosol, yn parhau. Fodd bynnag, bydd y newidiadau rydym yn eu rhoi ar waith yn cryfhau ein sefyllfa yn y dyfodol. Cynhaliodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder ymgynghoriad ar foderneiddio atwrneiaethau arhosol yn 2021. Byddai moderneiddio atwrneiaethau arhosol yn diwallu anghenion y dyfodol, ac yn sicrhau ein bod yn fwy gwydn ac yn gallu delio ag unrhyw argyfwng tebyg. Bydd hefyd yn sicrhau bod cwsmeriaid yn gallu cael y pwerau sydd eu hangen arnynt pan fydd eu hangen arnynt ac yn gwella mesurau gwarchod rhag twyll, camdriniaeth a phwysau amhriodol.

Drwy gydol y flwyddyn, mae lles staff Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi bod yn flaenoriaeth – y rheini yn y swyddfa a’r rheini sy’n gweithio gartref. Yn yr amgylchiadau, rydym yn falch bod sgoriau ein harolwg staff wedi aros yn gadarnhaol – gyda’n mynegai ymgysylltu â staff wedi cynyddu 1% yn gyffredinol a gostyngiad o 1% yn y sgoriau bwlio ac aflonyddu.

Rydym yn falch o’r ffordd y mae staff Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi ymateb i heriau’r flwyddyn ddiwethaf, gan arloesi a gwneud eu gorau glas i wella ffyrdd o weithio. Roedd hyn yn sicrhau ein bod yn dal i allu darparu’r gwasanaethau statudol hanfodol sy’n effeithio ar gynifer o’n cwsmeriaid agored i niwed. Mae’r ôl-groniad o geisiadau am atwrneiaethau arhosol yn her sylweddol, ond rydym yn rhagweld y bydd yr amseroedd prosesu yn dechrau lleihau yn y dyfodol agos wrth i’r mesurau rydym wedi’u rhoi ar waith ddod i rym.

Dangosyddion perfformiad a llwyth gwaith

56,862
Ar 31 Mawrth 2022 roeddem yn goruchwylio 56,862 o orchmynion dirprwyaeth, sef gostyngiad o 915 o ddiwedd 2020 i 2021 (57,777)

.

975,557
Nifer y ceisiadau i gofrestru atwrneiaethau arhosol ac atwrneiaethau parhaus a dderbyniwyd yn ystod 2021 i 2022 oedd 975,557, cynnydd o 283,811 rhwng 2020 a 2021 (691,746)

.

6 miliwn
Daeth y flwyddyn i ben gyda dros 6 miliwn o atwrneiaethau cyfredol ar y gofrestr

.

Yn y cyd-destun hwn, rydym wedi cyflawni’r canlynol:

69 diwrn
Amser clirio gwirioneddol ar gyfartaledd ar gyfer ceisiadau am atwrneiaethau
Targed: 40 diwrnod
31 diwrnod
Amser cyfartalog i gael adroddiadau blynyddol
Targed: 40 diwrnod
10 diwrnod
Amser cyfartalog i adolygu adroddiadau blynyddol
Targed: 15 diwrnod
95%
% yr asesiadau risg diogelu a gynhaliwyd o fewn 2 ddiwrnod
Targed: 95%
80 diwrnod
Amser cyfartalog i gwblhau ymchwiliadau
Targed: 70 diwrnod
42%
% y galwadau a atebwyd o fewn 5 munud
Targed: 90%
67%
Arolwg bodlonrwydd cwsmeriaid % gyda gwasanaethau atwrneiaeth (bodlon iawn neu gweddol fodlon)
Targed: 80%
74%
Arolwg bodlonrwydd cwsmeriaid gyda gwasanaethau dirprwyaeth digidol (bodlon iawn neu gweddol fodlon)
Targed: 80%
91%
Arolwg bodlonrwydd cwsmeriaid gyd gwasanaethau digidol (bodlon iawn neu gweddol fodlon)
Targed: 80%
38%
% y cwynion yr ymatebwyd yn llawn iddynt o fewn y terfyn amser o 10 diwrnod
Targed: 90%

Atwrneiaethau

Mae atwrneiaeth yn caniatáu i unigolyn ddewis pwy fydd yn gwneud penderfyniadau ar ei ran – gan gynnwys mewn amgylchiadau pan na fydd yn gallu gwneud hynny mwyach. Mae cofrestru atwrneiaethau’n wasanaeth pwysig i’r cyhoedd. Felly, rydym yn ymdrechu i wella a datblygu ein gwasanaethau atwrneiaeth yn barhaus.

Y prif dargedau gwasanaeth cwsmeriaid yw:

  • cofrestru atwrneiaethau o fewn 40 diwrnod

  • ateb 90% o alwadau o fewn pum munud

  • ymateb i 90% o gwynion o fewn 10 diwrnod gwaith

Dyma’r prif heriau a wynebwyd gan y gwasanaethau atwrneiaeth yn 2021 i 2022:

  • parhau i ddarparu gwasanaethau er gwaethaf effeithiau COVID-19 a’r cynnydd yn nifer y ceisiadau am atwrneiaethau arhosol, sydd wedi golygu ein bod wedi newid y ffordd rydym yn gweithredu: rydym wedi adolygu ein prosesau, wedi blaenoriaethu gwaith pwysig ac wedi sicrhau bod llesiant ein staff yn flaenoriaeth

  • cadw staff, gyda bron gymaint o staff yn gadael Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ag ymunodd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf: mae marchnad swyddi gystadleuol iawn yn Birmingham a Nottingham ac, yn ddiweddar, mae mwy o adrannau’r llywodraeth wedi symud i’r ardaloedd hyn gan greu mwy o swyddi yn y Gwasanaeth Sifil – rydym wedi recriwtio a hyfforddi dros 240 o staff newydd i brosesu atwrneiaethau arhosol. Rydym hefyd yn cynnal arolygon gadael i ganfod y rhesymau pam mae staff yn dewis gadael ac yn defnyddio’r wybodaeth honno i ystyried sut gellid gwella pethau o ran cadw staff

Gwelliannau i’r gwasanaethau

Wrth i ni ddarparu ein busnes o ddydd i ddydd, rydym wedi parhau i ystyried sut gallwn wella ein gwasanaethau i’n defnyddwyr. Dyma rai o’r gwelliannau rydym wedi’u gwneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

  • Rydym wedi ehangu ein gwasanaeth cofrestr gyflym (a sefydlwyd yn wreiddiol i helpu gweithwyr proffesiynol y gwasanaeth iechyd ar ddechrau COVID-19). Mae cydweithwyr o grwpiau rhanddeiliaid ehangach, gan gynnwys banciau ac awdurdodau lleol, yn gallu gofyn i ni chwilio ein cofrestr am bryderon brys am rywun a allai fod ag atwrneiaeth arhosol neu ddirprwyaeth yn ei lle.

  • Rydym wedi trawsnewid ein proses o dalu am atwrneiaeth arhosol â cherdyn, sydd wedi lleihau’n sylweddol y prosesau llaw a oedd yn rhan o’r broses, ac wedi disodli’r rhain ag ateb digidol. Mae’r broses newydd yn caniatáu i geisiadau am dalu gyda cherdyn gael eu sganio ar ein system o fewn dyddiau i’w derbyn a chyn i’r taliad gael ei wneud, sy’n caniatáu i gydweithwyr yn y ganolfan gyswllt weld yr atwrneiaeth arhosol yn gynt. Mae hyn, yn ei dro, yn cefnogi gwell gwasanaeth i gwsmeriaid o ran cynnydd a statws eu ceisiadau am Atwrneiaeth Arhosol.

  • Rydym wedi adolygu canllawiau ar dwyll ac ymwybyddiaeth o hynny ar gyfer yr holl staff. Mae hyn wedi arwain at ganllawiau gwaith achos wedi’u diweddaru, cyflwyno un pwynt cyswllt ynghylch twyll i frysbennu pryderon, a hyfforddiant pwrpasol ychwanegol ar gyfer holl staff y ganolfan gyswllt. Bydd hyn yn gwella’r cyfleusterau ar gyfer ein staff er mwyn sicrhau bod pryderon cwsmeriaid yn cael sylw priodol a phrydlon.

  • Mae trefniadau gweithio o bell y ganolfan gyswllt wedi bod yn ddolen hollbwysig i’r cwsmer a Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ystod y 18 mis diwethaf gan sicrhau ein bod yn dal i allu cynnig gwasanaeth i’n cwsmeriaid.

  • Rydym wedi defnyddio cynlluniau gweithredu misol i sicrhau bod adborth o arolygon o fodlonrwydd cwsmeriaid a chwynion yn annog y busnes i wella’n barhaus.

  • Rydym wedi sicrhau cyllid doethuriaeth pedair blynedd mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerlŷr i gefnogi gwaith ar ddeall y rhwystrau rhag defnyddio atwrneiaethau arhosol o fewn grwpiau lleiafrifoedd ethnig a grwpiau cymdeithasol-economaidd isel.

Dyma rai o’r camau rydym yn gobeithio eu cymryd y flwyddyn nesaf i wella ein gwasanaethau.

  • Rydym yn gweithio mor galed â phosibl i leihau’r ôl-groniad presennol ar gyfer cofrestru. Mae cynnydd ar hyn yn dibynnu ar y gallu i recriwtio a chadw staff.

  • Rydym wedi dechrau ar brosiect i ystyried uwchraddio’r system ffôn, a ddylai wella cysylltedd a gwybodaeth reoli, yn ogystal â chefnogi’r broses o ddyrannu adnoddau’n ddeinamig. Bydd y system ffôn newydd hon yn unol ag adrannau eraill y llywodraeth a dylai gefnogi gweithio ar draws adrannau.

Goruchwyliaeth

Roedd y baich achosion goruchwylio yn 56,862 o orchmynion dirprwyaeth yn 2021 i 2022 o’i gymharu â 57,777 yn 2020 i 2021. Mae perfformiad rhagorol drwy gydol y flwyddyn wedi golygu bod modd bodloni ein holl ddangosyddion perfformiad.

Eleni, cafodd 56% o adroddiadau blynyddol eu cyflwyno’n ddigidol, o’i gymharu â 54% yn 2020 i 2021.

Goruchwyliaeth yw’r unig ran o Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus sy’n dal i fod angen gwasanaeth ffôn nad oes modd ei ddefnyddio wrth weithio gartref. Mae’r anhyblygrwydd hwn wedi bod yn un o’r prif heriau y mae’r tîm wedi eu hwynebu. Cafodd effaith negyddol ar ein gwasanaeth i gwsmeriaid yn ystod cyfyngiadau COVID-19, gan na allai cwsmeriaid ffonio eu rheolwr achos yn uniongyrchol. Er mwyn lliniaru hyn, a sicrhau bod ein dirprwyon yn dal i allu siarad â’u rheolwr achos, cyflwynwyd gwasanaeth ffonio’n ôl. Roedd hyn yn golygu bod rhywun yn ffonio’r dirprwyon yn ôl a’u bod yn dal i allu cael gafael ar y cymorth a oedd ei angen.

Un o’n prif lwyddiannau eleni fu symud pob achos goruchwylio o hen system gwaith achos i un newydd. Rydym yn parhau i wella’r system newydd i sicrhau bod yr holl swyddogaethau angenrheidiol ar waith, ond mae hwn yn llwyddiant allweddol i’w ddatblygu yn y flwyddyn i ddod.

Gwelliannau i’r gwasanaethau

Dyma rai o’r prif welliannau a newidiadau rydym wedi’u gwneud eleni.

  • Rhoddwyd sylw i sawl mater polisi, gan gynnwys dyledion, diffyg cydymffurfio, gorchmynion heb eu selio, a derbynyddiaethau. Ym mhob achos, cyflawnwyd y rhain drwy gryn dipyn o gydweithredu rhwng gwahanol dimau yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, gyda’r nod o gynnig gwell gwasanaeth i gwsmeriaid.

  • Gwnaed cynnydd pellach ar welliannau i safonau i ddirprwyon, y panel, a’n prosesau sicrwydd.

  • Mabwysiadodd y timau goruchwylio arferion gweithio hyblyg a thechnoleg o bell pan nad oedd yn bosibl gweithio yn y swyddfa. Ar ben hynny, fe wnaethom drefnu amrywiaeth o weithgareddau i sicrhau bod cydweithwyr yn cadw mewn cysylltiad â’i gilydd, gan gynnal undod y tîm a rhoi hwb i forâl.

  • Yn ystod gwanwyn 2021, cytunwyd ar y Polisi Diffyg Cydymffurfio a chafodd ei roi ar waith. Gellir uwchgyfeirio achosion o ddiffyg cydymffurfio’n gynt, sy’n helpu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i adennill rhywfaint o ddyled broffesiynol hanesyddol. Bydd y polisi hwn yn helpu i sicrhau bod materion a phryderon yn cael eu datrys yn gyflym, ac mae’n ffordd ragweithiol o amddiffyn cwsmeriaid agored i niwed.

Mae’r gwelliannau a’r newidiadau hyn wedi sicrhau bod rheolwyr achosion wedi parhau i oruchwylio dirprwyon yn effeithiol er budd gorau ein cleientiaid.

Dyma rai o’r camau rydym yn bwriadu eu cymryd ar gyfer ein gwasanaethau y flwyddyn nesaf:

  • bilio blynyddol – ein nod yw cyflwyno biliau blynyddol ar gyfer ffioedd goruchwylio o fis Ebrill 2023 ymlaen. Bydd hyn o fudd mawr i’n cwsmeriaid a bydd yn gwella effeithlonrwydd ein busnes

  • diwylliant goruchwylio prosiectau - byddwn yn parhau i weithio ar ein diwylliant yn ein proses oruchwylio, gan sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar ddiogelu a rhoi’r gefnogaeth briodol i ddirprwyon

Adborth gan gwsmer:

Roeddem wedi cysylltu ynghylch y broses o gael dirprwyaeth i warchod buddiannau ariannol a materol ein brawd. Roeddem yn nerfus iawn am y broses frawychus ond deliwyd â phob cam a chyswllt mewn modd proffesiynol a chwrtais. Roedd yn broses gwbl ddidrafferth.

Cynllun Ad-dalu’r Weinyddiaeth Gyfiawnder

Mae’r Cynllun Ad-daliadau hanesyddol o dan arweiniad y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar gyfer atwrneiaethau bellach yn y bedwaredd flwyddyn o ymgyrch chwe blynedd. Trwy weinyddu’r cynllun yn effeithlon, derbyniodd 6017 o gwsmeriaid £457,749.85 mewn ad-daliadau.

Rydym hefyd yn parhau i weinyddu’r cynllun i ad-dalu ffioedd dirprwyaeth a gwarcheidiaeth a oedd wedi cael eu gordalu. Roedd hyn yn golygu bod cwsmeriaid yn cael £4617.37 o ad-daliadau eleni.

Unigolion coll

Rydym nawr yn goruchwylio chwe gorchymyn gwarcheidiaeth, a ninnau wedi goruchwylio pump yn 2020 i 2021. Efallai bod y niferoedd yn fach, ond mae’r gwaith hanfodol hwn yn helpu teuluoedd sydd ag anwyliaid ar goll yn ystod cyfnod trawmatig.

Ymchwiliadau

Mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi’i awdurdodi i ymchwilio i honiadau o gam-drin gan ddirprwyon ac atwrneiod a benodwyd gan y llys sy’n gweithredu o dan atwrneiaeth arhosol neu orchymyn llys. Byddwn yn cynnal ymchwiliad os oes sail i awgrymu nad yw buddiannau gorau’r unigolyn sydd mewn perygl yn cael eu diwallu.

Yn gyffredinol, cynyddodd ymchwiliadau o 2,089 yn 2020 i 2021 i 2464 yn 2021 i 2022. Roedd COVID-19 wedi effeithio’n fawr ar dargedau ymchwiliadau. Mae ymchwiliadau’n dibynnu nid yn unig ar Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ond ar wybodaeth gan drydydd partïon eraill (fel gwybodaeth ariannol, ac adroddiadau gan weithwyr proffesiynol meddygol ac ati) hefyd. Mae COVID-19 wedi effeithio ar ein rhanddeiliaid allweddol eu hunain, gan arwain yn aml at oedi wrth ddarparu’r wybodaeth hon. Rydym yn gweithio’n agos gyda’r rhanddeiliaid hyn i wella llif gwybodaeth.

Mae adroddiadau’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn crynhoi ymchwiliad ac yn darparu camau gweithredu a argymhellir. Mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cytuno ar y rhain, neu’r rheini yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus sydd â phwerau dirprwyedig i gymeradwyo’r adroddiadau. 70 diwrnod yw terfyn amser Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar gyfer cymeradwyo adroddiad ar ôl derbyn pryder. Nid oeddem wedi gallu cyrraedd y targed hwnnw – ar ddiwedd 2021 i 2022 roedd hyn yn 80 diwrnod. Roedd hyn oherwydd absenoldebau staff, problemau recriwtio digon o staff, oedi wrth gael gwybodaeth gan drydydd partïon a chyfyngiadau COVID-19 a oedd yn golygu nad oedd modd cynnal rhai o’r ymweliadau a oedd yn angenrheidiol fel rhan o’r ymchwiliad.

Fe wnaethom gau 2,411 o ymchwiliadau yn 2021 i 2022 o’i gymharu â 2,073 yn 2020 i 2021 ac mae gennym 702 o ymchwiliadau gweithredol (achosion agored) o’i gymharu â 680 o achosion agored ddiwedd 2020 i 2021.

Arweiniodd 19% o’r ymchwiliadau at gamau gan y Llys Gwarchod eleni. Yn y rhan fwyaf o achosion, naill ai nid oedd angen cymryd unrhyw gamau (72%) neu roeddem yn defnyddio ‘mesurau ychwanegol’ yn hytrach nag achos llys (9%). Mae’r rhain yn cael eu defnyddio i ddatrys unrhyw broblemau ac i roi’r atwrneiaeth neu’r ddirprwyaeth yn ôl ar y trywydd iawn.

Gall ymchwilydd wneud argymhelliad sy’n golygu bod gofyn gwneud cais i’r llys. Yn yr achos hwn, mae ein tîm ymchwilio a’n tîm cyfreithiol yn cydweithio’n agos i fwrw ymlaen â hyn cyn gynted â phosibl.

Rydym yn anelu at ddechrau achos llys o fewn 35 diwrnod. Ar gyfartaledd, 78 diwrnod oedd yr amser a gymerwyd eleni ond roedd hynny wedi gwella’n sylweddol yn ystod y flwyddyn (40 diwrnod ym mis Mawrth 2022 o’i gymharu â 145 diwrnod ym mis Ebrill 2021). Rydym wedi gweithio’n agos gyda’r Llys Gwarchod i reoli effaith COVID-19 gan gynnwys rhith-wrandawiadau a rheolau a newid ein prosesau.

Mae’r tîm ymchwilio a’r tîm cyfreithiol wedi bod yn cynnal cynllun peilot i ganfod yr amser gorau i gael cyngor cyfreithiol ar ymchwiliad. Roedd yr ymgynghori’n digwydd fel mater o drefn yn hwyr yn y broses, ond mae’r cynllun peilot hwn wedi dangos gwerth ymgysylltu â’r tîm cyfreithiol yn gynharach o lawer. Dylai hyn helpu i sicrhau’r canlyniad gorau posibl ar gyfer yr ymchwiliad ac ar gyfer pawb sy’n gysylltiedig.

Gwelliannau i’r gwasanaethau

Bu i ni gyflwyno llawer o ddatblygiadau arloesol a newidiadau i brosesau eleni. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • adolygiad mewnol o’r broses bresennol i sicrhau bod arbedion effeithlonrwydd yn cael eu gwireddu a’n bod yn diogelu’r maes ymchwiliadau at y dyfodol

  • mae gweithio’n agosach gyda’r tîm cyfreithiol wedi sicrhau bod achosion ymchwilio yn cyd-fynd â’r meini prawf ar gyfer cais llys, sydd wedi bod yn ffocws i’r timau cyfreithiol ac ymchwiliadau er mwyn atal oedi

Enghraifft o achos a aeth i’r llys

Roedd sefydliad ariannol wedi codi pryderon gyda Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, yn honni nad oedd arian y rhoddwr yn cael ei ddefnyddio er ei fudd pennaf.

Lansiwyd ymchwiliad. Cysylltwyd â’r sawl a oedd wedi codi pryder i gael gwybodaeth ychwanegol a threfnwyd i ymweld â’r rhoddwr, er mwyn canfod beth oedd ei allu meddyliol.

Cyfarfu’r ymwelydd cyffredinol â’r rhoddwr a daeth i’r casgliad nad oedd ganddo’r gallu angenrheidiol. Roedd hyn yn golygu na allai ddiddymu ei atwrneiaeth arhosol bresennol, gwneud un newydd, delio â’r pryderon na rheoli ei sefyllfa ariannol. Nid oedd gan yr ymwelydd unrhyw bryderon ynghylch iechyd a lles cyffredinol y rhoddwr.

Yn dilyn dadansoddi sefyllfa ariannol y rhoddwr, roedd dros £146,000 o drafodion yn peri pryder. Cyfaddefodd Atwrnai Un ei fod wedi defnyddio arian y rhoddwr er ei fudd ei hun, ond ni roddwyd gwybodaeth benodol am y trafodion hyn i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Gofynnodd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i Atwrnai Un egluro sut roedd wedi ymdrin â materion ariannol y rhoddwr. Methodd â gwneud hynny.

Cadarnhaodd Atwrnai Dau nad yw’n gweithredu yng nghyswllt arian y rhoddwr.

O ystyried canlyniad y dadansoddiad ariannol a’r diffyg ymateb gan Atwrnai Un, i ddechrau, gofynnodd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i’r Llys Gwarchod orchymyn iddo ddarparu adroddiad llawn o’i weithredoedd. Ni ddarparodd Atwrnai Un yr adroddiad hwn.

Yna gofynnodd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i’r Llys ofyn am ddiddymu penodiad Atwrnai Un ond awgrymwyd y gallai penodiad Atwrnai Dau barhau. Fodd bynnag, nid oedd Atwrnai Dau yn cytuno i adennill yr arian a gamddefnyddiwyd. O ganlyniad, cafodd penodiad Atwrnai Dau ei ddiddymu gan nad oedd hyn er budd pennaf y rhoddwr. Gan nad oedd unrhyw atwrneiod yn weddill, penododd y llys ddirprwy i’r panel i weithredu ar ran y cleient.

Enghraifft o achos lle nad oedd angen cymryd camau pellach

Cododd yr awdurdod lleol bryderon bod yr atwrneiod yn camreoli sefyllfa ariannol y rhoddwr. Roedd rhywun arall, a oedd yn dymuno aros yn ddienw, yn bryderus ac wedi tynnu eu sylw at y sefyllfa. Roedd rhywun arall, a oedd hefyd yn dymuno aros yn ddienw, wedi mynegi’r un pryderon.

Cynhaliwyd dadansoddiad o eiddo ac arian helaeth y rhoddwr, a holwyd yr atwrneiod am y pryderon a godwyd. Mae arian personol y rhoddwr mewn cyfrif ar y cyd y mae’n ei rannu gyda’i wraig, sy’n rhoddwr ar atwrneiaeth arhosol ar wahân ac y tybir bod ganddi alluedd. Nid yw hi wedi codi unrhyw bryderon ynghylch sut mae eu harian yn cael ei reoli.

Yr unig dystiolaeth o alluedd sydd ar gael yn yr achos hwn yw asesiad gan yr ymwelydd ar 10 Medi 2021. Aseswyd nad oedd gan y rhoddwr alluedd i ddiddymu ei atwrneiaeth arhosol, i greu atwrneiaeth arhosol newydd, i reoli ei sefyllfa ariannol nac i ddelio â’r pryderon a godwyd.

Mae’r atwrneiod wedi bod yn agored am sefyllfa’r rhoddwr ac maent yn amlwg yn gweithredu er ei fudd pennaf wrth reoli ei sefyllfa ariannol. Maent yn clirio ei ddyledion yn ogystal â rheoli’r gwaith beunyddiol o redeg ei fuddiannau busnes sylweddol (portffolio eiddo). Mae hyn yn cynnwys setlo unrhyw rwymedigaethau treth hanesyddol ar incwm y rhoddwr sydd heb ei ddatgan a sicrhau bod ei fuddiannau busnes yn cydymffurfio’n gyfreithiol ac yn effeithlon o ran treth drwy greu cwmnïau cyfyngedig i gynnal materion busnes y rhoddwr.

Ni welwyd unrhyw dystiolaeth bod yr atwrneiod yn camreoli sefyllfa ariannol y rhoddwr ac ni chymerodd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus unrhyw gamau pellach.

Ymweliadau

Rydym yn gweithio gyda’n hymwelwyr ac ymwelwyr y Llys Gwarchod i ymweld â rhoddwyr, cleientiaid, atwrneiod a dirprwyon. Mae ymweliadau’n caniatáu i ni wneud y canlynol:

  • helpu i sicrhau bod pobl yn deall ac yn cyflawni eu dyletswyddau’n effeithiol

  • sicrhau bod y rhai sydd angen cymorth yn ei dderbyn

  • gofyn am wybodaeth fel rhan o ymchwiliadau

Rydym yn parhau i gynnal ymweliadau, gan ddefnyddio’r broses ymweliadau rhithiol a gyflwynwyd ar ddechrau’r pandemig. Roedd hyn yn ein galluogi i barhau â’r broses ymchwilio drwy gydol y gwahanol gyfyngiadau a gyflwynwyd gan y llywodraeth o ganlyniad i COVID-19. Gan fod y cyfyngiadau cadw pellter cymdeithasol wedi cael eu lleihau, rydym wedi bod yn cynnal mwy o ymweliadau wyneb yn wyneb.

Fe wnaethom gynnal ymgyrch recriwtio ar gyfer ymwelwyr er mwyn sicrhau bod gennym ddigon o ymwelwyr i ddelio â’r llwyth gwaith ac i hwyluso’r cyrhaeddiad yr oedd ei angen arnom ledled y wlad. Mae 23 o ymwelwyr cyffredinol newydd y Llys Gwarchod wedi cael eu penodi ac mae chwech wedi cael eu hailbenodi ar ein panel ymwelwyr.

Yn 2021 i 2022 roeddem wedi gwneud y canlynol:

  • dyrannu 99.9% o gomisiynau ymweliadau safonol o fewn pum diwrnod gwaith

  • dyrannu 99% o gomisiynau ymweliadau brys o fewn dau ddiwrnod gwaith

Diogelu

Rydym wedi canolbwyntio’n bennaf ar weithio gyda’n partneriaid diogelu, yn benodol awdurdodau lleol a’r Rwydwaith Prif Weithwyr Cymdeithasol. Mae hyn yn ein helpu i sicrhau bod pob pryder yn cael ei drin yn effeithlon, ac rydym yn rhoi arweiniad i’r ymholiadau hynny nad ydynt o bosibl yn dod o dan ein hawdurdodaeth uniongyrchol.

Yn 2021 i 2022 roeddem wedi gwneud y canlynol:

  • cwblhau 95% o asesiadau risg ynghylch unrhyw bryderon diogelu o fewn dau ddiwrnod gwaith

  • brysbennu 98% o bryderon o fewn pum niwrnod gwaith

Rydym wedi bod yn parhau i wella prosesau ymgysylltu â rhanddeiliaid allanol, er mwyn eu helpu i ddeall rôl Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn well o ran diogelu oedolion agored i niwed. Rydym wedi rhoi cyflwyniadau, mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, i godi ymwybyddiaeth o Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac i annog gweithio agosach. Credwn y bydd hyn yn gwella’r wybodaeth a roddir i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus pan fydd awdurdodau lleol yn codi pryderon. Yn ogystal â rhoi cyflwyniadau i dimau unigol, maent wedi cael eu rhoi ar ffurf gweminarau hefyd, sydd wedi cynnwys mynychwyr o’r GIG a lluoedd heddlu.

Cwynion

Rydym yn rheoli cwynion cwsmeriaid drwy broses gwyno haenog. Y maes busnes sy’n gyfrifol sy’n delio â chwynion i ddechrau, sef yr ‘haen gyntaf’. Os yw cwsmer yn anfodlon â’r ymateb, gellir uwchgyfeirio’r gŵyn i’r tîm cwynion ‘ail haen’. Ar y cam hwn, bydd y gŵyn, a’r ffordd y caiff ei thrin, yn cael ei hadolygu gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus neu aelod o’r uwch dîm arwain ar ei ran.

Os bydd y cwsmer yn dal i fod yn anfodlon, gall ofyn i’w Aelod Seneddol gyfeirio ei gŵyn at yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd er mwyn cynnal adolygiad annibynnol.

Cyfeiriwyd pedwar achos at yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd eleni a dychwelwyd un atom heb ei gadarnhau.

Rydym wedi parhau i wynebu heriau wrth ddelio â chwynion. Mae COVID-19 ac amryw o ffactorau eraill wedi cael effaith ddifrifol ar yr amser a gymerir i brosesu atwrneiaethau arhosol, sy’n golygu ein bod wedi cael mwy o gwynion eleni. Mae’r cynnydd hwn yn y llwyth gwaith, ynghyd â phroblemau ag adnoddau, wedi golygu nad ydym wedi gallu cyrraedd ein targed.

Dim ond i 38% o’r cwynion y bu modd i ni ymateb o fewn 10 diwrnod, er gwaethaf ein targed o 90%.

Cawsom 204 darn o ohebiaeth gan Aelodau Seneddol eleni, o’i gymharu â 61 yn 2020 i 2021.

Rydym yn paratoi diweddariadau chwarterol ar gwynion a thueddiadau o ran arolygon cwsmeriaid. Cyflwynir y data hwn i swyddogion gweithredol a meysydd gweithredol er mwyn sicrhau gwelliannau. Mae cynlluniau gweithredu wedi cael eu sefydlu a’u rhannu â thimau, er mwyn cofnodi problemau parhaus a’r gwaith sy’n cael ei wneud i fynd i’r afael â’r rhain. Rydym eisoes wedi cwblhau sawl pwynt gweithredu ac mae gwaith yn mynd rhagddo mewn meysydd eraill.

Gwelliannau i’r gwasanaethau

  • Mae llythyrau cydnabod yn cael eu hanfon fel bod cwsmeriaid yn ymwybodol ein bod wedi derbyn eu cwyn. Er ein bod yn ceisio ymateb o fewn 10 diwrnod gwaith, rydym yn wynebu oedi ar hyn o bryd. Y nod yw gwella’r gwasanaeth y mae cwsmeriaid yn ei dderbyn a lleihau’r angen am ohebiaeth ddilynol.
  • Mae cyfarfodydd canolfan gyswllt a haen 1 yn cael eu cynnal i drafod materion a syniadau i wella cyfathrebu a gwasanaeth i gwsmeriaid.
  • Mae cyfarfodydd dal i fyny rheolaidd wedi cael eu trefnu â’r tîm cwynion haen 2 hefyd i drafod arferion gorau.

Yn 2022 i 2023 rydym am geisio gwneud y canlynol:

  • cynyddu’r adnoddau yn nhîm cwynion haen 1 gwasanaethau atwrneiaeth sy’n golygu bod modd cyrraedd targedau a gwella ansawdd
  • lansio adroddiad cwynion newydd a fyddai’n rhoi rhagor o fanylion am dueddiadau a materion sy’n codi mewn cwynion
  • gweithio’n agosach gyda’r Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd – gwella cyfathrebu drwy sgyrsiau rheolaidd a sgyrsiau wyneb yn wyneb am achosion penodol
  • gweithio ar y cyd ag asiantaethau eraill y Weinyddiaeth Gyfiawnder – sgyrsiau chwarterol ag arweinwyr cwynion yn asiantaethau eraill y Weinyddiaeth Gyfiawnder i rannu arferion gorau a gwella cysondeb o ran delio â chwynion

Enghraifft o gŵyn a sut gwnaethom ddelio â hi

Ysgrifennodd cwsmer at Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i gwyno ein bod wedi gwrthod eu gwaith papur atwrneiaeth arhosol ac am yr oedi yn ein proses. Canfu ymchwiliad fod yr atwrneiaeth arhosol wedi cael ei gwrthod oherwydd bod dyddiad llofnodi wedi cael ei newid ar y ddogfen, ond nid oedd llythrennau cyntaf wedi cael eu rhoi wrth y newid.

Er ei bod yn bosibl ailgyflwyno’r adran o’r atwrneiaeth arhosol yr effeithiwyd arni ar ei phen ei hun, gofynnodd y cwsmer i’r ddogfen gael ei dychwelyd er mwyn iddynt ychwanegu’r llythrennau cyntaf. Mae ein canllawiau’n nodi na ellir diwygio atwrneiaethau arhosol fel hyn, a dywedodd y gweithiwr achos wrth y cwsmer nad oedd hyn yn bosibl. Gofynnodd y gweithiwr achos iddynt ailgyflwyno’r adran. Fodd bynnag, ni chafodd ei derbyn mewn pryd i gwblhau’r cofrestriad. Yna, dychwelwyd yr atwrneiaeth arhosol i’r cwsmer heb ei chofrestru.

Roedd y cwsmer yn anfodlon gyda’r canlyniad hwn, yr oedi, a’n hymateb i’r gŵyn gyntaf. Uwchgyfeiriwyd y gŵyn i haen 2 er mwyn ailystyried y penderfyniad i beidio â chofrestru’r atwrneiaeth arhosol.

Gofynnodd y tîm Cwynion am gyngor gan y tîm Cyfreithiol, am yr opsiynau oedd ar gael i’r cwsmer a sut gallem eu cefnogi. Dywedodd y tîm Cyfreithiol, er bod y dyddiad wedi’i ddiwygio, ei fod yn glir ac felly na ddylid fod wedi ei gwestiynu.

