Stori newyddion

Pennaeth Swyddfa newydd wedi’i benodi

Mae Richard Fowler wedi’i benodi’n Bennaeth Swyddfa yn Swyddfa’r Dyfarnwr.

Mae Richard Fowler wedi’i gadarnhau’n Bennaeth Swyddfa newydd Swyddfa’r Dyfarnwr.

Mae gan Richard brofiad o arwain ar lefel uwch mewn nifer o rolau sydd wedi canolbwyntio ar y cwsmer. Mae’n dod â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad cadarn o’r Swyddfa Gartref, Cyllid a Thollau EF a’r sector preifat.

Mae gan Richard hanes cadarn o gyflawni newid cadarnhaol. Yn fwyaf diweddar, roedd Richard yn arwain prif flaenoriaethau ac amcanion Cyllid a Thollau EF ac mae wedi bod yn chwarae rhan helaeth yn nhaith a phrofiad y cwsmer. Mae hyn oll yn ei wneud yn gaffaeliad gwych i Swyddfa’r Dyfarnwr.

Meddai Richard:

“Dydy gwrando ar gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid ehangach erioed wedi bod yn bwysicach. Mae’n bleser gen i ymuno â Swyddfa’r Dyfarnwr sy’n chwarae rhan mor ganolog wrth ymchwilio i gwynion yn erbyn CThEF ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio, a’i waith hanfodol i ddarparu adolygiad ail haen o dan y Cynllun Iawndal Windrush. Rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â’r tîm a gweithio gyda’r sefydliadau hynny i’w helpu i ddysgu o ffrwyth profiadau ac i wella eu gwasanaethau.”

Bydd Richard yn dechrau ei swydd ar 5 Chwefror 2024.

Cyhoeddwyd ar 31 January 2024