Ymchwil a dadansoddi

Adroddiad blynyddol ar weithrediad marchnad fewnol y du 2023 i 2024

Cyhoeddwyd 20 March 2024

Rhagair cadeirydd panel yr oim

Mae’n bleser gennyf gyflwyno ail adroddiad blynyddol yr OIM, sy’n cynnwys datblygiadau ym marchnad fewnol y DU o Ebrill 2023 i Fawrth 2024.

Rwy’n arbennig o falch cael croesawu’r penodiad i Banel yr OIM, i ymuno â’n gwaith o ran ystyried gweithrediad effeithiol masnach rhwng gwledydd y DU. Mae gan aelodau’r Panel gyfoeth o brofiad o bob cwr o’r DU, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gael gweithio gyda nhw. Roedd penodi’r Panel yn cyd-fynd â datblygu’r adroddiad hwn, ac rydym yn ddiolchgar am eu cyfraniad a’u mewnwelediad i’n hadroddiadau statudol.

Yn fy rhagair i adroddiad y llynedd, nodais bwysigrwydd yr angen i gasglu tystiolaeth gan amrywiaeth eang o randdeiliaid i lywio ein gwaith. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r OIM wedi rhoi rhaglen reolaidd ar waith o gyfarfodydd dwyochrog ac amlochrog, i gryfhau ein cysylltiadau â swyddogion yn y pedair llywodraeth. Rwy’n dal i fod yn llawn edmygedd o ddulliau gweithio adeiladol a chydweithredol swyddogion yn y llywodraethau, ynghyd â’u haelioni o ran darparu gwybodaeth a chyfranogi mewn trafodaethau. Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i gefnogi penderfyniadau a wneir o fewn y llywodraethau, gyda chyngor teg a dealltwriaeth. Edrychwn ymlaen at gwblhau rhagor o adroddiadau ar gais y llywodraethau maes o law.

Rhywbeth arall i’w nodi eleni yw ymgysylltiad yr OIM â’r deddfwrfeydd. Ym Mehefin 2023, roeddwn yn falch o gael fy ngwahodd i roi tystiolaeth ar waith yr OIM i Bwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Senedd Cymru. Dilynwyd hyn ym mis Medi gan sesiwn dystiolaeth ar adroddiad blynyddol cyntaf yr OIM, gyda Phwyllgor Cyfansoddiad, Ewrop, Materion Allanol a Diwylliant Senedd yr Alban. Yn fwyaf diweddar, darparwyd tystiolaeth ysgrifenedig gennym ar gylch gorchwyl yr OIM i Is-bwyllgor Tŷ’r Arglwyddi ar Fframwaith Windsor. Ym Mehefin 2023, darparodd swyddogion yr OIM sesiwn briffio wyneb yn wyneb anffurfiol i Aelodau Cynulliad Gogledd Iwerddon, a chyflwynwyd sesiwn briffio ar wahân ganddynt i staff Cynulliad Gogledd Iwerddon. Mae’r OIM yn ddiolchgar am gyfleoedd i ymgysylltu â’r pedair deddfwrfa, ac mae’n barod i gynorthwyo â’u gwaith.

Mae’r adroddiad hwn yn adlewyrchu esblygiad parhaus ein syniadau yng nghyswllt gweithrediad effeithiol marchnad fewnol y DU. Ochr yn ochr â’n hymgysylltiad â llywodraethau a deddfwrfeydd, rwyf wedi ymgysylltu’n helaeth â grwpiau busnes ar hyd a lled y DU. Yn 2023, cynhaliwyd cyfarfodydd wyneb yn wyneb gennyf â grwpiau busnes yng Ngogledd Iwerddon ym mis Ionawr a Chwefror, yng Nghymru ym mis Mawrth, ac yn yr Alban ym mis Mehefin. Rydym hefyd yn ddiolchgar i’r nifer o fusnesau a chyrff masnach sydd wedi cyfrannu at y dystiolaeth a gyflwynir yn yr adroddiad hwn. Mae’r ymagwedd ddefnyddiol ac agored hon o ran busnesau yn cael ei hadlewyrchu’n arbennig yn yr astudiaethau achos yng nghyswllt strategaethau busnes a gynhwysir yn yr adroddiad. Mae’r rhain yn archwilio ymatebion i bedwar maes lle mae gwahaniaethau rheoliadol arwyddocaol wedi codi, neu lle gallant godi yn y dyfodol, rhwng y gwledydd.

Mae’r sylw a roddir gennym i ymgysylltu â rhanddeiliaid wedi ein cynorthwyo i ddatblygu ein hadroddiadau statudol. Nodwyd gennym yn adroddiad y llynedd y pwyslais ar ddatblygiadau rheoliadol yng nghyswllt nwyddau, ynghyd â’r diffyg newid cymharol o ran sectorau gwasanaeth neu broffesiynau rheoledig. Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys dadansoddiad estynedig o’r ddau faes hwn, er mwyn ehangu cwmpas ein gwaith o ran deall effeithiau Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020.

Ochr yn ochr ag adroddiadau’r llynedd, cyhoeddwyd ein Map Ffordd Strategaeth Ddata, sy’n nodi mentrau i wella data ynghylch masnachu oddi mewn i’r DU. Trwy gydol y flwyddyn, rydym wedi parhau i ymgysylltu â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, arbenigwyr yn y gwledydd datganoledig, y gymuned academaidd a chydweithwyr sy’n gweithio gyda data masnachu mewn gwledydd eraill, i archwilio ffynonellau data newydd, ynghyd â thechnegau i wella ein dadansoddiad. Byddwn yn cyhoeddi diweddariad i’n Map Ffordd Strategaeth Ddata yng ngwanwyn 2024.

Byddwn yn parhau i ddatblygu ein barnau am y ffactorau sy’n sail i weithrediad effeithiol marchnad fewnol y DU, ac yn croesawu adborth ar yr adroddiad hwn.

Hoffwn estyn fy niolch i’r staff yn yr OIM a’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) ehangach am eu gwaith arbenigol a hyddysg wrth ddatblygu’r adroddiad hwn, ynghyd ag am eu cefnogaeth barhaus i sicrhau y gall aelodau Panel yr OIM gyfrannu’n effeithiol i’n dealltwriaeth o farchnad fewnol y DU.

Murdoch MacLennan

Cadeirydd Panel Swyddfa’r Farchnad Fewnol

Crynodeb gweithredol

Yr adroddiad hwn yw ail adroddiad blynyddol Swyddfa’r Farchnad Fewnol ar weithrediad y Farchnad Fewnol. Mae’n ymdrin â’r cyfnod o Ebrill 2023 i Fawrth 2024 ac yn adeiladu ar ein gwaith blaenorol.

Canfyddiadau allweddol

Gan archwilio’r data sydd ar gael gwelwn mai ychydig iawn o dystiolaeth a gawn, dros y flwyddyn ddiwethaf, o newid sylweddol yn y modd y mae’r farchnad fewnol yn gweithredu ledled y DU. Er hyn, mae rhai sectorau, yn enwedig bwyd a diod, wedi gweld cynnydd mwy sylweddol o ran gwahaniaethau rheoliadol arfaethedig a gwirioneddol na sectorau eraill.

Bydd masnach rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn parhau i ddatblygu yng ngolau Fframwaith Windsor, er bod natur y datblygiadau hyn yn dal i fod yn aneglur, gan nad oedd y Fframwaith ond wedi’i weithredu’n rhannol dros y flwyddyn ddiwethaf, ac o ran y data sydd ar gael ar fasnachu nid yw’n cynnwys y cyfnod y bu’n weithredol. Ar ben hynny, ar 31 Ionawr 2024, cyhoeddodd y Llywodraeth Bapur Gorchymyn, “Safeguarding the Union”, sy’n gwneud rhai addasiadau i Fframwaith Windsor. Byddwn yn gweithio gyda’r llywodraethau i gael deall goblygiadau’r Papur Gorchymyn (ac Offerynnau Statudol perthnasol) ar gyfer ein gwaith.