Fe wnaethom ysgrifennu at y cwsmer i ymddiheuro a chadarnhau y gellid derbyn yr atwrneiaeth arhosol nawr. Gofynnom iddo ddychwelyd yr atwrneiaeth arhosol, a gwnaeth hynny, ac fe’i cofrestrwyd ar unwaith.

Ar ôl delio â’r gŵyn, rhoddodd y tîm adborth i’r timau gwaith achos. Roedd hyn yn sicrhau eu bod yn deall y canllawiau ar lofnodi a’r dyddiadau ar atwrneiaethau arhosol. Bydd hyn yn helpu i osgoi gwneud penderfyniadau anghywir yn y dyfodol.

5,521
Derbyniodd yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o gwynion o’i gymharu â 4,146 yn 2020 i 2021
38%
Canran y cwynion yr ymatebwyd iddynt o fewn 10 diwrnod
Targed: 90%
20 diwrnod
Yr amser cyfartalog a gymerwyd i ymateb i gwynion oedd
Targed: 10 diwrnod
4,477
o gwynion am atwrneiaethau
291
o gwynion am ddirprwyaethau

Y tri phrif gŵyn am atwrneiaethau yw:

  • oedi wrth gofrestru atwrneiaethau
  • dogfennau ar goll
  • cyswllt â’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus – mae hyn yn cynnwys y cynnwys yn ein llythyrau, a sut a phryd byddwn yn cysylltu â chwsmeriaid

Y tri phrif gŵyn am oruchwyliaeth yw:

  • yn ymwneud â ffioedd
  • yn ymwneud â dirprwyon
  • cyswllt â’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus – mae hyn yn cynnwys y cynnwys yn ein llythyrau, a sut a phryd byddwn yn cysylltu â chwsmeriaid

Ein pobl

Pobl a diwylliant

Rydym wedi rhoi amrywiaeth o fesurau ar waith i gefnogi lles ein gweithwyr eleni.

Un o’n prif lwyddiannau oedd lansio Addewid i Bobl Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Cyfrannodd staff ar draws Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus at ddatblygu’r Addewid i Bobl, sy’n ceisio sicrhau bod y Swyddfa’n darparu amgylchedd cefnogol sy’n caniatáu i staff allu darparu gwasanaethau eithriadol. Y themâu allweddol yw perthyn, arweinwyr gwych ar bob lefel, teimlo’n dda, datblygu ein hunain, ac addas ar gyfer y dyfodol. Byddwn yn parhau i gyflawni’r Addewid i Bobl yn 2022 i 2023.

Mae’r camau eraill rydym wedi’u cymryd eleni i gefnogi lles staff yn cynnwys:

  • rhannu negeseuon, cefnogaeth a gweithgareddau lles allweddol gan gynnwys datblygu mwy o sesiynau ‘dewch i drafod’
  • darparu amrywiaeth o wybodaeth, offer a chymorth lles i helpu ein pobl i deimlo’n dda, i fod ar eu gorau, ac i ffynnu yn y gwaith
  • gwrando ar anghenion ein cydweithwyr ar draws y busnes a sicrhau ein bod yn cydweithio

Rydym wedi parhau i ganolbwyntio ar ddod yn sefydliad gwirioneddol gynhwysol ac amrywiol ar bob lefel, gan sicrhau bod ein gweithlu’n cynrychioli’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae sgoriau cynhwysiant a thriniaeth deg yn dal yn uchel ar 77% yn Arolwg Pobl 2021 Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Eleni, rydym wedi:

  • dadansoddi canlyniadau’r Arolwg Pobl i ddatblygu camau gweithredu ar draws y sefydliad sy’n canolbwyntio ar wella cynhwysiant
  • gweithredu paneli amrywiol ar gyfer recriwtio
  • cyflwyno sesiynau ‘dewch i drafod hil’ ar draws y busnes
  • cynyddu amrywiaeth gweithlu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus drwy ddarparu rhaglenni Bridges a Reach
  • datblygu dangosfwrdd amrywiaeth, a fydd yn darparu sylfaen dystiolaeth ar gyfer trafodaethau am amrywiaeth a chynhwysiant

Mae gennym agwedd dim goddefgarwch tuag at fwlio, aflonyddu a gwahaniaethu – felly rydym yn falch o weld bod y sgoriau hyn wedi gostwng 1% eto yn Arolwg Pobl 2021.

2021

Cynhwysiant a theg triniaeth : 77%

Bwlio ac aflonyddu Profi (y nifer a ddywedodd eu bod wedi profi): 8%

bod wedi profi gwahaniaethu : 10%

Camau a gymerwyd:

  • adolygiad llawn o gynghorwyr ‘confi de’ ac ymgynghorwyr cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wedi’i gwblhau, ac argymhellion wedi’u cyflwyno i’r Pwyllgor Pobl i gryfhau a hybu cefnogaeth
  • mae gwaith yn cael ei wneud gyda Rhwydwaith Gallu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i adolygu lefelau uchel o fwlio, aflonyddu a gwahaniaethu a adroddir gan bobl ag anableddau yn adroddiad Grŵp Gweithredu Anabledd y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ac mae adolygiad o brosesau addasu’r gweithle wedi cael ei ymgorffori yn Addewid i Bobl y Swyddfa
  • Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi dechrau hyrwyddo ac ymgorffori ymdeimlad o berthyn yn y ffordd rydym yn ymgysylltu â staff ac yn eu grymuso
  • mae canllawiau sgwrsio i reolwyr a phecyn fideo wedi cael eu rhyddhau i gefnogi sgyrsiau cadarnhaol ac adeiladol am les

2020

Cynhwysiant a theg triniaeth : 77%

Bwlio ac aflonyddu Profi (y nifer a ddywedodd eu bod wedi profi): 9%

bod wedi profi gwahaniaethu : 12%

Camau a gymerwyd:

  • Fideo gwrth-fwlio, aflonyddu a gwahaniaethu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus sy’n edrych ar ymddygiad digroeso
  • lansio Rhwydwaith Ymgynghorwyr Confi de
  • adolygiad a dadansoddiad o’r bylchau yn nisgwyliadau’r Gwasanaeth Sifil o ran cynhwysiant

2019

Cynhwysiant a theg triniaeth : 74%

Bwlio ac aflonyddu Profi (y nifer a ddywedodd eu bod wedi profi): 20%

bod wedi profi gwahaniaethu : 17%

Camau a gymerwyd:

  • Ymgyrch cyfathrebu cynhwysiant mewnol arobryn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
  • Fideo cynhwysiant Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus – ystyried yr hyn mae cynhwysiant yn ei olygu i’n pobl
  • grwpiau ffocws ar gynhwysiant staff
  • cyflwyno sesiynau ar barch at ein gilydd
  • dathliad blynyddol o Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant
  • ymgyrch cyfathrebu mewnol i gynyddu’r datganiad ar amrywiaeth staff

2018

Cynhwysiant a theg triniaeth : 69%

Bwlio ac aflonyddu Profi (y nifer a ddywedodd eu bod wedi profi):17%

bod wedi profi gwahaniaethu : 21%

Camau a gymerwyd:

  • uwchgynadleddau Cynhwysiant Misol y Dirprwy Gyfarwyddwr 2018
  • lansio Ymgynghorwyr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
  • datblygu cwrs e-ddysgu gorfodol ar ymwybyddiaeth o fwlio, aflonyddu a gwahaniaethu
  • lansio proses ganolog ar gyfer ymchwilio i gwynion am fwlio, aflonyddu a gwahaniaethu
  • dathliad blynyddol o’r Wythnos Gynhwysiant Genedlaethol

Gweithlu

Mae sicrhau bod gennym y lefelau staffio cywir yn bwysig er mwyn i ni allu darparu ein gwasanaethau. Rydym wedi bod yn gweithio ar recriwtio a denu niferoedd digonol o staff wrth geisio cadw i fyny â throsiant a lliniaru heriau o ran cadw staff. Mae’r ffigurau isod yn dangos y staff newydd a recriwtiwyd i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, a nifer y staff sydd wedi gadael. Mae hyn yn dangos yr heriau rydym yn eu hwynebu o ran sicrhau bod gennym ddigon o staff i ddarparu ein gwasanaethau.

Ffigurau recriwtio a nifer y staff a wnaeth adael yn ystod 2021 i 2022

  Staff wedi’u recriwtio Staff wedi gadael
Gweision Sifil – cyflogeion yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus 226 212
Gweithwyr asiantaeth 270 183

Er gwaethaf yr heriau recriwtio, rydym yn dal wedi gallu parhau i gyflawni ein hymrwymiad i gefnogi symudedd cymdeithasol. Eleni, rydym wedi:

  • cynnal 77 ymgyrch recriwtio gan arwain at gyflogi 226 aelod newydd – mae hyn yn llwyddiant sylweddol i’r timau o dan sylw
  • parhau i ddarparu prosesau dewis o bell wrth recriwtio i gefnogi staff ac ymgeiswyr
  • gweithio gyda chydweithwyr yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder a Swyddfa’r Cabinet i recriwtio staff newydd drwy amrywiaeth o gynlluniau llwybrau i waith symudedd cymdeithasol, gan gynnwys y cynllun Pobl sy’n Gadael Gofal
  • rhedeg Academi Gwaith Seiliedig ar Sector Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ei hun ac wedi datblygu proses ‘Recriwtio Cyflym’ gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau i ddenu staff contract cyfnod penodol
  • mynychu ffeiriau swyddi i hyrwyddo prosesau recriwtio Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac wedi parhau i chwilio am ffyrdd newydd ac arloesol o gyrraedd cronfa ehangach o ymgeiswyr

Dysgu a datblygu

Mae ein timau dysgu a datblygu wedi bod yn gweithio eleni i wella sgiliau a gwybodaeth ar draws Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Mae llwyddiannau yn y maes hwn yn cynnwys:

  • cryfhau ein gwybodaeth, ein sgiliau a’n hyder craidd o ran arweinyddiaeth drwy ddarparu sesiynau hyfforddi a datblygu rheoli llinell helaeth
  • darparu cefnogaeth a darpariaeth i reoli newid a’r prosiect Llais Pobl dros Gyfiawnder
  • darparu mynediad at adnoddau dysgu a datblygu ‘fel bo angen’ drwy hyb dysgu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
  • darparu hyfforddiant cynefino i dros 300 o bobl sy’n ymuno â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
  • darparu cyfleoedd i staff sydd wedi graddio o raglenni datblygu er mwyn gwella eu cyswllt a’u datblygiad proffesiynol parhaus

Perfformiad ariannol

Rhagolygon o ran y galw

Rhagolygon incwm

Rydym wedi cynnal ein gallu cadarn i ragweld galw ac incwm dros y flwyddyn ddiwethaf, drwy ein partneriaeth gydweithredol barhaus â Gwasanaethau Dadansoddi’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, a thimau dadansoddi canolog ym maes Partneriaethau Busnes Cyllid. Oherwydd ystyriaethau parhaus sy’n ymwneud â phandemig COVID-19, roedd yr incwm am y flwyddyn yn amrywio fwy nag a fyddai disgwyl iddo fel arfer o’r rhagamcanion cychwynnol, gydag incwm o geisiadau am atwrneiaethau’n dod i mewn 24% yn is na’r disgwyl, ac incwm o wasanaethau dirprwyaeth 4% yn is, yn bennaf oherwydd cyfyngiadau gweithredol. Rydym yn adolygu ac yn diweddaru’r rhagolygon galw ac incwm yn ystod y flwyddyn fel rhan o’r trefniadau misol ar gyfer rheolaeth ariannol a pherfformiad, gan ddefnyddio’r wybodaeth a gafwyd i fodelu effaith debygol y newidiadau i’r amgylchedd mewnol ac allanol.

Perfformiad ariannol

Mae’r adran hon yn cynnwys sylwadau i gefnogi’r datganiadau ariannol a’n perfformiad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r datganiadau ariannol wedi’u nodi ar dudalennau 79 i 107. Mae Nodyn 2 i’r datganiadau ariannol ar dudalen 93 yn nodi’r ffioedd a’r taliadau ar gyfer yr incwm isod, ac mae Nodiadau 3-5 yn cynnwys mwy o fanylion ynghylch y gwariant ar draws Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Isod ceir y balansau allweddol ar gyfer Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn 2021 i 2022.

88.7%
Adennill costau, 12.0% cynnydd o

Incwm atwrneiaethau
Wrth i gyfyngiadau pandemig COVID-19 lacio, mae nifer y ceisiadau am atwrneiaethau a dderbyniwyd ac a gofrestrwyd yn ystod blwyddyn ariannol 2021 i 2022 wedi o’i gymharu â blwyddyn ariannol 2020 i 2021.
£57.1m, miliwn cynyddu o 11.1%

Incwm goruchwylio
Mae incwm goruchwylio wedi cynyddu 6.6% yn ystod 2021 i 2022, gyda chynnydd o 3.3% yn bennaf oherwydd y cynnydd yn y niferoedd sy’n cael eu goruchwylio yn ystod y flwyddyn.
£11.0m, cynyddu o 3.3%

Costau staff
Dim newid sylweddol yng nghostau cyffredinol staff rhwng 2020 a 2021 gyda chynnydd o 1.0% ym mlynyddoedd ariannol a 2021 i 2022.
£51.7miliwn, cynyddu 1.0%

Adroddiadau ymwelwyr proffesiynol
Gyda’r mesurau cadw pellter cymdeithasol wedi’u llacio, bu cynnydd o 30% yn nifer yr ymweliadau proffesiynol â chleientiaid drwy gydol y flwyddyn. .
£2.1miliwn, cynyddu o 30%

Postio
Yn bennaf o ganlyniad i gynnydd yn nifer yr atwrneiaethau cafwyd a chofrestrwyd yn 2021 i 2022 o’i gymharu â 2020 i 2021.
£3.7miliwn, cynnydd o 28%

Adroddiad cynaliadwyedd

Rydym wedi ymrwymo i leihau ein heffaith ar y byd naturiol ac i gefnogi ein cymunedau. I wneud hyn, rydym yn mesur ein heffaith ar y byd ac yn gweithio i leihau ein defnydd o adnoddau cyfyngedig, allyriadau nwyon tŷ gwydr a theithio diangen.

Casglu data a chwmpas adroddiadau

Rydym yn adrodd ar y cyfleustodau a ddefnyddiwyd, teithiau a’r gwastraff a gynhyrchwyd. Mesurir y rhain yn erbyn y blynyddoedd blaenorol ac yn erbyn targedau Ymrwymiadau Gwyrdd y Llywodraeth.

Nid oes gennym gerbydau fflyd, ac mae milltiroedd cerbydau personol (fflyd lwyd) a ddefnyddir ar gyfer teithiau busnes yn cael eu nodi yn yr hawliadau am dreuliau.

Dim ond defnydd o bapur y swyddfa gefn y mae’n rhaid i ni adrodd amdano; fodd bynnag, mae modd anfon pecynnau atwrneiaeth arhosol i gwsmeriaid, sy’n golygu defnyddio llawer iawn o bapur. Er mwyn bod yn dryloyw, rydym yn adrodd ar y rhain hefyd. Yn 2020 cyflwynwyd trefniadau argraffu oddi ar y safle a phostio uniongyrchol, sydd wedi disodli rhan fawr o’r gwaith argraffu yn y swyddfa. Mae’r ffigurau ar gyfer y gwasanaeth hwn wedi’u cynnwys yn yr adroddiadau ar ddefnydd papur.

Yn ffigurau diwedd y flwyddyn mae ein data yn cael ei grynhoi yn adroddiad blynyddol a chyfrifon adrannau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder

Effaith COVID-19 ar adrodd a chymharu

Roedd llawer o’n staff rheng flaen wedi parhau i weithio o’n swyddfeydd drwy gydol y pandemig. Er mwyn sicrhau y gallai staff rheng flaen barhau i gyflawni dyletswyddau’n ddiogel pan oedd gofyn iddynt fod yn y swyddfa, roedd staff eraill Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gweithio gartref am ran fawr o’r flwyddyn yn unol â chanllawiau’r llywodraeth. Mae hyn wedi newid y ffigurau gwastraff, dŵr a theithio yn sylweddol, sy’n golygu, er bod Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi cyrraedd y targedau ar gyfer eleni yn swyddogol, na ellir cymharu’n ddilys â’r blynyddoedd blaenorol na’r blynyddoedd dilynol.

Gwybodaeth am ein hystadau

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn defnyddio adeiladau yn Birmingham a Nottingham. Roedd y ffigurau ar gyfer y flwyddyn 2017 i 2018 yn gosod y waelodlin ar gyfer mesur y blynyddoedd i ddod yn fewnol. Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol 2021 i 2022 symudodd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o’r adeilad presennol yn Birmingham i safle llai a mwy modern. Yn y swyddfa hon, rydym yn defnyddio model gweithio hybrid o un ddesg ar gyfer dau aelod o staff. Bydd hyn yn ei gwneud hi’n anodd cymharu yn y dyfodol nes bydd gwaelodlin newydd wedi’i sefydlu yn 2022 i 2023.

Ein targedau

Mae targedau Ymrwymiadau Gwyrdd y Llywodraeth a pherfformiad Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i’w gweld yn y tablau isod. Fel mewn blynyddoedd blaenorol, nid yw Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi cyrraedd y targed papur oherwydd y cynnydd parhaus yn y llwyth gwaith a nifer y staff ers y blynyddoedd gwaelodlin. Trafodir y meysydd hyn yn fanwl isod.

Serch hynny, rydym wedi cyflawni’r targedau ar gyfer allyriadau carbon deuocsid a faint o wastraff sy’n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi.

Sylwch wrth gymharu’r tablau isod â’r blynyddoedd blaenorol y dylid ystyried newidiadau i’r blynyddoedd gwaelodlin.

Canlyniad Llywodraeth
Ein safle ar yr Ymrwymiad
Ein safle ar yr Ymrwymiad
31 Mawrth 2022
Targed yr MoJ hyd at 2020 canlyniad
Allyriadau nwyon tŷ gwydr 38% o ostyngiad o’i gymharu â 09/10 60% o ostyngiad Wedi’i fodloni
Teithiau hedfan domestig 30% o ostyngiad mewn teithiau hedfan domestig o’i gymharu â 09-10 Ni wnaed unrhyw deithiau hedfan domestig Amh
Gwastraff Gostyngiad o 31% yng nghyfanswm y gwastraff o’i gymharu â 15-16 Cynnydd o 35% Ddim wedi’i fodloni
  <10% i safle tirlenwi 0% Wedi’i fodloni
  Cynyddu ailgylchu a rhagori ar lefelau 2015-16 (59%) 100% Wedi’i fodloni
Dŵr 4% o ostyngiad o’i gymharu â 14-15 Ni nodwyd y defnydd o ddŵr oherwydd COVID-19. gweler yr adran drafod dŵr  
Papur 50% o ostyngiad o’i gymharu â 09/10 190% o gynnydd mewn termau absoliwt, gostyngiad o 70% mewn defnydd fesul achos Ddim wedi’i fodloni

Isod, dangosir ffigurau cyfanswm defnydd ac allyriadau, ynghyd â gwariant, os yw’r wybodaeth ar gael

CO2 Ffynonellau Symiau Tunelli CO2 Gwariant
Nwy (cwmpas 1) 878,000kWhr 160.8 £17,600
Trydan (cwmpas 2) 1,099,541 kWhr 233.4 £172,600
Rheilffordd (yn cyn.y London Underground) 65,392km 2.66 £15,129
Fflyd lwyd (ceir) 12,762 km 2.15 £5,547
Awyr Teithio Amh. Amh. Amh.
Adnoddau cyfyngedig Swm Gwariant
Gwastraff Cyfans: 57.2 Cyfans
Wedi’i ailgylchu: 70%
Ynni o wastraff: 30%
Anhysbys fel rhan o’r tâl gwasanaeth am adeiladau
Dŵr Ni adroddwyd ar ddefnydd dŵr oherwydd COVID-19. gweler yr adran drafod Dŵr section Anhysbys fel rhan o’r tâl tâl am adeiladau
Papur 10,450 rîm (swyddfa gefn)
27,250 rîm allanol
8,022 as atwrneiaeth arhosol fel pecynnau atwrneiaeth arhosol
£29,583

Gwastraff

Nid oes gennym gontractau gwaredu gwastraff tirlenwi yn ein swyddfeydd yn Birmingham a Nottingham, felly cafodd ein holl wastraff eleni ei ailgylchu neu ei ailddefnyddio drwy ei drosi yn olew tanwydd. Cafodd yr holl wastraff papur a chardfwrdd ei ailgylchu mewn dolen gaeedig.

Roedd cyfanswm y gwastraff a gynhyrchwyd yn y swyddfa wedi disgyn 50% o’i gymharu â 2019 i 2020, a chododd 35% o’i gymharu â gwaelodlin 2015 i 2016.

Dŵr

Pennwyd y targedau blaenorol ar gyfer defnyddio dŵr ar sail ‘cyfwerth i amser llawn’. Mae’r targedau newydd ar gyfer gostyngiad absoliwt. O ganlyniad i gynnydd parhaus yn nifer y staff ers 2014 i 2015, mae ein defnydd o ddŵr wedi cynyddu 60% i fis Mawrth 2020, gan fethu’r targed. Oherwydd bod staff yn gweithio gartref, nid yw darlleniadau mesuryddion dŵr yn gofnod ystyrlon o’r defnydd o ddŵr gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Mae hyn yn rhannol oherwydd ein bod yn rhannu ein hadeiladau â sefydliadau eraill a’u bod wedi cael eu defnyddio ar wahanol gyfraddau am wahanol gyfnodau, gyda dim ond un prif fesurydd. Mae hefyd oherwydd bod y rhan fwyaf o’r dŵr sy’n cael ei ddefnyddio (toiledau, dŵr yfed, golchi llestri) bellach yn cael ei ddefnyddio yng nghartrefi’r staff. Mae hyn wedi ei gwneud yn amhosibl amcangyfrif yn gywir faint o ddŵr mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ei ddefnyddio.

Defnyddio papur

Fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi methu’r targed o ostyngiad o 50% yn y defnydd o bapur swyddfa gefn, oherwydd twf mawr y busnes yn y cyfnod adrodd a mesur. Daeth 2021 i 2022 i ben gyda chynnydd o 200% yn y defnydd o waelodlin 2009 i 2010. Roedd cynnydd o 16% yn y defnydd o bapur rhwng 2021 a 2022, a oedd yn ddisgwyliedig wrth i niferoedd yr atwrneiaethau gynyddu’n sylweddol yn dilyn gostyngiad yn 2020 i 2021 yn sgil cyfnodau clo ac amhariadau COVID-19. Mae pob achos atwrneiaeth yn dal i ddefnyddio tua 20 dalen o bapur yr un.

Teithio

Roedd y ffigurau teithio’n parhau i fod yn isel iawn yn 2021 i 2022, yn bennaf oherwydd cyfyngiadau COVID-19. Roedd disgwyl yn flaenorol y byddai rhywfaint o deithio ychwanegol yn cael ei gofnodi yn ystod y flwyddyn ariannol hon wrth i’r cyfyngiadau lacio. Cafodd cyfanswm o 64,642km eu teithio ar y trên a 12,762 o gilometrau mewn car preifat, 7% o ffigurau 2019 i 2020 a bron i saith gwaith ffigurau 2020 i 2021.

Er bod mwy o ymweliadau wyneb yn wyneb â’r Llys Gwarchod, mae ymwelwyr yn parhau i fanteisio’n helaeth ar ‘ymweliadau rhithwir’.

Hyd yn oed wrth i’r cyfyngiadau lacio, dim ond ychydig o gynnydd a wnaeth y cyfanswm a deithiwyd mewn termau absoliwt. Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi ystyried nifer o’r gwersi a ddysgwyd yn 2020 i 2021 ac mae’n parhau i ddefnyddio’r adnoddau cyfarfodydd rhithiol sydd ar gael yn helaeth. Rhagwelir y bydd llawer iawn o deithio’n cael ei ddileu’n barhaol yn y blynyddoedd i ddod.

Rydym yn gweithio’n agos gyda chynghorau lleol a gweithredwyr trafnidiaeth er mwyn i staff allu manteisio ar docynnau bws am bris is yn ogystal â chyfleusterau parcio a theithio rhatach. Mae’r cynllun beicio i’r gwaith yn cael ei hyrwyddo’n helaeth ac mae cyfleusterau newid a storfa ddiogel i feiciau’n cael eu darparu. Mae opsiynau teithio llesol hefyd yn cael eu hyrwyddo fel rhan o agenda lles Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus er mwyn hyrwyddo ymarfer corff a ffyrdd iach o fyw.

Cyfleustodau eraill

Cynyddodd y defnydd o drydan 36% eleni gan fod niferoedd mwy o staff yn gallu gweithio yn y swyddfa eto yn ail hanner y flwyddyn ariannol, a chynyddodd y defnydd o nwy 22%, gyda’r ddau ffigur yn gymharol â 2020 i 2021. O’i gymharu â 2019 i 2020 cyn COVID-19, mae’r defnydd yn debyg iawn. Mae’r ffigurau ychydig yn uwch, yn enwedig ar gyfer nwy, gan ein bod wedi bod yn rhedeg dau safle yn Birmingham am nifer o fisoedd yn ystod y broses o symud swyddfa.

Roedd allyriadau CO2 wedi gostwng 60% yn gyffredinol o’i gymharu â’r flwyddyn waelodlin. Disgwylir y bydd rhai o’r enillion hyn o ganlyniad i gyfyngiadau COVID-19 yn diflannu yn y blynyddoedd i ddod, ond bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gweithio i’w cynnal pan fo’n bosibl.

Dylai cau adeilad yr Axis a symud i swyddfa lai, fwy modern yng nghanol dinas Birmingham arwain at ostyngiadau pellach yn y defnydd o drydan, gan roi’r gorau i ddefnyddio nwy ar gyfer gwresogi yn gyfan gwbl.

Gwreiddio cynaliadwyedd yn ein dyfodol

Roedd COVID-19 yn ei gwneud yn ofynnol i ni wneud newidiadau i’r ffordd roedd rhai staff yn gweithio er mwyn cydymffurfio â chanllawiau’r llywodraeth. Mae’r angen i ymateb i’r pandemig a galluogi staff i weithio gartref yn cryfhau parhad busnes. Mae’r anallu i deithio rhwng swyddfeydd wedi dangos effeithiolrwydd adnoddau cydweithio o bell a rhith-gyfarfodydd ar gyfer y rhan fwyaf o achosion. Er y bydd angen bob amser am gyfarfodydd wyneb yn wyneb ac ymweliadau ar draws y safle, dylai’r angen am deithio rhwng swyddfeydd ostwng.

Ar ôl gosod paneli LED yn swyddfa Nottingham yn 2021, mae perchennog yr adeilad nawr yn gosod paneli solar. Dylai uwchraddio’r system rheoli adeiladu arwain at arbedion o 11% y flwyddyn o ran defnyddio trydan. Bydd mesuryddion hanner awr yn helpu i ganfod a lleihau’r defnydd a wastreffir.

Ni chynhaliwyd unrhyw ddigwyddiadau cynaliadwyedd wyneb yn wyneb eleni, ond roedd negeseuon a chyfathrebu’n parhau. Mae gwersi a ddysgwyd o ddigwyddiadau allanol yn golygu y bydd gan fwy o ddigwyddiadau yn y dyfodol agwedd rithiol, sy’n golygu y gall hyd yn oed mwy o staff ymuno neu ddilyn ar ôl i’r digwyddiad ddod i ben.

Stuart Howard
Gwarcheidwad Cyhoeddus a Swyddog Cyfrifyddu
19 Gorffennaf 2022

Adroddiad llywodraethu corfforaethol

Cyflwyniad

Diben yr adroddiad llywodraethu corfforaethol yw egluro cyfansoddiad a threfniadaeth strwythurau llywodraethu’r corff a sut maent yn helpu i gyflawni amcanion y corff.

Mae ein dogfen fframwaith yn nodi’r trefniadau ar gyfer llywodraethu, atebolrwydd, cyllido, staffio a gweithrediadau. Gellir darllen y ddogfen yn llawn ar GOV.UK.

Fel Swyddog Cyfrifyddu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, rwy’n gyfrifol am ddefnydd y Swyddfa o adnoddau wrth gyflawni ei swyddogaethau fel yr amlinellir yn y ddogfen fframwaith. Mae Rheoli Arian Cyhoeddus, a gyhoeddwyd gan Drysorlys ei Mawrhydi, hefyd yn cyflwyno cyfrifoldebau swyddog cyfrifyddu.

Fel Swyddog Cyfrifyddu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, rwyf yn gyfrifol yn bersonol am: amddiffyn y cronfeydd cyhoeddus rwyf yn gyfrifol amdanynt, sicrhau priodoldeb a chysondeb wrth ymdrin â chronfeydd cyhoeddus, a gweithrediadau a rheolaeth y Swyddfa o ddydd i ddydd. Ar ben hynny, mae’n rhaid i mi sicrhau bod Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gyffredinol yn cael ei rhedeg yn unol â’r safonau, a hynny mewn perthynas â llywodraethu, gwneud penderfyniadau a rheoli arian.

Mae fy adroddiad yn amlinellu’r trefniadau llywodraethu sydd ar waith i reoli’r risgiau o beidio â chyflawni’r amcanion a’r targedau y mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi cytuno arnynt. Mae hefyd yn darparu trosolwg a rheolaeth effeithiol dros adnoddau ac asedau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Mae’n cynnwys y canlynol:

  • adroddiad y cyfarwyddwr

  • datganiad o gyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu

  • datganiad llywodraethu

Adroddiad y Cyfarwyddwr

Cyflwyniad

Mae strwythur Bwrdd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, y Pwyllgor Archwilio a Risg, a’r tîm gweithredol, ar gael isod. Maent yn gyfrifol am osod cyfeiriad strategol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ogystal â monitro perfformiad yn erbyn yr amcanion y cytunwyd arnynt.

Datganiad o fuddiannau

Mae gofyn i aelodau anweithredol ddatgan unrhyw gyfarwyddiaethau a gwrthdaro rhwng buddiannau adeg eu penodi i’r swydd. Mae gofyn hefyd i bob aelod o’r bwrdd ddatgan unrhyw wrthdaro rhwng buddiannau cyn dechrau pob cyfarfod.

Roedd dau ddatganiad o fuddiant rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022.

  • Alison Sansome: yng nghyfarfod Bwrdd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar 3 Awst 2021, datganodd ei bod wedi’i phenodi fel aelod lleyg newydd o’r bwrdd ar gyfer y Swyddfa Cwynion Cyfreithiol o fis Gorffennaf 2021 ymlaen.

  • Karin Woodley: yng nghyfarfod Bwrdd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar 7 Rhagfyr 2021, datganodd ei bod yn Ymddiriedolwr Prosiect Felix o 16 Rhagfyr 2021 ymlaen. Nid yw Prosiect Felix yn achosi unrhyw wrthdaro rhwng buddiannau gan fod y prosiect yn elusen tlodi bwyd a chynaliadwyedd.

Digwyddiadau yn ymwneud â data personol

Ystyriwyd a oedd unrhyw ddigwyddiad yn cynnwys data personol mor ddifrifol fel bod angen rhoi gwybod i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth amdano. Ni chafwyd unrhyw ddigwyddiadau o’r fath.

Mae’r datganiad llywodraethu yn rhoi ystyriaeth bellach i arferion sicrhau gwybodaeth a diogelwch data yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Iechyd a diogelwch

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cydnabod ei chyfrifoldebau cyfreithiol mewn perthynas ag iechyd, diogelwch a lles ei chyflogeion a’r holl bobl sy’n defnyddio ei safleoedd.

Aelodaeth y bwrdd

Mae aelodaeth Bwrdd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cynnwys y canlynol:

Gwarcheidwad Cyhoeddus (cadeirydd)

  • Stuart Howard – Gwarcheidwad Cyhoeddus dros dro o 14 Mawrth 2022
  • Nick Goodwin (tan 13 Mawrth 2022)

Uwch weision sifil Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

  • Julie Lindsay – Prif Swyddog Gweithredu
  • Chris Jones – – Dirprwy Gyfarwyddwr dros dro tan fis Tachwedd 2021
  • Stuart Howard – Dirprwy Gyfarwyddwr
  • Ruth Duffin – Dirprwy Gyfarwyddwr o fis Ionawr 2022 ymlaen

Cyfarwyddwyr anweithredol

  • Alison Sansome
  • Shirnivas Honap – tan fis Mai 2021
  • Karin Woodley
  • Dr Jackie Craissati
  • Martyn Burke – o fis Mai 2021

Cynrychiolydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder

  • Abigail Plenty/Laura Beaumount (rhannu swydd)

Cynrychiolydd cyllid y Weinyddiaeth Gyfiawnder

  • Georgia Bottomley

Datganiad o gyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu

O dan Adran (7)2 o Ddeddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000, mae Trysorlys EM wedi cyfarwyddo Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i baratoi datganiad o gyfrifon ar gyfer pob blwyddyn ariannol ar y ffurf a’r sail a nodwyd yn y Cyfarwyddyd Cyfrifyddu. Caiff y cyfrifon eu paratoi ar sail croniadau ac mae’n rhaid iddynt roi darlun cywir a theg o sefyllfa Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a’i hincwm a’i gwariant, ei datganiad o sefyllfa ariannol a llif arian ar gyfer y flwyddyn ariannol.

