Datganiad i'r wasg

Llai na 50% o fodurwyr yn ymwybodol bod rhaid iddynt ddarllen plât rhif o 20 metr, mae ffigurau’n dangos

Mae llai na hanner o fodurwyr a arolygwyd gan DVLA yn gwybod bod yn rhaid iddynt allu darllen plât rhif o 20 metr i ffwrdd er mwyn gyrru'n ddiogel.

Mae’r asiantaeth wedi canfod mai dim ond 48.5% o’r gyrwyr a arolygwyd oedd yn ymwybodol o’r gofyniad golwg hanfodol hwn. Nawr, gyda mwy o yrwyr ar fin ailddechrau eu teithiau dyddiol, ymgymryd â hebrwng plant i’r ysgol ac oddi yno, a’r traffig yn dychwelyd i’r un lefel â chyn y pandemig, mae’r asiantaeth yn galw ar yrwyr i sicrhau eu bod yn cymryd y prawf plât rhif 20 metr.

Nod y prawf yw sicrhau bod pob gyrrwr yn bodloni’r safonau golwg gofynnol cyn mynd y tu ôl i’r olwyn.

Mae’r alwad i weithredu yn rhan o ymgyrch Prawf Plât Rhif yr asiantaeth, sy’n ceisio atgoffa gyrwyr bod y prawf yn ffordd hawdd o hunan-wirio eu golwg yn rheolaidd. Mae hefyd yn eu hatgoffa y dylent gael prawf llygaid o leiaf bob dwy flynedd neu cyn gynted ag y byddant yn sylwi ar unrhyw newidiadau i’w golwg.

Mae’r prawf plât rhif yn gyflym ac yn hawdd i’w gymryd, ac mae DVLA yn cynnig enghreifftiau o sut i fesur y pellter o 20 metr, sydd yr un peth â hyd bum car, neu led wyth cilfan barcio.

Mae’r asiantaeth yn annog unrhyw un sydd â phryderon am eu golwg i ymweld â’u hoptegydd am brawf llygaid.

Dywedodd Lynette Rose, Cyfarwyddwr Strategaeth, Polisi a Chyfathrebu yn DVLA:

Mae’r prawf rhif plât yn ffordd syml ac effeithiol i fodurwyr gwirio bod eu golwg yn bodloni’r safonau gofynnol ar gyfer gyrru sy’n cynnwys darllen plât rhif yn glir o 20 metr.

Gall unrhyw un wneud y prawf ar unrhyw adeg. Mae ugain metr fel arfer tua hyd bum car wedi’u parcio wrth ymyl ei gilydd – gallwch brofi eich hun p’un ai allwch ddarllen plât rhif y car pellach yn glir.

Mae cael golwg da yn hanfodol ar gyfer gyrru’n ddiogel, felly mae’n hynod o bwysig i fodurwyr cael profion llygaid rheolaidd. Mae golwg yn gallu dirywio’n naturiol dros amser, felly dylai unrhyw un sydd â phryderon am eu golwg ymweld â’u hoptegydd – peidiwch ag aros tan eich archwiliad nesaf.

O ran pwysigrwydd yr ymgyrch, dywedodd Glaucoma UK eu bod yn cefnogi galwad hanfodol DVLA i yrwyr i archwilio eu golwg. Dywedodd Joanna Bradley, Pennaeth Gwasanaethau Cymorth yr elusen:

Dylai pawb gael profion llygaid rheolaidd, o leiaf bob dwy flynedd, fel y gall eich optegydd archwilio iechyd eich llygaid. Mae’n hanfodol, os ydych yn gweld bod newidiadau yn eich golwg yn y cyfamser, eich bod yn ymweld ag optegydd cyn gynted â phosibl.

Efallai bod llawer o bobl wedi gweld newidiadau yn eu golwg dros y flwyddyn ddiwethaf ac efallai eu bod wedi colli prawf oherwydd y pandemig.

Byddem yn annog unrhyw un sydd â phryderon i beidio ag oedi cyn cael prawf gan y gallai eu golwg gwaethygu.

Rydym yn cefnogi ymgyrch Prawf Plât Rhif DVLA a’i neges ddiogelwch hanfodol, ac rydym yn gobeithio y bydd hwn yn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd profion rheolaidd ymhlith y cyhoedd.

Cael rhagor o wybodaeth am y safonau golwg gofynnol ar gyfer gyrru.

Nodiadau i olygyddion:

  • Holwyd 1,623 yn Arolwg Moduro DVLA ym mis Gorffennaf, roedd 744 yn ymwybodol bod angen ichi ddarllen plât rhif o 20 metr, roedd 322 yn credu mai 15 metr ydoedd, roedd 454 yn credu mai 25 ydoedd, ac nid oedd 103 yn gwybod faint o fetrau i ffwrdd roedd angen iddynt fod.

  • Rhaid i yrwyr allu darllen (gan ddefnyddio sbectol neu lensys cyffwrdd lle bo angen) plât rhif car a wnaed ar ôl 1 Medi 2001 o bellter o 20 metr.

  • Rhaid i yrwyr allu bodloni’r safonau golwg gofynnol ar gyfer gyrru.

  • Os oes rhaid i yrrwr wisgo sbectol neu lensys cyffwrdd ar gyfer gyrru, rhaid iddynt eu gwisgo bob tro y byddant yn gyrru.

  • Mae DVLA yn cyhoeddi ei chyngor i weithwyr proffesiynol meddygol - yn cynnwys optegwyr ac optometryddion - i’w helpu i asesu ffitrwydd i yrru eu cleifion.

Swyddfa'r wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe

SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig: 0300 123 2407

Cyhoeddwyd ar 20 September 2021