Policy paper

Counter-terrorism strategy (CONTEST) 2023 (Welsh accessible)

Updated 22 September 2023

CONTEST

Strategaeth y Deyrnas Unedig ar gyfer Gwrthderfysgaeth

Cyflwynwyd i’r Senedd gan Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref trwy Orchymyn ei Fawrhydi Gorffennaf 2023

CP 903

© Hawlfraint y Goron 2023

Mae’r cyhoeddiad hwn wedi’i drwyddedu o dan delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored v3.0 ac eithrio lle nodir yn wahanol. I weld y drwydded hon, ewch i nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3.

Lle rydym wedi nodi unrhyw wybodaeth hawlfraint trydydd parti bydd angen i chi gael caniatâd gan ddeiliaid yr hawlfraint dan sylw.

Mae’r cyhoeddiad hwn ar gael yn www.gov.uk/official-documents.

Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynghylch y cyhoeddiad hwn atom yn public.enquiries@homeoffice.gov.uk.

ISBN 978-1-5286-4055-8

E02897889 07/23

Argraffwyd ar bapur sy’n cynnwys o leiaf 40% o gynnwys ffibr wedi’i ailgylchu

Argraffwyd yn y DU gan HH Global ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Fawrhydi

Slip cywiro

Teitl: Strategaeth y Deyrnas Unedig ar gyfer Gwrthderfysgaeth 2023

Sesiwn: 2022-23

CP 903

ISBN: 978-1-5286-4055-8

Cyflwynwyd i’r Senedd: 18 Gorffennaf 2023

Cywiriad:

Rhagair y Gweinidog – Tudalen 2, paragraff 2

Ar hyn o bryd mae’r testun yn darllen:

Ers i ni gyhoeddi CONTEST ddiwethaf yn 2018, rydym wedi gweld naw ymosodiad terfysgol wedi’u datgan, a 39 o ymosodiadau aflonyddgar – sef bron i wyth ymosodiad y flwyddyn ar gyfartaledd.

Dylai’r testun ddarllen:

Ers 2018, pan ddiweddarwyd CONTEST ddiwethaf, hyd at gyhoeddi’r fersiwn hon, mae naw ymosodiad terfysgol wedi’u datgan yn y DU. Ers mis Mawrth 2017, mae ein hasiantaethau a gorfodi’r gyfraith wedi tarfu ar 39 o gynllwyniau terfysgol cam hwyr yn y DU.

Dyddiad cywiro: 22 Medi 2023

Rhagair y Gweinidog

Mae pob marwolaeth ac anaf o ganlyniad i derfysgaeth yn drasiedi ac yn ddicter. Mae terfysgwyr yn ceisio lledaenu ofn, achosi poen, a thrawmateiddio cymunedau. Maent yn ceisio erydu ein rhyddid a’n gwerthoedd. Trwy CONTEST y byddwn yn sicrhau nad yw terfysgwyr yn llwyddo.

Mae’r bygythiad terfysgol i’r DU yn ddi-ildio ac yn esblygu. Ers 2018, pan ddiweddarwyd CONTEST ddiwethaf, hyd at gyhoeddi’r fersiwn hon, mae naw ymosodiad terfysgol wedi’u datgan yn y DU. Ers mis Mawrth 2017, mae ein hasiantaethau a gorfodi’r gyfraith wedi tarfu ar 39 o gynllwyniau terfysgol cam hwyr yn y DU. Mae hefyd yn gynyddol anrhagweladwy, gan ei gwneud yn anoddach ei ganfod ac ymchwilio iddo. Barnwn felly fod y risg yn cynyddu – a byddaf yn parhau i wneud popeth o fewn fy ngallu i amharu ar y bygythiad hwn a’i gwtogi.

Nid yn unig y byddwn yn parhau i atal ymosodiadau, byddwn yn ymosod ar y bygythiad yn ei ffynhonnell trwy amharu ar ddylanwad radicaleiddio ehangach y rhai sy’n lluosogi ideoleg eithafol. Drwy’r strategaeth hon wedi’i diweddaru byddwn yn rhoi mwy o ffocws ar ddefnyddio holl ysgogiadau’r wladwriaeth i nodi ac ymyrryd yn erbyn terfysgwyr; byddwn yn adeiladu partneriaethau hollbwysig gyda’r sector preifat a chynghreiriaid rhyngwladol i gadw’r cyhoedd yn ddiogel; a byddwn yn harneisio’r cyfleoedd a gyflwynir gan dechnoleg newydd.

Mae CONTEST bellach yn 20 mlwydd oed ac wedi dod yn allu gwrthderfysgaeth sy’n arwain y byd. Rwy’n hynod ddiolchgar i’r dynion a’r merched sy’n gweithio mor ddiflino ac mor ddewr i atal yr ymosodiadau hyn ac i ddod â chyflawnwyr o flaen eu gwell. Dyma’r bobl sy’n ein cadw ni a’n teuluoedd yn ddiogel.

Rhaid inni adolygu a diweddaru CONTEST yn rheolaidd i sicrhau ei fod yn cyfateb i’r bygythiad wrth iddo ddatblygu a pharhau. Rhaid inni fod yn hunanfeirniadol a hunanymwybodol i fod mor effeithiol â phosibl. Mae craffu annibynnol ac allanol, o Ymchwiliad Arena Manceinion i’r Adolygiad Annibynnol o Atal, yn hanfodol i daflu goleuni ar ble y gallwn ac y mae’n rhaid inni wella. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn derbyn y gwersi gwerthfawr hyn.

Mae CONTEST wedi sefyll prawf amser. Mae ei fframwaith cadarn yn ein galluogi i ddadansoddi’r bygythiad; marsial ymateb effeithiol; a chyfathrebu ar draws y llywodraeth, i bobl Prydain a’r sector preifat, ac i’n partneriaid rhyngwladol. Y partneriaethau hyn yw craidd ein hymdrechion gwrthderfysgaeth a’n llwyddiannau. Ni ellir gwneud ymdrechion fel atal radicaleiddio, ymchwilio i fannau caeedig ar-lein, ac ymateb yn gyflym i ddigwyddiadau yn y DU a ledled y byd, ar eu pen eu hunain. Cadw pobl yn ddiogel yw dyletswydd gyntaf a mwyaf cysegredig y llywodraeth. Ni fyddwn yn flinch.

Y Gwir Anrhydeddus Suella Braverman KC AS

Ysgrifennydd Cartref

Crynodeb Gweithredol

1. Nod CONTEST, strategaeth wrthderfysgaeth y DU, yw lleihau’r risg o derfysgaeth i’r DU, ei dinasyddion a’i buddiannau dramor, fel y gall pobl fyw eu bywydau yn rhydd ac yn hyderus.

2. Diweddarodd y llywodraeth yr Adolygiad Integredig o Ddiogelwch, Amddiffyn, Datblygiad a Pholisi Tramor (IR), ym mis Mawrth 2023.[footnote 1] Mae’r ddogfen honno’n nodi strategaeth diogelwch cenedlaethol a rhyngwladol trosfwaol y DU. Mae terfysgaeth yn un o’r bygythiadau a gwmpesir gan y strategaeth honno ac mae CONTEST yn amlinelluein hymateb iddi yn fwy manwl.

3. Ers fersiwn ddiwethaf CONTEST yn 2018, mae ymdrechion gwrthderfysgaeth ar y cyd gan y DU a chynghreiriaid allweddol wedi bod yn llwyddiannus i raddau helaeth wrth leihau risg trwyatal y bygythiadau terfysgol mwyaf difrifol. Mae hyn wedi galluogi ail-gydbwyso adnoddau diogelwch cenedlaethol cyfyngedig i feysydd eraill o fygythiad. Mae fframwaith craidd CONTEST yn grymuso adrannau’r llywodraeth, gweinyddiaethau datganoledig, awdurdodau lleol, gwasanaethau brys rheng flaen, asiantaethau cuddwybodaeth, a phartneriaid eraill, i weithio gyda’i gilydd i wrthsefyll terfysgaeth. Mae ein cynghreiriaid byd-eang, ac arbenigwyr annibynnol, yn cydnabod bod Fframwaith CONTEST craidd - Atal, Dilyn, Amddiffyn a Pharatoi - yn rhaglen wrthderfysgaeth sy’n arwain y byd. Mae mwyafrif sylweddol o bobl yn teimlo’n ddiogel rhag terfysgaeth ac yn hyderus yng ngallu’r llywodraeth i amddiffyn y DU rhag terfysgaeth.[footnote 2]

4. Fodd bynnag, mae bygythiad terfysgaeth yn parhau ac yn esblygu. Er gwaethaf nifer yr achosion o ymosodiadau soffistigeiddrwydd is yn y DU, mae’r bygythiad a welwn heddiw ac a welwn yn y blynyddoedd i ddod yn fwy amrywiol, dynamig a chymhleth:

  • bygythiad terfysgol domestig sy’n llai rhagweladwy, yn anos ei ganfod ac ymchwilio iddo
  • bygythiad parhaus ac esblygol gan grwpiau terfysgol Islamaidd dramor
  • amgylchedd gweithredu lle mae datblygiadau cyflymach mewn technoleg yn rhoi cyfle a risg i’n hymdrechion gwrthderfysgaeth

5. Yn y cyd-destun hwn rydym yn barnu bod y risg o derfysgaeth yn cynyddu unwaith eto. Bydd angen i ni barhau i gydbwyso ein dyletswydd i amddiffyn y DU a’i buddiannau rhag terfysgaeth yn erbyn yr angen i ymateb i fygythiadau diogelwch cenedlaethol eraill o fewn adnoddau cyfyngedig.

6. Mae craffu allanol yn gwella ein hymateb i wrthderfysgaeth. Mae gweithredu argymhellion yr Adolygiad Annibynnol o Prevent yn llawn yn sicrhau newid sylweddol yn ein gwaith i atal pobl rhag dod yn derfysgwyr neu eu cefnogi. Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno Deddf Martyn i wella diogelwch mewn lleoliadau cyhoeddus. Ac rydym yn parhau i ddysgu o ymosodiadau, cwestau ac ymholiadau yn y gorffennol, gan gynnwys Ymchwiliad Arena Manceinion, gan wella ein galluoedd yn barhaus a chau gwendidau yn ein hymateb i ymosodiadau terfysgol.

7. Bydd ein hymateb i wrthderfysgaeth hyd yn oed yn fwy ystwyth yn wyneb bygythiad esblygol, yn fwy integredig fel y gallwn roi’r ymyriadau cywir ar waith ar yr adeg gywir i leihau risg ac yn fwy cyson â’n cynghreiriaid rhyngwladol i sicrhau ein bod yn parhau i gyflawni gyda’n gilydd yn erbyn bygythiad cyffredin. Byddwn yn:

  • gwireddu potensial llawn Canolfan Gweithrediadau Gwrthderfysgaeth (CTOC) y DU sy’n arwain y byd, gan ddod â’r timau, y data a’r dechnoleg gywir at ei gilydd i nodi, ymchwilio ac amharu ar derfysgwyr yn fwy effeithiol.
  • sicrhau bod ymchwiliadau gwrthderfysgaeth yn defnyddio ystod gynyddol o gyngor arbenigol ac ymyriadau nad ydynt yn ymwneud â gorfodi’r gyfraith i liniaru’r bygythiad terfysgol sy’n datblygu. Byddwn yn cysylltu’r system wrthderfysgaeth yn well ag arbenigedd ym meysydd gofal iechyd, addysg, gwasanaethau cymdeithasol a’r system cyfiawnder troseddol i ymateb i gymhlethdod y bygythiad terfysgol
  • cynnal buddsoddiad mewn galluoedd asesu bygythiadau difrifol, drwy’r Ganolfan Dadansoddi Terfysgaeth ar y Cyd (JTAC) o safon fyd-eang
  • cefnogi’r sector cyhoeddus a phreifat i fod yn bartneriaid effeithiol wrth atal ymosodiadau a lleihau’r nifer sy’n cael eu colli os bydd ymosodiad, trawsnewid ein hymdrech gyfathrebu i ganolbwyntio negeseuon craidd mewn meysydd lle mae gan y cyhoedd ran hanfodol i’w chwarae yn ein hymateb i wrthderfysgaeth
  • dyfnhau ein partneriaethau gwrthderfysgaeth rhyngwladol, gan alinio ein dulliau strategol a chanfod ac amharu ar fygythiadau gyda’i gilydd, fel y gallwn wneud y mwyaf o effeithiolrwydd galluoedd presennol a datblygu rhai newydd i amddiffyn ein dinasyddion.
  • cryfhau Ffin y DU ymhellach fel llinell amddiffyn hanfodol yn erbyn terfysgaeth, gan fanteisio ar offer mewnfudo newydd, canfod, targedu a galluoedd biometrig, i nodi a rhwystro bygythiadau rhag dod i mewn i’r DU
  • parhau i fuddsoddi mewn nodi bygythiadau a chyfleoedd yn y dyfodol sy’n deillio o dechnoleg, gan weithio gyda phartneriaid rhyngwladol, y sector preifat, melinau trafod a’r byd academaidd
  • adeiladu ar ein hymgysylltiad â’r sector technoleg, gan gymryd rhan yn yr ymdrech ryngwladol, gydgysylltiedig i atal ymelwa gan derfysgwyr ar y rhyngrwyd, gan gynnwys cydweithredu â chwmnïau ar sail ddwyochrog a phartneriaeth â sefydliadau anllywodraethol a fforymau amlochrog
  • galluogi mynediad hanfodol i’r data sydd eu hangen arnom i ymchwilio ac amharu ar weithgarwch terfysgol. Trwy osod safonau data rhyngwladol a Chytundeb Mynediad Data nodedig y DU/UDA

8. Mae’r Ysgrifennydd Cartref yn arwain ar ymateb gwrthderfysgaeth y DU a gweithredu CONTEST. Yr Uned CONTEST, sydd wedi’i lleoli yn y Swyddfa Gartref, a gynhyrchodd y strategaeth hon, gyda mewnbwn a her gan adrannau’r llywodraeth, gweinyddiaethau datganoledig, yr heddlu, yr asiantaethau diogelwch a chudd-wybodaeth, ymarferwyr rheng flaen, dioddefwyr terfysgaeth a’u teuluoedd, y sector preifat, academyddion, arweinwyr cymunedol, partneriaid rhyngwladol a’r cyhoedd. Bydd yr Uned CONTEST yn monitro ac yn cydlynu perfformiad gwrthderfysgaeth traws-lywodraethol, gan gynnwys lle mae Ysgrifenyddion Gwladol eraill yn gyfrifol am elfennau o’r strategaeth.

9. Mae CONTEST yn rhan hanfodol o’r ffordd rydym yn cyfathrebu’r ymagwedd at y maes gwaith hollbwysig hwn. Mae’r cyhoedd yn chwarae rhan hanfodol wrth atal ac ymateb i ymosodiadau a chymryd camau eu hunain lle bo modd i leihau risgiau. Er nad yw bob amser yn bosibl bod yn agored am y bygythiadau penodol na’n hymateb iddynt, mae CONTEST yn ffordd o gynyddu faint o wybodaeth sydd ar gael i helpu’r sector cyhoeddus a’r sector preifat i chwarae eu rhan.

Rhan Un: Terfysgaeth

Defnydd neu fygythiad o drais difrifol yn erbyn person neu ddifrod difrifol i eiddo lle mae’r weithred honno:

  1. wedi’i chynllunio i ddylanwadu ar y llywodraeth neu sefydliad llywodraethol rhyngwladol neu i ddychryn y cyhoedd neu garfan o’r cyhoedd; ac

  2. at ddiben hyrwyddo achos gwleidyddol, crefyddol, hiliol neu ideolegol.[footnote 3]

Effaith terfysgaeth

10. Ers 2018, pan ddiweddarwyd CONTEST ddiwethaf, hyd at gyhoeddi’r fersiwn hon, mae naw ymosodiad terfysgol wedi’u datgan yn y DU; lladdodd y digwyddiadau hyn chwech o bobl ac anafwyd 20.[footnote 4] Mae pedwar ar hugain o wladolion y DU wedi cael eu lladd mewn un ar ddeg o ymosodiadau dramor.[footnote 5] Ers mis Mawrth 2017, mae ein hasiantaethau a gorfodi’r gyfraith wedi tarfu ar 39 o gynllwyniau terfysgol cam hwyr yn y DU. Mae’r rhain wedi cynnwys targedu ffigurau cyhoeddus, megis ASau, cymunedau a digwyddiadau penodol, megis Pride, a lleoliadau cyhoeddus, megis safleoedd eiconig yn Llundain.[footnote 6]

11. Mae pob marwolaeth o derfysgaeth yn drasiedi. Mae’r effaith ar oroeswyr, tystion, ac anwyliaid yn parhau. Gellir teimlo effeithiau ymosodiad terfysgol ar yr unigolion hyn mewn sawl ffordd, gan gynnwys anafiadau sy’n newid bywyd, straen a gorbryder wedi trawma, a chaledi ariannol.[footnote 7] [footnote 8] [footnote 9] Gall ymosodiadau terfysgol gael canlyniadau dwys sy’n ymestyn ar draws cymdeithas, gan gynnwys effeithiau geopolitical, economaidd a diogelwch cenedlaethol.

12. Yn ogystal â chostau personol a chymdeithasol terfysgaeth, mae costau economaidd ehangach terfysgaeth yn sylweddol. Amcangyfrifir bod y pum ymosodiad terfysgol a ddigwyddodd ledled y DU yn 2017 wedi costio hyd at £172 miliwn mewn costau uniongyrchol.[footnote 10] Mae dadansoddiad ar wahân gan RAND Europe yn amcangyfrif effeithiau anuniongyrchol posibl ar GDP o hyd at £3.4 biliwn ym mlwyddyn ymosodiadau 2017.[footnote 11]

Y bygythiad gan derfysgaeth

13. Mae’r bygythiad terfysgol yn parhau ac yn esblygu. Rydym bellach yn wynebu bygythiad terfysgol domestig sy’n llai rhagweladwy, sy’n anoddach ei ganfod ac ymchwilio iddo; bygythiad parhaus ac esblygol gan grwpiau terfysgol Islamaidd dramor; ac amgylchedd gweithredu lle mae technoleg yn parhau i ddarparu cyfle a risg i’n hymdrechion gwrthderfysgaeth. Felly, rydym yn barnu bod y risg o derfysgaeth yn cynyddu unwaith eto.

14. Rydym mewn amgylchedd diogelwch cenedlaethol cynyddol heriol, fel y nodir yn yr Adolygiad Integredig o Ddiogelwch, Amddiffyn, Datblygu a Pholisi Tramor (IR),[footnote 12] adnewyddu. Y flaenoriaeth diogelwch cenedlaethol mwyaf dybryd bellach yw’r bygythiad o Rwsia i ddiogelwch Ewropeaidd. Mae Tsieina yn gosod her systemig sy’n diffinio’r epoc. Newidiodd COVID-19 ymddygiad bron pob person yn y DU. Ar ben hyn, rydym yn gweld cyflymder o newid technolegol a fydd yn effeithio ar yr holl fygythiadau a wynebwn, tra’n darparu cyfleoedd newydd.

15. Yn y cyd-destun hwn y mae’n rhaid i ni nawr weld a rheoli’r bygythiad terfysgol. Ochr yn ochr â’n cynghreiriaid, rhaid i ni flaenoriaethu adnoddau cyfyngedig yn ddidrugaredd er mwyn sicrhau ein bod yn deall terfysgaeth ac fel y gallwn ymateb yn effeithiol. Mae’r sbectrwm cynyddol o fygythiadau diogelwch cenedlaethol yn golygu bod y cydbwysedd hwn yn her barhaus ac y bydd yn parhau i fod yn her barhaus dros y blynyddoedd i ddod.

Terfysgaeth yn y DU

Mae’r bygythiad terfysgol yn y DU heddiw yn cael ei ddominyddu gan unigolion neu grwpiau bach sy’n gweithredu y tu allan i rwydweithiau terfysgol trefniadol. Mae’n duedd sy’n gwneud terfysgwyr yn llai rhagweladwy ac yn anoddach eu hadnabod, ymchwilio iddynt ac amharu arnynt.

16. Yn y DU, daw’r prif fygythiad terfysgol domestig o derfysgaeth Islamaidd, sy’n cyfrif am oddeutu 67% o ymosodiadau ers 2018, oddeutu thri chwarter llwyth achosion MI5 a 64% o’r rhai yn y ddalfa am droseddau sy’n gysylltiedig â therfysgaeth.[footnote 13]

17. O fewn terfysgaeth Islamaidd yn y DU, mae cysylltiad amlwg ac aliniad ideolegol sefydlog ag unrhyw un sefydliad terfysgol rhyngwladol penodol yn lleihau. Y dirywiad cymharol ym mhroffiliau al-Qa’ida ac, i raddau llai, Daesh, mae absenoldeb unigolion ag apêl dorfol sy’n gysylltiedig â’r grwpiau hyn, a’r newid cymdeithasol parhaus i fyd ar-lein wedi arwain at faterion a chwynion o ystod ehangach o ffynonellau yn dod yn ddylanwadau ac yn yrwyr ideolegol.[footnote 14]. Gall y rhain gynnwys dylanwadau radicaleiddio sy’n gwrthwynebu’r gwerthoedd a’r egwyddorion sy’n sail i’n cymdeithas, megis yr enghreifftiau hynny a nodir yn ymateb y llywodraeth i’r Adolygiad Annibynnol o Prevent, yn ogystal â grwpiau gwaharddedig hirsefydlog fel Hamas a Hezbollah [footnote 15].Mae hyn wedi arwain at amrywiaeth ehangach o naratifau ideolegol tameidiog a setiau cred anghonfensiynol y gellir eu defnyddio ochr yn ochr â neu gael eu defnyddio i atgyfnerthu ideoleg terfysgol Islamaidd fwy traddodiadol.

“Mae ein cymdeithas rydd, agored a chynhwysol yn rhywbeth i’w drysori a’i warchod rhag ideolegau sy’n ceisio ei dinistrio.” - Ymateb y Llywodraeth i’r Adolygiad Annibynnol o Prevent [footnote 16]

18. Mae gweddill bygythiad terfysgol domestig y DU yn cael ei yrru bron yn gyfan gwbl gan Derfysgaeth Eithafol Asgell Dde (ERWT), sy’n cyfateb i tua 22% o ymosodiadau ers 2018, tua chwarter llwyth achosion MI5 a 28% o’r rhai yn y ddalfa ar gyfer troseddau sy’n gysylltiedig â therfysgaeth.[footnote 17].

19. Mae bygythiad ERWT yng ngwledydd y Gorllewin yn gynyddol yn fater trawswladol o ran radicaleiddio dylanwad, ysbrydoliaeth a chyfathrebu. Yn wahanol i grwpiau terfysgol Islamaidd, nid yw terfysgwyr asgell dde eithafol fel arfer wedi’u trefnu’n grwpiau ffurfiol gyda hierarchaethau arweinyddiaeth ac uchelgeisiau tiriogaethol, ond yn gymunedau anffurfiol ar-lein sy’n hwyluso cysylltiadau rhyngwladol. Mae ymosodiadau angheuol wedi digwydd mewn sawl gwlad, yn aml wedi’u hysbrydoli gan ymosodwyr blaenorol. Ysbrydolodd ymosodiadau Oslo ac Utoya yn Norwy yn 2011 ymosodiad Christchurch yn Seland Newydd yn 2019, sydd yn ei dro wedi ysbrydoli ymosodiadau terfysgol pellach yn y DU, UDA, Canada ac Ewrop. Mewn rhai gwledydd – gan gynnwys gwledydd sydd â niferoedd uchel o wladolion y DU ac ymwelwyr – daw’r bygythiad mwyaf gan derfysgaeth gan ERWT. Mae naratifau terfysgol eithafol asgell dde hefyd yn cael eu hecsbloetio gan actorion gelyniaethus megis Rwsia, sy’n ceisio hyrwyddo naratifau ymrannol a phegynol yn y Gorllewin, sy’n debygol o gynyddu yn y dyfodol. Nodwyd enghreifftiau o ddylanwadau radicaleiddio ERWT hefyd yn ymateb y llywodraeth i’r Adolygiad Annibynnol o Prevent.[footnote 18]

20. Ar hyn o bryd mae Terfysgaeth Asgell Chwith, Anarchaidd ac Un Mater (LASIT) yn cynrychioli bygythiad terfysgol sylweddol llai i’r DU na therfysgaeth Islamaidd neu ERWT ac nid yw’n bresennol yn y DU ar unrhyw raddfa arwyddocaol ar hyn o bryd (er bod rhywfaint o weithgarwch wedi bod sydd wedi bodloni trothwy terfysgol yn y blynyddoedd diwethaf ac mae ymchwiliadau MI5 yn parhau i achosion o’r fath). Mae’r rhan fwyaf o weithgarwch cysylltiedig yn y DU wedi cynnwys protestiadau cyfreithlon, a lle mae’r rhain wedi cynnwys trais, mae wedi arwain at droseddau’n ymwneud â threfn gyhoeddus.

Ideolegau sy’n ysgogi terfysgaeth

Mae ystod eang o ideolegau a naratifau yn denu pobl i gefnogi neu gyflawni gweithredoedd terfysgol. Mae ymlyniad terfysgwyr ag ideolegau penodol mewn llawer o achosion yn llai strwythuredig a chydlynol nag yr oedd ddegawd yn ôl, gan adlewyrchu’n rhannol yr ystod eang o ddeunydd sydd ar gael ar-lein y gall unigolion neu grwpiau bach dynnu ohono.

Mae angen i ni nawr reoli lledaeniad ehangach o naratifau a chredau y gellir eu defnyddio i ysgogi a chefnogi trais terfysgol. Mae’r rhain yn cynnwys dylanwadau radicaleiddio sy’n gweithredu o dan drothwy terfysgaeth ond sy’n ceisio annog eraill i groesi’r trothwy hwn tra’n darnio a rhannu cymunedau. P’un a ydyn nhw’n honni eu bod yn erbyn trais ai peidio, gall eithafwyr greu gofodau lle gall eraill gael eu hysbrydoli i drais a therfysgaeth. Rydym yn defnyddio labeli ideolegol, fel y rhai a nodir isod, i fynegi credau a syniadau a nodir yn rheolaidd fel rhai sy’n sail i derfysgaeth, ond mae’r rhain, i raddau amrywiol, yn fwyfwy disgrifiadau ar gyfer sbectrwm o naratifau a chredau yn hytrach nag ideoleg glir, strwythuredig.

Terfysgaeth Islamaidd yw’r bygythiad neu’r defnydd o drais fel modd o sefydlu dehongliad llym o gymdeithas Islamaidd. I rai mae hon yn ideoleg wleidyddol sy’n rhagweld, er enghraifft, creu califfiaeth Islamaidd fyd-eang yn seiliedig ar weithrediad llym cyfraith shari’ah, gan dynnu ar syniadau gwleidyddol a chrefyddol a ddatblygwyd yn yr 20fed ganrif gan Sayyid Qutb ac ‘Abdallah’ Azzam. Mae llawer o ymlynwyr yn credu bod trais (neu jihadfel y maent yn ei ddisgrifio) nid yn unig yn arf strategol angenrheidiol i gyflawni eu nodau, ond yn ddyletswydd grefyddol unigolyn. Yn y DU daw’r bygythiad terfysgol Islamaidd yn bennaf oddi wrth y rhai a ysbrydolwyd gan Daesh a/neu al-Qa’ida, ond nad ydynt o reidrwydd yn gysylltiedig â nhw, ond maent yn gweithredu o fewn tirwedd ehangach o ddylanwadau radicalaidd fel y nodir yn ymateb y llywodraeth i’r Adolygiad Annibynnol o Prevent. Mae ymagwedd Al-Qa’ida yn un graddol, gyda’r bwriad o ddileu dylanwad y Gorllewin a chyfundrefnau ‘gwrthgiliol’ canfyddedig o wledydd gyda mwyafrif Mwslimaidd yn amodau angenrheidiol ar gyfer sefydlu califfiaeth. Ceisiodd Daesh hyrwyddo ei amcan yn gyflymach nag al-Qa’ida, gan ddatgan califfiaeth cyn gynted ag yr oedd wedi dal tiriogaeth sylweddol yn Syria ac Irac.

Mae Terfysgaeth Eithafol Asgell Dde (ERWT) yn disgrifio’r rhai sy’n ymwneud â gweithgarwch yr Asgell Dde Eithafol sy’n defnyddio trais i hybu eu hideoleg. Gellir nodweddu’r ideolegau hyn yn fras fel Cenedlaetholdeb Diwylliannol, Cenedlaetholdeb Gwyn a Goruchafiaeth Wen. Gallai unigolion a grwpiau danysgrifio i ddaliadau ideolegol a syniadau o fwy nag un categori.

Mae Terfysgaeth Asgell Chwith, Anarchaidd ac Un Mater (LASIT) yn cwmpasu ystod eang o ideolegau. Mae’n cynnwys y rhai o’r asgell chwith wleidyddol eithafol yn ogystal ag anarchwyr sy’n ceisio defnyddio trais i hyrwyddo eu hachos wrth geisio dymchwel y Wladwriaeth yn ei holl ffurfiau.

