Closed consultation

AFI order consultation (Welsh version) (accessible version)

Updated 9 August 2021

Mae’r ymgynghoriad hwn yn cychwyn ar 28Ionawr 2021

Maer ymgynghoriad hwn yn dod i ben ar 19Mawrth 2021

Ynglŷn â’r ymgynghoriad hwn

I: Mae’r ymgynghoriad hwn yn agored i’r cyhoedd ac wedi’i dargedu at unigolion, busnesau a sefydliadau yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Hyd: O 28/01/2021 i 19/03/2021

Ymatebion ac ymholiadau (gan gynnwys ceisiadau am y papur mewn fformat arall) i:

AFI Order Consultation
6th Floor Peel, Serious & Organised Crime Group
Home Office
2 Marsham Street
London
SW1P 4DF

AFIConsultation@homeoffice.gov.uk

Ymatebwch erbyn 19 Mawrth 2021.

Cyflwyniad

Mae Deddf Enillion Troseddau 2002 (POCA) yn rhoi amrywiaeth eang o bwerau i swyddogion gorfodi’r gyfraith i adennill enillion troseddau. Gall staff mewn asiantaethau gorfodi’r gyfraith traddodiadol ac anhraddodiadol ddefnyddio’r pwerau hyn trwy ddod yn ymchwilydd ariannol achrededig sy’n gweithio mewn asiantaeth y rhoddir mynediad i’r pwerau hyn iddi.

Mae Ymchwilwyr Ariannol Achrededig yn staff asiantaeth gorfodi’r gyfraith anhraddodiadol sydd â mynediad at bwerau sy’n caniatáu iddynt adennill enillion troseddau. Mae pum sefydliad ychwanegol o’r sector cyhoeddus wedi gwneud cais i’r Swyddfa Gartref a Chanolfan Enillion Troseddau’r NCA i gael y pwerau hyn. Bydd rhoi mynediad i’r pwerau hyn i’r sefydliadau hyn yn gwella’r canlyniadau gorfodi’r gyfraith y gallant eu cyflawni a bydd yn cynorthwyo i gyflenwi Cynllun Gweithredu Adennill Asedau’r Swyddfa Gartref.

Mae’r papur hwn yn cyflwyno’r ymgynghoriad er mwyn cael barn ynghylch a ddylai’r cyrff cyhoeddus a bennir ym mharagraff 5 gael mynediad at bwerau penodol o dan POCA i gynnal y mathau dilynol o ymchwiliad:

  • ymchwiliadau atafaelu
  • ymchwiliadau arian parod dan gadwad
  • ymchwiliadau eiddo dan gadwad
  • ymchwiliadau cronfeydd wedi’u rhewi
  • ymchwiliadau gwyngalchu arian

Mae POCA yn becyn cynhwysfawr o fesurau sydd wedi’u cynllunio i wneud adennill asedau a ddelir yn anghyfreithlon yn fwy effeithiol. Mae adran 378 POCA yn diffinio pwy yw swyddog priodol mewn perthynas â phob math o ymchwiliad ac mae’n cynnwys swyddogion yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, cwnstabliaid heddlu, swyddogion Cyllid a Thollau EM, swyddogion mewnfudo ac Ymchwilwyr Ariannol Achrededig (AFIs). Mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud ag ymestyn yr un diwethaf - pwerau AFI - i gyrff ychwanegol. Mae gan AFIs awdurdodaeth i arfer eu swyddogaethau yng Nghymru a Lloegr a Gogledd Iwerddon, nid yr Alban.

Er mwyn cael mynediad at y pwerau POCA perthnasol, ar hyn o bryd mae’n rhaid i AFIs fod yn aelod o staff corff cyhoeddus a ddynodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol ac sydd wedi’i hyfforddi a’i achredu gan Ganolfan Enillion Troseddau’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol. Mae’r rhestr o sefydliadau sydd â phwerau AFI, a’r ddeddfwriaeth sy’n rhoi’r pwerau hynny, yn Atodiad A.

