Canllawiau

Codi tâl am wasanaethau: enghreifftiau o fuddion i'r tlawd

Cyhoeddwyd 16 September 2013

Yn berthnasol i England and Gymru

Mae’r canlynol yn rhai enghreifftiau o sut y gallai elusennau, y mae’r taliadau am ddefnyddio eu gwasanaethau neu eu cyfleusterau, yn fwy na’r hyn y gall y tlawd ei fforddio, ddarparu buddion i’r tlawd.

1. Sefydliadau addysgol elusennol (e.e. ysgolion, colegau, prifysgolion)

Mae’r canlynol yn rhai enghreifftiau penodol o sut y gallai sefydliadau addysgol elusennol, megis ysgolion annibynnol elusennol, wneud darpariaeth ar gyfer y tlawd i gael budd.

Ym mhob achos bydd yn dibynnu ar y ddarpariaeth ei hun ac amgylchiadau’r elusen codi ffioedd arbennig a yw darparu buddion i’r tlawd yn fwy na budd lleiaf neu symbolaidd:

  • cynnig bwrsariaethau neu lefydd eraill o leoedd â chymorth
  • cydweithredu ag ysgolion gwladol, gan gynnwys gweithio ag academïau neu noddi academïau
  • cael trefniant cyllido rhwng ysgol annibynnol a chorff rhoi grantiau ar wahân, a chysylltiedig o bosib
  • caniatáu i ddisgyblion o ysgolion gwladol lleol ddefnyddio ei chyfleusterau addysgol (gan gynnwys cyfleusterau chwaraeon, megis pwll nofio, neuadd chwaraeon, caeau chwarae ac astro, dylunio technoleg neu’r celfyddydau a chyfleusterau cyngerdd er enghraifft)
  • caniatáu i ddisgyblion o ysgolion gwladol lleol fynychu rhai gwersi neu ddigwyddiadau addysgol eraill mewn ysgolion annibynnol
  • ffurfioli ffyrdd o rannu gwybodaeth, sgiliau, arbenigedd a phrofiad gyda darparwyr addysgol eraill, er enghraifft, ysgolion gwladol, colegau neu academïau fel math o nawdd anariannol
  • secondio’n ffurfiol staff addysgu i ysgolion neu golegau gwladol eraill, er enghraifft mewn pynciau arbenigol fel y gwyddorau unigol neu ieithoedd modern;
  • gweithio gydag ysgolion dramor sy’n darparu addysg i blant o deuluoedd na allant fforddio talu am addysg y plentyn
  • cynorthwyo ysgolion gwladol i’w helpu i baratoi myfyrwyr Safon Uwch i gael mynediad i brifysgolion
  • cynnal digwyddiadau ysgolion ar y cyd gydag ysgolion gwladol ac annibynnol lleol eraill, megis diwrnodau chwaraeon, mathemateg, sillafu, cerddoriaeth, cystadlaethau neu gynyrchiadau dawns a drama
  • cydweithio ag ysgol wladol ar brosiect i wella ansawdd addysgu a dysgu i ddisgyblion
  • cydweithio ag ysgol wladol i rannu sgiliau a phrofiad
  • gweithio mewn partneriaeth ag ysgol dramor nad yw’n codi ffioedd i rannu gwybodaeth, sgiliau ac arbenigedd a threfnu ymweliadau cyfnewid diwylliannol i ddisgyblion yn y ddwy ysgol

2. Elusennau eraill sy’n hyrwyddo addysg ac elusennau sy’n hyrwyddo’r celfyddydau (e.e. theatrau, neuaddau cyngerdd, amgueddfeydd, orielau celf)

Mae’r canlynol yn rhai enghreifftiau penodol o sut y gallai mathau eraill o elusennau sy’n hyrwyddo addysg (megis elusennau sy’n hyrwyddo addysg mewn pwnc arbennig, neu amgueddfeydd) ac elusennau sy’n hyrwyddo’r celfyddydau (megis theatrau elusennol, neuaddau cyngerdd ac orielau celf) wneud darpariaeth i’r tlawd gael budd

