Gwirio’ch cofnod Yswiriant Gwladol
Gallwch wirio’ch cofnod Yswiriant Gwladol ar-lein er mwyn gweld:
- yr hyn yr ydych wedi’i dalu hyd at ddechrau’r flwyddyn dreth bresennol (6 Ebrill 2024)
- unrhyw gredydau Yswiriant Gwladol yr ydych wedi’u cael
- a oes bylchau o ran cyfraniadau neu gredydau sy’n golygu bod yna flynyddoedd nad ydynt yn cyfrif tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth (nid ydynt yn ‘flynyddoedd cymwys’)
- a allwch dalu cyfraniadau gwirfoddol (yn Saesneg) i lenwi unrhyw fylchau, a faint y bydd hyn yn ei gostio
Nid yw’ch cofnod ar-lein yn cynnwys faint o Bensiwn y Wladwriaeth yr ydych yn debygol o’i gael.
Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Cyn i chi ddechrau
Er mwyn gwirio’ch cofnod Yswiriant Gwladol, bydd angen i chi fewngofnodi i’ch cyfrif treth personol gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth.
Os nad oes gennych gyfrif treth personol
Mae angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch er mwyn creu cyfrif treth personol. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID) eisoes, gallwch greu un pan fyddwch yn mewngofnodi am y tro cyntaf.
Bydd angen eich rhif Yswiriant Gwladol neu’ch cod post arnoch, a dau o’r canlynol:
- pasbort dilys y DU
- trwydded yrru cerdyn-llun y DU a gyhoeddwyd gan y DVLA (neu’r DVA yng Ngogledd Iwerddon)
- slip cyflog o’r tri mis diwethaf, neu ffurflen P60 gan eich cyflogwr ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf
- manylion hawliad am gredyd treth, os gwnaethoch un
- manylion o Ffurflen Dreth Hunanasesiad o’r ddwy flynedd ddiwethaf, os cyflwynoch un
- gwybodaeth sy’n cael ei chadw ar eich cofnod credyd, os oes gennych un (megis benthyciadau, cardiau credyd, neu forgeisi)
Ffyrdd eraill o wneud cais
Gallwch ofyn am ddatganiad Yswiriant Gwladol ar bapur:
- ar-lein, os ydych yn byw yn y DU (yn Saesneg)
- ar-lein neu drwy’r post os ydych yn byw tramor
- dros y ffôn
Bydd angen i chi roi gwybod pa flynyddoedd yr ydych am i’ch datganiad eu cwmpasu. Ni allwch ofyn am ddatganiadau ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol na’r un flaenorol.
Gallwch hefyd ysgrifennu at Gyllid a Thollau EF (CThEF).
Cyfraniadau Yswiriant Gwladol a Swyddfa’r Cyflogwr
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST
Os ydych wedi talu Yswiriant Gwladol ar Ynys Manaw
Ni fydd eich cofnod yn dangos cyfraniadau Yswiriant Gwladol o Ynys Manaw os byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar ôl 5 Ebrill 2016.
Anfonwch e-bost i swyddfa Yswiriant Gwladol Ynys Manaw i gael gwybod faint yr ydych wedi’i dalu.
Swyddfa Yswiriant Gwladol Ynys Manaw
nationalinsurance.itd@gov.im
Yn ogystal, gallwch anfon llythyr i’r swyddfa.
National Insurance contributions
Income Tax Division
Government Office
Bucks Road
Douglas
Isle of Man
IM1 3TX