21. Ar draws ideolegau, mae’r bygythiad terfysgol domestig yn cael ei ddominyddu gan unigolion neu grwpiau bach a all weithiau gael eu hysbrydoli neu eu hannog gan grwpiau terfysgol cyfundrefnol ond sy’n gweithredu heb eu cyfarwyddyd na chymorth materol[footnote 19]. Am fwy na degawd, mae pob ymosodiad terfysgol yn y DU wedi bod gan unigolion o’r fath. Gwelir y duedd hon ar draws Ewrop a’r Gorllewin. Mae annog unigolion sy’n agored i niwed i gyflawni gweithredoedd terfysgol ar eu liwt eu hunain yn strategaeth fwriadol o grwpiau terfysgol yn eu propaganda[footnote 20] . Gwaethygir hyn gan amgylcheddau ar-lein sy’n dod ag unigolion ynghyd ac yn hwyluso rhannu a dilysu meddyliau a syniadau.[footnote 21] [footnote 22]

“Mae’r broblem ddrwg o derfysgwyr sy’n gweithredu’n unigol ac wedi’u cychwyn eu hunain, yn anodd iawn i’w darganfod ac i darfu arni.” – DG MI5 Ken McCallum – Diweddariad Bygythiad, Tachwedd 2022

22. Mae hyn yn ei gwneud yn anos adnabod, ymchwilio i ac amharu ar derfysgwyr posibl. Mae unigolion neu grwpiau bach sy’n gweithredu y tu allan i rwydwaith terfysgol sefydledig yn cynnig llai o lwybrau ar gyfer canfod ac ymyrryd. Heb gysylltiadau sefydliadol clir, gall taith radicaleiddio unigolyn fod yn fwy heriol i’w deall. Unwaith y bydd unigolyn wedi penderfynu cynnal ymosodiad, a bod ganddo’r modd sydd ar gael iddo, gallant wneud hynny’n gyflym a heb rybudd. Er y gall fod yn anos adnabod yr arwyddion, efallai y bydd cyfleoedd o hyd. Mae’n amlwg bod unigolion a grwpiau bach yn aml yn dangos rhai dangosyddion o’u bwriad terfysgol, ar-lein ac yn bersonol.[footnote 23]

23. Gall damcaniaethau cynllwyn fod yn byrth i feddwl radicalaidd ac weithiau trais.[footnote 24] [footnote 25] [footnote 26] Maent yn aml yn gwneud honiadau heb dystiolaeth am achosion digwyddiadau cymdeithasol a gwleidyddol, gan geisio eu hegluro trwy feio grwpiau neu actorion pwerus. Nid yw llawer o ddamcaniaethau cynllwyn yn newydd, maent yn addasu hen naratifau i gyd-fynd ag amgylchiadau presennol ac nid ydynt yn benodol i unrhyw ideoleg unigol. Mae themâu cyffredin yn cynnwys rhagoriaeth grefyddol neu ethnig, gwrth-semitiaeth, casineb at fenywod, cwynion gwrth-sefydliad a gwrth-LGBT. Gall damcaniaethau cynllwyn ddod yn llwybr i safbwyntiau ac ymddygiad mwy eithafol trwy gyflwyno credinwyr i gynnwys radicalaidd neu gynyddu cydymdeimlad â syniadau eithafol ac ymgysylltu â thrais gwleidyddol. Mae soffistigedigrwydd cynyddol a graddfa gweithrediadau twyllwybodaeth yn cyflwyno heriau gwirioneddol i wladwriaethau democrataidd, gan gynyddu’r risg o derfysgaeth, annog trais rhwng grwpiau â thensiynau sydd eisoes yn bodoli a pheri risgiau tymor hwy i ymddiriedaeth y cyhoedd [footnote 27] gan annog trais rhwng grwpiau â thensiynau sydd eisoes yn bodoli a pheri risgiau tymor hwy i ymddiriedaeth y cyhoedd. Mae’r llywodraethau eu hunain yn gynyddol yn ffocws I gynllwynion, sy’n pwysleisio pwysigrwydd gwarchod a chynnal gwerthoedd tryloyw, democrataidd, a gwaith y llywodraeth i herio’n gadarn twyllwybodaeth am ein hymdrechion gwrthderfysgaeth.

“Nid yw bob amser yn hawdd llunio llinellau sy’n nodi’r hyn sy’n derfysgaeth a’r hyn nad yw’n derfysgaeth. Mewn achosion o ymosodwyr anhysbys o’r blaen, nad ydynt yn honni cyfrifoldeb, mae’n cymryd amser i gasglu’r ffeithiau - a hyd yn oed ar ôl iddynt gael eu cydosod, maent yn aml yn gymysgedd dryslyd o ffactorau. ” – DG MI5 Ken McCallum – Diweddariad Bygythiad, Tachwedd 2022

24. Deall cymhelliant a bwriad yw pam, mewn rhai achosion, y gall gymryd amser ar ôl digwyddiad i’w gael ei ddatgan yn derfysgaeth ai peidio, a pham weithiau mae’n parhau i fod yn aneglur. Mae ymdrechion gwrthderfysgaeth yn dod ar draws ystod o gymhellion personol ac ideolegol i drais, lle mae’n bosibl mai dim ond rhan o ddarlun llawer mwy cymhleth yw naratif terfysgol traddodiadol. Gall terfysgwyr gynnal ystod o gŵynion personol ochr yn ochr â’r ideoleg sylfaenol ar gyfer cyflawni ymosodiad. Mae unigolion yn gynyddol yn mabwysiadu cymysgedd o syniadau o wahanol ideolegau i mewn i’w naratifau achwyn. Mae hyn yn cyfrannu at yr her gynyddol o asesu’r cymhelliant y tu ôl i drais unigolyn, pennu’r mesurau lliniaru mwyaf priodol i’w rhoi ar waith a barnu a yw’r trais hwnnw’n weithred o derfysgaeth ai peidio. Mae’n bosibl y gallai ymlynwyr treisgar i fudiadau ac isddiwylliannau, fel Anweddogaeth Anwirfoddol (‘Incels’[footnote 28]),fodloni trothwy bwriad neu weithredu terfysgol, pe byddai’r bygythiad neu’r defnydd o drais difrifol yn cael ei ddefnyddio i ddylanwadu ar y llywodraeth, neu i ddychryn y cyhoedd.

25. Mae’r rhyngrwyd yn parhau i’w gwneud yn symlach i unigolion a grwpiau hyrwyddo a defnyddio cynnwys sy’n radicaleiddio. Mae’r rhwystrau i fynediad a oedd yn bodoli gyda gweithgaredd grŵp terfysgol personol yn y gorffennol wedi’u dileu i gael eu disodli gan amgylchedd ar-lein sydd wedi’i adeiladu er hwylustod, a heb ei gyfyngu gan leoliad daearyddol. Mae hyn wedi cynyddu hygyrchedd i bawb i fannau sy’n llawn radicaleiddwyr a chynnwys terfysgol, gan gynnwys grwpiau fel plant dan oed neu’r rheini â chyflyrau iechyd meddwl neu niwroamrywiaeth.[footnote 29]

“Nid yw bod yn ‘derfysgwr collfarnedig’ yn statws i’w ddymuno ar blant os gellir yn rhesymol ei osgoi” - Jonathan Hall CB, Adolygydd Annibynnol Deddfwriaeth Terfysgaeth, Mawrth 2023 [footnote 30]

26. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu cynnydd bach yn nifer y plant dan oed yr ymchwiliwyd iddynt ac a arestiwyd gan Heddlu Gwrthderfysgaeth.[footnote 31] Mae’r rhan fwyaf o’r gweithgarwch andwyol gan bobl ifanc wedi digwydd ar-lein: cafodd dros hanner y rhai dan 18 oed a gafwyd yn euog o droseddau terfysgaeth dros y pum mlynedd diwethaf eu cyhuddo o droseddau di-drais (casglu neu ddosbarthu cyhoeddiadau terfysgol). Er bod nifer fach o blant dan oed yn parhau i gynllunio ymosodiadau ac yn fygythiad credadwy, nid oes unrhyw ymosodiadau terfysgol wedi’u cwblhau gan blentyn dan oed yn y DU. Mae mwyafrif y plant dan oed yr ymchwiliwyd iddynt am ymwneud â therfysgaeth yn wryw a rhwng 15 a 17 oed, er bod plant iau hefyd wedi cael eu hymchwilio. Mae gan nifer o blant dan oed sy’n ymwneud â therfysgaeth anghenion cymhleth ychwanegol hefyd.

27. Ar y cyfan, prin yw’r dystiolaeth i gefnogi cysylltiad achosol uniongyrchol rhwng salwch meddwl neu niwrowahaniaeth a bygythiad terfysgol unigolyn neu ei dueddiad i radicaleiddio. Yn gyffredinol, nid yw salwch meddwl yn fwy cyffredin ymhlith achosion terfysgaeth na’r boblogaeth gyffredinol. Ond mae perthnasedd cyflyrau o’r fath yn y bygythiad yn amrywio fesul achos. Gall salwch meddwl gyfrannu at radicaleiddio rhai unigolion, gan weithredu fel ffactor risg, tra mewn achosion eraill gall weithredu fel atalydd.[footnote 32] [footnote 33]

28. Lle mae’r ffactorau risg ychwanegol hyn yn bresennol mewn gwaith achos gwrthderfysgaeth gallant gymhlethu asesu a rheoli risg yn sylweddol. Rhaid i ymchwilwyr ystyried diogelwch cenedlaethol a chyfrifoldebau diogelu ochr yn ochr â’r her o ymchwilio i blant ac oedolion agored i niwed. Mae heriau hefyd o ran rhannu gwybodaeth hynod ddosbarthedig y tu allan i asiantaethau gorfodi’r gyfraith a diogelwch, a rhannu gwybodaeth bersonol sensitif ag ymchwilwyr gwrthderfysgaeth.

29. Gall y rhai a gafwyd yn euog o derfysgaeth neu drosedd gysylltiedig barhau i fod yn fygythiad; roedd pedwar o’r naw ymosodiad terfysgol a ddatganwyd yn y DU ers 2018 wedi’u cyflawni gan garcharorion sy’n gwasanaethu neu a ryddhawyd yn ddiweddar. Gall unigolion a gafwyd yn euog o droseddau nad ydynt yn ymwneud â therfysgaeth hefyd feddu ar feddylfryd terfysgol neu ddatblygu un yn ystod eu cyfnod yn y carchar. Mae’r ymosodiadau gan garcharorion y tu mewn i CEM Whitemoor, ymosodiadau Fishmongers’ Hall 2019 ac ymosodiadau 2020 Streatham a Reading gan y rhai ar brawf, yn dangos y bygythiad sylweddol y gall troseddwyr barhau i’w achosi yn y ddalfa ac ar ôl eu rhyddhau – un o ymosodwyr HMP Whitemoor a’r Reading ymosodwr yn euog o droseddau nad ydynt yn ymwneud â therfysgaeth.

30. O Fawrth 2023 ymlaen, roedd 232 person yn y ddalfa am droseddau sy’n gysylltiedig â therfysgaeth [footnote 34][footnote 35]. Er gwaethaf ymdrechion parhaus i liniaru’r risg terfysgol a achosir gan unigolion yn y ddalfa bydd angen rheoli risg hirdymor ar y mwyafrif health, a all bara am ddegawdau ar ôl rhyddhau [footnote 36]a allai barhau am ddegawdau ar ôl rhyddhau. Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi, yr heddlu ac asiantaethau eraill yn gweithio’n agos mewn partneriaeth o dan y fframwaith Trefniadau Amlasiantaethol ar gyfer Diogelu’r Cyhoedd (MAPPA) i asesu, rheoli a lliniaru’r risg a berir gan unigolion ar bob cam trwy euogfarn, carchariad, rhyddhau a gofynion hysbysu ar ôl dedfrydu. Mae’r cyfnod hir o ofynion hysbysu yn cynrychioli galw parhaus am Blismona Gwrthderfysgaeth sy’n arwain rheolaeth ôl-dedfrydu, a disgwylir i’r garfan o unigolion sy’n destun gofynion o’r fath dyfu flwyddyn ar ôl blwyddyn am y dyfodol rhagweladwy.

Ymosodiadau a Marwolaethau Terfysgol Domestig yn ôl Methodoleg Ymosodiad ers Ion 2005 tan amser cyhoeddi:

Methodoleg Marwolaethau Ymosodiadau
Ffrwydron 74 6
Cerbyd ag Arf Grym Llafnog/Di-awch 14 3
Arf Grym Llafnog/Di-awch 9 12
Arf Tanio 1 1
Cerbyd 1 1
Tân 0 1

Explosives: 52 deaths from 7 July 2005 attacks and 22 deaths from 2017 Manchester Arena.

Attacks only include those in which at least one person was killed or injured.

31. Mae ymosodiadau terfysgol yn targedu ystod eang o bobl a lleoedd. Mae’r rhain yn cynnwys ffigurau cyhoeddus proffil uchel a chynrychiolwyr o’r wladwriaeth sy’n cael eu hystyried yn gyfrifol am y gŵyn ideolegol berthnasol, megis ASau neu aelodau o’r lluoedd arfog. Mae terfysgwyr yn aml yn ceisio cael effaith uchel trwy dargedu lleoedd gorlawn, fel Borough Market ac Arena Manceinion yn 2017; a mannau addoli neu gymunedau penodol sy’n darged i’w cwyn ideolegol, fel Mosg Finsbury Park yn 2017 neu gynllwyniau wedi’u rhwystro yn 2017 a 2019 i ymosod ar ddigwyddiadau Pride yn y DU. Mae grwpiau terfysgol hefyd yn cadw eu huchelgeisiau i ymosod ar dargedau eiconig a lleoliadau a allai gynnwys anafiadau ar raddfa fawr, er enghraifft mae San Steffan yn darged mynych ar gyfer terfysgaeth. Gall hyn gynnwys targedau hedfan, neu hybiau trafnidiaeth gyhoeddus,

32. Yn y DU, yn rhannol oherwydd mesurau i reoli mynediad at ragflaenwyr ffrwydron a rheolaethau llym ararfau tanio, mae terfysgwyr wedi mabwysiadu dulliau ymosod sy’n haws cael gafael arnynt ers amser maith, megis cyllyll a cherbydau. Mae bron i 80% o ymosodiadau terfysgol domestig y DU ers 2018 wedi cael eu cynnal ag arfau grym â llafn neu di-awch. Mae ymosodiadau soffistigeiddrwydd isel o’r fath yn dal i allu creu nifer sylweddol o anafusion, er enghraifft ymosodiad Diwrnod Bastille 2016 yn Nice, Ffrainc a ddefnyddiodd gerbyd fel arf, gan ladd 86 o bobl ac anafu 434.

33. Mae dyfeisiau ffrwydrol yn parhau i fod yn bryder mawr o ystyried y difrod posibl; ers Ionawr 2005, mae 75% o farwolaethau o ganlyniad i derfysgaeth yn y DU wedi digwydd mewn ymosodiadau yn ymwneud â ffrwydron [footnote 37][footnote 38]. Yn ffodus, roedd yr ymosodiad ar Ysbyty Menywod Lerpwl yn 2021 heb farwolaethau (ac eithrio’r terfysgwr) ond roedd yn ein hatgoffa o allu parhaus terfysgwyr i ddefnyddio ffrwydron. Mae’r rhyngrwyd wedi parhau i ddarparu argaeledd deunydd cyfarwyddiadol a mynediad at y cydrannau sydd eu hangen i adeiladu dyfais ffrwydrol fyrfyfyr, a elwir hefyd yn IED. Mae terfysgwyr yn parhau i fanteisio ar ddatblygiadau ehangach mewn technoleg brif ffrwd ac yn ceisio methodolegau ymosod newydd.

Grwpiau terfysgol Islamaidd

Mae’r bygythiad gan grwpiau terfysgol Islamaidd sydd wedi’u lleoli dramor yn barhaus ac wedi esblygu. Mae pwysau gwrthderfysgaeth parhaus gan y DU a’i chynghreiriaid wedi atal y bygythiadau terfysgol mwyaf difrifol. Ond mae grwpiau megis Daesh ac al-Qaida wedi esblygu ac addasu eu hymagwedd ac maent bellach yn weithredol mewn mwy o wledydd nag erioed o’r blaen. Er bod eu galluoedd yn parhau i fod ymhell islaw brigau cynharach mae arwyddion o atgyfodiad. Mae’r ddau yn parhau i ysbrydoli, galluogi a chyfarwyddo unigolion a grwpiau radicalaidd a chynnal eu bwriad i ymosod ar y DU.

34. Er bod pwysau gwrthderfysgaeth parhaus gan y DU a’i chynghreiriaid wedi atal y bygythiadau terfysgol mwyaf difrifol, mae’r DU a’n cynghreiriaid allweddol bellach yn gweithredu mewn cyd-destun lle mae’n rhaid blaenoriaethu adnoddau diogelwch cenedlaethol yn llym yn erbyn ystod ehangach o fygythiadau. Mae grwpiau terfysgol Islamaidd fel Daesh ac al-Qa’ida hefyd wedi esblygu ac addasu. Er gwaethaf colledion sylweddol iawn o diriogaeth a phersonél sydd wedi lleihau eu gallu, mae’r bygythiad y maent yn ei achosi i’r Gorllewin a buddiannau ‘r Gorllewin dramor bron yn sicr bellach ar i fyny o’i bwynt isaf 12-24 mis yn ôl.

35. Yn y gorffennol mae grwpiau terfysgol Islamaidd wedi hyfforddi, cyfarwyddo a defnyddio gweithredwyr, fel y dangoswyd gan yr ymosodiadau al-Qa’ida yn Llundain yn 2005 ac ymosodiadau Daesh ym Mharis yn 2015. Mae ymdrechion gwrthderfysgaeth amlweddog parhaus gan y DU a’n cynghreiriaid, gan gynnwys 20 mlynedd o ymdrech ar y cyd â ffocws yn Affganistan, wedi diraddio al-Qa’ida a Daesh yn sylweddol yn eu theatrau gweithredu craidd, gan wrthod lle caniataol iddynt gynllunio a chyfarwyddo ymosodiadau, a gwanhau eu gallu i gyfarwyddo bygythiadau i’r Gorllewin. O ganlyniad, ni fu unrhyw gynllwyn llwyddiannus yn y DU a gyfarwyddwyd o dramor ers y bomio 7/7 yn 2005.

36. Yn fwy diweddar mae al-Qa’ida a Daesh ill dau wedi canolbwyntio ar gydgrynhoi a gwreiddio mewn gwrthryfeloedd lleol ac uwchsgilio celloedd bach. Mae’r rhan fwyaf o grwpiau Islamaidd dramor yn canolbwyntio ar nodau lleol, a allai gynnwys ymosod ar fuddiannau’r DU a’r Gorllewin, yn hytrach nag anelu bygythiadau yn uniongyrchol at y Gorllewin. Mae mwy o wladolion y DU wedi marw o ymosodiadau terfysgol dramor nag yn y DU ers 2001[footnote 39].Ym mis Ebrill 2019 fe wnaeth cyfres o fomiau hunanladdiad cysylltiedig â Daesh yn Sri Lanka dargedu eglwysi, gwestai a chanolfannau tai, gan ladd dros 260 o bobl, gan gynnwys wyth o ddinasyddion y DU.

37. Ond mae grwpiau terfysgol Islamaidd, gan gynnwys Daesh ac al-Qa’ida, yn parhau i geisio cynllunio a galluogi ymosodiadau yng ngwledydd y gorllewin, gan gynnwys y DU. Mae pwysau gwrthderfysgaeth wedi arwain at esblygiad rhwydweithiau terfysgol mwy llac a mwy tameidiog, ond mae’r rhain yn dal i gynnwys llawer o unigolion sy’n peri pryder gan gynnwys y rhai sydd â’r hyfforddiant a’r cymhelliant angenrheidiol i gynnal ymosodiadau. Yn ogystal â deunyddiau propaganda terfysgol a gynlluniwyd i ysbrydoli ymosodiadau, rydym hefyd yn gweld mwy o ymdrechion wedi’u targedu i ddarparu anogaeth, cyngor ac arweiniad i unigolion neu grwpiau bach a allai fod eisoes yn bresennol mewn gwlad darged. Rydym yn rhagweld y bydd Daesh ac al-Qa’ida yn manteisio ar lai o bwysau gwrthderfysgaeth i geisio cryfhau eu gallu i gynnal ymosodiadau cymhleth, cyfeiriedig.

Marwolaethau Cenedlaethol y DU Dramor a Achoswyd gan Derfysgaeth ers 2001

Blwyddyn Marwolaethau
2001 67
2002 29
2003 4
2004 2
2005 14
2006 1
2007 4
2008 3
2009 2
2010 0
2011 4
2012 2
2013 12
2014 4
2015 33
2016 1
2017 2
2018 3
2019 10
2020 0
2021 5
2022 3
2023 3
  • 2001: 9/11 attacks
  • 2002: Bali attacks
  • 2005: Sharm El Sheik attack
  • 2015: Sousse attack
  • 2019: Sri Lanka Easter attacks

38. Mae Daesh yn cadw’r gallu a’r bwriad i alluogi ac annog ymosodiadau ag anafusion torfol ac yn dal i ddarparu ysbrydoliaeth ideolegol i unigolion gyflawni ymosodiadau. Yn Syria ac Irac, diolch i ymgyrch filwrol barhaus gan y Glymblaid Fyd-eang a’i phartneriaid ar lawr gwlad, mae 7.7 miliwn o bobl wedi’u rhyddhau o reolaeth Daesh, gan wadu rheolaeth Daesh ar diriogaeth a lleihau’n sylweddol allu’r grŵp i gynllunio ac ysbrydoli ymosodiadau yn erbyn y DU. Mae Daesh yn cynnal presenoldeb yn Syria ac Irac er gwaethaf cael eu trechu’n filwrol yno, ac mae’r amodau a arweiniodd at Daesh yn 2013 yn dal i fod yn bresennol i raddau helaeth. Mae’r gwrthdaro wedi gadael degau o filoedd o gyn-ymladdwyr a chefnogwyr Daesh mewn gwersylloedd a chyfleusterau cadw yng ngogledd-ddwyrain Syria. Er bod allbwn cyfryngau’r grŵp ar ei isaf o safbwynt hanesyddol, mae gan eu propaganda’r potensial o hyd i ysbrydoli, ysgogi ac annog ymosodiadau y tu allan i’w meysydd gweithredu.

39. Mae Al-Qa’ida hefyd yn parhau i fod yn fygythiad cryf a gwydn, er gwaethaf colli ffigurau arweinyddiaeth allweddol, gan gynnwys emir byd-eang y grŵp, Ayman al-Zawahiri, ym mis Gorffennaf 2022. Mae’n debygol y bydd y grŵp yn ceisio manteisio ar y ffaith bod y Gorllewin wedi tynnu’n ôl o Affganistan ym mis Awst 2021, gan fanteisio ar berthnasoedd personol parhaus ag arweinwyr y Taliban.[footnote 40] Mae’n debygol y bydd y grŵp yn blaenoriaethu ailsefydlu Affganistan fel amgylchedd gweithredu caniataol dros ei ddefnyddio fel platfform i lansio gweithrediadau ymosod allanol ohono yn y tymor agos. Mae’r bygythiad o al-Qa’ida i’r DU a’n dinasyddion dramor yn amlwg yn bennaf mewn ymosodiadau gan ei chymdeithion byd-eang. Mae’r rhain yn canolbwyntio’n bennaf ar y rhanbarthau y mae’r mudiadau cysylltiedig yn gweithredu ynddynt, ag arweinyddiaeth al-Qa’ida yn gweithredu fel tywyswr strategol ac ideolegol i’r grwpiau hyn. Tra bod maint ac effaith propaganda al-Qa’ida wedi lleihau, mae cynnwys hanesyddol - gan gynnwys al-Qa’ida yng nghylchgrawn Saesneg Inspire Penrhyn Arabia - yn dal i gyfrannu at y bygythiad i’r DU, oherwydd ei gynnwys ideolegol a chyfarwyddiadol.

40. Mae grwpiau sy’n gysylltiedig ag al-Qa’ida a Daesh bellach yn gweithredu gyda rhyddid cymharol mewn mwy o diriogaeth nag erioed o’r blaen. Mae’r datblygiad hwn wedi’i ysgogi gan eu defnydd o dueddiadau byd-eang, eu hymateb i bwysau gwrthderfysgaeth a strategaeth fwriadol. Mae breuder a gwrthdaro gwladwriaethol wedi lledu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wedi’u hysgogi gan bwysau byd-eang y pandemig COVID-19, newid yn yr hinsawdd, ansicrwydd ynni a bwyd, dirywiadau economaidd a gwrth-lithriad democrataidd, yn ogystal â ffactorau gwleidyddol lleol a rhanbarthol. Mae’r amodau hyn yn creu cwynion cyfreithlon ac anfodlonrwydd â llywodraethau y gall grwpiau fel Daesh ac al-Qa’ida eu hecsbloetio i adeiladu cefnogaeth, yn aml yn cyfethol gwrthryfeloedd sydd eisoes yn bodoli o dan eu baner. Mae grwpiau cysylltiedig yn caniatáu iddynt gynnal eu gwytnwch a chynyddu eu hatseiniau byd-eang. Nod y ddau grŵp yw sefydlu califfiaethfbyd-eang ac mae ehangu cyrhaeddiad eu cysylltiadau byd-eang yn rhan annatod o’u strategaethau.

41. Mae grwpiau cysylltiedig yn dod yn fwy galluog a marwol. Mae cyswllt Daesh yn Affganistan, Talaith Khorasan y Wladwriaeth Islamaidd, wedi cael ei ail-ysgogi gan y ffaith bod y gorllewin wedi tynnu’r yn ôl. Yn 2022, roedd mudiadau cysylltiedig Daesh yn gyfrifol am bron i ddwywaith cymaint o ymosodiadau honedig â’r grŵp ‘craidd’ yn Irac a Syria, ag ymosodiadau yn Affrica Is-Sahara yn cyfrif am tua hanner y cyfanswm a hawliwyd gan y grŵp.[footnote 41] Al-Shabaab yw’r enghraifft fwyaf grymus o’r bygythiad y mae al-Qa’ida yn ei achosi: dyma’r bygythiad terfysgol mwyaf yn Somalia a Chorn Affrica. Mae wedi lladd gwladolion y DU ac wedi targedu hedfan.

42. Er mai rhanbarthau lleol grwpiau yw’r prif risgiau i ddinasyddion y DU heddiw gan gwmnïau cysylltiedig, mae rhai wedi dangos awydd i ymosod yn uniongyrchol ar y Gorllewin – yn aml yn cael eu hannog neu eu cynorthwyo gan eu grwpiau ‘craidd’ perthnasol. Gall grwpiau cyswllt gydweithio i rannu adnoddau neu bontio bylchau yn eu gallu, gan arwain at fygythiad mwy rhwydweithiol a gwydn. Bydd parhau i fod yn wyliadwrus ynghylch sut a ble mae’r bygythiad mwy gwasgaredig hwn yn esblygu yn her allweddol i’r DU a’n cynghreiriaid yn y blynyddoedd i ddod.

Terfysgaeth Gysylltiedig â Gogledd Iwerddon

43. Mae Terfysgaeth Gysylltiedig â Gogledd Iwerddon (NIRT) yn parhau i fod yn fygythiad difrifol, yn arbennig yng Ngogledd Iwerddon. Nid yw CONTEST yn mynd i’r afael â’r bygythiad gan NIRT yng Ngogledd Iwerddon, sy’n cael ei reoli gan ddull strategol ar wahân, dan arweiniad Swyddfa Gogledd Iwerddon. Mae CONTEST yn ymdrin â bygythiad NIRT ar dir mawr Prydain Fawr. Mae’n bwysig nad yw’r bygythiadau i Ogledd Iwerddon ac i Brydain Fawr yn cael eu hystyried ar wahân.

44. Er gwaethaf y cynnydd gwleidyddol sylweddol yng Ngogledd Iwerddon yn y 25 mlynedd diwethaf, mae rhai grwpiau gweriniaethol anghydffurfiol yn parhau i gynnal ymosodiadau terfysgol. Rhwng 2018 ac Ebrill 2023, bu wyth ymosodiad diogelwch cenedlaethol yng Ngogledd Iwerddon. Mae heddlu a swyddogion carchar, yn ogystal ag aelodau o’r lluoedd arfog, yn parhau i fod yn brif dargedau grwpiau gweriniaethol anghydffurfiol. Nid yw grwpiau gweriniaethol anghydffurfiol treisgar yn cynrychioli barn brif ffrwd ar draws Gogledd Iwerddon, ac mae cefnogaeth iddynt a’u gweithredoedd yn isel.

45. Mae bygythiad NIRT wedi’i ganoli’n bennaf ac wedi’i gyfeirio yn erbyn targedau yng Ngogledd Iwerddon. Er bod gweithgarwch NIRT yng ngweddill y DU yn anghyffredin, mae grwpiau gweriniaethol anghydffurfiol yn debygol o gadw uchelgais i gynnal ymosodiadau ym Mhrydain Fawr. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r uchelgais hwn wedi’i gyfyngu i sypiau achlysurol o IEDs post crai megis y rhai a anfonwyd at dargedau seilwaith trafnidiaeth yn Llundain a tharged cysylltiedig â milwyr yn Glasgow ym mis Mawrth 2019. Er eu bod yn grai ac ar raddfa fach, mae’r gallu gan yr IEDs hyn o hyd i achosi anaf difrifol ac aflonyddwch i’r derbynwyr arfaethedig ac aelodau’r gwasanaeth post.

Technoleg

Mae argaeledd cynyddol technolegau newydd a llwyfannau ar-lein yn rhoi cyfle a risg i’n hymdrechion gwrthderfysgaeth. Mae terfysgwyr yn manteisio ar dechnoleg i guddio eu rhwydweithiau, lledaenu eu propaganda a galluogi eu hymosodiadau. Mae technoleg yn alluogwr hanfodol i’n hymdrechion gwrthderfysgaeth, lle gall defnydd gofalus a chymesur o dechnegau blaengar wneud ein hymateb yn fwy effeithlon ac effeithiol.

46. Yn fwy nag erioed o’r blaen mae’r cymunedau rydym yn byw ynddynt a’r bywydau rydym yn eu Dilyn yn cydblethu â thechnoleg ac yn dibynnu arni. Mae arloesiadau technolegol, cynhyrchion a gwasanaethau newydd yn parhau i gael eu datblygu’n gyflym yn fyd-eang sy’n dod â chyfleoedd a bygythiadau posibl. Mae ein hymateb gwrthderfysgaeth yn cael ei alluogi gan dechnoleg ar bob cam, o ganfod a chaffael data hyd at wyliadwriaeth, cyfathrebu a dadansoddi.

