Trosolwg

Mae’n rhaid i chi dalu Treth Etifeddiant erbyn diwedd y chweched mis ar ôl i’r person farw. Er enghraifft, os bu farw’r person ym mis Ionawr, bydd yn rhaid i chi dalu Treth Etifeddiant erbyn 31 Gorffennaf.

Mae dyddiadau dyledus gwahanol os ydych yn gwneud taliadau ar ymddiriedolaeth.

Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn codi llog arnoch (yn agor tudalen Saesneg) os nad ydych yn talu erbyn y dyddiad dyledus.

Fel arfer mae angen i chi wneud taliad tuag at unrhyw Dreth Etifeddiant sydd arnoch cyn y byddwch yn gallu cael ‘grant cynrychiolaeth’ (a elwir hefyd yn ‘brofiant’). Gelwir hyn yn ‘confirmation’ yn yr Alban (yn agor tudalen Saesneg)

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (in English).

Sut i dalu

Bydd angen i chi gael cyfeirnod talu cyn y gallwch dalu’ch bil Treth Etifeddiant.

Talu o’ch cyfrif banc

Gallwch dalu o’ch cyfrif banc eich hun neu o gyfrif ar y cyd â’r ymadawedig.

Gallwch dalu ar-lein drwy’r dulliau canlynol:

  • cymeradwyo gan ddefnyddio’ch cyfrif banc

  • trosglwyddiad banc

Talu nawr

Gallwch hefyd dalu drwy’r dulliau canlynol:

Gallwch hawlio’r arian yn ôl o ystâd yr ymadawedig neu’r buddiolwyr unwaith i chi gael profiant.

Talu o gyfrifon yr oedd yr ymadawedig yn berchen arnynt

Gallwch dalu drwy ddefnyddio:

Os na allwch dalu

Os nad ydych yn gallu rhyddhau arian o’r ystâd nac yn gallu talu mewn ffordd arall, gallwch ofyn i ohirio talu Treth Etifeddiant (yn agor tudalen Saesneg).

Os nad ydych yn gwybod faint i dalu

Gallwch wneud taliadau cyn eich bod yn gwybod yr union swm o Dreth Etifeddiant sy’n ddyledus gan ystâd yr ymadawedig. Gelwir y rhain yn ‘taliadau ar gyfrif’.

Gwirio bod eich taliad wedi dod i law

Nid yw CThEF yn anfon derbynebau ar gyfer pob taliad a wnewch. Byddant yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi pan fyddwch wedi talu’r holl Dreth Etifeddiant a’r llog sydd arnoch.

Os ydych wedi talu drwy’ch banc neu’ch cymdeithas adeiladu eich hun, gwiriwch eich cyfriflen er mwyn cadarnhau bod y taliad wedi gadael eich cyfrif.