Canllawiau

Cyfrifo’r gost o fagu eich plant

Defnyddiwch y canllaw yma i'ch helpu i feddwl am yr eitemau yr hoffech eu cynnwys yn eich trefniant cynhaliaeth plant.

Dogfennau

Manylion

Gallwch wneud trefniadau cynhaliaeth plant ar gyfer eich plant os yw’r ddau riant yn cytuno. Gallai hyn gynnwys eu costau byw a gofal. Er enghraifft, gallai’r ddau ohonoch gytuno bod un rhiant:

  • yn gwneud y casglu o’r ysgol neu’r feithrinfa
  • yn gofalu am y plant yn y gwyliau
  • yn talu cyfran o’u hincwm i’r rhiant gyda’r gofal o ddydd i ddydd
  • yn talu am bethau fel dillad ysgol yn hytrach na rhoi arian
  • yn talu swm penodol rheolaidd yn uniongyrchol i’r rhiant â gofal

Gall y canllaw yma eich helpu i benderfynu ar yr eitemau yr hoffech eu cynnwys yn eich trefniant cynhaliaeth plant.

Cyhoeddwyd ar 12 August 2019