Canllawiau

Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth – cael grantiau nad oedd gennych hawl iddynt (CC/FS47)

Diweddarwyd 31 May 2022

Mae’r daflen wybodaeth hon yn cynnwys gwybodaeth am asesiadau a chosbau sy’n ymwneud â symiau grantiau’r Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth (SEISS) nad oedd gennych hawl iddynt.

Mae grant SEISS a orhawliwyd yn cynnwys unrhyw swm o grant:

  • nad oedd gennych hawl iddo
  • a oedd yn fwy na’r swm y dywedodd Cyllid a Thollau EM (CThEM) fod gennych hawl iddo pan wnaethoch gyflwyno’ch hawliad

Mae hyn yn cynnwys pan fydd diwygio Ffurflen Dreth ar neu ar ôl 3 Mawrth 2021 yn gostwng y swm rydych yn gymwys iddo neu’n achosi i chi beidio â bod yn gymwys mwyach.

Os oes angen help arnoch

Os yw’n bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu’ch iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio â ni, rhowch wybod i’r swyddog sydd wedi cysylltu â chi. Byddwn yn eich helpu ym mha ffordd bynnag y gallwn. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.gov.uk/cael-help-cthem-cymorth-ychwanegol

Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ddelio â ni ar eich rhan, er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind neu berthynas. Fodd bynnag, efallai y bydd dal angen i ni siarad â chi neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol am rai pethau. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi at yr unigolyn rydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad â chi, caiff yr unigolyn hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai’n well gennych.

Rhoi gwybod i ni am grant rydych wedi’i orhawlio

Rydym yn deall bod camgymeriadau’n digwydd o bryd i’w gilydd. Os ydych wedi cael gormod gennym, mae’n rhaid talu hyn yn ôl. Rydym wedi ei gwneud mor hawdd â phosibl ad-dalu unrhyw symiau o’r grantiau SEISS rydych wedi’u cael nad oedd gennych hawl iddynt.

I gael gwybod sut y gallwch roi gwybod i CThEM, ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘Tell HMRC and pay back a Self-Employment Income Support Scheme grant’.

Os cafodd eich Ffurflen Dreth ei diwygio ar neu ar ôl 3 Mawrth 2021

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni os oes diwygiad i unrhyw un o’ch Ffurflenni Treth ar neu ar ôl 3 Mawrth 2021 sydd naill ai:

  • yn gostwng swm y pedwerydd neu’r pumed grant yr ydych yn gymwys ar ei gyfer
  • yn achosi i chi beidio â bod yn gymwys mwyach ar gyfer y pedwerydd neu’r pumed grant

Os cafodd eich Ffurflen Dreth ei diwygio cyn i chi hawlio’ch pedwerydd neu’ch pumed grant, roedd yn rhaid i chi roi gwybod i ni cyn pen 90 diwrnod ar ôl cael eich grant.

Os cafodd eich Ffurflen Dreth ei diwygio ar ôl i chi gael eich pedwerydd neu’ch pumed grant, mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni cyn pen 90 diwrnod ar ôl y diwygiad.

Os yw’ch Ffurflen Dreth wedi’i diwygio ar neu ar ôl 3 Mawrth 2021, nid oes angen i chi roi gwybod i ni os ydych yn gwybod bod swm pob grant wedi gostwng £100 neu lai.

Os gwnaethoch roi swm trosiant anghywir i ni wrth hawlio’r pumed grant

Pan wnaethoch eich hawliad am y pumed grant SEISS, efallai y gofynnwyd i chi roi eich ffigurau trosiant i ni fel y gallem gyfrifo swm eich grant.

Pan wnaethoch hawlio, efallai eich bod wedi rhoi swm trosiant anghywir i ni ar gyfer:

  • y flwyddyn gyfeirio
  • cyfnod y pandemig
  • y flwyddyn gyfeirio a chyfnod y pandemig

Os gwnaethoch hyn a’ch bod wedi cael swm grant sy’n uwch na’r hyn y mae gennych hawl iddo, mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni.