Wrth baratoi’r cyfrifon, mae gofyn i’r Swyddog Cyfrifyddu gydymffurfio â gofynion Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth ac yn benodol:

  • glynu wrth y Cyfarwyddyd Cyfrifyddu a gyhoeddir gan Drysorlys EM, gan gynnwys y gofynion cyfrifyddu a datgelu perthnasol, a defnyddio polisïau cyfrifyddu priodol yn gyson

  • gwneud penderfyniadau ac amcangyfrifon ar sail resymol

  • datgan a yw’r safonau cyfrifyddu perthnasol sydd wedi’u nodi yn Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth wedi cael eu dilyn, a datgelu ac esbonio unrhyw wyriadau o bwys yn y datganiadau ariannol

  • paratoi’r datganiadau ariannol ar sail busnes byw

  • cadarnhau bod yr adroddiad blynyddol a’r cyfrifon yn eu cyfanrwydd yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy, a chymryd cyfrifoldeb personol dros yr adroddiad blynyddol a’r cyfrifon a’r dyfarniadau sy’n ofynnol er mwyn penderfynu eu bod yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy

Mae Prif Swyddog Cyfrifyddu’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi dynodi’r Gwarcheidwad Cyhoeddus fel Swyddog Cyfrifyddu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Mae cyfrifoldebau’r swyddog cyfrifyddu, gan gynnwys cyfrifoldeb dros briodoldeb a chysondeb y cyllid cyhoeddus y mae’r swyddog cyfrifyddu yn atebol amdanynt, cadw cofnodion cywir ac amddiffyn asedau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, wedi’u nodi yn Rheoli Arian Cyhoeddus a gyhoeddwyd gan Drysorlys EM. Fel y Swyddog Cyfrifyddu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, rwy’n cadarnhau’r canlynol:

  • Nid oes unrhyw wybodaeth berthnasol nad yw archwilwyr y Swyddfa’n ymwybodol ohoni, ac rwyf wedi cymryd yr holl gamau y dylwn eu cymryd i sicrhau fy mod yn ymwybodol o wybodaeth archwilio berthnasol a sicrhau bod archwilwyr y Swyddfa’n ymwybodol o’r wybodaeth honno

  • Mae’r Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon yn eu cyfanrwydd yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy, ac rwy’n cymryd cyfrifoldeb personol dros yr Adroddiad a’r Cyfrifon Blynyddol a’r dyfarniadau sy’n ofynnol er mwyn penderfynu eu bod yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy

Stuart Howard
Gwarcheidwad Cyhoeddus a Swyddog Cyfrifyddu
19 July 2022

Datganiad llywodraethu

Mae’r datganiad hwn yn esbonio sut rwyf i, fel Swyddog Cyfrifyddu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, wedi cyflawni fy nghyfrifoldeb o reoli adnoddau’r Swyddfa yn ystod y flwyddyn. Hyd at 14 Mawrth 2022, Nick Goodwin oedd y Prif Weithredwr, y Gwarcheidwad Cyhoeddus a’r Swyddog Cyfrifyddu. Cymerais yr awenau gan Nick Goodwin fel Gwarcheidwad Cyhoeddus a Swyddog Cyfrifyddu o 14 Mawrth ymlaen a byddaf yn aros yn fy swydd nes bydd rhywun yn cael ei recriwtio’n barhaol. Mae Nick Goodwin wedi rhoi sicrwydd i mi, bod ei gyfrifoldebau fel swyddog cyfrifyddu wedi cael eu cyflawni’n briodol yn ystod 2021 i 2022, ac mae trefniadau llywodraethu wedi bod ar waith drwy gydol y cyfnod fel y disgrifir isod. Mae’r datganiad hwn yn disgrifio trefniadau llywodraethu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac yn cyflwyno asesiad o’r modd rwyf i a Nick Goodwin wedi mynd ati i gydbwyso risg, sicrwydd a rheolaeth drwy gydol 2021 i 2022.

Cyflwyniad

Ysgrifennydd Parhaol y Weinyddiaeth Gyfiawnder yw Prif Swyddog Cyfrifyddu’r adran. Mae cyfrifoldebau’r swyddog cyfrifyddu wedi’u nodi ym mhennod 3 Rheoli Arian Cyhoeddus, a gyhoeddwyd gan Drysorlys EM. Mae’r Prif Swyddog Cyfrifyddu wedi fy nynodi fel Swyddog Cyfrifyddu ar gyfer gwariant gweinyddol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, ac mae wedi diffinio fy nghyfrifoldebau a’r berthynas rhwng Swyddog Cyfrifyddu a Phrif Swyddog Cyfrifyddu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn swydd-ddeiliad statudol a benodir gan yr Arglwydd Ganghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder o dan Adran 57 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005. Cyfunir y rôl statudol hon â rôl y swyddog cyfrifyddu, ac fel arfer gyda rôl weinyddol y Prif Swyddog Gweithredol. Fodd bynnag, mae swydd y Prif Weithredwr wedi cael ei rhannu’n effeithiol rhwng tîm arwain y Dirprwy Gyfarwyddwr ers 14 Mawrth 2022, ac yn amodol ar benodi Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr parhaol. Mae hyn wedi’i nodi yn nogfen fframwaith y Weinyddiaeth Gyfiawnder/Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi’i sicrhau bod y prosesau a’r rheolaethau ar gyfer gweithgareddau pob maes busnes yn gadarn ac yn effeithiol ac y gellir dangos tystiolaeth ohonynt. Yn benodol, mae wedi monitro materion ariannol, risg a pherfformiad yr asiantaeth yn rheolaidd, gan roi cyfleoedd ar waith i wella gwasanaeth i gwsmeriaid. Arhosodd aelodaeth y Bwrdd yr un fath, a gall hefyd ddarparu sicrwydd ar gyfer y cyfnod hwn hefyd. Ni fu unrhyw ymadawiadau ac mae ein fframwaith llywodraethu yn ystyried y cod ymarfer.

Fframwaith llywodraethu

Mae effeithiolrwydd trefniadau llywodraethu, rheoli risg a system rheolaeth fewnol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi’u nodi yn y datganiad llywodraethu hwn. Mae’r fframwaith llywodraethu hwn wedi cael ei adolygu yn ystod y flwyddyn yn erbyn y codau perthnasol fel Llywodraethu Corfforaethol yn Adrannau Llywodraeth Ganolog: Cod Ymarfer Gorau i sicrhau ei fod yn addas i’r diben.

Mae’r datganiad yn cynnwys yr asesiad gofynnol o gydymffurfiad â Chod Llywodraethu Corfforaethol y Trysorlys. Er bod y cod yn canolbwyntio ar adrannau gweinidogol, pan fo’n berthnasol, bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn defnyddio’r egwyddorion sy’n gymesur â’i maint, ei statws a’i fframwaith cyfreithiol.

Fframwaith llywodraethu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Mae strwythurau’r bwrdd a’r pwyllgorau ar hyn o bryd yn cael eu dangos yn y diagram isod:

Governance framework top half
Governance framework bottom half

Pwyllgor Gweithredol: Yn atebol i’r prif weithredwr. Sicrhau rheolaeth effeithiol o gyllid, perfformiad, risg, y gweithlu, adnoddau dynol, cwynion, cyflenwi busnes, arweinyddiaeth a dathlu llwyddiant.

Pwyllgor Archwilio a Risg: Rhoi barn annibynnol i’r prif weithredwr o ddulliau llywodraethu, rheoli risg a sicrwydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Pwyllgor Trawsnewid: Yn atebol i’r Pwyllgor Gweithredol a’r bwrdd: yn gyfrifol am fonitro cynnydd rhaglen drawsnewid Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus 2025 a phrosiectau o fewn ei gylch gwaith, gan adolygu, datrys a/neu uwchgyfeirio risgiau a materion a allai beryglu cyflawni amserol a gwireddu buddion.

Pwyllgor Iechyd a Diogelwch: Cynorthwyo’r prif weithredwr â’i gyfrifoldeb cyffredinol dros sicrhau bod y sefydliad yn cydymffurfio â Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a sicrhau bod yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn lle diogel ac iach i weithio.

Pwyllgor Polisi, Ymarfer a Chanllawiau: Darparu fforwm gwneud penderfyniadau wedi’i chydlynnu ar gyfer Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus mewn perthynas â pholisi, ymarfer a chanllawiau yn y Swyddfa o fewn y lefelau gwneud penderfyniadau y cytunwyd arnynt gan y Pwyllgor Gweithredol.

Pwyllgor Pobl: Yn gyfrifol am gydlynu’r gweithgareddau sy’n ymwneud â phobl i gefnogi rhaglen a phrosiectau trawsnewid Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus 2025.

Yr hyn mae’r bwrdd yn ei wneud

Yn 2021 i 2022, roedd y bwrdd yn arwain Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn strategol ac yn weithredol. Roedd hefyd yn herio ac yn craffu ar faterion a oedd yn effeithio ar ein perfformiad a’n polisïau. Mae gan y bwrdd wyth prif faes cyfrifoldeb:

  • diogelu a gwella enw da Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus drwy lywio a goruchwylio cyfeiriad Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o ran sut mae’n cyflawni ei nodau a’i hamcanion

  • gweithredu o fewn dogfen fframwaith y cytunwyd arni gyda’r gweinidog a’r cyfarwyddwr cyffredinol priodol ar gyfer y Weinyddiaeth Gyfiawnder/Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus – mae ei aelodau’n gwneud penderfyniadau ar y cyd ac nid fel cynrychiolwyr y meysydd busnes y gallent eu harwain

  • darparu cyfeiriad strategol, cytuno ar nodau busnes, amcanion a chynllunio, gan bennu targedau ar gyfer y sefydliad a gwireddu’r weledigaeth

  • monitro ein perfformiad, cyfathrebu â staff ynghylch gwerthoedd ac ymddygiad, gan oruchwylio gweithrediadau a rheoli risg

  • cymeradwyo dyraniad y gyllideb flynyddol ac unrhyw newidiadau sylweddol iddi yn ystod y flwyddyn

  • cefnogi’r broses o gynnal perthynas weithio gadarn rhwng ein staff a’r sefydliadau partner

  • cymeradwyo ein fframwaith llywodraethu corfforaethol a’n rheolaethau a monitro sut maent yn gweithredu bob chwarter

  • sicrhau bod gwaith cynllunio, perfformiad a rheolaeth ariannol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael ei wneud yn effeithlon ac yn effeithiol ac yn agored a thryloyw, a hefyd yn cyfrannu at ddatblygu a chymeradwyo ein cynllun busnes blynyddol

Prif lwyddiannau ac effeithiolrwydd

Yn ogystal â derbyn papurau am gyllid, perfformiad a risg ym mhob cyfarfod, roedd y bwrdd yn gwneud y canlynol:

  • adolygu’r rhai yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, drwy drefniadau arweinyddiaeth weithredol, a hynny’n rheolaidd, gan eu dal i gyfrif i sicrhau bod pawb yn cydweithio i gyflawni blaenoriaethau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
  • wedi cael gwybodaeth ariannol, perfformiad a risg yn rheolaidd ac yn rhydd i ofyn am wybodaeth ychwanegol os oedd angen – mae’r bwrdd yn credu bod y data’n dderbyniol gan fod fforymau eraill fel y Pwyllgor Archwilio a Risg yn eu lle i sicrhau bod y data sy’n mynd i’r bwrdd yn gywir ac yn adlewyrchiad teg o’r sefyllfa yn yr asiantaeth
  • parhau i ddarparu cyfeiriad strategol ar gyfer prif gynlluniau newid Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i sicrhau dealltwriaeth glir o’r prif flaenoriaethau ar gyfer cyflawni ledled yr asiantaeth
  • darparu’r penderfyniadau strategol angenrheidiol i sicrhau bod cyllid yr asiantaeth yn aros o fewn y gyllideb (yn enwedig ffioedd)
  • darparu cyfeiriad strategol ar gynlluniau ar gyfer sut roedd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gweithredu yn ystod y cyfnodau clo, rheoli dogfennau, symud safle adeiladu, a moderneiddio atwrneiaeth arhosol
  • cwblhau adolygiad mewnol o effeithiolrwydd y Bwrdd, gyda chyfres o welliannau a chamau gweithredu i wella effeithiolrwydd yn cael eu rhoi ar waith ac yn barhaus

Ein his-bwyllgorau a’r pwyllgor cynghori annibynnol

Mae gan y bwrdd ddau is-bwyllgor: y Pwyllgor Gweithredol a’r Pwyllgor Trawsnewid. Mae’r Pwyllgor Archwilio a Risg yn bwyllgor cynghori annibynnol ar gyfer y bwrdd. Mae cynrychiolwyr y bwrdd yn gweithio i’r pwyllgorau/gweithrediaeth er mwyn i grwpiau bach allu archwilio materion yn fwy manwl. Yna mae’r pwyllgorau’n cyflwyno eu canfyddiadau i’r bwrdd eu trafod a dod i gasgliadau (gan ddilyn Cod Ymarfer Da: Llywodraethu Corfforaethol yn Adrannau Llywodraeth Ganolog).

Y Pwyllgor Gweithredol

Mae hwn yn bwyllgor â ffocws newydd, sy’n deillio o adolygiad cyffredinol o drefniadau llywodraethu yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac sy’n disodli cyfarfodydd y tîm rheoli gweithredol.

Mae’n canolbwyntio’n bennaf ar gyflawni busnes gweithredol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o ddydd i ddydd, gan gynnwys cyllid, perfformiad, risg, gweithlu, newid a chynllunio, cwynion, Adnoddau Dynol (rheoli presenoldeb, recriwtio), cyflenwi busnes, arweinyddiaeth, ymgysylltu â chyflogeion a dathlu llwyddiant.

Cadeirydd:

  • Tan 11 Mawrth 2022: Nick Goodwin, Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr
  • O 14 Mawrth 2022: Stuart Howard, Gwarcheidwad Cyhoeddus

Materion allweddol a ystyriwyd

  • Wedi llwyddo i sefydlu a gwneud y pwyllgor yn rhan annatod o strwythur yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
  • Wedi sefydlu cylch gorchwyl sy’n sicrhau bod ffocws i fusnes y pwyllgor, a dim ond materion sydd angen dod i’r lefel hon sy’n cael eu cynnwys
  • Wedi grymuso is-bwyllgorau i wneud pob penderfyniad perthnasol
  • Mwy o amser i ganolbwyntio ar faterion sydd angen sylw dirprwy gyfarwyddwr – e.e. mwy o sylw i risg

Y Pwyllgor Trawsnewid

Yn dod â rhanddeiliaid allweddol at ei gilydd o bob rhan o Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a phartneriaid i sicrhau bod y portffolio o raglenni newid yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael ei gyflawni’n llwyddiannus. Mae gan y Pwyllgor Trawsnewid strwythur llywodraethu dirprwyedig oddi tano er mwyn sicrhau bod y portffolio o brosiectau’n cael eu cyflawni.

Cadeiryddion:

  • Tan fis Tachwedd 2021: Chris Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Interim, Strategaeth a Gwasanaethau Corfforaethol
  • Rhagfyr 2021 i Ionawr 2022: Simon Tasker, Dirprwy Bennaeth y Rhaglen
  • O fis Ionawr 2022 ymlaen: Ruth Duffin, Dirprwy Gyfarwyddwr, Strategaeth a Gwasanaethau Canolog

Materion allweddol a ystyriwyd

  • Wedi cwblhau’r prosiect Defnyddio Atwrneiaeth Arhosol
  • Wedi cyflwyno trefn sganio’r gorwel, i godi ymwybyddiaeth o brosiectau y tu allan i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a allai effeithio ar y busnes

Y Pwyllgor Archwilio a Risg

Mae’r pwyllgor yn rheoli risg, yn rhoi cyngor ar sut gellir hwyluso gwelliannau ac yn pennu’r cynnydd a wneir o ran ymatebion rheolwyr i unrhyw risgiau a nodwyd. Mae’n cymeradwyo gwaith yr archwiliadau mewnol ac allanol.

Rhaid i’r pwyllgor gytuno ar bolisïau cyfrifyddu cywir a sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio’n briodol mewn perthynas â thrafodion y sefydliad. Mae’n darparu argymhellion i’r swyddog cyfrifyddu ar bob mater y mae’r pwyllgor yn ei ystyried yn angenrheidiol.

Cadeiryddion:

  • Tan fis Mai 2021: Shrinivas Honap, Cyfarwyddwr Anweithredol
  • O fis Mehefin 2021: Martyn Burke, Cyfarwyddwr Anweithredol

Materion allweddol a ystyriwyd

  • Parhau i roi sicrwydd i’r Gwarcheidwad Cyhoeddus mewn materion sy’n ymwneud â rheoli’r fframwaith risg cyfan, risgiau unigol penodol a’r camau lliniaru sy’n deillio ohonynt
  • Adolygu strategaeth a pholisïau gwrth-dwyll
  • Cymeradwyo adroddiad blynyddol a chyfrifon Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus 2020 i 2021
  • Sefydlu trefn adolygu risg archwilio dwfn newydd ac adolygu trefniadau chwythu’r chwiban
  • Hyrwyddo defnyddio safonau swyddogaethol, tryloywder y safonau a gyrhaeddwyd ac uchelgeisiau ar gyfer gwelliant parhaus
  • Cyflwyno trefn gwelliant parhaus ar gyfer y pwyllgor wedi’i ysgogi gan arolwg effeithiolrwydd a hyfforddiant i aelodau

Bwrdd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus / Presenoldeb mewn pwyllgorau 2021 i 2022

    Bwrdd Swyddfa’r
Gwarcheidwad Cyhoeddus
  tîm
gweithredol
  Pwyllgor
Archwilio a Risg
  Pwyllgor
Trawsnewid
  Nifer y cyfarfodydd
a fynychwyd
Nifer y
cyfarfodydd cymwys
Nifer y cyfarfodydd
a fynychwyd
Nifer y
cyfarfodydd cymwys
Nifer y cyfarfodydd
a fynychwyd
Nifer y
cyfarfodydd cymwys
Nifer y cyfarfodydd
a fynychwyd
Nifer y
cyfarfodydd cymwys
Nick Goodwin – Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr 11 12 10 11 5 5 10 12
Ruth Duffin – Dirprwy Gyfarwyddwr, Strategaeth a Gwasanaethau Canolog (Ionawr 2022) 3 3 3 3 1 1 3 3
Stuart Howard - Y Gwarcheidwad Cyhoeddus/Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol a Sicrwydd Gwybodaeth 11 12 10 12 5 5 11 12
Julie Lindsay – Prif Swyddog Gweithredu 12 12 12 12 - - 12 12
Chris Jones - Dirprwy Gyfarwyddwr Interim, Strategaeth a Gwasanaethau Corfforaethol 8 4 3 7 2 4 5 5
Georgia Bottomley – Dirprwy Gyfarwyddwr Partneriaethau Busnes Cyllid 12 12 - - 5 5 - -
Abigail Plenty/Laura Beaumont - Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Agored i Niwed 8 12 - - - - - -
Shrinivas Honap - Cyfarwyddwr Anweithredol 2 2 - - 1 1 - -
Alison Sansome - Cyfarwyddwr Anweithredol 12 12     4 5 12 12
Karin Woodley - Cyfarwyddwr Anweithredol 11 12 - - 4 5 - -
Martyn Burke - Cyfarwyddwr Anweithredol 10 9 - - 3 3 - -
Jackie Craissati - Aelod Annibynnol - - - - 5 5 - -
Jill Twigger – Pennaeth, Gwasanaethau Goruchwylio ac Ymchwilios - - 2 3 - - - -
Marie Owen - Pennaeth, Gwasanaethau Atwrneiaeth - - 1 3 - - - -
Marie Lane – Pennaeth, Datblygu Pobl - -   3 - - 8 11
Angela Hall – Dirprwy Bennaeth, Sicrwydd Gwybodaeth Gyfreithiol - - 2 3 - -    
Helen Journeaux - Pennaeth dros dro, Perfformiad, Cynllunio a Datblygu Busnes - - 1 3 2 2 10 12
May Smith – Uwch Bartner Busnes Cyllid - - 1 3 - - 7 7
Lucy Denton – Pennaeth Cyfathrebu - - 2 2 - - 1 1
Navdeep Hear – Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol a Phennaeth dros dro Llywodraethiant a Sicrwydd - -     1 1 1 1
Su Morgan – Pennaeth, Gwasanaethau Digidol, Y Weinyddiaeth Gyfiawnder - - 1 3 - - 11 11
Meera Bhalla/Ray Morrison – Uwch Bartner Busnes Adnoddau Dynol - - 2 3 - - 1 -
Louisa Harrison - Uwch Bartner Busnes Cyllid - - 3 4 - - 3 3
Fraser Clubbe - Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol - - -   1 1 4 6
Gary Morrison - Dirprwy Bennaeth, Datblygu, Rheoli Newid - - - - - - 12 12

Cylch gorchwyl

Mae cylch gorchwyl Bwrdd a phwyllgorau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn unol â Chanllawiau ar Effeithiolrwydd Byrddau y Cyngor Adrodd Ariannol (Mawrth 2011) a Safon Llywodraethu Da ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus, a gyhoeddwyd gan Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth a’r Swyddfa Rheolaeth Gyhoeddus Cyf, i sicrhau bod y trefniadau llywodraethu yn cael eu hadlewyrchu mewn unrhyw gylch gorchwyl.

Y llynedd, cwblhawyd y gwaith ar fframwaith llywodraethu mewnol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, sy’n dogfennu’r holl gyfarfodydd llywodraethu ffurfiol yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a’u cylch gorchwyl. Mae’r ddogfen hon hefyd yn amlinellu’r cysylltiadau rhwng y bwrdd a’i bwyllgorau, goddefiannau a fframwaith adolygu clir i bawb.

Bydd y fframwaith hwn yn cael ei adolygu yn 2022 i 2023 oherwydd oedi yn sgil COVID-19 ac er mwyn caniatáu i gyfarfodydd ddychwelyd i normalrwydd yn ogystal ag yn ddigidol.

Archwilio mewnol

Un o rolau’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yw sefydlu a chynnal trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau archwilio mewnol gan Asiantaeth Archwilio Mewnol y Llywodraeth o fewn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn unol â’r amcanion a’r safonau ar gyfer archwilio mewnol a nodwyd yn Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (a gyhoeddwyd gan Drysorlys EM). Mae hyn yn golygu bod modd gwerthuso perfformiad rheoli o ran cyflawni trefniadau effeithiol ar gyfer llywodraethu, rheoli risg a rheolaethau mewnol mewn ffordd annibynnol a gwrthrychol.

Rwyf yn darparu copïau o gynlluniau archwilio mewnol blynyddol ac adroddiad blynyddol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Bydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder a Swyddfa’r Cabinet yn cael gwybod am unrhyw dwyll neu afreoleidd-dra o fewn y diffiniad a nodir gan Drysorlys EM.

Cynhaliodd Asiantaeth Archwilio Mewnol y Llywodraeth chwech archwiliad ar ran Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ystod 2021 i 2022. Roedd canlyniadau’r aseiniadau archwilio mewnol a gwblhawyd wedi cael un o dri sgôr sef sylweddol, cymedrol neu gyfyngedig.

Sgôr Teitl yr archwiliad
Sylweddol Strategaeth gyfathrebu
Cymedrol Cynllunio strategol
Cyfyngedig Recriwtio
Cymedrol Ymchwiliadau goruchwylio
Cyfyngedig Mesur perfformiad

Yn ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2021 i 2022 mae’r pennaeth archwilio mewnol wedi rhoi barn flynyddol gymedrol i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar y fframwaith rheolaeth, llywodraethu a rheoli risg.

Diffinnir barn gymedrol fel ‘mae angen rhai gwelliannau i wella digonolrwydd ac effeithiolrwydd y fframwaith rheolaeth, llywodraethu a rheoli risg’.

Canfuwyd bod gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus fframwaith rheoli da ar waith. Roedd y farn gymedrol a sylweddol gan mwyaf yn adlewyrchu hyn. Er mwyn gwella, mae angen i ni gryfhau strwythurau sicrwydd, llywodraethu a rheolaeth mewn rhai meysydd penodol. Roedd gwendidau wrth gynnal polisïau a chanllawiau cyfredol, ynghyd â sicrhau bod gweithgareddau sicrhau ac adrodd yn cael eu trefnu, yn ganfyddiadau cymharol gyffredin ac yn feysydd ffocws ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Rheoli risg, rheolaeth a sicrwydd

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cynnal dull cyson o ran rheoli risg. Defnyddir dulliau rheoli risg i dynnu ein sylw at fygythiadau go iawn neu faterion sy’n dod i’r amlwg ac sy’n debygol o effeithio ar y gallu i gyflawni ein hamcanion.

Mae parodrwydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i dderbyn risg yn cael ei lunio gan ddyletswyddau statudol y Gwarcheidwad Cyhoeddus i sicrhau y rhoddir llais i’r rheini rydym yn gweithio gyda nhw. Dyma oedd y prif risgiau a ystyriwyd yn ystod y flwyddyn:

Risg allweddol

Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gweithredu y tu allan i gylch gwaith statudol


Effaith: Timau gweithredol ddim yn deall swyddogaethau a chyfrifoldebau statudol y Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Prif weithgareddau lliniaru:

  • Fe wnaethom ddarparu hyfforddiant ar y Ddeddf Galluedd Meddyliol a’i rheoliadau.
  • Diffiniodd y timau cyfreithiol a sicrhau gwybodaeth y prosesau gweithredol a’r llwybrau ar gyfer cefnogaeth ymgynghorol.

Effaith y gweithgareddau lliniaru ar y risg:

  • Mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn fodlon â’r sefyllfa risg sylfaenol. Bydd yr adolygiad goruchwylio a’r tîm polisi yn mynd i’r afael ag eitemau eraill.

Nid yw Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gallu recriwtio a chadw staff i reoli’r galw


Effaith: Mae hyn yn cael effaith wael ar ein darpariaeth gwasanaeth, sy’n golygu nad ydym yn gallu cyflawni ein nodau strategol a statudol. Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn colli sgiliau allweddol ac mae’n anodd iawn eu cael yn ôl gan nad yw ein cyflogau’n gystadleuol.

Prif weithgareddau lliniaru:

  • Mae cytundeb cyflog y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cael ei gyflwyno, a fydd yn golygu ein bod yn gyson ag adrannau eraill y llywodraeth.
  • Lansiwyd yr Addewid i Bobl a’r strategaeth datblygu newydd, sy’n ceisio gwella morâl a lles staff.
  • Mae ein strategaeth recriwtio a chadw newydd yn cael ei lansio, ar ôl cael ei hadolygu gan y bwrdd.

Effaith y gweithgareddau lliniaru ar y risg:

  • Mae effaith negyddol ar gyllid, gan fod costau tymor hir staff locwm ac asiantaeth yn uwch na staff parhaol.
  • Bydd methu â gwella trefniadau recriwtio a chadw staff yn cael effaith negyddol ar les staff a lefelau cadw staff, a fydd yn golygu na fydd targedau gweithredol yn cael eu cyrraedd.

Difetha cynnyrch ac enw da Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gyda’r broses atwrneiaethau arhosol gyfredol


Effaith:Gallai gwendidau yn y broses o gofrestru atwrneiaethau arhosol arwain at greu atwrneiaethau arhosol yn dwyllodrus. Byddai hyn yn difetha enw da Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Nid yw’r Ddeddf Gallu Meddyliol yn cyfeirio at ganiatâd i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gynnal archwiliadau a fyddai’n atal cofrestru atwrneiaethau arhosol twyllodrus.

Prif weithgareddau lliniaru:

  • Codwyd hyn gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a’i gyflwyno i weinidogion y llywodraeth ar gyfer cyfarfod briffio. Mae rhanddeiliaid wedi cytuno ar yr opsiynau ar gyfer lleihau’r risg o dwyll.

  • Mae gweithdrefn weithredu safonol wedi cael ei chreu i ddelio ag achosion o dwyll posibl neu wirioneddol yng nghyswllt Atwrneiaeth Arhosol. Penodwyd pwyntiau cyswllt penodol i gynghori, a chynhaliwyd ymgyrch ymwybyddiaeth ar gyfer staff.

Effaith y gweithgareddau lliniaru ar y risg:

  • Mae’r broses gofrestru wedi bod yn fwy cadarn, ac mae staff nawr yn teimlo eu bod yn gallu mynegi unrhyw bryderon yn well i’w datrys mewn ymyriadau cynnar.

  • Mewn ymgyrch ddiweddar, tynnwyd sylw’r holl staff at yr hyn y gallant ei wneud i fynd i’r afael â thwyll.

Methu â chyflawni rhaglen drawsnewid Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus 2025


Effaith: Ni ellir cyflawni’r strategaeth o fewn y gyllideb. Ni fu’n bosibl cael y ddeddfwriaeth sydd ei hangen i wneud cofrestru atwrneiaethau arhosol yn gwbl ddigidol. Mae diffyg staff sydd â’r sgiliau arbenigol angenrheidiol.

Nid yw’r rhaglen wedi cael ei gwneud yn flaenoriaeth yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Prif weithgareddau lliniaru:

  • Rhagolwg pum mlynedd sy’n seiliedig ar sawl senario allweddol ac sy’n cael ei adlewyrchu yn yr Achos Busnes Amlinellol Strategol. Gweithio gyda thimau ar draws y sefydliad i sicrhau bod sgiliau arbenigol ar gael. Mae grŵp llywio ‘atwrneiaeth arhosol cwbl ddigidol’ wedi cael ei sefydlu, er mwyn cadw mewn cysylltiad rheolaidd ag adrannau Chyfreithiol, Polisi a Digitech y Weinyddiaeth Gyfiawnder a’r Ysgrifennydd Parhaol a gweinidogion eraill.

Effaith y gweithgareddau lliniaru ar y risg:

  • Mae’r ffrydiau gwaith a fydd yn cael eu cynnal yn 2022 wedi cael eu cynllunio a’u strwythuro fel cyfran gyntaf Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus 2025. Mae hyn yn cynnwys recriwtio. Yr achosion buddion yn cael eu datblygu ochr yn ochr ac yn cael eu monitro yn erbyn llwybr critigol.

  • Bydd adnoddau’r rhaglen yn cael eu neilltuo wrth i bob darn newydd o waith ddechrau.

Nid yw model busnes Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gallu darparu’r refeniw i gefnogi’r gwaith o gyflawni amcanion


Effaith: Bydd cael llai yn cofrestru am atwrneiaethau arhosol yn effeithio ar refeniw a’r costau sy’n cael eu hadennill, a allai olygu bod angen cefnogaeth y Weinyddiaeth Gyfiawnder a’r Trysorlys ar Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Gallai prosesau adennill dyled gwael arwain at gynnydd mewn taliadau yn ogystal â phroblemau llif arian.

Prif weithgareddau lliniaru:

  • Cyflwynir diweddariadau rheolaidd ar sefyllfa ariannol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i’r bwrdd, i’r Pwyllgor Gweithredol a’r dirprwy gyfarwyddwyr.

  • Mae risgiau ariannol yn cael eu huwchgyfeirio er mwyn ceisio cael cytundeb ar strategaethau lliniaru.

  • Mae adolygiad o ffioedd goruchwylio ar y gweill gan eu bod yn sybsideiddio ffioedd atwrneiaethau arhosol. Nod yr adolygiad yw lleihau hynny.

Effaith y gweithgareddau lliniaru ar y risg:

  • Ein nod yw symleiddio prosesau i fod yn fwy effeithlon er mwyn gallu lleihau costau heb effeithio ar ansawdd y gwaith diogelu.

  • Nid yw sefyllfa ariannol bresennol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus y mae COVID-19 wedi effeithio arni, yn gynaliadwy. Mae pryder y bydd angen cymorth.

Gwytnwch – Diffyg parodrwydd i reoli rhagor o darfu ar barhad busnes yn ystod y pandemig


Effaith: Diffyg dealltwriaeth o risgiau parhad busnes sy’n arwain at fethu â lliniaru.

Ymgysylltu gwael â chyflenwyr a rhanddeiliaid, sy’n golygu nad oes fawr o ddealltwriaeth o faterion a allai amharu ar Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Prif weithgareddau lliniaru:

  • Gwiriadau gyda chyflenwyr a rhanddeiliaid a brofodd i fod yn ddigonol. Cafodd hyn ei isgyfeirio fel risg maes busnes.

  • Tynnodd y broses sylw at risgiau newydd o ran sganwyr dogfennau.

  • Bydd seibergadernid yn cael ei brofi yn 2022 i 2023.

Effaith y gweithgareddau lliniaru ar y risg:

  • Daeth y risg i ben ar ôl i’r archwiliadau brofi’n ddigonol a chafwyd bod y risg ar lefel foddhaol. Mae wedi cael ei isgyfeirio ond mae’n dal i gael ei fonitro.

Diffyg cydymffurfio a niweidio enw da os nad oes gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus brosesau rheoli gwybodaeth effeithiol


Effaith: Dylai mesurau rheoli tynn fod yn berthnasol wrth bostio gwybodaeth sy’n cynnwys data personol am gwsmeriaid er mwyn cadw’r data’n gywir.

Nid yw prosesau ar gyfer casglu a chynnal data cywir am gwsmeriaid yn effeithlon.

Cyfyngiadau ar ddileu data cwsmeriaid.

Prif weithgareddau lliniaru:

  • Llai o achosion o dorri amodau gan fod pob llwybr rhesymol wedi cael ei archwilio.

  • Mae’n rhaid i holl staff Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gwblhau cwrs e-ddysgu ‘Cyfrifoldeb dros Wybodaeth’. Mae swyddogion sicrhau gwybodaeth yn llunio adroddiadau misol ac mae ganddynt broses benodol y mae’n rhaid iddynt ei dilyn.

Effaith y gweithgareddau lliniaru ar y risg:

  • Cafodd hawliadau am iawndal eu lleihau, yn ogystal â chamau rheoleiddio posibl gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

  • Mae cywirdeb data wedi gwella.

  • Mae nifer o gamau lliniaru i’w cwblhau’n lleol.

Colli hyder yng ngwasanaethau a chynnyrch brand Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gan arwain at ddifetha enw da


Effaith: Cyhoeddusrwydd anffafriol o ganlyniad i dwyll a gyflawnwyd yn erbyn pobl agored i niwed.

