Canllawiau

Fy Nghyfrif Comisiwn Elusennau - canllaw i gysylltiadau elusennau

Sut i sefydlu a defnyddio'ch 'Cyfrif Comisiwn Elusennau' newydd a rheoli mynediad a chaniatâd defnyddwyr eraill.

Applies to England and Wales

Cysylltwch â ni fel y gallwn anfon dolen atoch i sefydlu’ch cyfrif.

Gallwch ein ffonio ar 0300 066 9197 (mae ein llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9:00am i 5:00pm).

Bydd angen i chi roi cyfeiriad e-bost i ni y byddwch chi yn ei ddefnyddio yn unig. Os byddwch yn newid eich cyfeiriad e-bost ar ôl i chi sefydlu’ch cyfrif, bydd angen i chi ofyn am ddolen newydd a sefydlu cyfrif newydd.

Gosod eich cyfrif

Chwiliwch am e-bost â’ch dolen sefydlu ar gyfer ‘Fy Nghyfrif Comisiwn Elusennau’ (MCCA). Wrth sefydlu’ch cyfrif, gofynnir i chi ddilysu eich dyddiad geni a chreu eich cyfrinair eich hun.

Dilyswch eich dyddiad geni

Byddwn yn gofyn i chi gadarnhau eich dyddiad geni fel y gallwn wirio pwy ydynt.

Os na dderbynnir y dyddiad geni y byddwch yn ei nodi, gallai hyn fod oherwydd nad oedd wedi’i gofrestru’n gywir.

Bydd angen i chi ein ffonio ar 0300 066 9197 (mae ein llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9:00am i 5:00pm) fel y gallwn ei newid ar eich rhan.

Creu cyfrinair

Sicrhewch fod gan eich cyfrinair o leiaf:

  • 10 nod
  • 1 rhif
  • 1 prif lythyren

Galluogi fy nghaniatadau gweinyddwr

Os ydych yn brif weinyddwr, yn uwch-weinyddwr neu’n ddefnyddiwr, mae angen i chi gadarnhau eich bod wedi’ch awdurdodi gan eich ymddiriedolwyr i gael y mynediad hwn cyn defnyddio rhai gwasanaethau..

Camau i alluogi caniatâd gweinyddwr:

  1. Sgroliwch i lawr i ‘Gweinyddu’ yn eich hafan
  2. Cliciwch ar ‘Gweinyddu Defnyddwyr’
  3. Ticiwch y blwch i gadarnhau bod gennych awdurdod i fod yn weinyddwr a chliciwch ar ‘parhau’
  4. Ticiwch y blwch i dderbyn eich cyfrifoldeb fel rheolydd data ar gyfer eich elusen a chliciwch ar ‘parhau’
  5. Byddwch yn cael neges yn dweud ein bod wedi hysbysu holl ymddiriedolwyr eich elusen eich bod wedi galluogi eich caniatâd gweinyddwr.

Mynediad a chaniatâd

Fel cyswllt elusen, â chaniatâd eich gweinyddwr wedi’i alluogi, byddwch yn gallu:

  • cyrchu’r holl wasanaethau ar-lein ar gyfer eich elusen (neu elusennau) os mai chi yw’r cyswllt cofrestredig
  • gweld a golygu gwybodaeth ymddiriedolwyr, ac eithrio pan fydd ymddiriedolwr wedi rhwystro mynediad i’w wybodaeth bersonol trwy ei gyfrif
  • gweld a golygu gwybodaeth bersonol ar gyfrifon defnyddwyr trydydd parti sy’n gysylltiedig â’ch elusen (cyn belled nad ydynt hefyd yn gysylltiedig ag elusennau eraill)
  • gwahodd ymddiriedolwyr i sefydlu eu cyfrifon
  • gwahodd defnyddwyr trydydd parti i sefydlu eu cyfrifon a rheoli eu mynediad i wahanol wasanaethau
  • rhoi caniatâd gweinyddol ychwanegol i ddefnyddwyr priodol eraill yn eich elusen.

Newid cysylltiadau

Os nad chi yw’r cyswllt elusen rhagor, mae angen i chi ychwanegu’r cyswllt newydd at eich elusen yn ‘Diweddaru Manylion yr Elusen’ a diweddaru eich rôl â’ch elusen.