Data Masnach

Mae Pennod 2 o’r adroddiad hwn yn cyflwyno ein dadansoddiad diweddaraf o’r data ar fasnach oddi mewn i’r DU. Mae’r tueddiadau a nodwyd yn adroddiad blynyddol 2022 i 2023 yn dal i fod yn gymharol sefydlog. Mae’r farchnad fewnol yn dal i fod yn bwysig i wledydd y DU. Mae ein dadansoddiad o ddata masnach a gynhyrchwyd gan y gwledydd datganoledig yn dangos, yn fras, bod masnach oddi mewn i’r DU, yn 2021, yn cynrychioli rhwng dwy ran o bump a dwy ran o dair o werthiannau a phryniannau allanol Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae masnach oddi mewn i’r DU yn dal i fod yn llai pwysig ar gyfer Lloegr oherwydd maint ei heconomi o gymharu â’r gwledydd eraill.

Yn ein hadroddiad blynyddol ar gyfer 2022 i 2023, canfuwyd gennym, o ran y mwyafrif o fusnesau sy’n masnachu oddi mewn i’r DU, nad ydynt yn profi heriau wrth werthu i wledydd eraill y DU. Ac mae’n dal i fod felly, gyda’r mwyafrif o gwmnïau’n ymateb i’r Arolwg o Fewnwelediadau ac Amodau Busnes (BICS) y Swyddfa Ystadegau Gwladol gan ddweud nad oeddynt wedi dod ar draws unrhyw heriau o ran masnachu oddi mewn i’r DU.

Yn ôl tystiolaeth BICS, yn gyffredinol, mae busnesau yn y sectorau masnach gweithgynhyrchu a chyfanwerthu a manwerthu, yn ogystal â busnesau mwy, yn fwy tebygol o fasnachu â gwledydd eraill y DU.

Yn adroddiad eleni, defnyddiwn ddata ychwanegol gan BICS a CThEF i gael gwell dealltwriaeth o lifau masnach rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon. Mae data BICS yn awgrymu bod cyfartaledd o 4.5% o fusnesau wedi dweud eu bod wedi anfon nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon yn y 12 mis diwethaf. Er mai dim ond cyfran fechan yw hon o’r holl fusnesau, roedd gwerth y fasnach a oedd yn rhan o hyn yn fwy sylweddol; yn 2021, roedd gwerth y datganiadau tollau a oedd yn gysylltiedig â’r llifau masnach hyn yn cynrychioli tua 24% o Gynnyrch Domestig Gros Iwerddon. Dengys data BICS hefyd bod llai na 2% o fusnesau wedi anfon nwyddau o Ogledd Iwerddon i Brydain Fawr yn y 12 mis diwethaf.

Mae’n ofynnol i ni adrodd ynghylch gweithrediad effeithiol y farchnad fewnol. Nodwyd gennym yn adroddiad blynyddol 2022 to 2023 ein bod yn defnyddio data ynghylch masnach oddi mewn i’r DU fel dangosydd allweddol, i helpu i ddeall sut mae’r farchnad yn gweithio. Mae data ynghylch masnach oddi mewn i’r DU yn dal i fod yn gyfyngedig, ac mae ein dadansoddiad yn darparu trosolwg cymharol, gan ddefnyddio’r ffynonellau sydd ar gael. Rydym yn dal i fod yn ymroddedig i gefnogi data gwell ynghylch masnachu, gan gynnwys trwy’r mentrau o fewn ein map llywio strategaeth ddata. Disgwyliwn y bydd amcangyfrifon o fasnach oddi mewn i’r DU, sy’n cynnwys pob un o’r pedair gwlad, ar gael erbyn hydref 2024. Rydym yn parhau i  archwilio dangosyddion eraill, a byddwn yn cyhoeddi diweddariad ar ein map llywio strategaeth ddata yn nes ymlaen, yn ystod gwanwyn 2024.

Datblygiadau rheoliadol ym meysydd nwyddau, gwasanaethau a’r proffesiynau a reoleiddir

Mae Pennod 3 yn ystyried datblygiadau rheoliadol dros y deuddeng mis blaenorol mewn perthynas â nwyddau, gwasanaethau a phroffesiynau a reoleiddir. Dros y flwyddyn ddiwethaf, gwelwyd cynnydd gennym yn nifer y rheoliadau sydd efallai yn wahanol, o gymharu â’r flwyddyn flaenorol, mewn perthynas â nwyddau, gwasanaethau a’r proffesiynau a reoleiddir. Dros y flwyddyn ddiwethaf, y sector nwyddau a welodd y datblygiadau mwyaf arwyddocaol o ran gwahaniaethau rheoliadol o fewn cwmpas cyfundrefn marchnad fewnol y DU. Ar gyfartaledd, mae’r sector nwyddau’n fwy tebygol o weld gwahaniaethau rheoliadol na’r sector gwasanaethau a’r proffesiynau a reoleiddir. Adlewyrchir hyn mewn nifer uwch o reoliadau gwahanol nag ym maes gwasanaethau neu mewn perthynas â phroffesiynau a reoleiddir. Er hyn, mae effeithiau’r newidiadau hyn ar y farchnad fewnol yn dal i fod yn gymharol fach, yn rhannol oherwydd y penderfyniadau a wnaed gan fusnesau o ran y modd y maent yn ymateb i reoliadau gwahanol, y byddwn yn eu harchwilio’n fanylach yn yr astudiaethau achos o fewn yr adroddiad hwn.

Mae gwahaniaethau rheoliadol yng nghyswllt gwasanaethau yn dechrau ymddangos, ond nid i’r un graddau ag o ran nwyddau. Mae’n rhy fuan i ganfod unrhyw effeithiau clir mewn perthynas â nwyddau o fewn y farchnad fewnol. Nodir yn arbennig bod y ddarpariaeth leol o lawer o wasanaethau yn cymhlethu asesiad o’r modd y gall gwahaniaethau rheoliadol effeithio masnach; mae gwahaniaethau sy’n effeithio gwasanaethau a ddarperir yn lleol, ac nad ydynt fyth bron yn cael eu masnachu ar draws ffiniau, yn annhebygol o gael effaith sylweddol ar y farchnad fewnol. Er y pwyntiau hyn, mae graddfa llawer mwy y sector gwasanaethau, o leiaf mewn egwyddor, yn golygu bod lle i wahaniaethau rheoliadol yng nghyswllt gwasanaethau fod mor bwysig, yn nhermau gwerth y gweithgareddau a effeithir, â gwahaniaethau rheoliadol mewn perthynas â nwyddau.

Ni chynigiwyd ond nifer fechan o wahanol reoliadau dros y flwyddyn ddiwethaf yng nghyswllt proffesiynau a reoleiddir, yr oedd pob un yn deillio o greu proffesiynau newydd a reoleiddir (yn hytrach na newidiadau i’r rheoliadau sy’n rheoli proffesiynau a reoleiddir ar hyn o bryd). Mae’r cynigion presennol ar gyfer proffesiynau newydd a reoleiddir yn ymwneud yn bennaf â phroffesiynau a chanddynt fawr o bosibiliadau o ran masnachu trawsffiniol. Down i’r casgliad mai ychydig iawn o newid a fu i weithrediad y farchnad fewnol ar gyfer gweithwyr proffesiynol ers i Ddeddf Marchnad Fewnol y DU ddod i rym. Ymddengys nad yw hyn yn debygol o newid yn y dyfodol agos, o ystyried, yn hanesyddol, pa mor araf y mae newidiadau rheoliadol yn digwydd ym maes y proffesiynau a reoleiddir.