Diffyg pŵer statudol i wirio pwy ydych chi fel rhan o brosesau cofrestru atwrneiaethau arhosol.

Gwallau gweinyddol

weithgareddau lliniaru:

  • Dadansoddi tueddiadau i asesu effaith gwelliannau y cytunwyd arnynt. Monitro effeithiolrwydd yr ymgyrch recriwtio i wella’r bylchau mewn adnoddau.

  • Grŵp Cynghori ar Risg yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi archwilio hyn am faterion sy’n cael eu hachosi gan weithredu trawsbynciol.

  • Sicrhau bod y Pwyllgor Gweithredol yn cael gwybod i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus am unrhyw risgiau sy’n dod i’r amlwg neu rai sy’n gwaethygu.

Effaith y gweithgareddau lliniaru ar y risg:

  • Mae’r posibilrwydd o her gyfreithiol wedi lleihau, gyda llai o gwynion gan gwsmeriaid a gwell perfformiad gan y sefydliad.

  • Gwell morâl ac ymgysylltiad staff.

  • Gwell dealltwriaeth o risgiau, gan gynnwys prosesau uwchgyfeirio.

Diffyg trefniadau digonol wrth gefn ar gyfer methiant sganwyr yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus y tu hwnt i 24 awr


Effaith: Mae methiant technegol o fwy na 24 awr yn bosibl oherwydd bod y safle a neilltuwyd yn hygyrch.

Mae’r cynnydd presennol yn y niferoedd yn golygu y byddai hyn yn arwain at gwynion ac ôl-groniad o ran y ddarpariaeth weithredol.

Prif weithgareddau lliniaru:

  • Cydnabod un pwynt methiant lle mae gofyn cael ateb er mwyn cynnal y ddarpariaeth weithredol.

  • Mae profion llwytho lloriau wedi cael eu cynnal i ddod o hyd i atebion posibl.

Effaith y gweithgareddau lliniaru ar y risg:

  • Sefydlu opsiynau pellach, gan gynnwys achos busnes a rheoli prosiectau. Y cam nesaf i’w gytuno gan Bwyllgor Gweithredol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus Pwyllgor / Bwrdd.

Colli gallu goruchwylio o ran bilio oherwydd oedi wrth roi Sirius ar waith ar gyfer Goruchwylio gwaith adeiladu


Effaith: Oedi annisgwyl a dirybudd o ran pa mor barod yw Sirius ar gyfer mudo data.

Diffyg rhwydi diogelwch gan gynnyrch sylfaenol hyfyw Sirius ac nid yw’n caniatáu cywiro gwallau cofnodi data.

Prif weithgareddau lliniaru:

  • Cyfarfodydd rheolaidd rhwng arweinwyr goruchwylio, a thimau Gweithredu a Datblygu Sirius.

  • Mae hyfforddiant llif gwaith ar reoli Sirius yn mynd rhagddo ac mae archwiliadau ansawdd ffug wedi cael eu cyflwyno.

Effaith y gweithgareddau lliniaru ar y risg:

  • Mae gwaith gan y datblygwyr, y tîm gweithredu a’r tîm goruchwylio yn mynd rhagddo, a dechreuodd proses fudo Sirius ym mis Ebrill 2022.

Methu â symud swyddfa cyn y dyddiadau cyfreithiol


Effaith: Mae nifer o ffactorau a rhesymau dros yr oedi wrth symud i’r adeilad newydd.

Prif weithgareddau lliniaru:

  • Cafodd ymrwymiadau’r brydles eu cyflymu, a chwblhawyd gwaith paratoi angenrheidiol gyda’r mudo’n digwydd fesul cam i mewn i 2022.

Effaith y gweithgareddau lliniaru ar y risg

  • Dechreuodd staff yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus symud i’r adeilad newydd ym mis Chwefror 2022.

  • Mae gwybodaeth ar gyfer staff wedi cael ei chreu.

  • Bydd y risg hon yn cael ei chau.

Rheolir risgiau sy’n is na’r lefel gorfforaethol gan y cyfarwyddiaethau, ac os oes angen caiff risgiau eu huwchgyfeirio i’r gofrestr gorfforaethol. Mae’r tîm llywodraethu yn cysylltu â meysydd busnes bob mis fel rhan o Grŵp Cynghori ar Risg a sefydlwyd yn 2021. Mae perchnogion risg yn mynychu’r Grŵp Cynghori ar Risg, ac mae pawb yn trafod sut mae rheoli’r risgiau sydd wedi’u nodi ac unrhyw gynlluniau sydd ar y gweill i’w cau. Edrychir ar risg gorfforaethol a risg rhaglen gyda’i gilydd mewn cyfarfodydd adolygu rheolaidd, gan gynnwys cyfarfod craffu’r Pwyllgor Archwilio a Risg, gan sicrhau bod pawb yn deall yr amgylchedd risg cyfan.

Rydym yn parhau i gyflwyno adroddiadau bob chwarter i Bwyllgor Gwaith y Weinyddiaeth Gyfiawnder fel rhan o fframwaith rheoli risg ehangach yr adran. Mae cefnogaeth y Pwyllgor Gwaith i’r rhaglen newid tymor hwy yn bwysig er mwyn lliniaru’r risgiau hyn. Dyma’r prif risgiau yr adroddwyd amdanynt yn ystod y flwyddyn:

  • yr angen am fodel busnes cynaliadwy ar gyfer Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, a’r gwaith sy’n cael ei wneud ar foderneiddio atwrneiaethau arhosol a ffioedd goruchwylio i sicrhau bod hynny’n digwydd
  • risg i enw da Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o atwrneiaethau arhosol yn cael eu gwneud drwy dwyll
  • effaith COVID-19 ar Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, ei pherfformiad, ei chyllid a’i staff
  • strwythur sicrwydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn annog arloesi ac mae ganddi agwedd gytbwys tuag at risg. Er enghraifft, mae ganddi fwy o oddefiant i risgiau sy’n ymwneud â hyrwyddo gallu digidol i wella cynnyrch Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, ond mae ganddi oddefiant is mewn meysydd fel sicrhau bod pryderon yn cael eu hasesu a’u hymchwilio i ddiogelu pobl agored i niwed a’u hasedau.

Fframwaith llywodraethu/sicrwydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Governance structure top half
Governance structure bottom half

Safonau swyddogaethol

Darperir swyddogaethau corfforaethol a phroffesiynol i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac maent yn cynnwys Gwasanaethau Dadansoddi, Masnachol, Cyfathrebu, Digidol a Thechnoleg, Eiddo, Cyllid, Adnoddau Dynol, Cyflawni Prosiectau, Diogelwch a Gwrth-dwyll. Ar 1 Hydref 2021, daeth safonau swyddogaethol yn orfodol ar draws llywodraeth ganolog. Mae holl Swyddogaethau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ac eithrio Diogelwch wedi cael eu hunanasesu fel rhai sy’n bodloni elfennau gorfodol eu safon berthnasol. Mae nifer fach o staff Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus y tu allan i’r model arweinyddiaeth swyddogaethol ar gyfer Cyflenwi Masnachol a Phrosiectau hefyd yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar elfennau gorfodol perthnasol y safonau swyddogaethol.

Mae swyddogaethau’n datblygu cynlluniau gweithredu i sicrhau eu bod yn gwreiddio safonau’n llawn ar draws y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae rhai meysydd penodol yn dal i fod yn heriol, er enghraifft Seiberddiogelwch, ac mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cymryd camau i fynd i’r afael â hyn.

Atal twyll, llwgrwobrwyo a llygredd

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi parhau i weithredu Safon Swyddogaethol y Llywodraeth ar gyfer Atal Twyll (GovS 013) sy’n nodi’r disgwyliad ar gyfer rheoli risg o dwyll, llwgrwobrwyo a llygredd ar draws holl sefydliadau’r llywodraeth.

Mae gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus bolisi atal twyll, llwgrwobrwyo a llygredd a chynllun ymateb ar wahân, y mae Pwyllgor Gweithredol a Phwyllgor Archwilio a Risg y Swyddfa wedi cytuno arnynt. Bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus nawr yn bwrw ymlaen â gweithgarwch asesu risg twyll i adolygu asesiadau a gynhaliwyd ac i gynnwys unrhyw brosesau newydd. Mae sesiynau ymwybyddiaeth o dwyll rhithiol wedi cael eu cynnal fel rhan o’r broses gynefino ar gyfer staff newydd ac mae’n ofynnol i’r holl staff gwblhau hyfforddiant ymwybyddiaeth o dwyll. Bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cysylltu â’r Ganolfan Ragoriaeth i ddiffinio mesuriadau ar gyfer ein cynlluniau atal twyll. Rydym yn gobeithio gwella ein safonau atal twyll y tu hwnt i’r raddfa bresennol sy’n ‘cydymffurfio’n rhannol’.

Adroddiadau chwythu’r chwiban

Nid oedd unrhyw achosion yn y flwyddyn ariannol hon.

Parhad busnes

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi cynnal lefel dda o wytnwch er mwyn cefnogi’r gwaith o adfer a darparu gwasanaethau y cafodd COVID-19 effaith niweidiol arnynt unwaith eto. Rydym wedi ymateb yn dda i’r holl gomisiynau y gofynnwyd amdanynt ac wedi mynegi neu ddarparu’r holl wybodaeth.

Eleni fe wnaethom y canlynol:

  • parhau â’r gwaith o gyflwyno adnodd parhad busnes y Weinyddiaeth Gyfiawnder drwy greu’r holl gynlluniau i ddechrau a chynhyrchu’r rhan fwyaf o’r dadansoddiadau o’r effaith ar fusnes sydd eu hangen i’w cynnwys
  • cwblhau gwaith ar gasglu holl benderfyniadau am COVID-19 a’r penderfyniadau parhad busnes cysylltiedig, gan gynnwys camau gweithredu ac ymatebion yn barod ar gyfer unrhyw ofynion o ran ymholiadau gan y llywodraeth ar gyfer 2020 a 2021
  • diweddaru prosesau adrodd lleol COVID-19 a darparu’r canllawiau angenrheidiol i reolwyr a staff – hefyd, sefydlodd hyn linell sylfaen i ddadansoddi ac adrodd ar achosion ac amleddau’r gofynion angenrheidiol h.y. cau adain a glanhau’n drwyadl

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus hefyd sy’n arwain grŵp parhad busnes rhanbarthol y Weinyddiaeth Gyfiawnder, sy’n cyfarfod ddwywaith y flwyddyn. Mae’r grŵp yn rhannu arferion gorau, yn trafod syniadau ac yn croesawu siaradwyr gwadd. Roedd y cyfarfod ym mis Mai yn cynnwys siaradwr gwadd o Ganolfan Gweithrediadau Adrannol y Weinyddiaeth Gyfiawnder, a thrafododd y cyfarfod ym mis Tachwedd y gwersi a ddysgwyd o’r pandemig ar gyfer parhad busnes.

Diogelwch a sicrwydd gwybodaeth Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Mae Pennaeth y Gyfarwyddiaeth Gyfreithiol a Gwybodaeth yn cyflawni rôl uwch-berchennog risg gwybodaeth ar gyfer Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac mae uwch unigolyn o bob cyfarwyddiaeth busnes yn ymgymryd â rôl perchennog asedau gwybodaeth ar gyfer eu maes. Mae pob perchennog asedau gwybodaeth ac uwch-berchennog risg gwybodaeth yn cwrdd yn rheolaidd i reoli risgiau gwybodaeth, ac mae’r tîm sicrhau gwybodaeth yn gweithio i’w cefnogi gydol y flwyddyn.

Cafodd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus 63 o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth yn 2021 i 2022, a chwblhaodd 92% o’r rhain o fewn 20 diwrnod gwaith o’i gymharu â tharged o 90%. Cafodd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus 78 cais am fynediad at ddata gan destun y data hynny, a chwblhawyd 99% o’r rhain o fewn un mis calendr o’i gymharu â tharged o 90%.

Mae’r asesiad o risgiau preifatrwydd yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael ei reoli gan y tîm sicrhau gwybodaeth, sy’n cynnwys cefnogi’r busnes i gwblhau asesiadau o’r effaith ar ddiogelu data lle bo angen. Mae aelodau’r tîm yn hyrwyddo preifatrwydd yn ôl y bwriad, ac ymgynghorir â’r tîm fel mater o drefn ynghylch preifatrwydd ar ddechrau cynnig.

Un o’r asesiadau o’r effaith ar ddiogelu data nodedig a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn oedd cefnogi mynediad diogel i’r system Dilysu Digwyddiadau Bywyd a weithredir gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol. Mae hyn yn galluogi Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i gael prawf o farwolaeth er mwyn galluogi Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i gau achosion pan fydd cwsmer yn marw.

Digwyddiadau (colli/peryglu) gwybodaeth

Roedd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gyfrifol am 830 achos o golli gwybodaeth a/neu dorri diogelwch gwybodaeth yn ystod 2021 i 2022, ac ystyriwyd bod 15 ohonynt yn ‘niweidiol iawn’. Roedd y mwyafrif o’r achosion o golli gwybodaeth wedi digwydd oherwydd camgyfeirio’r post. Prosesodd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus tua 5.26 miliwn darn o bost yn 2021 i 2022, sy’n golygu mai dim ond mewn 0.02% o achosion y collwyd gwybodaeth (o’i gymharu â 0.01% yn 2020 i 2021 a 0.02% yn 2019 i 2020).

Ni ystyriwyd bod unrhyw achos o golli gwybodaeth yn ddigon difrifol i warantu camau gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i hysbysu’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Er mwyn sicrhau ein bod yn cymryd camau i leihau’r achosion o golli gwybodaeth, mae tîm sicrhau gwybodaeth Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn parhau i weithio gyda’r busnes i ddarparu hyfforddiant, addysg ac ymwybyddiaeth i staff ynghylch diogelu data a diogelwch gwybodaeth.

Mae’r gweithgareddau hyn yn cynnwys cyflwyno sesiynau ymwybyddiaeth ar draws y sefydliad i ategu sesiynau e-ddysgu gorfodol y Gwasanaeth Sifil.

Rheoli cofnodion

Fel rhan o brosiect gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder i wella’r gwaith o reoli asedau a chofnodion gwybodaeth yn barhaus yn yr adran, fe wnaethom gynnal adolygiad cynhwysfawr a diweddaru ein cofrestr asedau gwybodaeth eleni.

Bydd y gwaith hwn yn sail i weithgareddau dilynol i gydymffurfio â rheoli cofnodion sydd wedi’u cynllunio ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, gan gynnwys cyflawni rhaglen o archwiliadau cofnodion ar draws Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac iteriad pellach o’r Amserlen Cadw a Gwaredu Cofnodion.

Cydymffurfiaeth cyflenwyr

Mae contractau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael eu rheoli’n ganolog gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, felly tîm masnachol canolog y Weinyddiaeth Gyfiawnder sy’n sicrhau cydymffurfiaeth cyflenwyr.

Iechyd a diogelwch

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cydnabod ei chyfrifoldebau cyfreithiol mewn perthynas ag iechyd, diogelwch a lles ei chyflogeion a’r holl bobl sy’n defnyddio ei safleoedd. Rydym yn cydymffurfio â Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a’r holl reoliadau a deddfwriaethau perthnasol eraill fel sy’n briodol.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi parhau i gefnogi staff yn ystod pandemig COVID-19.

Rydym wedi darparu cyfarpar sgrin arddangos i staff i’w galluogi i weithio gartref ac yn y swyddfa, gan gefnogi’r sefydliad gyda gweithio hybrid wrth i reoliadau COVID-19 newid ac wrth i staff ddechrau dychwelyd i’r swyddfa. Yn ystod y cyfnod adrodd hwn, rydym wedi cwblhau 906 o asesiadau cyfarpar sgrin arddangos ar gyfer staff. Mae hyn yn nifer sylweddol uchel oherwydd bod nifer uchel o adolygiadau bob tair blynedd yn cael eu cwblhau yn ystod y cyfnod hwn. Cynhaliwyd llawer o’r rhain yn rhithiol oherwydd bod staff yn gweithio gartref ac o ganlyniad i symud i adeilad newydd.

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cydnabod bod angen i elfennau allweddol gael eu rhoi ar waith er mwyn rheoli iechyd a diogelwch yn effeithiol, fel yr amlinellir yn ‘HSG65 Cynllunio Gwneud Gwirio Gweithredu’ (canllawiau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar reoli iechyd a diogelwch). Yr elfennau hyn yw polisi, trefnu, cynllunio, mesur perfformiad, archwilio ac adolygu. Cynhaliwyd cyfanswm o 192 o sesiynau cynefino iechyd a diogelwch ar gyfer staff eleni, sy’n cyfrannu at y ffigwr cyffredinol o 1,813 o staff mewn swyddi.

Adolygir polisïau iechyd a diogelwch Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus bob blwyddyn neu pan fyddant yn cael eu newid. Mae strategaeth iechyd a diogelwch ar waith sy’n cyd-fynd â’r amcanion busnes, ac mae’n cael ei datblygu i wella iechyd a diogelwch galwedigaethol a diogelwch tân. Mae cofrestr risg iechyd a diogelwch yn cael ei chymeradwyo gan ddeiliad dyletswydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac mae’n seiliedig ar asesiad risg lleol. Caiff ei gynnal a’i adolygu yn y Pwyllgor Iechyd a Diogelwch chwarterol, a’i rannu â Phwyllgor Iechyd a Diogelwch Tân Corfforaethol y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac mae’n cael cyhoeddusrwydd ar ein tudalennau mewnrwyd. Mae’r ffigurau damweiniau, digwyddiadau ac achosion a fu bron â digwydd ar gyfer blwyddyn ariannol 2021 i 2022 wedi gostwng o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol: rhoddwyd gwybod am 7 damwain, 21 digwyddiad a 3 damwain fu bron â digwydd.

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi ymrwymo i wella iechyd a diogelwch yn barhaus.

Drwy gydol 2021 i 2022 rydym wedi mynd ati’n rheolaidd i fonitro ac adolygu nifer yr ymatebwyr brys sydd gennym ar waith i sicrhau bod digon o staff ar gael ar holl safleoedd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Rydym wedi cynllunio a threfnu hyfforddiant ar gyfer wardeiniaid tân, swyddogion rheoli digwyddiadau, gweithredu’r gadair achub a hyfforddiant cymorth cyntaf. Oherwydd y pandemig, mae wedi bod yn fwy heriol darparu’r hyfforddiant hwn.

Gyda gweithio hybrid, mae angen mwy o staff ar gyfer y rolau hyn. Mae hyfforddiant mewnol wedi cael ei ddatblygu i hyfforddi gwirfoddolwyr newydd i gefnogi’r angen i ddarparu hyfforddiant gwerth am arian.

Rheolir holl safleoedd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gan un tîm iechyd a diogelwch, ac mae gan yr holl safleoedd eu heriau eu hunain. Drwy hyfforddiant effeithiol, cyfathrebu, glynu wrth ddeddfwriaeth ac ymgysylltu’n rhagweithiol, mae’r tîm yn gallu rheoli a datrys problemau wrth iddynt godi.

Casgliad y Swyddog Cyfrifyddu

Fel Swyddog Cyfrifyddu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, rwy’n gyfrifol am adolygu effeithiolrwydd system rheolaeth fewnol y Swyddfa, gan gynnwys y fframwaith rheoli risg. Mae fy adolygiad yn seiliedig ar waith yr archwilwyr mewnol a’r rheolwyr gweithredol o fewn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Maent yn gyfrifol am ddatblygu a chynnal y fframwaith rheolaeth fewnol, a’r sylwadau a wneir gan yr archwilwyr allanol yn eu llythyr rheoli ac mewn adroddiadau eraill. Yn eu hadroddiad blynyddol, mae ein harchwilwyr mewnol wedi rhoi lefel sicrwydd cyffredinol o ‘gymedrol’, sy’n golygu bod angen rhai gwelliannau i wella digonolrwydd ac effeithiolrwydd y fframwaith rheolaeth, llywodraethu a rheoli risg. Rwyf wedi cael cyngor ar oblygiadau canlyniadau fy adolygiad gan y bwrdd a’r Pwyllgor Archwilio a Risg. Rwy’n fodlon fod cynllun ar waith i fynd i’r afael â gwendidau yn y system o reolaeth fewnol, yn ogystal â sicrhau gwelliant parhaus y system. Rwyf hefyd yn fodlon fod yr holl risgiau perthnasol wedi’u nodi, a bod y risgiau hynny’n cael eu rheoli’n briodol drwy ein cofrestr risg.

Stuart Howard

Gwarcheidwad Cyhoeddus a Swyddog Cyfrifyddu

Adroddiad tâl a staff

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi polisi Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar dâl aelodau a chyfarwyddwyr anweithredol y Bwrdd Gweithredol. Mae hefyd yn darparu manylion y costau gwirioneddol a’r trefniadau cytundebol.

Paratowyd yr adroddiad tâl a staff yn unol â gofynion y Llawlyfr Adroddiadau Ariannol a gyhoeddwyd gan Drysorlys EM.

Contractau gwasanaethau

Mae Deddf Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethu 2010 yn mynnu bod penodiadau’r Gwasanaeth Sifil yn cael eu gwneud ar sail teilyngdod a hynny wedi’i seilio ar gystadleuaeth deg ac agored. Mae’r Egwyddorion Recriwtio a gyhoeddwyd gan Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil yn nodi’r amgylchiadau pan ellir gwneud penodiadau fel arall.

Oni nodir yn wahanol isod, mae’r swyddogion a gwmpesir gan yr adroddiad hwn yn dal penodiadau agored. Byddai terfynu swydd, ac eithrio am gamymddwyn, yn golygu y byddai’r unigolyn yn derbyn iawndal fel y nodir yng Nghynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil.

Ceir rhagor o wybodaeth am waith Comisiwn y Gwasanaeth Sifil https://civilservicecommission.org.uk.

Polisi tâl

Mae tâl uwch weision sifil yn cael ei osod gan y Prif Weinidog ar ôl cael cyngor annibynnol gan y Corff Adolygu ar Gyflogau Uwch-swyddogion.

Mae cyflogau aelodau Gweithredol y Bwrdd yn cael eu pennu gan Ysgrifennydd Parhaol y Weinyddiaeth Gyfiawnder, yn unol â’r rheolau a nodir ym Mhennod 7.1 Atodiad A o God Rheoli’r Gwasanaeth Sifil.

Wrth wneud ei argymhellion, mae’r bwrdd adolygu wedi ystyried y canlynol:

  • yr angen i recriwtio, cadw, cymell a, lle bo’n berthnasol, hyrwyddo pobl sydd â’r gallu a’r cymwysterau priodol i gyflawni eu cyfrifoldebau gwahanol
  • amrywiadau rhanbarthol/lleol mewn marchnadoedd llafur a’u heffaith ar recriwtio, cadw a, lle bo hynny’n berthnasol, dyrchafu staff
  • polisïau’r llywodraeth i wella gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys y gofyniad ar adrannau i gyrraedd y targedau allbwn ar gyfer darparu gwasanaethau adrannol
  • yr arian sydd ar gael i adrannau fel y nodir yn nherfynau gwariant adrannol y llywodraeth
  • targed chwyddiant y llywodraeth

Mae’r corff adolygu’n ystyried y dystiolaeth a gaiff am ystyriaethau economaidd ehangach a fforddiadwyedd ei argymhellion.

Cyfanswm y cyflogau a ffioedd

Mae cyflogau a lwfansau’n cynnwys symiau pensiynadwy ac amhensiynadwy ac yn delio â chyflogau gros, goramser, hawliau neilltuedig i bwysiadau neu lwfansau daearyddol, lwfansau recriwtio a chadw, lwfansau swyddfeydd preifat neu lwfansau eraill i’r graddau y maent yn ddarostyngedig i drethiant y DU. Yr adran sy’n talu cyfanswm y tâl hwn, yn ogystal â’r lwfansau y mae ganddynt hawl iddynt, ac felly dangosir hyn yn llawn yn y ffigurau ar y dudalen nesaf.

Holl fuddion trethadwy

Mae gwerth ariannol unrhyw fuddion o fath arall yn cynnwys unrhyw fuddion a ddarparwyd gan yr adran ac sy’n cael ei drin gan Gyllid a Thollau EM fel enillion trethadwy.

Taliadau bonws

Mae bonysau’n seiliedig ar lefelau perfformiad ac yn cael eu talu fel rhan o’r broses werthuso reolaidd.

Holl fuddion sy’n gysylltiedig â phensiwn

Mae adran 229 o Ddeddf Cyllid 2004 yn pennu uchafswm y lefel flynyddol o gynilion pensiwn y gellir eu cronni o dan drefniant buddion diffiniedig cyn codi unrhyw drethiant. Swm yr arbedion a ddangosir yn Nhabl A yw’r cynnydd yng ngwerth y buddion a addawyd i’r unigolyn dros y cyfnod mewnbwn pensiwn (sef y flwyddyn ariannol ar gyfer Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus). Unrhyw gynnydd yw’r gwahaniaeth rhwng gwerth buddion unigolyn ar ddechrau’r cyfnod mewnbwn pensiwn (1 Ebrill 2021) a gwerth buddion yr unigolyn ar ddiwedd y cyfnod mewnbwn pensiwn (31 Mawrth 2022). Mae hyn hefyd yn cynnwys unrhyw gynnydd i’r cyflog pensiynadwy.

Mae’r rheoliadau’n pennu addasiad i reolau Cyllid a Thollau EM at y diben hwn. Er mwyn prisio’r buddion, mae Trysorlys EM wedi cynghori cynlluniau pensiwn i ddefnyddio lluosydd o 20.

Tabl A Tâl Uwch Swyddogion – Costau cyflogi (yn amodol ar archwiliad)

          2021 to 2022         2020 to 2021
  Cyflog Taliadau bonws Yr holl fuddion trethadwy £100 Buddion cysylltiedig â phensiwn1 Cyfanswm Cyflog Taliadau bonws Yr holl fuddion trethadwy £100 Buddion cysylltiedig â phensiwn Cyfanswm
  £000 £000 £000 £000 £000 £000 £000 £000 £000 £000
Nick Goodwin
Prif Weithredwr a’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (to 13 Mawrth 2022)
100-105 15-20 - 26 145-150 100-105 10-15 - 56 165-170
Stuart Howard
Y Gwarcheidwad Cyhoeddus a Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol a Sicrwydd Gwybodaeth (from 14 March 2022)
80-85 0-5 - 2 85-90 55-60 FYE 80-85 - - 49 100-105
Julie Lindsay
Prif Swyddog Gweithredu
75-80 10-15 - 72 155-160 80-85 0-5 - 136 215-220
Chris Jones
Dirprwy Gyfarwyddwr dros dro (tan fis Tachwedd 2021)
40-45 FYE 70-75 - - 19 85-90 70-75 0-5 - 30 100-105
Ruth Duffin
Dirprwy Gyfarwyddwr, Strategaeth a Gwasanaethau Canolog (o fis Ionawr 2022 ymlaen)
15-20 FYE 75-80 - - 2 20-25 - - - - -
Cynrychiolydd cyllid y Weinyddiaeth Gyfiawnder
Georgia Bottomley2
Dirprwy Gyfarwyddwr, Prif Swyddogion Cyllid Grŵp Swyddogion
80-85 0-5 - 16 95-100 35-40 FYE 80-85 0.5 - 17 55-60

Aelodau Anweithredol

          2021 to 2022         2020 to 2021
  Cyflog Taliadau bonws Yr holl fuddion trethadwy £100 Buddion cysylltiedig â phensiwn1 Cyfanswm Cyflog Taliadau bonws Yr holl fuddion trethadwy £100 Buddion cysylltiedig â phensiwn Cyfanswm
  £000 £000 £000 £000 £000 £000 £000 £000 £000 £000
Karin Woodley 5-10 - - - 5-10 5-10 - - - 5-10
Alison Sansome 5-10 - 0.3 - 5-10 5-10 - 0.1 - 5-10
Jackie Craisatti
Aelod annibynnol o’r Pwyllgor Archwilio a Risg
0-5 - - - 0-5 0-5 - - - 0-5
Shrinivas Honap
tan fis 31 Mai 2021
0-5 - - - 0-5 0-5 - - - 0-5
Martyn Burke
o fis 1 Mehefin 2021 ymlaen
5-10 - - - 5-10 - - - - -

(yn amodol ar archwiliad)

1 Cyfrifir gwerth y buddion pensiwn a gronnwyd yn ystod y flwyddyn fel (y cynnydd real mewn pensiwn wedi’i luosi ag 20) llai (y cyfraniadau a wneir gan yr unigolyn). Nid yw’r cynnydd real yn cynnwys cynnydd oherwydd chwyddiant nac unrhyw gynnydd neu ostyngiad oherwydd trosglwyddo hawliau pensiwn.

2 Mae Georgia Bottomley yn un o weithwyr y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder sy’n talu cyflog Georgia.

Buddion pensiwn (yn amodol ar archwiliad)

Tabl B: Aelodau’r Bwrdd Gweithredol – Costau pensiwn ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022

  Wedi’i gronni adeg oed pensiwn ar 31/3/21 a’r cyfandaliad cysylltiedig Cynnydd real mewn pensiwn a chyfandaliad cysylltiedig ar oed pensiwn CETV ar 31/3/22 CETV ar 31/3/21 Cynnydd real mewn CETV
Aelodau’r Bwrdd Gweithredol £000 £000 £000 £000 £000
Nick Goodwin 30-35 ynghyd â chyfandaliad o 55-60 0 - 2.5 ynghyd â chyfandaliad o 0 504 468 8
Stuart Howard 40-45 ynghyd â chyfandaliad o 105 – 110 0 - 2.5 ynghyd â chyfandaliad o 0 921 877 (5)
Julie Lindsay 45-50 ynghyd â chyfandaliad o 100 – 105 2.5-5 ynghyd â chyfandaliad o 5 – 7.5 907 806 60
Chris Jones 20-25 0-2.5 285 265 7
Ruth Duffin 10-15 0-2.5 102 101 1
Georgia Bottomley 30-35 ynghyd â chyfandaliad o 5 – 10 0 - 2.5 ynghyd â chyfandaliad o 0 452 424 4

Pensiynau’r Gwasanaeth Sifil

Darperir buddion pensiwn drwy drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil. O 1 Ebrill 2015 cyflwynwyd cynllun pensiwn newydd ar gyfer gweision sifil – sef Cynllun Pensiwn Gweision Sifil ac Eraill neu alpha, sy’n darparu buddion yn seiliedig ar gyfartaledd gyrfa gydag oedran pensiwn arferol sy’n cyfateb i Oedran Pensiwn y Wladwriaeth yr aelod (neu 65 os yw’n uwch). O’r dyddiad hwnnw, roedd pob gwas sifil newydd, ynghyd â’r rhan fwyaf o’r bobl sydd eisoes mewn swydd, yn ymuno ag alpha. Cyn hynny, roedd gweision sifil yn rhan o Brif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil . Mae gan y Mae darpariaethau Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil bedair rhan: tair sy’n rhoi buddion ar sail cyflog terfynol (clasurol, premiwm neu clasurol a mwy) gydag oed pensiwn arferol o 60; ac un sy’n rhoi buddion ar sail gyrfa gyfan (nuvos) gydag oed pensiwn arferol o 65.

Nid yw’r trefniadau statudol hyn wedi’u cyllido ac mae cost y buddion yn cael ei thalu gan swm a benderfynir drwy bleidlais gan y Senedd bob blwyddyn. Mae pensiynau sy’n daladwy dan y cynlluniau clasurol, premiwm, clasurol a mwy, nuvos ac alpha yn cael eu cynyddu’n flynyddol yn unol â deddfwriaeth Cynyddu Pensiynau. Arhosodd aelodau sy’n rhan o’r cynllun Mae darpariaethau Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil a oedd o fewn 10 mlynedd o’u hoed pensiwn arferol ar 1 Ebrill 2012 yn y cynllun Mae darpariaethau Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil ar ôl 1 Ebrill 2015. Bydd y rhai sydd rhwng 10 mlynedd a 13 mlynedd a 5 mis o’u hoed pensiwn arferol ar 1 Ebrill 2012 yn newid i alpha rywbryd rhwng 1 Mehefin 2015 ac 1 Chwefror 2022. Bydd buddion Mae darpariaethau Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil pob aelod sy’n newid i gynllun alpha yn cael eu ‘bancio’, gyda’r rheini sydd â buddion cynt yn un o adrannau cyflog terfynol y Mae darpariaethau Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil yn cael y buddion hynny ar sail eu cyflog terfynol pan fyddant yn gadael cynllun alpha. (Mae’r ffigurau pensiwn a ddyfynnir ar gyfer swyddogion yn dangos y pensiwn a enillwyd yn y Mae darpariaethau Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil neu alpha – fel sy’n briodol. Os oes gan y swyddog fuddion yn Mae darpariaethau Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil ac alpha, y ffigur a nodir yw gwerth cyfun eu buddion yn y ddau gynllun.) Gall aelodau sy’n ymuno o Hydref 2002 ymlaen ddewis naill ai’r trefniant buddion diffiniedig priodol neu bensiwn cyfranddeiliaid ‘prynu arian’ gyda chyfraniad cyflogwr (cyfrif pensiwn partneriaeth).

