Debyd Uniongyrchol

Gallwch drefnu Debyd Uniongyrchol drwy’ch cyfrif ar-lein gyda Chyllid a Thollau EF (CThEF) i naill ai:

  • talu’ch bil yn awtomatig
  • gwneud taliad unigol

Ni allwch ddefnyddio Debyd Uniongyrchol sy’n bodoli eisoes ar gyfer taliadau TWE safonol.

Talu’ch bil yn awtomatig

Bydd CThEF yn casglu’r taliad o’ch cyfrif banc yn awtomatig, yn seiliedig ar y swm yn eich Ffurflen Dreth. Dim ond unwaith y bydd angen i chi sefydlu’r Debyd Uniongyrchol.

Ewch ati i’w drefnu o leiaf 4 diwrnod gwaith cyn y dyddiad dyledus ar gyfer eich taliad.

Fel arfer bydd CThEF yn casglu’r taliad ar y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • yn fuan ar ôl yr 22ain o’r mis
  • 4 diwrnod gwaith ar ôl i chi gyflwyno’r Ffurflen Dreth (os byddwch yn ei chyflwyno ar ôl y 19eg o’r mis)

Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi beth yw’r dyddiad a’r swm 3 diwrnod gwaith cyn i’r taliad gael ei gasglu, fan bellaf. Bydd y taliadau’n ymddangos ar eich cyfriflen banc fel ‘HMRC SDDS’.

Bydd CThEF yn casglu’r taliad o’ch cyfrif banc yn awtomatig os oes gennych Ddebyd Uniongyrchol Newidiol ar gyfer TWE y Cyflogwr ar waith.

Gwneud taliad unigol

Bydd angen i chi roi cyfeirnod talu, sy’n 17 o gymeriadau. Mae hwn yn dechrau gyda’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon, sy’n 13 o gymeriadau.

Mae hwn ar y llythyr a anfonwyd atoch gan CThEF pan wnaethoch gofrestru fel cyflogwr am y tro cyntaf.

Ychwanegwch y flwyddyn dreth rydych am dalu ar ei chyfer a’r digidau ‘13’. Os na fyddwch yn gwneud hyn, caiff eich taliad ei ddyrannu i’r flwyddyn dreth gyfredol yn lle hynny.

Enghraifft

Eich cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon yw 123PA00012345.

I wneud taliad ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024, ychwanegwch y digidau ‘2413’ at eich cyfeirnod. Eich cyfeirnod 17 o gymeriadau yw 123PA000123452413.

Caniatewch 5 diwrnod gwaith i brosesu Debyd Uniongyrchol pan fyddwch yn trefnu un am y tro cyntaf. Dylai gymryd 3 diwrnod gwaith y tro nesaf os ydych yn defnyddio’r un manylion banc.