Canllawiau

Cynllun Iaith Gymraeg yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd

Sut y bydd yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd yn trin yr ieithoedd Cymraeg a Saesneg yn gyfartal wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Dogfennau

Cynllun yr Iaith Gymraeg

Manylion

Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn ei gwneud yn ofynnol i bob corff cyhoeddus baratoi a mabwysiadu cynllun iaith Gymraeg.

Mae Cynllun Iaith Gymraeg yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd wedi cael ei gymeradwyo gan y Comisiynydd Iaith ac fe’i mabwysiadwyd yn ffurfiol ar 18 Mawrth 2015.

Mae’r cynllun hwn yn nodi’r hyn y mae’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd yn ei wneud i sicrhau bod yr ieithoedd Cymraeg a Saesneg yn cael eu trin yn gyfartal pan fyddwn yn darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Cyhoeddwyd ar 24 April 2015