Eithrio allan o Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth

Neidio i gynnwys y canllaw

Gwirio os oeddech wedi eithrio allan

Cafodd y rhan fwyaf o bobl a oedd wedi cael eu cyflogi cyn mis Ebrill 2016 eu heithrio allan ar ryw adeg.

Os ydych o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Gwiriwch eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth. Os oeddech wedi eithrio allan, bydd eich rhagolwg yn cynnwys amcangyfrif ‘ aPensiwn Eithrio Allan Cyfatebol’.

Os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Gwiriwch eich slipiau cyflog cyn 6 Ebrill 2016. Os oes gennych unrhyw slipiau cyflog gyda’r llythrennau categori D, E, L, N neu O, yna roeddech wedi eithrio allan.

Gallwch hefyd ofyn i’ch:

  • cyflogwyr
  • darparwyr pensiwn

Os ydych wedi colli cysylltiad â darparwr pensiwn, efallai y bydd y Gwasanaeth Olrhain Pensiwn yn gallu dod o hyd i’w manylion cyswllt.