47. Gall terfysgwyr hefyd fanteisio ar dechnoleg i roi cyhoeddusrwydd i’w hymosodiadau a’u mawrygu, radicaleiddio pobl â’u hideolegau, a chaffael adnoddau megis arfau ac arian i alluogi ymosodiadau. Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i ddeall y dirwedd dechnolegol sy’n datblygu’n gyflym a chynnal yr ystwythder sydd ei angen i leihau’r risg o derfysgaeth wrth i’r byd newid.

48. Deallusrwydd Artiffisial (AI) yw un o’r technolegau dwfn sy’n tyfu gyflymaf yn y byd, gyda’r potensial i drawsnewid pob rhan o fywyd yn y DU ac ail-lunio’r ffordd y mae diwydiannau cyfan yn gweithredu. [footnote 42] [footnote 43] Mae gan AI oblygiadau ar gyfer ein hymagwedd at wrthderfysgaeth a’r bygythiadau a wynebwn, gyda’r potensial i weithgarwch terfysgol ddod yn fwy soffistigedig gyda llai o ymdrech. Er y gallai gyflymu’r broses o ganfod bygythiadau yn sylweddol, mae terfysgwyr yn debygol o ecsbloetio’r dechnoleg i greu ac ehangu cynnwys, propaganda a deunyddiau cyfarwyddol sy’n radicaleiddio, ac i gynllunio a chyflawni ymosodiadau.

49. Mae’r cynnydd cyflym mewn cynnwys terfysgol ar wasanaethau ar-lein lluosog yn parhau i chwarae rhan arwyddocaol wrth amlygu unigolion i fannau ar-lein a chymunedau gan ogoneddu ac annog gweithredoedd treisgar. Mae fideos llif byw o ymosodiadau, a wylir mewn amser real gyda chopïau’n amlhau ar draws gwasanaethau ar-lein, yn arbennig o gryf a niweidiol.

50. Mae’r defnydd cynyddol o amgryptio o’r dechrau i’r diwedd ac argaeledd offer dienw yn ehangu’r amgylchedd lle gall terfysgwyr gyfathrebu heb y risg o gael eu canfod neu eu hadnabod. Wrth i genhedloedd eraill geisio rheoli llif a storio data yn rhyngwladol, ac wrth i gwmnïau ddatblygu eu polisïau data eu hunain, efallai y bydd yn dod yn anoddach cyrchu’r data sydd eu hangen arnom i amddiffyn y cyhoedd.

51. Gall terfysgwyr arfogi datblygiadau technolegol fel modd o gyflawni ymosodiadau. Mae datblygiad cyflym technolegau yn galluogi gweithgarwch a allai fod wedi bod yn eiddo i arbenigwr neu weithiwr proffesiynol yn flaenorol, gan leihau rhwystrau i fethodolegau mwy soffistigedig. Yn yr un modd, gellir manteisio ar dechnolegau ariannu megis arian cyfred digidol hefyd i ariannu gweithgarwch ac ymosodiadau terfysgol.

Rhan Dau: Ymateb

Fframwaith CONTEST

52. Nod CONTEST yw lleihau’r risg o derfysgaeth i’r DU, ei dinasyddion a’i buddiannau dramor, fel y gall pobl fyw eu bywydau yn rhydd ac yn hyderus. Rhaid cydbwyso ein hymdrechion i reoli’r risg hon â’r rhyddid sy’n gynhenid i gymdeithas ddemocrataidd a’r angen i ymateb i ystod gynyddol o fygythiadau i ddiogelwch gwladol y DU. Yn y cyd-destun hwnnw ni all CONTEST leihau’r risg hon i sero, ac rydym yn cydnabod na allwn atal pob ymosodiad terfysgol.

53. Mae fframwaith craidd CONTEST, sydd wedi’i gydnabod ers tro byd fel un sy’n arwain y byd, heb ei newid ers fersiynau cynharach o’r strategaeth hon. Mae ein Gwaith i Atal pobl rhag dod yn derfysgwyr neu gefnogi terfysgaeth a Dilyn terfysgwyr i darfu ar eu cynllwynion wedi’i gynllunio i leihau’r bygythiad. Mae ein hymdrechion i Amddiffyn rhag ymosodiadau terfysgol yn lleihau ein bregusrwydd, ac mae ymdrechion i Baratoi i liniaru effaith unrhyw ymosodiad wedi’u cynllunio i leihau’r effaith.

54. Mae CONTEST yn parhau i fod yn ddull agnostig ideolegol. Ar hyn o bryd, terfysgaeth Islamaidd yw’r bygythiad terfysgol mwyaf a wynebir gan y DU o ran cyfaint a difrifoldeb, ond mae ein hoffer a’n pwerau yn Ystwyth ac yn hyblyg i ymateb i bob math o derfysgaeth.[footnote 44] Mae ein hymdrechion gwrthderfysgaeth hefyd wedi bod yn allweddol wrth ddatblygu dulliau a galluoedd sydd bellach yn cael eu cymhwyso’n ehangach yn yr ymateb i fygythiadau’r wladwriaeth a throseddau cyfundrefnol difrifol. Yn ei dro, caiff ein hymdrechion gwrthderfysgaeth eu cefnogi gan waith i ddatblygu gwytnwch cenedlaethol, ymateb brys a galluoedd eraill.

55. Mae’r bennod hon yn nodi sut y byddwn yn parhau i ddarparu ac addasu ein hymateb ar draws pob un o bedwar llinyn gwaith CONTEST a lle byddwn yn gwneud gwelliannau trawsbynciol sylweddol, gan drawsnewid ein hymateb gwrthderfysgaeth i ateb her bygythiad terfysgol sy’n parhau ac yn esblygu. Mae’r camau hyn yn hanfodol i sicrhau bod ein hymateb gwrthderfysgaeth yn parhau’n ystwyth, yn integredig ac yn gyson, gan wneud y mwyaf o fanteision partneriaeth rhwng adrannau polisi, asiantaethau gweithredol a chynghreiriaid rhyngwladol yn wyneb cyd-destun diogelwch cenedlaethol cynyddol heriol.

56. Rhaid i ymateb gwrthderfysgaeth y DU fod yn gymesur â’r bygythiad a’r cyd-destun diogelwch cenedlaethol ehangach. Ochr yn ochr â’n cynghreiriaid, rhaid I ni flaenoriaethu adnoddau cyfyngedig yn ddidrugaredd. Bydd angen i ni barhau i gydbwyso ein dyletswydd i amddiffyn y DU a’i buddiannau rhag terfysgaeth yn erbyn yr angen i ymateb i sbectrwm cynyddol o fygythiadau diogelwch cenedlaethol, gan gynnwys goresgyniad Rwsia o Wcráin.

System ddysgu

57. Mae CONTEST yn fframwaith hyblyg y gellir ei addasu, ac mae dysgu o ddigwyddiadau, ymarferion a chraffu allanol wrth wraidd ein gwaith. Er bod y fframwaith CONTEST craidd wedi parhau i fod yn effeithiol a heb ei newid ers 2003, rydym yn addasu ac yn gwella ein darpariaeth yn barhaus mewn ymateb i ddigwyddiadau, cwestau, ymchwiliadau ac adolygiadau. Mae rhestr fanwl o ddatblygiadau nodedig ers yr iteriad diwethaf o CONTEST yn 2018 ar gael yn atodiad B. Mae enghreifftiau allweddol yn cynnwys:

58. Cynhaliodd yr Adolygydd Annibynnol o Prevent, William Shawcross, adolygiad o Prevent a gyhoeddwyd ochr yn ochr ag ymateb y llywodraeth ym mis Chwefror 2023. Mae llawer o waith wedi’i wneud eisoes i gryfhau Prevent. Mae hyn yn cynnwys gwella’r broses atgyfeirio, proffesiynoli rheoli achosion a dysgu o ddigwyddiadau terfysgol lle gallai ymosodwr fod wedi cael ei atgyfeirio i Prevent yn flaenorol. Fodd bynnag, mae llawer i’w wneud o hyd, a rhaid i ni ymdrechu i wella Prevent yn barhaus. Rydym yn croesawu adolygiad William Shawcross ac rydym yn gweithio’n gyflym i roi ei holl argymhellion ar waith, gan gynnwys ailffocysu Prevent ar fynd i’r afael ag achosion ideolegol terfysgaeth.

59. Mae Ymchwiliad Arena Manceinion yn ein hatgoffa’n llwyr o’r effaith ddinistriol y gall terfysgaeth ei chael, pwysigrwydd ein gwaith i’w gwrthsefyll, a’r angen i barhau i weithio i wella ein hymagwedd at derfysgaeth yn gyffredinol. Mae’r llywodraeth eisoes wedi cymryd camau i roi’r hyn a ddysgwyd o’r ymosodiad ar waith, er mwyn sicrhau ein bod yn dysgu o fwy na 150 o argymhellion a wnaed gan Syr John Saunders ym mhob un o’r tair cyfrol ac yn gweithredu arnynt. Mae newidiadau penodol eisoes ar y gweill, megis Deddf Martyn, a fydd yn cadw pobl yn ddiogel trwy gyflwyno gofynion diogelwch newydd cymesur ar gyfer rhai lleoliadau cyhoeddus er mwyn sicrhau eu bod yn barod ar gyfer ymosodiadau terfysgol ac yn cael eu hamddiffyn rhagddynt. Rydym wedi gwella cydweithio rhwng y gwasanaethau brys wrth ymateb i ymosodiadau terfysgol, a bydd goruchwyliaeth y llywodraeth yn sicrhau ffocws o’r newydd i wreiddio Cyd-Egwyddorion Rhyngweithredu’r Gwasanaethau Brys (JESIP) ymhellach, i sicrhau eu bod yn sail i ymateb y gwasanaethau brys ar y cyd i bob digwyddiad, gan gynnwys terfysgaeth.

60. Thema sy’n codi dro ar ôl tro o gwestau, ymchwiliadau ac adolygiadau, yn fwyaf nodedig yr Adolygiad o Welliant Gweithredol yn 2017 a sicrhäwyd yn annibynnol gan yr Arglwydd Anderson CB, yw’r gofyniad i gryfhau ein gallu i weithio’n weithredol ar draws ffiniau adrannol. Yn rhan allweddol o’r trawsnewid hwn, mae CTOC yn gyfle cenedliadol i symud cydweithredu gweithredol rhwng plismona, asiantaethau cuddwybodaeth a phartneriaid eraill i’r lefel nesaf. Byddwn yn dod â’r timau, data a thechnoleg gywir ynghyd i alluogi ymateb mwy ystwyth a hyblyg i’r bygythiad.

61. Yn dilyn ymosodiad Fishmongers’ Hall yn 2019, fe wnaethom fuddsoddi’n helaeth i godi lefel ein galluoedd gwrthderfysgaeth a lleihau’r risg i ddiogelwch cenedlaethol a berir gan y rhai sydd dan oruchwyliaeth Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi (HMPPS). Mewn ymateb i’r gwersi a ddysgwyd o’r ymosodiad fe wnaethom gryfhau’r gyfraith, gan gynnwys rhoi terfyn ar ryddhau troseddwyr terfysgol yn gynnar yn awtomatig a chyflwyno isafswm cyfnod carchar o 14 mlynedd ar gyfer y troseddau mwyaf difrifol. Fe wnaethom hefyd gryfhau rheolaethau ac ymyriadau ar gyfer troseddwyr terfysgol, a rhannu gwybodaeth yn well gyda phartneriaid.

Rôl y cyhoedd

62. Mae’r cyhoedd yn bartner allweddol yn y gwaith o gyflwyno CONTEST yn llwyddiannus, ac yn chwarae rhan hanfodol wrth atal ymosodiadau, a lleihau colli bywyd os bydd ymosodiad. Mae’r cyhoedd yn gwneud oddeutu 120,000 o adroddiadau’r flwyddyn mewn ymateb i’n hymgyrch sefydledig ‘See It, Say It, Sorted’ ar reilffyrdd Prydain, ac yn 2022/23, derbyniodd Plismona Gwrthderfysgaeth dros 13,000 o adroddiadau gan y cyhoedd, a darparwyd bron i 2000 ohonynt gudd-wybodaeth ddefnyddiol i’r heddlu.

63. Wrth i’r her o ganfod ac amharu ar derfysgwyr posibl gynyddu, mae rôl y cyhoedd wedi dod yn fwyfwy pwysig. Mae’r cyhoedd yn chwarae rhan hanfodol wrth gadw eu hunain ac eraill yn ddiogel, boed hynny yn:

  • ceisio Atal unigolion rhag dod yn derfysgwyr trwy adrodd am bryderon ynghylch radicaleiddio
  • cefnogi gorfodi’r gyfraith i Ddilyn gweithgarwch terfysgol posibl drwy ffonio’r llinell gymorth gwrthderfysgaeth
  • helpu i Amddiffyn eraill trwy dynnu sylw at eitemau neu ymddygiad amheus
  • dilyn cyngor Paratoi ar natur bygythiadau terfysgol dramor a gyfathrebir trwy gyngor teithio’r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO) yn ogystal â chyngor ar sut i ymateb yn ddiogel os bydd digwyddiad terfysgol yn y DU neu dramor

64. Yn ei dro, cyfrifoldeb y llywodraeth yw sicrhau bod gan y cyhoedd y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i gyflawni’r rôl hon.

Rôl y sector preifat

65. Mae terfysgaeth yn fygythiad mawr i fusnesau. Rydym yn cydweithio â’r sector preifat, gan eu cefnogi i ddiogelu’r cyhoedd rhag terfysgaeth, drwy helpu sefydliadau i ddeall y bygythiadau y maent yn eu hwynebu a’r hyn y gallant ei wneud i leihau eu risg trwy sut maent yn gweithredu o ddydd i ddydd. Rydym hefyd yn partneru â’r sector preifat drwy ymgynghori, ariannu ymchwil a chefnogi cydweithredu traws-sector i ddatblygu atebion arloesol i helpu i gadw’r cyhoedd yn ddiogel. Mae enghreifftiau’n cynnwys:

  • yr Awdurdod Diogelwch Amddiffynnol Cenedlaethol (NPSA), rhan o MI5, sy’n gweithio gyda phartneriaid yn y sector preifat a’r byd academaidd i nodi risgiau a gwendidau i seilwaith cenedlaethol y DU ac yn cynnig ffyrdd o’u hadnabod a’u lliniaru, drwy ymgyrchoedd, hyfforddiant a chanllawiau
  • Canllawiau Arloesi Diogel, menter ar y cyd â’r NPSA a’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol sy’n rhoi cyngor diogelwch i fusnesau ar dechnolegau newydd.
  • ProtectUK, cydweithrediad rhwng y Swyddfa Gartref, Plismona a Pool Re sy’n rhoi arweiniad a chymorth i fusnesau a’r cyhoedd ehangach ar liniaru’r bygythiad gan derfysgaeth.[footnote 45]
  • rhaglen Arloesi Diogelwch Trafnidiaeth yr Adran Drafnidiaeth, sy’n adeiladu ar raglen flaenorol Future Aviation Security Solutions (FASS, sy’n gweithio’n agos ag asiantaethau eraill y llywodraeth ac amrywiaeth o randdeiliaid y diwydiant, i wella diogelwch ar draws trafnidiaeth trwy ddatblygu gwyddoniaeth a thechnoleg arloesol.[footnote 46]

66. Bydd gweithio gyda diwydiant yn y DU a thramor yn parhau i fod yn hollbwysig o ran diogelu lleoliadau cyhoeddus, seilwaith a gofodau ar-lein, ysgogi arloesi mewn diogelwch amddiffynnol, gwydnwch a thechnoleg, a chadw i fyny â’r bygythiad terfysgol wrth iddo barhau i symud ac esblyg.

Rôl partneriaethau rhyngwladol

67. Mae bygythiad terfysgaeth yn her fyd-eang ac mae cydweithredu rhyngwladol yn hanfodol. Ni all unrhyw un wlad sy’n gweithredu ar ei phen ei hun leihau’r risg o derfysgaeth yn sylweddol. Mae gweithio gyda’n partneriaid rhyngwladol felly yn elfen hanfodol o CONTEST.

68. Mae ein cydberthnasau byd-eang yn darparu sylfaen ar gyfer mynd i’r afael ar y cyd â bygythiad terfysgaeth ryngwladol. Trwy rannu arferion gorau a chudd-wybodaeth, gallwn ddeall lle gallwn ddarparu’r effaith fwyaf yn erbyn y bygythiadau mwyaf difrifol. Byddwn yn parhau i weithio’n arbennig o agos gyda’r UD, aelodau eraill o Five Eyes (Awstralia, Canada, Seland Newydd) a’n partneriaid Ewropeaidd.[footnote 47]

69. Arweinir ein gwaith dramor gan Rwydwaith Gwrthderfysgaeth ac Eithafiaeth (CTeN) yr FCDO. Maent yn arwain ymgysylltu â phartneriaid rhyngwladol i fynd i’r afael â’r bygythiad terfysgol ar y cyd.

70. Rydym hefyd wedi datblygu partneriaethau cryf gyda chynghreiriaid yn y rhanbarthau lle mae’r risg fwyaf i wladolion y DU. Rydym yn defnyddio ein harbenigedd gwrthderfysgaeth wrth weithio gyda llywodraethau partner i ddeall a helpu i gryfhau galluoedd a chapasiti gwrthderfysgaeth allweddol. Cefnogir ein gwaith gan Bortffolio Gwrthderfysgaeth (CTPf) y Gronfa Gwrthdaro, Sefydlogrwydd a Diogelwch (CSSF) yn ogystal â rhaglenni gwlad ehangach y CSSF.[footnote 48]

71. Yn ogystal â phartneriaethau dwyochrog, byddwn yn parhau i flaenoriaethu gwaith trwy fforymau amlochrog – y Cenhedloedd Unedig yn bennaf – i atgyfnerthu ac ehangu ein gwaith a rhannu arferion gorau. Yn hyn o beth, mae’r DU yn parhau i fod yn arweinydd byd-eang, sy’n gallu tynnu ar ein cyrhaeddiad diplomyddol byd-eang, a’n galluoedd milwrol, cuddwybodaeth a datblygu. Dangosir hyn gan y Glymblaid Fyd-eang yn erbyn Daesh, sy’n dod ag 85 o bartneriaid ynghyd. Mae’r DU wedi arwain y Gell Gyfathrebu Gwrth-Daesh ers 2015 ac mae’n cynnal ymgyrchoedd cyfathrebu yn Syria, Irac ac yn awr yn Affrica ac Affganistan.

72. Mae lluoedd arfog y DU yn helpu i atal ymddangosiad grwpiau terfysgol newydd dramor drwy weithio gyda phartneriaid i hybu diogelwch rhanbarthol a chynorthwyo ymdrechion i sefydlogi. Trwy’r ffocws ehangach hwn ar gynorthwyo cynghreiriaid i frwydro yn erbyn sefydliadau eithafiaeth dreisgar, mae’r DU yn helpu i wrthsefyll y gwactodau diogelwch rhanbarthol y mae terfysgaeth yn ffynnu ynddynt.

Prevent

73. Nod Prevent yw atal pobl rhag dod yn derfysgwyr neu gefnogi terfysgaeth. Mae ein gwaith Prevent hefyd yn ymestyn i gefnogi adsefydlu ac ymddieithrio’r rhai sydd eisoes yn ymwneud â therfysgaeth.

74. Amcanion Prevent yw:

a) mynd i’r afael ag achosion ideolegol terfysgaeth

b) ymyrryd yn gynnar i gefnogi pobl sy’n agored i radicaleiddio

c) galluogi pobl sydd eisoes wedi cymryd rhan mewn terfysgaeth i ymddieithrio ac adsefydlu

75. Yn y DU, mae darparu cymorth ymyrraeth gynnar i bobl sy’n agored i radicaleiddio yn dechrau gydag atgyfeiriadau i Prevent. Gall unrhyw un wneud atgyfeiriad Prevent o dan y Ddyletswydd Prevent rhaid i sefydliadau gan gynnwys ysgolion, colegau, prifysgolion, awdurdodau iechyd, awdurdodau lleol, yr heddlu, a charchardai ystyried y risg o radicaleiddio fel rhan o’u gwaith diogelu o ddydd i ddydd. [footnote 49], Mae hyn yn cynnwys atgyfeirio unigolion sy’n agored i gael eu radicaleiddio i Prevent am gymorth.

76. Pan fydd yr heddlu’n asesu risg radicaleiddio yn dilyn atgyfeiriad Prevent, bydd panel Sianel dan gadeiryddiaeth yr awdurdod lleol, ac a fynychir gan bartneriaid amlasiantaeth fel yr heddlu, gweithwyr addysg proffesiynol, gwasanaethau iechyd, tai a gwasanaethau cymdeithasol yn cyfarfod i asesu’r risg a chytuno ar becyn cymorth wedi’i deilwra. [footnote 50] Mae Sianel yn broses wirfoddol, a rhaid i unigolion roi eu caniatâd cyn iddynt dderbyn cymorth. Lle na ellir rheoli risgiau yn Sianel, byddant yn cael eu hadolygu’n barhaus gan yr heddlu.

77. Ers cyflwyno’r Ddyletswydd Prevent yn 2015, mae dros 3,800 o atgyfeiriadau wedi arwain at unigolion yn cael cymorth i symud i ffwrdd o ideolegau radicalaidd. Yn y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2022, roedd 6,406 o atgyfeiriadau i Prevent[footnote 51]. Mabwysiadwyd 13% o atgyfeiriadau i Prevent fel achos Sianel (804 o 6,406). O’r achosion Sianel a gaewyd yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2022, ymadawodd 89% o unigolion heb unrhyw bryderon radicaleiddio pellach. Byddwn yn parhau i gyhoeddi ystadegau Sianel blynyddol, a byddwn yn archwilio ffyrdd pellach o sicrhau’r tryloywder mwyaf posibl yn ein data cyhoeddedig.

78. Mae’r Rhaglen Ymatal ac Ymddieithrio yn darparu ymyriadau wedi’u teilwra sy’n cefnogi unigolion i roi’r gorau i gymryd rhan mewn gweithgarwch sy’n ymwneud â therfysgaeth (ymatal) a symud i ffwrdd oddi wrth ideoleg a ffyrdd o feddwl terfysgol (ymddieithrio).[footnote 52] Mae darparwyr arbenigol yn darparu ymyriadau mewn carchardai ac yn y gymuned gan gynnwys mentora diwinyddol, ideolegol ac ymarferol, i leihau’r risg o droseddu.

79. Mae ein hymdrechion i atal radicaleiddio yn cynnwys gwaith ar draws y byd academaidd, cymdeithas sifil, llywodraeth a diwydiant. Er enghraifft, rydym yn cymryd rhan mewn fforymau aml-randdeiliaid megis Galwad i Weithredu Christchurch a’r Fforwm Rhyngrwyd Byd-eang i Wrthwynebu Terfysgaeth (GIFCT)[footnote 53], ac yn partneru â sefydliadau fel Tech Against Terrorism i leihau argaeledd cynnwys terfysgol a lleihau dylanwad radicaleiddwyr ar gynulleidfaoedd sy’n agored i niwed.[footnote 54]

Trawsnewid Prevent

80. Rydym yn trawsnewid ein hymagwedd at Prevent drwy roi argymhellion yr Adolygiad Annibynnol o Prevent ar waith yn gyflym:

  • Byddwn yn sicrhau bod Prevent yn mynd yn ôl at yr egwyddorion cyntaf a bydd yn ailddatgan ei amcan cyffredinol o atal pobl rhag dod yn derfysgwyr neu gefnogi terfysgaeth. Yn unol â’r ail-raddnodi hwn, bydd y Ddyletswydd Prevent yn cael ei hailddiffinio, bydd y canllawiau statudol yn cael eu diweddaru a’r fframwaith bregusrwydd Prevent yn cael ei dynhau.
  • Byddwn yn sicrhau bod pob agwedd ar Prevent yn cael ei chyflwyno i drothwy cyson sy’n gymesur â’r bygythiad. Bydd hyn yn cynnwys ymchwil, nodi, asesu, blaenoriaethu a gwneud penderfyniadau, a bydd yn cael ei gymhwyso ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol.
  • Byddwn yn sicrhau bod y system Prevent yn datblygu arbenigedd ac yn meithrin lefelau gwell o ddealltwriaeth o ideoleg a radicaleiddio trwy wella hyfforddiant a darparu arweiniad a gwybodaeth gliriach i ymarferwyr rheng flaen. Bydd hyn yn sicrhau bod y rhai sy’n cyflawni Prevent yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen i adnabod arwyddion radicaleiddio a’r ideolegau sy’n ei ysgogi.
  • Byddwn yn trawsnewid model cyflawni Prevent drwy fuddsoddi’n helaeth yn ein hôl troed rhanbarthol i sicrhau bod pob awdurdod lleol yn cael cyngor a chymorth arbenigol i gyflawni dyletswydd Prevent yn effeithiol.
  • Byddwn yn annog ymddiriedaeth y cyhoedd drwy wella tryloywder a sefydlu gwell goruchwyliaeth ar y ffordd y caiff Prevent ei roi ar waith. Mae hyn yn cynnwys cyhoeddi canfyddiadau gwerthusiadau annibynnol, creu uned safonau a chydymffurfio newydd, a chryfhau arolygiaeth weinidogol.

81. Byddwn yn gwella ymhellach ein hymagwedd at fynd i’r afael â therfysgaeth mewn carchardai a’r gwasanaeth prawf drwy gymryd ymagwedd fwy cadarn at wahanu’r radicaleiddwyr mwyaf dylanwadol oddi wrth y boblogaeth ehangach mewn carchardai, gan ailwampio ein harlwy o hyfforddiant gwrthderfysgaeth i staff HMPPS, a gwella ymchwil, datblygiad a darpariaeth o ymyriadau adsefydlu drwy ein Canolfan Asesu ac Adsefydlu Gwrthderfysgaeth[footnote 55]. Bydd Plismona Gwrthderfysgaeth, HMPPS ac MI5 yn parhau i ddatblygu eu hymateb gweithredol integredig i ddatganiadau, gan ddarparu asesiad system gyfan a goruchwyliaeth i reoli datganiadau a chanolbwyntio ar y rhai â’r risg uchaf.

82. Byddwn yn cael cydsyniad brenhinol ar gyfer y Bil Diogelwch Ar-lein ac yn sefydlu Ofcom fel y rheolydd diogelwch ar-lein annibynnol gyda phwerau gorfodi cadarn ar gynnwys anghyfreithlon a diogelwch plant. O dan ddyletswyddau gofal cyfreithiol newydd, bydd angen i gwmnïau technoleg atal, nodi a dileu cynnwys a gweithgarwch anghyfreithlon ar-lein.

83. Dramor byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’n cynghreiriaid i rannu arferion gorau ar ein hymagwedd at atal, cefnogi a gwella darpariaeth Prevent yn y DU. Byddwn hefyd yn parhau i gynnal gweithgarwch ataliol wedi’i dargedu mewn gwledydd blaenoriaeth dramor, gan gynnwys meithrin gallu, i gefnogi partneriaid i ddatblygu dulliau ataliol o fynd i’r afael â therfysgaeth a lleihau effeithiolrwydd dylanwadau radicaleiddio o dramor ar gymunedau yn y DU.

84. Y tu hwnt i CONTEST bydd ein hymdrechion yn cydblethu ag ymdrech ehangach y llywodraeth i wrthsefyll naratifau ac ymddygiadau radicalaidd ehangach a hybu cydlyniant cymdeithasol a gwytnwch. Bydd integreiddio, cydlyniant cymdeithasol a mentrau gwrth-eithafiaeth​ a arweinir gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn ceisio cadw ein gwerthoedd Prydeinig, cryfhau ein cydlyniant cymdeithasol a mynd i’r afael ag eithafiaeth. Yn ogystal, mae’r Agenda Ffyniant Bro yn cefnogi cymunedau ledled y DU i ffynnu, gan eu gwneud yn lleoedd gwych i fyw a gweithio ynddynt.

Dilyn

85. Nod Dilyn yw atal ymosodiadau terfysgol rhag digwydd yn y wlad hon neu yn erbyn buddiannau’r DU dramor.

86. Amcanion Dilyn yw:

  • canfod a deall gweithgarwch terfysgol
  • ymchwilio i weithgarwch terfysgol
  • amharu ar weithgarwch terfysgol

87. Mae ein gwaith Dilyn yn cael ei gyflawni ar draws adrannau ac asiantaethau’r llywodraeth, yn ddomestig a thramor, gan gydweithio’n agos i darfu ar weithgarwch terfysgol. Galluogir y gwaith hwn gan gyfundrefn oruchwylio gref, annibynnol sy’n craffu ar y pwerau, yr offer a’r galluoedd sylweddol sydd ar gael ac sy’n sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio’n gymesur ac yn briodol i atal ymosodiadau terfysgol.

88. Yn y DU, mae Plismona Gwrthderfysgaeth, MI5 a’r gymuned gudd-wybodaeth ehangach yn gweithio’n agos ac yn gydweithredol gan ddefnyddio ystod o alluoedd i ymchwilio, canfod ac amharu ar weithgarwch terfysgol gan weithio ochr yn ochr â’r system cyfiawnder troseddol a rhannau hanfodol eraill o’r system Dilyn megis swyddogaethau lleol a datganoledig.

