Corporate report

Adroddiad Blynyddol Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru, 2023-2024

Published 30 April 2024

Applies to England and Wales

1. Rhagair

Rwy’n falch o rannu ein trydydd Adroddiad Blynyddol, i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am weithgareddau Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru dros y 12 mis diwethaf a sut mae wedi gwneud gwahaniaeth i bobl yng Nghymru. Hoffwn ddechrau drwy eich atgoffa o’n pwrpas. Mae’r system cyfiawnder troseddol ledled Cymru yn cynnwys sawl rhan, wedi’i goruchwylio gan wahanol sefydliadau. Nod y Bwrdd, ochr yn ochr â’r Byrddau Cyfiawnder Troseddol Lleol, yw cydweithio’n ddi-dor i sicrhau bod y system yn deg, yn effeithlon ac yn effeithiol i ddioddefwyr, tystion, pobl sydd wedi troseddu a gweithwyr. Wrth fynd i’r afael â’r uchelgais hwn, nid yw ein dull gweithredu wedi gwanhau. 

Mae enghreifftiau o’n dull gweithredu cydlynol sy’n cael ei lywio’n lleol yn cynnwys:

  • ein ffocws ar gam-drin domestig. Edrychodd y Byrddau Cyfiawnder Troseddol Lleol ar brofiadau dioddefwyr cam-drin domestig o’r dechrau i’r diwedd ar draws y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru a chreodd gynlluniau lleol i sbarduno newid systemig a lleihau nifer y dioddefwyr sy’n tynnu’n ôl. Mae’r dull rhagweithiol hwn yn golygu bod Cymru eisoes yn cyd-fynd ag uchelgeisiau’r Cyd-gynllun Cyfiawnder ar gyfer Cam-drin Domestig a fydd yn gwella’r ffordd yr ymatebir ac ymchwilir i gam-drin domestig ledled Cymru a Lloegr
  • ein dull cyson o fynd i’r afael â throseddu yng Nghymru. Fe wnaethom gasglu a dadansoddi amrywiaeth o dystiolaeth i ddeall troseddu yn lleol ac yng Nghymru gyfan a beth sy’n ysgogi ymddygiad troseddol. Mae’r Byrddau Cyfiawnder Troseddol Lleol yn defnyddio’r dystiolaeth i ddatblygu cynlluniau lleol ar gyfer cyflawni yn 2024-25, a fydd yn lleihau troseddu ac yn creu cymunedau mwy diogel
  • mae ein Hadroddiad Blynyddol ar y Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth cyntaf yn nodi ein cyflawniadau yn erbyn y Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol, gan gynnwys hyfforddiant, cynllun cyfathrebu ac ymchwil i droseddau casineb. Yn bwysig, mae hefyd yn ein hatgoffa bod gennym fwy o waith i’w wneud
  • dull gweithredu a arweinir gan oroeswyr. Buom yn gweithio gyda’r rhwydwaith o grwpiau goroeswyr yng Nghymru a ddywedodd wrthym fod llwybrau cymorth, cyfathrebu, hyfforddiant ac aliniad â llysoedd teulu yn faterion trawsbynciol. Mae eu llais wedi hysbysu ein cynllun gwaith y flwyddyn nesaf
  • dod yn System Cyfiawnder Troseddol sy’n ystyriol o Drawma. Mae’n brawf o’n gwaith partneriaeth a’n gweledigaeth gyffredin bod pob un o’r pedwar Heddlu, GLlTEF a HMPPS yng Nghymru ar eu taith bod yn ystyriol o drawma, sy’n cyfrannu at ddyhead ehangach Cymru Ystyriol o Drawma

Yn olaf, mae’n bwysig amlinellu bod ein llwyddiant yn seiliedig ar bedair egwyddor allweddol syml:

  • Ein pobl – dim ond gyda chefnogaeth ein pobl ymroddedig a gweithgar y gallwn gyflawni popeth a wnawn ar draws ein system cyfiawnder troseddol.
  • Gweledigaeth ar y cyd â ffocws pendant – rydym yn glir gyda’n gilydd, gyda’r holl bartneriaid yn rhoi yr un faint o fuddsoddiad ac ymrwymiad i gyflawni newid a gweld gwelliannau.
  • Bod yn seiliedig ar dystiolaeth – mae ein cynllun yn defnyddio arbenigedd academaidd, ymchwil, profiadau bywyd pobl yn ogystal â data, i sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar y materion cywir.
  • Gweithio mewn partneriaeth – gallwn gyflawni mwy drwy ddod at ein gilydd, gweithio mewn amgylchedd adeiladol a pharchus.

Yr egwyddorion hyn sy’n ein rhoi ar sylfaen gadarn i gyflawni ein haddewidion a’n huchelgeisiau yn ystod 2024-25.

