Cyfrifo cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfer cyfarwyddwr
Defnyddiwch y gyfrifiannell hon i gyfrifo cyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyfarwyddwr.
Bydd y cyfrifiannell yn rhoi gwybod i chi faint o Yswiriant Gwladol sydd angen ei dalu gan gyfarwyddwr.
Defnyddio’r gyfrifiannell
Os ydych yn gyfarwyddwr
Gwiriwch fod swm y cyfraniadau Yswiriant Gwladol a ddidynnwyd o’ch cyflog yn gywir.
Os ydych yn gyflogwr
Defnyddiwch y gyfrifiannell i gyfrifo faint o Yswiriant Gwladol sydd ei angen arnoch i ddidynnu o gyflog cyfarwyddwyr.
Os ydych yn ddatblygwr meddalwedd
Gwiriwch fod y feddalwedd gyflogres rydych chi’n ei datblygu yn cyfrifo cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfer cyfarwyddwyr yn gywir.
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen y canlynol arnoch:
- y llythyren gategori cyfraniadau Yswiriant Gwladol (yn Saesneg)
- dyddiad cychwyn rôl y cyfarwyddwyr
- cyfanswm cyflog y cyfarwyddwr hyd yma
- cyfraniadau a wnaed eisoes gan y cyfarwyddwr a’r cyflogwr