89. Mae Plismona Gwrthderfysgaeth wedi cael oddeutu 800 o ymchwiliadau parhaus ar unrhyw un adeg yn 2023. Mae’r rhain yn gynyddol gymhleth wrth i’r bygythiad barhau i arallgyfeirio. Roedd 169 o arestiadau am weithgarwch cysylltiedig â therfysgaeth yn y flwyddyn 1af Ionawr i 31ain Rhagfyr 2022. Yn yr un cyfnod, roedd 232 o bobl yn y ddalfa am droseddau’n ymwneud â therfysgaeth ym Mhrydain Fawr[footnote 56]. Rydym yn parhau i weld amhariadau cyson ar weithgarwch terfysgol, mae MI5 a’r heddlu wedi amharu ar 39 o gynllwyniau ymosod cam hwyr o 2017fis Gorffennaf 2023. Rydym wedi cymryd camau cryf yn erbyn grwpiau terfysgol, gan gyfyngu ar eu mynediad at gyllid, tarfu ar eu gweithgarwch, a’u gwahardd o’r DU, gyda chwe grŵp wedi’u gwahardd ers 2018 gan gynnwys grwpiau terfysgol asgell dde eithafol megis Feuerkrieg Division, Atomwaffen Division a The Base.

90. Mae defnyddio grwpiau terfysgol a sefydliadau troseddol fel dirprwyon yn dal i fod yn dacteg ddeniadol i wladwriaethau gelyniaethus, gan gynnig rhywfaint o wadadwyedd. Mae dirprwyon, gan gynnwys grwpiau terfysgol, yn debygol o barhau i gael eu defnyddio gan wladwriaethau, gan gynnwys Iran, sydd eisiau ardddangos pŵer mewn byd sy’n gynyddol ymryson, gan fygythiad i unigolion, ein buddiannau a’n cynghreiriaid.[footnote 57],

91. Mae ein gwaith dramor yn hanfodol i’r ymdrech hon. Mae cynllwynion i ymosod yn y DU wedi cael eu cyfarwyddo neu eu cefnogi gan derfysgwyr sydd wedi’u lleoli dramor, neu mae unigolion o’r DU wedi cael eu radicaleiddio tra’u bod nhw dramor. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid rhyngwladol i amharu ar y bygythiad cyn iddo ddod i’r amlwg yn y DU, neu cyn i wladolion y DU gael eu targedu mewn trydydd gwledydd (e.e., twristiaid).

92. Rydym yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid, yn arbennig partneriaid Five Eyes (yr Unol Daleithiau, Awstralia, Canada, Seland Newydd), i gyflawni a galluogi ymchwiliadau gwrthderfysgaeth sy’n tarfu ar gynllwyniau sy’n bygwth y DU neu ein dinasyddion a’n buddiannau dramor. Mae tarfu ac erlyn terfysgwyr yn llwyddiannus yn dibynnu ar gydweithio rhyngwladol effeithiol, wedi’i ategu gan reol gyfreithiol a hawliau dynol. Mae ymgysylltu gwleidyddol a diplomyddol parhaus yn aml yn allweddol.

93. Mae ein gwaith dramor yn cynnwys rhannu gwybodaeth gyda’n partneriaid a chyfnewid arferion ymchwilio gorau i wrthsefyll y bygythiad, gyda rhagofalon mewn mannau i leihau’r risg bod gwybodaeth a dderbyniwyd wedi deillio o Driniaeth Greulon, Annynol neu Ddiraddiol, neu y bydd yn arwain ati. Ategwn hyn drwy feithrin gallu wedi’i dargedu’n ofalus mewn gwledydd lle mae’r risg i’r DU, ein dinasyddion a’n buddiannau dramor ar ei huchaf, er enghraifft gweithio gyda systemau barnwrol y gwledydd priodol i sicrhau bod terfysgwyr yn wynebu grym llawn y gyfraith.

94. Mae’r fyddin yn chwarae rhan hanfodol yn rhyngwladol, gan ddarparu hyfforddiant gwrthderfysgaeth a chymorth i heddluoedd partner dramor i gynyddu eu gallu i fynd ar drywydd y bygythiad terfysgol yn eu tiriogaethau eu hunain a chyfrannu galluoedd milwrol i amharu ar weithgarwch grwpiau terfysgol. Mae’r fyddin hefyd yn cyfrannu ystod o alluoedd unigryw i’r genhadaeth Dilyn. Lle mae bygythiad terfysgol ar fin digwydd i’r DU o dramor, a lle mae pob opsiwn arall wedi’i ddisbyddu, rydym yn barod i ddefnyddio grym marwol i atal gwladolion y DU rhag cael niwed. Byddai hyn bob amser yn cael ei wneud yn unol â chyfraith ryngwladol, a byddem yn adrodd i’r Senedd ar ôl I ni wneud hynny.

95. Ac rydym yn parhau i fuddsoddi mewn labordai fforensig o safon fyd-eang, sy’n rhoi’r galluoedd angenrheidiol i’r heddlu ddadansoddi tystiolaeth sy’n gysylltiedig â digwyddiad cemegol, biolegol, radiolegol, niwclear neu ffrwydrol.

Dyfodol ymchwiliadau ac aflonyddwch gwrthderfysgaeth

96. Byddwn yn gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd a grëir gan CTOC wrth iddo ddod yn gwbl weithredol[footnote 58].Mae hwn yn gyfle cenedliadol i wella’n sylweddol y cydweithio gweithredol rhwng ymchwilwyr a phartneriaid megis y Swyddfa Gartref, HMPPS a’r Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD). Byddwn yn dod â’r timau, y data a’r dechnoleg gywir ynghyd i gyflawni ymgyrchoedd gwrthderfysgaeth yn y DU a thramor, a galluogi ymateb mwy ystwyth a hyblyg i’r bygythiad terfysgol nag erioed o’r blaen.

97. Fel rhan o ymdrechion ehangach i alinio ein hymagwedd gwrthderfysgaeth strategol â cynghreiriaid allweddol byddwn yn dyfnhau ein gwaith agos gyda phartneriaid rhyngwladol i ganfod, ymchwilio ac amharu ar y bygythiadau terfysgol mwyaf difrifol. [footnote 59] Mae ein hymagwedd fwy ystwyth yn cynyddu dealltwriaeth o alluoedd a safonau hawliau dynol gwledydd, ac yn datblygu gweithgarwch meithrin gallu mwy wedi’i dargedu sy’n cefnogi rhannu gwybodaeth o fewn ein fframweithiau hawliau dynol presennol. Byddwn yn defnyddio’r ystod lawn o offer ac ymyriadau, gan addasu ein hymagwedd at yr amgylchedd cyfnewidiol a bygythiad cynyddol dameidiog. Rydym yn lleoli ein gwaith Dilyn yn gynyddol yn y gofod gwleidyddol a datblygu ehangach, gan leihau gallu terfysgwyr i ecsbloetio amodau lleol gan gynnwys rheoli tiriogaeth a dylanwad lleol.

98. Byddwn yn sicrhau bod ein Rhwydwaith Gwrthderfysgaeth ac Eithafiaeth dramor yn parhau i fod yn ystwyth, ac yn gweithredu i fyny’r afon. Gall y bygythiad terfysgol ddatblygu a thyfu’n gyflym, gan gynnwys mewn mannau lle nad ydym wedi cael perthnasoedd gwrthderfysgaeth o’r blaen. Bydd partneriaethau cryf yn parhau i fod wrth wraidd ein gwaith rhyngwladol i wrthsefyll terfysgaeth. Rydym yn meithrin perthnasoedd â systemau gwrthderfysgaeth mwy o wledydd sy’n rhoi’r cysylltiadau sydd eu hangen arnom wrth i’r darlun risg byd-eang newid. Byddwn yn parhau i sicrhau bod y rhwydwaith yn datblygu I ddiwallu’r bygythiad presennol ac yn y dyfodol, gan addasu lleoliadau wrth i fygythiadau newid, a datblygu ein pecyn cymorth tramor mewn partneriaeth â chynghreiriaid allweddol a’r system amlochrog. Bydd y rhwydwaith tramor yn gweithredu fel gwifren faglu pe byddai bygythiad yn datblygu, a sylfaen y gallwn adeiladu arni’n gyflym os bydd angen.

99. Byddwn yn buddsoddi mewn galluoedd data, dadansoddi a thechnoleg, gan adeiladu ar bartneriaethau newydd a’u creu i gyflymu’r broses o’u gwella er mwyn sicrhau y caiff bygythiadau terfysgaeth i’r DU a’n buddiannau dramor eu canfod yn gynnar[footnote 60]. Bydd hyn yn ein galluogi i flaenoriaethu ein hadnoddau’n drylwyr yn erbyn y bygythiadau mwyaf arwyddocaol i’r DU ac yn sicrhau ein bod yn effro i fygythiadau sy’n dod i’r amlwg wrth iddynt ddatblygu. Fel rhan o hyn, byddwn yn gwella’r ffordd y caiff data ei gasglu a’i ddadansoddi trwy ffurfio partneriaethau blaengar a gwerthfawrogi mewnbwn arbenigwyr eraill megis gwyddonwyr data a pheirianwyr.

100. Byddwn yn parhau i weithio gyda’n gilydd i nodi dangosyddion bygythiad terfysgol a ble a sut y maent yn debygol o gael eu gweld - gan adlewyrchu’r her gynyddol o nodi terfysgwyr posibl. Byddwn yn defnyddio’r ddealltwriaeth hon i ysgogi gwelliannau i waith canfod bygythiadau a fydd yn rhoi gwell dirnadaeth a dealltwriaeth.

101. Byddwn yn canolbwyntio ar y cysylltiad rhwng bygythiadau terfysgaeth a gwladwriaethau, gan ddefnyddio ein pwerau gwrthderfysgaeth, ein galluoedd a’n harbenigedd, lle bo’n briodol, i amddiffyn y DU rhag bygythiadau gwladwriaethol a bygythiadau diogelwch cenedlaethol eraill sy’n dod i’r amlwg. Mae’r bygythiadau diogelwch cenedlaethol modern y mae’r DU yn eu hwynebu yn fwy cymhleth ac amrywiol nag erioed o’r blaen. Ochr yn ochr â’n pecyn cymorth gwrthderfysgaeth, bydd y pwerau yn y Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol 2023 yn helpu i gadw’r DU yn ddiogel drwy ei gwneud yn anoddach fyth i’r gwladwriaethau hynny sy’n ceisio cyflawni gweithredoedd gelyniaethus yn erbyn y DU. Ond mae’r llinellau rhwng y bygythiadau a wynebwn – terfysgaeth, gweithgarwch gwladwriaethau gelyniaethus, troseddau difrifol a threfniadol – yn mynd yn fwyfwy aneglur a byddant yn aml yn gorgyffwrdd. Fel rhan o’n hymdrechion i ganfod, ymchwilio ac amharu ar fygythiadau diogelwch cenedlaethol a chwalu seilos yn y modd rydym yn mynd i’r afael â’r bygythiadau hyn, rydym yn barod i ddefnyddio’r holl offer – ac adnoddau – sydd ar gael i ni.

102. Byddwn yn parhau i sicrhau bod deddfwriaeth yn adlewyrchu natur y bygythiad terfysgol a chyd-destun diogelwch cenedlaethol ehangach. Ers 2018 mae ystod o bwerau gwrthderfysgaeth wedi’u cyflwyno neu eu diwygio i gadw i fyny â’r bygythiad, gan gynnwys Deddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch Ffiniau 2019, Deddf Troseddwyr Terfysgaeth 2020, Deddf Ffynonellau Cuddwybodaeth Ddynol (Ymddygiad Troseddol) 2021 , a Deddf Gwrthderfysgaeth a Dedfrydu 2021. Mae rhestr lawn o’r ddeddfwriaeth sy’n effeithio ar wrthderfysgaeth, a ddeddfwyd ers 2018, ar gael yn atodiad B. Fe wnaeth adroddiad statudol yr Ysgrifennydd Cartref ar weithrediad Deddf Pwerau Ymchwilio 2016 (IPA) a’r adolygiad annibynnol dilynol o’r Ddeddf ganfod, er bod y Ddeddf, mewn termau lefel uchel, wedi cyflawni ei nodau’n gyffredinol, mae achos dros newid deddfwriaethol brys i rannau cyfyngedig o’r Ddeddf. Bydd yr ail-raddnodi hwn yn cefnogi gorfodi’r gyfraith a’r asiantaethau cuddwybodaeth i aros ar y blaen ac ar draws bygythiadau diogelwch cenedlaethol, i fanteisio ar gyfleoedd cuddwybodaeth a manteisio ar dechnoleg sy’n datblygu, tra’n parhau i amddiffyn hawliau unigolion.

103. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda diwydiant, gan gynnwys y sector technoleg a darparwyr telathrebu, i sicrhau bod ein galluoedd ymchwiliol yn cyd-fynd â newidiadau mewn technoleg a bod yr heddlu ac asiantaethau cuddwybodaeth yn gallu cyrchu’r data sydd eu hangen arnynt i ganfod, ymchwilio ac amharu ar fygythiadau terfysgol. Lle bo angen a lle mae’n gymesur i gadw’r wlad yn ddiogel, byddwn yn parhau i hybu mynediad at ddata sy’n ymwneud â, a gwerth o, gyfathrebu digidol. Fel rhan o hyn byddwn yn:

  • adeiladu mantais weithredol, datblygu galluoedd sy’n cynnal gwasanaethau priodol, diogelu rhag diraddio gallu, a gwireddu potensial ffynonellau data sy’n ymwneud â chyfathrebu digidol yn y dyfodol

  • cydlynu mentrau data ar draws partneriaid gweithredol i wneud y mwyaf o werth y genhadaeth, gan roi buddiolwyr gweithredol wrth galon gweithgareddau datblygu

  • gweithio fel un ecosystem ddynamig, gan ddefnyddio ein cryfderau unigol a chyfunol i ddatblygu a defnyddio galluoedd blaengar newydd

Amddiffyn

104. Nod Amddiffyn yw cryfhau ein hamddiffyniad rhag ymosodiad terfysgol.

105. Amcanion Amddiffyn yw:

  • lleihau’r risg gorfforol i bobl wrth iddynt fynd o gwmpas eu bywydau
  • lleihau pa mor agored i niwed yw lleoliadau cyhoeddus, trafnidiaeth, a’n Seilwaith Cenedlaethol Hanfodol [footnote 61]
  • lleihau gallu terfysgwyr i gyrchu a defnyddio deunyddiau a thechnoleg sy’n peri pryder
  • nodi a rheoli unigolion a nwyddau sy’n peri pryder ynghylch terfysgwyr trwy’r system fudo a ffiniau

106. Darperir Amddiffyn drwy adrannau’r llywodraeth, gweinyddiaethau datganoledig, arbenigwyr gweithredol, asiantaethau cuddwybodaeth, y sector preifat, y cyhoedd, a chynghreiriaid rhyngwladol. Mae ein rhwydwaith helaeth o Gynghorwyr Diogelwch Gwrthderfysgaeth yr heddlu a’r NPSA yn darparu cyngor o ansawdd uchel i fusnesau a chymunedau, wedi’i seilio ar risg, deallusrwydd ac ymchwil wyddonol.[footnote 62]

107. Mae dulliau diogelwch amddiffynnol yn cael eu hadolygu’n barhaus i sicrhau eu bod yn ystyried yr ymchwil a’r wybodaeth ddiweddaraf ar dargedau terfysgol a methodolegau ymosod. Wrth i dechnoleg newid a chael ei mabwysiadu, mae’n hanfodol sicrhau bod cyfleoedd yn cael eu harneisio, yn ogystal â bod bygythiadau’r dyfodol yn cael eu nodi, eu deall a’u lliniaru. Er enghraifft, fe wnaeth ymchwil i’r defnydd o gerbydau fel arf lywio datblygiad y Cynllun Diogelwch Cerbydau Rhentu sy’n cynnwys rhaglen wirfoddol sy’n cefnogi cwmnïau rhentu cerbydau i amddiffyn eu cerbydau’n well rhag cael eu defnyddio at ddibenion terfysgol.

108. Mae ein Cynllun Ariannu Diogelwch Amddiffynnol Mannau Addoli a’n Grant Diogelwch Amddiffynnol Cymunedol Iddewig yn darparu mesurau diogelwch amddiffynnol mewn mannau addoli a chanolfannau cymunedol ffydd cysylltiedig sy’n arbennig o agored i droseddau casineb a ysgogir gan grefydd. Nod cynllun Hyfforddiant Diogelwch Ffydd newydd yw codi ymwybyddiaeth o ddiogelwch ymhlith cymunedau ffydd.

109. Rydym yn hyrwyddo gwelliant parhaus a gweithrediad llawn safonau diogelwch hedfan a morol rhyngwladol trwy gydweithredu â phartneriaid rhyngwladol a chyrff amlochrog a diwydiant. [footnote 63] Byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid mewn gwledydd blaenoriaeth yn rhyngwladol i asesu gwendidau a chyda diwydiant a phartneriaid i wella safonau diogelwch hedfan a morol. Rydym hefyd yn gweithio gyda’r diwydiant trafnidiaeth i sicrhau bod system diogelwch trafnidiaeth y DU ei hun yn parhau i fod yn gadarn. Mae hyn yn cynnwys gwaith i nodi a mynd i’r afael â’r bygythiad mewnol trwy wiriadau cefndir, fetio diogelwch a gwell trefniadau rhannu data rhwng y sector a gorfodi’r gyfraith.

110. Mae lleihau gallu terfysgwyr i gyrchu a defnyddio deunyddiau a thechnoleg sy’n peri pryder yn cynnwys mesurau i gyfyngu ar fynediad i ddeunyddiau y gellid eu defnyddio i adeiladu ffrwydron cartref. Mae ymchwil a datblygu, gan gynnwys partneriaethau hanfodol gyda manwerthwyr ar-lein a diweddariadau i ddeddfwriaeth yn hanfodol i leihau’r risg o ffrwydron. [footnote 64] Mae Adroddiadau Gweithgarwch Amheus yn nodi gweithgarwch sy’n peri pryder, ynghylch prynu cemegau rhagflaenol, ac maent wedi arwain at arestiadau ac erlyniadau.

111. Yn rhyngwladol, mae uned Amddiffyn a Pharatoi Tramor ar y Cyd rhwng yr FCDO a’r Swyddfa Gartref yn gweithio mewn partneriaeth â’r gwledydd priodol ac yn ariannu meithrin gallu i gynyddu safonau diogelwch amddiffynnol o amgylch lleoliadau twristiaeth. Gan weithio gyda phartneriaid yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, mae’r ffocws ar newid cynaliadwy hirdymor megis datblygu arbenigedd mewn cnewyll diogelwch amddiffynnol a hyfforddi personél y diwydiant twristiaeth.

112. Mae lliniaru’r risg y caiff ffigwr cyhoeddus proffil uchel ei lofruddio trwy fesurau diogelwch amddiffynnol yn parhau i fod yn elfen graidd o’n strategaeth Amddiffyn. Gan weithio’n agos gyda phartneriaid cyflawni allweddol, byddwn yn sicrhau bod ein hymateb yn parhau i adlewyrchu’r bygythiadau a wynebir gan ffigurau cyhoeddus proffil uchel, gan ddefnyddio gwelliannau technolegol a datblygiadau tactegol i gyflawni mesurau lliniaru cymesur.

Gwella diogelwch amddiffynnol

113. Byddwn yn pasio Deddf Martyn i wella diogelwch mewn lleoliadau cyhoeddus. Byddai’r Bil drafft, a gyhoeddwyd ar 2 Mai 2023, pe cytunid arno, yn ei gwneud yn ofynnol i’r rhai sy’n gyfrifol am rai safleoedd a digwyddiadau penodol ystyried y bygythiad gan derfysgaeth a gweithredu mesurau lliniaru priodol a chymesur. Bydd personau cyfrifol yn ystyried ac yn datblygu amddiffyniad gwell, a ddarperir trwy systemau diogelwch gwell, hyfforddiant staff, a phrosesau cliriach.

114. Er mwyn cefnogi deiliaid dyletswydd a’r rhai sy’n cefnogi amddiffyn y cyhoedd rhag bygythiad terfysgaeth, bydd y Swyddfa Gartref a’i phartneriaid yn parhau i sicrhau bod arweiniad, cyngor a hyfforddiant am ddim ar gael trwy ProtectUK. ProtectUK yw’r llwyfan canolog newydd ar gyfer y cynhyrchion hynny a lansiwyd yn y gwanwyn 2022. Mae wedi tyfu’n sylweddol ers hynny a bydd yn parhau i ddatblygu wrth i’r mesur fynd drwy’r senedd. Ochr yn ochr â’r adnoddau hynny, rydym hefyd yn ystyried opsiynau ar sut i gefnogi awdurdodau lleol yn well a’u cyfrifoldebau o ran amddiffyn y cyhoedd. Mae hyn yn dilyn dwy flynedd o gynlluniau peilot a threialon. Byddwn yn parhau i gynnal ac ariannu ymchwil a datblygu ar draws y gofod diogelwch amddiffynnol.

115. Byddwn yn gweithio gyda meysydd awyr y DU i uwchraddio galluoedd sgrinio. Bydd rhaglen Man Gwirio Diogelwch y Genhedlaeth Nesaf yn gwella ymhellach allu meysydd awyr i ganfod bygythiadau a chadw teithwyr yn ddiogel. Byddwn yn parhau i geisio datblygu technolegau canfod newydd a allai drawsnewid y gwaith o amddiffyn lleoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd, yn ogystal â chefnogi’r gwaith o nodi deunyddiau niweidiol ar y ffin.

116. Mae ein system ymfudo a ffiniau yn rhoi cyfle hollbwysig i nodi a rheoli unigolion a nwyddau sy’n peri pryder ynghylch terfysgwyr. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid rhyngwladol i gynyddu ein galluoedd a’n gwybodaeth am unigolion sy’n peri pryder gyda’n gilydd. Byddwn yn buddsoddi yn ein galluoedd biometreg, canfod a thargedu i agor cyfleoedd newydd a chaniatáu i ni wireddu cyfle allweddol o Ymadael â’r UE drwy alluogi ymelwa ar ddata nwyddau newydd ymlaen llaw o’r UE at ddibenion gwrthderfysgaeth.

117. Byddwn yn uwchraddio’r offer canfod Ffiniau Radiolegol a Niwclear presennol, yn parhau i wella cwmpas sgrinio ar y ffin drwy Cyclamen a chaffael offer canfod newydd i uwchraddio’r gallu Radiolegol a Niwclear mewndirol.[footnote 65]

118. Dramor, byddwn yn sicrhau bod ein hymdrechion Amddiffyn yn canolbwyntio ar y meysydd sy’n peri’r risg fwyaf i’r DU, gan gynnwys yr ardaloedd hynny sydd â’r nifer fwyaf o dwristiaid o’r DU. Gan weithio gyda’r Rhwydwaith Gwrthderfysgaeth ac Eithafiaeth a phartneriaid lleol, rydym yn ariannu gweithgareddau i leihau’r risg i dwristiaid o’r DU mewn ardaloedd risg uchel. Trwy weithio gyda llywodraethau, gwasanaethau brys, gwestywyr a gweithredwyr meysydd awyr a phorthladdoedd, mae galluoedd i atal terfysgwyr posibl yn cael eu gwella. Er enghraifft, yn dilyn ymosodiad Sousse yn 2015 rydym wedi gweithio yn Tiwnisia i wella amddiffyniad i dwristiaid o’r DU. Mae’r ffocws wedi bod ar feithrin gallu sy’n cydymffurfio â hawliau dynol trwy wella sgiliau technegol, arwain a rheoli digwyddiadau. Rhwng 2016 a 2025 byddwn wedi gwario bron i £3.5miliwn ar weithgareddau Amddiffyn a Pharatoi yn Nhiwnisia. Fel rhan o’n hymdrechion i alinio ein hymagwedd gwrthderfysgaeth strategol yn well â chynghreiriaid allweddol, byddwn yn sicrhau ein bod yn datblygu ac yn defnyddio galluoedd a rennir i amddiffyn twristiaid o’r DU dramor yn y ffordd fwyaf effeithiol.

Paratoi

119. Nod Paratoi yw lleihau effaith ymosodiad a lleihau’r tebygolrwydd o ymosodiadau pellach.

120. Amcanion Paratoi yw:

  • adeiladu ymatebion cymesur i ystod o fethodolegau ymosod, lle bynnag y byddant yn digwydd
  • mewn ymateb i ymosodiad, defnyddio ymateb amlasiantaeth systematig, effeithiol a chydgysylltiedig, gan ddefnyddio galluoedd arbenigol ac anarbenigol, i achub bywydau, lliniaru niwed, ac atal ymosodiadau pellach.
  • galluogi adferiad, gan gynnwys gofal hirdymor i ddioddefwyr a goroeswyr a lliniaru unrhyw berygl parhaus
  • addasu a gwella trwy nodi a rhannu’r hyn a ddysgwyd o ymchwil, hyfforddiant, profi, ymarfer a digwyddiadau blaenorol

121. Mae hyfforddi, profi, ymarfer, a sicrhau bod systemau traws-sefydliadol effeithiol ar waith i gasglu gwersi a gweithredu arnynt yn hanfodol i Baratoi. Mae dysgu o ymosodiadau, cwestau ac ymchwiliadau yn y gorffennol, gan gynnwys canfyddiadau Ymchwiliad Arena Manceinion, hefyd yn chwarae rhan ganolog.

122. Mae egwyddorion Paratoi yr un fath â’r ymateb i unrhyw ddigwyddiad mawr ac maent yn gymwys ar lefelau cenedlaethol, datganoledig, rhanbarthol a lleol ledled y DU. Rydym hefyd yn cyrraedd dramor i rannu dysgu, ac i sicrhau lle mae cysylltiadau agos â gwledydd eraill, bod yr ymateb yn cael ei gydlynu. Mae ein gweithgarwch yn cefnogi ac yn cael ei gefnogi gan waith ehangach ar wydnwch, ymateb i ddigwyddiadau mawr a pharodrwydd ar gyfer diogelwch cenedlaethol.

123. Yn aml, y cyntaf i fod yn ymwybodol o ddigwyddiad yw staff yr ystafell reoli, a’r rhai cyntaf yn y fan a’r lle yn tueddu i fod ymatebwyr cyntaf anarbenigol. Bydd yr ymateb yn cael ei gydlynu rhwng y gwasanaethau brys a’i seilio ar Gyd-Egwyddorion Rhyngweithredu’r Gwasanaethau Brys (JESIP). Rydym yn sicrhau bod yr ymateb i derfysgaeth yn sgìl craidd, bod JESIP wedi’i ymwreiddio ym meddylfryd pob ymatebwr rheng flaen, a bod y sgiliau hyn yn cael eu profi, eu harfer a’u gwella’n rheolaidd.

124. Yn y camau cynharaf, mae angen i’r rhai y mae ymosodiad yn effeithio arnynt wybod beth i’w wneud nes i’r gwasanaethau brys gyrraedd. Rydym yn rhoi’r offer i gymdeithas sifil ymateb yn ddiogel, trwy hyfforddiant ac addysg[footnote 66]. Mae deddfwriaeth neu reoliadau hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i rai rhannau o ddiwydiant fod yn barod ar gyfer ymosodiad, ac mae hyn yn cael ei reoleiddio. Mae deddfwriaeth hefyd yn cael ei chyflwyno i’w gwneud yn ofynnol i berchnogion a gweithredwyr lleoliadau cyhoeddus gael eu paratoi, fel rhan o Ddeddf Martyn.

125. Bydd yr ymateb i rai digwyddiadau yn galw am asedau arbenigol ychwanegol, hyfforddiant ac arweiniad i ymdrin ag ymosodiadau sy’n ymwneud â methodolegau cymhleth neu amgylcheddau heriol. Rydym yn cefnogi datblygu athrawiaeth ymateb arbenigol i wrthderfysgaeth a galluoedd gofynnol. Rydym yn sicrhau bod y galluoedd arbenigol hyn yn cael eu caffael yn effeithiol a’u bod yn barod i’w defnyddio. Mae hyn yn cynnwys swyddogion heddlu arfog, swyddogion tân a pharafeddygon sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig, arbenigwyr ffrwydron, a mesurau gwrth-dronau.

126. Mae hefyd yn cynnwys timau sydd wedi’u hyfforddi i ymdrin â deunyddiau a dyfeisiau cemegol, biolegol, ymbelydrol neu niwclear, ac yn galluogi gweithredu mewn amgylcheddau anodd neu halogedig. Rydym hefyd yn goruchwylio datblygiad a pharodrwydd offer a chyfarpar arbenigol a’r gweithdrefnau gweithredol penodol sy’n eu cefnogi.

127. Pe byddai graddfa neu ddifrifoldeb digwyddiad yn fwy na gallu’r ymatebwyr sifil, gellir gwneud cais Cymorth Milwrol i’r Awdurdod Sifil i geisio cymorth pellach gan y lluoedd arfog, gan gynnwys ôl-lenwad heddlu arfog. Mae lluoedd arfog y DU yn chwarae rhan annatod a hanfodol o’r system Paratoi yn eu rhinwedd eu hunain. Er enghraifft, lliniaru digwyddiadau terfysgol posibl yn yr awyr (e.e., herwgipio), neu ddarparu galluoedd rendrad diogel ar gyfer dyfeisiau cemegol, biolegol, radiolegol, niwclear a ffrwydrol trwy Warediad Ordnans Ffrwydron (EOD).

128. Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda’r GIG i gynllunio ar gyfer brysbennu a thrin anafusion yn gyflym, gan gynnwys mewn canolfannau triniaeth arbenigol.

129. Efallai y bydd yr ymateb i ymosodiad terfysgol yn y DU neu ar fuddiannau’r DU dramor yn cael ei gydgysylltu ar lefel strategol gan COBR, ond bydd yr effeithiau uniongyrchol yn cael eu lliniaru’n fwyaf effeithiol gan y camau gweithredu cynnar yn y fan a’r lle. Gall cymryd y camau cywir yn gynnar mewn ymateb hefyd wella’n sylweddol yr heriau adfer o ddigwyddiad cemegol, biolegol radiolegol neu niwclear.