Os nad ydych yn gweithio gyda’r elusen rhagor, byddwch yn cadw’ch cyfrif ond ni fyddwch yn gallu gweld yr elusen y tro nesaf y byddwch yn mewngofnodi. Bydd yr elusen a’ch holl ganiatadau i gael mynediad at wasanaethau ar ei ran yn cael eu tynnu o’ch cyfrif.

Y cyswllt newydd fydd prif weinyddwr eich elusen.

Gwahodd ymddiriedolwyr i sefydlu cyfrif

Gall pob ymddiriedolwr unigol gael cyfrif i gael mynediad at wasanaethau ar-lein ar ran eu helusen neu elusennau. Byddant yn cael mynediad llawn at yr holl wasanaethau ac eithrio na fyddant yn gallu gweld na golygu manylion personol ymddiriedolwyr eraill.

Os ydych wedi galluogi eich caniatâd gweinyddwr, gallwch wahodd eich ymddiriedolwyr i sefydlu cyfrif.

Camau i wahodd ymddiriedolwyr

Ymddiriedolwyr presennol:

  1. Mewngofnodwch i MCCA
  2. Ewch i’ch hafan ar gyfer yr elusen
  3. Sgroliwch i lawr a dewiswch ‘Gweinyddu Defnyddwyr’
  4. Dewiswch ‘Ychwanegu ymddiriedolwyr at y porth’
  5. Byddwch yn gweld rhestr o ymddiriedolwyr eich elusen – dewiswch bob un yr hoffech eu gwahodd
  6. Cliciwch ar ‘Gwahodd’
  7. Byddwch yn cael neges yn cadarnhau bod eich ymddiriedolwyr wedi cael eu gwahodd. Bydd pob un o’r ymddiriedolwyr dethol yn cael e-bost â dolen i sefydlu eu cyfrifon.

Ailanfon dolenni at ymddiriedolwyr

Os nad yw ymddiriedolwr wedi derbyn ei ddolen sefydlu neu os na all ddod o hyd iddo, gallwch ailanfon y ddolen.

  1. Mewngofnodwch i MCCA
  2. Ewch i’ch hafan ar  gyfer yr elusen
  3. Sgroliwch i lawr aq chliciwch ar ‘Weinyddiaeth Defnyddiwr’
  4. Ticiwch y blwch ‘defnyddwyr anweithredol’ (o dan y bar ‘chwilio am ddefnyddwyr’)
  5. Cliciwch ar y chwyddwydr ‘chwilio am ddefnyddwyr’ (mae cofnodi enw yn ddewisol)
  6. Fe welwch restr o bob defnyddiwr sydd heb sefydlu cyfrif eto
  7. Cliciwch ar ‘ailanfon gwahoddiad’ wrth ymyl enw’r person sydd ag angen dolen.

Ymddiriedolwyr newydd

Pan fyddwch yn ychwanegu ymddiriedolwr newydd trwy ‘Diweddaru manylion elusen’, bydd yn derbyn dolen yn awtomatig i sefydlu cyfrif. Gall pob ymddiriedolwr gael cyfrif i gael mynediad at wasanaethau ar-lein ar ran eu helusen neu elusennau.

Ymddiriedolwyr elusennau lluosog

Os yw eich ymddiriedolwr yn gweithio gydag elusennau lluosog, ond nid yw’n gallu gweld eich elusen wedi’i rhestru ar ei gyfrif, efallai y bydd angen i chi newid ei fanylion personol er mwyn iddynt fod yn union yr un fath â’r rhai a gofnodwyd ar gyfer yr elusennau a restrir. Mae hyn yn cynnwys sicrhau ei fod yn defnyddio’r un cyfeiriad e-bost ar gyfer ei holl elusennau.

Ymddiriedolwyr corfforaethol

Ni all endid corfforaethol gael Fy Nghyfrif Comisiwn Elusennau, mae hyn yn cynnwys ymddiriedolwyr corfforaethol. Fodd bynnag, gall unrhyw unigolion sy’n gweithredu ar ran elusen gydag ymddiriedolwr corfforaethol gael cyfrif a mynediad at wasanaethau ar-lein os oes angen.

Gall cysylltiadau elusennol gael mynediad llawn. Gall unrhyw un arall sydd angen mynediad gael cyfrif a mynediad fel defnyddiwr trydydd parti.

Gan nad oes ymddiriedolwyr unigol, ni all unrhyw un yn yr elusen gael mynediad ymddiriedolwr.