Rydym yn ymgynghori ynghylch a ddylid rhoi pwerau AFI i bum sefydliad ychwanegol. Yr asiantaethau hynny yw:

  1. Heddlu’r Gwasanaethau
  2. Yr Adran Drafnidiaeth
  3. Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
  4. Adran yr Economi, Gogledd Iwerddon
  5. Brigâd Dân Llundain

Ar hyn o bryd, mae pob un o’r asiantaethau hyn naill ai’n dibynnu ar asiantaethau eraill sydd wedi’u dynodi â phwerau ymchwilio ariannol - megis yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol neu heddluoedd - neu nid oes ganddynt fynediad i adennill enillion troseddau o fewn eu hawdurdodaeth.

Trwy roi’r pwerau POCA hyn i ystod ehangach o sefydliadau’r sector cyhoeddus, bydd nifer fwy o gyrff yn gallu cyfrannu’n uniongyrchol at ymdrechion i adennill enillion troseddau er mwyn cyflawni amcanion adennill asedau’r Llywodraeth:

  • tarfu ar weithgareddau troseddol ac ariannu troseddau ymhellach;
  • amddifadu pobl o’u henillion o droseddau;
  • taflu amheuaeth ar fodelau rôl negyddol mewn cymdeithas, a
  • atal pobl rhag cymryd rhan mewn neu barhau i droseddu.

Ni all Ymchwilwyr Ariannol Achrededig ddefnyddio eu pwerau yn yr Alban.

Bydd Heddlu’r Gwasanaethau, Yr Adran Drafnidiaeth a Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn defnyddio eu pwerau yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Bydd Brigâd Dân Llundain yn defnyddio eu pwerau yn Lloegr a bydd Adran yr Economi yng Ngogledd Iwerddon yn defnyddio eu pwerau yng Ngogledd Iwerddon.

Ni chynhyrchwyd asesiad effaith reoleiddiol ar gyfer yr offeryn hwn gan nad yw’n cael unrhyw effaith uniongyrchol ar fusnes, y sector cyhoeddus, elusennau na chyrff gwirfoddol.

Y Cynigion

Heddlu’r Gwasanaethau

Mae Heddlu’r Gwasanaethau’n cynnwys Heddlu’r Llynges Frenhinol, yr Heddlu Milwrol Brenhinol, a Heddlu’r Llu Awyr Brenhinol, a gyflogir yn uniongyrchol gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Mae Heddlu’r Gwasanaethau’n ymchwilio i honiadau o dorri Cyfraith y Gwasanaethau; troseddau ymddygiad troseddol ac ymddygiad nad ydynt yn droseddol lle mae’r sawl sydd dan amheuaeth yn ddarostyngedig i Gyfraith y Gwasanaethau neu Ddisgyblaeth y Gwasanaethau, ble bynnag yn y byd yr honnir i’r drosedd ddigwydd. Gall hyn gynnwys troseddau megis camddefnyddio lwfansau ar raddfa fawr neu systematig, dwyn cyfarpar gwerth uchel neu sensitif (gan gynnwys arfau tanio a bwledi), troseddau masnachu cyffuriau a Phersonél Gwasanaeth sy’n ymwneud ag agweddau amrywiol ar droseddu cyfundrefnol. Mae’r holl droseddau rhestredig yn cynhyrchu enillion ariannol anghyfreithlon ac, o’r herwydd, byddai cymryd camau i adennill enillion troseddau (yn ogystal â phwerau eraill sydd ar gael iddynt ar hyn o bryd) yn sicrhau canlyniadau cyfiawnder troseddol mwy effeithiol trwy amddifadu pobl o’u henillion o droseddau a tharfu pellach ar gyllid ar gyfer troseddau.

Ar hyn o bryd mae gan Heddlu’r Gwasanaethau Dîm Ymchwiliadau Ariannol pwrpasol sydd â chyfrifoldeb am y tri gwasanaeth (y Fyddin, y Llynges Frenhinol a’r Llu Awyr Brenhinol). Ym mlwyddyn gyntaf y tîm o weithredu, nodwyd dros £3.7m fel asedau adennilladwy ond mae hon yn ganran fach o gyfanswm gwerth enillion troseddau yr ymchwiliwyd iddynt gan Heddlu’r Gwasanaethau. Os rhoddir pwerau AFI i Heddlu’r Gwasanaethau, byddai hyn yn galluogi Heddlu’r Gwasanaethau i ariannu gweithgarwch pellach trwy ddefnyddio enillion troseddau (y dychwelir cyfran ohonynt i broses gorfodi’r gyfraith).