Amy Rees
Cadeirydd Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru
Prif Weithredwr Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF

2. Cefndir – Pwy ydym ni

Mae Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru (‘y Bwrdd’) yn dod â phartneriaid cyfiawnder troseddol ynghyd, gan gynnwys: Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi (HMPPS), Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi (GLlTEF), y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, gwasanaethau’r Heddlu yng Nghymru, Prif Gwnstabliaid yng Nghymru, Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru, Gwasanaeth Erlyn y Goron, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyrff y Sector Gwirfoddol a’r Comisiynydd Dioddefwyr.

3. Cyflawni ein Blaenoriaethau yn 2023-24

Mae’r ffeithlun isod yn rhoi cipolwg ar gynllun gwaith Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru ar gyfer 2023-24, sy’n cynnwys pedair blaenoriaeth gyffredinol sy’n canolbwyntio ymdrechion mewn ychydig o feysydd i wneud gwahaniaeth ac i greu newid.

3.1 Dioddefwyr a Thystion

Uchelgeisiau

  • cydymffurfio â’r Cod Dioddefwyr
  • lleihau athreuliad cam-drin domestig
  • codi ymwybyddiaeth o fesurau arbennig Canolbwyntio ar lys teulu

3.2 Pobl Sydd Wedi Cyflawni Troseddau

Uchelgeisiau

  • llunio darlun o droseddu ledled Cymru
  • bydd Byrddau Cyfiawnder Troseddol Lleol (LCJBs) yn rhoi cynlluniau gweithredu 12 mis ar waith er mwyn mynd i’r afael ag ymddygiadau troseddol lleol
  • mynd i’r afael å bylchau mewn gwasanaethau yng Nghymru: Llety, niwroamrywiaeth, anableddau ac iechyd meddwl

3.3 Ymyrryd yn Gynnar ac Atal

Uchelgeisiau

  • mae sefydliadau cyfiawnder troseddol yn ymwybodol o egwyddorion Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs), ac am arferion wedi’u llywio gan drawma
  • byrddau Cyfiawnder Troseddol Lleol (LCJBs) - meddu ar y gwasanaethau cywir er mwyn ymyrryd yn gynnar ac atal troseddau a niwed
  • deall yr amlygrwydd i Anaf i’r Ymennydd i fenywod sy’n rhan o’r system cyfiawnder troseddol

3.4 Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth

Uchelgeisiau

  • mae sefydliadau cyfiawnder troseddol yn ymwybodol o egwyddorion Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs), ac am arferion wedi’u llywio gan drawma
  • byrddau Cyfiawnder Troseddol Lleol (LCJBs) - meddu ar y gwasanaethau cywir er mwyn ymyrryd yn gynnar ac atal troseddau a niwed
  • deall yr amlygrwydd i Anaf i’r Ymennydd i fenywod sy’n rhan o’r system cyfiawnder troseddol

4. Dioddefwyr a Thystion: Diwallu eu hanghenion

Er mwyn gwella ein hymateb, ac yn y pen draw, profiadau dioddefwyr a thystion ar draws y system cyfiawnder troseddol, cytunodd y Bwrdd y byddent yn canolbwyntio ar y meysydd allweddol canlynol ledled Cymru.  Roedd y Tasglu Dioddefwyr a Thystion strategol yn gyfrifol am oruchwylio’r gwaith o gyflawni’r gwaith hwn ar ran y Bwrdd,

4.1 Goruchwylio ein hymateb i Dreisio ledled Cymru

Ar ôl i ni ddiweddaru yn 2022-23, mae holl Heddluoedd Cymru a Gwasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru yn rhan o raglen trawsnewid treisio’r llywodraeth, a elwir yn Ymgyrch Soteria. Mae’r Bwrdd wedi manteisio i’r eithaf ar y cyfle hwn, drwy Grŵp Treisio a Throseddau Rhywiol Difrifol Cymru, ac wedi dod â’r pedwar cynllun Ymgyrch Soteria rhanbarthol at ei gilydd i ddeall yr ymateb y mae dioddefwyr treisio yn ei gael yng Nghymru, i ganfod a rhannu mentrau newydd, arferion gorau ac i gydnabod heriau cyffredin er mwyn gweithio gyda’i gilydd i’w datrys.  Mae’r Grwpiau’n parhau i ddefnyddio data dangosfwrdd darpariaeth Treisio Oedolion y Weinyddiaeth Gyfiawnder i fonitro a yw’r gweithgareddau sy’n cael eu sbarduno drwy Ymgyrch Soteria yn gwneud gwahaniaeth i oroeswyr treisio, gan gynnwys a oes mwy o oroeswyr yn riportio i’r Heddlu. Mae’r data’n dangos bod achosion treisio yng Nghymru yn parhau i gael eu cwblhau ar gyfartaledd o 100 diwrnod yn gynt na’r amser cyfartalog ledled Cymru a Lloegr. Ond mae gennym fwy o waith i’w wneud i wella ymgysylltiad â dioddefwyr. Bydd y Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Lleol yn parhau i chwarae rôl oruchwylio allweddol yn y maes hwn ac yn monitro’r ymateb lleol. Edrychwn ymlaen at roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y cynnydd y flwyddyn nesaf.