Caniatáu mynediad i ddefnyddwyr trydydd parti

Os ydych wedi galluogi eich caniatadau gweinyddwr, gallwch wahodd defnyddwyr trydydd parti i sefydlu cyfrif, cymeradwyo eu ceisiadau am gyfrif a rhoi mynediad iddynt i wasanaethau gwahanol ar ran eich elusen.

Camau i wahodd defnyddwyr trydydd parti i sefydlu cyfrif

  1. Mewngofnodwch i MCCA
  2. Ewch i’ch hafan ar gyfer yr elusen
  3. Sgroliwch i lawr a dewiswch ‘Gweinyddu Defnyddwyr’
  4. Dewiswch ‘Ychwanegu defnyddiwr porth’
  5. Rhowch gyfeiriad e-bost y defnyddiwr, yna ‘Cadw a pharhau’
  6. Ychwanegwch enw’r defnyddiwr ac yna ‘Cadw a pharhau’
  7. Dewiswch y gwasanaethau y bydd ganddynt fynediad iddynt ac os oes ganddynt ganiatâd ‘gweld’ neu ‘olygu’ yna ‘Cadw a pharhau’
  8. Yna byddwch yn gweld rhagolwg o’r hyn rydych wedi’i nodi ar gyfer y defnyddiwr hwn, os yw’n gywir, ‘Cadarnhau ac anfon gwahoddiad’
  9. Byddwch yn cael neges yn cadarnhau bod y defnyddiwr wedi’i ychwanegu a gwahoddiad wedi cael ei anfon ato.

Os oes gan y defnyddiwr hwn gyfrif eisoes, mae angen i chi ddilyn yr un camau.  Ni fydd yn derbyn gwahoddiad arall, ond bydd yn cael ei ychwanegu at eich elusen.

Unwaith y bydd defnyddiwr trydydd parti wedi sefydlu cyfrif, dim ond ef/hi all olygu ei fanylion/manylion.  

Os yw’r cyfeiriad e-bost a roesoch eisoes yn gysylltiedig â chyfrif nad yw’n perthyn i’r person rydych chi’n ei ychwanegu, mae angen cyfeiriad e-bost gwahanol arnoch chi. Bydd angen i chi ofyn i’r defnyddiwr rydych chi’n ei ychwanegu i ddarparu cyfeiriad e-bost y mae ef/hi yn unig yn ei ddefnyddio.

Gall defnyddwyr trydydd parti hefyd ofyn am gyfrif trwy Fy Nghyfrif Comisiwn Elusennau. Gallwch gymeradwyo neu wadu eu cais drwy ddilyn y camau hyn

Camau i gymeradwyo neu wrthod ceisiadau cyfrif gan ddefnyddwyr trydydd parti

  1. Mewngofnodwch i MCCA
  2. Ewch i’ch hafan ar gyfer yr elusen
  3. Gwiriwch eich negeseuon – gallwch ddod o hyd i’r ddolen i negeseuon ar frig tudalen hafan eich elusen
  4. Pan fyddwch yn agor eich negeseuon, byddwch yn gweld ‘cais mynediad’ – cliciwch ar y ‘ddolen i’r rhestr o geisiadau’
  5. Pan fydd y rhestr yn agor, gallwch weld pwy sydd wedi gofyn am gyfrif – cliciwch ar y ddolen ‘Manylion’ wrth ymyl enw’r defnyddiwr
  6. Bydd y dudalen ‘Manylion Cais Cyfrif’ yn nodi pa wasanaethau y mae angen i’r defnyddiwr eu cyrchu a gallai gynnwys ‘Gwybodaeth ychwanegol’ i roi rheswm pam
  7. Sgroliwch i lawr i waelod y dudalen ‘Manylion cais cyfrif’ i gymeradwyo neu wrthod y cais
    • os byddwch yn cymeradwyo’r cais, dewiswch ‘ie’, yna ‘Cadw a Pharhau’ - byddwch wedyn yn cael neges yn cadarnhau eich bod wedi cymeradwyo’r defnyddiwr newydd yn llwyddiannus a’i fod wedi cael gwahoddiad
    • os ydych am wrthod y cais, dewiswch ‘na’ a rhowch eich rheswm pam, yna ‘Cadw a Pharhau’ - byddwch wedyn yn cael neges yn cadarnhau eich bod wedi gwrthod cais y defnyddiwr newydd yn llwyddiannus a’i fod wedi cael e-bost yn rhoi gwybod iddynt bod eu cais wedi’i wrthod

Rhoi mynediad i ddefnyddwyr trydydd parti at wasanaethau ychwanegol

Os oes angen mynediad neu lefel wahanol o fynediad i wasanaeth ar-lein ar ddefnyddiwr trydydd parti, gallwch ganiatáu hyn trwy ddilyn y camau hyn.