130. Mae adrannau a sefydliadau sydd â rôl yn y broses adfer yn chwarae rhan bwysig yn Paratoi. Mae adfer yn canolbwyntio ar ddeall a lliniaru unrhyw risg sy’n weddill a rheoli canlyniadau ymosodiad. Mae hyn yn cynnwys delio ag unrhyw beryglon gweddilliol, cadw tystiolaeth, a chefnogi prosesau ymchwiliol. Mae hefyd yn cynnwys darparu cymorth i ddioddefwyr a goroeswyr.

131. Dramor, mae’r DU yn ariannu hyfforddiant meithrin gallu ar gyfer partneriaid, sy’n cefnogi ymateb lleol. Mae hyn wedi cynnwys hyfforddi miloedd o bersonél gwasanaethau brys a gweithwyr y sector twristiaeth mewn ymwybyddiaeth gwrthderfysgaeth, ymateb cyntaf, rheoli argyfwng a chymorth cyntaf. Rydym hefyd yn sicrhau bod gan y rhwydwaith diplomyddol a gweithredol dramor y sgiliau a’r galluoedd cywir i ymateb i ddigwyddiadau terfysgol a herwgipio, lle bynnag y maent yn digwydd. Mae’r FCDO yn cynnal swyddogaeth ymateb 24/7 i allu ymateb i fygythiadau neu ddigwyddiadau terfysgol lle bynnag y maent yn digwydd ledled y byd. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod Llysgenadaethau ac Uchel Gomisiynau’n cael eu hyfforddi a’u hymarfer yn rheolaidd, a bod ganddynt Gynlluniau Rheoli Argyfwng cadarn a chyfredol, sy’n canolbwyntio’n bennaf ond nid yn gyfan gwbl, ar ranbarthau a gwledydd sydd â’r presenoldeb mwyaf o’r DU. Rydym yn defnyddio amrywiaeth o ffynonellau gwybodaeth i fonitro bygythiadau presennol a rhai sy’n dod i’r amlwg i sicrhau bod ein hymateb yn gyflym ac yn ystwyth.

Paratoi ar gyfer ymosodiadau terfysgol yn y dyfodol

132. Byddwn yn gosod dioddefwyr a goroeswyr wrth galon polisi gwrthderfysgaeth, drwy ddeall yn llawn eu profiadau bywyd a thrwy adolygu a diwygio’r cymorth a roddwn iddynt. Mae angen cymorth tosturiol ac amserol ar ddioddefwyr a goroeswyr i’w helpu i wella’n ymarferol ac yn emosiynol. Byddwn yn ei gwneud yn haws i ddioddefwyr a goroeswyr gael mynediad at wasanaethau, drwy wella negeseuon cyhoeddus a darparu pwyntiau cyswllt penodol. Byddwn yn gweithio i gryfhau’r cymorth i blant a phobl ifanc a gwella mynediad at gymorth ariannol ac iechyd meddwl, gan sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn diwallu anghenion amrywiol dioddefwyr a goroeswyr yn well.

133. Gan gydnabod argymhellion clir Ymchwiliad Arena Manceinion, byddwn yn cryfhau ein gallu i brofi ac arfer yr ymateb o’r dechrau i’r diwedd i ymosodiad terfysgol, o ymatebwyr cyntaf hyd at lywodraeth genedlaethol. I gefnogi hyn, byddwn yn gwella’r systemau sydd gennym ar waith i gasglu, rhannu a gweithredu ar y gwersi a ddysgwn, gan gynnwys o ddigwyddiadau’r gorffennol. Byddwn yn gwneud gwell defnydd o dechnoleg i wella ein rhaglen brofi ac ymarfer, gan gynnwys y defnydd o realiti rhithwir a deallusrwydd artiffisial.

134. Byddwn yn sicrhau bod Cyd-Egwyddorion Rhyngweithredu’r Gwasanaethau Brys wedi’u gwreiddio ym meddylfryd a chof meddwl pob ymatebydd brys drwy gefnogi’r gwasanaethau brys i ddarparu hyfforddiant gwell a mwy o gyfleoedd i wella ac ymarfer ymateb amlasiantaeth effeithiol.

135. Byddwn yn parhau i ddatblygu a chynnal galluoedd arbenigol i ymateb i fygythiadau tebygolrwydd isel, effaith uchel, a bygythiadau diogelwch cenedlaethol eraill, wedi’i lywio gan asesiad parhaus o’r bygythiad cemegol, biolegol radiolegol neu niwclear, adolygu a gwella’r ymateb arbenigol, a sicrhau bod y gwasanaethau brys yn gallu lliniaru effeithiau ymosodiadau o’r fath. Mae hyn yn ymuno ag adolygiad parhaus o alluoedd gwaredu bomiau. Byddwn yn cefnogi hyn drwy fuddsoddi mewn gwyddoniaeth a thechnoleg i ddatblygu atebion i ymdrin â bygythiadau yn y dyfodol.

136. Byddwn yn treialu diwygio cydnerthedd lleol erbyn 2025 ac yn rhoi newidiadau ar waith yn genedlaethol erbyn 2030. Bydd hyn yn cryfhau arweinyddiaeth Fforwm Lleol Cymru Gydnerth, atebolrwydd, ac integreiddio cydnerthedd, gan gynnwys gwrthderfysgaeth, ar draws y broses o lunio polisïau lleol. [footnote 67],

137. Yn rhyngwladol, byddwn yn meithrin ein gallu i ymateb i ymosodiadau terfysgol a herwgipio dramor drwy fuddsoddi yn hyfforddiant ein rhwydwaith tramor, a sicrhau bod gan bob Swydd gynlluniau ymateb cadarn i derfysgaeth sy’n cael eu harfer yn rheolaidd. Mewn rhai gwledydd rydym wedi cefnogi datblygu polisi a seilwaith newydd, cydgysylltiedig i ymateb i argyfwng cenedlaethol, y gellir eu defnyddio i sicrhau ymateb effeithiol i ymosodiadau terfysgol ac amrywiaeth o argyfyngau eraill. Mae’r rhain yn tynnu ar wersi a ddysgwyd o ddigwyddiadau tramor blaenorol.

Trawsnewid gwrthderfysgaeth

138. Er mwyn ymateb i her bygythiad terfysgol parhaus ac esblygol, bydd ein hymdrechion yn mynd y tu hwnt i welliant parhaus o fewn pob llinyn gwaith o CONTEST. Byddwn yn gweithio ar draws CONTEST i gyd i wneud gwelliannau trawsnewidiol i’n hymateb gwrthderfysgaeth sydd wedi’u cynllunio i ddiwallu heriau allweddol y bygythiad terfysgol presennol ac yn y dyfodol a chyd-destun diogelwch cenedlaethol​:

  • bygythiad terfysgol domestig sy’n llai rhagweladwy ac yn anos ei ganfod ac ymchwilio iddo
  • bygythiad parhaus ac esblygol gan grwpiau terfysgol Islamaidd dramor
  • amgylchedd gweithredu lle mae technoleg yn rhoi cyfle a risg i’n hymdrechion gwrthderfysgaeth

139. Fel y nodir uchod, mae gweithredu argymhellion yr Adolygiad Annibynnol o Prevent yn llawn yn sicrhau newid sylweddol yn ein gwaith i atal pobl rhag dod yn derfysgwyr neu eu cefnogi. Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno Deddf Martyn i wella diogelwch mewn lleoliadau cyhoeddus. Ac rydym yn parhau i ddysgu o ymosodiadau, cwestau ac ymchwiliadau yn y gorffennol, gan gynnwys Ymchwiliad Arena Manceinion, gan wella ein galluoedd yn barhaus a chau gwendidau yn ein hymateb i ymosodiadau terfysgol.

140. Bydd y mesurau penodol ychwanegol a nodir isod yn sicrhau ein bod yn parhau i wella ein hymateb gwrthderfysgaeth er mwyn bod yn fwy ystwyth yn wyneb bygythiad sy’n datblygu, yn fwy integredig fel y gallwn ddod â’r ymyriadau cywir ar waith ar yr adeg gywir i lleihau risg ac yn fwy cyson â’n cynghreiriaid rhyngwladol i sicrhau ein bod yn parhau i gyflawni gyda’n gilydd yn erbyn bygythiad cyffredin. Byddwn yn:

141. Gwireddu potensial llawn ein Canolfan Ymgyrchoedd Gwrthderfysgaeth (CTOC)sy’n arwain y byd, gan ddod â’r timau, y data a’r dechnoleg gywir at ei gilydd i nodi, ymchwilio ac amharu ar derfysgwyr yn fwy effeithlon ac yn fwy effeithiol. Gan gydnabod bod rhannu data yn alluogwr hanfodol CTOC, byddwn yn cymryd camau i yrru’r gallu hwn yn ei flaen gan gynnwys y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol (Rhif 2) a gyflwynwyd yn ddiweddar a fydd yn caniatáu i orfodi’r gyfraith a’r gwasanaethau cuddwybodaeth ffurfio prosesu ar y cyd o dan un drefn diogelu data lle mae angen prosesu data ar y cyd at ddibenion diogelwch cenedlaethol penodol.

142. Sicrhau bod ymchwiliadau gwrthderfysgaeth yn defnyddio ystod gynyddol o gyngor arbenigol ac ymyriadau nad ydynt yn ymwneud â gorfodi’r gyfraith i liniaru’r bygythiad terfysgol sy’n datblygu. Byddwn yn cysylltu’r system wrthderfysgaeth yn well ag arbenigedd mewn gofal iechyd, addysg, gwasanaethau cymdeithasol a’r system cyfiawnder troseddol i ymateb i gymhlethdod bygythiad terfysgol. Bydd hyn yn cynnwys mynediad at ystod ehangach o ymyriadau y gellir eu defnyddio i ddargyfeirio pobl oddi wrth derfysgaeth neu liniaru’r bygythiad a achosir gan derfysgwr posibl. Lle bo angen, byddwn yn newid deddfwriaeth, mynediad at ddata a pholisi’r llywodraeth gan weithio ar draws partneriaid lleol, datganoledig a chenedlaethol i alluogi ymgyrchoedd gwrthderfysgaeth mwy effeithiol.

143. Parhau i fuddsoddi yn ein gallu asesu gwrthderfysgaeth o safon fyd-eang er mwyn gallu canfod bygythiadau sy’n dod i’r amlwg i’r DU a’n buddiannau dramor yn gynnar. Sefydlwyd Y Ganolfan Dadansoddi Terfysgaeth ar y Cyd JTAC yn 2003 ac mae’n parhau i fod yn elfen hollbwysig o ymateb gwrthderfysgaeth y DU, gan ddarparu asesiad annibynnol o’r bygythiad terfysgol gan gynnwys y Lefel Bygythiad Terfysgaeth Cenedlaethol[footnote 68]. Byddwn yn gwella gallu JTAC i ganfod risgiau sy’n dod i’r amlwg wrth iddynt ddatblygu, gan gynnwys trwy ffynhonnell agored, rhagolygon, a dadansoddi data. Bydd hyn yn hanfodol i sicrhau ein bod yn gwneud defnydd priodol o’n hadnoddau ac yn gallu ymateb yn effeithlon i’r bygythiad terfysgol sy’n datblygu.

144. Cefnogi’r sector cyhoeddus a’r sector preifat i fod yn bartneriaid effeithiol wrth atal ymosodiadau a lleihau nifer y bobl sy’n cael eu colli mewn achos o ymosodiad, trawsnewid ein hymdrech cyfathrebu i ganolbwyntio negeseuon craidd mewn meysydd lle mae gan y cyhoedd ran hanfodol i’w chwarae yn ein hymateb gwrthderfysgaeth. Byddwn yn buddsoddi yn ein negeseuon cyhoeddus i godi amlygrwydd rôl y cyhoedd, ac i sicrhau bod gan y cyhoedd y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wneud penderfyniadau ar adrodd am derfysgaeth bosibl, gan gadw eu hunain yn ddiogel ac ymateb i ddigwyddiadau, gartref a thramor[footnote 69]. Byddwn yn symleiddio ein mecanweithiau adrodd, cyngor ac arweiniad ar sut i ymateb i ymosodiad, fel eu bod yn glir, yn hygyrch ac yn hawdd i’r cyhoedd eu defnyddio. Byddwn hefyd yn adolygu sut rydym yn cyfleu risg terfysgaeth mewn cyngor teithio a sut y gallwn ddefnyddio technolegau newydd i gynyddu ei gyrhaeddiad a’i effaith, er mwyn sicrhau bod gennym ymagwedd gadarn, gyson a chymesur.

145. Dyfnhau ein partneriaethau gwrthderfysgaeth rhyngwladol, gan alinio ein dulliau strategol fel y gallwn wneud y mwyaf o effeithiolrwydd galluoedd presennol a datblygu rhai newydd i amddiffyn ein dinasyddion ac amharu ar fygythiadau cyffredin. Bydd hyn yn gwneud y mwyaf o effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd, gan ganiatáu i ni dargedu ein hymdrechion yn briodol a deall sut y gellir mynd i’r afael â bygythiadau sy’n dod i’r amlwg orau ochr yn ochr â’n partneriaid. Byddwn yn ceisio dylanwadu ar yr ymateb gwrthderfysgaeth rhyngwladol ar draws ystod lawn fframwaith CONTEST, gan gynnwys drwy weithio gyda phartneriaid o’r un anian ledled y byd i nodi meysydd ar gyfer ymgysylltu, adeiladu cynghreiriau a chanfod, tarfu, a mynd i’r afael â’r bygythiadau a gyfeirir at y DU neu ein pobl a buddiannau. Bydd y DU yn partneru â phawb sy’n fodlon gweithio gyda ni ar sail parch, dwyochredd, Siarter y Cenhedloedd Unedig a chyfraith ryngwladol, mewn ffordd sy’n cydymffurfio â’n rhwymedigaethau hawliau dynol.

146. Cryfhau ein ffin ymhellach fel llinell amddiffyn hanfodol yn erbyn terfysgaeth. Bydd Rhaglen Ffiniau a Mewnfudo’r Dyfodol yn trawsnewid y system ymfudo a ffiniau, gan wella gwasanaeth cwsmeriaid tra’n gwella diogelwch y DU. Bydd cyflwyno ‘caniatâd teithio’ cyffredinol i bawb sy’n dymuno dod i’r DU (ac eithrio dinasyddion Prydeinig ac Iwerddon) yn rhoi mwy o reolaeth i’r DU ar ein ffiniau, gan ganiatáu i ni rwystro bygythiadau rhag dod i mewn i’r DU. Bydd buddsoddi mewn galluoedd canfod a biometreg gwell a’n dull o dargedu yn cryfhau ein gallu i nodi ac atal pobl neu nwyddau sy’n peri pryder rhag teithio i’r DU.

147. Parhau i fuddsoddi mewn nodi bygythiadau a chyfleoedd yn y dyfodol sy’n deillio o dechnoleg. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid rhyngwladol, y sector preifat, melinau trafod a’r byd academaidd i sicrhau y deellir effaith technolegau newydd ar y bygythiad terfysgol. Byddwn yn addasu ein polisïau i liniaru bygythiadau a alluogir gan dechnoleg sy’n dod i’r amlwg a byddwn yn ei dro yn achub ar gyfleoedd newydd i sicrhau bod ein hymateb gwrthderfysgaeth yn cael ei alluogi gan dechnoleg ar bob cam.

148. Adeiladu ar ein hymgysylltiad â’r sector technoleg, gan gymryd rhan yn yr ymdrech ryngwladol, gydgysylltiedig i atal terfysgaeth rhag camfanteisio ar y rhyngrwyd. Mae hyn yn cynnwys cydweithredu â chwmnïau mawr a bach ar sail ddwyochrog i wella eu polisïau a’u galluoedd i leihau argaeledd a hygrededd cynnwys terfysgol a threisgar eithafol ar-lein, yn ogystal â phartneriaeth â sefydliadau anllywodraethol megis Tech Against Terrorism a fforymau amlochrog megis Galwad i Weithredu Christchurch ac Y Fforwm Rhyngrwyd Byd-eang i Wrthwynebu Terfysgaeth. Yn dilyn cydsyniad brenhinol i’r Bil Diogelwch Ar-lein, byddwn yn disgwyl i Ofcom fel y rheoleiddiwr diogelwch ar-lein annibynnol ddwyn cwmnïau technoleg i gyfrif am sut y maent yn atal, nodi a dileu cynnwys a gweithgarwch terfysgol ar-lein, tra’n cynnal rhyddid mynegiant.

149. Galluogi mynediad hanfodol at y data sydd eu hangen arnom i ymchwilio ac amharu ar weithgarwch terfysgol lle bo angen a lle mae’n gymesur. Drwy osod safonau data rhyngwladol a Chytundeb Mynediad Data nodedig y DU/UDA, gall asiantaethau gorfodi’r gyfraith a chudd-wybodaeth y DU yn awr ofyn am ddata gan ddarparwyr telathrebu UDA a fydd yn eu helpu i ganfod, ymchwilio ac erlyn troseddau difrifol, gan gynnwys terfysgaeth. Mae’r elfen hollbwysig hon o waith gweithredol i ddeall a lliniaru bygythiadau yn dibynnu ar gydweithrediad y cwmnïau y mae terfysgwyr a throseddwyr difrifol yn manteisio ar eu gwasanaethau.

Rhan Tri: Gweithredu

Cyfrifoldebau gweinidogol

150. Bydd y Cyngor Diogelwch Cenedlaethol (NSC) dan gadeiryddiaeth y Prif Weinidog yn parhau i fod y prif fforwm ar gyfer cytuno ar y cyd ar amcanion y llywodraeth ar gyfer gwrthderfysgaeth. Bydd yn parhau i oruchwylio CONTEST, gan fonitro ei gynnydd, ystyried risgiau sy’n dod i’r amlwg, cytuno ar ein hymateb, a goruchwylio’r broses o ddyrannu adnoddau ar gyfer gwaith gwrthderfysgaeth.

151. Yr Ysgrifennydd Cartref sy’n gyfrifol am gydgysylltu ymateb gwrthderfysgaeth y llywodraeth yn gyffredinol, ac fe’i cefnogir yn y rôl hon yn y Cabinet gan y Gweinidog Gwladol dros Ddiogelwch. Mae Cyfarwyddwr Cyffredinol MI5 yn atebol i’r Ysgrifennydd Cartref am gyfraniad y sefydliad i ymateb gwrthderfysgaeth y llywodraeth ochr yn ochr â’i swyddogaethau eraill. Mae’r Ysgrifennydd Cartref hefyd yn goruchwylio Plismona Gwrthderfysgaeth a’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol.

152. Yr Ysgrifennydd Tramor sy’n gyfrifol am bolisi tramor y DU a gweithgarwch llywodraeth y DU dramor. Mae hyn yn cynnwys agweddau rhyngwladol CONTEST. Mae’r Ysgrifennydd Tramor hefyd yn goruchwylio’r Gwasanaeth Cuddwybodaeth Gyfrinachol (SIS) a Phencadlys Cyfathrebu’r Llywodraeth (GCHQ).

153. Mae’r Ysgrifennydd Amddiffyn yn gyfrifol am luoedd arfog y DU a chyfraniad byd-eang y Weinyddiaeth Amddiffyn i weithgarwch gwrthderfysgaeth, gan gynnwys meithrin gallu sy’n benodol i amddiffyn a gweithrediadau unigol.

154. Mae’r Ysgrifennydd Cyfiawnder yn gyfrifol am y risgiau a berir gan derfysgwyr ar draws y System Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru a Lloegr, gan gwmpasu’r modd y mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a’i hasiantaethau’n rhyngweithio â’r llysoedd, rheoli risg derfysgol yn y ddalfa, a goruchwyliaeth ar drwydded.

155. Yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth sy’n gyfrifol am bolisi diogelwch trafnidiaeth ac mae’n arwain ar drefniadau diogelwch ar gyfer trafnidiaeth ar y tir, hedfan a morol i liniaru’r risg o derfysgaeth i’r system drafnidiaeth.

156. Y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO) sydd â’r cyfrifoldeb cyffredinol am sancsiynau’r DU, fodd bynnag Trysorlys EF (HMT) a’r Canghellor sy’n gyfrifol am bolisi sancsiynau ariannol. Mae Trysorlys EF yn gyfrifol am orfodi a gweithredu sancsiynau ariannol. Mae hyn yn cynnwys sancsiynau gwrthderfysgaeth rhyngwladol o dan y ddwy gyfundrefn wrthderfysgaeth sy’n eiddo i’r FCDO. Mae’r Canghellor hefyd yn gyfrifol am gyfundrefn sancsiynau gwrthderfysgaeth domestig y DU, sy’n eiddo i HMT. Mae HMT a’r Swyddfa Gartref yn gyd-gyfrifol am bolisi troseddu economaidd. Mae HMT hefyd yn cynrychioli’r DU yn y Tasglu Gweithredu Ariannol sy’n gosod safonau rhyngwladol ar AML/CTF.

Goruchwyliaeth

157. Pwyllgor Cuddwybodaeth a Diogelwch y Senedd (ISC) yw pwyllgor y Senedd sydd â chyfrifoldeb statudol am oruchwylio gweithgareddau diogelwch a chudd-wybodaeth y DU. Mae’r ISC yn goruchwylio polisïau, gwariant, gweinyddiaeth a gweithrediadau priodol MI5, SIS, GCHQ, Cuddwybodaeth Amddiffyn y Sefydliad Cuddwybodaeth ar y Cyd, yr Ysgrifenyddiaeth Diogelwch Cenedlaethol a Grŵp Diogelwch y Famwlad. Mae trefniadau ar wahân yn bodoli ar gyfer goruchwylio MI5 gan yr ISC, o dan Ddeddf Cyfiawnder a Diogelwch 2013.

158. Mae’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cartref (HASC) yn bwyllgor trawsbleidiol o ASau sy’n craffu ar waith y Swyddfa Gartref a’i chyrff cysylltiedig. Er nad yw’r un o’i ymchwiliadau presennol yn ymwneud â gwrthderfysgaeth, mae ganddo friff gwylio ar y mater, gan gynnal sesiynau tystiolaeth gydag uwch swyddogion ac unigolion perthnasol eraill. Mae’r Ysgrifennydd Cartref a’r Gweinidog Diogelwch ill dau yn ymddangos yn rheolaidd o flaen y pwyllgor, lle gofynnir iddynt yn aml am bolisi gwrthderfysgaeth a phenderfyniadau gwariant.

159. Mae’r Adolygydd Annibynnol o Ddeddfwriaeth Terfysgaeth yn darparu her gadarn, annibynnol i’r llywodraeth a’r heddlu ac i lywio’r ddadl gyhoeddus a gwleidyddol ar gyfraith gwrthderfysgaeth yn y DU.

160. Mae’r Comisiynydd Pwerau Ymchwilio yn goruchwylio’n annibynnol y defnydd o bwerau ymchwilio gan yr asiantaethau cuddwybodaeth gyfrinachol, gan sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio yn unol â’r gyfraith a budd y cyhoedd.

161. Mae’r Tribiwnlys Pwerau Ymchwilio yn darparu hawl i wneud iawn i unrhyw un sy’n credu ei fod wedi dioddef camau anghyfreithlon gan awdurdod cyhoeddus gan ddefnyddio technegau ymchwilio cudd yn amhriodol. Mae’r Tribiwnlys yn ystyried honiadau o ymyrraeth anghyfreithlon gan gyrff cyhoeddus, gan gynnwys gwasanaethau cuddwybodaeth y DU, yr heddlu ac awdurdodau lleol ac yn ymchwilio i ymddygiad honedig gan neu ar ran gwasanaethau cuddwybodaeth y DU p’un a yw’n ymwneud â phwerau ymchwilio ai peidio.

162. Mae’r Comisiwn Atal Eithafiaeth (CCE) yn rhoi cyngor a chraffu diduedd ac arbenigol i’r llywodraeth ar yr offer, y polisïau a’r dulliau gweithredu sydd eu hangen i fynd i’r afael ag eithafiaeth. Mae’r CCE wedi dod yn ‘ganolfan ragoriaeth’ annibynnol y llywodraeth ar wrth-eithafiaeth, a bydd ei gwaith yn parhau i lywio’r gwaith o lunio polisïau.

Gweinyddiaethau datganoledig

163. Mae gwrthderfysgaeth – fel pob mater sy’n ymwneud â diogelwch cenedlaethol – yn fater a gadwyd yn ôl, sy’n golygu bod Senedd y DU yn cadw pwerau deddfwriaethol sy’n ymwneud â gwrthderfysgaeth. Er gwaethaf hyn, mae llawer o’r mecanweithiau ar gyfer cyflawni gwrthderfysgaeth wedi’u datganoli yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae cyflawni Prevent wedi’i ddatganoli yn yr Alban.

164. Mae llywodraeth y DU yn cydweithio â gweinyddiaethau datganoledig Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ar ymateb strategol a rennir i fygythiad terfysgaeth ledled y DU. Mae cydweithio agos yn hanfodol i sicrhau ein bod gyda’n gilydd yn gallu cyflawni amcanion CONTEST ar draws y DU. Mae gweinyddiaethau datganoledig yn hollbwysig o ran cyflawni’r genhadaeth wrthderfysgaeth.

165. Mae CONTEST yn mynd i’r afael â phob math o derfysgaeth sy’n effeithio ar y DU a’n buddiannau dramor, ac eithrio terfysgaeth sy’n gysylltiedig â Gogledd Iwerddon yng Ngogledd Iwerddon, sy’n gyfrifoldeb Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon. Yr Ysgrifennydd Cartref sy’n gyfrifol am yr ymateb i derfysgaeth sy’n gysylltiedig â Gogledd Iwerddon ym Mhrydain Fawr. Mae’r Swyddfa Gartref yn gweithio’n agos gyda Swyddfa Gogledd Iwerddon (NIO) i rannu arferion gorau.

Tiriogaethau Tramor Prydeinig a Dibyniaethau’r Goron

166. Mae gan y DU gyfrifoldebau i Diriogaethau Tramor Prydain (BOTs) a Thiriogaethau Dibynnol y Goron (CDs), sy’n deillio o gyfraith ryngwladol ac o’i pherthynas gyfansoddiadol â’r BOTs a’r CDs. Ailgadarnhawyd hyn yn Adnewyddiad Adolygiad Integredig 2023 a ymrwymodd y DU i amddiffyn sofraniaeth, diogelwch a ffyniant pobl Prydain a sicrhau bod y DU a’i BOTs a’i CDs yn rhydd rhag gorfodaeth, yn cael eu hamddiffyn rhag niwed, ac yn gallu gwneud y gorau o’r economi a lles cymdeithasol. Er y byddai BOT neu CD yr effeithir arno fel arfer yn ymateb i unrhyw ddigwyddiad terfysgol, gall y DU ddarparu arbenigedd technegol a/neu adnoddau arbenigol i wella a chefnogi ymateb ac adferiad effeithiol, cyflym, a arweinir yn lleol lle bo hynny’n ymarferol ac yn briodol.

Cydlynu trawslywodraethol

167. Ar lefel swyddogol, mae’r system gwrthderfysgaeth yn cael ei harwain gan Gyfarwyddwr Cyffredinol Diogelwch y Famwlad yn y Swyddfa Gartref. Fel y swyddog arweiniol maent yn atebol i’r Cyngor Diogelwch Cenedlaethol ar ran y gwahanol adrannau ac asiantaethau sy’n gyfrifol am ddarparu CONTEST. Gall yr uwch swyddog hefyd ddirprwyo cydgysylltu ac arwain elfennau penodol o CONTEST.

168. Er mwyn sicrhau bod gwaith y llywodraeth ym maes gwrthderfysgaeth yn cael ei fonitro a’i oruchwylio’n effeithiol, mae gennym strwythur llywodraethu cadarn sy’n sicrhau atebolrwydd y strategaeth ac sy’n cefnogi cydgysylltu gwaith yn effeithiol ar draws adrannau.

169. Mae Bwrdd CONTEST – sy’n cael ei gadeirio gan y swyddog arweiniol – yn fwrdd uwch swyddogion sy’n monitro gweithrediad CONTEST ac yn sicrhau ein bod yn cynnal gwneud penderfyniadau ar y cyd a chydgysylltu’n effeithiol ar draws y llywodraeth. Mae’n dod ag uwch arweinwyr gweithredol a pholisi ynghyd o bob un o adrannau’r llywodraeth sydd wedi’u cynnwys yn CONTEST, Plismona Gwrthderfysgaeth a’r asiantaethau diogelwch a chudd-wybodaeth.

170. Yn ogystal, mae byrddau rhyngwladol a gweithredol ar wahân, grwpiau goruchwylio a’r NSC a gadeirir gan y Prif Weinidog sy’n darparu craffu ac atebolrwydd.

171. Mae’r gwaith o oruchwylio’r gwaith o ddarparu CONTEST yn cael ei ddirprwyo i Gyfarwyddwyr ‘P’ ar gyfer pob un o’r pedwar maes gwaith craidd, Atal, Dilyn, Amddiffyn a Pharatoi. Mae’r Cyfarwyddwyr ‘P’ yn sefydlu ac yn goruchwylio mecanweithiau cydgysylltu gan gynnwys yr holl adrannau ac asiantaethau cyflawni, yn monitro perfformiad, yn nodi risgiau difrifol ac yn sicrhau bod gwelliannau system hollbwysig yn cael eu cyflawni. Mae gan bob maes gwaith uwch fwrdd llywodraethu trawslywodraethol i sicrhau bod y llinyn gwaith yn cael ei gydlynu a’i oruchwylio’n effeithiol.

Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

172. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI) yn hanfodol i’r ffordd rydym yn cyflwyno CONTEST. Mae arnom angen ystod o wahanol safbwyntiau a sgiliau i herio’r ffordd sefydledig o feddwl, recriwtio’r bobl orau a chael dealltwriaeth gadarn o’r wlad rydym yn ei hamddiffyn. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau ymagweddau cynhwysol drwy gydol ein gwaith. Mae pob adran sy’n aelod o’r system gwrthderfysgaeth yn recriwtio o dan gystadleuaeth deg ac agored, ag EDI ar flaen y gad. Byddwn yn parhau i ymgysylltu, gwrando ar, a gweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid ag ystod amrywiol o nodweddion a chefndiroedd. Rydym yn gwreiddio swyddogaethau her ac amrywiaeth meddwl yn ein gwaith i’n helpu i ymateb i’r bygythiadau a wynebwn a sicrhau bod pawb yn cael eu trin yn deg gan y system wrthderfysgaeth, gan arwain at gymdeithas fwy diogel yn gyffredinol.

173. Mae’r holl raglenni gwrthderfysgaeth dramor a ariennir drwy’r Portffolio Gwrthderfysgaeth (CTPf), sy’n rhan o’r Gronfa Gwrthdaro, Sefydlogrwydd a Diogelwch, yn dod o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus. Cyn cyflawni mae’n rhaid i ni allu mynegi yn nogfennaeth y rhaglen effaith rhaglennu ar grwpiau a ddiffinnir gan unrhyw un o’r Nodweddion Gwarchodedig, y mae’n rhaid rhoi cyfrif amdanynt a’u monitro. Ni ddylai rhaglennu wneud unrhyw niwed o leiaf, a rheolir hyn drwy fesurau lliniaru gweithredol. Mae sensitifrwydd rhywedd yn cael ei weithredu a’i fonitro ym mhob agwedd ar y CTPf; rydym yn defnyddio sgôr Rhywedd, Cydraddoldeb a Chynhwysiant Cymdeithasol ar gyfer ein gwaith monitro a gwerthuso prosiectau rhyngwladol allweddol.

Cyllid

174. Fe wnaeth Adolygiad o Wariant 2021 (SR21) osod cyllidebau adrannol hyd at 2024-2025 ac adlewyrchodd hyn ymrwymiad y llywodraeth i wrthderfysgaeth, gyda gwariant o fwy na £3 biliwn y flwyddyn. Drwy gynnal cyllid ar gyfer Plismona Gwrthderfysgaeth yng Nghymru a Lloegr a pharhau i fuddsoddi yn yr asiantaethau cuddwybodaeth, bydd y llywodraeth yn cynnal ac yn datblygu galluoedd sy’n arwain y byd i wrthsefyll bygythiadau diogelwch cenedlaethol i’r DU.

175. Ers cyhoeddi CONTEST ddiwethaf, mae’r llywodraeth wedi ymrwymo i ddarparu CTOC sy’n cydleoli’r asiantaethau cuddwybodaeth, Plismona Gwrthderfysgaeth a phartneriaid eraill. Bydd y dull newydd, cwbl integredig hwn yn cadw’r cyhoedd yn fwy diogel rhag terfysgaeth trwy wella gallu’r llywodraeth i ddarganfod ac atal ymosodiadau a gwella cyflymder ymateb.

176. Rydym hefyd wedi parhau i fuddsoddi mewn Plismona Gwrthderfysgaeth i gefnogi ymchwiliadau parhaus a chyllid parhaus ar gyfer plismona arfog a CTOC. Daeth cyllid Plismona Gwrthderfysgaeth i gyfanswm o dros £1 biliwn yn 2022-23 a bydd hyn yn parhau yn 2023-24.

177. Darparodd y llywodraeth hefyd gynnydd arian parod o £700 miliwn ar SR21 i gymuned gudd-wybodaeth y DU, i £3.7 biliwn erbyn 2024-25. Mae hyn yn cynrychioli cyfradd twf o 4% mewn termau real y flwyddyn ar gyfartaledd dros yr un cyfnod i gefnogi’r gwaith o gyflawni CTOC a’r blaenoriaethau a nodir yn yr Adolygiad Integredig[footnote 70].

178. Dramor, byddwn yn parhau i ddarparu rhaglenni wedi’u targedu ac ymgysylltu â phartneriaethau drwy CTPf y Gronfa Gwrthdaro, Sefydlogrwydd a Diogelwch, gyda gwariant a ragwelir o dros £95 miliwn rhwng 2022-25. Bydd y CTPf yn parhau i ariannu a chydlynu darpariaeth fyd-eang Atal, Dilyn, Amddiffyn a Pharatoi drwy’r FCDO, y Swyddfa Gartref, yr Adran Drafnidiaeth a Phlismona Gwrthderfysgaeth yn erbyn amcanion gwrthderfysgaeth allweddol dramor. Bydd y CTPf yn cael ei gydlynu â darpariaeth y Gronfa Gwrthdaro, Sefydlogrwydd a Diogelwch arall, yn ogystal â gweithgareddau partneriaid rhyngwladol, gan gynnwys yr Unol Daleithiau.

Asesu cyflawniad, perfformiad a’r effaith ar risg

179. Mae’n gywir y bydd CONTEST yn cael ei farnu yn ôl ei effaith ar y risg i’r DU a buddiannau’r DU dramor a achosir gan derfysgaeth. Ond mae asesu effaith uniongyrchol ein rhaglenni yn heriol: mae’r bygythiad gan derfysgaeth a pha mor agored i niwed yw’r DU i’r bygythiad hwn yn gymhleth; ac maent yn cael eu dylanwadu gan ystod eang o ffactorau na ellir eu hadnabod bob amser ac nad oes gennym bob amser reolaeth drostynt.

180. Ers cyhoeddi’r strategaeth flaenorol yn 2018 rydym wedi datblygu proses asesu perfformiad a risg effeithiol sy’n cwmpasu’r system wrthderfysgaeth gyfan sy’n ein helpu i ddeall beth sy’n gweithio a beth sydd angen rhagor o waith, gan nodi bylchau yn y dystiolaeth y gellir mynd i’r afael â hwy drwy ein rhaglen werthuso, a llywio lle rydym yn blaenoriaethu ein hymdrechion i fynd i’r afael â therfysgaeth o bob math.

181. Mae ymgorffori arfer gwerthuso yn y system wrthderfysgaeth yn hanfodol i ddeall effaith hirdymor ein gweithgareddau ar ganlyniadau gwrthderfysgaeth. Byddwn yn datblygu rhaglen werthuso sy’n cyd-fynd â’r strategaeth werthuso a argymhellir gan y llywodraeth, gan sicrhau bod gweithgareddau, polisïau ac ymyriadau yn cadw at arfer gorau a nodir yn y Magenta [footnote 71][footnote 72] a’r Llyfr Gwyrdd.[footnote 73] Mae ein rhaglen yn cynnwys mabwysiadu ymagwedd gymesur sy’n canolbwyntio ymdrechion gwerthuso ar raglenni mawr, meysydd gwariant uchel neu fylchau mewn tystiolaeth. Bydd rhaglen werthuso systematig yn helpu i adeiladu sylfaen dystiolaeth ar yr hyn sy’n gweithio ym maes gwrthderfysgaeth, gan anelu at lywio penderfyniadau yn y dyfodol er mwyn gwella effeithiolrwydd, effeithlonrwydd, gwerth am arian a rhoi gwell cyfrif am ganlyniadau anfwriadol.

182. Mae gan brosiectau gwrthderfysgaeth a ddarperir dramor drwy CTPf, fel rhan o’r Gronfa Gwrthdaro, Sefydlogrwydd a Diogelwch, fframwaith monitro, a gwerthuso a dysgu cadarn, yn seiliedig ar y ddamcaniaeth newid ac wedi’i asesu yn ôl blaenoriaethau’r Cyngor Diogelwch Cenedlaethol a chanlyniadau strategol CONTEST dramor.

183. Yn ogystal ag asesu perfformiad cyffredinol CONTEST yn ôl yr amcanion a nodir yn y strategaeth hon, rydym hefyd yn monitro cynnydd o ran cyflawni gweithgarwch gwella allweddol a fydd yn helpu i gefnogi cyflawni ein hamcanion cyffredinol a lleihau risg. Mae’r canlyniadau blaenoriaeth hyn yn mynd i’r afael ag ymrwymiadau allweddol yn y strategaeth hon ac yn cael eu monitro a’u hadolygu’n rheolaidd gan y Bwrdd perthnasol i sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni’n llwyddiannus.

Atodiad A: Rolau a chyfrifoldebau

Swyddfa’r Cabinet

Mae Swyddfa’r Cabinet yn cefnogi gwaith y Cyngor Diogelwch Cenedlaethol drwy’r Ysgrifenyddiaeth Diogelwch Cenedlaethol, sydd hefyd yn goruchwylio’r Cyfrif Cuddwybodaeth Sengl. Mae Cyd-bwyllgor Cuddwybodaeth Swyddfa’r Cabinet, a gefnogir gan y Cyd-sefydliad Cuddwybodaeth, yn cynnal asesiadau cuddwybodaeth strategol, annibynnol. Mae’r Gyfarwyddiaeth Gwydnwch, yn yr Ysgrifenyddiaeth Economaidd a Domestig, yn gyfrifol am fwrw ymlaen â gwaith tymor hwy y llywodraeth i wella cydnerthedd cenedlaethol. Mae’n rheoli’r system gydnerthedd, deddfwriaeth a chanllawiau craidd, yn cynhyrchu’r Asesiad Risg Diogelwch Cenedlaethol a chynhyrchion risg trawslywodraethol eraill, gan ymgorffori gwybodaeth am fygythiadau gan yr asiantaethau cuddwybodaeth, sy’n llywio cynllunio a pharodrwydd ar gyfer argyfwng. Mae hefyd yn arwain y Rhaglen Galluoedd Cydnerthedd, menter traws-Whitehall sy’n goruchwylio datblygiad strategol a chynnal y galluoedd safonol sy’n ofynnol ar gyfer unrhyw ymateb i argyfwng; Coleg Cynllunio at Argyfwng Swyddfa’r Cabinet; ac yn cydlynu’r Rhaglen Ymarfer Corff Genedlaethol. Ystafell Briffio Swyddfa’r Cabinet (COBR) yw mecanwaith ymateb brys canolog y llywodraeth ar gyfer ymosodiadau terfysgol. Mae’r Uned COBR, sydd hefyd yn eistedd o fewn yr Ysgrifenyddiaeth Diogelwch Cenedlaethol, yn arwain y gwaith o baratoi ar gyfer amlygiadau difrifol tymor agos o risgiau.

Uned CONTEST

Mae hon yn Uned drawslywodraethol yn y Swyddfa Gartref, sy’n gyfrifol am gydlynu’r adrannau a’r asiantaethau ar draws y llywodraeth - a elwir yn system gwrthderfysgaeth - i gyflwyno CONTEST. Mae hyn yn galluogi’r system wrthderfysgaeth i roi golwg unigol i weinidogion ar berfformiad CONTEST a’r heriau a’r risgiau hollbwysig.

Mae Plismona Gwrthderfysgaeth (CTP)

Yn arwain cyfraniad yr heddlu i CONTEST ar draws y pedwar maes gwaith:

  • Atal: Mae CTP yn gweithio gyda heddluoedd lleol a phlismona rheng flaen i ddiogelu unigolion a chymunedau sy’n agored i radicaleiddio. Mae’n ddull amlasiantaethol ac mae CTP yn cefnogi Awdurdodau Lleol a phartneriaid eraill i gyflawni eu dyletswydd statudol o danPrevent. Ynghyd â heddlu rheng flaen, mae CTP yn tarfu ar y rhai sy’n ceisio radicaleiddio.

  • Dilyn: Mae CTP, gan weithio ar y cyd ag MI5, yn casglu ac yn datblygu cuddwybodaeth, yn cynnal ymchwiliadau gwrthderfysgaeth i amharu ar weithgarwch terfysgol trwy arestio ac erlyn gydag awdurdodau erlyn y DU.

  • Amddiffyn: Mae CTP yn darparu diogelwch amddiffynnol i’r cyhoedd, y sector preifat a lleoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd, y teulu brenhinol a phobl bwysig. Mae’r Swyddfa Diogelwch Gwrthderfysgaeth Genedlaethol (NaCTSO) yn gyfrifol am ddatblygu canllawiau a chymorth penodol i rwydwaith o tua 200 o Gynghorwyr Diogelwch Gwrthderfysgaeth (CTSAs) yn genedlaethol, sy’n darparu cyngor a chanllawiau diogelwch amddiffynnol i gefnogi polisi’r llywodraeth.

  • Paratoi: Mae CTP yn darparu galluoedd ymateb arbenigol, megis plismona arfog, ac ymateb Cemegol, Biolegol, Radiolegol a Niwclear i amddiffyn y cyhoedd. Mae’r rhwydwaith yn darparu galluoedd profi ac ymarfer a dysgu sefydliadol i roi sicrwydd o allu’r holl blismona i ymateb i derfysgaeth.

Mae CTP yn gynghrair lle mae holl heddluoedd y DU yn cydweithredu i ganfod, atal ac ymchwilio i weithgarwch terfysgol yn y DU i amddiffyn y cyhoedd a’n diogelwch cenedlaethol. Trwy’r model gweithredu hwn mae Prif Swyddogion yn rhoi awdurdod i Arweinydd gwrthderfysgaeth Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC) a’r Uwch Gydlynwyr Cenedlaethol (un yn ymwneud ag Dilyn ac Atal ac un yn ymwneud ag Amddiffyn a Pharatoi), sydd â throsolwg strategol o CTP. Ar gyfer lluoedd yng Nghymru a Lloegr, mae’r lluniad hwn yn rhedeg yn ffurfiol o dan Gytundeb Cydweithio Adran 22a o Ddeddf yr Heddlu 1996 ac o dan Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth, sy’n atgynhyrchu hanfod Cytundeb Cydweithredu Adran 22a, rhwng Prif Gwnstabliaid Heddlu’r Alban a Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon ( PSNI), ac Arweinydd NPCC. Mae’r fframwaith hwn yn sicrhau y gall CTP yn y bôn weithredu fel un endid tra’n parhau i fod wedi’i hangori a’i gysylltu â’r cymunedau lleol y maent yn eu gwasanaethu trwy blismona lleol. Fel gweddill plismona, mae’n cael ei oruchwylio gan Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC), o dan ei Bwyllgor Cydlynu Gwrthderfysgaeth.

Mae Pencadlys CTP yn cefnogi darpariaeth weithredol leol trwy unedau CTP rhanbarthol ar draws Cymru a Lloegr, ac yn gweithio’n agos gyda Heddlu’r Alban a PSNI. Mae’r pencadlys hefyd yn darparu arolygiaeth bwysig o’r rhwydwaith, yn monitro perfformiad ac yn darparu trosolwg strategol o fygythiadau a galluoedd o fewn y rhwydwaith yn ogystal â gosod polisi a strategaeth ar gyfer CTP.

Felly mae CTP yn gweithredu fel “llu rhithwir” sydd, ar lefel genedlaethol, wedi’i integreiddio â phartneriaid cuddwybodaeth, yn fwyaf nodedig MI5, a phartneriaid ehangach o fewn y system ddiogelwch genedlaethol. Ar lefel leol mae CTP yn gweithio’n agos gyda phlismona, awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill. Yn cynnwys oddeutu 10,000 o swyddogion heddlu a staff ar draws y DU, mae CTP hefyd yn darparu presenoldeb dramor gan ddarparu cyswllt hanfodol gyda phartneriaid gorfodi’r gyfraith rhyngwladol i helpu i atal bygythiadau sy’n deillio o’r tu allan i’r DU. Yn ogystal â gwaith gweithredol rhagweithiol, gellir rhoi CTP ar waith mewn ymateb i ddigwyddiadau terfysgol unigol neu luosog, gan ymchwyddo ac ystwytho adnoddau ledled y DU yn unol â lle mae’r bygythiad mwyaf.

Mae heddlu rheng flaen yn chwarae rhan hanfodol ar draws holl feysydd CONTEST. Yn aml dyma’r rhai cyntaf i gyrraedd ymosodiad terfysgol ac ar gyfer hyn mae CTP yn cynnal profion lleol a chenedlaethol ac yn ymarfer parodrwydd plismona rheng flaen i gefnogi’r ymateb CTP. Yn sgil digwyddiad lle mae eu cysylltiadau â chymunedau yn hanfodol maent yn rhoi sicrwydd ac yn cynorthwyo i reoli effaith ymosodiad ar y gymuned. Trwy ryngweithio â’r cyhoedd o ddydd i ddydd, nhw hefyd yw’r agwedd ar blismona sydd fwyaf tebygol o weld drostynt eu hunain yr arwyddion hynny sy’n awgrymu y gallai person fod yn symud tuag at weithgarwch terfysgol, rhywbeth a adlewyrchir yn y nifer o atgyfeiriadau Prevent a dderbynnir gan blismona rheng flaen yn flynyddol. Mae hyn yn gwneud heddlu rheng flaen yn bartner mawr yng ngwaith CTP i frwydro yn erbyn terfysgaeth ac rydym yn parhau i weithio’n agos gyda nhw i gyflawni yn ôl ein hymrwymiadau fel y nodir yn CONTEST.

Mae CTP hefyd yn arwain yr ymateb plismona i fygythiadau gwladwriaethol, gan gynnwys gweithgarwch ymchwiliol ac aflonyddgar, darparu cyngor a chymorth diogelwch i’r rheini (cymunedau, pobl a chwmnïau yn y DU a allai fod yn darged gweithgarwch mileinig a noddir gan wladwriaeth. Yn ogystal, mae CTP hefyd yn arwain ymchwiliadau i droseddau rhyfel, gan gynnwys cefnogaeth i’r Llys Troseddol Rhyngwladol ar droseddau rhyfel. Mae’n rheoli’r cyrchoedd cynyddol hyn gan ddefnyddio llawer o’r un galluoedd a ddefnyddir i atal terfysgaeth.

Labordy Gwyddoniaeth a Thechnoleg Amddiffyn (DSTL)

DSTL, sy’n rhan o’r Weinyddiaeth Amddiffyn, yw prif asiantaeth lywodraethol y DU o ran cymhwyso Gwyddoniaeth a Thechnoleg (S&T) i amddiffyn a diogelwch y DU. Mae DSTL yn dwyn ynghyd y gymuned S&T amddiffyn a diogelwch, gan gynnwys diwydiant, y byd academaidd, llywodraeth ehangach a phartneriaid rhyngwladol, i ddarparu gwasanaethau S&T sensitif ac arbenigol i’r Weinyddiaeth Amddiffyn a’r llywodraeth ehangach.

Yr Adran Addysg (DfE)

Mae DfE yn gyfrifol am wasanaethau plant ac addysg yn Lloegr, gan gynnwys y blynyddoedd cynnar, ysgolion, polisi addysg uwch ac addysg bellach, prentisiaethau, a sgiliau ehangach. Mae’r adran yn gyfrifol am waith i sicrhau bod pob dysgwr yn cael ei amddiffyn rhag y risg o radicaleiddio ac eithafiaeth trwy ddatblygu polisi ac arfer cenedlaethol. Mae’r Swyddfa Safonau mewn Addysg, Gwasanaethau Plant a Sgiliau (Ofsted) yn cefnogi’r gwaith hwn trwy fframwaith arolygu, rheoleiddio ac adrodd. Mae Ofsted yn arolygu sefydliadau ac unigolion sy’n darparu addysg, hyfforddiant a gofal – o warchodwyr plant i ddarparwyr hyfforddiant, ysgolion i awdurdodau lleol. Mae’r Swyddfa Myfyrwyr yn monitro’r hyn y mae darparwyr addysg uwch yn ei wneud i atal pobl rhag cael eu denu i derfysgaeth. Mae gan yr adran rôl i gefnogi awdurdodau lleol i gydymffurfio â’u dyletswyddau statudol i ddiogelu a hyrwyddo lles plant gan gynnwys o fewn gwasanaethau plant. Mae gan yr Adran rôl mewn cefnogi sefydliadau i weithredu Atal ac agweddau ar Amddiffyn a Pharatoi trwy helpu i sicrhau bod yr ystâd addysgol yn ddiogel a bod trefniadau ymateb i argyfwng effeithiol yn eu lle.

Yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC)

DHSC sy’n gyfrifol am gyfraniad y sector iechyd i CONTEST yn Lloegr. Mae hyn yn cynnwys cynnal a meithrin ein gallu i ymateb i achosion o anafiadau torfol, gan gynnwys digwyddiadau cemegol, biolegol, radiolegol a niwclear; a gweithredu dyletswydd Prevent yn y sector iechyd.

Yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau (DLUHC)

Mae DLUHC yn arwain agendaFfyniant Bro’r llywodraeth yn Lloegr, i lefelu cyfleoedd i bawb a chyflawni nod DLUHC i sefydlu cymunedau cryfach yn gymdeithasol ac yn economaidd. Gan weithio gyda phartneriaid lleol a rhannau eraill o’r llywodraeth, mae DLUHC yn canolbwyntio ar gryfhau cydnerthedd cymdeithasol trwy arwain gwaith ar wrth-eithafiaeth, cydlyniant/integreiddio, a mynd i’r afael â chasineb crefyddol. Mae’r llinynnau gwaith hyn yn cefnogi, ond ar wahân i, gyflwyno Prevent a CONTEST. Mae DLUHC yn helpu ardaloedd lleol i baratoi ar gyfer argyfyngau, ymateb iddynt ac ymadfer, ac mae’n darparu Swyddogion Cyswllt y Llywodraeth fel y cyswllt rhwng ymatebwyr lleol a COBR.

Yr Adran Drafnidiaeth (DfT)

Mae’r Adran Drafnidiaeth yn arwain polisi diogelwch trafnidiaeth tir, hedfan a morol y DU yn y DU ac mewn perthynas ag endidau trafnidiaeth y DU sy’n gweithredu dramor. Mae hyn yn cynnwys gosod a gorfodi’r safonau amddiffynnol y mae’n ofynnol i weithredwyr rheilffyrdd a threnau, meysydd awyr ac awyrennau, a phorthladdoedd a llongau yn y DU a thramor gydymffurfio â nhw (o ran cydymffurfio â safonau yn y sector hedfan yn y DU, mae’r broses hon yn cael ei sicrhau a’i gorfodi gan yr Awdurdod Hedfan Sifil), a darparu canllawiau diogelwch i’r sectorau bysiau a choetsys, a cherbydau masnachol. Mae’r Adran Drafnidiaeth yn gweithio gyda’r diwydiant trafnidiaeth, gorfodi’r gyfraith, a’r asiantaethau diogelwch i sicrhau bod risgiau’n cael eu deall a bod mesurau lliniaru wedi’u targedu, yn gymesur ac yn ymarferol. Mae DfThefyd yn gweithio gyda gwledydd partner a sefydliadau amlochrog, trwy ein rhwydwaith o staff tramor, i wella safonau diogelwch trafnidiaeth yn rhyngwladol.

Yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg (DSIT)

Mae DSIT yn arwain ar osod y DU ar flaen y gad o ran datblygiad gwyddonol a thechnolegol byd-eang. Mae hyn yn cynnwys arwain gwaith y llywodraeth i fynd i’r afael â gweithgarwch niweidiol ar-lein. Mae’r adran hefyd yn gyfrifol am berthynas gyffredinol y llywodraeth â’r diwydiant technoleg.

Gweinyddiaethau datganoledig

Mae’r gweinyddiaethau datganoledig yn gyfrifol yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon am y swyddogaethau sydd wedi’u datganoli iddynt yn unol â’u gwahanol setliadau datganoli. Mae gwrthderfysgaeth yn fater a gadwyd yn ôl, ond mae llawer o’r mecanweithiau cyflawni lleol, megis plismona a chyfiawnder yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac iechyd, addysg a llywodraeth leol yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi’u datganoli.

Dylid nodi hefyd bod yr Alban a Gogledd Iwerddon yn awdurdodaethau cyfreithiol ar wahân i Gymru a Lloegr, a bod yr Alban yn gweithredu system gyfreithiol wahanol. Yn yr Alban, yr Arglwydd Adfocad sydd â’r flaenoriaeth ar gyfer ymchwilio ac erlyn pob trosedd a marwolaeth sy’n digwydd yn yr Alban, gan gynnwys gweithredoedd terfysgol gyda’r heddlu’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd y Procuradur Ffisgal perthnasol ac, yng nghyd-destun digwyddiad mawr, byddai hyn yn golygu cyfarwyddyd personol gan yr Arglwydd Adfocad. Mae’r gweinyddiaethau datganoledig yng Nghymru a’r Alban yn gyfrifol am reoli canlyniadau yn dilyn ymosodiad, ac am wasanaethau a sectorau sy’n darparu agweddau ar Atal, Amddiffyn a Pharatoi mewn modd priodol a chymesur.

Y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO)

Yr Ysgrifennydd Tramor sy’n gyfrifol am bolisi tramor a datblygu’r DU a’r ddarpariaeth dramor, gan gynnwys elfennau rhyngwladol CONTEST. Mae FCDO a’i Rwydwaith Gwrthderfysgaeth ac Eithafiaeth dramor yn arwain ar gyflwyno strategaethau gwrthderfysgaeth y llywodraeth yn rhyngwladol. Mae’r Ysgrifennydd Tramor yn arwain ar ran llywodraeth y DU os bydd digwyddiad terfysgol yn ymwneud â gwladolion y DU dramor. Mae’r FCDO yn arwain ar fygythiadau tramor ac ymateb i argyfwng, gan gynnwys hysbysu’r cyhoedd am risgiau dramor trwy gynnal y cyngor teithio diweddaraf i ddinasyddion y DU. Mae’r FCDO yn helpu gwledydd i ddianc rhag cylchoedd o wrthdaro a thrais a’r amodau sy’n achosi terfysgaeth dramor trwy gymorth i gymdeithasau agored ac ymdrechion i fynd i’r afael â gwrthdaro ac ansefydlogrwydd, gan gynnwys trwy’r Gronfa Gwrthdaro, Sefydlogrwydd a Diogelwch. Mae hefyd yn darparu arweinyddiaeth ar gyfer y Glymblaid Fyd-eang yn Erbyn Cell Gyfathrebu Daesh sy’n gwrthsefyll propaganda Daesh. Yr Ysgrifennydd Tramor sy’n goruchwylio’r Gwasanaeth Cuddwybodaeth Cyfrinachol (SIS) a GCHQ ac mae’n atebol i’r Senedd am eu gweithgareddau drwy’r Pwyllgor Cuddwybodaeth a Diogelwch​.

Pencadlys Cyfathrebu’r Llywodraeth (GCHQ)

Mae GCHQ yn arbenigo mewn casglu, dadansoddi ac adrodd ar gyfathrebu a signalau electronig (SIGINT). Mae GCHQ yn bartner allweddol yn y Seiberlu Cenedlaethol, sy’n darparu galluoedd seiber ymosodol i helpu i gadw’r DU a’i buddiannau yn ddiogel. Mae GCHQ hefyd yn chwarae rhan ganolog yn seiberddiogelwch y DU – y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol yw’r rhan o GCHQ sy’n wynebu’r diwydiant, gan helpu i amddiffyn y DU a’i dinasyddion rhag ymosodiadau seiber.

Y Swyddfa Gartref

Yr Ysgrifennydd Cartref sy’n gyfrifol am CONTEST a’r Swyddfa Gartref yw’r adran arweiniol ar gyfer gwrthderfysgaeth fel rhan o Gynllun Cyflawni Canlyniadau’r llywodraeth. Mae Grŵp Diogelwch y Famwlad (HSG) yn y Swyddfa Gartref yn arwain ar gefnogi’r Ysgrifennydd Cartref i gyflawni ei gyfrifoldebau gwrthderfysgaeth. Mae hefyd yn darparu trosolwg o Blismona Gwrthderfysgaeth ac yn galluogi’r Ysgrifennydd Cartref i oruchwylio MI5; ac yn cydlynu’r ymateb i argyfyngau sy’n ymwneud â therfysgaeth.

  • Atal: Mae HSG yn arwain y gwaith o reoli a chyflawni gweithredol Prevent, mewn partneriaeth â Phlismona Gwrthderfysgaeth, adrannau eraill y llywodraeth, gweinyddiaethau datganoledig, awdurdodau lleol a sefydliadau cymdeithas sifil. Mae’n cydweithio â chwmnïau technoleg, partneriaid rhyngwladol a sefydliadau aml-randdeiliaid, gan gynnwys y Fforwm Rhyngrwyd Byd-eang i Wrthwynebu Terfysgaeth, i ddeall a gwrthsefyll naratifau terfysgol a lleihau radicaleiddio ar-lein.

  • Dilyn: HSG sy’n berchen ar y polisi ar gyfer, ac yn goruchwylio’r arfer o, gyfres o bwerau gwrthderfysgaeth aflonyddgar gan gynnwys gwahardd, y Trosedd Ardal Ddynodedig (DAO) a Mesurau Atal ac Ymchwilio i Derfysgaeth, yn ogystal â rhai pwerau mewnfudo y gellir eu defnyddio ar gyfer effaith gwrthderfysgaeth, megis eithrio ac amddifadedd. Mae HSG hefyd yn gyfrifol am reoli a lliniaru’r risg i’r DU gan bobl sy’n bwriadu teithio dramor at ddibenion terfysgaeth, a’r rhai sy’n ceisio dychwelyd o’r gwrthdaro. Mae HSG yn cefnogi’r Ysgrifennydd Cartref wrth iddynt oruchwylio’r Gwasanaeth Diogelwch a chraffu ar warantau, ac mae’n berchen ar y polisi cyffredinol ar gyfer sicrhau bod gan yr heddlu, asiantaethau cuddwybodaeth ac awdurdodau cyhoeddus eraill y pwerau ymchwilio angenrheidiol i amddiffyn y cyhoedd a diogelu diogelwch cenedlaethol. Mae HSG hefyd yn datblygu, gweithredu (fel y bo’n briodol) ac yn adolygu deddfwriaeth gwrthderfysgaeth.