Astudiaethau achos o’r modd y mae busnesau’n addasu i wahanol reoliadau

Mae Pennod 4 yn cyflwyno astudiaethau achos yng nghyswllt strategaethau busnes. Mae’r rhain yn edrych ar bedwar maes lle cafwyd gwahaniaethau rheoliadol, neu ym mhle y byddent efallai’n digwydd yn y dyfodol agos. Mae’r astudiaethau achos yn archwilio’r dulliau a fabwysiadwyd gan fusnesau mewn ymateb i’r gwahaniaethau. Y pedair astudiaeth achos yw: gwaharddiadau ar eitemau plastig untro (SUP), cynlluniau dychwelyd ernes (DRS), cyfyngiadau ar allu manwerthwyr i hyrwyddo cynhyrchion sy’n uchel mewn braster, halen neu siwgr (HFSS), a rheoliadau yng nghyswllt y defnydd o dechnegau bridio manwl (PB). Dewiswyd y meysydd hyn gennym oherwydd y graddau y maent yn debygol o greu gwahaniaethau rheoliadol, ac oherwydd eu bod yn darparu ystod eang o reoliadau sy’n effeithio gwahanol gamau o fewn y gadwyn gyflenwi.

Canfyddiad sy’n werth ei nodi o fewn ein hastudiaethau achos o eitemau plastig untro, technegau bridio manwl a chynlluniau dychwelyd ernes yw barn glir, yn enwedig ymhlith y busnesau mwy o fewn y sectorau hynny, a chanddynt weithrediadau sylweddol o fewn y gwledydd datganoledig, bod yr Egwyddorion Mynediad i’r Farchnad yn annhebygol o gael eu defnyddio fel y dull a ffefrir i fynd i’r afael â gwahaniaethau rheoliadol. Roedd yn well gan fusnesau ddulliau eraill, gan gynnwys: mabwysiadu safon uchel sy’n cydymffurfio ar hyd a lled bob gwlad, lle’n bosibl; cael dwy gadwyn gyflenwi (ac efallai lleihau nifer y llinellau cynnyrch er mwyn rheoli costau hyn); ynghyd â thynnu’n ôl o wlad benodol. Os bydd busnesau mewn sectorau eraill, ac yng nghyswllt rheoliadau eraill, yn meddwl yn yr un modd, mae’n bosibl y gallai hyn gael goblygiadau arwyddocaol o ran cyfundrefn y farchnad fewnol. Fodd bynnag, nodir gennym y byddai angen i ni archwilio hyn ar draws amrywiaeth ehangach o fusnesau, ban gynnwys Busnesau Bach a Chanolig (BBaCh), ac amrywiaeth ehangach o sectorau, cyn y gallem benderfynu p’un a oedd hon yn effaith gyffredin.

Gwelwyd gennym hefyd yr ymddengys bod rheoliadau gwahanol sy’n cael effeithiau’n gynharach yn y gadwyn gyflenwi (fel PB a DRS) yn fwy heriol i fusnesau fynd i’r afael â hwy, yn hytrach na gwahanol reoliadau y gwelir eu heffeithiau’n nes ymlaen yn y broses (fel SUP a HFSS). Gall hyn fod yn ganfyddiad defnyddiol i lunwyr polisïau a chanddynt rywfaint o hyblygrwydd o ran y modd y maent yn bwriadu cyflawni nod yng nghyswllt polisi penodol; gall rhai gwahaniaethau rheoliadol effeithio llawer llai ar fusnesau nag eraill, hyd yn oed os yw eu nodau o ran polisi yn ddigon tebyg.

Yn gysylltiedig â hyn yw’r ffaith bod busnesau, i raddau helaeth, yn anelu at rwyddineb o fewn eu cadwyni cyflenwi. Siaradodd busnesau am weithredu yn ôl y safon gyffredin uchaf (sef safon uchel sy’n cydymffurfio â gofynion pob gwlad), gan symud ymlaen yn aml yn gynt na newidiadau rheoliadol a ragwelir. Er y gwnaed hyn yn rhannol mewn ymateb i ddisgwyliadau cwsmeriaid, gwnaed hyn hefyd i sicrhau y gellid gwneud unrhyw newidiadau i gynhyrchion neu o ran dosbarthu yn ôl amserlen, ac mewn modd a oedd yn gweithio gyda gofynion cadwyni cyflenwi. Yn gyffredinol, roedd yn well gan fusnesau beidio gorfod addasu cynhyrchion yn ôl rheoliadau mewn un wlad, ond yn hytrach gynnig cynnyrch a oedd yn cydymffurfio â’r gofynion ledled y DU. Yn y modd hwn, gellid dweud bod busnesau’n chwarae rôl weithredol o ran sefydlu arferion rheoliadol.

Nodwn yn yr astudiaethau achos bod nifer sylweddol o fusnesau wedi nodi bod lleihau eu hamrywiaeth o gynhyrchion yn ganlyniad posibl i wahaniaethau rheoliadol, gan nodi’r sylw pwysig, mewn rhai achosion, y gall y gostyngiad yn amrywiaeth y cynhyrchion ddigwydd mewn gwlad nad yw wedi’i heffeithio’n uniongyrchol gan y rheoliadau dan sylw. Credwn fod hyn yn ymateb credadwy i gostau cynyddol a chymhlethdod dyblygu llinellau cynnyrch. Fodd bynnag, nid oedd yr un o’r busnesau y siaradasom â hwy wedi gwneud unrhyw benderfyniadau cadarn hyd yma o ran pa eitemau i’w tynnu’n ôl o ba farchnadoedd. Bydd cynhyrchion sy’n debygol o gael eu tynnu’n ôl yn rhai nad ydynt yn cynhyrchu llawer ohonynt, ac efallai nad ydynt yn cyfrif am lawer o fasnach drawsffiniol. Gall fod rhesymau strategol, ac o ran brandiau, yn gysylltiedig â pharhau i sicrhau bod cynhyrchion penodol ar gael, hyd yn oed os nad yw’r elw a geir ohonynt ond yn fach. O ystyried y lefel uchel o ansicrwydd o ran yr ystyriaethau hyn, down i’r casgliad ei bod yn debygol y byddai busnesau’n oedi cyn gwneud penderfyniadau ynghylch tynnu cynhyrchion yn ôl, hyd nes yr oedd yn gwbl angenrheidiol.

Bydd gan safle marchnad fewnol y DU o fewn cadwyni cyflenwi byd-eang ddylanwad pwerus ar benderfyniadau busnes yn sgil gwahaniaethau rheoliadol. Er enghraifft, mae datblygiadau o ran y defnydd o rawn sy’n deillio o’r defnydd o dechnegau bridio manwl yn debygol o gael eu llywio gan bolisïau a theimladau cwsmeriaid o fewn yr UE a thu hwnt, yn ogystal â gan ystyriaethau domestig. Efallai y bydd angen i ganlyniadau o fewn y DU addasu i newidiadau rhyngwladol a/neu dderbyn y goblygiadau o ran costau o ganlyniad i ymwahanu o arferion rhyngwladol.

