Canllawiau

Rhoi gwybod am allforion sydd wedi cyrraedd neu adael porthladd yn y DU ac ni chafodd eu nodi yn CDS

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i roi gwybod i CThEF am allforion ni chafodd eu nodi yn CDS wrth iddynt gyrraedd neu adael porthladd yn y DU.

Cyn i chi ddechrau

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i roi gwybod i CThEF pan fydd eich nwyddau:

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, byddwch yn gallu eu creu.

Bydd angen y canlynol arnoch hefyd:

  • Datganiad o Gyfeirnod Unigryw y Llwyth (DUCR)
  • Prif Gyfeirnod Unigryw y Llwyth (MUCR) os cyfunwyd eich nwyddau i greu llwyth mwy o faint
  • manylion o’r lle yr ydych yn anfon yr allforyn iddo ac oddi yno

Mae’n rhaid i chi lenwi un o’r ffurflenni canlynol ar-lein, cadw copi ohoni a’i hanfon drwy e-bost i’r cyfeiriad e-bost a ddangosir ar y ffurflen:

Ni allwch ddefnyddio ffurflen C1603 ar gyfer allforion anuniongyrchol o Ogledd Iwerddon drwy wlad yn yr UE. Os oes gennych unrhyw broblemau gydag allforion anuniongyrchol, cysylltwch â’r ddesg gymorth System Rheoli Allforion yn: ecs.helpdesk@hmrc.gov.uk.

Bydd angen i chi anfon yr holl waith papur sy’n ategu’ch datganiad, er enghraifft:

  • unrhyw drwyddedau neu dystysgrifau
  • anfonebau masnachol
  • dogfennau cludiant
  • tystiolaeth o allforio (ffurflen C1602 neu ffurflen C1603)

Sending your documents

Dechrau nawr

Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf yn ystod adegau prysur. Gwiriwch a oes problemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn Saesneg).

Cyhoeddwyd ar 19 August 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 29 April 2024 + show all updates
  1. A Welsh translation has been added.

  2. Information about using this service to tell HMRC about your goods has been updated.

  3. Added translation