  • Amddiffyn: Mae Grŵp Diogelwch y Famwlad yn gyfrifol am oruchwylio gwaith trawslywodraethol ar Amddiffyn. Mae’n rheoli’r polisi ar gyfer amddiffyn pobl a lleoedd, gan gynnwys amddiffyn y teulu brenhinol a VIPs, safleoedd o bwysigrwydd cenedlaethol hollbwysig, diogelwch mewn mannau gorlawn a rheoli sylweddau peryglus. Mae hefyd yn cydlynu diogelwch ffiniau a hedfan gyda’r heddlu, Llu’r Ffiniau, yr Adran Drafnidiaeth a’r Swyddfa Dramor, Cymanwlad.a Datblygu.

  • Paratoi: Grŵp Diogelwch y Famwlad sy’n cydlynu ac mae ganddo gyfrifoldeb cyffredinol am barodrwydd ac ymateb i ymosodiad. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod cynlluniau a galluoedd wedi’u profi ar waith i ymateb i’r risgiau sy’n ymwneud â therfysgaeth a diogelwch cenedlaethol a nodir yn yr Asesiad Risg Cenedlaethol, sy’n cwmpasu ystod o wahanol sefyllfaoedd ac amgylcheddau. Mae Grŵp Diogelwch y Famwlad hefyd yn goruchwylio rhaglen Gwyddoniaeth a Thechnoleggwrthderfysgaeth, sy’n ceisio nodi atebion gwyddoniaeth a thechnoleg arloesol i gefnogi CONTEST.

Trwy Llu’r Ffiniau, Fisâu a Mewnfudo’r DU, Gorfodi Mewnfudo a Swyddfa Basbort EF, mae’r Swyddfa Gartref yn gyfrifol am ddiogelwch ffiniau, gyda chymorth yr heddlu.

Wrth i’r her o ganfod ac amharu ar derfysgwyr posibl gynyddu, mae rôl y cyhoedd a diwydiant wedi dod yn fwyfwy pwysig – gan weithio ochr yn ochr â phartneriaid, mae Cyfathrebu’r Swyddfa Gartref yn chwarae rhan gynyddol bwysig o ran cyfathrebu am CONTEST a chefnogi gallu a pharodrwydd y sector cyhoeddus a phreifat i cyfrannu at yr ymateb ar y cyd. Mae Cyfathrebu’r Swyddfa Gartref yn gwneud hyn drwy gynnal trosolwg a chydlynu gweithgarwch cyfathrebu er mwyn sicrhau cysondeb ac ansawdd negeseuon sy’n cyrraedd y sector cyhoeddus a’r sector preifat.

Er mwyn cefnogi’r sector cyhoeddus a’r sector preifat ymhellach yn eu rôl, bydd Cyfathrebu’r Swyddfa Gartref yn cryfhau’r ffordd y mae’n cydgysylltu ac yn darparu cyfathrebiadau cyhoeddus sy’n ymwneud â gwrthderfysgaeth – mae hyn yn cynnwys mentrau cyfathrebu newydd ar Prevent yn cyrraedd y cyhoedd a’r sectorau, gan gefnogi synergeddau a gwelliannau pellach ar draws ymgyrchoedd cyfathrebu i sicrhau eu heffeithiolrwydd gyda chynulleidfaoedd, a hyrwyddo gwelliannau i ffynonellau gwybodaeth a phwyntiau cyswllt adrodd ar gyfer y sector cyhoeddus a phreifat.

Trysorlys EF (HMT)

Mae HMT yn cytuno ar gyllid gwrthderfysgaeth ac amddiffyniadau cyllidebol gydag Adrannau mewn adolygiadau gwariant ac yn gweithio’n agos gydag adrannau i sicrhau gwerth am arian mewn gwariant gwrthderfysgaeth, gan gynnwys cymeradwyo unrhyw addasiadau gwariant yn ystod y flwyddyn. Mae’n gweithio gyda Swyddfa’r Cabinet a’r Swyddfa Gartref ar yr ymarfer mapio gwrthderfysgaeth blynyddol a pherfformiad gwrthderfysgaeth. Y Trysorlys sy’n berchen ar berthynas y llywodraeth â’r Pool Reinsurance Company (Pool Re). Sefydlwyd Pool Re yn 1993 i ddarparu sicrwydd ar gyfer risg terfysgaeth yn dilyn cyfres o ymosodiadau terfysgol ym Mhrydain Fawr. Fe wnaeth Deddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch Ffiniau 2019 alluogi Pool Re i ymestyn yswiriant i gynnwys colledion amhariad busnes nad oeddent yn amodol ar ddifrod i eiddo, yn dilyn y bylchau darpariaeth a amlygwyd yn ymosodiadau Pont Llundain ac Arena Manceinion yn 2017. Mae hyn o fudd i fusnesau ac yn helpu i liniaru effaith ariannol ymosodiad terfysgol.

Mae HMT yn cyd-arwain ar ariannu gwrthderfysgaeth ochr yn ochr â’r Swyddfa Gartref. Maent yn arwain dirprwyaeth y DU i’r Tasglu Gweithredu Ariannol, sy’n gosod safonau rhyngwladol ar gyfer ariannu Gwrthderfysgaeth. Mae HMT hefyd yn berchen ar y gyfundrefn sancsiynau gwrthderfysgaeth ddomestig, yn ogystal â bod yn gyfrifol am weithredu’r holl sancsiynau ariannol, gan gynnwys y rhai o dan ddwy gyfundrefn sancsiynau gwrthderfysgaeth arall y DU sy’n eiddo i’r FCDO. Mae FCDO yn arwain ar gyflwyno cynigion dynodi gwrthderfysgaeth yn y Cenhedloedd Unedig, gan gynnwys o dan gyfundrefn sancsiynau Daesh ac al-Qa’ida.

Mae’r Swyddfa Gweithredu Sancsiynau Ariannol (OFSI) yn helpu i sicrhau bod sancsiynau ariannol yn cael eu deall, eu gweithredu a’u gorfodi’n gywir yn y DU (gan gynnwys holl sancsiynau gwrthderfysgaeth y Cenhedloedd Unedig a’r DU). OFSI sy’n berchen ar y broses gweithredu ac adolygu ar gyfer ystyried dynodiadau newydd ar gyfer cyfundrefn sancsiynau gwrthderfysgaeth domestig y DU (Rheoliadau Gwrthderfysgaeth (Sancsiynau) (Ymadael â’r UE) 2019).

Cyd-ganolfan Dadansoddi Terfysgaeth (JTAC)

JTAC yw awdurdod annibynnol y DU ar gyfer asesu terfysgaeth o bob ffynhonnell. Mae JTAC wrth galon system wrthderfysgaeth y DU ac mae’n chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi blaenoriaethu adnoddau gwrthderfysgaeth hollbwysig. Mae’n defnyddio ffynonellau agored a chudd i roi mewnwelediadau i gwsmeriaid gweithredol a pholisi sy’n llywio ymateb gwrthderfysgaeth y llywodraeth ar draws CONTEST, gartref a thramor. Mae JTAC yn gosod lefel bygythiad cenedlaethol y DU, gan lywio mesurau Amddiffyn a Pharatoi, ac yn darparu gwaith dadansoddi sy’n sail i ymdrechion gwrthderfysgaeth byd-eang y DU. Mae cyfansoddiad amlasiantaethol JTAC yn caniatáu iddo ddefnyddio ystod eang o wybodaeth a phrofiad er mwyn rhannu cyngor bygythiadau arbenigol ar draws y llywodraeth a diwydiant ac i gefnogi partneriaethau yn y DU a thramor.

Awdurdodau Lleol

Gyda’u cyfrifoldebau eang a’u hatebolrwydd democrataidd, mae awdurdodau lleol yn bartneriaid hanfodol i gyflawni amcanion CONTEST. Mae awdurdodau lleol yn gwneud gwaith amlasiantaethol i gydgysylltu gweithgarwch CONTEST a rheoli risg leol. Dylai pob awdurdod lleol hefyd ddefnyddio’r proffiliau lleol gwrthderfysgaeth presennol i asesu unigolion sydd mewn perygl o gael eu denu at derfysgaeth.

Y Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD)

Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn gyfrannwr allweddol i CONTEST trwy ei allu milwrol. Mae’n cefnogi Dilyn trwy ei allu i darfu ar grwpiau terfysgol dramor, megis Daesh yn Syria ac Irac, yn ogystal â thrwy feithrin gallu gwrthderfysgaeth ar gyfer cenhedloedd partner ledled y byd, a chymorth i asiantaethau gorfodi’r gyfraith a diogelwch tramor. Mae ei chymorth i waith atal gwrthdaro hefyd yn cyfrannu at amcanion CONTEST. Mewn achos o ymosodiad terfysgol sy’n fwy na gallu neu allu uniongyrchol ymateb awdurdod sifil y DU, gallai’r Weinyddiaeth Amddiffyn ddarparu cymorth i Baratoi drwy’r broses Cymorth Milwrol i’r Awdurdodau Sifil. Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn hefyd yn darparu ymateb gwrthderfysgaeth awyr 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn i ymateb i herwgipio posibl o fewn gofod awyr y DU.

MI5

Gwaith MI5 yw cadw’r DU yn ddiogel rhag bygythiadau diogelwch cenedlaethol. Mae ei waith yn canolbwyntio’n bennaf ar frwydro yn erbyn terfysgaeth a gweithgarwch gelyniaethus gan wladwriaethau eraill. Gan weithio’n agos gyda’r heddlu, asiantaethau cuddwybodaeth eraill a phartneriaid tramor, mae MI5 yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau – yn gudd ac yn agored – i ymchwilio ac amharu ar y rhai sy’n bwriadu achosi niwed i’r DU.

Y Weinyddiaeth Gyfiawnder (MOJ)

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cyfrannu at CONTEST yn bennaf ar draws Cymru a Lloegr drwy weithio gyda’i hasiantaethau a’i phartneriaid i reoli’r risgiau a berir gan derfysgwyr ar draws y System Cyfiawnder Troseddol: o ryngweithio â’r llysoedd, drwy reoli risg derfysgol yn y ddalfa, i oruchwyliaeth ddilynol ar drwydded. Ar unrhyw un adeg, gall asiantaeth weithredol y Weinyddiaeth Gyfiawnder, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi (HMPPS) fod yn delio â mwy na 200 o droseddwyr terfysgol mewn carchardai, yn ogystal â nifer tebyg yr aseswyd fel arall eu bod yn peri risg terfysgol. Bydd y mwyafrif helaeth yn cael eu rhyddhau o’r ddalfa yn y pen draw, ac felly mae gwaith y timau prawf yn hollbwysig er mwyn cadw’r cyhoedd yn ddiogel.

Ers cyfres o ymosodiadau terfysgol yn Fishmongers’ Hall, Streatham, CEF Whitemoor a Reading yn 2019-20, i gyd wedi’u cynnal gan droseddwyr, mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi ailwampio ei dull o fynd i’r afael â therfysgaeth. Er enghraifft, mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cryfhau’r gyfraith i sicrhau bod terfysgwyr yn treulio mwy o amser dan glo; wedi sefydlu canolfan gudd-wybodaeth ar y cyd newydd i gydlynu trefniadau rhannu cuddwybodaeth yn gyflymach ac yn well rhwng HMPPS, yr heddlu ac MI5, gan wella ein hasesiad o’r bygythiad; ac mae pob troseddwr terfysgol sy’n cael ei ryddhau ar drwydded bellach yn cael ei fonitro a’i reoli’n well trwy’r Adran Diogelwch Cenedlaethol newydd. Maent yn parhau i ysgogi diwygiadau i ymateb i’r bygythiad esblygol, gan gynnwys drwy’r set uchelgeisiol ac eang o ymrwymiadau mewn ymateb i adolygiad diweddar yr Adolygydd Annibynnol o Ddeddfwriaeth Terfysgaeth o derfysgaeth mewn carchardai.

Swyddfa Gogledd Iwerddon (NIO)

Mae’r NIO yn cefnogi Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon ac mae’n gyfrifol am gydlynu’r dull strategol o fynd i’r afael â’r bygythiad gan derfysgaeth sy’n gysylltiedig â Gogledd Iwerddon yng Ngogledd Iwerddon.

Awdurdod Diogelwch Amddiffynnol Cenedlaethol (NPSA)

Mae’r NPSA yn rhan o MI5 ac mae’n datblygu’r palet o wrth-fesurau ac yn darparu cyngor diogelwch amddiffynnol, ymgyrchoedd a hyfforddiant i fusnesau y gall sefydliadau eu defnyddio i amddiffyn eu hunain, a’r wlad, gan eu gwneud yn llai agored i niwed ac yn fwy cydnerth i fygythiadau diogelwch cenedlaethol, gan gynnwys terfysgaeth.

Gwasanaeth Cuddwybodaeth Cyfrinachol (SIS)

Mae SIS (neu MI6) yn defnyddio rhwydwaith cyfrinachol o asiantau a phartneriaid dramor i dreiddio i grwpiau terfysgol, canfod bygythiadau i’r DU a’n buddiannau ni, ac amharu ar y rheini mewn ffordd gyfreithlon. Maent yn gweithio’n gudd i ddiraddio sefydliadau terfysgol ac yn gwadu gofod gweithredu diogel iddynt dramor.

Atodiad B: Cyflawni nodedig ers 2018

Cyflawni gan Atal ers 2018

1. Rydym wedi gwreiddio Prevent yn gadarn yn y sector addysg yn Lloegr drwy ddarparu hyfforddiant, arweiniad a chymorth sydd wedi meithrin hyder uwch arweinwyr ysgolion i ymdrin â digwyddiadau diogelu sy’n ymwneud â therfysgaeth.

2. Rydym wedi gwella cysondeb ac effeithiolrwydd darpariaeth Sianel ledled y wlad drwy lansio Canllawiau Dyletswydd Sianel gwell yn 2020 a datblygu prosesau sicrhau ansawdd.

3. Yn 2021, fe wnaethom gyhoeddi cyngor anstatudol ychwanegol ar gyfer lleoliadau addysg ar reoli risg radicaleiddio, gan ddefnyddio arfer da a ddatblygwyd yn y blynyddoedd diwethaf. Mae gwefan Educate Against Hate y llywodraeth - sy’n arfogi’r sector â chanllawiau ac adnoddau ar fynd i’r afael â radicaleiddio - wedi cael ei defnyddio gan dros filiwn o bobl ers 2018, gyda dros 250,000 o lawrlwythiadau o’i hadnoddau.

4. Fe wnaethom ehangu’r Rhaglen Ymatal ac Ymddieithrio i gynnwys cymorth i garcharorion yn ogystal ag unigolion sy’n destun Mesurau Atal ac Ymchwilio i Derfysgaeth (TPIMS) a Gorchmynion Gwahardd Dros Dro (TEOs) , gan fwy na dyblu nifer y cyfranogwyr sy’n cael cymorth ers 2018.

5. Trawsnewidiwyd ein dull o fynd i’r afael â therfysgaeth mewn carchardai a’r gwasanaeth prawf drwy gryfhau’r gyfraith a buddsoddi yn ein galluoedd. Mae hyn yn cynnwys dull mwy cadarn o wahanu’r radicaleiddwyr mwyaf dylanwadol oddi wrth boblogaeth ehangach y carchardai, a gwell monitro a rheolaeth ar gyfer troseddwyr terfysgol a ryddhawyd ar drwydded drwy ein Hadran Diogelwch Cenedlaethol newydd.

6. Rydym wedi gweithio ag amrywiaeth o lywodraethau a phartneriaid rhyngwladol ac amlochrog i ddatblygu galluoedd Prevent wedi’u targedu dramor, gan gynnwys trwy ddarparu cyllid y DU i’r Gronfa Ymgysylltu a Chydnerthedd Cymunedol Fyd-eang a Hedayah i gyflwyno rhaglenni tramor. Er enghraifft, yn Nhiwnisia yn dilyn ymosodiadau Sousse yn 2015 pan fu farw 30 o wladolion y DU, buom yn gweithio mewn partneriaeth â llywodraeth Tiwnisia i ddatblygu system ymyrraeth gynnar ar gyfer pobl a oedd yn agored i radicaleiddio.

7. Rydym wedi gweithio gyda chwmnïau technoleg a sefydliadau cymdeithas sifil i leihau argaeledd cynnwys terfysgol a threisgar eithafol ar-lein. Mae hyn wedi cynnwys ymgysylltu â chwmnïau’n ddwyochrog, gan weithio drwy’r Fforwm Rhyngrwyd Byd-eang i Wrthwynebu Terfysgaeth a Galwad i Weithredu Christchurch i ysgogi ymateb traws-ddiwydiant mwy cadarn a chydgysylltiedig. Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth agos â Tech Against Terrorism i lansio Llwyfan Rhannu Gwybodaeth, gan roi’r gallu i gwmnïau technoleg fynd i’r afael â therfysgaeth ac atal camfanteisio ar eu gwasanaethau.

8. Yn ogystal, ers 2015 mae’r Uned Atgyfeirio Gwrthderfysgaeth ar y Rhyngrwyd wedi sicrhau bod dros 124,349 o ddarnau o gynnwys terfysgol wedi’u dileu ac wedi cymryd rhan mewn Diwrnodau Gweithredu Atgyfeirio a gydlynwyd gan Europol i frwydro yn erbyn cynnwys terfysgol ar-lein.

Cyflawni gan Ddilyn ers 2018

9. Rydym ni, ynghyd â’n partneriaid a’n cynghreiriaid, wedi symud Daesh o’r diriogaeth yr oeddent yn ei rheoli yn Syria ac Irac. Er nad yw’r bygythiad gan Daesh wedi diflannu, mae’r pwysau gwrthderfysgaeth parhaus a osodwyd gan luoedd arfog y DU a’n partneriaid a’n cynghreiriaid wedi gwadu i’r grŵp y gofod caniataol a’r seilwaith ffisegol a ddefnyddiwyd ganddynt i daflu bygythiad i’r DU pan oedd eu gallu ar ei uchaf. Ers 2018 mae’r Awyrlu wedi cynnal dros 130 o streiciau yn erbyn targedau Daesh yn Syria ac Irac, gan leihau’n uniongyrchol y risg o derfysgaeth i’r DU a’n buddiannau ni. Mae’r DU yn parhau i fod ag ymrwymiad i Ymgyrch INHERENT RESOLVE, y glymblaid ryngwladol i drechu Daesh, ac mae ganddi nifer o bersonél a galluoedd wedi’u dynodi i’r genhadaeth honno.

10. Rydym wedi cryfhau ein gallu i weithio ar draws ffiniau adrannol gan gynnwys agor CTOC. Mae CTOC yn dod â phartneriaid ynghyd o Blismona Gwrthderfysgaeth, yr asiantaethau cuddwybodaeth, a’r system cyfiawnder troseddol, yn ogystal ag asiantaethau eraill y llywodraeth sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â’r bygythiad gan derfysgaeth. Mewn ymateb i argymhellion yr OIR i MI5 rannu gwybodaeth yn ehangach, a gweithio gyda phartneriaid megis awdurdodau lleol ar sut i reoli unrhyw risg barhaus, sefydlodd y llywodraeth y Ganolfan Amlasiantaethol (MAC[footnote 74]), gan ddod ag arbenigedd o’r tu allan i’r gymuned wrthderfysgaeth ynghyd drwy weithio gyda phartneriaid anhraddodiadol i leihau’r risg a berir gan unigolion sy’n destun ymchwiliadau diogelwch cenedlaethol. Amlygodd Ymchwiliad Arena Manceinion bwysigrwydd ymateb brys cydgysylltiedig yn dilyn ymosodiadau terfysgol. Trwy fuddsoddiad cynyddol yn dilyn ymosodiadau terfysgol 2019-20, fe wnaethom hefyd sefydlu canolfan prawf a charchardai gwrthderfysgaeth ar y cyd i wella rhannu cuddwybodaeth rhwng HMPPS, yr heddlu ac MI5. Mae’r dull cydgysylltiedig newydd hwn yn gwella ein hasesiad o’r bygythiad gan y rhai sy’n cyflwyno risg derfysgol o fewn yr ystâd carchardai.

11. Rydym wedi parhau i ddatblygu ein cyrhaeddiad a’n dirnadaeth byd-eang trwy weithio’n barhaus gyda chynghreiriaid, yn arbennig y berthynas Five Eyes a phartneriaid Ewropeaidd. Mae hyn wedi cynyddu ein mynediad i ddefnyddio galluoedd a rennir ac wedi galluogi rhannu baich, gan ehangu ein gallu ar y cyd i weithredu. Rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid tramor i gryfhau eu galluoedd gwrthderfysgaeth a systemau cyfiawnder troseddol i ymdrin yn well â therfysgaeth yn effeithiol ac yn unol â safonau hawliau dynol, gan alluogi erlyniadau terfysgol mwy effeithiol ac, yn y broses, hwyluso datblygiad perthnasoedd gweithredol rhwng y DU a gwledydd cynnal.

12. Rydym wedi cymryd camau cryf yn erbyn grwpiau terfysgol, gan gyfyngu ar eu mynediad at gyllid, amharu ar eu gweithgarwch, a’u gwahardd o’r DU, gyda chwe grŵp wedi’u gwahardd ers 2018 gan gynnwys grwpiau terfysgol asgell dde eithafol megis Atomwaffen Division a’r Base.

13. Rydym wedi sicrhau bod ein deddfwriaeth gwrthderfysgaeth yn esblygu er mwyn cynnal ein gallu i darfu ar fygythiadau terfysgol sy’n newid yn gyson.

  • a. Fe wnaeth Deddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch Ffiniau 2019 gau bylchau mewn deddfwriaeth i sicrhau ei bod yn addas ar gyfer yr oes ddigidol ac yn adlewyrchu patrymau radicaleiddio cyfoes.
  • b. Yn dilyn yr ymosodiadau terfysgol yn Fishmongers’ Hall ac yn Streatham, gweithredodd y llywodraeth yn gyflym i ddod â Deddf Troseddwyr Terfysgaeth (Cyfyngu ar Ryddhau’n Gynnar) 2020 i rym a ddaeth â rhyddhau cynnar awtomatig i ben yn ôl-weithredol ar gyfer pob troseddwr terfysgol.
  • c. Fe wnaeth Deddf Gwrthderfysgaeth a Dedfrydu 2021 weithredu’r adnewyddiad mwyaf o ddedfrydu a monitro terfysgol ers degawdau, gan gynnwys mesurau i sicrhau bod troseddwyr terfysgol yn treulio mwy o amser yn y carchar ac ar drwydded.
  • d. Fe wnaeth Deddf Ffynonellau Cuddwybodaeth Ddynol (Ymddygiad Troseddol) 2021 osod ar sail statudol y gallu hirsefydlog awdurdodau cyhoeddus, yn bennaf yr asiantaethau cuddwybodaeth a chyrff gorfodi’r gyfraith, i awdurdodi ymddygiad troseddol gan CHIS.
  • e. Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd 2022, a oedd yn cynnwys darpariaethau i gryfhau’r gwaith o reoli troseddwyr terfysgaeth a throseddwyr risg derfysgaeth sydd ar drwydded, yn seiliedig ar argymhellion a wnaed gan yr Adolygydd Annibynnol o Ddeddfwriaeth Derfysgaeth (IRTL) yn dilyn ei adolygiad annibynnol o Drefniadau Amlasiantaethol i Ddiogelu’r Cyhoedd (MAPPA).
  • f. Trwy Ddeddf Cenedligrwydd a Ffiniau 2022, diwygiodd y llywodraeth Atodlen 7 o Ddeddf Terfysgaeth 2000, i ehangu pwerau gwrthderfysgaeth yr heddlu fel y gallant fod yn berthnasol i fynediad anghyfreithlon, megis cychod bach yn cyrraedd, a brosesir yn fewndirol.
  • g. Yn ddiweddar, rydym wedi cynnwys mesurau drwy’r Bil Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol (ECCT) i ddiwygio Deddf Gwrthderfysgaeth, Troseddu a Diogelwch 2001 (ATCSA) a Deddf Terfysgaeth 2000 (TACT) i gynnwys cryptoasedau ac eitemau sy’n ymwneud â chryptoasedau fel ‘asedau terfysgaeth’. Bydd hyn yn galluogi asiantaethau gorfodi’r gyfraith i atafaelu, rhewi, cadw a fforffedu cryptoasedau y maent yn ystyried eu bod wedi’u bwriadu at ddibenion terfysgol, fel y gallant ar hyn o bryd ar gyfer arian terfysgol ac asedau eraill.

14. Rydym wedi atgyfnerthu ein galluoedd a’n pwerau ymchwilio, fel y gallwn nodi ac amharu ar derfysgwyr yn fwy effeithiol. Ym mis Ebrill 2020, cymerodd MI5 flaenoriaeth lawn ar gyfer ERWT o Blismona Gwrthderfysgaeth fel yr argymhellwyd yn yr Adolygiad Gwella Gweithredol. Ym mis Hydref 2022 fe wnaethom ymrwymo i gytundeb Rhannu Data rhwng y DU a’r Unol Daleithiau[footnote 75] i sicrhau bod gan orfodi’r gyfraith fynediad cyflym ac effeithlon at y data sydd eu hangen arno i amharu ar weithgarwch terfysgol. [footnote 76], Mae’r cytundeb yn caniatáu i asiantaethau gorfodi’r gyfraith yn y DU ofyn yn uniongyrchol am ddata gan ddarparwyr telathrebu UDA i atal, canfod, ymchwilio ac erlyn troseddau difrifol, gan gynnwys terfysgaeth.

15. Yn dilyn ymosodiadau gan garcharorion y tu mewn i CEF Whitemoor, ymosodiadau 2019 Fishmongers’ Hall ac 2020 Streatham a Reading gan y rhai ar brawf, rydym wedi buddsoddi mewn galluoedd newydd sylweddol ym maes rheoli troseddwyr ac adsefydlua gweithio ar y cyd. Fe wnaethom sefydlu canolfan prawf a charchardai gwrthderfysgaeth newydd ar y cyd i wella rhannu cuddwybodaeth rhwng HMPPS, yr heddlu ac MI5. Mae’r dull cydgysylltiedig newydd hwn yn gwella ein hasesiad o’r bygythiad gan y rhai sy’n cyflwyno risg terfysgol o fewn yr ystâd carchardai. Mae HMPPS yn cymryd safiad rhagofalus ar reoli’r rhai sy’n cael eu rhyddhau o’r carchar; mae pob troseddwr terfysgol sy’n cael ei ryddhau ar drwydded bellach yn cael ei fonitro a’i reoli’n well gan unedau rhanbarthol arbenigol yn ein Hadran Diogelwch Cenedlaethol newydd. Rydym wedi dyblu nifer y swyddogion prawf gwrthderfysgaeth arbenigol, wedi gwneud pob troseddwr terfysgol ar brawf yn destun monitro electronig ac wedi cyflwyno profion polygraff sy’n darparu arf newydd pwerus wrth fonitro ymddygiad. Fodd bynnag, rydym yn parhau i fod yn wyliadwrus ac mae angen gwelliant parhaus i gadw i fyny â’r bygythiad sy’n datblygu’n barhaus.

Cyflawni gan Amddiffyn ers 2018

16. Rydym wedi cymryd camau tuag at wella diogelwch lleoliadau cyhoeddus. Ym mis Rhagfyr 2022, cyhoeddodd y llywodraeth gynigion i wella diogelwch mewn lleoliadau cyhoeddus: Ymateb uniongyrchol i’r gwersi o ymosodiad Arena Manceinion. Bydd Deddf Martyn yn cadw pobl yn ddiogel drwy gyflwyno gofynion diogelwch newydd cymesur ar gyfer lleoliadau cyhoeddus penodol er mwyn sicrhau eu bod yn barod ar gyfer ymosodiadau terfysgol ac yn cael eu hamddiffyn rhagddynt. Bydd lleoliadau cyhoeddus wedi’u paratoi’n well, yn barod i ymateb, a bydd eu staff yn gwybod beth i’w wneud os bydd ymosodiad terfysgol. Bydd Deddf Martyn yn egluro pwy sy’n gyfrifol am weithgarwch diogelwch mewn lleoliadau o fewn cwmpas, gan gynyddu atebolrwydd.

17. Rydym wedi cynyddu’r cyllid i amddiffyn cymunedau sydd mewn perygl rhag terfysgaeth a throseddau casineb. Ym mis Mawrth 2023, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cartref y byddai’r Grant Diogelwch Cymunedol Iddewig yn parhau ar gyfer 2023-24 a chynyddodd y cyllid i gyfanswm o £15 miliwn. Mae’r grant hwn yn darparu mesurau diogelwch amddiffynnol mewn ysgolion, colegau, meithrinfeydd Iddewig a rhai safleoedd cymunedol Iddewig eraill, yn ogystal â nifer o synagogau. Ym mis Mai 2022, dyrannwyd cyllid newydd o hyd at £24.5 miliwn i ddarparu diogelwch amddiffynnol mewn mosgiau ac ysgolion ffydd Mwslimaidd. Mae mosgiau hefyd wedi gallu gwneud cais i osod mesurau diogelwch ffisegol, gwarchod, neu’r ddau, trwy Gynllun Ariannu Diogelwch Amddiffynnol Mannau Addoli 2022-23. Dros saith mlynedd diwethaf y Cynllun Mannau Addoli, mae’r Swyddfa Gartref wedi cymeradwyo 523 o grantiau gwerth dros £19 miliwn ar gyfer gosod mesurau diogelwch amddiffynnol mewn mannau addoli ledled Cymru a Lloegr. Cyhoeddodd y llywodraeth gyllid pellach i bedwar sefydliad yn 2022 sy’n darparu cymorth ymarferol ac emosiynol i’r rhai yr effeithiwyd arnynt gan ymosodiadau terfysgol.