Ar hyn o bryd, dim ond ar ôl euogfarn am golled neu ddifrod y gellir dyfarnu iawndal; mae’r broses hon yn gyfyngedig gan nad yw iawndal bob amser yn hafal i werth llawn enillion trosedd (er enghraifft, nid oes darpariaeth i adennill y budd o drosedd, neu gyllid a fwriedir ar gyfer troseddoldeb pellach).

Mae gan Heddlu’r Weinyddiaeth Amddiffyn, ar wahân i Heddlu’r Gwasanaethau, fynediad at bwerau POCA ond oherwydd eu hawdurdodaethau ar wahân, nid yw’n bosibl i Heddlu’r Weinyddiaeth Amddiffyn ymgymryd ag unrhyw achosion Heddlu’r Gwasanaethau lle mae gan Heddlu’r Gwasanaethau uchafiaeth.

Cynnig A: Byddem yn croesawu’ch barn ynghylch a ddylid rhoi pwerau a restrir ar y dudalen nesaf i Heddlu’r Gwasanaethau:

Pŵer A ydy’r pŵer yn cael ei geisio?
Gwneud cais i’r llys am orchymyn atal Rhan 2, a.42 Ydy
Chwilio am, atafaelu a chadw eiddo Rhan 2, a.47A-7R Ydy
Chwilio am, atafaelu, cadw a cheisio fforffedu arian parod Rhan 5, Pennod 3 Ydy
Chwilio am, atafaelu, cadw a cheisio fforffedu eiddo personol (neu symudol) penodol Rhan 5, Pennod 3A Ydy
Rhewi a cheisio fforffedu arian a gedwir yng nghyfrifon banc a chymdeithas adeiladu Rhan 5, Pennod 3B Ydy
Ymestyn y cyfnod moratoriwm mewn ymchwiliadau gwyngalchu arian Rhan 7, a.336 Ydy
Gwneud gais i’r llys am orchmynion ymchwilio a gwarantau mewn ymchwiliadau POCA Rhan 8, aa. 345, 357, 363, 370 Ydy
Gweithredu gwarantau chwilio mewn ymchwiliadau ariannol Rhan 8, aa.352-353 Ydy
Ceisio pwerau cymaradwy yng Ngogledd Iwerddon Ydy

Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau

Mae gan Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau (yr Asiantaeth) gylch gwaith byd-eang i ymchwilio i’r troseddau a gyflawnir ar longau â baner y DU, rhai masnachol a rhai preifat. Mae troseddau yr ymchwiliwyd iddynt ac a erlynwyd gan yr Asiantaeth yn rhai ddaw o dan Ddeddf Llongau Masnach 1995, ac ar y cyd â sefydliadau partner priodol, yn cynnwys troseddau cysylltiedig megis dynladdiad corfforaethol, caethwasiaeth ddynol/masnachu mewn pobl a gwyngalchu arian. Oherwydd natur y troseddau hyn, ac anhawster cyrchu pobl sy’n destun ymchwiliad, mae’r cyfleoedd sydd ar gael i’r unigolion hynny i wasgaru eiddo troseddol ledled y byd yn sylweddol. Byddai mynediad at bwerau POCA yn bŵer gwerthfawr i gyfyngu unigolion rhag ymdrin â’u hasedau a lleihau gwasgaru eiddo troseddol y gellir ei adennill.

Ar hyn o bryd, darperir prif bwerau archwiliadol yr Asiantaeth o dan Adran 259 Deddf Llongau Masnach 1995. Ar hyn o bryd, ar gyfer troseddau difrifol gall Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau ond ceisio dedfrydau carchar a dirwyon. Er mai dirwy lefel 5 (diderfyn) yw’r ddirwy uchaf y gellir ei dyfarnu, efallai na fydd y dirwyon hyn yn adlewyrchu budd unigolyn o weithgareddau troseddol mewn gwirionedd: mewn un achos a gyflawnwyd gan yr Asiantaeth, amcangyfrifwyd mai enillion ariannol y troseddwr o osgoi ardystiad oedd £1m ond y ddirwy a ddyfarnwyd oedd £300,000 yn unig. Trwy gael pwerau POCA i geisio adennill budd unigolyn o gyflawni trosedd, gall yr Asiantaeth atal troseddoldeb yn y dyfodol trwy amddifadu pobl o enillion eu troseddau.