  • cynnig tocynnau rhatach
  • cynnig aelodaeth am ddim neu ratach
  • systemau yn seiliedig ar loteri neu bleidlais ar gyfer dyrannu lleoedd ar gyfer tocynnau rhatach i gyngherddau neu berfformiadau
  • cynnig cyfraddau am ddim neu ratach ar gyfer partïon ysgol wladol mewn perfformiadau
  • cynnig cyfraddau am ddim neu ratach ar gyfer partïon ysgol wladol mewn arddangosfeydd ac amgueddfeydd
  • cynnal perfformiadau ychwanegol am ddim, cost isel neu gyda dirprwyon o ddrama neu gyngerdd neu ddefnyddio cyfryngau eraill megis fideos, ffilmiau, DVD neu CD er mwyn galluogi eraill i fwynhau’r digwyddiad
  • cynnig teithiau am ddim o theatr neu leoliad tebyg arall
  • darparu gweithdai drama i fyfyrwyr
  • cynnig darlithoedd am ddim
  • darparu cyfleoedd addysgol ar gyfer awduron neu berfformwyr
  • perfformio mewn ysgolion gwladol lleol neu gyfleusterau cymunedol eraill
  • defnyddio’r rhyngrwyd i gyhoeddi neu drosglwyddo digwyddiadau a chyhoeddiadau i gynulleidfa ehangach
  • yn ogystal â chynnig consesiynau ar bris tocynnau, gallai theatr leol hefyd gael lle arddangos i bobl leol weld gweithiau celf a chymdeithas actio amatur y gall pobl leol ymuno â hi
  • cynnig swyddi ychwanegol neu leoedd gwirfoddoli, er enghraifft mewn arddangosfeydd, amgueddfeydd neu ddigwyddiadau, yn benodol ar gyfer pobl ddi-waith, sy’n fyfyrwyr neu am resymau eraill sydd ag incwm cyfyngedig a rhoi cyfleoedd iddynt fwynhau’r arddangosfa, neu’r digwyddiad, am ddim
  • darparu cynlluniau mentora, y gellid eu cynnig mewn person, dros y ffôn neu drwy’r rhyngrwyd er enghraifft
  • darparu cynlluniau rhwydweithio i rannu gwybodaeth addysgol, er enghraifft cynyddu dealltwriaeth o arferion gweithio mwy diogel mewn maes arbennig

3. Elusennau sy’n hyrwyddo iechyd neu’n lleddfu salwch (e.e. ysbytai elusennol)

Mae’r canlynol yn rhai enghreifftiau penodol o sut y gallai elusennau sy’n hyrwyddo iechyd neu’n lleddfu salwch, megis ysgolion elusennol, wneud darpariaeth i’r tlawd gael budd:

  • cynnig triniaeth am ddim neu ar gyfradd ratach
  • darparu triniaeth a delir gan yswiriant meddygol hygyrch neu gynlluniau budd eraill. (Byddai hynny’n dibynnu ar gost cynlluniau o’r fath a pha fathau o wasanaethau y mae hawl gan bobl eu cael oddi danynt)
  • cynnig mynediad am ddim i offer meddygol arbenigol sydd heb fod ar gael yn yr ysbyty GIG lleol, neu drwy gynnig nifer o welyau yn yr ysbyty elusennol yn rhad ac am ddim i gleifion GIG
  • darparu hyfforddiant meddygol i nyrsys neu feddygon mewn ysbyty GIG sy’n cynnig budd i gleifion nad ydynt yn talu ffioedd yn yr ysbyty hwnnw
  • datblygu technolegau newydd a gwneud gwaith ymchwil meddygol lle mae’r canlyniadau defnyddiol ar gael i’r cyhoedd ac yn cael eu rhannu ag ysbytai ac ymarferwyr meddygol nad ydynt yn codi ffioedd

4. Elusennau sy’n darparu gofal preswyl

Mae’r canlynol yn rhai enghreifftiau penodol o sut y gallai elusennau sy’n darparu gofal preswyl wneud darpariaeth i’r tlawd gael budd:

  • cyllid, a gynigir gan awdurdod lleol, i dalu am le mewn cartref gofal
  • gwahodd pobl leol sy’n oedrannus ac mewn angen, ond sy’n byw yn eu cartrefi eu hunain, i ymuno â’r trigolion am brydau bwyd, neu fynd ar deithiau gyda nhw, neu ymuno â gweithgareddau adloniadol wedi’u trefnu yn y cartref gofal
  • darparu gofal seibiant

5. Elusennau sy’n hyrwyddo treftadaeth neu ddiogelwch neu welliant amgylcheddol

Mae’r canlynol yn rhai enghreifftiau penodol o sut y gallai elusennau sy’n hyrwyddo diogelwch neu welliant amgylcheddol wneud darpariaeth i’r tlawd gael budd:

  • cynnig ffioedd aelodaeth neu ffioedd mynediad am ddim neu ratach
  • darparu mynediad cyhoeddus agored am ddim i dir, megis tir comin, cefn gwlad agored, llwybrau cyhoeddus, llwybrau arfordir, porthladdoedd a choetiroedd
  • cynnig cyfleoedd dysgu, mentora a hyfforddi i ysgolion a sefydliadau addysgol eraill
  • darparu cyhoeddiadau a chylchlythyron am ddim ar brosiectau gwarchod a chadwraeth
  • darparu gwybodaeth a chyngor am ddim ar ddiogelu adeiladau, cadwraeth tir, lleihau ôl-troed carbon a materion newid amgylcheddol a newid hinsawdd eraill
  • darparu gwybodaeth a ‘rhith-deithiau’ o adeiladau hanesyddol a deunydd addysgol arall trwy’r rhyngrwyd
  • darparu gwybodaeth a chyngor am ddim ar archaeoleg