18. Rydym wedi gweithio i wella diogelwch Aelodau Seneddol. Yn dilyn llofruddiaeth drasig Syr David Amess AS mae’r Swyddfa Gartref yn parhau i weithio gyda’r Adran Ddiogelwch Seneddol a’r heddlu i weithredu’r argymhellion y cytunwyd arnynt gan yr Ysgrifennydd Cartref a’r Llefarydd, yn dilyn yr adolygiad o ddiogelwch ASau. Mae’r gwaith yn cynnwys darparu hyb amlasiantaethol pwrpasol a fydd yn asesu’r bygythiad, y bregusrwydd a’r risg y mae ASau unigol yn agored iddynt ac yn argymell y mesurau cywir i liniaru hyn.

19. Rydym wedi datblygu gallu gwrth-dronau cyntaf heddlu’r DU i fynd i’r afael â’r potensial cynyddol i dronau bach gael eu defnyddio fel arfau neu i hwyluso troseddu. Bydd Strategaeth Ddiogelwch Dronau ar ei newydd wedd yn cael ei chyhoeddi yn ddiweddarach eleni a bydd yn amlygu’r gwaith i wella ein galluoedd ymateb; lleihau gwendidau trwy wella diogelwch amddiffynnol; ac ymchwil a datblygu parhaus i sicrhau’r dechnoleg sydd ei hangen arnom. Mae’r DU yn cyd-arwain menter ryngwladol gyda’r Unol Daleithiau drwy’r Fforwm Gwrthderfysgaeth Byd-eang i atal defnydd terfysgol o Systemau Awyrennau Di-griw (UAS). Nod hwn yw gweithredu ymrwymiadau a wnaed ym Memorandwm Berlin GCTF.[footnote 77]

20. Mae gennym alluoedd gwell i ganfod ymdrechion terfysgol i wneud neu brynu ffrwydron cartref. O dan y Ddeddf Gwenwynau, rydym wedi cryfhau’r rheolaethau ynghylch mynediad at ragsylweddion ffrwydron. Yn 2018 fe wnaethom reoleiddio asid sylffwrig ac yn 2023 rydym wedi gosod is-ddeddfwriaeth a fydd yn gwella sut mae Adroddiadau Gweithgarwch Amheus yn cael eu llunio a’u defnyddio gan orfodi’r gyfraith i amddiffyn y cyhoedd yn well. Mae’r ddeddfwriaeth hon, a fydd yn cychwyn ym mis Hydref 2023, hefyd yn cynyddu nifer y rhagsylweddion a gwenwynau ffrwydron a reoleiddir a nifer y manwerthwyr sylweddau peryglus y mae’n ofynnol iddynt adrodd arnynt. Bydd hefyd yn ofynnol i fusnesau gofnodi gwybodaeth benodol wrth werthu rhagsylweddion ffrwydron rheoledig i ddefnyddwyr proffesiynol.

21. Rydym wedi gwella galluoedd canfod ffrwydron, yn arbennig mewn perthynas â chŵn canfod ffrwydron, yn y sector cyhoeddus a phreifat, gyda chynllun achredu sy’n sicrhau ansawdd y ddarpariaeth. Mae’r Cynllun Hyfforddi ac Achredu Cŵn Cenedlaethol – Y Diwydiant Diogelwch Preifat (NCTAS-P) yn rhoi hyder i weithredwyr safleoedd sy’n caffael ac yn defnyddio gwasanaethau cŵn canfod ffrwydron yn ansawdd y gwasanaethau hynny.

22. Rydym wedi cynyddu ymwybyddiaeth o’r rhwymedigaethau o dan y Ddeddf Gwenwynau drwy gyflwyno pecyn cyfathrebu i fanwerthwyr a phartneriaid yn y diwydiant ac rydym yn parhau i weithio’n agos gyda nhw i wella’r ffordd y maent yn nodi trafodion amheus ac yn darparu Adroddiadau Gweithgarwch Amheus. Rydym yn parhau i wella’r system sydd ar waith ar gyfer Adroddiadau Trafodion Amheus ac ers 2017, mae platfform newydd wedi’i roi ar waith sydd wedi gwella’r broses y mae manwerthwyr yn darparu adroddiadau rhagflaenol ar weithgarwch amheus drwyddi sydd yn ei dro yn hwyluso asesu ac ymchwilio cyflymach i drafodion amheus gan dîm Heddlu Gwrthderfysgaeth penodedig..

Cyflawni gan Baratoi ers 2018

23. Rhwng 2016 a 2021, cynyddodd nifer y swyddogion arfog yng Nghymru a Lloegr o tua 1,500. Cyflawnodd hyn 41 o Gerbydau Ymateb Arfog (ARVs) ychwanegol a chynnydd yn niferoedd Swyddogion Arfau Tanio Arbenigol Gwrthderfysgaeth (CTSFO). Yn 2022, lansiwyd ‘ProtectUK’, sef canolfan ganolog ar-lein sydd ar gael am ddim ar gyfer gwybodaeth, cyngor a hyfforddiant gwrthderfysgaeth.[footnote 78] Ers 2018, mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi buddsoddi dros £120 miliwn mewn rheoli o bell newydd a cherbydau arbenigol i gefnogi gwaredu bomiau milwrol.

24. Rydym wedi gwella ein hamddiffyniad o gymunedau a dioddefwyr terfysgaeth. Ers 2020, mae dros £1.6 miliwn wedi’i ddarparu i’r trydydd sector a darparwyr gofal iechyd i gynyddu’r cymorth ymarferol ac emosiynol i ddioddefwyr a goroeswyr terfysgaeth.

25. Yn 2021 cytunwyd ar setliad ariannu tair blynedd o £22 miliwn ar gyfer Fforymau Cydnerthedd Lleol (LRF) yn Lloegr gan ddechrau ym mlwyddyn ariannol 2022/23. Mae’r cyllid hwn yn ategu cyfraniadau partneriaid ac yn galluogi LRFs i adeiladu capasiti a gallu newydd. Cyhoeddwyd Fframwaith Cydnerthedd y Llywodraeth ym mis Rhagfyr 2022 gan ymrwymo’r llywodraeth i gryfhau arweinyddiaeth ac atebolrwydd LRFs, ac integreiddio cydnerthedd ar draws llunio polisïau lleol. Bydd y diwygiad hwn o gydnerthedd lleol yn cael ei dreialu erbyn 2025 a’i roi ar waith yn genedlaethol erbyn 2030.

  1. Diweddariad Adolygiad Integredig 2023: Ymateb i fyd mwy dadleuol ac anwadal - GOV.UK 

  2. Gweler Atodiad C. Yn seiliedig ar gylchoedd pleidleisio a gynhaliwyd rhwng Ionawr 2022 a Ionawr 2023. 

  3. Deddf Terfysgaeth 2000, Adran 1, Rhan 1. https://www.legislation.gov.uk/ukpga/2000/11/section/1 

  4. Oni nodir yn wahanol, nid yw’r ystadegau yn y ddogfen hon yn cynnwys terfysgaeth sy’n gysylltiedig â Gogledd Iwerddon (NIRT). Mae CONTEST yn mynd i’r afael â phob math o derfysgaeth sy’n effeithio ar y DU a’n buddiannau dramor, ac eithrio terfysgaeth sy’n gysylltiedig â Gogledd Iwerddon yng Ngogledd Iwerddon, sy’n gyfrifoldeb Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon. 

  5. Herwgipio De Affrica (Chwefror 2018); Amgaefa G4S Affganistan (Tachwedd 2018); Gwesty Nairobi (Ionawr 2019); Ymosodiadau Terfysgaeth Sri Lanka (Ebrill 2019); Gwesty Asasey, Somalia (Gorffennaf 2019); Palma, Mozambique (Mawrth 2021); Bomio Maes Awyr Kabul (Awst 2021); Gwesty Villa Rosa, Somalia (Tachwedd 2021), Gwesty Hayat, Somalia (Awst 2022); YLan Orllewinol (Ebrill 2023). 

  6. Ffigurau’n gywir ar Fis Gorffennaf 2023 

  7. García-Vera, M. P., Sanz, J., a Gutiérrez, S. (2016). Adolygiad systematig o’r llenyddiaeth ar anhwylder straen ôl-drawmatig mewn dioddefwyr ymosodiadau terfysgol. Adroddiadau Seicolegol, 119(1), 328-359. 

  8. Barker, A., a Dinisman, T. (2016). Diwallu anghenion goroeswyr a theuluoedd sydd wedi cael profedigaeth oherwydd terfysgaeth. Cymorth i Ddioddefwyr. https://www.victimsupport.org.uk/wp-content/uploads/documents/files/Victim%20Support_Meeting%20the%20needs%20of%20survivors%20and%20families%20bereaved%20thro…_0.pdf 

  9. Rhwydwaith Parodrwydd Gwrthderfysgaeth. (2019). Cymorth dyngarol a chymorth seicogymdeithasol. www.london.gov.uk/sites/default/files/ha_ps_report.pdf 

  10. Prisiau 2021. Amcangyfrif y Swyddfa Gartref – gweler Atodiad D am ragor o fanylion. 

  11. Gwasanaeth Ymchwil Senedd Ewrop a RAND Europe (2018). Y frwydr yn erbyn terfysgaeth: Adroddiad Cost Heb fod yn Ewrop. Asesiad EAV (europa.eu). Ffigurau wedi’u haddasu i brisiau 2021 mewn Punnoedd Sterling gan y Swyddfa Gartref – gweler Atodiad D am ragor o fanylion. 

  12. Diweddariad Adolygiad Integredig 2023: Ymateb i fyd mwy dadleuol ac anwadal - GOV.UK 

  13. O fis Mawrth 2023 ymlaen. Gweithredu pwerau’r heddlu o dan Ddeddf Terfysgaeth 2000 a deddfwriaeth ddilynol: Arestiadau, canlyniadau, a stopio a chwilio, Prydain Fawr, diweddariad chwarterol hyd at fis Mawrth 2023 – GOV.UK 

  14. Gelwir hefyd y Wladwriaeth Islamaidd yn Irac a’r Levant, ISIL, neu’r Wladwriaeth Islamaidd yn Irac ac al-Sham, ISIS. Mae llywodraeth y DU yn cyfeirio at y grŵp wrth yr acronym Arabeg Daesh, sy’n cael ei ddefnyddio gan wrthwynebwyr y grŵp oherwydd ei debygrwydd i’r ferf Arabeg “da’asa”, i sathru dan draed. 

  15. Mae troednodyn 1 ar dudalen 7 o’r Ymateb i’r Adolygiad Annibynnol o Atal yn nodi:

    “Mae rhai grwpiau’n dangos yn gyhoeddus ymddygiadau sy’n gwrthwynebu’r gwerthoedd a’r egwyddorion sy’n sail i’n cymdeithas, mae’r enghreifftiau isod yn enghreifftio hyn. Mae Hizb ut-Tahrir yn hyrwyddo’r Caliphate fel y system lywodraethu eithaf ac yn mynegi barn bod Islam yn sylfaenol anghydnaws â system ddemocrataidd ryddfrydol y Gorllewin. Mewn erthygl yn 2021 ar eu gwefan o’r enw ‘y frwydr fyd-eang a dychweliad anochel y Khalifah’, maen nhw’n datgan “Mae Mwslimiaid wedi cael eu niweidio gan syniadau anislamaidd sy’n atal dychweliad ein hawdurdod unigryw. Nid syniadau lefel arwynebol ac amlwg yn unig a welwn o’n cwmpas yw’r syniadau hyn ond cysyniadau sylfaenol â gwreiddiau dwfn o genedlaetholdeb, seciwlariaeth, rhyddfrydiaeth, ffeministiaeth, a democratiaeth.”

    Mae CAGE wedi ymgyrchu ar ran terfysgwyr a gafwyd yn euog, megis Afia Siddiqui a Munir Farooqi, ac mae’r grŵp wedi cyhoeddi neu wahodd radicaleiddwyr al-Qaeda i siarad yn ei ddigwyddiadau, megis Abu Hamza yn 2008, Anwar al-Awlaki yn 2009, ac Abu Qatada yn 2015. Mae uwch arweinwyr yn CAGE wedi dadlau o blaid cefnogi jihad treisgar dramor mewn cyd-destunau penodol, gan gynnwys mewn cyfweliad a gyhoeddwyd yn 2020, lle haerodd Cyfarwyddwr Allgymorth CAGE y safbwynt bod jihad yn cyfeirio at wrthdaro milwrol ac y bydd rhwymedigaeth grefyddol ar Fwslimiaid i “godi i’r alwad” mewn ymateb i ormes. Yn 2015, gan gyfeirio at fomio lori cyswllt al-Qaeda yn Syria, dywedodd Cyfarwyddwr CAGE wrth bwyllgor dethol seneddol y gall bomiau hunanladdiad fod yn “bris gwerth ei dalu”. Yn 2021, disgrifiodd Cyfarwyddwr Allgymorth CAGE sut y gwelwyd “rhai newidiadau cadarnhaol eisoes” ers i’r Taliban ddod i rym yn Affganistan. Ymhellach, yn 2015, dywedodd Cyfarwyddwr Ymchwil CAGE fod dienyddiwr ISIS, Mohammed Emwazi, yn “hynod dyner, caredig” ac yn “ddyn ifanc hardd”. Mae CAGE wedi labelu Mwslimiaid sy’n gweithio i frwydro yn erbyn eithafiaeth Islamaidd fel “hysbyswyr brodorol” yn ddifrïol. Yn 2015, gwrthododd Cyfarwyddwr Ymchwil CAGE gondemnio trais megis anffurfio organau cenhedlu benywod a llabyddio. Mae Patriotic Alternative yn galw am ‘ddychweliad’ gwirfoddol i’r rhai o ‘dras fewnfudwyr’ gan gynnwys y rhai sydd â phasbort Prydeinig ar hyn o bryd. Maent yn honni mai dim ond pobl wyn gyda chysylltiadau teuluol â’r DU sydd i gael eu hystyried yn Brydeinwyr. Fel rhan o’u ‘cynllun’, maen nhw’n datgan ar eu gwefan bod “pobl Prydain wedi eu gwneud o Saeson, Gwyddyl y Gogledd, Albanwyr a Chymry. Pobl frodorol y Deyrnas Unedig yw’r rhain a dim ond nhw sydd â hawl hynafol iddi”. Maen nhw hefyd yn datgan y byddan nhw’n “gwyrdroi pob polisi sy’n gwahaniaethu yn erbyn y bobl frodorol” a “bydd ataliad llwyr i bob mewnfudo oni bai fod amgylchiadau eithriadol”.Mae Mudiad Sosialaidd Cenedlaethol Prydain yn hyrwyddo sosialaeth genedlaetholgar fel y ffurf fwyaf priodol o lywodraethu yn y DU tra’n ymwrthod â gwerthoedd democrataidd ac yn parchu Natsïaeth. Yn 2019, fe bostiodd y grŵp ar eu gwefan fod “sosialaeth genedlaetholgar yn darparu ffynhonnell o feddwl uwch ac achos i ymgyrchu drosto, a dewis arall yn y dyfodol i ddemocratiaeth ryddfrydol ddirywiedig”. Mae’r grŵp hefyd wedi defnyddio ei gyfrif Telegram i ddathlu genedigaeth Adolf Hitler.” Adolygiad Annibynnol o adroddiad Prevent ac ymateb y llywodraeth - GOV.UK 

  16. Adolygiad Annibynnol o adroddiad Prevent ac ymateb y llywodraeth - GOV.UK 

  17. O fis Mawrth 2023 ymlaen. Gweithredu pwerau’r heddlu o dan Ddeddf Terfysgaeth 2000 a deddfwriaeth ddilynol: Arestiadau, canlyniadau, a stopio a chwilio, Prydain Fawr, diweddariad chwarterol hyd at fis Mawrth 2023 - GOV.UK 

  18. Troednodyn 1 ar dudalen 7 o’r Ymateb i’r Adolygiad Annibynnol o Prevent, a atgynhyrchir yn llawn uchod. Adolygiad Annibynnol o adroddiad Prevent ac ymateb y llywodraeth - GOV.UK 

  19. Er enghraifft, darparu cyfeiriad penodol, hyfforddiant, arian, arfau neu arbenigedd. 

  20. Er eu bod yn gymhleth, roedd ymosodiadau cyfeiriedig a drefnwyd gan grwpiau terfysgol Islamaidd dramor yn her barhaus i ymdrechion gwrthderfysgaeth, anogodd Daesh unigolion hefyd i gynnal ymosodiadau soffistigeiddrwydd isel yn eu gwledydd cartref, heb fod angen arweiniad y grŵp na chymeradwyaeth benodol. Nid dyma’r tro cyntaf i’r dull hwn gael ei hyrwyddo (e.e., Anwar al-Awlaki ar gyfer al-Qa’ida ym Mhenrhyn Arabia) ond roedd yr alwad hon yn atseinio’n arbennig gyda therfysgwyr Islamaidd yn y Gorllewin. 

  21. Mølmen, G. N., a Ravndal, J. A. (2021). Mechanisms of online radicalisation: how the internet affects the radicalisation of extreme-right lone actor terrorists. Behavioral Sciences of Terrorism and Political Aggression, 1-25 

  22. Marwick, A., Clancy, B., a Furl, K. (2022). Far-right online radicalization: A review of the literature. The Bulletin of Technology & Public Life. https://doi.org/10.21428/bfcb0bff.e9492a11 

  23. Dudenhoefer, A., et al. (2021). Leaking in terrorist attacks: A review. Aggression and Violent Behaviour, 58, Erthygl 101582. https://doi.org/10.1016/j.avb.2021.101582 

  24. Rottweiler, B., a Gill, P. (2022) Conspiracy beliefs and violent extremist intentions: The contingent effects of self-efficacy, self-control and law-related morality. Terrorism and Political Violence, 34(7), 1485-1504 

  25. Bartlett, J. a Miller, C. (2010) The Power of Unreason Conspiracy Theories, Extremism and Counter-terrorism, Demos. 

  26. Basit, A. (2021). Conspiracy Theories and Violent Extremism. Counter Terrorist Trends and Analyses 13(3), 1-9. 

  27. James A. Piazza. (2022). Fake news: the effects of social media disinformation on domestic terrorism, Dynamics of Asymmetric Conflict, 15:1, 55-77. 

  28. George Glover, ‘The Challenge of Understanding Terrorism in a New Era of Threat’, The RUSI Journal (Vol.168, No. 4, 2023), tt. 1-9, p.5. 

  29. George Glover, ‘The Challenge of Understanding Terrorism in a New Era of Threat’, The RUSI Journal (Vol.168, No. 4, 2023), tt. 1-9, p.5. 

  30. K.C. Hall, J., (2023). Terrorism Acts in 2021, Report of the Independent Reviewer of Terrorism Legislation on the Operation of the Terrorism Acts 2000 and 2006, and the Terrorism Prevention and Investigation Measures Act 2011. Independent Reviewer of Terrorism Legislation. https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/1140911/E02876111_Terrorism_Acts_in_2021_Accessible.pdf 

  31. O Fawrth 2023 ymlaen. Operation of police powers under the Terrorism Act 2000 and subsequent legislation: Arrests, outcomes, and stop and search, Great Britain, quarterly update to March 2023 - GOV.UK 

  32. Brooks, S. K., a Greenberg, N. (2021,Tachwedd). Mental health, complex needs and vulnerability to radicalisation. Department of Health and Social Care. DHSC Radicalisation Report - pdf.pdf (nihr.ac.uk) 

  33. Copeland, S., a Marsden, S. (2020, Tachwedd). The relationship between mental health problems and terrorism. Centre for Research and Evidence on Security Threats (CREST). The Relationship Between Mental Health Problems and Terrorism (crestresearch.ac.uk) 

  34. Operation of police powers under the Terrorism Act 2000 and subsequent legislation: Arrests, outcomes, and stop and search, Great Britain, quarterly update to March 2023 - GOV.UK 

  35. This includes those convicted of being engaged in terrorist activity – either through TACT or through other specified offences which the court has determined have a ‘terrorist connection’ – and those being held on remand (held in custody until a later date when a trial or sentence hearing will take place). 

  36. Marsden, S. and Copeland, S. (2020). Managing terrorism-related offenders in prison. Centre for Research and Evidence on Security Threats (CREST). Managing Terrorism-Related Offenders in Prison (crestresearch.ac.uk) 

  37. Marwolaeth Ddomestig Gyntaf o Derfysgaeth Islamaidd, ERWT neu LASIT ers 2000. 

  38. Wedi’i gyfrif amdano gan ddau ymosodiad, 7fed Gorffennaf 2005 a 2017 Arena Manceinion. 

  39. Mae 208 o ddinasyddion y DU wedi cael eu lladd mewn ymosodiadau terfysgol dramor ers 2001. Mae ymosodiadau o fewn y DU wedi lladd 99 o bobl (67 o ddinasyddion y DU) yn yr un cyfnod. 

  40. Thirtieth report of the UN Analytical Support and Sanctions Monitoring Team submitted pursuant to resolution 2610 (2021) concerning Daesh, Al-Qaida and associated individuals and entities https://daccess-ods.un.org/access.nsf/Get?OpenAgent&DS=S/2022/547&Lang=E 

  41. Data wedi’u cymryd o gudd-wybodaeth SITE 

  42. Mae technolegau dwfn yn seiliedig ar ddatblygiadau sylweddol neu arloesiadau peirianyddol, ond sy’n galw am gyfnod hwy o ddatblygiad a/neu fuddsoddiad cyfalaf sylweddol cyn eu cymhwyso’n fasnachol. Technolegau trawsnewidiol yw’r rhai sydd â’r potensial i gael effaith ar draws llawer o sectorau o’r economi, nid o fewn un sector yn unig. 

  43. Strategaeth AI Genedlaethol Llywodraeth EF 2021. National AI Strategy - GOV.UK 

  44. Mae CONTEST yn mynd i’r afael â phob math o derfysgaeth sy’n targedu’r DU a’n buddiannau dramor, ac eithrio terfysgaeth sy’n gysylltiedig â Gogledd Iwerddon yng Ngogledd Iwerddon, sy’n gyfrifoldeb Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon. 

  45. Pool Re yw un o ail-yswirwyr terfysgaeth mwyaf y DU. 

  46. Roedd rhaglen Future Aviation Security Solutions yn fenter pum mlynedd ar y cyd rhwng yr Adran Drafnidiaeth a’r Swyddfa Gartref, a sefydlwyd yn dilyn yr Adolygiad Amddiffyn a Diogelwch Strategol (SDSR 2015). 

  47. Partneriaeth rhannu gwybodaeth ag Awstralia, Canada, Seland Newydd ac UDA. 

  48. Bydd Cronfa Diogelwch Integredig y DU (UKISF) yn disodli’r Gronfa Gwrthdaro, Sefydlogrwydd a Diogelwch bresennol yn ffurfiol o fis Ebrill 2024, gyda chylch gwaith ehangach i ariannu prosiectau domestig a thramor i fynd i’r afael â rhai o’r heriau diogelwch cenedlaethol mwyaf cymhleth sy’n wynebu’r DU a ei bartneriaidhttps://www.gov.uk/government/news/new-fund-announced-to-support-uks-national-security-priorities. Yn unol â’r Adolygiad Integredig, bydd gwrthderfysgaeth yn parhau i fod yn ffocws i UKISF. 

  49. Wedi’i gyflwyno yn Neddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch2015 

  50. Neu Paneli AmlAsiantaeth Prevent (PMAP) yn yr Alban 

  51. O fis Mawrth 2022 yng Nghymru a Lloegr. Unigolion a gyfeirir at y Rhaglen Prevent ac a gefnogir drwyddi, Ebrill 2021 i Fawrth 2022 – GOV.UK 

  52. Bwriad y Rhaglen Ymatal ac Ymddieithrio (DDP) yw helpu i reoli’r risg o unigolion sydd wedi bod yn ymwneud â therfysgaeth neu weithgarwch sy’n ymwneud â therfysgaeth. Mae’r rhaglen yn gweithio i leihau’r risg y maent yn ei pheri i’r DU drwy ddarparu cymorth adsefydlu un wrth un gan ddefnyddio darparwyr ymyriadau arbenigol. Nid yw DDP yn berthnasol yn yr Alban ar hyn o bryd. 

  53. Mae’r GIFCT yn dod â’r diwydiant technoleg, y llywodraeth, cymdeithas sifil, a’r byd academaidd ynghyd i feithrin cydweithredu a rhannu gwybodaeth er mwyn atal gweithgarwch terfysgol a threisgar ar-lein. 

  54. Mae Galwad i Weithredu Christchurch yn gymuned o dros 120 o lywodraethau, darparwyr gwasanaethau ar-lein, a sefydliadau cymdeithas sifil yn cydweithio i ddileu cynnwys eithafol terfysgol a threisgar ar-lein. 

  55. Mae carchardai wedi’u datganoli yn yr Alban ac nid yw’r cynnig gan y Ganolfan Asesu ac Adsefydlu Gwrthderfysgaeth yn cael effaith yn yr Alban. 

  56. O fis Mawrth 2023 ymlaen. Gweithredu pwerau’r heddlu o dan Ddeddf Terfysgaeth 2000 a deddfwriaeth ddilynol: Arestiadau, canlyniadau, a stopio a chwilio, Prydain Fawr, diweddariad chwarterol hyd at fis Mawrth 2023 – GOV.UK 

  57. DG MI5 Ken McCallum –Diweddariad Bygythiad, Tachwedd 2022 

  58. Fel y nodir ym mharagraff 60 

  59. Fel y nodir ym mharagraff 145 

  60. Mae hyn yn cynnwys y Tasglu Model Sylfaen, a fydd yn datblygu defnydd diogel a dibynadwy o’r AI hwn ar draws yr economi. £100 miliwn cychwynnol ar gyfer tasglu arbenigol i helpu’r DU i adeiladu a mabwysiadu’r genhedlaeth nesaf o AI diogel - GOV.UK 

  61. Seilwaith Cenedlaethol Hanfodol - NPSA 

  62. Gan Swyddfa Diogelwch Gwrthderfysgaeth Genedlaethol yr Heddlu (NaCTSO). 

  63. Megis y Sefydliad Hedfan Sifil Rhyngwladol (ICAO) a’r Sefydliad Morol Rhyngwladol 

  64. Megis diwygiadau 2023 i’r Ddeddf Gwenwynau a gynlluniwyd i gryfhau ymhellach y rheolaethau ar ragflaenwyr ffrwydron a gwenwynau. Rheoliadau Rheoli Rhagsylweddolion Ffrwydron a Gwenwynau 2023 (legislation.gov.uk) 

  65. Cyclamen yw’r enw ar y galluoedd canfod radiolegol a niwclear a ddefnyddir ar bwyntiau mynediad i’r DU 

  66. Mae’r NPSA a ProtectUK (cydweithrediad rhwng y Swyddfa Gartref, Plismona CT a Pool Re) yn darparu arweiniad a chefnogaeth i baratoi ar gyfer ymosodiad Ynglŷn â - ProtectUK. 

  67. Mae Fforymau Lleol Cymru Gydnerth (LFRs) yn bartneriaethau amlasiantaeth sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r gwasanaethau cyhoeddus lleol, gan gynnwys y gwasanaethau brys, awdurdodau lleol, y GIG, Asiantaeth yr Amgylchedd ac eraill. Gelwir yr asiantaethau hyn yn Ymatebwyr Categori 1, fel y’u diffinnir gan y Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl. Mae Fforymau Lleol Cymru Gydnerth yn ceisio cynllunio a pharatoi ar gyfer digwyddiadau lleol ac argyfyngau trychinebus. Maent yn gweithio i nodi risgiau posibl ac yn cynhyrchu cynlluniau brys i naill ai atal neu liniaru effaith unrhyw ddigwyddiad ar eu cymunedau lleol. Mae trefniadau lleol yn wahanol yn yr Alban a Chymru. 

  68. www.mi5.gov.uk/threat-levels 

  69. Mae arolygon barn cyhoeddus wedi dangos er bod unigolion yn hyderus i raddau helaeth yn gwybod ble i adrodd am weithgarwch neu bryderon amheus, mae gwybodaeth yn anghyson ar draws gwahanol sefyllfaoedd (gweler Atodiad C am ragor o fanylion) 

  70. The Single Intelligence Account (SIA) provides funding for the Secret Intelligence Service (SIS), Government Communications Headquarters (GCHQ) and the Security Service (Mi5). Resource is allocated against priority, which includes counter-terrorism and broader national security threats. 

  71. HM Government. (2022, November). The evaluation task force strategy 2022 – 2025. The Evaluation Task Force Strategy 2022 - 2025 (HTML) - GOV.UK 

  72. HM Treasury. (2020, March). The magenta book. The Magenta Book - GOV.UK 

  73. HM Treasury. (2022, November). The green book. The Green Book (2022) - GOV.UK 

  74. Mae’r Ganolfan Amlasiantaethol (MAC) yn gweithio drwy ddarparu dull amlasiantaethol wedi’i dargedu at leihau’r tebygolrwydd y bydd unigolion yn ymgysylltu a/neu’n ail-ymgysylltu â therfysgaeth, drwy rannu gwybodaeth ag ystod ehangach o bartneriaid i nodi a chyflawni rheolaeth risg amlasiantaethol. ac ymyriadau. 

  75. Cytundeb Mynediad Data: datganiad ar y cyd gan yr Unol Daleithiau a’r DU - GOV.UK 

  76. Taflen Ffeithiau: Y Rhaglen Ymatal ac Ymddieithrio - GOV.UK 

  77. Fforwm Gwrthderfysgaeth Byd-eang: Memorandwm Berlin ar Arferion Da ar gyfer Atal Defnydd Terfysgaeth o Systemau Awyr Di-griw - www.theGCTF.org 

  78. Mae ProtectUK yn gydweithrediad rhwng y Swyddfa Gartref, Plismona Gwrthderfysgaeth a Pool Reinsurance