Ar hyn o bryd mae’r Asiantaeth yn ymchwilio i/erlyn oddeutu 130 o achosion y flwyddyn, ac mae’r mwyafrif ohonynt yn droseddau caffaelgar. Byddai’r gallu i adennill enillion troseddau, ac offerynnau troseddu - h.y. eiddo a ddefnyddir i gyflawni troseddau - yn cynyddu yn sylweddol gallu’r Asiantaeth mewn cyd-destun morol.

Ar hyn o bryd mae’r Asiantaeth yn gweithio ag amrywiaeth o sefydliadau sy’n gallu defnyddio pwerau POCA, gan gynnwys Cyllid a Thollau EM a heddluoedd, ond trwy roi pwerau iddynt ni fydd angen iddynt ddibynnu mwyach ar ddefnydd sefydliadau eraill o’r pwerau, gan ryddhau adnoddau yn y sefydliadau hynny i weithio ar achosion eraill.

Cynnig B: Byddem yn croesawu’ch barn ynghylch a ddylid rhoi pwerau a restrir ar y dudalen nesaf i Adran Drafnidiaeth:

Pŵer A ydy’r pŵer yn cael ei geisio?
Gwneud cais i’r llys am orchymyn atal Rhan 2, a.42 Ydy
Chwilio am, atafaelu a chadw eiddo Rhan 2, a.47A-7R Ydy
Chwilio am, atafaelu, cadw a cheisio fforffedu arian parod Rhan 5, Pennod 3 Ydy
Chwilio am, atafaelu, cadw a cheisio fforffedu eiddo personol (neu symudol) penodol Rhan 5, Pennod 3A Ydy
Rhewi a cheisio fforffedu arian a gedwir yng nghyfrifon banc a chymdeithas adeiladu Rhan 5, Pennod 3B Ydy
Ymestyn y cyfnod moratoriwm mewn ymchwiliadau gwyngalchu arian Rhan 7, a.336 Ydy
Gwneud gais i’r llys am orchmynion ymchwilio a gwarantau mewn ymchwiliadau POCA Rhan 8, aa. 345, 357, 363, 370 Ydy
Gweithredu gwarantau chwilio mewn ymchwiliadau ariannol Rhan 8, aa.352-353 Ydy
Ceisio pwerau cymaradwy yng Ngogledd Iwerddon Ydy

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Mae gan ddata personol werth ariannol ac mae’n cael ei gydnabod a’i drin yn gynyddol fel nwydd anghyffyrddadwy sy’n cael ei ddwyn a’i fasnachu er budd ariannol, gan arwain yn aml at golledion ariannol sylweddol i unigolion y mae eu data wedi’u cyfaddawdu. Wrth i gymdeithas newid, a mwy o’n gweithgareddau o ddydd i ddydd symud ar-lein, mae’r risgiau i unigolion o ran diogelu data yn cynyddu.

Ar hyn o bryd yr unig gosb sydd ar gael i’r llysoedd yn dilyn euogfarn droseddol o dan y Ddeddf Diogelu Data ywdirwy, yn aml yn sylweddol llai na budd unigolyn o gyflawni trosedd. Er enghraifft, mewn un achos diweddar, cafodd dau unigolyn ddirwy o £1,000 yr un er gwaethaf amcangyfrif mai eu budd o drosedd yn gysylltiedig â data oedd dros £40,000. Trwy gael pwerau POCA i geisio adennill budd unigolyn o gyflawni trosedd, gall Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) atal troseddoldeb yn y dyfodol trwy amddifadu pobl o’u henillion o droseddu. Mae hyn yn cyd-fynd â strategaeth yr ICO i fod yn ‘aflonyddol a rhwystrol’ i droseddoldeb yn ogystal ag amcanion adennill asedau’r Llywodraeth, yn benodol tarfu ar ariannu troseddu ymhellach, amddifadu pobl o’u henillion o droseddau ac atal pobl rhag cymryd rhan mewn troseddu neu barhau i droseddu.