Wrth gasglu tystiolaeth ar gyfer yr astudiaethau achos hyn, nodwyd rôl bwysig dewisiadau cwsmeriaid gennym. Gellir dadlau y cyflwynwyd datblygiadau o ran polisïau mewn perthynas ag eitemau plastig untro a chynlluniau dychwelyd ernes ar adeg pryd yr oedd barn cwsmeriaid wedi’i llywio i raddau helaeth gan ddealltwriaeth o amcanion y polisïau y tu ôl i’r mentrau hyn, a chefnogaeth i’r polisïau hynny (nodwyd sefyllfa debyg gennym hefyd yn ein hastudiaeth o reoliadau Defra yng nghyswllt y gwaharddiad ar werthu cynhyrchion mawn garddwriaethol). Mewn rhai meysydd, efallai bod datblygiadau o ran polisïau’n llusgo y tu ôl i agweddau cwsmeriaid. Mae dewisiadau cwsmeriaid yn dylanwadu ar yr hyder sydd gan fusnesau o ran dylunio ymateb i ddatblygiadau rheoliadol, yn enwedig efallai o ran gweithredu yn ôl y safon gyffredin uchaf y soniwyd yn ei chylch gan randdeiliaid yn y diwydiant bwyd a diod. Mewn gwrthgyferbyniad, gellir dadlau bod cnydau sy’n deillio o’r defnydd o dechnegau bridio manwl yn faes lle nad oes dealltwriaeth gyffredinol hyd yma ymhlith cwsmeriaid, neu alw amdanynt o du cwsmeriaid. Mae’r ansicrwydd y mae hyn yn ei greu i fusnesau’n amlygu’r anawsterau o ran mynd i’r afael â gwahaniaethau rheoliadol. Ein barn ni yw, mewn achosion pryd gwelir gwahaniaethau rheoliadol yn ymddangos cyn i gwsmeriaid dderbyn y polisïau y tu ôl i unrhyw gynhyrchion, bydd hyn yn llai tebygol o arwain at ymateb gan fusnesau ledled y DU.

Wrth ddatblygu’r adroddiad hwn, rydym wedi nodi themâu cyffredin yng nghyswllt gwahaniaethau rheoliadol rhwng y gwledydd y gobeithiwn y byddant yn cynorthwyo llunwyr polisïau wrth ystyried effeithiau posibl newidiadau rheoliadol at y dyfodol ar farchnad fewnol y DU. Mae’r astudiaethau achos yn arbennig yn nodi sawl modd y gall llunwyr polisïau addasu’r modd y maent yn dylunio polisïau er mwyn lleihau’r effeithiau ar y farchnad fewnol. Mae’r rhain yn cynnwys: ystyried dylunio gwahanol reoliadau er mwyn caniatáu iddynt weithredu yn ôl y safon gyffredin orau, a fydd yn gofyn am gydgysylltiad a chydweithrediad rhwng llywodraethau gan roi sylw manwl i’r pwynt o fewn y gadwyn gyflenwi sy’n cael ei effeithio gan reoliad, gan yr agosaf y mae effeithiau rheoliad i’r cwsmer terfynol, yr hawsaf y bydd i reoli gwahaniaethau; ynghyd â chydnabod y gall effeithiau rheoliad gwahanol godi y tu hwnt i’r wlad y’i cyflwynwyd oddi mewn iddi, sy’n fwy tebygol pan fo cadwyni cyflenwi’n croesi ffiniau cenedlaethol.

Casgliad

Y darlun sy’n ymddangos o’r farchnad fewnol yw bod gwahaniaethau rheoliadol yn dechrau cynyddu, er yn araf, a gwelir mai nwyddau sy’n cael eu heffeithio mwy na gwasanaethau, yn enwedig ym maes bwyd a diod. Fodd bynnag, mae busnesau’n addasu i’r gwirioneddau newydd hyn mewn modd creadigol, sydd yn aml yn diogelu llifau masnach a chadwyni cyflenwi presennol. Nid yw cryfder cymharol y grymoedd hyn yn glir eto, a gall llunwyr polisïau wneud dewisiadau, hyd yn oed os byddent yn mynd ar drywydd rheoliadau gwahanol, a fydd efallai’n cynorthwyo busnesau i gadw llifau masnach presennol ar agor. Mae hwn yn amgylchedd dynamig, a byddwn yn parhau i ymgymryd â rhagor o waith trwy gydol 2024 i gael gwell dealltwriaeth o effeithiau gwahaniaethau rheoliadol ar farchnad fewnol y DU.

Marchnad Fewnol y DU

Pwrpas a dull gweithredu

Dyma’r ail adroddiad blynyddol a gyhoeddwyd gan Swyddfa’r Farchnad Fewnol (OIM), sy’n rhan o’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA). Mae’n cyflawni cyfrifoldeb statudol y CMA o dan Ddeddf Marchnad Fewnol y DU   (‘UKIMA’) bod rhaid i’r CMA, a hynny’n ddim hwyrach na 31 Mawrth 2023 ac o leiaf unwaith ym mhob cyfnod perthnasol o 12 mis, baratoi adroddiad

  • ar weithrediad marchnad fewnol y Deyrnas Unedig

  • ar ddatblygiadau mewn perthynas ag effeithiolrwydd gweithrediad y farchnad honno [footnote 1]

Mae’r bennod hon yn egluro rôl yr OIM, ac yn disgrifio’r dull a ddefnyddiwyd gennym i baratoi’r adroddiad hwn.

Rôl yr OIM

Ein rôl yw cynorthwyo pedair llywodraeth y DU drwy ddefnyddio arbenigedd economaidd a thechnegol arall i gefnogi gweithrediad effeithiol marchnad fewnol y DU. Rôl gynghorol sydd gennym, nad yw’n cynnwys gwneud penderfyniadau. Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar weithrediad effeithiol marchnad fewnol y DU mewn perthynas â nwyddau, gwasanaethau a’r proffesiynau a reoleiddir.

Gall llywodraethau wneud ymyraethau polisi am nifer o resymau a all, yn eu tro, arwain at wahaniaethau mewn rheoliadau yn dod i’r amlwg rhwng cenhedloedd y DU. O ystyried ein ffocws ar effeithiau economaidd penderfyniadau rheoliadol gwahanol ar draws cenhedloedd y DU, cydnabyddwn fod y canfyddiadau a’r materion a godwyd yn ein hadroddiadau yn debygol o gynrychioli un ystyriaeth, ymhlith eraill, pan mae llywodraeth neu ddeddfwrfa yn pennu ei hoff bolisi a’i hoff ddulliau rheoliadol.

Gall gwahaniaethau mewn rheoliadau arwain at arloesedd gwerthfawr o ran llunio polisïau, sy’n rhoi cyfle i lywodraethau eraill yn y DU weld polisïau ar waith cyn gwneud eu penderfyniadau eu hunain.

Y dull ar gyfer asesu datblygiadau yn y farchnad fewnol

I wneud synnwyr o’r farchnad fewnol, mae angen i ni ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau gwybodaeth, y mae gan bob un ei chryfderau a’i gwendidau. Mae’r farchnad fewnol yn cynnwys cyfuniad o weithgareddau nifer fawr o fusnesau sy’n ymwneud ag ystod eang o weithgareddau economaidd, a ddylanwadir gan bolisïau a ddatblygwyd gan lywodraethau ar draws y DU. Ar ben hynny, fel arfer, rhaid i wladwriaethau ffederal a gwladwriaethau â phwerau a ddatganolwyd i diriogaethau oddi mewn iddynt ymgymryd â’r dasg o reoli marchnad fewnol, sy’n ymwneud â chydbwyso masnach esmwyth yn erbyn hawl yr awdurdodaethau tiriogaethol i osod eu rheolau eu hunain. Tra bo rheoli marchnad fewnol y DU yn arwain at heriau tebyg, ceir nodweddion arbennig o fewn cyd-destun y DU, gan gynnwys maint poblogaeth Lloegr o gymharu â’r gwledydd eraill, ynghyd â ffin tir Gogledd Iwerddon â’r UE. Mae’r cymhlethdod hwn yn golygu nad oes un set ddata unigol neu fethodoleg a fyddai’n darparu darlun cwbl gywir o weithrediad marchnad fewnol y DU, ynghyd â datblygiadau oddi mewn iddi, a fyddai’n brawf o’i heffeithiolrwydd. Fodd bynnag, gallwn ddechrau adeiladu darlun trwy ystyried: (i) cyfanswm y gweithgareddau busnes; (ii) gweithrediadau busnesau unigol (neu fusnesau o fewn sector arbennig); a (iii) newidiadau i reoliadau llywodraethau ar draws pedair gwlad y DU.