Y ‘flwyddyn gyfeirio’ yw blwyddyn dreth 2019 i 2020, neu 2018 i 2019 os yw hynny’n adlewyrchu eich trosiant arferol yn fwy cywir. Mae ‘cyfnod y pandemig’ yn gyfnod o 12 mis rhwng mis Ebrill 2020 a mis Ebrill 2021 sy’n dechrau ar unrhyw ddyddiad o 1 i 6 Ebrill 2020.

Os gwnaethoch roi swm trosiant anghywir i ni pan wnaethoch hawlio’ch pumed grant, nid oes angen i chi roi gwybod i ni os ydych yn gwybod bod swm pob grant wedi gostwng £100 neu lai.

Os gwnaethoch roi’r swm trosiant cywir i ni yn eich hawliad am y pumed grant ond rydych yn sylweddoli bod Ffurflen Dreth a gyflwynwyd gennych yn anghywir

Os ydych o’r farn nawr nad yw ffigur trosiant yn un o’ch Ffurflenni Treth yn gywir, mae angen i chi ddiwygio eich Ffurflen Dreth – er enghraifft, os yw’n cynnwys incwm busnes arall neu grantiau SEISS rydych wedi’u cael fel trosiant mewn Ffurflen Dreth.

Mae angen i chi roi gwybod i ni cyn pen 90 diwrnod os ydych yn diwygio Ffurflen Dreth ar gyfer unrhyw flwyddyn sy’n gostwng swm y grant yr oedd gennych hawl iddo. Er enghraifft, os yw’ch elw masnachu’n is, yna gallai swm y grant yr oedd gennych hawl iddo fod yn is hefyd.

Nid oes angen i chi roi gwybod i ni os ydych yn gwybod bod swm pob grant wedi gostwng £100 neu lai.

Methu â hysbysu

Os na fyddwch yn ein hysbysu am eich grant SEISS a orhawliwyd, byddwn yn ysgrifennu atoch ac yn anfon asesiad atoch.

Adennill symiau a ordalwyd os byddwch yn methu â hysbysu

Ein blaenoriaethau yw cefnogi ein cwsmeriaid a mynd i’r afael â diffyg cydymffurfio bwriadol ac ymosodiadau troseddol. Byddwn yn adennill grantiau a orhawliwyd ac yn codi cosbau i ategu’r blaenoriaethau hyn. Mae Treth Incwm yn daladwy lle bo gan berson grant SEISS a orhawliwyd.

Er mwyn adennill y swm a orhawliwyd, gallwn wneud asesiad treth. Byddwn yn eich asesu am y swm a ordalwyd i chi. Os byddwn yn gwneud asesiad, byddwn yn ysgrifennu atoch yn ei gylch.

Mae’n rhaid i chi dalu unrhyw swm a aseswn cyn pen 30 diwrnod i’r asesiad. Byddwn yn codi llog ar unrhyw daliadau hwyr.

Gallwn hefyd godi cosbau arnoch am dalu’n hwyr os yw’r swm yn dal i fod heb ei dalu ar ôl y dyddiad dyledus.

Os ydych yn poeni am wneud y taliad, gallwch ffonio Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM ar 0300 200 1900, o ddydd Llun i ddydd Gwener, 08:30 i 17:00. Dylech roi gwybod i ni o hyd eich bod wedi cael eich gordalu.

Cosb am beidio â rhoi gwybod i ni am y tâl Treth Incwm

Mae’n bosibl y byddwn yn codi cosb arnoch os na fyddwch wedi rhoi gwybod i ni o fewn y cyfnod hysbysu o 90 diwrnod eich bod yn agored i Dreth Incwm ar grant SEISS a orhawliwyd.