Yn flaenorol, mae’r ICO wedi ceisio cymorth gan asiantaethau partner i ddwyn achos POCA mewn achosion priodol. Fodd bynnag, nid yw’r asiantaethau hynny bob amser mewn sefyllfa i gynorthwyo oherwydd blaenoriaethau ymchwilio ariannol cystadleuol, ac yn yr achosion hynny, byddai’n gyfle coll i adennill enillion troseddu.

Cynnig C: Byddem yn croesawu eich barn ynghylch a ddylid rhoi pwerau i’r ICO ar y dudalen nesaf:

Pŵer A ydy’r pŵer yn cael ei geisio?
Gwneud cais i’r llys am orchymyn atal Rhan 2, a.42 Ydy
Chwilio am, atafaelu a chadw eiddo Rhan 2, a.47A-7R Ydy
Chwilio am, atafaelu, cadw a cheisio fforffedu arian parod Rhan 5, Pennod 3 Ydy
Chwilio am, atafaelu, cadw a cheisio fforffedu eiddo personol (neu symudol) penodol Rhan 5, Pennod 3A Ydy
Rhewi a cheisio fforffedu arian a gedwir yng nghyfrifon banc a chymdeithas adeiladu Rhan 5, Pennod 3B Ydy
Ymestyn y cyfnod moratoriwm mewn ymchwiliadau gwyngalchu arian Rhan 7, a.336 Ydy
Gwneud gais i’r llys am orchmynion ymchwilio a gwarantau mewn ymchwiliadau POCA Rhan 8, aa. 345, 357, 363, 370 Ydy
Gweithredu gwarantau chwilio mewn ymchwiliadau ariannol Rhan 8, aa.352-353 Ydy
Ceisio pwerau cymaradwy yng Ngogledd Iwerddon Ydy

Adran Yr Economi

Mae Canolfan Enillion Troseddau’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, sy’n achredu ymchwilwyr ariannol, wedi cadarnhau y bydd yn achredu gweithwyr Safonau Masnach, Gogledd Iwerddon, rhan o Adran Yr Economi, Gogledd Iwerddon. Pe byddai unrhyw rannau eraill o Adran yr Economi yn dymuno cyrchu pwerau, bydd y Ganolfan Enillion Troseddau’n gweithredu prosesau trylwyr i sicrhau bod y sefydliad yn bwriadu defnyddio’r pwerau’n gymesur ac am reswm da. Mae’n rhaid i unrhyw ymchwilydd ariannol, p’un a yw’n rhan o Safonau Masnach, Gogledd Iwerddon, neu ran arall o Adran Yr Economi gynnal ei achrediad ar draws pob pŵer y maent yn ei ddefnyddio, a bydd y pŵer hwnnw’n cael ei ddileu pe na byddent yn ei ddefnyddio, neu’n methu â diwallu’r safonau gofynnol.

Safonau Masnach, Gogledd Iwerddon

Adran yr Economi Gogledd Iwerddon yw’r rhiant-adran ar gyfer Safonau Masnach Gogledd Iwerddon.

Mae gan Safonau Masnach yng Nghymru, Lloegr a’r Alban fynediad at bwerau POCA. Byddai rhoi mynediad i’r pwerau hyn i Safonau Masnach yng Ngogledd Iwerddon yn dod ag ef yn unol â gweddill Prydain Fawr. Roedd Safonau Masnach yng Nghymru a Lloegr yn gyfrifol am adennill £15.3m yn 2018/19 (o gyfanswm o £165.6m)[footnote 1]. Mae’r math o achos a gymerir gan Safonau Masnach yn amrywio o ffugio ar raddfa fawr i fasnachwyr twyllodrus.

Ar hyn o bryd, mae Safonau Masnach Gogledd Iwerddon yn dibynnu ar atgyfeirio achosion at Wasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon (PSNI) lle mae’n credu y byddai defnyddio pwerau POCA yn arwain at ganlyniadau cyfiawnder troseddol gwell. Mae Safonau Masnach Gogledd Iwerddon yn atgyfeirio i’r PSNI er bod ganddynt yr adnoddau i allu mynd ar drywydd achosion enillion troseddau’n fewnol. Nid yw Safonau Masnach Gogledd Iwerddon wedi’i ddynodi â phwerau POCA ac felly ni allant gyrchu’ hyfforddiant a’r achrediad angenrheidiol ar gyfer defnyddio’r pwerau. Yn bwysig, byddai hyn yn caniatáu i Safonau Masnach Gogledd Iwerddon gynnal ymchwiliadau ariannol yn annibynnol, gan arbed adnoddau PSNI a fyddai fel arall yn cael eu defnyddio i gynorthwyo yn y maes hwn.

