Gwneud a derbyn taliadau

Gellir trefnu taliadau:

Os ydych chi’n defnyddio’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant, byddan nhw’n cyfrifo eich swm cynhaliaeth plant yn seiliedig ar amgylchiadau’r rhiant sy’n talu.

Mae dwy ffordd o reoli taliadau drwy’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant:

  • mae’r rhiant sy’n talu yn gwneud taliadau’n uniongyrchol i’r rhiant sy’n derbyn (Talu Uniongyrchol)
  • mae’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn casglu ac yn trosglwyddo taliadau (Casglu a Thalu) - mae ffioedd am y gwasanaeth hwn

Pan fyddwch yn gwneud cais, gall y ddau riant nodi sut y byddai’n well ganddynt reoli taliadau.

Os nad yw’r rhiant sy’n talu yn talu’n llawn neu ar amser, gall y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant newid y dull talu i Gasglu a Thalu.

Os oes angen help arnoch gydag arian fel rhiant sy’n talu neu fel rhiant sy’n derbyn, darganfyddwch pa gymorth y gallwch ei gael gyda chostau byw.

Eich cynllun talu

Ar ôl i chi wneud cais, byddwch yn cael llythyr yn dweud wrthych a fydd eich taliadau’n cael eu rheoli drwy Dalu Uniongyrchol neu Gasglu a Thalu.

Bydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cyfrifo faint y dylid ei dalu a phryd. Byddwch yn cael llythyr arall gyda’ch cynllun talu yn dweud wrthych:

  • faint sydd angen i chi ei dalu a phryd, os mai chi yw’r rhiant sy’n talu
  • faint fyddwch chi’n ei dderbyn a phryd, os mai chi yw’r rhiant sy’n derbyn

Gallwch hefyd weld eich cynllun talu yn eich cyfrif ar-lein.

Fel arfer gwneir y taliad cyntaf o fewn 12 wythnos o wneud cais.

Os ydych yn gwneud neu’n derbyn taliadau ychwanegol, mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant.

Os ydych yn meddwl bod eich swm cynhaliaeth plant yn anghywir

Cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant os:

  • rydych am iddynt edrych ar y penderfyniad eto - gelwir hyn yn ‘ailystyriaeth orfodol’ ac mae’n rhaid i chi ofyn amdano o fewn mis i’r penderfyniad

  • mae gan y rhiant sy’n talu cynhaliaeth incwm neu dreuliau eraill yr ydych am iddynt eu cymryd i ystyriaeth - gelwir hyn yn gofyn am amrywiad

Gallwch ofyn am amrywiad trwy eich cyfrif ar-lein

Os nad yw rhiant yn talu’n llawn neu ar amser

Darganfyddwch beth i’w wneud os:

Talu Uniongyrchol

Mae’r rhiant sy’n talu yn gwneud taliadau’n uniongyrchol i’r rhiant sy’n derbyn. Nid ydych yn talu unrhyw ffioedd casglu.

Cadwch gofnod o daliadau. Os byddwch yn rhoi gwybod am daliad a fethwyd, bydd angen i chi ddarparu copi o’ch cyfriflen banc.

Rhoi gwybod am newidiadau neu daliadau a fethwyd

Mewngofnodwch i’ch cyfrif ar-lein i:

  • roi gwybod am newid yn eich amgylchiadau
  • rhoi gwybod os yw’r rhiant sy’n talu yn methu taliadau neu ddim yn talu digon
  • gwneud cais i newid i Gasglu a Thalu

Os nad ydych am gysylltu â’r rhiant arall

Os nad ydych am i’r rhiant arall wybod ble rydych chi’n byw, gofynnwch i’ch banc sefydlu cyfrif gyda chod didoli ‘nad yw’n ddaearyddol’.

Nid oes rhaid i chi gysylltu â’r rhiant sy’n talu i gael taliadau. Gallwch rannu eich manylion banc yn eich cyfrif ar-lein.

Casglu a Thalu

Gall y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant gasglu taliadau gan y rhiant sy’n talu a’u trosglwyddo i’r rhiant sy’n derbyn. Gallant gymryd y taliad yn uniongyrchol oddi wrth y rhiant sy’n talu trwy:

  • enillion (wedi’i drefnu gyda’u cyflogwr)
  • cyfrif banc (drwy Ddebyd Uniongyrchol)
  • budd-daliadau neu bensiwn

Nid oes angen i chi gael unrhyw gysylltiad â’r rhiant arall.

Ffioedd casglu

Mae’n rhaid i chi dalu ffi bob tro y byddwch yn gwneud neu’n derbyn taliad cynhaliaeth plant rheolaidd drwy’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant. Y ffi yw:

  • 20% (sy’n cael ei ychwanegu at y taliad) ar gyfer rhieni sy’n talu
  • 4% (sy’n cael ei dynnu oddi ar y taliad) ar gyfer rhieni sy’n derbyn

Os ydych yn defnyddio Casglu a Thalu, ni allwch osgoi ffioedd casglu drwy dalu’r rhiant arall yn uniongyrchol.