Ffurflen

Unedau pesgi trwyddedig ar gyfer gwartheg: cais

Ffurflenni i gofrestru uned besgi drwyddedig yng Nghymru a Lloegr ar gyfer gwartheg o fuchesi sydd heb TB yn swyddogol.

Yn berthnasol i England and Gymru

Dogfennau

Cais am Uned Besgi Drwyddedig

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch contentteam@defra.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Telerau ac Amodau Cymeradwyo a Gweithredu Uned Besgi Drwyddedig (Cymru)

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch contentteam@defra.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Gwneud cais i gael cymeradwyaeth am uned besgi drwyddedig yng Nghymru neu yn Lloegr.

Math o uned TB yw uned besgi drwyddedig a all ond fod wedi’i lleoli yn ardal TB isel yng Nghymru neu yn ardal risg isel Lloegr.

Gallwch besgi gwartheg sydd wedi cael profion negatif o sawl buches sydd heb TB yn swyddogol (OTF) o unrhyw ardal yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

Mae gwartheg mewn unedau pesgi trwyddedig:

  • o dan gyfyngiadau symud yn barhaol
  • yn cael eu cadw dan do o dan amodau bioddiogel

Cyn i wartheg symud i uned besgi drwyddedig, rhaid iddynt gydymffurfio â gofynion profion cyn symud statudol.

Ceir amodau cymeradwyo a chanllawiau ar wahân i unedau pesgi trwyddedig yng Nghymru a Lloegr.

Unedau pesgi trwyddedig yn Lloegr

  • Gall gwartheg ond symud o unedau pesgi trwyddedig yn uniongyrchol i’w lladd neu i’w lladd drwy grynhoad TB cymeradwy (marchnad neu gasgliad) yn Lloegr.
  • Ni all gwartheg symud trwy grynhoad lladd TB cymeradwy yng Nghymru
  • Nid oes angen profion TB ar wartheg mewn unedau pesgi trwyddedig ond gall yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) brofi o dan amgylchiadau eithriadol
  • Dim ond os nad oes prawf cyn symud gofynnol wedi’i gynnal 60 diwrnod cyn symud i’r uned besgi drwyddedig y bydd angen prawf ar ôl symud ar wartheg sy’n cael eu symud o fuchesi sy’n cael profion TB yn flynyddol neu’n amlach na hynny

Unedau pesgi trwyddedig yng Nghymru

  • Mae unedau pesgi trwyddedig yn darparu eithriad rhag profion ar ôl symud gwartheg sy’n symud i uned besgi yn ardal TB isel Cymru.
  • Gall gwartheg ond symud o unedau pesgi trwyddedig yn uniongyrchol i’w lladd neu i’w lladd drwy grynhoad TB cymeradwy (marchnad neu gasgliad) yng Nghymru neu yn Lloegr.
  • Mae’n rhaid profi gwartheg mewn unedau pesgi cymeradwy bob 6 mis
  • Bydd angen profion ychwanegol ar unrhyw anifail heb brawf cyn symud statudol, pan fo’n ofynnol yn ystod y 60 diwrnod cyn symud i uned besgi drwyddedig yng Nghymru.
Cyhoeddwyd ar 30 November 2015
Diweddarwyd ddiwethaf ar 19 June 2023 + show all updates
  1. Welsh language version of the page and Welsh language form TR188 has been added.

  2. The terms and conditions of the approval and operation of a licensed finishing unit (England) and terms and conditions of the approval and operation of a licensed finishing unit (Wales) have been updated.

  3. A new TB Order came into force in England on 1 October 2021. Updated the TB188 form, application for a licensed finishing unit.

  4. Terms and conditions of the approval and operation of a licensed finishing unit (England) updated

  5. Updated TR429 document

  6. Data protection statement updated on form

  7. Updated Terms and conditions of the approval and operation of a licensed finishing unit (Wales)

  8. Added details for LFUs in Wales.

  9. Updated Terms and conditions of the approval and operation of a licensed finishing unit

  10. First published.