Mae’r adroddiad hwn yn defnyddio data ar lefel facro ynghylch gwerthiannau a phryniannau trawsffiniol, sy’n dda ar gyfer darparu darlun cyffredinol o ran pwysigrwydd masnach, ynghyd ag ar gyfer canfod tueddiadau macro, ond sy’n datgelu llai yn nhermau pam fod rhai newidiadau’n digwydd. I lenwi’r bwlch yna yn ein dealltwriaeth, rhaid i ni edrych ar ddata a dangosyddion eraill. Un o’r dangosyddion ychwanegol yr ydym yn ei archwilio yw’r sectorau o fewn yr economi sy’n profi gwahaniaethau rheoliadol, ac i ba raddau. Nodwyd y data hwn gennym ym Mhennod 2.

I’r pwrpas hwnnw, ac am y tro cyntaf, rydym wedi ceisio mapio’r gyfran o bob un o’r economïau cenedlaethol sy’n agored i wahaniaethau rheoliadol a/neu’r  Egwyddorion Mynediad i’r Farchnad (‘y MAPs’)[footnote 2] gan ddefnyddio data ar gyflogaeth. Fel y gwnaethom ar gyfer adroddiad blynyddol 2022 i 2023, rydym hefyd yn archwilio datblygiadau rheoliadol unigol, gan fod hyn yn darparu ymdeimlad o amrywiaeth a natur y gwahaniaethau rheoliadol ar draws yr economi. Wrth wneud hynny, rydym yn ystyried y bydd y datblygiadau diweddar yng nghyswllt y Fframweithiau Cyffredin[footnote 3], Fframwaith Windsor[footnote 4] a’r broses ar gyfer eithrio rheoliadau o’r MAPs[footnote 5] yn dylanwadu ar sut y mae’r farchnad fewnol yn datblygu. Byddwn yn cyflwyno’r dadansoddiad hwn ym Mhennod 3.

Er mwyn deall sut mae busnesau unigol efallai’n ymateb i wahaniaethau rheoliadol, ym Mhennod 4 rydym hefyd wedi archwilio’r modd y mae busnesau’n debygol o addasu sut y maent yn masnachu mewn ymateb i newidiadau rheoliadol.

Data AR fasnach oddi mewn i’r du

Canfyddiadau allweddol

  • mae dadansoddi llifau masnach presennol oddi mewn i’r DU yn dal i fod yn her, gan mai dim ond tair o’r pedair gwlad yn y DU sy’n cyhoeddi ystadegau yng nghyswllt masnach oddi mewn i’r DU, a cheir gwahaniaethau methodolegol rhwng yr ystadegau masnach sydd ar gael ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae camau ar y gweill i wella’r methodolegau hyn

  • mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod masnach oddi mewn i’r DU yn werth £190biliwn, neu tua 10% o gyfanswm Cynnyrch Domestig Gros y DU

  • roedd masnach oddi mewn i’r DU yn cynrychioli rhwng 43% a 65% o werthiannau a phryniannau allanol Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, gyda hyn yn cyfrif am rhwng 25% a 54% o Gynnyrch Domestig Gros Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon

  • mae 15% o fusnesau’n adrodd eu bod yn gwerthu i wledydd eraill yn y DU. Mae hyn yn gyfran uwch o fusnesau na hynny ar gyfer masnach ryngwladol - 10% o fusnesau sy’n adrodd eu bod yn allforio ar draws y byd. Mae 10% o fusnesau’n adrodd eu bod yn prynu gan wledydd eraill yn y DU

  • busnesau o fewn y sectorau gweithgynhyrchu, cyfanwerthu a manwerthu sy’n fwyaf tebygol o fasnachu oddi mewn i’r DU. Yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, mae busnesau ym maes gweithgynhyrchu yn cyfrif am y gyfran fwyaf o werth gwerthiannau oddi mewn i’r DU, ond yn yr Alban, busnesau sy’n cyflenwi ar gyfer busnesau a gwasanaethau eraill sy’n cyfrif am y gyfran fwyaf o’r gwerth hwn

  • mae busnesau mwy yn fwy tebygol o fasnachu oddi mewn i’r DU

  • o’r busnesau sy’n masnachu oddi mewn i’r DU, mae llai na 10% yn adrodd eu bod yn cael anawsterau wrth wneud hynny o ganlyniad i reolau a rheoliadau, gyda dros hanner ohonynt yn adrodd nad ydynt yn cael anawsterau

Mae’r bennod hon yn darparu trosolwg o’r dystiolaeth ar sail masnach ynghylch gweithrediad y farchnad fewnol, ac yn defnyddio sawl ffynhonnell, fel yr amlinellwyd ym Mhennod 1. Mae’r bennod yn darparu diweddariad ar werth masnach oddi mewn i’r DU, pwy sy’n ymgymryd â’r fasnach honno, ac yn trafod profiadau busnesau o fasnachu oddi mewn i’r DU. Mae’r data yn y bennod hon yn cyflwyno un rhan o’r darlun o ran y fasnach fewnol, trwy ddarparu golwg gynhwysfawr ar y llifau masnachu cyfanredol rhwng gwledydd y DU. Dylid ei darllen ar y cyd â’r wybodaeth ym Mhenodau 3 a 4, sy’n trafod newidiadau i reoliadau penodol ac yn archwilio’r modd y mae cadwyni cyflenwi busnesau’n newid mewn ymateb i wahaniaethau rheoliadol.

Diweddariad ar ddata ynghylch masnach oddi mewn i’r DU

Mae’r adran hon yn darparu diweddariad ar werth masnach oddi mewn i’r DU, yn nhermau gwerthiannau a phryniannau.[footnote 6] Trwy’r bennod gyfan hon, cyfeiriwn at lifau masnachu yn nhermau gwerthu nwyddau a gwasanaethau (h.y. allforion i wledydd eraill y DU), a phrynu nwyddau a gwasanaethau (h.y. mewnforion o wledydd eraill y DU).

Fel y nodwyd yn adroddiad blynyddol 2022 i 2023, mae’r data sydd ar gael ar fasnachu oddi mewn i’r DU yn gyfyngedig, gyda dim ond tair o bedair gwlad y DU (Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon) yn cyhoeddi ystadegau ar werth gwerthiannau a phryniannau rhyngddynt â gwledydd eraill y DU. Mae’r oedi cyn cyhoeddi’r setiau data yn amrywio, yn yr un modd â’u methodolegau perthnasol ar gyfer casglu a chynhyrchu data, ynghyd â geiriad cwestiynau. Mae hyn yn golygu bod ceisio cymharu ac amcangyfrif cyfanswm y masnachu oddi mewn i’r DU yn anodd, er bod gwelliannau ar y gweill. Yn yr adroddiad eleni, rydym hefyd yn defnyddio data ychwanegol y Swyddfa Ystadegau Gwladol gan BICS a CThEF, i gael gwell dealltwriaeth o’r llifau masnachu rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon.