4.2 Mynd i’r afael â’r rhesymau dros athreuliad cam-drin domestig

Cwblhaodd Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Lleol Gwent y gweithdy rhanbarthol cyntaf o’r dechrau i’r diwedd a rhoi cynllun gweithredu lleol ar waith i sicrhau bod dioddefwyr cam-drin domestig, ar bob cam yn y system, yn cael ymateb effeithiol, gan liniaru yn erbyn tynnu’n ôl a lleihau athreuliad.  Cafodd y broses ei hailadrodd gan bob rhanbarth arall yng Nghymru, a bydd pob Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Lleol yn goruchwylio’r gwaith o gyflawni eu cynllun gweithredu lleol ar athreuliad cam-drin domestig y flwyddyn nesaf ac yn darparu cymorth i oresgyn rhwystrau a heriau. Ar ben hynny, roedd Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru, drwy’r Tasglu Dioddefwyr a Thystion, wedi dadansoddi’r pedwar cynllun gweithredu i nodi lle mae materion cyson a fyddai’n elwa o gael sylw ar draws Cymru gyda’i gilydd. Canfu’r dadansoddiad fod tri mater cyffredin – rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ddioddefwyr, rhoi’r un lefel o gymorth i ddioddefwyr drwy gydol treialon a rhoi gwybod i ddioddefwyr am ‘fesurau arbennig’ wrth roi tystiolaeth mewn treial. Bydd y materion cyffredin hyn yn rhan o ffocws y Tasglu Dioddefwyr a Thystion y flwyddyn nesaf.

4.3 Gwrando ar Oroeswyr

Er mwyn sicrhau bod popeth a wnawn yn cael ei lywio gan ddioddefwyr a goroeswyr sydd â phrofiad bywyd o’r system cyfiawnder troseddol, buom yn gweithio gyda chydweithwyr ledled Cymru i fapio’r grwpiau presennol o oroeswyr Trais yn Erbyn Menywod, Camdriniaeth Ddomestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) yng Nghymru. Gofynnwyd iddynt beth yw’r tri phrif fater y mae goroeswyr yn dweud sydd angen mynd i’r afael â nhw er mwyn gwella’r system cyfiawnder troseddol. Daeth pedair thema i’r amlwg, gan gynnwys llysoedd teulu, cyfathrebu, hyfforddiant i staff a llwybrau cymorth, ac rydym wedi defnyddio’r adborth hwn i hysbysu ein cynllun gwaith ar gyfer 2024-25.

4.4 Adolygu’r Fframwaith Arferion Gorau yng Nghymru

Cynhaliodd y Bwrdd adolygiad ledled Cymru i asesu a oedd pedair elfen Fframwaith Arferion Gorau Llywodraeth y DU ar Gam-drin Domestig yn cael eu defnyddio’n gyson ar draws y llysoedd yng Nghymru, a gwnaeth amrywiaeth o argymhellion a fydd yn cael eu datblygu yn 2024-25.

4.5 Sicrhau bod dioddefwyr troseddau yn gwybod beth i’w ddisgwyl ar bob cam o’r broses cyfiawnder troseddol, a’r cymorth sydd ar gael

Mae’r holl bartneriaid wedi ychwanegu’r ddolen at dudalen gwybodaeth dioddefwyr y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar wefan eu sefydliad, fel bod dioddefwyr troseddau yn gallu cael gafael ar wybodaeth allweddol am wahanol gamau’r daith cyfiawnder troseddol. Yn ogystal, ar lefel leol, mae pob Heddlu yng Nghymru wedi cynhyrchu pecynnau gwybodaeth i ddioddefwyr sy’n cynnwys camau’r system cyfiawnder troseddol, y gwahanol sefydliadau, a’r rolau y maent yn eu cyflawni a’r gefnogaeth sydd ar gael. Mae’r pecynnau hyn ar gael yn gyhoeddus drwy wefan pob Heddlu. Mae’r pecynnau i ddioddefwyr hefyd wedi cael eu hyrwyddo’n fewnol ar lefel leol drwy ein grwpiau rhwydwaith goroeswyr. Fodd bynnag, mae’r Bwrdd yn awyddus i wneud mwy yn y maes hwn, felly bydd yn awyddus i barhau i gynyddu ymwybyddiaeth o’r gefnogaeth a’r ddealltwriaeth o’r system cyfiawnder troseddol y flwyddyn nesaf.