Cynnig D: Byddem yn croesawu eich barn ynghylch a ddylid rhoi pwerau i Adran Yr Economi Gogledd Iwerddon ar y dudalen ddilynol:

Pŵer A ydy’r pŵer yn cael ei geisio?
Gwneud cais i’r llys am orchymyn atal Rhan 4, aa.190- 190A Ydy
Chwilio am, atafaelu a chadw eiddo Rhan 4, aa.195A-195H Ydy
Chwilio am, atafaelu, cadw a cheisio fforffedu arian parod Rhan 5, Pennod 3 Ydy
Chwilio am, atafaelu, cadw a cheisio fforffedu eiddo personol (neu symudol) penodol Rhan 5, Pennod 3A Ydy
Rhewi a cheisio fforffedu arian a gedwir yng nghyfrifon banc a chymdeithas adeiladu Rhan 5, Pennod 3B Ydy
Ymestyn y cyfnod moratoriwm mewn ymchwiliadau gwyngalchu arian Rhan 7, a.336 Ydy
Gwneud gais i’r llys am orchmynion ymchwilio a gwarantau mewn ymchwiliadau POCA Rhan 8, aa. 345, 357, 363, 370 Ydy
Gweithredu gwarantau chwilio mewn ymchwiliadau ariannol Rhan 8, aa.352-353 Ydy
Ceisio pwerau cymaradwy yng Ngogledd Iwerddon Dim ond yng Ngogledd Iwerddon y ceisir pwerau

Brigâd Dân Llundain

Mae gan rai gwasanaethau tân yn y DU bwerau AFI eisoes gan eu bod yn rhan o awdurdod lleol sydd â mynediad at y pwerau, ond mae’r LFB yn anomaledd. Gan fod Brigâd Dân Llundain (LFB) yn rhan o Gomisiynydd Tân Llundain, nad oes ganddo bwerau AFI, ni all felly arfer pwerau POCA.

Mae achosion LFB yn ymwneud i raddau helaeth ag eiddo masnachol sy’n torri rheoliadau diogelwch tân, yn aml fel mesur arbed costau.Gan fod y troseddau hyn felly’n darparu budd ariannol i ddiffynyddion, byddai gan bwerau i adennill enillion troseddau ganlyniad cyfiawnder troseddol cryfach na’r pwerau sydd ar gael ar hyn o bryd i’r LFB (i geisio dirwyon a dedfrydau carchar). Fel sy’n wir â llawer o asiantaethau eraill, mae’r dirwyon y gall LFB eu ceisio yn aml yn sylweddol llai na’r budd ariannol i unigolyn sy’n torri rheoliadau diogelwch tân.

Cynnig E: Byddem yn croesawu eich barn ynghylch a ddylid rhoi’r pwerau dilynol i Frigâd Dân Llundain:

Pŵer A ydy’r pŵer yn cael ei geisio?
Gwneud cais i’r llys am orchymyn atal Rhan 2, a.42 Ydy
Chwilio am, atafaelu a chadw eiddo Rhan 2, a.47A-7R Ydy
Chwilio am, atafaelu, cadw a cheisio fforffedu arian parod Rhan 5, Pennod 3 Ydy
Chwilio am, atafaelu, cadw a cheisio fforffedu eiddo personol (neu symudol) penodol Rhan 5, Pennod 3A Ydy
Rhewi a cheisio fforffedu arian a gedwir yng nghyfrifon banc a chymdeithas adeiladu Rhan 5, Pennod 3B Ydy
Ymestyn y cyfnod moratoriwm mewn ymchwiliadau gwyngalchu arian Rhan 7, a.336 Nac ydy
Gwneud gais i’r llys am orchmynion ymchwilio a gwarantau mewn ymchwiliadau POCA Rhan 8, aa. 345, 357, 363, 370 Ydy
Gweithredu gwarantau chwilio mewn ymchwiliadau ariannol Rhan 8, aa.352-353 Ydy
Ceisio pwerau cymaradwy yng Ngogledd Iwerddon Nac ydy

Holiadur

Byddem yn croesawu ymatebion i’r cwestiynau dilynol a gyflwynir yn y papur ymgynghori hwn.