Mae cyfraniadau’r cyflogai’n gysylltiedig â chyflog ac maent yn amrywio rhwng 4.6% a 8.05% ar gyfer aelodau’r cynllun clasurol, premiwm, clasurol a mwy, nuvos ac alpha. Mae’r buddion yn y cynllun clasurol yn cronni ar gyfradd o 1/80fed o enillion pensiynadwy terfynol am bob blwyddyn o wasanaeth. Yn ogystal, telir cyfandaliad sydd gyfwerth â thair blynedd o bensiwn cychwynnol pan fydd cyflogai’n ymddeol. Gyda’r cynllun premiwm, mae’r buddion yn cronni ar gyfradd o un trigeinfed o enillion pensiynadwy terfynol am bob blwyddyn o wasanaeth. Yn wahanol i’r cynllun clasurol, nid oes dim cyfandaliad awtomatig. Mae Clasurol a Mwy yn ei hanfod yn gynllun hybrid gyda buddion yng nghyswllt gwasanaeth cyn 1 Hydref 2002 yn cael eu cyfrifo’n fras fel y cynllun Clasurol, a buddion am wasanaeth ar ôl mis Hydref 2002 yn cael eu cyfrifo fel yn y cynllun Premiwm. Gyda nuvos, mae’r aelod yn cronni pensiwn ar sail ei enillion pensiynadwy tra bo’n aelod o’r cynllun. Ar ddiwedd blwyddyn y cynllun (31 Mawrth) mae cyfrif pensiwn a enillwyd yr aelod yn cael ei gredydu gyda 2.3% o’i enillion pensiynadwy ym mlwyddyn honno’r cynllun ac mae’r pensiwn cronedig yn cael ei gynyddu yn ôl deddfwriaeth Cynyddu Pensiynau. Mae’r buddion yn alpha yn cronni mewn ffordd debyg i nuvos, ond mae’r gyfradd gronni yn 2.32%. Ym mhob achos, gall aelodau ddewis rhoi rhan o’u pensiwn heibio (cyfnewid) i gael cyfandaliad hyd at y terfynau a bennir gan Ddeddf Cyllid 2004.

Cyfrif pensiwn partneriaeth

Mae’r cyfrif pensiwn partneriaeth yn drefniant pensiwn cyfranddeiliaid. Mae’r cyflogwr yn gwneud cyfraniad sylfaenol o rhwng 8% a 14.75% (yn dibynnu ar oed yr aelod) i gynnyrch pensiwn cyfranddeiliaid a ddewisir gan y cyflogai gan y darparwr a benodwyd - Legal and General. Nid oes raid i’r cyflogai gyfrannu, ond os bydd yn gwneud cyfraniadau, bydd y cyflogwr yn talu swm cyfatebol hyd at derfyn o 3% o gyflog pensiynadwy (yn ogystal â chyfraniad sylfaenol y cyflogwr). Mae cyflogwyr hefyd yn cyfrannu 0.5% o gyflog pensiynadwy i dalu cost yswiriant buddion risg a ddarperir yn ganolog (marw yn y swydd ac ymddeol yn sgil salwch).

Y pensiwn cronedig a ddyfynnir yw’r pensiwn y mae gan yr aelod hawl i’w gael pan fydd yn cyrraedd oed pensiwn, neu’n syth ar ôl peidio â bod yn aelod gweithredol o’r cynllun os yw wedi cyrraedd oed pensiwn neu dros yr oedran hwnnw. 60 yw’r oedran pensiwn ar gyfer aelodau cynlluniau clasurol, premiwm a chlasurol a mwy, a 65 ar gyfer aelodau nuvos, a 65 oed neu Oed Pensiwn y Wladwriaeth, pa bynnag yw’r uchaf, ar gyfer aelodau cynllun alpha. (Mae’r ffigurau pensiwn a ddyfynnir ar gyfer swyddogion yn dangos y pensiwn a enillwyd yn y Mae darpariaethau Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil neu alpha – fel sy’n briodol. Os oes gan y swyddog fuddion yn y Mae darpariaethau Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil ac alpha, mae’r ffigur a ddyfynnir yn gyfystyr â gwerth cyfunol y buddion yn y ddau gynllun, ond sylwer y gallai rhan o’r pensiwn hwnnw fod yn daladwy o oedrannau gwahanol.)

Mae manylion pellach am drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil ar gael yn www.civilservicepensionscheme.org.uk.

Gwerthoedd trosglwyddo sy’n gyfwerth ag arian parod

Gwerth trosglwyddo sy’n cyfateb i arian parod yw gwerth buddion y cynllun pensiwn wedi’i gyfalafu a gronnwyd gan aelod ar adeg benodol. Buddion a gronnwyd gan yr aelod yw’r buddion a brisir ynghyd ag unrhyw bensiwn wrth gefn i briod sy’n daladwy o’r cynllun. Gwerth trosglwyddo sy’n cyfateb i arian parod yw taliad a wneir gan gynllun neu drefniant pensiwn i sicrhau buddiannau pensiwn mewn cynllun pensiwn neu drefniant arall pan fydd yr aelod yn gadael cynllun ac yn dewis trosglwyddo’r buddiannau y mae wedi eu cronni yn ei gynllun blaenorol. Mae’r ffigurau pensiwn a nodir yn ymwneud â buddion y mae’r unigolyn wedi eu cronni o ganlyniad i gyfanswm ei aelodaeth yn y cynllun pensiwn, nid dim ond ei wasanaeth mewn swydd uwch y mae’r datgeliad yn berthnasol iddo.

Mae’r ffigurau’n cynnwys gwerth unrhyw fuddion pensiwn mewn cynllun neu drefniant arall y mae’r aelod wedi ei drosglwyddo i drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Maent hefyd yn cynnwys unrhyw fuddion pensiwn ychwanegol a gronnwyd i’r aelod o ganlyniad iddo’n prynu buddion pensiwn ychwanegol ar ei gost ei hun. Cyfrifir Gwerth trosglwyddo sy’n cyfateb i arian parod yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Gwerthoedd Trosglwyddo) (Diwygio) 2008 ac nid yw’n ystyried unrhyw ostyngiad gwirioneddol neu bosibl i fuddion o ganlyniad i Dreth Lwfans Oes a allai fod yn daladwy pan gymerir buddion pensiwn.

Cynnydd real mewn Gwerth trosglwyddo sy’n cyfateb i arian parod

Mae hyn yn adlewyrchu’r cynnydd yn y Gwerth trosglwyddo sy’n cyfateb i arian parod sy’n cael ei ariannu gan y cyflogwr. Nid yw’n cynnwys cynnydd yn y pensiwn cronedig oherwydd chwyddiant, cyfraniadau’r cyflogai (gan gynnwys gwerth unrhyw fuddion a drosglwyddwyd o gynllun neu drefniant pensiwn arall) ac mae’n defnyddio ffactorau prisio cyffredin y farchnad ar gyfer dechrau a diwedd y cyfnod.

Datgeliad Cyflog Teg (yn amodol ar archwiliad)

Mae’n ofynnol i gyrff adrodd ddatgelu’r berthynas rhwng tâl y cyfarwyddwr sy’n cael y cyflog mwyaf yn eu sefydliad â thâl chwartel isaf, canolrifol a chwartel uchaf gweithlu’r sefydliad.

Tabl C: Newid canrannol o’r flwyddyn flaenorol yng nghyfanswm cyflog a bonysau’r cyfarwyddwr sy’n cael y cyflog uchaf a’r swm cyfartalog i staff.

  Cyfanswm cyflog 2021 i 2022 Taliadau Bonws 2021 i 2022 Cyfanswm cyflog 2020 i 2021 Taliadau Bonws 2020 i 2021
Cyfartaledd staff 6.0% -16.2% 1.3% 15.0%
Y cyfarwyddwr sy’n cael y cyflog uchaf 0% 60% 2.7% -1.0%

Tabl D: Cymhareb rhwng cyfanswm tâl y cyfarwyddwyr sy’n cael y cyflog uchaf a chyflog a buddion gweithwyr yn y chwartel isaf, y canolrif a’r chwartel uchaf

  Chwartel isaf Canolrif Chwartel uchaf
2021 i 2022 5.6:1 5.5:1 4.7:1
2020 i 2021 5.6:1 5.2:1 4.8:1

Tabl E: Y chwartel isaf, y canolrif a’r chwartel uchaf o ran cyflogau staff a chyfanswm cyflog a buddion.

  LChwartel isaf Chwartel isaf Canolrif Canolrif Chwartel uchaf Chwartel uchaf
  2020 i 2021 2021 i 2022 2020 i 2021 2021 i 2022 2020 i 2021 2020 i 2021
Elfen gyflog y cyfanswm cyflog a buddion (£) 20,965 19,926 20,975 19,926 25,118 22,566
Cyfanswm Cyflogau a Buddion (£) 20,965 19,926 21,488 21,488 25,118 23,516

Tâl band y cyfarwyddwr sy’n derbyn y cyflog mwyaf yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn 2021 i 2022 oedd £100,000-105,000 (2020 i 2021, £100,000-105,000). Roedd hyn 5.5 gwaith (2020 i 2021, 5.2) yn fwy na thâl canolrifol y gweithlu, a oedd yn £21,488 (2020 i 2021, £21,488).

Yn 2021 i 2022, ni dderbyniodd unrhyw gyflogeion (2020 i 2021, dim) dâl mwy na’r cyfarwyddwr sy’n derbyn y cyflog mwyaf. Roedd y taliadau’n amrywio o £15,000-£20,000 i £80,000-£85,000 (2020 i 2021 £15,000-£20,000 i £75,000 i £80,000).

Mae’r cyfanswm tâl yn cynnwys cyflog, tâl seiliedig ar berfformiad heb ei gyfuno, a buddion o fath arall. Nid yw’n cynnwys taliadau diswyddo, cyfraniadau pensiwn y cyflogwr na gwerth trosglwyddo cyfwerth ag arian pensiynau.

Yn 2020 i 2021, yn dilyn cymeradwyaeth gan Swyddfa’r Cabinet a Thrysorlys EM, cyflwynwyd cytundeb cyflog tair blynedd ar gyfer y Weinyddiaeth Gyfiawnder, gan gynnwys gweithwyr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Mae’r cytundeb tâl tair blynedd yn para rhwng 1 Awst 2020 a 31 Gorffennaf 2023, cafodd blynyddoedd un a dwy eu rhoi ar waith ym mis Medi a mis Hydref 2021 yn y drefn honno (a’u hôl-ddyddio), a bydd y drydedd flwyddyn yn cael ei rhoi ar waith ym mis Awst 2022. Drwy roi’r dyfarniad cyflog ar waith yn 2021 i 2022, cynyddwyd y tâl cyfartalog ar gyfer staff. Y rheswm dros y cynnydd yn y gymhareb rhwng tâl y cyfarwyddwyr sy’n cael y tâl uchaf a chwartel isaf a chwartel uchaf y staff yw’r gyfradd gadw staff isel yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Fodd bynnag, cynyddodd cyflog canolrifol y staff o’i gymharu â chanolrif y flwyddyn flaenorol.

Ni newidiodd cyflog band y cyfarwyddwr sy’n cael y cyflog uchaf yn ystod y ddwy flynedd diwethaf.

Adroddiad staff

Costau staff (yn amodol ar archwiliad)

      2021
i 2022
2020
i 2021
  Staff a gyflogir
yn barhaol
Eraill Cyfanswm Cyfanswm
Costau staff £000 £000 £000 £000
Cyflogau wythnosol a misol 33,604 7,365 40,969 39,749
Costau nawdd cymdeithasol 2,898 - 2,898 3,044
Costau pensiwn eraill 7,895 - 7,895 8,461
Cyfanswm costau gros 44,397 7,365 51,762 51,254
Llai asedau adferadwy mewn perthynas
â secondiadau i’r tu allan
(65)
44,332

7,365
(65)
51,697
(40)
51,214
Aelodau anweithredol
(ffioedd a buddion)
26 - 26 25
Cyfanswm costau net 44,358 7,365 51,723 51,239

Cyflwynodd y llywodraeth yr Ardoll Brentisiaethau ar 1 Ebrill 2017. Ystyrir bod talu’r ardoll yn fath o drethiant ac felly caiff ei chyfrif fel cost treth fel rhan o gostau staff.

Niferoedd staff (yn amodol ar archwiliad)

Roedd cyfartaledd nifer yr unigolion cyfwerth ag amser llawn a gyflogwyd yn ystod y flwyddyn fel a ganlyn:

    2021
i 2022
  2020
i 2021
  Cyfanswm Staff a gyflogir
yn barhaol
Eraill Cyfanswm
Wedi’u cyflogi’n uniongyrchol 1,291 1,291 - 1,366
Arall 232 - 232 122
Cyfanswm 1,523 1,291 232 1,488

Cyfansoddiad staff

Mae’r tabl cyfansoddiad staff yn dangos nifer y staff mewn swyddi ar 31 Mawrth 2022.

Cyflogeion Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (ac eithrio uwch weision sifil)

  • Gwryw: 639
  • Benyw: 797

Uwch weision sifil

Mae aelodau’r bwrdd yn cynnwys staff canlynol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus sy’n cael eu talu’n uniongyrchol – dwy fenyw ac un gwryw ar SCS1.

Absenoldeb salwch

Nifer y diwrnodau gwaith a gollwyd ar gyfartaledd eleni oedd 10.8 diwrnod (2020 i 2021 9.5 diwrnod).

Trosiant staff

Yn 2021 i 2022, mae trosiant staff yn 14.7% (roedd yn 10.5% rhwng 2020 a 2021). Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn parhau i fonitro cyfraddau trosiant ac yn cefnogi cynlluniau i gynnal lefel trosiant iach. Mae Arolwg Pobl blynyddol y Gwasanaeth Sifil ynghyd â darnau eraill o ymchwil, yn ein helpu i ddeall profiad ein pobl o weithio yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac i gymryd camau priodol i wella effeithiolrwydd, gan gynnwys pan fydd trosiant yn creu problemau.

Ymgysylltu â staff

Mae ein cyfradd ymateb o 71% i’r Arolwg Pobl yn rhoi darlun da o brofiadau pawb yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Mewn blwyddyn pan nad yw cyfathrebu clir a chadw mewn cysylltiad drwy’r pandemig erioed wedi bod yn bwysicach, mae ein sgôr mynegai ymgysylltu wedi gwella i 65%, i fyny o 64% y llynedd a 5% yn uwch na’r sgôr cyfartalog ar draws y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Rydym wedi cynyddu ein sgoriau mewn tair o’r naw thema ymgysylltu craidd. Sef:

  • fy ngwaith
  • fy rheolwr
  • cyflog a buddion

Arhosodd ein sgôr yr un fath mewn tair thema arall. Sef:

  • dysgu a datblygu
  • cynhwysiant ac adnoddau
  • llwyth gwaith

Polisïau staff a ddefnyddiwyd yn ystod y flwyddyn

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cydymffurfio â pholisi anabledd y Weinyddiaeth Gyfiawnder mewn perthynas â recriwtio, hyfforddi a datblygu staff ag anableddau. Rydym yn recriwtio, hyfforddi a datblygu pobl ar sail eu sgiliau, eu cymhwyster a’u gallu i wneud y swydd.

Fel rhan o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, rydym yn gweithredu yn unol ag amrywiaeth o bolisïau, gweithdrefnau ac arferion adnoddau dynol, sy’n cynnwys:

  • gweithio’n hyblyg
  • bwlio ac aflonyddu
  • cyfryngu
  • recriwtio a dethol
  • cydraddoldeb ac amrywiaeth
  • rheoli presenoldeb (mae gennym nifer o staff ag anabledd lle cytunwyd ar addasiadau rhesymol er mwyn eu galluogi i gyflawni eu dyletswyddau)
  • rheoli perfformiad
  • hyfforddiant

Ymgysylltiadau oddi ar y gyflogres

Yn ystod blwyddyn ariannol 2021 i 2022, mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi adolygu ymgysylltiadau oddi ar y gyflogres lle mae’n rhaid i ni ystyried cyfryngwyr, (IR35), deddfwriaeth gan ddefnyddio canllawiau CThEM a dangosydd statws ar-lein. Rydym wedi hysbysu ein corff contractio ynghylch canlyniad y penderfyniadau ar statws fel bod didyniadau treth yn cael eu gwneud, lle bo hynny’n briodol, yn y tarddiad o daliadau a wneir mewn perthynas ag ymgysylltu â’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus . Mae rhagor o fanylion am ymgysylltiadau oddi ar y gyflogres ar gael yn nhablau oddi ar y gyflogres Grŵp y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar gyfer 2021 i 2022.

Cynhaliwyd adolygiad ar draws y Weinyddiaeth Cyfiawnder o gontractau gwasanaeth a gontractiwyd allan yn y flwyddyn ariannol gyfredol a nodwyd bod nifer fechan o’r rhain yn cynnwys adnodd elfennau. Gall trefniadau gwasanaeth wedi’u contractio allan sy’n gweithredu gydag elfennau adnoddau arwain at atebolrwydd am drethi cyflogaeth a TAW os cafodd hyn ei adennill mewn camgymeriad. Ni nodwyd unrhyw gontractau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, gan gynnwys elfennau o adnoddau, o ganlyniad i’r adolygiad hwn.

Adrodd am gynlluniau Gwasanaeth Sifil a chynlluniau iawndal eraill – pecynnau ymadael (yn amodol ar archwiliad)

Talwyd costau dileu swydd a chostau ymadael eraill yn unol â darpariaethau Cynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil, sy’n gynllun statudol a luniwyd o dan Ddeddf Blwydd-daliadau 1972. Cyfrifir y costau ymadael yn llawn yn y flwyddyn ymadael berthnasol.

Pan fydd adran y llywodraeth wedi cytuno ar ymddeoliadau cynnar, mae’r costau ychwanegol yn cael eu talu gan yr adran ac nid gan Brif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil.

Ni thalwyd pecynnau ymadael yn 2021 i 2022 (2020 i 2021: dim pecynnau ymadael wedi cael eu talu).

Amser cyfleuster undebau llafur

Nifer y cyflogeion a oedd yn swyddogion undeb perthnasol yn ystod 2021 i 2022 9
Faint o weithwyr a oedd yn swyddogion undeb perthnasol yn ystod y cyfnod perthnasol a dreuliodd a) 0%, b) 1-50%, c) 51-99% neu d) 100% o’u horiau gwaith ar amser cyfleuster b) 9
Canran cyfanswm y bil cyflogau a dreuliwyd ar amser cyfleuster 0.050%
Amser a dreuliwyd ar weithgareddau undebau llafur â thâl fel canran o gyfanswm oriau amser cyfleuster gyda thâl 0

Gwariant ar ymgynghorwyr

Nid oedd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi cyflogi ymgynghorwyr yn ystod 2021 i 2022 (2020 i 2021: dim).

Iawndal am golli swydd (yn amodol ar archwiliad)

Ni wnaed unrhyw iawndaliadau yn 2021 i 2022 ar gyfer ymddeoliad cynnar neu golli swydd. (Yn 2020 i 2021, £6,000 oedd y ffigur hwn).

Stuart Howard
Gwarcheidwad Cyhoeddus a Swyddog Cyfrifyddu
19/07/22

Atebolrwydd Seneddol ac adroddiad archwilio

Datganiad cyflenwad seneddol

Ariennir Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gan incwm sy’n deillio o ffioedd a thaliadau gan gwsmeriaid allanol, ac os oes angen, drwy gyllid gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder o’i Chyflenwad Seneddol.

Yn yr un modd ag asiantaethau eraill y llywodraeth, rhaid i gyllid ar gyfer y dyfodol gael ei gymeradwyo gan ein hadran noddi, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, a chan y Senedd. Mae cymeradwyaeth eisoes wedi cael ei rhoi ar gyfer 2022 i 2023 ac nid oes rheswm dros gwestiynu cyllid Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn y dyfodol. Felly, mae datganiadau ariannol wedi cael eu paratoi ar sail busnes byw at ddibenion adrodd ariannol a phrisio asedau.

Rheoleidd-dra gwariant (yn amodol ar archwiliad)

Mae’r Prif Swyddog Cyfrifyddu ar gyfer y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi dynodi Gwarcheidwad Cyhoeddus Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn Swyddog Cyfrifyddu ar gyfer yr asiantaeth. Mae cyfrifoldebau’r swyddog cyfrifyddu, gan gynnwys cyfrifoldeb dros briodoldeb a chysondeb y cyllid cyhoeddus y mae’r swyddog cyfrifyddu yn atebol amdanynt, cadw cofnodion cywir ac amddiffyn asedau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, wedi’u nodi yn Rheoli Arian Cyhoeddus a gyhoeddwyd gan Drysorlys EM. Nid oedd materion rheoleidd-dra i sôn amdanynt. Mae’r Rheolwr a’r Archwilydd Cyffredinol yn cadarnhau hyn yn ei farn ar reoleidd-dra ar dudalen 73.

Ffioedd a thaliadau (yn amodol ar archwiliad)

Y ffi am gofrestru atwrneiaeth yw £82. Mae hon yn ffi uwch o dan Adran 180 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, sy’n caniatáu i’r Arglwydd Ganghellor, gyda chydsyniad Trysorlys EM, i osod ffi sy’n fwy na chost darparu’r gwasanaeth hwnnw. Mewn blynyddoedd blaenorol, rydym wedi defnyddio’r pŵer hwn i godi ffi uwch ar gyfer cofrestru atwrneiaethau i dalu am gostau dileu ffioedd ac esemptiad rhag talu ffioedd ac i sybsideiddio costau gweithredu’r gwasanaeth goruchwylio.

Er bod niferoedd yr atwrneiaethau wedi cynyddu o’i gymharu â’r flwyddyn ariannol flaenorol, mae’r ceisiadau a gofrestrwyd ar gyfer atwrneiaethau yn dal i fod yn gyfyngedig oherwydd diffyg capasiti prosesu oherwydd pandemig COVID-19. Cofnododd y gwasanaeth atwrneiaethau warged o £387,000 yn 2021 i 2022. Mae costau llawn darparu gwasanaethau’r asiantaeth a’r ffioedd a godir mewn perthynas â hyn wedi’u nodi yn y tabl isod.

  Cyfanswm incwm Cost lawn Cost uned Gor-dâl / croes-gymhorthdal
  £000 £000 £ £000
Atwrneiaethau Arhosol 56,501 56,115 79 386
Atwrneiaeth Barhaus 568 567 79 1
Penodi dirprwy 725 2,844 303 (2,119)
Goruchwyliaeth 10,231 17,472 306 (7,241)
Copïau swyddfa 323 321 33 2

Nid yw’r tabl uchod yn cynnwys incwm o ffioedd gwarcheidiaeth oherwydd y nifer isel o achosion.

Ffioedd a ddilëwyd

Cafodd 97,112 o ffioedd eu dileu neu eu heithrio. Cyfanswm y gwerth oedd £6.568k (2020 i 2021: 82,439 o achosion – £6,568,000 fel y disgrifir yn Nodyn 2). Ni chynhwysir hawlildiad o ffioedd yn y ffigurau hyn.

Adennill costau

Nid ydym wedi cyflawni ein hamcan o adennill costau’n llawn, llwyddodd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i adennill 88.7% o’i chostau, gan gofnodi diffyg o £8,743,000. Cafodd hyn ei sbarduno’n bennaf gan gyfyngiadau sy’n ymwneud â COVID-19, a arweiniodd at fwy o heriau gweithredol. Bu cynnydd o 40% yn nifer yr atwrneiaethau a gafwyd o’i gymharu â’r flwyddyn ariannol flaenorol. Fodd bynnag, mae’r cyfyngiadau o ran adnoddau ynghyd â’r mesurau cadw pellter cymdeithasol sydd ar waith ar gyfer y rhan fwyaf o’r flwyddyn wedi cynyddu’r balans incwm gohiriedig ddiwedd mis Mawrth 2022. Disgwylir y bydd y sefyllfa o ran adennill costau’n well ar gyfer blwyddyn ariannol 2022 i 2023 wrth i’r busnes weithio drwy’r ôl-groniad o geisiadau atwrneiaeth a gafwyd yn ystod y flwyddyn (gweler nodyn 6 yn y datganiadau ariannol.

Colledion a thaliadau arbennig (yn amodol ar archwiliad)

    2021 i 2022   2020 i 2021
  Nifer £000 Nifer £000
Taliadau arbennig 4 16 7 29
Colledion arian parod - - 113 10
Ildio ffioedd 4,898 608 6,478 513
Dileu symiau nad ydynt yn ffioedd - - 28 4
Ex gratia 256 17 118 46
Taliadau di-fudd - - 1 1,965
Cyfanswm 5,158 641 6,745 2,567

Adroddwyd am yr holl golledion a thaliadau arbennig ar sail croniadau.

Ildio ffioedd yn ôl disgresiwn

Rhoddir hawlildiad o ffioedd yn unol â’r offeryn statudol pan nad yw’r rhoddwr/ cleient yn gymwys i gael esemptiad neu ddileu ffi ond y byddai talu’r ffi, ym marn y Gwarcheidwad Cyhoeddus, yn achosi caledi mawr, fel cydnabyddiaeth o’r camweinyddu.

Rhwymedigaethau digwyddiadol o bell (yn amodol ar archwiliad)

Nid oes rhwymedigaethau digwyddiadol o bell (2020 i 2021: dim).

Rhoddion (yn amodol ar archwiliad)

Nid oedd y rhoddion gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn 2021 i 2022 a 2020 i 2021 yn fwy na’r trothwy adrodd o £0.3 miliwn.

Stuart Howard
Gwarcheidwad Cyhoeddus a Swyddog Cyfrifyddu
19/07/22

Tystysgrif ac adroddiad y Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol i ddau Dŷ’r Senedd

Barn ar y datganiadau ariannol

Tystiaf fy mod wedi archwilio datganiadau ariannol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022 dan Ddeddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000.

Mae’r datganiadau ariannol yn cynnwys datganiadau canlynol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

  • Datganiad o’r Sefyllfa Ariannol ar 31 Mawrth 2022;
  • Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr, Datganiad Llifoedd Arian a Datganiad o Newidiadau yn Ecwiti Trethdalwyr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben bryd hynny; ac
  • y nodiadau cysylltiedig gan gynnwys y polisïau cyfrifyddu pwysig.

Y fframwaith adrodd ariannol a ddefnyddiwyd wrth baratoi’r datganiadau ariannol yw’r gyfraith berthnasol a’r Safonau Cyfrifyddu Rhyngwladol.

Yn fy marn i, mae’r datganiadau ariannol:

  • yn rhoi darlun cywir a theg o gyflwr materion Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar 31 Mawrth 2022 a’i gwarged net gweithredol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar y dyddiad hwnnw; ac
  • wedi’u paratoi’n briodol yn unol â Deddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000 a chyfarwyddiadau Trysorlys ei Mawrhydi a gyhoeddwyd dan y ddeddf.

Barn ar reoleidd-dra

Yn fy marn i, ym mhob ffordd o bwys mae’r incwm a’r gwariant a gofnodir yn y datganiadau ariannol wedi cael eu defnyddio at y dibenion y’u bwriadwyd gan y Senedd ac mae’r trafodion ariannol a gofnodir yn y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu llywodraethu.

Sail y farn

Cynhaliais fy archwiliad yn unol â’r Safonau Rhyngwladol ar Archwilio (y DU) a Nodyn Ymarfer 10 Archwilio Datganiadau Ariannol Endidau Sector Cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig. Caiff fy nghyfrifoldebau o dan y safonau hynny eu disgrifio ymhellach yng nghyfrifoldebau’r Archwilydd er mwyn archwilio adran datganiadau ariannol fy nhystysgrif.

Mae’r safonau hynny’n ei gwneud yn ofynnol i mi a fy staff gydymffurfio â Safon Moesegol Diwygiedig y Cyngor Adrodd Ariannol 2019. Rwyf hefyd wedi dewis cymhwyso’r safonau moesegol sy’n berthnasol i endidau a restrir. Rwyf yn annibynnol ar Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn unol â’r gofynion moesegol sy’n berthnasol i’m harchwiliad a’r datganiadau ariannol yn y DU. Mae fy staff a minnau wedi cyflawni ein cyfrifoldebau moesegol eraill yn unol â’r gofynion hyn.

Credaf fod y dystiolaeth rwyf wedi’i chasglu o’r archwiliad yn ddigonol ac yn briodol er mwyn rhoi sail ar gyfer fy marn.

Casgliadau’n ymwneud â busnes byw

Wrth archwilio’r datganiadau ariannol, rwyf wedi dod i’r casgliad bod defnydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o sail cyfrifyddu busnes byw wrth baratoi’r datganiadau ariannol yn briodol.

Ar sail y gwaith rwyf wedi’i wneud, nid wyf wedi nodi unrhyw ansicrwydd o bwys sy’n ymwneud â digwyddiadau neu amodau a allai, yn unigol neu ar y cyd, fwrw amheuaeth sylweddol ar allu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i barhau fel busnes byw am gyfnod o ddeuddeng mis o leiaf o’r adeg yr awdurdodir cyhoeddi’r datganiadau ariannol.

Disgrifir fy nghyfrifoldebau a chyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu mewn perthynas â busnes byw yn adrannau perthnasol y dystysgrif hon.

Mae’r sail cyfrifyddu busnes byw ar gyfer Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael ei mabwysiadu wrth ystyried y gofynion a nodir yn Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth Trysorlys EM, sy’n mynnu bod endidau’n mabwysiadu’r sail cyfrifyddu busnes byw wrth baratoi’r datganiadau ariannol lle’r oedd yn rhagweld y byddai’r gwasanaethau a ddarperir ganddynt yn parhau i’r dyfodol.

Gwybodaeth arall

Mae’r wybodaeth arall yn cynnwys gwybodaeth yn yr Adroddiad Blynyddol, ond nid yw’n cynnwys rhannau o’r Adroddiad Atebolrwydd y nodir eu bod wedi’u harchwilio yn yr adroddiad hwnnw, y datganiadau ariannol na thystysgrif ac adroddiad fy archwilydd. Y Swyddog Cyfrifyddu sy’n gyfrifol am yr wybodaeth arall.

Nid yw fy marn ar y datganiadau ariannol yn cynnwys yr wybodaeth arall ac eithrio i’r graddau a nodir yn benodol yn fy nhystysgrif, nid wyf yn mynegi unrhyw fath o gasgliad sicrwydd ar hynny.

Yng nghyswllt fy archwiliad o’r datganiadau ariannol, fy nghyfrifoldeb i yw darllen yr wybodaeth arall a, drwy wneud hynny, ystyried a yw’r wybodaeth arall yn sylweddol anghyson â’r datganiadau ariannol neu fy ngwybodaeth a gafwyd yn yr archwiliad neu sydd yn ymddangos fel camddatganiad sylweddol fel arall.

Os byddaf yn canfod anghysonderau o bwys neu gamddatganiadau o bwys amlwg o’r fath, mae’n ofynnol i mi benderfynu a yw hyn yn arwain at gamddatganiad o bwys yn y datganiadau ariannol eu hunain. Ar sail y gwaith rwyf wedi’i wneud, os byddaf yn dod i’r casgliad bod camddatganiad o bwys o’r wybodaeth arall hon, mae’n rhaid i mi adrodd ar y ffaith honno.

Nid oes gennyf ddim i’w adrodd i’r perwyl hwn.

Barn ar faterion eraill

mae’r rhannau o’r Adroddiad Tâl a Staff sydd i’w harchwilio wedi’i pharatoi’n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Trysorlys ei Mawrhydi a wnaed o dan Ddeddf Adnoddau a Chyfrifon 2000 y Llywodraeth; Yn fy marn i, ar sail y gwaith a wnaed yn ystod yr archwiliad:

  • mae’r rhannau o’r Adroddiad Atebolrwydd sy’n destun archwiliad wedi’u paratoi’n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Trysorlys ei Mawrhydi a wnaed dan Ddeddf Adnoddau a Chyfrifon 2000 y Llywodraeth; ac
  • mae’r wybodaeth yn yr Adroddiadau Perfformiad ac Atebolrwydd ar gyfer y flwyddyn ariannol y mae’r datganiadau ariannol wedi’u paratoi ar ei chyfer yn cyd-fynd â’r datganiadau ariannol ac yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol.

Materion y cyflwynaf adroddiad arnynt drwy eithriad

Yng ngoleuni fy ngwybodaeth a’m dealltwriaeth o Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a’i hamgylchedd a gafwyd yn ystod yr archwiliad, nid wyf wedi dod o hyd i unrhyw gamddatganiadau materol yn yr Adroddiad Perfformiad ac Atebolrwydd.

Nid oes gennyf ddim i’w adrodd yng nghyswllt y materion canlynol lle mae’n ofynnol i mi roi gwybod i chi os ydw i’n credu:

  • Nid wyf wedi derbyn yr holl wybodaeth ac esboniadau y mae eu hangen arnaf ar gyfer fy archwiliad; neu
  • nad oes digon o gofnodion cyfrifyddu wedi’u cadw gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus neu os nad oes ffurflenni perthnasol i’n harchwiliad wedi cael eu cyflwyno gan ganghennau nad yw ein staff wedi ymweld â nhw; neu
  • os nad yw’r datganiadau ariannol a rhannau o’r Adroddiad Atebolrwydd a fydd yn destun archwiliad yn cyd-fynd â’r cofnodion cyfrifyddu a’r ffurflenni; neu
  • nid yw rhai o’r taliadau a nodir yn Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth gan Drysorlys EM wedi cael eu gwneud neu nid yw rhannau o’r Adroddiad Tâl a Staff sydd i’w harchwilio yn cyd-fynd â’r ffurflenni a’r cofnodion cyfrifyddu; neu
  • nid yw’r Datganiad Llywodraethu’n adlewyrchu cydymffurfiaeth â chanllawiau Trysorlys EM.

Cyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu dros y datganiadau ariannol

Fel yr eglurir yn fanylach yn y Datganiad o Gyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu, mae’r Swyddog Cyfrifyddu yn gyfrifol am y canlynol:

  • cadw cofnodion cyfrifyddu priodol;
  • paratoi’r datganiadau ariannol ac Adroddiad Blynyddol yn unol â’r fframwaith adrodd ariannol perthnasol ac ar gyfer bod yn fodlon eu bod yn rhoi darlun cywir a theg;
  • sicrhau bod yr Adroddiad Blynyddol a’r cyfrifon yn eu cyfanrwydd yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy;
  • rheolaethau mewnol y mae’r Swyddog Cyfrifyddu yn penderfynu sy’n angenrheidiol i alluogi paratoi datganiadau ariannol i fod yn rhydd o gamddatganiadau o bwys, boed hynny oherwydd twyll neu gamgymeriad; ac
  • asesu gallu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i barhau fel busnes byw, gan ddatgelu, fel y bo’n berthnasol, faterion sy’n gysylltiedig â busnes byw a defnyddio’r sail cyfrifyddu busnes byw oni fo’r Swyddog Cyfrifyddu yn rhagweld na fydd y gwasanaethau a ddarperir gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn parhau i gael eu darparu yn y dyfodol.

Cyfrifoldebau’r Archwilydd dros archwilio’r datganiadau ariannol

Fy nghyfrifoldeb i yw archwilio, ardystio ac adrodd ar y datganiadau ariannol yn unol â Deddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000.

Fy amcanion yw cael sicrwydd rhesymol ynghylch a yw’r datganiadau ariannol yn eu cyfanrwydd yn rhydd o gamddatganiadau o bwys, boed hynny oherwydd twyll neu gamgymeriad, a rhoi tystysgrif sy’n cynnwys fy marn i. Mae sicrwydd rhesymol yn golygu lefel uchel o sicrwydd, ond nid yw hynny’n gwarantu bod archwiliad sy’n cael ei gynnal yn unol ag ISA (DU) bob amser yn canfod camddatganiadau sylweddol. Gall camddatganiadau ddeillio o dwyll neu wallau ac maent yn cael eu hystyried yn gamddatganiadau o bwys os, yn unigol neu gyda’i gilydd, y gellid yn rhesymol ddisgwyl iddynt ddylanwadu ar benderfyniadau economaidd defnyddwyr sydd wedi’u gwneud ar sail y datganiadau ariannol hyn.

I ba raddau yr ystyriwyd bod yr archwiliad yn gallu canfod achosion o beidio â chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau, gan gynnwys twyll

Rwy’n dylunio gweithdrefnau yn unol â fy nghyfrifoldebau, a amlinellir uchod, i ganfod camddatganiadau perthnasol yng nghyswllt peidio â chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau, gan gynnwys twyll. Nodir isod fanylion ynghylch i ba raddau y gall fy ngweithdrefnau ganfod achosion o beidio â chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau, gan gynnwys twyll.

Canfod ac asesu risgiau posibl sy’n gysylltiedig â diffyg cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau, gan gynnwys twyll

Wrth ganfod ac asesu risgiau camddatganiadau perthnasol yng nghyswllt peidio â chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau, gan gynnwys twyll, fe wnaethom ystyried y canlynol:

  • natur y sector, yr amgylchedd rheoli a pherfformiad gweithredol gan gynnwys dyluniad polisïau cyfrifyddu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
  • holi rheolwyr, pennaeth archwilio mewnol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, a’r rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu, gan gynnwys cael ac adolygu dogfennau ategol sy’n ymwneud â pholisïau a gweithdrefnau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus sy’n ymwneud â’r canlynol:
    • canfod, gwerthuso a chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau ac a oeddent yn ymwybodol o unrhyw achosion o ddiffyg cydymffurfio;
    • canfod ac ymateb i risgiau twyll ac a oes ganddynt wybodaeth am unrhyw dwyll gwirioneddol, twyll a amheuir neu dwyll honedig; a’r
    • rheolaethau mewnol a sefydlwyd i liniaru risgiau sy’n gysylltiedig â thwyll neu ddiffyg cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau gan gynnwys rheolaethau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus sy’n ymwneud â chydymffurfiad y Swyddfa â Deddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000 a Rheoli Arian Cyhoeddus;
  • trafod ymysg y tîm ymgysylltu ynghylch sut a ble y gallai twyll ddigwydd yn y datganiadau ariannol ac unrhyw ddangosyddion posibl o dwyll.

O ganlyniad i’r gweithdrefnau hyn, ystyriais y cyfleoedd a’r cymhellion a allai fodoli yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar gyfer twyll a nodais bod y posibilrwydd mwyaf ar gyfer twyll yn y meysydd canlynol: cydnabod refeniw, postio cyfnodolion anarferol, amcangyfrifon cyfrifyddu ac yn benodol cyfrifo’r lwfans amhariad symiau derbyniadwy. Yn yr un modd â phob archwiliad o dan ISAs (y DU), mae’n ofynnol i mi hefyd ddilyn gweithdrefnau penodol i ymateb i’r risg y bydd rheolwyr yn diystyru rheolaethau.

Cefais hefyd ddealltwriaeth o fframwaith awdurdod Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ogystal â fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol eraill y mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gweithredu ynddynt, gan ganolbwyntio ar y cyfreithiau a’r rheoliadau hynny a gafodd effaith uniongyrchol ar y symiau perthnasol a datgeliadau yn y datganiadau ariannol neu a gafodd effaith sylfaenol ar weithrediadau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Roedd y cyfreithiau a’r rheoliadau allweddol y rhoddais ystyriaeth iddynt yn y cyd-destun hwn yn cynnwys Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth 2020-21 (FReM) a gyhoeddwyd gan Drysorlys EM dan Ddeddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000 a chyfarwyddiadau’r Ysgrifennydd Gwladol a gyhoeddwyd yno dan Reoliadau Rheoli Arian Cyhoeddus, Cyfraith Cyflogaeth, Pensiynau a Threthi, deddfau diogelu data a’r Ddeddf Galluedd Meddyliol.

Ymateb yr archwiliad i risg a nodwyd

Yn sgil perfformio’r uchod, roedd y gweithdrefnau a gyflwynais i ymateb i risgiau a nodwyd yn cynnwys y canlynol:

  • adolygu datgeliadau’r datganiadau ariannol a phrofi dogfennau ategol i asesu cydymffurfiad â darpariaethau’r cyfreithiau a’r rheoliadau perthnasol a ddisgrifir uchod fel eu bod yn cael effaith uniongyrchol ar y datganiadau ariannol;
  • holi rheolwyr a’r Pwyllgor Archwilio a Risg ynghylch ymgyfreitha a hawliadau gwirioneddol a phosibl;
  • darllen ac adolygu cofnodion cyfarfodydd y rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu a’r Bwrdd ac adroddiadau archwilio mewnol; ac
  • wrth fynd i’r afael â’r risg o dwyll drwy ddiystyru rheolaethau gan reolwyr, profi priodoldeb cofnodion dyddlyfrau ac addasiadau eraill; asesu a yw’r penderfyniadau a wneir wrth wneud amcangyfrifon cyfrifyddu yn arwydd o ragfarn bosibl; a gwerthuso rhesymeg busnes unrhyw drafodion arwyddocaol sy’n anarferol neu y tu allan i gwrs arferol busnes.

Rwyf hefyd wedi cyfleu’r cyfreithiau a’r rheoliadau perthnasol a nodwyd a’r risgiau posibl o ran twyll i holl aelodau’r tîm ymgysylltu, ac roeddwn yn dal yn effro i unrhyw arwyddion o dwyll neu ddiffyg cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau drwy gydol yr archwiliad.

Mae disgrifiad pellach o fy nghyfrifoldebau dros archwilio’r datganiadau ariannol ar gael ar wefan y Cyngor Adroddiadau Ariannol yn: www.frc.org.uk/auditorsresponsibilities. Mae’r disgrifiad hwn yn rhan o fy nhystysgrif.

Cyfrifoldebau eraill yr archwilydd

Mae’n rhaid i mi gael tystiolaeth sy’n ddigon i roi sicrwydd rhesymol bod yr incwm a’r gwariant a adroddwyd yn y datganiadau ariannol wedi cael eu defnyddio at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd a bod trafodion ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu llywodraethu.

Rwyf yn cyfathrebu â’r rheini sydd yn gyfrifol am lywodraethu ynghylch, ymysg materion eraill, cwmpas ac amseriad yr archwiliad a chanfyddiadau pwysig yr archwiliad, gan gynnwys unrhyw ddiffygion sylweddol mewn rheolaeth fewnol y byddaf yn dod o hyd iddynt yn ystod fy archwiliad.

Adroddiad

Nid oes gennyf sylwadau i’w gwneud ar y datganiadau ariannol hyn.

Gareth Davies

19/07/22

Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol y Swyddfa
Archwilio Genedlaethol
157-197 Buckingham Palace Road
Victoria
Llundain SW1W 9SP

Datganiadau ariannol

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022

    2021
to 2022
2020
to 2021
  Nodyn £000 £000
Costau staff 3 51,723 51,239
Costau gweithredu eraill 4 11,513 10,688
Gwariant anariannol arall 5 14,083 19,203
Refeniw o gontractau gyda chwsmeriaid 2 (68,576) (62,262)
Diffyg ariannol net   8,743 18,868
    2021
i 2022
2020
i 2021
Gwariant Net Cynhwysfawr Arall ar gyfer yr hanner blwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022      
  Nodyn £000 £000
Eitemau na chânt eu hailgategoreiddio i’r diffyg net gweithredolt      
(Enillion) / colledion net ar ailbrisio eiddo, offer a chyfarpar 7 (28) 6
Enillion net ar ailbrisio asedau anniriaethol 8 8 (20)
Cyfanswm incwm a gwariant cynhwysfawr   8,723 18,854

Datganiad o’r Sefyllfa Ariannol ar 31 Mawrth 2022

    31 Mawrth
2022
31 Mawrth
2021
 
  Nodyn £000 £000  
Asedau anghyfredol        
Eiddo, offer a chyfarpar 7 2,049 822  
Asedau anniriaethol 8 7,544 674  
Asedau hawl i ddefnyddio 9 9,150 -  
Cyfanswm asedau anghyfredol   18,743 1,496  
Asedau cyfredol        
Masnach a symiau derbyniadwy eraill 10 10,328 9,310  
Arian parod a chyfwerth ag arian parod 11 8,490 6,429  
Cyfanswm asedau cyfredol   18,878   15,739
Cyfanswm asedau   36,499   17,235
Rhwymedigaethau cyfredol        
Masnach a symiau taladwy eraill 12 (36,218) (28,497)  
Rhwymedigaethau ariannol 13 (2,356) -  
Darpariaethau 14 (235) (683)  
Cyfanswm rhwymedigaethau cyfredol   (38,809) (29,180)  
Cyfanswm yr asedau llai’r rhwymedigaethau cyfredol   (1,720) (11,945)  
Rhwymedigaethau anghyfredol        
Masnach a symiau taladwy eraill 12 - (153)  
Rhwymedigaethau prydlesu 13 (6,553) -  
Darpariaethau 14 (2,051) (829)  
Cyfanswm rhwymedigaethau anghyfredol   (8,604) (982)  
Cyfanswm yr asedau llai cyfanswm y rhwymedigaethau   (10,324) (12,927)  
Ecwiti trethdalwyr        
Y gronfa gyffredinol   10,405 13,014  
Y gronfa ailbrisio wrth gefn   (81) (87)  
Cyfanswm ecwiti trethdalwyr   10,324 12,927  

Stuart Howard

Gwarcheidwad Cyhoeddus a Swyddog Cyfrifyddu

Datganiad Llif Arian ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022

    2021
i 2022
2020
i 2021
  Nodyn £000 £000
Llif arian o weithgareddau gweithredol      
(Diffyg) ariannol net SoCNE (8,473) (18,868)
Gwariant anariannol 5 14,083 19,203
    5,340 335
(Cynnydd)/gostyngiad mewn masnach a symiau derbyniadwy eraill 5 & 10 (1,437) 916
Cynnydd mewn symiau masnach a symiau taladwy eraill 12 6,356 7,466
Llai taliadau les taladwy nad ydynt yn mynd drwy’r datganiad cost gweithredu 12 302 -
Cynnydd mewn rhwymedigaethau lesio 13 9,381 -
Llai’r balansau sy’n cael eu cydnabod wrth weithredu IFRS16 9 (2,441) -
Llai’r symudiadau mewn rhwymedigaethau ariannol nad ydynt yn mynd drwy’r SoCNE 9 (6,940) -
Costau llog les   46 -
Defnyddio darpariaethau 14 - (6)
Mewnlif arian net o weithgareddau gweithredol   10,607 8,711
Llif arian parod o weithgareddau buddsoddi      
Prynu eiddo, offer a chyfarpar 7 (1,401) (99)
Cynnydd mewn croniadau cyfalaf 12 1,212 -
All-lif arian parod net o weithgareddau buddsoddi   (189) (99)
Llif arian o weithgareddau ariannu      
Trosglwyddiad y Weinyddiaeth Gyfiawnder   (8,357) (7,599)
All-lif arian parod net o weithgareddau cyllido   (8,357) (7,599)
Cynnydd net mewn arian parod a symiau cyfwerth ag arian 11 2,061 1,013
Arian parod a’r hyn sydd gyfwerth ag arian parod ar ddechrau’r flwyddyn 11 6,429 5,416
Arian parod a’r hyn sydd gyfwerth ag arian parod ar ddiwedd y flwyddyn 11 8,490 6,429

Datganiad Newidiadau yn Ecwiti Trethdalwyr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022

    Cronfa gyffredinol Cronfa ailbrisio wrth gefn  
  Nodyn £000 £000
Balans ar 1 Ebrill 2021   13,014 (87)
Diffyg gweithredol net am y flwyddyn SoCNE 8,743 -
Taliadau i’r Archwilydd 5 (67) -
Symudiad yng nghronfeydd wrth gefn MoJ   65 -
(Enillion)/colledion net ar ailbrisio:      
Eiddo, offer a chyfarpar 7 - (28)
Asedau anniriaethol 8 - 8
Trosglwyddiad ailbrisio   (26) 26
Elfen dybiannol ad-gostau adrannol** 5 (11,324) -
Balans ar 31 Mawrth 2022   10,405 (81)

*Mae symudiad o £65k yn y cronfeydd wrth gefn yn cynrychioli trosglwyddiad balansau arian parod dros ben o’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i bencadlys MoJ a setliad balansau rhwng cwmnïau a throsglwyddo asedau digidol o MoJ.
** £11,324k yw’r gost dybiannol i’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gan bencadlys MoJ am wasanaethau cefnogi corfforaethol.

    Y gronfa gyffredinol Y gronfa ailbrisio wrth gefn
  Nodyn £000 £000
Balans ar 1 Ebrill 2020   (264) (222)
Gwarged gweithredu net am y flwyddyn SoCNE 18,868 -
Taliadau i’r Archwilydd 5 (63) -
Symudiad yng nghronfeydd wrth gefn MoJ*   7,599 -
Enillion net ar ailbrisio:      
Eiddo, offer a chyfarpar 7 - 6
Asedau anniriaethol 8 - (20)
Asedau hawl i ddefnyddio 9 -  
Trosglwyddiad ailbrisio   (149) 149
Elfen dybiannol ad-gostau adrannol** 5 (12,977) -
Balans ar 31 Mawrth 2021 2021   13,014 (87)

*Mae symudiad o £7,599k yn y cronfeydd wrth gefn yn cynrychioli trosglwyddiad balansau arian parod dros ben o’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i bencadlys MoJ, setliad balansau rhwng cwmnïau a throsglwyddo asedau anniriaethol sydd wrthi’n cael eu hadeiladu i’r MoJ.
**£12,977k yw’r gost dybiannol i’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gan bencadlys MoJ am wasanaethau cefnogi corfforaethol.”

Nodiadau i’r datganiadau ariannol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022

1. Datganiad polisïau cyfrifyddu

1.1 Sail paratoi

Mae’r cyfrifon hyn wedi cael eu paratoi yn unol â Llawlyfr Adroddiadau Ariannol (FReM) y Llywodraeth 2021 i 2022

a gyhoeddir gan Drysorlys EM o dan Ddeddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000 a chyfarwyddiadau’r Ysgrifennydd Gwladol a gyhoeddwyd o dan y ddeddf. Mae’r polisïau cyfrifo a gynhwysir yn FReM yn defnyddio Safonau Adroddiadau Ariannol Rhyngwladol (IFRS) fel y’u haddaswyd neu y’u dehonglwyd ar gyfer cyd-destun y sector cyhoeddus.

Pan fydd y FReM yn caniatáu dewis o ran polisi cyfrifyddu, dewiswyd y polisi cyfrifyddu y tybiwyd iddo fod yr un mwyaf priodol i amgylchiadau penodol yr asiantaeth er mwyn gallu rhoi darlun cywir a theg. Mae polisïau cyfrifyddu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi’u rhoi ar waith yn gyson wrth ymdrin â’r eitemau a ystyriwyd yn berthnasol yng nghyswllt y cyfrifon.

Nid yw’r datganiad gwariant net cynhwysfawr (SoCNE) wedi’i rannu rhwng gwariant net gweinyddu a rhaglenni, gan fod gwariant net Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael ei ddosbarthu fel rhaglen 100%. Mae hyn yn seiliedig ar asesiad o’r gwaith a wneir gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, sef gwasanaethau rheng flaen yn bennaf. Cytunwyd ar y dosbarthiad hwn gyda Thrysorlys EM.

1.2 Newidiadau mewn polisi cyfrifyddu a datgeliadau

Fel y caniateir gan FReM, mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn mabwysiadu lesoedd IFRS 16 a ddaw i rym ar 1 Ebrill 2021 (Nodyn 1.7).

Mabwysiadu safonau newydd a diwygiedig

Ar wahân i Lesoedd IFRS 16, nid oes unrhyw safonau newydd na diwygiedig wedi cael eu mabwysiadu yn y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2021.

Cyhoeddwyd safonau, diwygiadau a dehongliadau newydd ond nid ydynt yn weithredol ar gyfer y flwyddyn ariannol yn dechrau ar 1 Ebrill 2021 ac ni chawsant eu mabwysiadu’n gynnar.

Mae Contractau Yswiriant IFRS 17 yn gofyn am ddull sy’n defnyddio llif arian wedi’i ddisgowntio yng nghyswllt cyfrifyddu ar gyfer contractau yswiriant. Mabwysiadodd yr UE y safon ym mis Tachwedd 2021, ond mae’r Bwrdd Cynghori ar Adroddiadau Ariannol wedi cytuno i ohirio mabwysiadu’r safon (sy’n orfodol) tan 2025-26 a dylid ei chynnwys yn FReM ar gyfer 2025-26 ar y cynharaf. Gellir caniatáu mabwysiadu IFRS 17 yn gynnar fesul achos, fel y cytunwyd gyda Thrysorlys EM. Er mwyn asesu effaith y safon, bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn adolygu contractau sy’n bodloni’r diffiniad o gontractau yswiriant.

Nid yw Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn credu y bydd unrhyw safon neu ddehongliad arall newydd neu ddiwygiedig yn cael effaith sylweddol.

1.3 Confensiwn cyfrifyddu

Paratowyd y Cyfrifon hyn ar sail croniadau o dan y confensiwn cost hanesyddol wedi’i addasu i ystyried ailbrisio asedau anghyfredol.

1.4 Busnes byw

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael ei hariannu’n bennaf o ffioedd a thaliadau gan gwsmeriaid allanol, ond mae hefyd yn cael cyllid ar gyfer buddsoddiad cyfalaf gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, o’i Chyflenwad Seneddol. Yn yr un modd ag asiantaethau eraill y llywodraeth, rhaid i gyllid ar gyfer y dyfodol gael ei gymeradwyo gan yr Adran noddi, a chan y Senedd. Rhoddwyd cymeradwyaeth eisoes ar gyfer 2022/23, ac mae’r cyfrifon hyn wedi cael eu paratoi ar sail busnes byw ar gyfer adrodd ariannol a phrisio asedau.

Os nad yw’r ffioedd a gynhyrchir yn ddigon i dalu costau mewn blwyddyn ariannol, bydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder, fel y rhiant-adran, yn darparu’r arian i dalu am unrhyw ddiffyg a gynhyrchir, os bydd angen.

Ar ben hynny, nid oes tystiolaeth o newidiadau polisi arfaethedig yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder a fydd yn arwain at roi’r gorau i swyddogaethau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus neu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus fel endid.

1.5 Refeniw o gontractau gyda chwsmeriaid

Mae refeniw o gontractau gyda chwsmeriaid yn cynnwys ffioedd am wasanaethau sy’n cael eu pennu ar sail adfer costau llawn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Mae incwm o ffioedd yn cynnwys symiau am wasanaethau atwrneiaeth, goruchwyliaeth, a chopïau o dystysgrifau atwrneiaeth, a ddarperir. Mae incwm yn cael ei gydnabod yn unol ag IFRS 15 (refeniw o gontractau gyda chwsmeriaid).

Ffioedd ar gyfer ceisiadau i gofrestru atwrneiaethau arhosol a pharhaus

Mae ffioedd atwrneiaethau’n daladwy ar ôl derbyn y cais ond, yn unol ag IFRS 15, ni fydd incwm sy’n deillio ohonynt yn cael ei gydnabod nes cwblhau’r gwasanaeth a ddarperir, naill ai wrth gofrestru’r atwrneiaeth neu os bydd camau prosesu’n dod i ben cyn cofrestru. Pan fydd cwsmeriaid yn talu ffioedd atwrneiaethau ar-lein cyn cyflwyno eu cais, mae’r cronfeydd hyn hefyd yn cael eu dal mewn rhwymedigaethau contract. Os na dderbynnir cais ar-lein ar ôl i’r cwsmer dalu, caiff y swm a dalwyd ei ad-dalu.

Ffioedd goruchwylio dirprwyaeth

Cydnabyddir incwm goruchwylio bob dydd ar gyfer pob achos gweithredol. Mae incwm goruchwylio yn cael ei anfonebu ar gylch blynyddol hyd at y dyddiad y daw gwaith goruchwylio achos i ben, wedi’i gyfrifo ar sail pro rata. Mae incwm yn cael ei gydnabod yn y datganiad o’r sefyllfa ariannol fel asedau contract. Mae darpariaeth drwgddyled yn cael ei chyfrifo, ar sail y model colled credyd disgwyliedig, ac mae’n cael ei netio oddi ar asedau contract, naill ai pan fydd ffioedd yn cael eu hanfonebu neu wrth iddynt gronni.

Esemptiadau a dileu ffioedd

Mae incwm ffioedd yn cael ei gydnabod net o esemptiadau a dileu ffioedd. Mae’r cynllun dileu ffioedd wedi’i ragnodi yn Rheoliadau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (Ffioedd, etc) 2007 a gymeradwywyd gan y Senedd, ac ni chesglir ffioedd a ddilëwyd gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Rhaid gwneud cais am esemptiad neu ddileu ffi gyda’r cais cychwynnol i gofrestru atwrneiaeth neu, ar gyfer ffioedd goruchwylio, rhaid ei gyflwyno o fewn chwe mis i ddyddiad hawlio’r ffi.

Yn yr achosion lle nad yw cais am esemptiad neu ddileu ffi yn cael ei wneud adeg hawlio’r ffi, mae’n rhaid cyflwyno cais wedi’i gwblhau am esemptiad neu ddileu ffi o fewn chwe mis o anfonebu.

Pan fydd ffi wedi’i thalu ac y cytunir ar esemptiad neu ddileu ffi wedi hynny, rhoddir ad-daliad.

1.6 Buddion cyflogeion

Croniadau gwyliau a bonws perfformiad cyflogeion

Bydd gwyliau blynyddol a gwyliau hyblyg y cyflogai sydd heb eu cymryd yn cael eu cronni. Mae bonysau perfformiad a ddyfarnwyd, ond sydd heb gael eu talu cyn diwedd y cyfnod cyfrifyddu, hefyd yn cael eu cronni.

Pensiynau

Mae darpariaethau Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, a ddisgrifir yn yr adroddiad tâl a staff, yn berthnasol i gyflogeion y gorffennol a’r presennol. Mae’r cynlluniau buddion diffiniedig heb eu hariannu. Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cydnabod cost ddisgwyliedig yr elfennau hyn ar sail systematig a rhesymol dros y cyfnod pan fydd yn elwa o wasanaethau cyflogeion drwy dalu i’r Mae darpariaethau Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil y symiau a gyfrifir ar sail gronnus. Mae’r rhwymedigaeth i dalu buddion yn y dyfodol yn cael ei phriodoli i’r Mae darpariaethau Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil . Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cyfrif y cynlluniau fel cynlluniau cyfraniadau wedi’u diffinio am nad oes digon o wybodaeth ar gael i’w cyfrif fel cynlluniau buddion diffiniedig. Felly, mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cydnabod y cyfraniadau sy’n daladwy ar gyfer y flwyddyn ariannol.

1.7 Lesoedd

Cwmpas a gwaharddiadau – Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus fel lesddeiliad

Yn unol ag IFRS 16 Lesoedd, mae contractau, neu rannau o gontractau, sy’n cyfleu’r hawl i reoli’r defnydd o ased am gyfnod o amser, yn cael eu hystyried fel lesoedd.

Caiff contractau ar gyfer gwasanaethau eu gwerthuso i benderfynu a ydynt yn cyfleu’r hawl i reoli’r defnydd o ased a ddynodwyd, gan ymgorffori’r hawl i gael yr holl fanteision economaidd yn sylweddol o’r ased ac i gyfeirio’r defnydd ohono. Os felly, caiff y rhan berthnasol o’r contract ei thrin fel les.

Mae IFRS 16, fel y’u haddaswyd gan FReM, wedi cael eu cymhwyso i lesoedd sydd â dim ystyriaeth neu ystyriaeth nominal (hynny yw, yn is o lawer na gwerth y farchnad) a threfniadau ar gyfer llety rhwng adrannau’r llywodraeth.

Wrth wneud yr asesiadau uchod, mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn eithrio dau fath o les. Yn gyntaf, y rheini sy’n gysylltiedig ag eitemau gwerth isel, y mae’n eu hystyried fel y rheini lle byddai’r ased sylfaenol yn costio llai na £10,000 yn newydd, ar yr amod nad yw’r eitemau hynny’n ddibynnol iawn ar eitemau eraill neu wedi’u hintegreiddio â nhw. Yn ail, contractau sy’n para llai na deuddeg mis (sy’n cynnwys y cyfnod na ellir ei ganslo ynghyd ag unrhyw opsiynau ymestyn y mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn rhesymol sicr o’u harfer ac unrhyw opsiynau terfynu y mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn rhesymol sicr o beidio â’u hymarfer).

Cydnabyddiaeth gychwynnol – Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus fel lesddeiliad

Ar ddechrau’r les (neu ar y dyddiad trosglwyddo i IFRS 16 os yw hynny’n ddiweddarach), bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cydnabod ased hawl i ddefnyddio a rhwymedigaeth les.

Mae rhwymedigaeth y les yn cael ei mesur yn ôl gwerth gweddill y taliadau les, a ddiystyrir naill ai gan y gyfradd llog sydd ymhlyg yn y les, neu lle nad oes modd pennu hyn yn rhwydd, cyfradd fenthyca Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Mae Trysorlys EM yn cynghori ar y gyfradd hon bob blwyddyn. Os yw’r les yn cynnwys opsiynau ymestyn neu derfynu, bydd taliadau’r les ar gyfer y cyfnod na ellir ei ganslo ynghyd ag unrhyw opsiynau ymestyn y mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn rhesymol sicr o’u defnyddio ac unrhyw opsiynau terfynu y mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn rhesymol sicr o beidio â’u hymarfer.

Mae’r ased hawl i ddefnyddio yn cael ei fesur ar sail gwerth rhwymedigaeth y les, wedi’i addasu ar gyfer: unrhyw daliadau les a wnaed cyn y dyddiad cychwyn; unrhyw gymhellion les a gafwyd; unrhyw gostau cynyddrannol o gael y les; ac unrhyw gostau o gael gwared â’r ased ac adfer y safle ar ddiwedd y les. Fodd bynnag, lle mae’r les yn gofyn am ddim ystyriaeth neu ystyriaeth nominal (a elwir fel arfer yn les ‘rad’), bydd yr ased yn cael ei fesur yn lle hynny ar ei werth defnydd presennol, gyda’r gwahaniaeth rhwng swm cario ymlaen yr ased hawl i ddefnyddio a rhwymedigaeth y les yn cael ei drin fel incwm tybiannol (neu wrth drosglwyddo, credyd i’r Gronfa Gyffredinol).

Mesur dilynol – Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus fel lesddeiliad

Bydd rhwymedigaeth y les yn cael ei haddasu ar gyfer cronni llog, ad-daliadau, ailasesiadau ac addasiadau. Mae ailasesu yn golygu ail-arfarnu tebygolrwydd yr opsiynau a roddir gan gontract y les bresennol; mae addasiadau yn golygu newidiadau i gontract y les. Rhoddir cyfrif am ailasesiadau ac addasiadau drwy ddisgowntio’r llifoedd arian diwygiedig: gan ddefnyddio cyfradd ddisgownt ddiwygiedig lle mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn dod neu’n peidio â bod yn rhesymol sicr o arfer neu beidio ag arfer opsiwn ymestyn neu derfynu, neu lle caiff y les ei haddasu i newid y cyfnod na ellir ei ganslo, newid cyfnod y les, newid yr ystyriaeth neu’r cwmpas; neu ar y gyfradd ddisgownt bresennol lle mae symudiad mewn cyfradd mynegai neu gyfradd a fydd yn newid y llifoedd arian parod, neu’r swm sy’n daladwy o dan newid gwerth gweddilliol.

Ar ôl y gydnabyddiaeth gychwynnol, defnyddir y model gwerth teg i fesur yr ased hawl i ddefnyddio. Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ystyried bod y model costau (gan gyfeirio at rwymedigaeth y les) yn brocsi rhesymol ar gyfer gwerth teg, yn achos lesoedd nad ydynt ar gyfer eiddo, ac ar gyfer lesoedd eiddo sy’n llai na phum mlynedd neu lle adolygir rhent yn rheolaidd. Ar gyfer lesoedd eraill, bydd yr ased yn cael ei gario ar swm wedi’i ailbrisio.

Bydd gwerth yr ased yn cael ei addasu ar gyfer dibrisiant ac amhariad dilynol, ac ar gyfer ailasesu ac addasu rhwymedigaeth y les fel y disgrifir uchod. Os yw swm gostyngiad i’r ased yn fwy na gwerth cario ymlaen yr ased, cydnabyddir y swm dros ben mewn gwariant.

Mae gwariant ar gyfer pob blwyddyn ariannol yn cynnwys llog ar rwymedigaeth y les a thâl anghymeradwyaeth llinell syth ar yr ased hawl i ddefnyddio, ynghyd ag unrhyw amhariad ar yr ased hawl i ddefnyddio ac unrhyw newid mewn taliadau les amrywiol, na chafodd ei gynnwys wrth fesur taliadau’r les yn ystod y cyfnod pan gafwyd y digwyddiad sbarduno. Mae taliadau rhent mewn perthynas â lesoedd eitemau gwerth isel, neu gyda chyfnod o lai na deuddeg mis, hefyd yn cael eu gosod fel treuliau.

Cyllid a lesoedd gweithredol – Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus fel lesydd

Ar hyn o bryd, nid yw Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gweithredu fel lesydd ar gyfer unrhyw un o’i hadeiladau.

Trefniadau trosiannol

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi defnyddio nifer o opsiynau a chynlluniau ymarferol ar fabwysiadu IFRS 16 yn y lle cyntaf, a’r FReM oedd yn penderfynu ar y rhan fwyaf o’r rhain.

Mae IFRS 16 wedi cael eu mabwysiadu’n ôl-weithredol gan ddefnyddio’r dull ‘dal i fyny cronnus’, heb ailddatgan balansau cymharol. O ganlyniad, cafodd y datganiadau ariannol ar gyfer 2020 i 2021 eu paratoi yn unol â’r safon flaenorol IAS 17 Lesoedd.

Nid oes unrhyw gontractau presennol yr oedd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi’u hasesu’n flaenorol wedi cael eu hailasesu fel rhai sy’n cynnwys neu ddim yn cynnwys les. Fodd bynnag, bydd contractau newydd yn cael eu dosbarthu yn unol â’r meini prawf a roddir yn IFRS 16.

Ar gyfer lesoedd a oedd yn cael eu trin yn flaenorol fel lesoedd gweithredol, mae’r asedau hawl i ddefnyddio wedi cael eu mesur ar sail gwerth presennol gweddill y taliadau les, wedi’u haddasu ar gyfer unrhyw flaendal neu falans croniadau mewn cysylltiad â thaliadau’r les. Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi defnyddio ôl-ddoethineb wrth bennu gweddill cyfnod y lesoedd ac nid oes addasiad wedi’i wneud ar gyfer lesoedd y mae eu tymor yn dod i ben o fewn 12 mis i’r dyddiad mabwysiadu cyntaf.

Nid oes gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus lesoedd beichus y darparwyd ar eu cyfer yn flaenorol.

Pan fydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn rhoi ased hawl i ddefnyddio ar is-les, mae dosbarthiad yr is-les fel les cyllid neu weithredol wedi cael ei ailasesu. Os canfyddir bod trefniant a oedd yn cael ei drin yn flaenorol fel les weithredol yn les cyllid, mae wedi cael ei drin fel les newydd, gan ddechrau ar y dyddiad mabwysiadu cyntaf.

Amcangyfrifon a dyfarniadau

Pan fydd les wedi’i hymgorffori mewn contract ar gyfer gwasanaethau, y swm i’w gydnabod fel yr ased hawl i ddefnyddio a rhwymedigaeth y brydles ddylai fod pris annibynnol elfen y les yn unig. Lle nad oes modd gweld hyn yn rhwydd, bydd penderfyniad yn cael ei wneud drwy gyfeirio at ddata gweladwy arall, fel gwerth teg asedau tebyg neu bris contractau ar gyfer cydrannau tebyg nad ydynt ar les.

