Astudiaeth achos

Dyfarnu £20 miliwn i hwb hamdden newydd yng Nghaerffili

Dyrannwyd £20 miliwn o’r Gronfa Ffyniant Bro i Gyngor Sir Caerffili. Mae Caerffili yn bwriadu defnyddio’r cyllid i adeiladu canolfan hamdden a lles newydd.

Cyfleusterau hamdden newydd sbon

Bydd y cyfleuster newydd o’r radd flaenaf yn cael ei ddatblygu ger Parc Busnes Caerffili. Bydd yn disodli Canolfan Hamdden bresennol Caerffili, sydd wedi dyddio, yng nghanol y dref.

Bydd yn cynnwys:

  • neuadd chwaraeon amlbwrpas
  • pwll nofio chwe lôn
  • sba lles a chyfleusterau lles
  • lle chwarae meddal antur i blant
  • ystafell ffitrwydd

Dywedodd Cyngor Caerffili:

Ein nod yw creu ased cymunedol hanfodol sy’n gatalydd ar gyfer gwella’r cyfleoedd iechyd a bywyd i bawb ac sy’n gwella gwydnwch ein cymunedau. Bydd yr hwb yn cryfhau ymgyrch barhaus y Cyngor i leihau anghydraddoldeb cymdeithasol, iechyd ac ariannol ledled y fwrdeistref sirol.

Budd i’r gymuned ehangach

Nod y prosiect yw rhoi cyfleoedd hamdden gwell i drigolion Caerffili. Bydd yn darparu:

  • mynediad hygyrch i gyfleusterau iechyd a lles
  • mannau cymunedol amlbwrpas fforddiadwy

Mae’r hwb yn cynrychioli cyfle datblygu sylweddol i greu swyddi, hyrwyddo twristiaeth a masnach newydd, a gwasanaethu cenedlaethau presennol a’r dyfodol yn y dref a’r fwrdeistref sirol. Bydd yr hwb yn cynnig cysylltiadau cryf â choridor teithio llesol y dref i hyrwyddo hygyrchedd a chynhwysiant, gan fod mewn sefyllfa dda i ddenu trigolion o bob rhan o’r fwrdeistref sirol ac ymwelwyr o’r tu allan i’r ardal.

Mae’r prosiect yn rhan o raglen adfywio ehangach canol tref Caerffili o dan Cynllun Creu Lleoedd 2035 Caerffili

Darganfyddwch fwy am Levelling Up

Cyhoeddwyd ar 1 November 2023