Camau i ganiatáu mynediad i wasanaethau ar-lein

  1. Mewngofnodwch i MCCA
  2. Ewch i’ch hafan ar gyfer yr elusen
  3. Sgroliwch i lawr a dewiswch ‘gweinyddu defnyddwyr’
  4. Dewiswch ‘gweld manylion’ wrth ymyl enw’r person sy’n cael y mynediad hwn
  5. O dan ‘caniatâd defnyddiwr’, ewch i ‘Caniatâd ychwanegol a roddwyd gan yr elusen hon’ a dewiswch ‘newid’
  6. Mae’r dudalen hon yn caniatáu i chi newid eu caniatâd neu fynediad i wasanaethau eraill.
  7. Unwaith y byddwch wedi diweddaru caniatâd, dewiswch ‘cadw a pharhau’
  8. Byddwch yn cael hysbysiad bod caniatâd defnyddwyr wedi’u diweddaru a’u cadw.

Rhoi caniatâd gweinyddwr i ddefnyddwyr eraill

Argymhellwn fod rhai defnyddwyr o fewn elusen yn cael caniatâd gweinyddwr ychwanegol. gall y defnyddwyr hyn fod yn ymddiriedolwyr neu’n drydydd partïon

Bydd hyn yn galluogi’r elusen i barhau i roi mynediad i ddefnyddwyr os yw’r cyswllt elusen yn absennol neu ddim yn ymwneud â’ch elusen rhagor.

Gall cyswllt yr elusen enwebu:

  • un ‘uwch-weinyddwr’ – fydd â’r un mynediad a chaniatadau â chyswllt yr elusen, ac eithrio na all wneud defnyddiwr arall yn uwch-weinyddwr’
  • hyd at 5 ‘gweinyddwr defnyddwyr’ – sy’n gallu galluogi ymddiriedolwyr a defnyddwyr trydydd parti eraill i sefydlu cyfrifon, rhoi mynediad i ddefnyddwyr trydydd parti i wasanaethau gwahanol a golygu eu manylion (ar yr amod fod y defnyddiwr trydydd parti yn gysylltiedig â’ch elusen yn unig)

Ystyriwch pwy sydd fwyaf priodol ar gyfer eich elusen eich hun, gan ystyried polisi GDPR eich elusen, rolau’r unigolion dan sylw a’u gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’ch elusen.

Os rhoddir caniatâd gweinyddwr i chi, pan fyddwch yn mewngofnodi nesaf, gofynnir i chi gadarnhau eich bod wedi’ch awdurdodi gan eich ymddiriedolwyr i gael y mynediad hwn.

Camau i roi caniatâd gweinyddwr

  1. Mewngofnodwch i MCCA
  2. Ewch i’ch hafan ar gyfer yr elusen
  3. Sgroliwch i lawr a dewiswch ‘gweinyddu defnyddwyr’
  4. Dewiswch ‘gweld manylion’ wrth ymyl enw’r person sy’n cael y caniatâd hwn
  5. O dan ‘caniatâd defnyddiwr’, ewch i ‘Caniatâd ychwanegol a roddwyd gan yr elusen hon’ a dewiswch ‘newid’
  6. Mae’r dudalen hon yn caniatáu i chi naill ai roi breintiau uwch-weinyddwr neu ‘olygu’ caniatâd i ‘reoli defnyddwyr’.
  7. Unwaith y byddwch wedi diweddaru caniatâd, dewiswch ‘cadw a pharhau’
  8. Byddwch yn cael hysbysiad bod caniatâd defnyddwyr wedi’u diweddaru a’u cadw.

Materion cyffredin

Dewch o hyd i gymorth â phroblemau cyffredin (mae’r ddolen hon yn agor tudalen newydd) wrth fewngofnodi i a defnyddio eich cyfrif.

Mewngofnodwch i wasanaethau ar-lein y Comisiwn Elusennau

Cyhoeddwyd ar 16 November 2023