Wrth benderfynu ar swm unrhyw gosb, byddwn yn ystyried a oeddech yn gwybod nad oedd gennych hawl i rywfaint o’r grant SEISS neu’r cyfan ohono:

  • pan wnaethoch ei gael
  • pan ddaeth yn ad-daladwy neu’n drethadwy oherwydd bod eich amgylchiadau wedi newid
  • os gwnaethoch ddiwygio’ch Ffurflenni Treth ar neu ar ôl 3 Mawrth 2021, ar gyfer y pedwerydd neu’r pumed grant

Os oeddech yn gwybod nad oedd gennych hawl i gael eich grant ac na ddywedoch wrthym yn ystod y cyfnod hysbysu o 90 diwrnod, mae’r gyfraith yn trin eich methiant yn un bwriadol, sydd wedi’i guddio. Mae hyn yn golygu y gallwn godi cosb o hyd at 100% o swm y grant SEISS nad oedd gennych hawl i’w gael na’i gadw.

Os nad oeddech yn gwybod nad oedd gennych hawl i’ch grant pan gawsoch ef, byddwn ond yn codi cosb arnoch am fethu â rhoi gwybod i ni os nad ydych wedi ad-dalu’r grant cyntaf, yr ail grant neu’r trydydd grant erbyn 31 Ionawr 2022, a’r pedwerydd a’r pumed grant erbyn 31 Ionawr 2023.

I gael rhagor o wybodaeth am sut yr ydym yn cyfrifo cosb am fethu â hysbysu, darllenwch daflen wybodaeth CC/FS11a, ‘Taliadau Cymorth Coronafeirws – cosbau am fethu â hysbysu’. Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘CC/FS11a’.

Apeliadau

Os byddwn yn gwneud asesiad i adennill grant nad oedd gennych hawl iddo, neu’n codi cosb arnoch, byddwn yn ysgrifennu atoch gan roi gwybod i chi.

Byddwn yn rhoi’r rhesymau dros ein penderfyniad ac yn rhoi gwybod i chi faint o dreth neu gosb sy’n ddyledus.

Os nad ydych yn cytuno â’r penderfyniad, neu’r swm sy’n ddyledus, gallwch apelio. Bydd y llythyr yn rhoi gwybod i chi sut i wneud hyn. Mae’n rhaid i chi wneud hyn cyn pen 30 diwrnod i’r dyddiad ar ein llythyr.

Mae rhagor o wybodaeth am apeliadau yn nhaflen wybodaeth HMRC1, ‘Penderfyniadau Cyllid a Thollau EM: beth i’w wneud os anghytunwch’. Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘HMRC1’.

Rhoi gwybod am grantiau mewn Ffurflenni Treth Hunanasesiad

Os ydych wedi ad-dalu’r grant neu os ydym wedi gwneud asesiad erbyn dyddiad cyflwyno’ch Ffurflen Dreth, nid oes angen i chi ei gynnwys yn eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Os nad ydym wedi gwneud asesiad neu os nad ydych wedi ad-dalu’r grant erbyn dyddiad cyflwyno’ch Ffurflen Dreth, mae angen i chi ei gynnwys yn eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Rydym yn rhoi rhagor o arweiniad ar sut i gynnwys grantiau SEISS yn y nodiadau Ffurflenni Treth a’r taflenni cymorth.

Darpariaethau sy’n benodol i bartneriaid a phartneriaethau

Partneriaid sy’n cael grant nad oedd ganddynt hawl iddo ac sy’n cadw’r grant

Os yw partner unigol yn cael grant nad oedd ganddo hawl iddo ac yn cadw’r swm cyfan, byddwn yn asesu’r partner hwnnw yn unig ar swm y grant nad oes ganddo hawl iddo.

Os na chaiff y swm ei ad-dalu ac nad ydym wedi cyhoeddi asesiad, mae’n rhaid i’r partner hwnnw roi gwybod am y swm a ordalwyd ar wahân yn ei Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Os yw’n methu â rhoi gwybod i ni am grant nad oedd ganddo hawl iddo o fewn y cyfnod hysbysu o 90 diwrnod, codir cosb ar y partner hwnnw yn unig.