4.6 Mae dioddefwyr a thystion yn fwy ymwybodol o fesurau arbennig

Dywedodd goroeswyr wrthym y llynedd fod mesurau arbennig a rhoi tystiolaeth o bell yn fuddiol ac yn gwneud iddynt deimlo’n fwy diogel a hyderus wrth roi tystiolaeth. Felly, drwy ein partneriaid cyfiawnder troseddol, gan gynnwys ein heiriolwyr mesurau arbennig ymroddedig, gwnaethom hyrwyddo pwysigrwydd sgyrsiau o safon gyda dioddefwyr a thystion yn gynnar i roi gwybod iddynt am fesurau arbennig. Casglodd y Bwrdd ddata i fonitro perfformiad a oedd yn cynnwys defnyddio’r 14 safle VAWDASV o bell pwrpasol newydd ledled Cymru – ac o’i gymharu â 2022, defnyddiodd 226 o oroeswyr VAWDASV safle o bell yn ystod 2023, a oedd yn gynnydd o 12%. Yn bwysig iawn, mae hyn yn cynnwys pobl sy’n defnyddio’r safleoedd i roi tystiolaeth mewn treial troseddol yn ogystal ag achosion llys teulu.

Cynhaliwyd Diwrnod Cyfnewid Dysgu yng Nghymru a oedd yn adolygu effeithiolrwydd y safleoedd tystiolaeth o bell ac yn nodi meysydd i’w gwella. Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i bartneriaid cyfiawnder troseddol a chynrychiolwyr ar draws y sector VAWDASV arbenigol ymgysylltu â’r Farnwriaeth – gan rannu profiadau bywyd dioddefwyr a gofyn cwestiynau.  O ganlyniad, y flwyddyn nesaf bydd y Bwrdd yn canolbwyntio ar achosion Llys Sifil a Theulu a chynyddu ymwybyddiaeth o fesurau arbennig, gan gynnwys safle tystiolaeth o bell yng Nghymru. Edrychwn ymlaen at roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y canlyniadau.

4.7 Sicrhau bod cefnogaeth yn cael ei chynnig mewn achosion Llys Sifil a Theulu

Gweithiodd y Bwrdd gyda rhaglen Glasbrint VAWDASV i ddeall y llwybrau cymorth ar gyfer plant sy’n profi cam-drin domestig, sydd yn rhan o brosesau’r llysoedd teulu a sifil, ac yn benodol, gwrandawiadau trefniadau cyswllt plant. Roedd yr ymchwil a gynhaliwyd yn nodi’r angen i greu llwybr cymorth uniongyrchol, a fydd yn dechrau yng Ngogledd Cymru y flwyddyn nesaf drwy’r prosiect Braenaru.

4.8 Sicrhau y cydymffurfir â’r Cod Dioddefwyr

I fod yn barod ar gyfer gofynion y Bil Dioddefwyr a Charcharorion, mae partneriaid cyfiawnder troseddol yng Nghymru wedi mynd ati’n rhagweithiol i weithio gyda chydweithwyr yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac wedi hunanasesu eu galluoedd presennol i gasglu a choladu data gofynnol y Cod Dioddefwyr. Mae’r dull gweithredu hefyd wedi helpu i roi adborth i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ac yn fewnol ynghylch pa adnoddau ychwanegol fydd eu hangen i gasglu a dadansoddi data wrth symud ymlaen, yn enwedig er mwyn sicrhau bod dioddefwyr yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am bob cam allweddol o’u taith ym maes cyfiawnder troseddol.

Ochr yn ochr â metrig y Cod Dioddefwyr, sy’n cael ei ddefnyddio i asesu cydymffurfiad, adolygodd y Bwrdd ei ddull hap samplu ansoddol presennol.  Gan adeiladu ar y gwaith hwn, bydd y Bwrdd yn defnyddio’r ymchwil y mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi’i chynnal i ddeall y ffordd orau i Fyrddau Cyfiawnder Troseddol Lleol glywed lleisiau a phrofiadau dioddefwyr o cyfiawnder troseddol.

5. Pobl sydd wedi troseddu: Diwallu eu hanghenion

Cyflawni yn erbyn Argymhellion yr Adolygiad i sefyllfa troseddu ledled Cymru

Drwy Dasglu Strategol Pobl sydd wedi troseddu, mae’r Bwrdd wedi canolbwyntio ar gyflawni yn erbyn nifer o argymhellion yr adolygiad i sefyllfa troseddu ledled Cymru.  Mae’r cynnydd yn cynnwys:

  • Dull comisiynu cydgysylltiedig: Bydd Gwefan Rheoli Troseddwyr Integredig Cymru yn cadw ac yn rhannu gwybodaeth am yr ymyriadau a’r gwasanaethau sydd ar gael ledled Cymru. Bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio gan Fwrdd Comisiynu a Chydweithredu Cymru i drafod anghenion, a bydd yn rhan o’r cylch comisiynu ar lefel leol a Chymru.

