Stori newyddion

Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi Gwent yn cydnabod 14 o bobl

Mae ymdrechion 14 o bobl o bob rhan o Went, gan gynnwys naw cadét ifanc, wedi cael eu cydnabod gan gynrychiolydd y Brenin dros y sir.

Lord-Lieutenant of Gwent Awards. Copyright: Wales RFCA.

Mae ymdrechion 14 o bobl o bob rhan o Went, gan gynnwys naw cadét ifanc, wedi cael eu cydnabod gan gynrychiolydd y Brenin dros y sir.

I gydnabod eu gwasanaeth rhagorol a’u hymroddiad i ddyletswydd, dyfarnwyd Tystysgrif Teilyngdod yr Arglwydd Raglaw i bump o bobl gan y Brigadydd Robert Aitken CBE CStJ , yn y seremoni wobrwyo yn Chapman VC House, Cwmbrân, ddydd Iau 11 Ebrill.

Y rhain oedd y Prif Is-swyddog Robert Evans o HMS CAMBRIA; yr Uwch-Sarjant Catrodol Cadetiaid Staff Ehsan Iqbal o Lu Cadetiaid Byddin Gwent a Phowys; y Peilot-Swyddog Sarah Louise Beach a’r Swyddog Gwarant Joanna Holley, ill dwy o Adain Gymreig Rhif 1 Cadetiaid y Llu Awyr Brenhinol, a’r Uwchgapten Stephen John, Swyddog Ymestyn Cyrhaeddiad y Cadetiaid mewn Ysgolion ar gyfer Cymdeithas Cadetiaid a Lluoedd Wrth Gefn Cymru.

Cafodd llwyddiannau pump o gadetiaid yr Arglwydd Raglaw eu cydnabod a’u dathlu yn ystod y digwyddiad, lle’r oedd dros 90 o bobl yn bresennol.

Cyflwynwyd trosolwg o’u huchafbwyntiau yn y cadetiaid i’r gynulleidfa gan y pump yma, sef Uwch-Sarjant Catrodol y Cadetiaid Ciara Bannon ac Uwch Sarjant Cwmni’r Cadetiaid Deiniol Hughes, ill dau o Lu Cadetiaid Byddin Gwent a Phowys; Uwch-Sarjant Cwmni’r Cadetiaid Thomas Morgan o Lu Cadetiaid Cyfun Ysgol Trefynwy; y Sarjant Gadét Alexander Lee o Adain Gymreig Rhif 1 Cadetiaid y Llu Awyr Brenhinol; a’r Sarjant Gadét Sophy Cadman o Adain Gymreig Rhif 1 Cadetiaid y Llu Awyr Brenhinol.

Mae’r rôl, sy’n para am flwyddyn, yn cynnwys mynd i ddigwyddiadau swyddogol gyda’r Brigadydd. Mae’r Brigadydd yn gweithredu fel cynrychiolydd y Brenin mewn dyletswyddau swyddogol fel digwyddiadau Cofio, gorymdeithiau ac ymweliadau Brenhinol.

Dewiswyd y pump ar gyfer rôl anrhydeddus cadetiaid yr Arglwydd Raglaw ar ôl cael eu henwebu gan arweinwyr grwpiau cadetiaid a Chymdeithas y Lluoedd Wrth Gefn a’r Cadetiaid yng Nghymru.

Maen nhw’n dilyn ôl troed yr Abl Gadét Alex Jones o Gorfflu Cadetiaid Môr Casnewydd; yr Uwch-Sarjant Catrodol Cadetiaid Staff Ehsan Iqbal o Lu Cadetiaid Byddin Gwent a Phowys;

yr Uwch-Sarjant Cadetiaid Olivia Armstrong o Lu Cadetiaid Cyfun Ysgol Trefynwy; a’r Swyddog Gwarant Cadetiaid Deighton Davies o Adain Gymreig Rhif 1 Cadetiaid y Llu Awyr Brenhinol, a gafodd Dystysgrif a Bathodyn yr Arglwydd Raglaw am fod yn gynrychiolwyr ar gyfer 2022/2023.

Hefyd yn ystod y noson, rhoddwyd gwobr am hir wasanaeth i aelod o’r Corfflu Cadetiaid Môr. Cyflwynwyd Medal Lluoedd y Cadetiaid i’r Is-gapten (SCC) Benjamin Yuille RMR o Gadetiaid Môr a Chadetiaid Môr-filwyr Brenhinol Torfaen am ei 12 mlynedd o wasanaeth.
Mae bron i 5,000 o gadetiaid yng Nghymru yn ennill sgiliau a chymwysterau drwy weithio gydag elusennau a chymunedau lleol, yn ogystal â chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ymarferol.

Mae maes llafur y cadetiaid yn cael ei gyflwyno gan 1,850 o hyfforddwyr gwirfoddol a chynorthwywyr sifilaidd, sy’n rhoi o’u hamser rhydd gyda’r nos yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau.

Cafodd y digwyddiad gwobrwyo ei drefnu gan Gymdeithas Cadetiaid a Lluoedd Wrth Gefn Cymru (RFCA) – sefydliad sydd wedi cefnogi’r Lluoedd Arfog ers dros 100 mlynedd.

Cyhoeddwyd ar 12 April 2024