Partneriaid sy’n cael grant nad oedd ganddynt hawl iddo ac sy’n ei dalu i’r bartneriaeth

Os nad yw swm y grant nad oedd gan y partner hawl iddo yn cael ei gadw gan y partner unigol, ond yn hytrach yn cael ei dalu i’r bartneriaeth, gallwn asesu unrhyw un o’r partneriaid er mwyn casglu’r swm sy’n ddyledus fel Treth Incwm. Bydd y partneriaid yn agored, ar y cyd ac yn unigol, i’r swm a asesir.

Os yw partner wedi ad-dalu’r grant neu os ydym wedi gwneud asesiad erbyn dyddiad cyflwyno ei Ffurflen Dreth, nid oes angen iddo ei gynnwys yn ei Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Gallwn asesu unrhyw bartner am gyfanswm cosb unigol a godir am fethu â hysbysu. Fodd bynnag, mae partneriaid yn agored, ar y cyd ac yn unigol, i gosb am fethu â hysbysu a godir mewn perthynas â phartneriaeth.

Os oedd unrhyw bartner yn gwybod nad oedd ganddo hawl i gael grant a dalwyd i’r bartneriaeth:

  • tybir bod yr holl bartneriaid eraill wedi gwybod hefyd
  • bydd y gosb am fethu â hysbysu yn cael ei chyfrifo gan ddefnyddio’r ystodau canrannol ar gyfer ymddygiad bwriadol, sydd wedi’i guddio
  • bydd unrhyw gosb yn seiliedig ar y swm nad oedd gan unrhyw un o’r partneriaid hawl i’w gael ac na wnaethant ei ad-dalu erbyn diwrnod olaf y cyfnod hysbysu
  • gallwn godi cosb o hyd os bydd unrhyw un o’r partneriaid yn ad-dalu swm y grant nad oedd ganddynt hawl iddo ar ôl diwedd y cyfnod hysbysu

Os nad oedd yr un o’r partneriaid eraill yn gwybod nad oedd hawl i’r grant gan y partner a oedd yn ei gael:

  • a bod yr ymddygiad yn fwriadol ac wedi’i guddio, bydd pob partner yn agored, ar y cyd ac yn unigol, i gosb am ymddygiad bwriadol, sydd wedi’i guddio
  • a bod yr ymddygiad yn fwriadol ond heb ei guddio, bydd yr holl bartneriaid yn agored, ar y cyd ac yn unigol, i gosb am ymddygiad bwriadol ond heb ei guddio

Ni fyddwn yn codi cosb am fethu â hysbysu os bydd unrhyw un o’r partneriaid yn ad-dalu swm y grant sy’n agored i’r tâl treth o 100% erbyn:

  • 31 Ionawr 2022 am y grant cyntaf, yr ail grant a’r trydydd grant
  • 31 Ionawr 2023 am y pedwerydd grant a’r pumed grant

Gall unrhyw bartner apelio yn erbyn cosb am fethu â hysbysu ar ran yr aelodau eraill o’r bartneriaeth.

Rhagor o wybodaeth

Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhan o gyfres. I weld rhestr o’r taflenni gwybodaeth Cymraeg, ewch i www.gov.uk/guidance/arweiniad-a-thaflenni-gwybodaeth-cthem ac edrych o dan y pennawd ‘Gwiriadau cydymffurfio’.

Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu’n cadw gwybodaeth amdanoch. Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘HMRC Privacy Notice’.

Os ydych yn anfodlon ar ein gwasanaeth, rhowch wybod i’r person y buoch yn delio ag ef neu’r swyddfa y buoch yn delio â hi. Byddant yn ceisio unioni pethau. Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, byddant yn rhoi gwybod i chi sut i wneud cwyn ffurfiol.