  • Deall a mynd i’r afael â throseddu ac ymddygiad troseddol yn lleol : Cwblhawyd proffiliau troseddu lleol sy’n seiliedig ar dystiolaeth i roi gwybod i bob Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Lleol am y mathau mwyaf cyffredin o droseddau, gan gynnig demograffeg, anghenion troseddegol a’r ffactorau sy’n sbarduno troseddu a’r gwasanaethau a’r ymyriadau sydd ar gael i fynd i’r afael â’r ymddygiad troseddol a lleihau troseddu. Bydd Byrddau Cyfiawnder Troseddol Lleol yn defnyddio’r dystiolaeth i ddatblygu cynllun gweithredu Pobl sydd wedi troseddu 2024-25 lleol i dargedu’r prif droseddau yn eu rhanbarth a gweithio i leihau aildroseddu. Edrychwn ymlaen at roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y gwaith a gyflawnwyd drwy’r cynlluniau hyn y flwyddyn nesaf.

  • Mynd i’r Afael â Bylchau mewn Gwasanaethau yng Nghymru: Roedd y proffil troseddu lleol hefyd yn dangos bod llety, rheoli emosiynau, iechyd meddwl a niwroamrywiaeth yn fylchau trawsbynciol mewn gwasanaethau ar gyfer pobl sydd wedi troseddu ledled Cymru. Bydd y Bwrdd yn gweithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â hyn yn ystod 2024-25 ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y cynnydd y flwyddyn nesaf.
  • Darlun o droseddu yng Nghymru a mynd i’r afael â Thrais: Mae’r proffiliau troseddu lleol yn dangos mai trais yw’r math mwyaf cyffredin o drosedd yng Nghymru. Felly, bydd Byrddau Cyfiawnder Troseddol Lleol yn ystyried eu cynlluniau lleol gan gynnwys yr asesiad o ddyletswydd trais difrifol a gwaith Glasbrint Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Cymru (VAWDASV) ac yn alinio gweithgarwch. Bydd y Tasglu’n dod â’r cynllun lleol at ei gilydd i rannu’r hyn a ddysgwyd a sicrhau cydweithio ledled Cymru i leihau troseddu.

  • Alinio â Chyfiawnder Ieuenctid: Mae’r Grŵp Llywio Cyfiawnder Troseddol wedi trafod rôl y Bwrdd a’r Byrddau Cyfiawnder Troseddol Lleol, a sut y maent yn ychwanegu gwerth ac yn cefnogi’r system cyfiawnder ieuenctid a’r canlyniadau i bobl ifanc. Disgwylir papur ar lywodraethiant, fydd yn nodi’r rôl yng ngwanwyn 2024.

5.1 Ymyrraeth Gynnar ac Atal

Roeddem wedi canolbwyntio ar gyflawni tri mater allweddol ledled Cymru, gan adeiladu ar y meddylfryd a’r gwaith a ddechreuwyd gennym yn 2022-2023.

5.2 Sicrhau bod y System Cyfiawnder Troseddol yn ymwybodol yn gyson o Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod ac yn dod yn ystyriol o drawma.

Fel y trafodwyd yn ein Hadroddiad Blynyddol 2022-23, cytunodd GLlTEF, Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu De Cymru i fod yn rhan o gynllun braenaru peilot ystyriol o drawma, i weithio tuag at uchelgais ar y cyd – i fod yn system cyfiawnder troseddol sy’n fwy ystyriol o drawma. Mae’r gwaith hwn yn ymwneud â gweithredu’r pecyn cymorth sy’n seiliedig ar Drawma a Phrofiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod (ACE), sy’n adnodd allweddol yn Fframwaith Cymru gyfan sy’n ystyriol o drawma, a gyhoeddwyd yn 2022, sy’n nodi’r uchelgais ar gyfer cenedl sy’n ystyriol o drawma. Yn ystod 2023, ymrwymodd Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF, Heddlu Dyfed Powys a Heddlu Gwent i fwrw ymlaen â’r dull hwn, gan sicrhau ein bod yn nes at gyflawni ein huchelgais ar y cyd.

