Canllawiau

Gosod prisiau ar gyfer asiantau teithio

Cyhoeddwyd 5 July 2017

Gall gwestai ddewis cynnig prisiau, amodau ac argaeledd gwahanol wrth restru eu hystafelloedd ar asiantau teithio ar-lein (OTA).

Beth sydd wedi newid?

Roedd Expedia a Booking.com yn arfer gofyn i westai warantu na fyddent yn cynnig eu hystafelloedd yn rhatach ar OTA eraill. Ers haf 2015, mae Expedia a Booking.com wedi newid eu polisïau ac nid ydynt yn gosod y gofyn hwn bellach.

Nid yw Expedia a Booking.com bellach yn gofyn i westai gynnig yr un neu well argaeledd o ran ystafelloedd neu amodau ag y mae gwestai yn eu cynnig i OTA eraill chwaith.

Beth mae hyn yn ei olygu i westai?

Gall gwestai ddewis cynnig pris is ar OTAs eraill nag y maent yn cynnig i Expedia ac/neu Booking.com.

Gall gwestai hefyd benderfynu cynnig gwell amodau neu argaeledd i OTA eraill (fel elfennau ychwanegol neu ‘frecwast yn gynwysedig’) nag ar Expedia a/neu Booking.com.

Pethau eraill y dylech eu gwybod

Gall OTAs, yn cynnwys Expedia a Booking.com, gynnwys cymalau yn eu contractau sy’n atal gwestai rhag codi prisiau is ar wefan y gwesty ei hun na’r hyn y gallant gynnig trwy wefannau OTA.

Fodd bynnag, mae Expedia a Booking.com wedi ymroi i beidio cael cymalau yn eu contractau sy’n atal gwestai rhag codi prisiau is ar OTAs eraill nag y byddant yn godi ar Expedia neu Booking.com.

Mae Expedia a Booking.com wedi ymroi i beidio ceisio rheoli prisiau “all-lein” gwestai. Mewn geiriau eraill, gall gwestai gynnig unrhyw bris y maent yn ei ddymuno i gwsmeriaid yn bersonol, ar y ff ôn, trwy e-bost uniongyrchol neu trwy grwpiau defnyddwyr caeedig preifat (e.e. grwpiau teyrngarwch gwestai).

Dylai gwestai fod yn ymwybodol o’r pwyntiau uchod pan fyddant yn trafod amodau gydag OTA.

Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen achos y CMA: Monitro Arferion Prisio ym maes Archebu Gwestai Ar-lein.

Sianeli ar-lein

Mae gwestai yn defnyddio sianeli gwerthu ar-lein yn gynyddol. Felly, mae’n bwysig fod gwestai yn ymwybodol o’u gallu i osod gwahanol brisiau ar OTAs.

Nid yw’r deunyddiau hyn yn cyfateb i gyngor cyfreithiol ac ni ddylid dibynnu arnynt felly.