Ym mis Mawrth 2023, cyhoeddodd yr OIM Fap Llywio Strategaeth Ddata[footnote 7] sy’n amlinellu’r prosiectau yr ymgymerir â hwy gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, y Llywodraethau Datganoledig, adrannau Llywodraeth y DU ac academyddion o bob cwr o’r DU, yn ogystal â’r OIM, a fydd efallai’n gwella’r gyd-ddealltwriaeth o’r modd y mae marchnad fewnol y DU yn gweithredu. Os bydd y prosiectau y manylir yn eu cylch o fewn Map Llywio Strategaeth Ddata’r OIM yn cyflawni eu hamcanion, gallai amcangyfrifon arbrofol o fasnach oddi mewn i’r DU, sy’n cynnwys pedair gwlad y DU, fod ar gael erbyn hydref 2024.

Ym mis Gorffennaf 2023, roedd y pedair gwlad, ynghyd â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, wedi cyhoeddi canllaw defnyddwyr ar gyfer masnachu rhanbarthol, sy’n amlinellu amryw fesurau masnach, gan gynnwys eu cryfderau a’u cyfyngiadau.[footnote 8] Yn ogystal â hyn, yn Rhagfyr 2023, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Sefydliad Alan Turing set ddata newydd ar lifau taliadau rhwng diwydiannau ar sail data systemau taliadau.[footnote 9] Bwriedir darparu dadansoddiadau o’r set ddata hon ar sail ranbarthol, yn 2024.

Mae rhai gwelliannau methodolegol i’r ystadegau masnach wedi’u rhoi ar waith eisoes, a chyfeirir at y rhain trwy’r bennod gyfan.

Gwerth masnach oddi mewn i’r DU

Mae set ddata’r Ganolfan Ragoriaeth Ystadegau Economaidd (ESCoE) ar gyfer 2015 (a gyhoeddwyd 2021) yn dal i fod yr amcangyfrif mwyaf diweddar o fasnach oddi mewn i’r DU sy’n cynnwys ffigyrau ar gyfer Lloegr. Mae ESCoE yn amcangyfrif bod gwerthiannau oddi mewn i’r DU wedi dod i gyfanswm o tua £190 biliwn. Yn Ffigur 2.1, dangosir yr amrywiaeth ym mhwysigrwydd masnach economaidd o ran cyfran y Cynnyrch Domestig Gros a gynrychiolir gan fasnach oddi mewn i’r DU. Gan ddefnyddio data ESCoE 2015 ac amcangyfrifon y Cynnyrch Domestig Gros ar gyfer 2015,[footnote 10] roedd gwerthiannau oddi mewn i’r DU yn cynrychioli tua 10% o gyfanswm Cynnyrch Domestig Gros y DU.[footnote 11] O gymharu â hyn, roedd gwerthiannau Lloegr oddi mewn i’r DU yn cynrychioli dim ond 6% o Gynnyrch Domestig Gros Lloegr; roedd gwerthiannau’r Alban oddi mewn i’r DU yn 34% o Gynnyrch Domestig Gros yr Alban; o ran Cymru, mae gwerthiannau oddi mewn i’r DU yn cyfrif am 54% o’i Chynnyrch Domestig Gros; ac roedd gwerthiannau Gogledd Iwerddon oddi mewn i’r DU yn cynrychioli 26% o Gynnyrch Domestig Gros Gogledd Iwerddon.[footnote 12] Fel y nodwyd uchod, disgwyliwn y bydd y set ddata newydd ar gyfer masnach oddi mewn i’r DU (sydd i fod i gael ei chyhoeddi yn hydref 2024) yn darparu diweddariad ar yr amcangyfrif o £190 biliwn.

Ffigwr 2.1: Amcangyfrifon 2015 o fasnach ryngranbarthol fel cyfran o Gynnyrch Domestig Gros

Graff bar o ddata masnach ryngranbarthol ESCoE yn 2015 ar gyfer bob gwlad yn y DU fel cyfran o Gynnyrch Domestig Gros bob gwlad yn y DU.

Ar gyfer y DU, roedd gwerthiannau oddi mewn i’r DU yn cynrychioli 9.85% o gyfanswm Cynnyrch Domestig Gros y DU.

Roedd gwerthiannau Lloegr oddi mewn i’r DU yn cynrychioli 5.54% o Gynnyrch Domestig Gros Lloegr; roedd gwerthiannau’r Alban oddi mewn i’r DU yn 33.70% o Gynnyrch Domestig Gros yr Alban; o ran Cymru, roedd 54.21% o’i Chynnyrch Domestig Gros yn werthiannau oddi mewn i’r DU; ac roedd gwerthiannau Gogledd Iwerddon oddi mewn i’r DU yn cynrychioli 25.52% o Gynnyrch Domestig Gros Gogledd Iwerddon.

Ffynhonnell: Economic Statistics Centre of Excellence (2021); Regional economic activity by gross domestic product, UK - Office for National Statistics (ons.gov.uk)

Noder: Nid yw’n cynnwys llifau o ffynonellau nad ydynt yn breswylwyr (gall nwyddau neu wasanaethau sy’n symud rhwng gwledydd y DU fod wedi’u cynhyrchu neu eu darparu gan ffynhonnell nad yw’n breswyliwr yn y DU).

Dengys Ffigur 2.2 a Ffigur 2.3 bod gwerthiannau oddi mewn i’r DU, ar y cyfan, yn gymesur â maint yr economïau cenedlaethol. Yn 2015, gwnaed dros 85% o’r gwerthiannau gan Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon oddi mewn i’r DU i Loegr.[footnote 13] Mewn cymhariaeth, o ran Lloegr, gwnaed dros dair rhan o bump o werthiannau oddi mewn i’r DU i’r Alban.

Ffigwr 2.2: Amcangyfrifon ESCoE yn 2015 o werthiannau oddi mewn i’r DU yn ôl gwledydd y DU (£biliwn)

Graff bar o ddata ESCoE yn 2015 yn dangos gwerth gwerthiannau mewn punnoedd, yr oedd pob gwlad yn y DU wedi’u gwerthu i bob un o’r gwledydd eraill yn y DU.

Roedd gwerthiannau Lloegr i’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn tua £61m, £17.5m a £13m yn y drefn honno.

Roedd gwerthiannau’r Alban i Loegr, Cymru a Gogledd Iwerddon yn tua £45m, £2m a £3m.

Roedd gwerthiannau Cymru i Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn tua £33m, £2m a £2m yn y drefn honno.

Roedd gwerthiannau Gogledd Iwerddon i Loegr, yr Alban a Chymru’n tua £9m, £1m a £0.4m yn y drefn honno.

Ffynhonnell: Dadansoddiad yr OIM o Economic Statistics Centre of Excellence (2021) 

Noder: Nid yw’n cynnwys llifau o ffynonellau nad ydynt yn breswylwyr (gall nwyddau neu wasanaethau sy’n symud rhwng cenhedloedd y DU fod wedi’u cynhyrchu neu eu darparu gan ffynhonnell nad yw’n breswyliwr yn y DU).

Ffigwr 2.3: Amcangyfrifon ESCoE yn 2015 o werthiannau oddi mewn i’r DU fel cyfran o fasnach ryngranbarthol yn ôl gwledydd y DU

Ffynhonnell: Dadansoddiad yr OIM o Economic Statistics Centre of Excellence (2021)

Noder: Nid yw’n cynnwys llifau o ffynonellau nad ydynt yn breswylwyr (gall nwyddau neu wasanaethau sy’n symud rhwng cenhedloedd y DU fod wedi’u cynhyrchu neu eu darparu gan ffynhonnell nad yw’n breswyliwr yn y DU).