Fodd bynnag, rhaid i ni fod yn glir, mae’r uchelgais hwn yn bellgyrhaeddol ac yn gymhleth, gyda’r nod o wneud newid systemig ar draws Cyfiawnder Troseddol, a gwasanaethau datganoledig a heb eu datganoli ledled Cymru. Mae llawer o sefydliadau eisoes ar y daith hon; felly, ein cam cyntaf oedd dysgu o’u profiad, gan dynnu’n benodol ar y gwaith a wnaed ar draws y sector camddefnyddio sylweddau, addysg bellach ac uwch, tai, y Glasbrint Cyfiawnder Ieuenctid a’r Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid. Mae Heddlu a Chyfiawnder Troseddol hefyd wedi dysgu cryn dipyn o weithredu’r Rhaglen Gweithredu Cynnar Gyda’n Gilydd. Roedd adolygiad o sut cafodd y gwaith hwnnw ei wreiddio a’r effaith a gafodd hefyd yn elfen allweddol o’r gwaith paratoi. Yn ogystal â gwrando ar academyddion a sefydliadau sydd wedi bod ar y daith sy’n ystyriol o drawma i ddatblygu dull ymarferol a graddol.

Mae’r cam datblygu wedi dechrau, gydag arloeswyr yn defnyddio Hyb Trawma ACE Cymru a Phecyn Cymorth Ystyriol o ACE (TrACE) i weithio drwy gamau’r daith, gan ddechrau gydag hunanasesiad sefydliadol o ble mae arferion da eisoes yn digwydd a nodi ble i ganolbwyntio ymdrechion a gwneud gwelliannau. Bydd arloeswyr yn cwblhau’r gwaith hwn yn ystod 2024-25, gan weithio drwy chwe maes y pecyn cymorth fel arweinyddiaeth a llywodraethu, polisïau, cyfathrebu, hyfforddi a datblygu, gyda’r nod o gael cynllun gweithredu clir i’w roi ar waith erbyn diwedd y flwyddyn. Rydyn ni’n edrych ymlaen at roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi yn ein Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2024-25 am yr hyn mae sefydliadau wedi’i ganfod a’r meysydd maen nhw eisiau canolbwyntio arnyn nhw a’u gwella.

5.3 Gweithredu ymyriadau cynnar sy’n ‘gweithio’ ledled Cymru

Y llynedd, gwnaethom gynnal adolygiad o brosiectau a gweithgareddau atal ar draws y pedwar Heddlu, gan adeiladu ar yr adolygiad a gynhaliwyd gan yr Uned Atal Trais i edrych ar fapio’r dull gweithredu ar gyfer gwaith atal ar draws y System Cyfiawnder Troseddol. Nododd y gwaith rai meysydd o addewid cynnar, ond ni ellid defnyddio unrhyw feysydd gwaith sylweddol, yn enwedig yn y maes atal sylfaenol, i hysbysu ein gwybodaeth am ‘beth sy’n gweithio’ yn sylweddol. Roedd hwn yn ganfyddiad pwysig, ac roedd yn gwneud yn glir bod atal sylfaenol, ac integreiddio gwaith gyda’r meysydd datganoledig sy’n hanfodol i’r maes hwn fel addysg ac iechyd, yn dal yn faes y mae angen inni roi blaenoriaeth iddo wrth symud ymlaen. Bydd hyn yn rhan o’r gwaith o ystyried y pecyn cymorth Profiad Niweidiol yn ystod Plentyndod (TrACE) sy’n Ystyriol o Drawma uchod, a fydd yn cynnwys atal a gweithio gyda phartneriaid, ond hefyd yr angen i gynnal y gwaith mapio a nodi bylchau ar lefel leol i nodi meysydd i brofi a threialu arloesedd yn y maes hwn. Bydd hyn yn rhan o waith y Byrddau Cyfiawnder Troseddol Lleol yn 2024-25.

5.4 Deall pa mor gyffredin yw anaf a gafwyd i’r ymennydd ymhlith menywod yn y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru

Comisiynodd Glasbrint Menywod mewn Cyfiawnder arbenigwr allanol i gynnal yr ymchwil i sut mae anafiadau i’r ymennydd ar draws y system cyfiawnder troseddol yn effeithio ar fenywod. Bydd adroddiad terfynol yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd yn ystod yr haf, a fydd yn cytuno ar y camau y byddant yn eu cymryd i leihau nifer y menywod y mae anaf a gafwyd i’r ymennydd yn effeithio arnynt ar draws y system cyfiawnder troseddol.

6. Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth

Cymru a Phecyn Cymorth Ystyriol o ACE (TrACE) i weithio drwy gamau’r daith, gan ddechrau gydag hunanasesiad sefydliadol o ble mae arferion da eisoes yn digwydd a nodi ble i ganolbwyntio ymdrechion a gwneud gwelliannau. Bydd arloeswyr yn cwblhau’r gwaith hwn yn ystod 2024-25, gan weithio drwy chwe maes y pecyn cymorth fel arweinyddiaeth a llywodraethu, polisïau, cyfathrebu, hyfforddi a datblygu, gyda’r nod o gael cynllun gweithredu clir i’w roi ar waith erbyn diwedd y flwyddyn. Rydyn ni’n edrych ymlaen at roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi yn ein Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2024-25 am yr hyn mae sefydliadau wedi’i ganfod a’r meysydd maen nhw eisiau canolbwyntio arnyn nhw a’u gwella.

