Canllawiau

Cynnal pris adwerthu: cyngor i fân-werthwyr

Diweddarwyd 29 June 2020

Beth yw Cynnal Pris Ailwerthu (RPM)

Cynnal Pris Ailwerthu yw pan fydd cy˜enwr ac adwerthwr yn cytuno y bydd yr adwerthwr yn ailwerthu cynhyrchion y cy˜enwr ar bris penodol neu’n uwch na hynny.

Nid yw prisiau ailwerthu a argymhellir (RRP) i adwerthwyr yn cynnal pris ailwerthu os gall yr adwerthwr ddal i ailwerthu ar bris y mae’n dymuno ac nad oes bygythiadau na chymhellion ariannol am gadw at y pris ailwerthu a argymhellir.

Pam dylech chi fod yn ofalus os ydych yn adwerthwr sy’n ymwneud â chytundeb cynnal pris ailwerthu?

Efallai y byddwch yn poeni, os na fyddwch yn cydweithredu â pholisïau gosod prisiau cy˜enwr, y bydd yn stopio gwerthu i chi.

Ond mae cytundebau cynnal prisiau ailwerthu yn anghyfreithlon fel arfer oherwydd eu bod yn eich atal rhag cynnig prisiau is a gosod eich prisiau yn annibynnol i ddenu rhagor o gwsmeriaid.

Os ydych wedi bod yn ymwneud â gosod prisiau ailwerthu gyda’ch cy˜enwr, efallai y byddwch ill dau yn cael eich canfod yn torri cyfraith cystadleuaeth.

Dylech gadw mewn cof

Gall gosod prisiau ailwerthu fod yn anuniongyrchol. Gallwch fod yn dal yn rhan o gytundeb gosod prisiau ailwerthu anghyfreithlon pan fydd cy˜enwr:

  • yn gosod cyfyngiadau ar ba mor bell y gallwch ostwng pris ei gynnyrch

  • yn atal neu yn cyfyngu ar eich gallu i hysbysebu prisiau is ar-lein (‘polisïau lleiafswm pris hysbysebu’ fel y’u gelwir), neu

  • yn cysylltu pris ailwerthu i’r cynnyrch â’r hyn y mae adwerthwyr eraill yn ei werthu amdano

Nid yw o bwys chwaith ble y bydd y cynnyrch yn cael ei werthu. Gall gosod prisiau ailwerthu fod yr un mor berthnasol i werthiannau ar-lein ac i werthiannau mewn siopau.

Pethau na ddylai adwerthwyr eu gwneud

Peidiwch â chytuno ar brisiau adwerthu sefydlog neu isafswm gyda’ch cy˜enwyr.

Peidiwch â rhoi pwysau ar y cy˜enwr ac adwerthwyr eraill i gadw at y prisiau ailwerthu a argymhellir.

Cysylltwch â’r CMA trwy:

ffurflen ar-lein

• ffôn: 020 3738 6000

Os ydych chi wedi bod yn ymwneud ag o, efallai y byddwch yn cael budd o gael triniaeth drugarog trwy ddod ymlaen at y CMA:

  • Ewch i’n gwefan am ragor o wybodaeth am fanteision, cymhwyster ac amodau trugaredd