Canllawiau

Cadarnhau manylion eich eiddo

Gallwch gadarnhau manylion eich eiddo neu adrodd am unrhyw newidiadau iddynt drwy gyflwyno gwiriad i Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA).

Applies to England and Wales

Beth yw achos Gwirio?

Mae 2 ran i brisiad eiddo:

  1. Y manylion ffeithiol, megis arwynebedd y llawr a nifer yr ystafelloedd

  2. Eu gwerth

Os ydych am herio’r gwerth, mae angen i chi gytuno ar y manylion ffeithiol cywir gyda’r VOA yn gyntaf. Gelwir hyn yn ‘achos Gwirio’.

Os yw’r holl wybodaeth sydd gan y VOA yn gywir

Mae’n rhaid i chi anfon achos Gwirio, hyd yn oed os yw manylion yr eiddo yn gywir, os ydych am wneud y canlynol:

  • rhoi gwybod i’r VOA am rywbeth sy’n effeithio ar y tir neu’r eiddo nad oes modd i chi ei reoli (megis gwaith aflonyddol hirdymor ar y ffyrdd)
  • herio gwerth ardrethol yr eiddo
  • newid y cyfeiriad
  • newid y prif ddefnydd (disgrifiad)
  • newid y dyddiad y digwyddodd y newid

Newidiadau eraill y gallwch roi gwybod amdanynt

Gallwch hefyd anfon achos Gwirio i roi gwybod i’r VOA am y canlynol:

  • mae’r eiddo wedi’i rannu’n fwy nag un
  • mae’r eiddo wedi’i uno ag eiddo eraill er mwyn creu un eiddo newydd neu fwy
  • mae’r eiddo wedi’i ddymchwel neu ei adnewyddu
  • bu newid yn yr ardal leol sy’n effeithio ar yr eiddo
  • mae penderfyniad llys wedi effeithio ar yr eiddo

Beth i’w gynnwys yn eich achos Gwirio

Bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn gofyn am ddogfennau i ategu’ch newidiadau. Gallai’ch tystiolaeth gynnwys:

  • ffotograffau
  • cynlluniau
  • cytundebau rhentu
  • datganiad gyda gwybodaeth ychwanegol neu sylwadau nad ydych wedi eu cynnwys yn unman arall

Os nad ydych yn darparu unrhyw ddogfennau a bod yn rhaid i’r VOA ofyn i chi am unrhyw beth, gallai hyn achosi peth oedi wrth brosesu eich achos.

Mae’n bosibl y codir cosb arnoch os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth anghywir yn eich achos Gwirio. Gallai hefyd arwain at gynnydd wedi’i ôl-ddyddio yn eich ardrethi busnes.

Cyflwyno gwiriad am newid yn ardal leol eich eiddo

Mae’r dyddiad pan fyddwch yn cyflwyno gwiriad sy’n ymwneud â rhywbeth allanol sy’n effeithio ar eich eiddo (sydd hefyd yn cael ei alw’n Newid Sylweddol mewn Amgylchiadau) yn gallu effeithio ar y canlyniad. Os yw’r mater yn un dros dro, dylid cyflwyno’ch gwiriad tra bo’r mater ar y gweill.

Os bydd angen i chi gyflwyno gwiriad ar frys oherwydd hyn, ac rydych yn aros i’ch hawliad am yr eiddo gael ei gymeradwyo neu’n aros i gael copi o’ch prisiad manwl a’ch ffurflen wiriad, dylech anfon e-bost at ccaservice@voa.gov.uk a gofyn am i’ch cais gael ei flaenoriaethu.

Dylech nodi ‘Ar frys: Newid Sylweddol mewn Amgylchiadau allanol’/‘Urgent: external Material Change of Circumstances’ yn llinell bwnc yr e-bost, a chynnwys cyfeiriad yr eiddo ynghyd ag ID neu gyfeirnod eich cyflwyniad yn yr e-bost.

Ar ôl i chi gyflwyno gwiriad

Bydd y VOA yn adolygu’r manylion y byddwch yn eu hanfon atynt. Yn y rhan fwyaf o achosion bydd ganddi ddigon o wybodaeth i brosesu eich gwiriad. Fodd bynnag, bydd yn cysylltu â chi os bydd angen rhagor o wybodaeth arnynt.

Os bydd angen, bydd y VOA yn diweddaru manylion yr eiddo ac yn anfon hysbysiad ysgrifenedig atoch.

Os bydd angen i chi roi gwybod am unrhyw newidiadau newydd ar ôl i chi gyflwyno gwiriad, bydd yn rhaid i chi gwblhau gwiriad arall. Bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn adolygu’r wybodaeth yn y ddau wiriad ac yn cysylltu â chi os bydd unrhyw ymholiadau ganddi.

Cyhoeddwyd ar 30 November 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 30 October 2023 + show all updates
  1. A Welsh translation has been added.

  2. Updated information for Wales

  3. Updated for the 2023 rating list

  4. First published.