6.1 Gweithredu ymyriadau cynnar sy’n ‘gweithio’ ledled Cymru

Y llynedd, gwnaethom gynnal adolygiad o brosiectau a gweithgareddau atal ar draws y pedwar Heddlu, gan adeiladu ar yr adolygiad a gynhaliwyd gan yr Uned Atal Trais i edrych ar fapio’r dull gweithredu ar gyfer gwaith atal ar draws y System Cyfiawnder Troseddol. Nododd y gwaith rai meysydd o addewid cynnar, ond ni ellid defnyddio unrhyw feysydd gwaith sylweddol, yn enwedig yn y maes atal sylfaenol, i hysbysu ein gwybodaeth am ‘beth sy’n gweithio’ yn sylweddol. Roedd hwn yn ganfyddiad pwysig, ac roedd yn gwneud yn glir bod atal sylfaenol, ac integreiddio gwaith gyda’r meysydd datganoledig sy’n hanfodol i’r maes hwn fel addysg ac iechyd, yn dal yn faes y mae angen inni roi blaenoriaeth iddo wrth symud ymlaen. Bydd hyn yn rhan o’r gwaith o ystyried y pecyn cymorth Profiad Niweidiol yn ystod Plentyndod (TrACE) sy’n Ystyriol o Drawma uchod, a fydd yn cynnwys atal a gweithio gyda phartneriaid, ond hefyd yr angen i gynnal y gwaith mapio a nodi bylchau ar lefel leol i nodi meysydd i brofi a threialu arloesedd yn y maes hwn. Bydd hyn yn rhan o waith y Byrddau Cyfiawnder Troseddol Lleol yn 2024-25.

6.2 Deall pa mor gyffredin yw anaf a gafwyd i’r ymennydd ymhlith menywod yn y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru

Comisiynodd Glasbrint Menywod mewn Cyfiawnder arbenigwr allanol i gynnal yr ymchwil i sut mae anafiadau i’r ymennydd ar draws y system cyfiawnder troseddol yn effeithio ar fenywod. Bydd adroddiad terfynol yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd yn ystod yr haf, a fydd yn cytuno ar y camau y byddant yn eu cymryd i leihau nifer y menywod y mae anaf a gafwyd i’r ymennydd yn effeithio arnynt ar draws y system cyfiawnder troseddol.

7. Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth 

Cyhoeddodd y Bwrdd ei Gynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol i Gymru, ym mis Medi 2022, gan nodi’r saith ymrwymiad y bydd y Bwrdd yn eu cyflawni erbyn 2030. 

Un o’n hymrwymiadau oedd llunio Adroddiad Blynyddol Gwrth-hiliaeth i gynyddu tryloywder a nodi’n fanylach yr hyn sydd wedi cael ei gyflawni yn ystod 2023-24 a’r gwaith a’r heriau sy’n dal i fodoli. Rydym yn falch iawn o ymgorffori ein Hadroddiad Blynyddol cyntaf ar Wrth-hiliaeth isod.

7.1 Y Panel Cynghori a Goruchwylio Annibynnol – canolbwyntio ar fesur newid:

Mae’r Panel wedi bod yn cyfarfod ers dros flwyddyn, ac mae wedi cael nifer o gyflwyniadau gan asiantaethau partner ac arweinwyr ffrydiau gwaith mewn perthynas â’u gwaith gwrth-hiliaeth. Mae’r panel wedi craffu ar y trefniadau llywodraethu mewnol ar gyfer y Cynllun ym mhob asiantaeth bartner ac yn ymdrechu’n barhaus i bwyso am gynnydd. Maent wedi sefydlu eu rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, a fydd yn eu galluogi i ganolbwyntio eu goruchwyliaeth ar feysydd thematig allweddol. Mae’r Panel, ochr yn ochr â’r Rhwydwaith Ymgysylltu â’r Gymuned, yn sicrhau bod yr holl waith a wnawn yn cael ei ysgogi a’i hysbysu gan bobl o leiafrifoedd ethnig yng Nghymru.

7.2 Adolygiad llywodraethu ac arweinyddiaeth wedi’i gwblhau a’i weithredu

Mae’r system cyfiawnder troseddol yn cynnwys amrywiaeth o wahanol sefydliadau a systemau. Felly, er mwyn sicrhau bod pob rhan o’r system yn cyflawni’r saith ymrwymiad a nodir yn y Cynllun Gwrth-hiliaeth, roedd angen prosesau goruchwylio, atebolrwydd ac uwchgyfeirio cadarn yng Nghymru. Mae’r dull hwn yn helpu i nodi meysydd cynnydd a risg. Mae’r adolygiad llywodraethu diweddar wedi galluogi gwell cydlynu ymdrechion, ac agwedd fwy cynhwysol tuag at wneud penderfyniadau a datblygu polisi drwy gyflwyno mwy o leisiau allanol o leiafrifoedd ethnig.