Fel y trafodwyd uchod, mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi penderfynu ar gyfnod y les drwy asesu lefel y sicrwydd ynghylch a fydd opsiynau terfynu neu ymestyn yn cael eu defnyddio. Wrth wneud y penderfyniadau hyn, mae dibyniaeth wedi cael ei rhoi ar farn broffesiynol staff ystadau, wedi’i hategu gan wybodaeth am gynlluniau rheoli asedau corfforaethol, strategaethau busnes eraill, buddsoddiad sydd eisoes wedi’i wneud yn yr ased sylfaenol, anghenion busnes parhaus ac amodau’r farchnad.

1.8 Costau tybiannol

Cynhwysir costau tybiannol yn y SoCNE i adlewyrchu cost lawn gwasanaethau’r asiantaeth. Mae’r taliadau hyn yn cynnwys:

  • Taliad cydnabyddiaeth y Swyddfa Archwilio Genedlaethol am archwilio cyfrifon Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

  • Defnydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o wasanaethau corfforaethol a ddarperir gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, gan gynnwys gwasanaethau Arweinyddiaeth Swyddogaethol

Gweithgareddau rhwng adrannau

Mae gweithgareddau rhwng adrannau’n ymwneud â’r setliad rhwng Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder:

  • Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn setlo rhywfaint o wariant Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar ran yr asiantaeth

  • Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cynhyrchu mewnlif arian net, a chaiff y rhain eu hildio o bryd i’w gilydd i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder

Nid yw gweithgareddau rhwng adrannau’n arwain at gofnod yn y SoCNE ac maent yn cael eu cydnabod yn uniongyrchol yn y Gronfa Gyffredinol drwy’r Datganiad Ecwiti Trethdalwyr.

1.9 Eiddo, Offer a Chyfarpar

Cydnabyddiaeth gychwynnol a throthwy cyfalafu

Mae eiddo, offer a chyfarpar, gan gynnwys gwariant dilynol ar asedau presennol, yn cael eu cydnabod yn y lle cyntaf yn ôl y gost. Trothwy cyfalafu asedau unigol yw £10,000. Pan fydd gwariant sylweddol ar asedau unigol (sydd ar eu pennau eu hunain yn is na’r trothwy cyfalafu) mewn cysylltiad â phrosiect unigol, maent yn cael eu trin fel asedau wedi’u grwpio. Mae pob trothwy yn cynnwys TAW na eillir ei hadennill.

Dull prisio dilynol

Ar ôl cael eu cydnabod i gychwyn, mae pob ased ar wahân i asedau sydd wrthi’n cael eu hadeiladu’n cael eu datgan ar sail eu gwerth presennol ac yn cael eu hailbrisio ar bob dyddiad adrodd gan ddefnyddio Mynegai Prisiau’r Cynhyrchwyr a baratoir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Ailbrisio

Caiff enillion sy’n codi yn sgil ailbrisio eu credydu i’r Gronfa Ailbrisio Wrth Gefn a’u dangos yn y Gwariant Net Cynhwysfawr Arall, oni bai eu bod yn gwrthdroi gostyngiad ailbrisio ar yr un ased. Caiff gwrthdroadau eu credydu i’r SoCNE i’r un graddau â’r swm blaenorol sydd wedi’i osod fel treuliau, a chaiff unrhyw swm dros ben ei gredydu i’r Gronfa Ailbrisio Wrth Gefn.

Mae gostyngiad ailbrisio (ac eithrio yn sgil lleihad parhaol) yn cael ei wrthdroi yn erbyn unrhyw swm presennol a gedwir yn y Gronfa Ailbrisio Wrth Gefn mewn perthynas â’r un ased, gydag unrhyw ostyngiad gweddilliol yn cael ei gymryd i’r costau gweithredu net yn y SoCNE.

Bob blwyddyn, mae’r gwahaniaeth rhwng dibrisiant ar sail swm cario wedi’i ailbrisio’r ased a godir ar y SoCNE a dibrisiant ar sail cost wreiddiol yr ased yn cael ei drosglwyddo o’r Gronfa Ailbrisio Wrth Gefn i’r Gronfa Gyffredinol.

Dibrisiant

Priodolir dibrisiant ar sail llinell syth ar gyfraddau sydd wedi’u cyfrifo i ddileu gwerth asedau llai’r amcangyfrif o’r gwerth gweddilliol yn gyson dros eu hoes ddefnyddiol.

Adolygir oes ddefnyddiol asedau neu gategorïau asedau bob blwyddyn.

Os yw eitem o eiddo, offer a chyfarpar yn cynnwys dwy gydran neu fwy, gydag oes ddefnyddiol sy’n sylweddol wahanol, yna caiff pob cydran ei thrin ar wahân at ddibenion dibrisiant a’i dibrisio dros ei hoes ddefnyddiol unigol. Amcangyfrifir oes ddefnyddiol asedau o fewn yr ystodau a ganlyn:

  • gwelliannau lesddaliad – gweddill cyfnod y brydles
  • dodrefn a ffitiadau – 10 mlynedd
  • offer a chyfarpar – 5 i 7 mlynedd
  • technoleg gwybodaeth – 3 i 7 mlynedd

Gwaredu asedau anghyfredol

Bydd enillion a cholledion wrth waredu asedau anghyfredol yn cael eu pennu drwy gymharu’r elw â’r swm cario ac fe’u cydnabyddir yn y SoCNE.

Pan werthir asedau sydd wedi’u hailbrisio, bydd y symiau sydd wedi’u cynnwys yn y Gronfa Ailbrisio Wrth Gefn yn cael eu trosglwyddo i’r Gronfa Gyffredinol.

Asedau wrthi’n cael eu hadeiladu

Bydd asedau sydd wrthi’n cael eu hadeiladu’n cael eu prisio ar sail eu cost hanesyddol ac ni fydd y rhain yn cael eu dibrisio nes byddant wedi cael eu cwblhau. Ar ôl i ased gael ei gwblhau, bydd ei werth cario yn cael ei drosglwyddo i’r categori asedau perthnasol.

Mae gwariant yn cael ei gyfalafu lle gellir ei briodoli’n uniongyrchol i’r gwaith o sicrhau bod yr ased mewn cyflwr sy’n gweithio, fel costau cyflogeion perthnasol a chyfran briodol o orbenion perthnasol.

1.10.Asedau anniriaethol

Mae balans yr asedau anniriaethol yn cynnwys meddalwedd a ddatblygwyd yn fewnol neu gan drydydd partïon ac sy’n eiddo i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Yn 2019 i 2020 cafodd costau meddalwedd sydd wrthi’n cael ei hadeiladu eu trosglwyddo i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Gwasanaeth Digidol y Weinyddiaeth Gyfiawnder sydd bellach yn datblygu meddalwedd i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ei defnyddio. Ar ôl iddynt gael eu datblygu, bydd costau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder y gellir eu priodoli’n uniongyrchol i waith dylunio, datblygu a phrofi cynnyrch meddalwedd unigryw sydd i’w defnyddio gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn unig yn cael eu trosglwyddo’n ôl i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac yn cael eu nodi fel asedau meddalwedd yng nghyfrifon Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, yn unol â’r meini prawf a nodir yn FReM, sydd wedi’i addasu o IAS 38 Asedau Anniriaethol.

Mae gwariant arall nad yw’n bodloni’r meini prawf hyn yn cael ei nodi fel gwariant fel mae’n codi. Nid yw costau a nodwyd eisoes fel traul yn cael eu nodi fel ased mewn cyfnod wedi hynny.

Priodolir amorteiddiad ar sail llinell syth ar gyfraddau sydd wedi’u cyfrifo i ddileu gwerth asedau llai’r amcangyfrif gweddilliol, yn gyson dros eu hoes ddefnyddiol yn ôl yr amcangyfrifon.

Mae oes ddefnyddiol meddalwedd a ddatblygir yn fewnol yn amrywio rhwng dwy a saith mlynedd. Yn unol ag IAS 38 (Asedau Anniriaethol), mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn adolygu oes economaidd ddefnyddiol ei hasedau anniriaethol ym mhob blwyddyn ariannol.

Trothwy cyfalafu prosiectau meddalwedd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yw £10k (gan gynnwys TAW na ellir ei hadennill).

Ar ôl cael eu cydnabod i gychwyn, caiff asedau anniriaethol eu cydnabod ar sail eu gwerth defnydd presennol. Gan nad oes marchnad weithredol yn bodoli ar gyfer asedau anniriaethol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, asesir bod y gwerth presennol yn gost amnewid llai unrhyw amorteiddiad cronedig a cholledion yn sgil amhariadau. Bydd asedau anniriaethol yn cael eu hailbrisio ar bob dyddiad adrodd gan ddefnyddio Mynegai Prisiau’r Cynhyrchwyr a baratoir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

1.11 Amhariad

Bob blwyddyn, mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ymgymryd ag adolygiad amhariadau ar draws yr holl gategorïau asedau pwysig. Os oes dangosyddion amhariadau’n bodoli, caiff yr asedau dan sylw eu profi am amhariad drwy gymharu gwerth cario’r asedau hynny â’r symiau y gellir eu hadennill.

1.12 Arian parod a chyfwerth ag arian parod

Mae arian parod a chyfwerth ag arian parod sydd wedi’i gofnodi yn y SoFP a’r Datganiad Llif Arian yn cynnwys adneuon a gedwir yng Ngwasanaeth Bancio’r Llywodraeth.

1.13 Treth ar werthx

Nid oes gan yr asiantaeth gofrestriad TAW unigol gyda Chyllid a Thollau EM, ond daw o dan gofrestriad y Weinyddiaeth Gyfiawnder, sy’n rhoi gwybod i’r asiantaeth ynglŷn ag unrhyw TAW wrth brynu y mae modd ei hadennill.

Priodolir TAW na ellir ei hadennill i’r categori gwariant perthnasol neu fe’i cynhwysir yng nghost pryniant wedi’i chyfalafu’r asedau anghyfredol. Lle codir TAW wrth werthu neu lle bydd modd adennill TAW wrth brynu, bydd y symiau’n cael eu datgan heb gynnwys TAW.

1.14 Adroddiadau segmentol

Mae’r tîm rheoli yn adolygu perfformiad Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus fel cyfarwyddiaeth sengl oherwydd natur debyg yr holl weithgareddau. Ni fyddai dadansoddiad pellach o’r gweithgareddau hyn yn darparu dadansoddiad ystyrlon yn unol â bwriad yr IFRS 8 (Segmentau Gweithredu).

1.15 Amcangyfrifon a dyfarniadau cyfrifyddu critigol

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gwneud amcangyfrifon a thybiaethau ynglŷn â’r dyfodol. Anaml fydd y gwir ganlyniadau’n cyfateb i’r amcangyfrifon cyfrifyddu. Mae’r amcangyfrifon a’r tybiaethau sydd â risg sylweddol o achosi addasiad perthnasol i symiau cario asedau a rhwymedigaethau o fewn y flwyddyn ariannol nesaf yn cael eu trafod isod.

Mae’r amcangyfrifon a’r dyfarniadau yn cael eu gwerthuso’n barhaus ac fe’u seilir ar brofiad hanesyddol a ffactorau eraill, gan gynnwys disgwyliadau ynghylch digwyddiadau yn y dyfodol y credir eu bod yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.

Amhariad asedau contract

Rydym yn dal symiau derbyniadwy yn ôl eu swm gros i ddechrau ac ar ôl iddynt gael eu cydnabod i gychwyn, ar sail cost wedi’i hamorteiddio gan ddefnyddio colledion credyd disgwyliedig gydol oes.

Ar 31 Mawrth 2020, penderfynwyd ar y colledion credyd disgwyliedig drwy ddefnyddio proffiliau talu hanesyddol, a oedd yn tybio y byddai perfformiad yn y dyfodol yn adlewyrchu perfformiad yn y gorffennol ac na fyddai newid sylweddol yn y proffil talu na’r cyfraddau adfer. Fe wnaethom hefyd asesu a oedd unrhyw effeithiau economaidd yn y dyfodol yr oedd angen i ni addasu ar eu cyfer. Roedd ymarfer parhaus i gadw trefn ar ddyledion yn golygu nad oedd rhestr o hen ddyledion ar gael ar 31 Mawrth 2020: yn lle hynny, roedd y model amhariad yn tracio anfonebau, dileadau a derbyniadau arian parod i asesu adennill dyledion blaenorol.

Ym mis Awst 2020, cafodd yr ymarfer cadw tŷ ei gwblhau, ac ers hynny mae’r rheolwyr wedi datblygu techneg amcangyfrif ddiwygiedig, sy’n heneiddio dyledion ar sail yr anfoneb gynharaf nad oedd y cwsmer wedi’i thalu, ac mae’n grwpio symiau masnach derbyniadwy yn seiliedig ar nodweddion gwahanol y cwsmer, gan gynnwys eu hanes talu. Mae’r rheolwyr wedi defnyddio’r data hwn a’r wybodaeth am y sylfaen cwsmeriaid i asesu’r cyfraddau casglu disgwyliedig ac wedi cymhwyso’r cyfraddau hynny i’r categorïau symiau derbyniadwy: tra bo’r asesiad hwn yn seiliedig ar ddealltwriaeth y rheolwyr a’r data o’r sylfaen cwsmeriaid, mae’n ddyfarniad, ac felly mae’n cynnwys elfen o ansicrwydd amcangyfrif.

Arweiniodd y dechneg amcangyfrif ddiwygiedig at gynnydd sylweddol yn y lleihad mewn symiau derbyniadwy, a ddatgelir yn Nodyn 10, Symiau masnach derbyniadwy a symiau derbyniadwy eraill. Mae’r cynnydd yn y ddarpariaeth yn cael ei sbarduno gan nifer o newidiadau, ac yn allweddol mae’r ffaith ein bod nawr yn amharu ar rai anfonebau a godwyd yn ystod y 12 mis diwethaf ar 100%, yn amharu ar fwy o gategorïau derbyniadwy ar 100%, ac wedi cynyddu ein cyfraddau amharu ar gyfer eraill. Mae’r dull amhariad a ddefnyddiwyd ar gyfer 31 Mawrth 2021 wedi cael ei gadw ar gyfer 31 Mawrth 2022.

Ar 31 Mawrth 2022, mae dyled wedi’i grwpio a’i amharu fel a ganlyn:

Achosion byw

  • Dyled heb ei thalu 1af dros 3 blwydd oed: 100%
  • Dyled heb ei thalu 1af rhwng 2-3 blwydd oed: 50%
  • Dyled heb ei thalu 1af rhwng 1 a 2 flynedd: 37.5%
  • Dyled heb ei thalu 1af dros 1 flwydd oed: 10%

Achosion a derfynwyd

  • Dyled heb ei thalu 1af dros 2 flwydd oed: 100%
  • Dyled heb ei thalu 1af rhwng 1-2 flwydd oed: 90%
  • Dyled heb ei thalu 1af dros 1 flwydd oed: 50%

Mae’r canrannau a gymhwyswyd yn seiliedig ar y data sydd ar gael a gwybodaeth y rheolwyr am y sylfaen cwsmeriaid. Er mwyn asesu colledion credyd disgwyliedig yn y dyfodol, rhaid defnyddio technegau amcangyfrif a barn rheolwyr: efallai na fydd y colledion credyd gwirioneddol yn y dyfodol yr un fath â’r ddarpariaeth a wnaed.

Mae’r rheolwyr wedi cynnal dadansoddiad o sensitifrwydd, gan ddangos yr effeithiau posibl canlynol o ran cynnydd/(gostyngiad) mewn canrannau amhariad:

  -15% -10% -5% +5%*
Gostyngiad yn y ddarpariaeth £miliwn £miliwn £miliwn £miliwn
Achosion byw 1.3 1.2 (0.6) 0.5
Achosion a derfynwyd (0.4) (0.3) (0.1) -
Cyfanswm (1.7) (1.5) (0.7) 0.5

*Darperir yn erbyn achosion byw o dan flwydd oed ar 10%: mae’r cyfrifiad hwn yn tybio na ddarperir ar eu cyfer.

Nid oes addasiad ychwanegol o ran yr amhariad ar symiau derbyniadwy Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar 31 Mawrth 2021 i adlewyrchu effaith macroeconomaidd bosibl COVID-19 yn y dyfodol: mae hyn yn seiliedig ar nodweddion yr unigolion sy’n gyfrifol am y ddyled i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, gan nad ydym yn credu y bydd hyn yn cael effaith o bwys ar y gallu i adennill y symiau derbyniadwy sy’n cael eu nodi yn y cyfrifon hyn.

Darpariaeth esemptiadau a dileu ffioedd

Mae amseriad y bilio blynyddol ar gyfer goruchwyliaeth, ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, yn golygu bod ceisiadau am esemptiadau a dileu ffioedd ar gyfer y biliau hynny fel arfer yn dod i law yn y flwyddyn ganlynol. Felly, mae darpariaeth o fewn y symiau derbyniadwy sy’n seiliedig ar asesiad manwl o’r graddau y rhoddwyd esemptiadau a dileu ffioedd goruchwylio yn ystod y flwyddyn ar ôl cydnabod yr incwm. Mae hyn yn cynrychioli swm disgwyliedig yr esemptiadau a’r dileu ffioedd a geir yn y flwyddyn ganlynol. Mae’r ddarpariaeth yn tybio bod gwerth yr esemptiadau a dileu ffioedd a ddyfarnwyd yn hanesyddol yn cynrychioli’r gwerth yn y dyfodol.

Darpariaethau

Cydnabyddir darpariaethau pan fydd gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus rwymedigaeth gyfreithiol neu adeiladol bresennol, o ganlyniad i ddigwyddiadau yn y gorffennol, ac mae’n debygol y bydd all-lif o fuddion economaidd yn ofynnol i setlo’r rhwymedigaeth, ac y gellir gwneud amcangyfrif dibynadwy ar gyfer swm y rhwymedigaeth.

1.16 Offerynnau ariannol

Mae gofynion arian parod Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael ei fodloni drwy’r broses amcangyfrif. Nid yw offerynnau ariannol yn chwarae cymaint o rôl o ran creu a rheoli risg ag y byddent mewn corff heb fod yn y sector cyhoeddus. Mae’r rhan fwyaf o offerynnau ariannol yn ymwneud â chontractau i brynu eitemau anariannol yn unol â gofynion disgwyliedig yr asiantaeth o ran prynu a defnyddio, ac felly nid yw’r asiantaeth yn agored i fawr ddim risg o ran credyd, hylifedd na’r farchnad. Mae’r holl asedau a rhwymedigaethau ariannol yn cael eu datgan ar sail eu cost wedi’i hamorteiddio.

1.17 Cronfa Wrth Gefn Gyffredinol

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn defnyddio’r gronfa wrth gefn gyffredinol i setlo taliadau tybiannol a balansau rhwng grwpiau yr adroddir amdanynt yn y cyfrifon fel gwariant ond nad ydynt yn cael eu setlo gydag arian parod. Mae unrhyw arian y mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ei gynhyrchu, y tu hwn i’w gofynion ei hun i dalu costau gweithredu cyllidol, yn cael ei ildio i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ac mae hefyd yn cael ei dalu drwy gronfeydd wrth gefn cyffredinol.

1.18 Cronfa Ailbrisio Wrth Gefn

Mae’r gronfa ailbrisio wrth gefn yn dangos unrhyw enillion neu golledion ar werth eiddo, offer a chyfarpar, neu asedau anniriaethol lle cofnodwyd ailbrisiad blaenorol.

2 Dadansoddiad o ffioedd ac incwm arall

  2021
i 2022
2020
i 2021
  £000 £000
Refeniw Ffi Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus    
Atwrniaethau Arhosol (61,147) (55,172)
Atwrniaethau Parhaus (577) (677)
Goruchwylio Dirprwyon (12,623) (12,139)
Penodi Dirprwy (893) (1,054)
Arall (553) (301)
  (75,793) (69,343)

Esemptiadau a Dileu Ffioedd

Atwrniaethau Arhosol 4,038 3,961
Atwrniaethau Parhaus 10 16
Goruchwylio Dirprwyon 2,392 2,378
Penodi Dirprwy 169 213
Ildio ffioedd yn ôl disgresiwn 608 513
  7,217 7,081
Cyfanswm refeniw o gontractau gyda chwsmeriaid (68,576) (62,262)

3 Costau Staff

      2021
i 2022
2020
i 2021
      £000 £000
  Cyflogir yn
barhaol
Eraill Cyfanswm Cyfanswm
Cyflogau wythnosol a misol 33,604 7,365 40,969 39,749
Costau Nawdd Cymdeithasol 2,898 - 2,898 3,044
Costau pensiwn eraill 7,895 - 7,895 8,461
Cyfanswm costau gros 44,397 7,365 51,762 51,254
Llai asedau adferadwy mewn perthynas
â secondiadau i’r tu allan
(65) - (65) (40)
  44,332 7,365 51,697 51,214
Aelodau Anweithredol y Bwrdd
(ffioedd a buddion)
26 - 26 25
Cyfanswm costau net 44,358 7,365 51,723 51,239

Mae Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil a’r Cynllun Pensiwn Gweision Sifil ac Eraill – a elwir yn ‘alpha’ yn gynlluniau buddion diffiniedig sawl-cyflogwr nas cyllidir ond ni all y Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus nodi ei chyfran o’r asedau a’r rhwymedigaethau sy’n sail iddo. Yn unol â’r FReM, mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cyfrif am y rhain fel cynllun cyfraniadau wedi’u diffinio.

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cydnabod cyfraniadau sy’n daladwy i gynlluniau cyfraniadau diffiniedig fel traul yn y flwyddyn y’i codir, ac mae’r rhwymedigaeth gyfreithiol neu adeiladol wedi’i chyfyngu i’r swm y mae’n cytuno i’w gyfrannu at y gronfa.

Ar gyfer 2021 i 2022, roedd cyfraniadau cyflogwyr o £7,836k yn daladwy i’r Mae darpariaethau Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (2020 i 2021:

£8,939k) ar 1 o 4 cyfradd yn yr amrediad 26.6% i 30.3% o gyflog pensiynadwy, yn seiliedig ar fandiau cyflog. Bydd Actiwari’r Cynllun yn adolygu cyfraniadau cyflogwyr, fel arfer bob pedair blynedd yn dilyn prisiad llawn o’r cynllun.

Pennir cyfraddau’r cyfraniadau i gwrdd â chost buddiannau sy’n cronni yn ystod 2021 i 2022 i’w talu pan fydd yr aelod yn ymddeol ac nid y buddion a delir yn ystod y cyfnod hwn i rai sydd eisoes yn bensiynwyr. Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n rhoi cyngor ar gyfraddau cyfrannu yn y dyfodol, ac maent ar gael ar eu gwefan.

Gall cyflogeion ddewis agor cyfrif pensiwn partneriaeth, pensiwn cyfranddeiliaid gyda chyfraniad gan y cyflogwr. Talwyd cyfraniadau cyflogwr o £59k (2020 i 2021: £68k) i un darparwr pensiwn cyfranddeiliaid penodedig. Mae cyfraniadau’r cyflogwr yn seiliedig ar oedran, ac maent yn amrywio o 8% i 14.75% o enillion pensiynadwy.

Mae cyflogwyr hefyd yn rhoi cyfraniad sy’n cyfateb i gyfraniadau’r cyflogeion hyd at 3% o enillion pensiynadwy.

Mae crynodeb pellach ar gostau staff yn yr Adroddiad Atebolrwydd.

4. Costau gweithredu eraill

  2021
i 2022
2020
i 2021
  £000 £000
Adeiladau, cynnal a chadw a chyfleustodau 2,630 2,147
Llog les cyllid 46 -
Lesoedd gwerth isel a thymor byr 1,107 765
Nwyddau traul y swyddfa 258 181
Postio 3,698 2,899
Gwasanaethau proffesiynol 233 474
Gwasanaethau a rennir 391 1,674
Hyfforddiant a chostau eraill sy’n gysylltiedig â staff 182 191
Teithio, cynhaliaeth a lletygarwch 57 63
Gwasanaethau ymwelwyr 2,143 1,654
Costau rhedeg eraill 768 640
Cyfanswm 11,505 10,688

5 Gwariant anariannol arall

  2021
i 2022
2020
i 2021
  £000 £000
Ad-daliadau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder 11,324 12,977
Dibrisiant - eiddo, offer a chyfarpar 202 958
Dibrisiant - asedau hawl i ddefnyddio 1,105 -
Amorteiddiad - asedau anniriaethol 1,319 674
Amhariad eiddo, offer a chyfarpar ac asedau anniriaethol 95 -
Tâl yr archwilydd allanol* 67 63
Colled wrth waredu eiddo, offer a chyfarpar ac asedau anniriaethol - 78
Darpariaeth ar gyfer rhwymedigaethau:    
Darparwyd yn ystod y flwyddyn - 657
Darpariaethau wedi’u hadfer (448) -
Symudiad mewn amhariad masnach a symiau derbyniadwy eraill 419 3,767
Masnach heb ei gasglu a symiau derbyniadwy eraill - 29
Cyfanswm taliadau nad ydynt yn arian parod 14,083 19,203

*Nid oedd y Rheolydd ac yr Archwilydd Cyffredinol wedi darparu unrhyw wasanaethau heb fod yn rhai archwilio yn ystod 2021 i 2022 (2020 i 2021: dim).

6 Ffioedd a thaliadau

Mae’n rhaid i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, yn unol â Rheoli Arian Cyhoeddus, ddatgelu canlyniadau ar gyfer meysydd y gweithgareddau a wnaeth yn ystod y flwyddyn ariannol, lle codwyd ffioedd a thaliadau. I gael manylion am ffioedd a chymorthdaliadau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus sydd ar gael i gwsmeriaid allanol ewch i:

Darperir cymhorthdal fel y bwriadwyd er mwyn gwneud yn siŵr na wrthodir gwasanaethau i gleientiaid am nad ydynt yn gallu fforddio’r ffioedd gofynnol.

  2021
i 2022
2020
i 2021
  £000 £000
Cyfanswm incwm (68,576) (62,262)
Cyfanswm gwariant 77,048 81,130
Diffyg/(gwarged) 8,473 18,868
Adennill costau (%) 88.7% 76.7%

Mae Adran 180 Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 yn caniatáu i’r Arglwydd

Ganghellor, gyda chydsyniad Trysorlys EM, ragnodi ffi sy’n fwy na chost darparu’r gwasanaeth hwnnw. Ers mis Ebrill 2017, mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi defnyddio’r pŵer hwn i godi ffi uwch ar gyfer cofrestru atwrneiaethau i dalu am gostau dileu ffioedd ac esemptiad rhag talu ffioedd ac i sybsideiddio costau gweithredu’r gwasanaethau goruchwylio.

Ni wireddwyd yr amcan ariannol i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gyflawni o fewn 5% i adennill costau’n llawn (fel y cytunwyd arno gyda Thrysorlys EM ac yn unol â chynllun dirprwyo’r gyllideb gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder) gan mai 88.7% oedd wedi’i adennill eleni (2020 i 2021: 76.7%). Ceir rhagor o wybodaeth yn atebolrwydd seneddol ac adroddiad archwilio ar dudalennau 71 i 72.

7 Eiddo, offer a chyfarpar

2021 i 2022 Gwelliannau i Lesddaliadau Technoleg Gwybodaeth Offer a Pheiriannau Dodrefn a Ffitiadau Asedau wrthi’n cael eu hadeiladu Cyfanswm
  £000 £000 £000 £000 £000 £000
Cost neu brisiant ar 1 Ebrill 2021 386 1,214 - 1,006 - 2,606
Ychwanegiadau - - 49 - 1,352 1,401
Ailbrisio (86) (16) - 32 - (70)
Cyfanswm cost neu brisiant ar 31 Mawrth 2022 300 1,198 49 1,038 1,352 3,937
Dibrisiant ar 1 Ebrill 2021 - (1,168) - (616) - (1,784)
Taliad yn ystod y flwyddyn (104) (10) (7) (81) - (202)
Ailbrisio 104 16 - (22) - 98
Cyfanswm dibrisiant ar 31 Mawrth 2022 - (1,162) (7) (719) - (1,888)
Gwerth cario net ar 1 Ebrill 2021 2021 386 46 - 390 - 822
Gwerth cario net ar 31 Mawrth 2022 300 36 42 319 1,352 2,049

*Mae’r holl eiddo, offer a chyfarpar a ddatgelir uchod yn eiddo llwyr i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

2021 i 2022 Gwelliannau i Lesddaliadau Technoleg Gwybodaeth Offer a Pheiriannau Dodrefn a Ffitiadau Asedau wrthi’n cael eu hadeiladu Cyfanswm
  £000 £000 £000 £000 £000 £000
Cost neu brisiant ar 1 Ebrill 2020 884 2,234 68 905 99 4,190
Ychwanegiadau 31 - - - - 31
Ail-gategoreiddio - - - 99 (99) -
Gwarediadau (73) (1,057) (68) - - (1,198)
Ailbrisio (456) 37 - 2 - (417)
Cyfanswm cost neu brisiant ar 31 Mawrth 2021 386 1,214 - 1,006 - 2,606
Dibrisiant ar 1 Ebrill 2020 - (1,851) (68) (438) - (2,357)
Taliad yn ystod y flwyddyn (448) (333) - (177) - (958)
Gwarediadau - 1,052 68 - - 1,120
Ailbrisio 448 (36) - (1) - 411
Cyfanswm dibrisiant ar 31 Mawrth 2021 - (1,168) - (616) - (1,784)
Gwerth cario net ar 1 Ebrill 2020 884 383 - 467 99 1,833
Gwerth cario net ar 31 Mawrth 2021 386 46 - 390 - 822

*Mae’r holl eiddo, offer a chyfarpar a ddatgelir uchod yn eiddo llwyr i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

8 Asedau anniriaethol

2021 i 2022 Trwyddedau Meddalwedd Meddalwedd a gynhyrchir yn fewnol Asedau wrthi’n cael eu hadeiladu Cyfanswm
  £000 £000 £000 £000
Cost neu brisiant ar 1 Ebrill 2021 - 10,586 - 10,586
Ail-gategoreiddio - 8,292 (8,292) -
Trosglwyddo - - 8,292 8,292
Ailbrisio - (8) - (8)
Cyfanswm cost neu brisiant ar 31 Mawrth 2022 - 18,625 - 18,625
Amorteiddio ar 1 Ebrill 2021 - (9,912) - (9,912)
Taliad yn ystod y flwyddyn - (1,319) - (1,319)
Ailbrisio - 150 - 150
Cyfanswm amorteiddiad ar 31 Mawrth 2022 - (11,081) - (11,081)
Gwerth cario net ar 1 Ebrill 2021 - 674 - 674
Gwerth cario net ar 31 Mawrth 2022 - 7,544 - 7,544
2020 i 2021 Trwyddedau Meddalwedd Meddalwedd a gynhyrchir yn fewnol Asedau wrthi’n cael eu hadeiladu Cyfanswml
  £000 £000 £000 £000
Cost neu brisiant ar 1 Ebrill 2020 148 14,105 - 14,253
Gwarediadau (148) (3,840) - (3,988)
Ailbrisio - 321 - 321
Cyfanswm cost neu brisiant ar 31 Mawrth 2021 - 10,586 - 10,586
Amorteiddio ar 1 Ebrill 2020 (148) (12,777) - (12,925)
Taliad yn ystod y flwyddyn - (674) - (674)
Gwarediadau 148 3,840 - 3,988
Ailbrisio - (301) - (301)
Cyfanswm amorteiddiad ar 31 Mawrth 2021 - (9,912) - (9,912)
Gwerth cario net ar 1 Ebrill 2020 - 1,328 - 1,328
Gwerth cario net ar 31 Mawrth 2021 - 674 - 674

*Mae’r holl asedau anniriaethol a ddatgelir uchod yn eiddo llwyr i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

9 Asedau ar les hawl i ddefnyddio

2021 i 2022 Adeiladau Cyfanswm
  £000 £000
Cost neu brisiant ar 1 Ebrill 2021 - -
Cydnabyddiaeth gychwynnol wrth weithredu IFRS 16 2,139 2,139
Ychwanegiadau 8,116 8,116
Ailbrisio - -
Cyfanswm cost neu brisiant ar 31 Mawrth 2022 10,255 10,255
Dibrisiant ar 1 Ebrill 2021 - -
Priodolwyd yn ystod y flwyddyn (1,105) (1,105)
Ailbrisio 842 842
Cyfanswm dibrisiant ar 31 Mawrth 2022 1,105 1,105
Gwerth cario net ar 1 Ebrill 2021 - -
Gwerth cario net ar 31 Mawrth 2022 9,150 9,150

9.1 Credydwyr lesau

Cyflwynir dadansoddiad aeddfedrwydd o lifau arian parod wedi’u disgowntio o dan gontract sy’n ymwneud â rhwymedigaethau les isod. Caiff y llifau arian a’r balansau eu cyflwyno heb gynnwys TAW nad oes modd ei hadennill.