C1.I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â chynnig A, a ddylid rhoi’r

pwerau a restrir ar Heddlu’r Gwasanaethau?

Cytuno’n gryf Cytuno Dim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n gryf
         

C2. Os ydych chi’n anghytuno â chynnig A, rhowch resymau.

C3.I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â chynnig B, a ddylid rhoi’r pwerau ar dudalen 7 i’r Adran Drafnidiaeth?

Cytuno’n gryf Cytuno Dim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n gryf
         

C4. Os ydych chi’n anghytuno â chynnig B, rhowch resymau.

C5.I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â chynnig C, a ddylid rhoi’r pwerau ar dudalen 9 i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth?

Cytuno’n gryf Cytuno Dim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n gryf
         

C6. Os ydych chi’n anghytuno â chynnig C, rhowch resymau.

C7.I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â chynnig D, ynghylch a ddylid rhoi’r pwerau ar dudalen 11 i Adran Yr Economi, Gogledd Iwerddon?

Cytuno’n gryf Cytuno Dim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n gryf
         

C8. Os ydych chi’n anghytuno â chynnig D, rhowch resymau.

C9.I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â chynnig E, ynghylch a ddylid rhoi’r pwerau ar dudalen 12 i Frigâd Dân Llundain?

Cytuno’n gryf Cytuno Dim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n gryf
         

C10. Os ydych chi’n anghytuno â chynnig E, rhowch resymau.

Diolch am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn.

Ynglŷn â chi

Defnyddiwch yr adran hon i ddweud wrthym amdanoch chi’ch hun

Enw llawn  
Teitl swydd neu’r capasiti rydych chi’n ymateb i’r ymarfer ymgynghori hwn ynddo (er enghraifft, aelod o’r cyhoedd)  
Dyddiad  
Enw’r cwmni/sefydliad (os yw’n berthnasol)  
Cyfeiriad  
Cod Post  
Os hoffech i ni gydnabod ein bod wedi derbyn eich ymateb, ticiwch y blwch hwn  
Cyfeiriad y dylid anfon y gydnabyddiaeth iddo, os yw’n wahanol i’r hyn uchod  

Os ydych chi’n gynrychiolydd grŵp, rhowch enw’r grŵp wrthym a rhowch grynodeb o’r bobl neu’r sefydliadau rydych chi’n eu cynrychioli.



Manylion cyswllt a sut i ymateb

Anfonwch eich ymateb erbyn 19Mawrth i:

Post:

AFI Order Consultation
6th Floor Peel, Serious & Organised Crime Group
Home Office
2 Marsham Street
London
SW1P 4DF

E-bost:

AFIConsultation@homeoffice.gov.uk

Cwynion neu sylwadau

Os oes gennych unrhyw gŵynion neu sylwadau am y broses ymgynghori dylech gysylltu â’r Swyddfa Gartref yn y cyfeiriad uchod.

Fformatau amgen

Gellir gofyn am fersiynau fformat amgen o’r cyhoeddiad hwn gan AFIConsultation@homeoffice.gov.uk.

Grwpiau cynrychiadol

Gofynnir i grwpiau cynrychiadol roi crynodeb o’r bobl a’r sefydliadau y maent yn eu cynrychioli pan ydynt yn ymateb.

Cyfrinachedd

Gellir cyhoeddi neu ddatgelu gwybodaeth a ddarperir mewn ymateb i’r ymgynghoriad hwn, gan gynnwys gwybodaeth bersonol, yn unol â’r cyfundrefnau mynediad at wybodaeth (Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (FOIA), Deddf Diogelu Data 2018 (DPA), y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yw’r rhain yn bennaf).