Mae Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cyhoeddi eu data eu hunain ar fasnach oddi mewn i’r DU, sy’n cynnwys gwerthiannau a phryniannau. Er ein bod yn cynnwys data 2020, effeithiwyd hwn gan y pandemig COVID-19,[footnote 14] felly caiff data 2021 ei gymharu â’r data a oedd ar gael cyn y pandemig, yn 2019. Mae’r tueddiadau cyffredinol yn gyson a’r canfyddiadau yn adroddiad blynyddol 2022 i 2023. Dengys Ffigur 2.4 a Ffigur 2.5:

  • roedd cyfanswm y gwerthiannau oddi mewn i’r DU ar gyfer Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn 2021 yn £94.7 biliwn, ac roedd cyfanswm y pryniannau oddi mewn i’r DU ar gyfer Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn £119.1 biliwn yn 2021

  • o blith y tair gwlad, yr Alban a fasnachodd fwyaf gyda gweddill y DU mewn termau absoliwt yn 2021 (gweler Ffigur 2.4), ac yna Cymru ac wedyn Gogledd Iwerddon, gyda’r gwahaniaethau absoliwt hyn yn debygol o fod oherwydd maint perthynol eu heconomïau yn bennaf

  • roedd gwerth y masnachu oddi mewn i’r DU, fel cyfran o gyfanswm gwerthiannau/pryniannau bob gwlad, yn gyffelyb ar y cyfan ar gyfer Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, gan amrywio o 43 i 61% ar gyfer gwerthiannau a 59 i 65% ar gyfer pryniannau yn 2021 (gweler Ffigur 2.5). Mae’r gyfran o welliannau allanol drwy fasnachu oddi mewn i’r DU yn sylweddol uwch ar gyfer bob un o’r gwledydd hyn na’r ffigwr ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd yn 2015 (27%), sy’n awgrymu bod gwledydd y tu hwnt i’r DU yn cyfrif am gyfran llawer uwch o werthiannau Lloegr na’r gwledydd eraill oddi mewn i’r DU

Ffigwr 2.4: Cyfanswm y pryniannau a’r gwerthiannau allanol o/i weddill y DU ar gyfer Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ar gyfer 2019 i 2021 (£ biliwn)

Ffynhonnell: Northern Ireland Economic Trade Statistics, 2022; Arolwg Masnach Cymru, 2021*; GDP Quarterly National Accounts Scotland: 2023; Export Statistics Scotland, 2021.

Nodiadau: Ni chafodd y data ei addasu ar gyfer chwyddiant. Mae gwerthiannau/pryniannau allanol yn cyfeirio at fasnach y tu hwnt i Gymru, naill ai i/o weddill y DU, yr UE, y tu hwnt i’r UE, a masnach sydd heb ei neilltuo.

  • Mae dadansoddiad yr OIM yn cynnwys gwerthiannau/pryniannau o’r data ar gyfer Gymru sydd heb eu neilltuo. ‘Gwerthiannau/pryniannau heb eu neilltuo’ yw’r rheiny lle mae ymatebwyr wedi methu â neilltuo’r fasnach hon i gyrchfan/tarddiad penodol (gweddill y DU, yr UE, y tu hwnt i’r UE, a Chymru), felly mae’r ffigyrau hyn yn debygol o fod yn amcangyfrif is o fasnach Cymru â gweddill y DU, ac felly dylid eu trin yn ofalus.[footnote 15]

Mae Arolwg Masnach Cymru’n nodi mai data dros dro yw data 2020 a 2021 ar hyn o bryd, mae data 2019 wedi’i ddiweddaru.

Ffigwr 2.5: Masnach oddi mewn i’r DU fel cyfran o gyfanswm gwerthiannau/pryniannau allanol ar gyfer Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ar gyfer 2019 i 2021 

Graff bar yn dangos cyfran gwerth masnach oddi mewn i’r DU fel cyfran o gyfanswm pryniannau/gwerthiannau allanol ar gyfer yr Alban, Cymru, a Gogledd Iwerddon ar gyfer 2019 i 2021.

O ran yr Alban, roedd 57% o’r gwerthiannau allanol a 66% o’r pryniannau i/o weddill y DU yn 2019; 59% o’r gwerthiannau a 64% o’r pryniannau yn 2020; 61% o’r gwerthiannau a 65% o’r pryniannau yn 2021.

O ran Cymru, roedd 56% o’r gwerthiannau allanol a 58% o’r pryniannau i/o weddill y DU yn 2019; 46% o’r gwerthiannau a 46% o’r pryniannau yn 2020; 43% o’r gwerthiannau a 59% o’r pryniannau yn 2021.

O ran Gogledd Iwerddon, roedd 48% o’r gwerthiannau allanol a 64% o’r pryniannau i/o weddill y DU yn 2019; 52% o’r gwerthiannau a 66% o’r pryniannau yn 2020; 54% o’r gwerthiannau a 62% o’r pryniannau yn 2021.

Ffynhonnell: Northern Ireland Economic Trade Statistics, 2022; Arolwg Masnach Cymru, 2021; GDP Quarterly National Accounts Scotland: 2023; Export Statistics Scotland, 2021.

Nodiadau: Ni chafodd y data ei addasu ar gyfer chwyddiant. Mae gwerthiannau/pryniannau allanol yn cyfeirio at fasnach y tu hwnt i Gymru, naill ai i/o weddill y DU, yr UE, y tu hwnt i’r UE, a masnach sydd heb ei neilltuo.

Mae dadansoddiad yr OIM yn cynnwys gwerthiannau/pryniannau o’r data ar gyfer Gymru sydd heb eu neilltuo. ‘Gwerthiannau/pryniannau heb eu neilltuo’ yw’r rheiny lle mae ymatebwyr wedi methu â neilltuo’r fasnach hon i gyrchfan/tarddiad penodol (gweddill y DU, yr UE, y tu hwnt i’r UE, a Chymru), felly mae’r ffigyrau hyn yn debygol o fod yn amcangyfrif is o fasnach Cymru â gweddill y DU.[footnote 16]  

Mae Arolwg Masnach Cymru’n nodi mai data dros dro yw data 2020 a 2021 ar hyn o bryd, mae data 2019 wedi’i ddiweddaru.

Isod, rydym y rhoi ystyriaeth fanylach i’r ystadegau masnach a gynhyrchwyd ar gyfer bob gwlad.[footnote 17]

Data’r Alban

Cafwyd data o ran gwerthiannau’r Alban (allforio) gan ‘Export Statistics Scotland’ sy’n seiliedig ar arolwg busnes yn bennaf.[footnote 18] Mae’r cyhoeddiad hwn yn defnyddio ffynhonnell ddata wahanol i’r rheiny a adroddwyd ar gyfer 2019, a gynhwyswyd gennym yn ein hadroddiad blynyddol ar gyfer 2022 i 2023, sy’n gwella cywirdeb yr amcangyfrifon blynyddol ar gyfer 2019-2021.[footnote 19] Ceir data o ran pryniannau (mewnforio) o’r ‘Quarterly National Accounts’.[footnote 20]

Yn 2021, roedd yr amcangyfrif o werth gwerthiannau’r Alban i weddill y DU yn £48.6 biliwn ac roeddynt yn cyfrif am dros hanner (61%) holl werthiannau allanol yr Alban. Mae hyn yn cyd-fynd ag amcangyfrifon blaenorol.[footnote 21] Yn ogystal â hyn, mae pryniannau o weddill y DU wedi aros yn gyson ag amcangyfrifon blaenorol, ar tua £69 biliwn, sydd hefyd yn cyfrif am dros bron i ddwy ran o dair (65%) o holl bryniannau allanol yr Alban.