Rhwymedigaethau o dan lesoedd cyllid 2021 i 2022
  £000
Heb fod yn hwyrach na blwyddyn 2,895
Yn hwyrach na blwyddyn a heb fod yn hwyrach na phum mlynedd 6,630
9,525  
Llai elfen llog (144)
Gwerth presennol y rhwymedigaethau 9,381
Gwerth presennol rhwymedigaethau o dan lesoedd cyllid 2021 i 2022
  £000
Heb fod yn hwyrach na blwyddyn 2,828
Yn hwyrach na blwyddyn a heb fod yn hwyrach na phum mlynedd 6,553
Gwerth presennol y rhwymedigaethau 9,381
Symiau a gydnabyddir yn y Datganiad o wariant net cynhwysfawr 2021 i 2022
  £000
Dibrisiant 1,105
Costau llog 46
Lesoedd gwerth isel a thymor byr 1,107
2,258  
Symiau a gydnabyddir yn y Datganiad llifau arian 2021 i 2022
  £000
Ad-dalu cyfalaf ar lesoedd 46
  46
Cysoni o IAS 17 i IFRS 16  
  £000
Lesoedd gweithredol a ddatgelwyd ar 31 Mawrth 2021 3,851
Addasiadau o IAS 17 i IFRS 16  
Effaith disgowntio (47)
TAW na ellir ei hadennill (497)
Lesoedd gwerth isel, tymor byr a lesoedd o fewn y Weinyddiaeth Gyfiawnder (866)
IFRS 16 rhwymedigaethau les balans agoriadol 2,441

10 Masnach a symiau derbyniadwy eraill

Symiau a ddaw’n ddyledus o fewn blwyddyn 31 Mawrth 2022 31 Mawrth 2021
  £000 £000
Swm sy’n ddyledus gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder 282 180
TAW y gellir ei hadennill 77 71
Swm sy’n ddyledus gan Adrannau Eraill y Llywodraeth 280 69
Symiau masnach derbyniadwy 4,101 14,679
Asedau contract 11,607 53
llai: amhariadau* (6,455) (6,406)
Symiau derbyniadwy drwy fasnach 9,253 8,326
Rhagdaliadau 21 78
Symiau derbyniadwy staff 415 403
Symiau derbyniadwy eraill - 183
Cyfanswm masnach a symiau derbyniadwy eraill 10,328 9,310

*Mae’r amhariad symiau derbyniadwy yn cynnwys: dyledion amheus 5.09 miliwn (20/21: 4.76 miliwn); canslo ffioedd £93,000 (20/21: £491k) a darpariaeth dileu ffioedd 1.212 miliwn (20/21: £1.16 miliwn). Mae’r ddarpariaeth dileu ffioedd yn cael ei nodi yn erbyn yr adran dileu ffioedd ac esemptiadau yn Nodyn 2.

11 Arian parod a chyfwerth ag arian parod

  2021 i 2022 2020 i 2021
  £000 £000
Balans ar 1 Ebrill 6,429 5,416
Mewnlif/(All-lif) arian parod net 2,061 1,013
Balans ar 31 Mawrth 8,490 6,429

Mae’r balans uchod yn cael ei ddal yng Ngwasanaeth Bancio’r Llywodraeth.

12 Masnach a symiau taladwy eraill

Symiau a ddaw’n ddyledus o fewn blwyddyn 31 Mawrth 2022 31 Mawrth 2021
  £000 £000
Symiau sy’n ddyledus i gyrff eraill y Llywodraeth ganolog    
Swm sy’n ddyledus i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder 1,568 966
Swm sy’n ddyledus i Adrannau Eraill y Llywodraeth - 119
Trethi a nawdd cymdeithasol 739 597
Croniadau* 6,305 12,938
Rhwymedigaethau contract 25,838 11,573
Symiau masnach taladwy 221 271
Symiau taladwy eraill 1,547 2,033
  36,218 28,497
Symiau a ddaw’n ddyledus ar ôl blwyddyn    
Symiau taladwy eraill - 153
  153 -
Cyfanswm symiau masnach taladwy a rhwymedigaethau eraill 36,218 28,650

*Mae croniadau’n cynnwys £1,240k o groniad cyfalaf ar gyfer yr ased gwaith diriaethol sy’n mynd rhagddo (20/21 £31k o groniad cyfalaf ar gyfer asedau diriaethol).

Cysoni incwm gohiriedig 2021 i 2022 2020 i 2021
  £000 £000
Balans agoriadol 11,573 10,745
Incwm atwrniaethau gohiriedig 71,941 52,700
Incwm atwrniaethau a gydnabyddir yn ystod y flwyddyn (57,676) (51,872)
Balans terfynol incwm gohiriedig 25,838 11,573

13 Rhwymedigaethau lesu

  31 Mawrth 2022 31 Mawrth 2021
  £000 £000
Cyfredol 2,828 -
Anghyfredol 6,553 -
Cyfanswm 9,381 -

14 Darpariaethau ar gyfer rhwymedigaethau a thaliadau

2021 i 2022 Dadfeiliadau Arall Cyfanswm
  £000 £000 £000
Balans ar 1 Ebrill 2021 1,249 263 1,512
Darparwyd yn ystod y flwyddyn 1,222 - 1,222
Darpariaethau wedi’u hadfer (420) (28) (448)
Darpariaethau a ddefnyddiwyd yn y flwyddyn - - -
Balans ar 31 Mawrth 2,051 235 2,286
Dadansoddiad o amseru disgwyliedig llifau arian parod**      
**Heb fod yn hwyrach na blwyddyn - 235 235
Yn hwyrach na blwyddyn a heb fod yn hwyrach na phum mlynedd 2,051 - 2,051
Yn hwyrach na 5 mlynedd - - -
  2,051 235 2,286

Dadfeiliadau

Roedd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi rhyddhau darpariaeth dadfeilio ar gyfer adeilad Axis yn Birmingham gan fod disgwyl i’r adeilad gael ei ddymchwel ac nid oes disgwyl y bydd costau i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Ar ben hynny, mae darpariaeth dadfeilio newydd yn cael ei chreu ar gyfer y swyddfa newydd, Victoria House Square, am £1,222,000.

2020 i 2021 Dadfeiliadau Arallr Cyfanswml
  £000 £000 £000
Balans ar 1 Ebrill 2020 620 241 861
Darparwyd yn ystod y flwyddyn 629 28 657
Darpariaethau wedi’u hadfer - - -
Darpariaethau a ddefnyddiwyd yn y flwyddyn - (6) (6)
Balans ar 31 Mawrth 2021 1,249 263 1,512
Dadansoddiad o amseru disgwyliedig llifau arian parod      
Heb fod yn hwyrach na blwyddyn 420 263 683
Yn hwyrach na blwyddyn a heb fod yn hwyrach na 5 mlynedd 829 - 829
Yn hwyrach na 5 mlynedd - - -
  1,249 263 1,512

15 Trafodion partïon cysylltiedig

Un o asiantaethau gweithredol y Weinyddiaeth Gyfiawnder yw Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Ystyrir y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn barti cysylltiedig. Yn ystod y cyfnod, mae’r asiantaeth wedi cael nifer o drafodion o bwys gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Y Weinyddiaeth Gyfiawnder sy’n rheoli’r trefniadau lesoedd a’r costau llety sy’n gysylltiedig â defnydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o’i swyddfeydd.

Cyfrifiadau methodoleg ailgodi tâl y Weinyddiaeth Gyfiawnder yw’r sail a ddefnyddir yn dryloyw ac yn gyson i ddosrannu gorbenion gan gynnwys Adnoddau Dynol, Cyllid a TG i holl adrannau ac asiantaethau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar sail dybiannol. Hefyd, mae Asiantaeth Archwilio Mewnol y Llywodraeth yn darparu gwasanaethau archwilio mewnol i’r asiantaeth.

Roedd yr asiantaeth hefyd wedi cael trafodion gydag adrannau ac endidau eraill y llywodraeth.

Nid oes unrhyw aelod o fwrdd yr asiantaeth, staff rheoli allweddol na phartïon cysylltiedig eraill wedi cynnal unrhyw drafodion o bwys gyda’r asiantaeth yn ystod y flwyddyn ariannol.

16 Ymrwymiadau cyfalaf

  2021 i 2022 2020 i 2021
  £000 £000
Ymrwymiadau cyfalaf o dan gontract nad ydynt wedi’u cynnwys fel arall yn y datganiadau ariannol hyn    
Eiddo, offer a chyfarpar   1,567
    1,567

17 Rhwymedigaethau Digwyddiadol

Ar 31 Mawrth 2022, nid oedd unrhyw rwymedigaethau digwyddiadol (2020 i 2021: dim).

18 Offerynnau Ariannol

Gan fod gofynion arian parod Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael eu bodloni drwy’r broses amcangyfrifon, nid yw offerynnau ariannol yn chwarae cymaint o rôl wrth greu a rheoli risg ag y byddent mewn corff heb fod yn y sector cyhoeddus. Mae’r rhan fwyaf o offerynnau ariannol yn ymwneud â chontractau i brynu eitemau anariannol yn unol â gofynion disgwyliedig yr asiantaeth o ran prynu a defnyddio, ac felly nid yw’r asiantaeth yn agored i fawr ddim risg o ran credyd, hylifedd na’r farchnad. Mae’r holl asedau a rhwymedigaethau ariannol yn cael eu datgan ar sail eu cost wedi’i hamorteiddio.

19 Digwyddiadau ar ôl y cyfnod adrodd

Mae digwyddiadau ar ôl y cyfnod adrodd yn cael eu hystyried hyd at ddyddiad awdurdodi’r cyfrifon i’w cyhoeddi. Dehonglir hyn fel dyddiad tystysgrif ac adroddiad y Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol. Nid oedd materion perthnasol i sôn amdanynt.

Targedau perfformiad

Dangosydd effaith: Amser clirio gwirioneddol ar gyfartaledd ar gyfer atwrniaethau

Pwrpas

Mae’r dangosydd hwn yn cyfrifo nifer y diwrnodau gwaith ar gyfartaledd a gymerir i gofrestru ac anfon pob atwrneiaeth mewn cyfnod adrodd penodol. Dyma’r amser a gymerir rhwng dyddiad y cais a’r dyddiad anfon

Dull cyfrifo

O’r holl atwrniaethau, gyda dyddiad anfon o fewn cyfnod adrodd, caiff nifer y diwrnodau gwaith (ac eithrio gwyliau banc a phenwythnosau) rhwng y ‘dyddiad anfon’ a’r ‘dyddiad derbyn’ eu cyfrif ac yna cynhyrchir cyfartaledd ar sail nifer y ceisiadau. ‘Dyddiad derbyn’ yw’r diwrnod y mae’r

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael y cais ynghyd â thaliad dilys, neu, fel arall, dyddiad y penderfyniad ar gyfer cais llwyddiannus am esemptiad neu ddileu ffi. Dyma’r adeg y bydd yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn dechrau prosesu’r cais.

‘Dyddiad anfon’ yw’r dyddiad y caiff yr atwrneiaeth gofrestredig ei hanfon fel rhan olaf y broses sydd wedyn yn dangos bod y cais wedi’i gofrestru ar ein systemau rheoli achosion mewnol.

Ffynhonnell data

Systemau rheoli achosion mewnol yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Cyflawnwyd hyd at 31 Mawrth 2022

Cyfartaledd Amser Clirio Gwirioneddol o 69 diwrnod gwaith o’i gymharu â tharged o 40 diwrnod gwaith.

Dangosydd gwasanaeth cwsmeriaid: canolfan cyswllt cwsmeriaid

Y ganran darged ar gyfer galwadau a atebir o fewn pum munud yng nghanolfan cyswllt cwsmeriaid Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yw 90%.

Pwrpas

Mae’r dangosydd hwn yn mesur cefnogaeth ac arweiniad amserol a chywir ar gyfer holl wasanaethau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, a chyfeirio at wasanaethau’r Llys Gwarchod lle bo hynny’n briodol.

Dull cyfrifo

Nifer y galwadau a atebwyd o fewn pum munud a nifer y galwadau a gafodd eu gadael o fewn pum munud wedi’u rhannu â chyfanswm y galwadau a atebwyd a chyfanswm nifer y galwadau a gafodd eu gadael.

*Mae galwadau sy’n cael eu hailgyfeirio y tu allan i’r cwmpas yn cael eu tynnu o gyfanswm y galwadau er mwyn osgoi eu cyfrif ddwywaith gan fod y rhain yn cael eu hadrodd ar wahân pan fo angen.

Ffynhonnell data

System rheoli data teleffoni yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Cyflawnwyd hyd at 31 Mawrth 2022

y galwadau a atebwyd o fewn pum munud oedd 42% yn erbyn targed o 90%.

Dangosydd effaith: Arolygon digidol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o fodlonrwydd cwsmeriaid

Y ganran darged o gwsmeriaid sy’n ‘fodlon iawn’ neu’n ‘weddol fodlon’ â gwasanaethau digidol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yw 80%.

Pwrpas

Mae’r dangosydd effaith hwn yn helpu i sicrhau ein bod yn datblygu ein gwasanaethau digidol i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid.

Dull cyfrifo

Nifer y cwsmeriaid sy’n ‘fodlon iawn’ neu’n ‘weddol fodlon’ â’r gwasanaethau digidol wedi’i rhannu â nifer yr ymatebion i’r arolwg sy’n ateb y cwestiwn hwn.

Ffynhonnell data

Arolwg boddhad cwsmeriaid - adnodd digidol atwrniaethau.

Cyflawnwyd hyd at 31 Mawrth 2022

Sgôr yr arolwg o fodlonrwydd cwsmeriaid ar ddiwedd y flwyddyn oedd 91%.

Dangosydd gwasanaeth cwsmeriaid: Arolwg o fodlonrwydd cwsmeriaid yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus– Gwasanaethau Atwrneiaeth

Y ganran darged o gwsmeriaid sy’n ‘fodlon iawn’ neu’n ‘weddol fodlon’ â gwasanaethau digidol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yw 80%.

Dangosydd gwasanaeth cwsmeriaid: Arolwg o fodlonrwydd cwsmeriaid Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus – Gwasanaethau atwrneiaeth

Canran darged y cwsmeriaid sy’n ‘fodlon iawn’ neu’n ‘weddol fodlon’ â’r gwasanaethau atwrneiaeth yw 80%.

Pwrpas

Mae’r dangosydd hwn yn ein helpu i ddeall anghenion cwsmeriaid. Mae hefyd yn ein helpu i nodi tueddiadau er mwyn i ni allu gwella gwasanaethau yn barhaus.

Dull cyfrifo

Nifer sydd wedi ymateb eu bod yn ‘fodlon iawn’ neu’n ‘weddol fodlon’ wedi’i rhannu â nifer yr ymatebion i’r arolwg.

Ffynhonnell data

Arolygon o fodlonrwydd cwsmeriaid - atwrniaethau.

Cyflawnwyd hyd at 31 Mawrth 2022

Sgôr yr arolwg o fodlonrwydd cwsmeriaid ar ddiwedd y flwyddyn oedd 67%.

Dangosydd gwasanaeth cwsmeriaid: Arolwg o fodlonrwydd cwsmeriaid yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus– Gwasanaethau Dirprwyaeth

Canran darged y cwsmeriaid sy’n ‘fodlon iawn’ neu’n ‘weddol fodlon’ â’r gwasanaethau dirprwyaeth yw 80%.

Pwrpas

Mae’r dangosydd hwn yn ein helpu i ddeall anghenion cwsmeriaid. Mae hefyd yn ein helpu i nodi tueddiadau er mwyn i ni allu gwella gwasanaethau yn barhaus.

Dull cyfrifo

Nifer sydd wedi ymateb eu bod yn ‘fodlon iawn’ neu’n ‘weddol fodlon’ wedi’i rhannu â nifer yr ymatebion i’r arolwg.

Ffynhonnell data

Arolygon o fodlonrwydd cwsmeriaid - dirprwyaeth.

Cyflawnwyd hyd at 31 Mawrth 2022

Sgôr yr arolwg o fodlonrwydd cwsmeriaid ar ddiwedd y flwyddyn oedd 74%.

Dangosydd effaith: goruchwylio dirprwyon

1) Targed amser cyfartalog i gael adroddiadau blynyddol o fewn 40 diwrnod gwaith.
2) Targed amser cyfartalog i adolygu adroddiadau blynyddol o fewn 15 diwrnod gwaith.
3) Mae’r targed ar gyfer adroddiadau blynyddol heb eu cwblhau am dros 98 diwrnod calendr yn 4.5% neu lai.

Pwrpas

Mae’r dangosyddion hyn yn ein helpu i sicrhau ein bod yn darparu cefnogaeth gymesur a phriodol i bob dirprwy.

Dull cyfrifo

1) Nifer y diwrnodau gwaith ar gyfartaledd rhwng ‘dyddiad dyledus’ yr adroddiad (40 diwrnod gwaith ar ôl pen-blwydd y gorchymyn llys) a’r dyddiad y daeth yr adroddiad i law yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
2) Nifer y diwrnodau gwaith ar gyfartaledd rhwng y dyddiad y ceir adroddiad blynyddol a’r dyddiad y cafodd ei adolygu
3) Nifer yr achosion gydag o leiaf un adroddiad heb ei gwblhau am dros 98 diwrnod / Nifer yr achosion sydd wedi cael o leiaf un adroddiad yn ddyledus*

Ffynhonnell data

Systemau rheoli achosion mewnol yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Cyflawnwyd hyd at 31 Mawrth 2022

1) Yr amser cyfartalog i gael adroddiadau blynyddol oedd 31 diwrnod gwaith
2) Adolygwyd pob adroddiad blynyddol o fewn 15 diwrnod, ar gyfartaledd o ddeg diwrnod gwaith
3) Roedd 2.2% o adroddiadau blynyddol heb eu cwblhau am dros 98 diwrnod calendr.

Dangosydd effaith: Ymchwiliadau

1) Y targed yw asesu risgiau 95% o bryderon a leisiwyd cyn pen dau ddiwrnod gwaith.
2) Y targed yw i 95% o asesiadau risg diogelu gyrraedd canlyniad terfynol cyn pen pum diwrnod gwaith.
3) Y targed yw cwblhau pob ymchwiliad cyn pen 70 diwrnod gwaith.
4) Targed yw’r amser a gymerir ar gyfartaledd i weithredu camau sy’n eiddo i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o fewn argymhellion y Gwarcheidwad Cyhoeddus, lle bernir bod camau llys yn angenrheidiol o fewn 35 diwrnod gwaith. e) Targed yw’r amser a gymerir ar gyfartaledd i weithredu camau gweithredu sy’n eiddo i’r Swyddfa o fewn argymhellion y Gwarcheidwad Cyhoeddus, lle nad yw achos llys wedi cael ei ystyried yn angenrheidiol o fewn 25 diwrnod gwaith.

Pwrpas

Mae’r dangosyddion hyn yn canolbwyntio ar gyfrifoldeb yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i ddiogelu oedolion agored i niwed.
(a) a (b) bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cynnal proses asesu risg i benderfynu: i) a oes gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus awdurdodaeth i ymchwilio i bryderon ac, os nad oes ganddo, i gyfeirio’r pryder i’r asiantaeth berthnasol
1) a yw’r unigolyn agored i niwed mewn perygl uniongyrchol o ran ei les personol neu arian/eiddo a pha gamau y mae angen eu cymryd yn ddi-oed
iii) a ellir ymchwilio i’r pryder dros gyfnod hwy
c) Mae ymchwiliad yn cael ei ystyried yn un sydd wedi dod i ben os:
i) oes adroddiad ysgrifenedig ffurfiol wedi’i lofnodi gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus
ii) cytunir i gymeradwyo cais llys (lle mae hyn cyn adroddiad gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus)

Dull cyfrifo

1) Mae dau ddiwrnod gwaith yn dechrau o’r dyddiad y mae’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn derbyn y pryder. Diwrnod un yw’r diwrnod gwaith y daw’r pryder i law
2) Mae pum diwrnod gwaith yn dechrau o’r dyddiad y mae’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn derbyn y pryder. Diwrnod un yw’r diwrnod gwaith y daw’r pryder i law
3) Mae’r cyfnod o 70 diwrnod gwaith yn dechrau ar y dyddiad y mae’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn derbyn y pryder sy’n arwain at ymchwiliad
4) Mae’r cyfnod o 35 diwrnod gwaith yn dechrau o’r dyddiad y mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cymeradwyo’r adroddiad. Diwrnod un fydd y diwrnod pan gaiff yr adroddiad ei gymeradwyo
5) Mae’r cyfnod o 25 diwrnod gwaith yn dechrau o’r dyddiad y mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cymeradwyo’r adroddiad. Diwrnod un fydd y diwrnod pan gaiff yr adroddiad ei gymeradwyo

Ffynhonnell data

Asesir risg pob cwyn a phryder ac ystyrir awdurdodaeth y Gwarcheidwad Cyhoeddus. Cofnodir atgyfeiriadau ac maent yn cynnwys y canlynol:

  • y dyddiad y mae’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn derbyn y pryder
  • y dyddiad y mae’r tîm ymchwilio yn derbyn y pryder
  • dyddiad yr asesiad risg
  • amser yr asesiad risg
  • dyddiad cwblhau’r ymchwiliad
  • canlyniad y cais i gyfnod y Llys Gwarchod (diwrnodau gwaith)
  • cyfnod ymchwilio (cyn yr adroddiad)
  • cyfnod ymchwilio (ar ôl yr adroddiad)
  • argymhellion - dyddiad cymeradwyo ei gau

Cyflawnwyd hyd at 31 Mawrth 2022

1) Roedd 95% o bryderon yn destun asesiad risg o fewn dau ddiwrnod gwaith
2) Roedd 98% o bryderon yn cyrraedd y canlyniad terfynol cyn pen pum diwrnod gwaith
3) Yr amser cyfartalog i gwblhau ymchwiliadau oedd 80 diwrnod gwaith
4) Yr amser cyfartalog i gwblhau pob argymhelliad lle barnwyd bod achos llys yn hanfodol oedd 78 diwrnod gwaith
5) Yr amser cyfartalog i gwblhau pob argymhelliad lle na farnwyd bod achos llys yn hanfodol oedd 17 diwrnod gwaith

Dangosydd effaith: Ymchwiliadau parhad

1) Y targed yw asesu risgiau 95% o bryderon a leisiwyd cyn pen dau ddiwrnod gwaith.
2) Y targed yw i 95% o asesiadau risg diogelu gyrraedd canlyniad terfynol cyn pen pum diwrnod gwaith.
3) Y targed yw cwblhau pob ymchwiliad cyn pen 70 diwrnod gwaith.
4) Targed yw’r amser a gymerir ar gyfartaledd i weithredu camau sy’n eiddo i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o fewn argymhellion y Gwarcheidwad Cyhoeddus, lle bernir bod camau llys yn angenrheidiol o fewn 35 diwrnod gwaith. e) Targed yw’r amser a gymerir ar gyfartaledd i weithredu camau gweithredu sy’n eiddo i’r Swyddfa o fewn argymhellion y Gwarcheidwad Cyhoeddus, lle nad yw achos llys wedi cael ei ystyried yn angenrheidiol o fewn 25 diwrnod gwaith.

Pwrpas

iii) mae rheolwr cydymffurfiaeth yn cytuno i ddirwyn yr ymchwiliad i ben oherwydd credir bod adroddiad i’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ddiangen
iv) bydd y cleient yn marw (a’r rheolwr cydymffurfiaeth yn penderfynu bod digon o waith wedi’i wneud ar yr achos i fod yn deilwng o ddosbarthiad)
(d) ac (e) Mae argymhelliad yn cael ei ystyried yn un sydd wedi dod i ben os:
1) gwneir cais i’r Llys Gwarchod, lle’r oedd hyn o ganlyniad i argymhelliad a gymeradwywyd gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus
2) mae achos yn cael ei gymeradwyo ar gyfer ei gau dan yr amgylchiadau canlynol:

  • ni fernir bod angen achos llys
  • mae’r ymchwiliwr yn rhannu canlyniad yr ymchwiliad ac unrhyw ofynion pellach i’r atwrnai/dirprwy – ni fydd hyn yn cynnwys unrhyw fonitro dilynol ar yr achos
  • mae’r dirprwy yn gwneud cais i’r Llys Gwarchod

Dangosydd gwasanaeth cwsmeriaid: cwynion

Y targed yw ymateb i 90% o holl gwynion cwsmeriaid cyn pen 10 diwrnod gwaith o’u derbyn.

Pwrpas

Mae’r dangosydd hwn yn chwarae rhan bwysig o ran helpu’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i ddeall i ba raddau rydym yn cyflawni disgwyliadau ein cwsmeriaid.

Dull cyfrifo

Bob mis, mae rheolwr cwynion haen 2 yn coladu nifer y cwynion y dylid delio â nhw yn ystod y mis (‘cyfanswm gyda tharged yn y mis’) a nifer y cwynion a gwblhawyd yn unol â’r targed (‘cyfanswm yr ymatebwyd iddynt yn unol â’r targed’).

Cyfrifir y dangosydd gyda chymorth y fformiwla ganlynol:

Cwynion a gwblhawyd yn unol â’r targed/cwynion y dylid delio â nhw x 100

Ffynhonnell data

Rheoli Gwybodaeth reoli o bob maes busnes unigol.

Cyflawnwyd hyd at 31 Mawrth 2022

Ymatebwyd i 38% o gwynion o fewn 10 diwrnod gwaith o’u derbyn.

Y targed yw i 30% o gwsmeriaid ddewis cwblhau eu ceisiadau atwrneiaeth gan ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein

Pwrpas

Mae’r dangosydd hwn yn chwarae rhan bwysig o ran helpu’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i wella’r offer digidol er mwyn ei gwneud yn haws i ddefnyddwyr gael gafael ar ein gwasanaethau ar-lein.

Dull cyfrifo

Canran y cymeriant digidol = Nifer yr atwrniaethau arhosol a gafwyd ar-lein yn ystod y cyfnod adrodd/ Cyfanswm nifer y ceisiadau a gafwyd yn ystod y cyfnod adrodd x 100

Ffynhonnell data

Systemau rheoli achosion mewnol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Cyflawnwyd hyd at 31 Mawrth 2022

31% o geisiadau atwrniaethau arhosol wedi’u cwblhau drwy ddefnyddio gwasanaethau ar-lein.

Dangosydd pobl: Ymgysylltu â staff

1) Y targed yw sicrhau sgôr ymgysylltu â staff o 62%.
2) Y targed ar gyfer % y staff sydd wedi cael eu bwlio neu y mae rhywun wedi aflonyddu arnynt yn y gweithle yw 11% neu lai.
3) Y targed ar gyfer % y staff sydd wedi dioddef gwahaniaethu yn y gweithle yw 11% neu lai.

Pwrpas

Mae’r dangosyddion hyn yn ein helpu i greu lle gwych i weithio ac i gefnogi agwedd dim goddefgarwch tuag at fwlio, aflonyddu a gwahaniaethu yn y gweithle.

Dull cyfrifo

1) Mae pob un o’r pump cwestiwn ymgysylltu yn yr arolwg wedi’u pwysoli gyda sgôr o 100-0 yn dibynnu ar eu hymateb. Mae’r sgoriau sy’n deillio o hyn yn cael eu rhoi at ei gilydd a’u rhannu â 5 (nifer y cwestiynau) i greu sgôr y mynegai ymgysylltiad.
2) Cyfrifir y dangosydd hwn drwy rannu nifer yr ymatebwyr sy’n datgan profiad o fwlio a/neu aflonyddu â chyfanswm yr ymatebwyr
3) Cyfrifir y dangosydd hwn drwy rannu nifer yr ymatebwyr sy’n datgan profiad o wahaniaethu â chyfanswm yr ymatebwyr

Ffynhonnell data

Arolwg Blynyddol (ymgysylltu â staff) ac Arolwg Clyfar (Smart Survey).

Cyflawnwyd hyd at 31 Mawrth 2022

1) Y sgôr ymgysylltu â staff oedd 65%
2) roedd 9% o staff wedi cael profiad o fwlio ac aflonyddu
3) roedd 10% o staff wedi cael profiad o wahaniaethu

Dangosydd pobl: data gweithlu

1) Y targed ar gyfer trosiant staff yw 10% neu lai.
2) Y targed yw sgôr o 7.5 diwrnod gwaith neu lai sy’n cael eu colli oherwydd absenoldeb salwch.

Pwrpas

Mae’r dangosyddion hyn yn helpu ein penderfynwyr i sicrhau bod gan yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ddigon o adnoddau, a fydd yn galluogi’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i gyflawni amcanion ei chynllun busnes, gwireddu ei gweledigaeth ac ymdrechu i gadw at werthoedd yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ym mhopeth a wnawn.

Dull cyfrifo

1) Cyfrifir y dangosydd drwy rannu cyfanswm nifer y rhai sy’n gadael mewn cyfnod treigl o 12 mis â chyfanswm nifer y staff ar gyfartaledd dros gyfnod treigl o 12 mis
2) Cyfrifir y dangosydd drwy rannu cyfanswm y diwrnodau gwaith a gollwyd mewn cyfnod â blynyddoedd staff mewn cyfnod

Ffynhonnell data

Darperir y data gan dîm Gwasanaethau Dadansoddi’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae’r tîm Gwasanaethau Dadansoddi yn llwytho’r data i lawr o SOP, System Rheoli Achosion Adnoddau Dynol y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Cyflawnwyd hyd at 31 Mawrth 2022

1) Y trosiant staff oedd 10%
2) Cyfartaledd y diwrnodau gwaith a gollwyd oedd 10.8 diwrnod gwaith

Dangosydd pobl: amser cyfartalog i recriwtio

Y targed yw 52 diwrnod gwaith.

Pwrpas

Mae’r dangosydd hwn yn helpu ein penderfynwyr i sicrhau bod gan yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ddigon o adnoddau, a fydd yn galluogi’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i gyflawni amcanion ei chynllun busnes, cyflawni ei gweledigaeth ac ymdrechu i gadw at werthoedd yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ym mhopeth a wnawn.

Dull cyfrifo

Cyfrifir cyfanswm y diwrnodau gwaith a gymerir i gyflogi drwy gyfrif nifer y diwrnodau gwaith rhwng dyddiad ‘hysbysebu’r swydd’ a dyddiad dechrau’r contract ar gyfer pob cyflogai newydd yn y cyfnod adrodd ac yna fe’u rhoddir at ei gilydd. Gwneir cyfrifiad cyfartaledd cymedrig ar y ffigur uchod. Bydd hyn yn rhoi’r amser cyfartalog i recriwtio (diwrnodau gwaith).

Ffynhonnell data

System rheoli achosion recriwtio’r Weinyddiaeth Gyfiawnder

Cyflawnwyd hyd at 31 Mawrth 2022

Yr amser cyfartalog i recriwtio yw 51 diwrnod gwaith o’r data diwethaf a adroddwyd sydd ar gael.

Geirfa

Rhoddwr

Rhywun sydd wedi creu un ai atwrneiaeth barhaus neu arhosol. Cyfeirir atynt fel rhoddwyr am eu bod wedi rhoi rhai pwerau gwneud penderfyniadau i rywun arall.

Atwrnai

Yr unigolyn sydd wedi cael ei ddewis i weithredu dros rywun arall ar atwrneiaeth barhaus neu atwrneiaeth arhosol.

U

Unigolion sy’n destun achosion yn y Llys Gwarchod, ac/neu y gwnaed trefniadau i rywun arall wneud penderfyniadau ynghylch eu lles personol neu eu heiddo a’u materion ariannol ar eu rhan – boed hynny drwy atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus, neu o dan orchymyn dirprwyaeth.

Dirprwy

Unigolion lleyg neu broffesiynol neu awdurdodau cyhoeddus (fel cyfreithwyr neu awdurdodau lleol) sydd wedi cael eu penodi gan y Llys Gwarchod i wneud penderfyniadau ar ran pobl sydd heb alluedd.

Ymchwiliadau

Gall Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gynnal ymchwiliad i weithredoedd dirprwy, atwrnai cofrestredig, neu rywun a awdurdodir gan y Llys Gwarchod i gyflawni trafodiad ar ran rhywun nad yw’r galluedd ganddo, ac adrodd i’r Gwarcheidwad Cyhoeddus neu’r Llys Gwarchod. Bydd yr argymhellion yn adroddiad yr ymchwiliad wedyn yn cael eu hystyried gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus, sy’n cymryd cyfrifoldeb cyffredinol dros sicrhau bod yr argymhellion er budd pennaf y rhoddwr neu’r cleient, ac yna’n cymeradwyo’r adroddiad. Mae hyn yn rhan hanfodol o rôl Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o ran diogelu oedolion sydd mewn perygl.

Atwrneiaeth arhosol

Dogfen gyfreithiol a ddefnyddir i benodi rhywun i wneud penderfyniadau ar ei ran. Mae dau fath o atwrneiaeth arhosol:

1) iechyd a lles 2) eiddo a materion ariannol

Rhaid cofrestru’r ddau fath o atwrneiaeth arhosol gyda’r Swyddfa Gwarcheidwad Cyhoeddus cyn bod modd eu defnyddio.

Atwrneiaeth barhaus

Disodlwyd gan atwrniaethau arhosol ym mis Hydref 2007. Fel atwrneiaeth arhosol, mae’n ddogfen gyfreithiol sy’n cael ei defnyddio i benodi rhywun i wneud penderfyniadau ar eich rhan pe byddech yn colli galluedd meddyliol. Mae atwrniaethau parhaus sydd wedi’u llofnodi a’u dyddio cyn 1 Hydref 2007 yn dal yn ddilys a gellir eu cofrestru gyda Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus pan fydd y rhoddwr yn dechrau colli, neu wedi colli, galluedd meddyliol.

Galluedd meddyliol

Y gallu i wneud penderfyniad penodol ar yr adeg y mae angen gwneud y penderfyniad hwnnw. Gallwch ddod o hyd i ddiffiniad cyfreithiol o alluedd meddyliol yn adran 2 y Ddeddf Galluedd Meddyliol.

Budd pennaf

Rhaid i unrhyw benderfyniadau a wneir, neu gamau a gymerir, ar ran rhywun sydd wedi colli galluedd meddyliol fod er ei fudd pennaf. Mae camau safonol i’w dilyn wrth benderfynu ar fudd pennaf rhywun. Mae’r rhain wedi’u nodi yn Adran 2 o god ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol.

Defnyddiwr

Unrhyw un sy’n defnyddio gwasanaethau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Gallai hyn gynnwys rhoddwyr, atwrneiod, dirprwyon, pobl sy’n destun gorchmynion dirprwyaeth, partneriaid neu gyfryngwyr. Mae hefyd yn cynnwys staff sy’n defnyddio systemau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.