Datganiad i'r wasg

Tafarn lle arferai Dylan Thomas yfed ymysg tri phrosiect yng Nghymru i gael £770,057 i ddiogelu eu dyfodol

Mae'r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn cefnogi sefydliadau gwerthfawr ledled y DU fel y gallant gael eu rhedeg gan y gymuned, ar gyfer y gymuned.

The team behind the Vale of Aeron pub, which has received £300,000 from the Community Ownership Fund

  • Mae tafarn lle arferai’r bardd byd-enwog yfed wedi cael buddsoddiad gan y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol i’w rhoi yn ôl yn nwylo pobl leol
  • Mae’r gronfa bellach wedi rhoi mwy na £770,057 i gefnogi 3 phrosiect yng Nghymru

Mae tafarn lle arferai’r bardd enwog Dylan Thomas yfed ymysg tri phrosiect yng Nghymru a fydd yn cael £770,057 o gyllid gan y llywodraeth i’w cadw nhw ar agor ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Roedd y bardd yn arfer mynychu Tafarn y Vale yng Ngheredigion pan roedd yn byw gerllaw yn y 1940au. Bydd y dafarn yn defnyddio’r £300,000 o fuddsoddiad i wneud gwaith adnewyddu a fydd yn diogelu ei dyfodol ac yn sicrhau ei bod yn hygyrch i’r gymuned gyfan.

Mae’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn cefnogi sefydliadau pwysig fel tafarndai, amgueddfeydd a chlybiau chwaraeon ar hyd a lled y DU er mwyn iddyn nhw gael eu rhedeg gan y gymuned er budd y gymuned. Gyda’i gilydd, cyhoeddwyd £770,057 ychwanegol ar gyfer tri phrosiect yng Nghymru heddiw er mwyn i bobl leol allu parhau i elwa ohonynt.

Bydd £187,557 hefyd yn cael ei roi i Amgueddfa Llety’r Barnwr ym Mhowys i warchod hen adeilad hanesyddol y llys a chynnal ei wytnwch ariannol er mwyn gallu parhau i fod yn amgueddfa sy’n gweithredu’n llawn.

Dywedodd David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’r tri diweddaraf i dderbyn arian gan y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yng Nghymru i gyd yn brosiectau gwych a fydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’w hardaloedd lleol.

Rydyn ni’n falch o gefnogi pobl i gymryd rheolaeth dros eu hasedau lleol. Mae ffyniant bro wrth galon dyheadau Llywodraeth y DU a bydd cymunedau ar hyd a lled Cymru yn cael eu trawsnewid dros y blynyddoedd nesaf wrth i’r cyllid hwn barhau.

Mae’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol bellach wedi rhoi £4 miliwn i 18 prosiect yng Nghymru, sy’n rhan o 195 o brosiectau sydd nawr yn cael eu cefnogi ar draws y DU.

Dywedodd Jacob Young, Gweinidog Ffyniant Bro Llywodraeth y DU:

Mae’r sefydliadau cymunedol rydyn ni’n eu diogelu heddiw yn destun balchder i lawer o drigolion, ac rydyn ni’n diogelu eu dyfodol drwy roi hwb gyda £12.3 biliwn o gyllid ffyniant bro.

Y llefydd hyn – o dafarndai i reilffyrdd hanesyddol – yw’r llinyn aur sy’n rhedeg drwy ein gwead cymdeithasol, ac mae eu cadw i fynd yn hanfodol i gefnogi cymunedau.

Roedd newidiadau a ddaeth i rym ar gyfer y rownd hon o geisiadau hefyd yn golygu y gallai pob prosiect wneud cais am hyd at £1 miliwn o gyllid, nid dim ond clybiau chwaraeon, ac roedd faint o arian atebol roedd yn rhaid dod o hyd iddo wedi disgyn i 20%.

Dyma’r tro cyntaf hefyd i ymgeiswyr fel Tafarn y Vale allu elwa o’r cymorth i ddatblygu eu cais a’u hachos busnes, drwy ddarparwr cymorth datblygu y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol, dan arweiniad Locality.

Mae’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol ar agor eto ar hyn o bryd ar gyfer ceisiadau a bydd yn cau ar 11 Hydref 2023, ac mae grwpiau’n cael eu hannog i wneud cais am hyd at £2m o gyllid am y tro cyntaf erioed.

Cyhoeddwyd ar 25 September 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 27 September 2023 + show all updates
  1. Welsh translation added.

  2. First published.