7.3 Cynllun Cyfathrebu Gwrth-hiliaeth

Gweithiodd partneriaid gyda’i gilydd i ddatblygu Cynllun Cyfathrebu ar gyfer Cymru, a fydd yn cael ei wella a’i ddarparu gan ddarparwr cyfathrebu allanol yn ystod 2024-25. Bydd y cynllun yn canolbwyntio ar addysgu, herio canfyddiadau ac agweddau sy’n ymwneud â hiliaeth, a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gymunedau am yr hyn y mae’r Cynllun yn ei gyflawni.

7.4 Hyfforddiant Cymhwysedd Diwylliannol

Mae darparwyr hyfforddiant allanol yn darparu hyfforddiant i unigolion ar draws y system cyfiawnder troseddol i wella eu gwybodaeth a’u sgiliau a sicrhau eu bod yn ddiwylliannol gymwys wrth ryngweithio â phobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig. Mae’r hyfforddiant yn cael ei werthuso gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fel bod modd bwydo’r dysgu i ffrwd waith Hyfforddiant a Chymhwysedd Diwylliannol.

7.5 Adolygiad llenyddiaeth i ddeall defnyddio datrysiadau y tu allan i’r llys ac opsiynau newid ymddygiad ar gyfer y rheini sy’n cyflawni troseddau casineb

Rhoddodd yr adolygiad gipolwg ar fentrau sy’n gweithio ac enghreifftiau o ddyfeisiau pellach i’w datblygu a’u cynnig i bobl sydd wedi cyflawni casineb hiliol.

7.6 Adolygiad llenyddiaeth i ddeall materion sy’n ymwneud â thangynrychiolaeth pobl o leiafrifoedd ethnig mewn datrysiadau y tu allan i’r llys a dargyfeirio (gan ganolbwyntio ar fenywod a phobl ifanc)

Mae’r adolygiad wedi rhoi cipolwg ar y materion i fynd i’r afael â nhw a bydd rhagor o waith maes gyda rhanddeiliaid yn dilyn hynny.

8. Ein huchelgais ar gyfer 2024/2025

Rydym wedi defnyddio ein pedair egwyddor sylfaenol, fel y cyfeiriwyd atynt yn gynharach, sy’n cynnwys buddsoddi yn ein pobl, gweledigaeth a rennir ar y cyd, gweithio mewn partneriaeth, cael ein harwain gan dystiolaeth i ddatblygu ein cynllun gwaith ar gyfer y flwyddyn nesaf, a ddangosir isod.

Edrychaf ymlaen at roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi’r flwyddyn nesaf am y gwahaniaeth rydym wedi’i wneud.

Dioddefwyr a Thystion Uchelgeisiau

  • Cydymffurfio â’r Cod Dioddefwyr
  • Lleihau athreuliad cam-drin domestig
  • Codi ymwybyddiaeth o fesurau arbennig Canolbwyntio ar lys teulu

Pobl Sydd Wedi Cyflawni Troseddau Uchelgeisiau

  • Llunio darlun o droseddu ledled Cymru
  • Bydd Byrddau Cyfiawnder Troseddol Lleol (LCJBs) yn rhoi cynlluniau gweithredu 12 mis ar waith er mwyn mynd i’r afael ag ymddygiadau troseddol lleol
  • Mynd i’r afael å bylchau mewn gwasanaethau yng Nghymru: Llety, niwroamrywiaeth, anableddau ac iechyd meddwl

Ymyrryd yn Gynnar ac Atal Uchelgeisiau

  • Mae sefydliadau cyfiawnder troseddol yn ymwybodol o egwyddorion Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs), ac am arferion wedi’u llywio gan drawma
  • Byrddau Cyfiawnder Troseddol Lleol (LCJBs) - meddu ar y gwasanaethau cywir er mwyn ymyrryd yn gynnar ac atal troseddau a niwed
  • Deall yr amlygrwydd i Anaf i’r Ymennydd i fenywod sy’n rhan o’r system cyfiawnder troseddol

Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Uchelgeisiau

  • LCJBS i gyflawni ymrwymiadau’r cynllun • Archwiliad polisi
  • Gwella’r broses o gasglu a rhannu data
  • Datblygu fframwaith hyfforddiant gwrth- hiliaeth Cynyddu’r gynrychiolaeth o leiafrifoedd ethnig