Os ydych chi am i’r wybodaeth rydych chi’n ei darparu gael ei thrin yn gyfrinachol, byddwch yn ymwybodol, o dan y FOIA, bod Cod Ymarfer statudol y mae’n rhaid i awdurdodau cyhoeddus gydymffurfio ag ef ac sy’n delio, ymhlith pethau eraill, â rhwymedigaethau hyder. O ystyried hyn, byddai’n ddefnyddiol pe gallech egluro i ni pam eich bod yn ystyried bod y wybodaeth rydych wedi’i darparu’n gyfrinachol. Os derbyniwn gais i ddatgelu’r wybodaeth, byddwn yn ystyried eich esboniad yn llawn, ond ni allwn roi sicrwydd y gellir cynnal cyfrinachedd ym mhob amgylchiad. Ni fydd ymwadiad cyfrinachedd awtomatig a gynhyrchir gan eich system TG ynddo’i hun yn cael ei ystyried yn rhwymol ar y Swyddfa Gartref.

Bydd y Swyddfa Gartref yn prosesu’ch data personol yn unol â’r DPA ac yn y mwyafrif o amgylchiadau, bydd hyn yn golygu na fydd eich data personol yn cael ei ddatgelu i drydydd partïon.

Atodiad A: rhestr o’r asiantaethau Ymchwilio Ariannol Achrededig cyfredol

Mae’r ddeddfwriaeth ddiynol yn rhoi pwerau AFI i’r asiantaethau hyn:

  • Gorchymyn Deddf Enillion Troseddau 2002 (Cyfeiriadau at Ymchwilwyr Ariannol) 2009, Offeryn Statudol rhif 2009/975

fel y’i diwygiwyd gan:

  • Gorchymyn Deddf Enillion Troseddau 2002 (Cyfeiriadau at Ymchwilwyr Ariannol) (Diwygio) 2009
  • Gorchymyn Deddf Enillion Troseddau 2002 (Cyfeiriadau at Ymchwilwyr Ariannol) (Diwygio) 2017

a

  • Gorchymyn Deddf Enillion Troseddau 2002 (Cyfeiriadau at Ymchwilwyr Ariannol) (Cymru a Lloegr) 2015, Offeryn Statudol rhif 2015/1853

fel y’i diwygiwyd gan:

  • Gorchymyn Deddf Enillion Troseddau 2002 (Cyfeiriadau at Ymchwilwyr Ariannol) (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2018
  • Gorchymyn Deddf Enillion Troseddau 2002 (Cyfeiriadau at Ymchwilwyr Ariannol) (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020

Cyrff sy’n gweithredu yng Nghymru a Lloegr (mae rhai’n gweithredu yng Ngogledd Iwerddon)

  • Gwasanaeth Gwrth-Dwyll a Rheoli Diogelwch
  • Yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol
  • Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
  • Yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • Yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Yr Asiantaeth Safonau Gyrru a Cherbydau
  • Asiantaeth yr Amgylchedd
  • Yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol
  • Yr Asiantaeth Safonau Bwyd
  • Y Comisiwn Hapchwarae
  • Yr Awdurdod Meistri Gang a Chamddefnyddio Llafur
  • Y Swyddfa Gartref
  • Y Swyddfa Eiddo Deallusol
  • Awdurdodau lleol
  • Y Sefydliad Rheoli Morol
  • Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd
  • Y Weinyddiaeth Gyfiawnder
  • Corff Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol
  • Y Swyddfa Masnachu Teg
  • Y Rheoleiddiwr Pensiynau
  • Heddluoedd yng Nghymru a Lloegr
  • Swyddfa Bost
  • Yr Awdurdod Rheoleiddio Darbodus
  • Y Post Brenhinol
  • Yr Asiantaeth Taliadau Gwledig
  • Awdurdod y Diwydiant Diogelwch
  • Swyddfa Twyll Difrifol
  • Transport for London

Cyrff ychwanegol sy’n gweithredu yng Ngogledd Iwerddon

  • Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig
  • Adran yr Amgylchedd
  • Yr Adran Datblygiad Rhanbarthol[footnote 2]
  • Yr Adran Datblygiad Cymdeithasol
  • Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon
  1. Bwletin Ystadegol Adennill Asedau 

  2. Bellach, yr enw ar yr Adran Datblygu Rhanbarthol yw’r Adran Seilwaith