Stori newyddion

GLlTEF yn ymuno â chynllun Blodyn Haul Anableddau Cudd

Bydd pobl sydd ag anableddau cudd yn cael gwell cefnogaeth os byddant yn gwisgo cortyn gwddf y cynllun blodyn haul

Rydym wedi ymuno â Chynllun Blodyn Haul Anableddau Cudd i helpu pobl sy’n ymweld â llysoedd a thribiwnlysoedd a allai fod angen cefnogaeth ychwanegol. Amcangyfrifir bod 70-80% o anableddau yn gudd a gallant gynnwys anawsterau corfforol, iechyd meddwl, nam synhwyraidd megis anawsterau gweledol neu glywedol yn ogystal â chyflyrau cronig neu afiechydon prin.

Rydym eisiau ei gwneud yn haws i unrhyw un sydd ag anabledd cudd sy’n ymweld â’n adeiladau gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. Mae staff y llysoedd wedi cael hyfforddiant i adnabod cortyn gwddf y blodyn haul a chynnig cymorth fel rhan o’n proses addasiadau rhesymol bresennol.

Mae dod yn aelod llawn o’r rhwydwaith yn rhan o’n hymrwymiad i’r strategaeth genedlaethol ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion awtistig: 2021 to 2026 ac mae’n dilyn cydnabyddiad o’r blodyn haul yn ystod pandemig COVID-19.

Mae cortynnau gwddf nawr ar gael i ddefnyddwyr llys, staff a dalwyr swyddi barnwrol eu casglu ym mhob un o’n hadeiladau i’w gwneud hi’n hawdd i bobl ddangos efallai y bydd angen cymorth neu amser ychwanegol arnynt.

Meddai Nick Goodwin, Prif Weithredwr GLlTEF:

Rydym yn falch o ddod yn aelod llawn o rwydwaith Blodyn Haul Anableddau Cudd. Mae’n bwysig ein bod ni’n ei gwneud hi’n hawdd i bobl sydd ag anabledd, boed hynny’n anabledd gweladwy neu gudd i fod yn hyderus y gallant gael mynediad at gyfiawnder.

Mae cortyn gwddf y blodyn haul yn galluogi staff llys a thribiwnlys i adnabod ymwelwyr a allai elwa o gael ychydig o gymorth neu a allai fod angen rhai addasiadau i sicrhau bod eu profiad yn un positif. Rwy’n falch ein bod ni’n cyflwyno ffyrdd newydd i helpu’r nifer o ddefnyddwyr llys a gweithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith sy’n ymweld â ni bob dydd.

Meddai Paul White, Prif Weithredwr Blodyn Haul Anableddau Cudd:

Mae’n wych gweld GLlTEF yn ymuno â rhwydwaith Blodyn Haul Anableddau Cudd. Maent yn dilyn ôl traed Yr Adran Gwaith a Phensiynau a nifer o awdurdodau lleol i gynnig cymorth i bobl sydd ei angen.

Nid yw pob anabledd yn weladwy, felly bydd y blodyn haul yn golygu y gall pobl sydd ag anableddau cudd ymweld ag adeilad GLlTEF a bydd y gefnogaeth, yr amyneddgarwch a’r ddealltwriaeth y byddant angen yn cael ei gynnig gan staff sydd wedi cael hyfforddiant ar anableddau cudd.

Cyhoeddwyd ar 2 August 2023