Data Cymru

Daw data masnach Cymru o Arolwg Masnach Cymru, sef arolwg ar-lein o fusnesau yng Nghymru.[footnote 22] Mae gwelliannau’n cael eu gwneud i fethodoleg Arolwg Masnach Cymru, a disgrifir canlyniadau arolwg 2021 fel ‘ystadegau swyddogol sy’n cael eu datblygu’ (y derminoleg newydd ar gyfer ‘Ystadegau Arbrofol’). Gwnaed gwelliannau methodolegol, sef priodoli data ar draws blynyddoedd, o ran y data ar gyfer gwerthiannau (allforion) ar gyfer y cyfnod rhwng 2019-2021, ond ni ddefnyddiwyd y dull newydd hwn ar gyfer y data ar gyfer pryniannau (mewnforion).[footnote 23] Felly mae angen bod yn ofalus wrth ddadansoddi’r data ynghylch pryniannau. Mae Arolwg Masnach Cymru hefyd yn cydnabod presenoldeb nifer uchel o bryniannau a gwerthiannau sydd heb eu neilltuo.[footnote 24]

Yn 2021, amcangyfrifwyd bod gwerth gwerthiannau o Gymru i weddill y DU yn £32.5 biliwn, ac roeddynt yn cyfrif am 43% o’r holl werthiannau allanol yng Nghymru. Gwnaed y mwyafrif o’r gwerthiannau yn 2021 i Loegr, sef 84% (£27.2 biliwn), a ddilynwyd gan yr Alban, sef 5% (£1.6 biliwn), a Gogledd Iwerddon, sef 3% (£1.1 biliwn). Roedd 8% (£2.6 biliwn) arall yn werthiannau o fewn y DU a oedd heb eu neilltuo.[footnote 25] Mae’r data’n awgrymu bod gwerthiannau i weddill y DU wedi gostwng o 2019 ymlaen, yr amcangyfrifwyd eu bod yn dod i gyfanswm o £35.3 biliwn, (fodd bynnag, mae’r gyfran o gyfanswm y gwerthiannau allanol wedi cynyddu i 56%, gweler Ffigur 2.55).[footnote 26] Ond cafwyd cynnydd mawr yn y gwerthiannau sydd heb eu neilltuo o 2019 i 2021.[footnote 27]

Roedd y pryniannau i mewn i Gymru o weddill y DU yn £37.4 biliwn yn 2021, sy’n cyfateb i 59% o gyfanswm pryniannau allanol Cymru. O ran 2021, roedd y mwyafrif o’r pryniannau o weddill y DU o Loegr, sef 85% (£31.9 biliwn), a ddilynwyd gan yr Alban a Gogledd Iwerddon, sef 1% (£0.5 biliwn) a 0.4% (£0.2 biliwn) yn y drefn honno. O ran 13% (£4.8 biliwn) arall o bryniannau’r DU, nid oedd modd eu neilltuo.[footnote 28]

Data Gogledd Iwerddon

Mae Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon (NISRA) yn cynnal arolwg blynyddol ar fasnach, sef Ystadegau Masnach Economaidd Gogledd Iwerddon (NIETS).[footnote 29] Mae gwelliannau i’r arolwg ar y gweill ar hyn o bryd[footnote 30] a bydd porth data a hyb delweddu data newydd yn cael eu lansio eleni. Yn ogystal ag amcangyfrifon blynyddol y gellir eu cymharu ar gyfer 2019-2021, roedd amcangyfrifon ar gael ar gyfer 2022.

Yn 2021, amcangyfrifwyd bod gwerthiannau Gogledd Iwerddon i weddill y DU yn werth £13.7 biliwn ac roeddynt yn cyfrif am 54% o holl werthiannau allanol Gogledd Iwerddon. Amcangyfrifir bod y pryniannau o weddill y DU yn tua £13.1 biliwn, sy’n cyfrif am 62% o holl bryniannau allanol Gogledd Iwerddon. [footnote 31]

Yn ôl amcangyfrifon diweddar NIETS ar gyfer 2022, amcangyfrifwyd bod y gwerthiannau i weddill y DU wedi cynyddu i £15.7 biliwn, ond o ran cyfran gwerth y fasnach, mae’n dal yr un fath, sef 54%. Mae’r amcangyfrif o’r pryniannau o weddill y DU wedi aros yn sefydlog ar £13.1 biliwn.[footnote 32]

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a CThEF hefyd yn darparu data ar symudiadau masnach rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon.

Mae Arolwg o Fewnwelediadau ac Amodau Busnes[footnote 33] (BICS) y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sef arolwg busnes pythefnosol, yn gofyn i fusnesau p’un a ydynt wedi anfon nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, ac o Ogledd Iwerddon i Brydain Fawr, yn ystod y 12 mis diwethaf, a sut yr oedd faint o nwyddau a anfonwyd yn cymharu â’r mis blaenorol.[footnote 34] Mae’r ffynhonnell ddata hon yn darparu modd defnyddiol i groeswirio data er mwyn cael deall unrhyw newidiadau o ran ymddygiad dros gyfnod o amser. Roedd cyfartaledd o 4.5% o fusnesau[footnote 35] yn dweud eu bod wedi anfon nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon yn y 12 mis diwethaf[footnote 36] (er bod hynny’n cynrychioli cyfran isel o fusnesau, fel y dangosir isod yn nata Tollau CThEF, mae hyn yn cynrychioli nwyddau sydd o gryn werth o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon). Mae data BICS hefyd yn dangos bod llai na 2% o fusnesau wedi anfon nwyddau o Ogledd Iwerddon i Brydain Fawr yn y 12 mis diwethaf.[footnote 37] Yn nhermau faint o nwyddau a anfonwyd, dengys data BICS bod tua 48% o fusnesau’n adrodd bod y lefelau wedi aros yr un fath o ran gwerthiannau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, dywedodd 24% o fusnesau bod y lefelau wedi gostwng, a dywedodd 5% o fusnesau bod y lefelau wedi cynyddu.[footnote 38] O ran faint o nwyddau a anfonir o Ogledd Iwerddon i Brydain Fawr, gwelwyd cyfrannau tebyg. Dywedodd 51% o’r busnesau bod y lefelau wedi aros yr un fath o ran gwerthiannau o Ogledd Iwerddon i Brydain Fawr, roedd 28% yn dweud bod y lefelau wedi gostwng, ac roedd y lefelau wedi cynyddu ar gyfer 3% o’r busnesau.[footnote 39] Mae’r ymatebion hyn wedi aros yn gymharol gyson dros gyfnod o amser.

Mae CThEF yn adrodd ynghylch symudiadau nwyddau i mewn i Ogledd Iwerddon o Brydain Fawr, ar sail data tollau. [footnote 40] Yn ôl adroddiad CThEF, ‘Total value associated with full declarations cleared by HMRC for movements of goods into Northern Ireland from Great Britain in 2022 was £14.1 billion, up 13% from the 2021 total value of £12.4 billion.’ [footnote 41] O ran cyd-destun, roedd gwerth datganiadau tollau yn 2021 yn cynrychioli tua 24% o Gynnyrch Domestig Gros Gogledd Iwerddon. [footnote 42] Mae CThEF yn adrodd hefyd, ‘Total number of full declarations cleared by HMRC for movements of goods into Northern Ireland from Great Britain in 2022 was 1,470,000, up by 41% when compared with the 2021 declaration count of 1,040,000. Total number of unique businesses moving goods into Northern Ireland from Great Britain in 2022 was 12,800, up by 22% when compared with the 2021 business count of 10,500’. [footnote 43] Er bod y data’n dangos bod cyfanswm nifer y datganiadau llawn a gliriwyd gan CThEF, a chyfanswm nifer y busnesau unigryw sy’n symud nwyddau i mewn i Ogledd Iwerddon o Brydain, fel y gwelir yn Ffigur 2.6, wedi cynyddu o 2021 i 2022, mae CThEF yn cynghori y dylid cymryd gofal wrth ddod i gasgliadau ynghylch y newidiadau o un flwyddyn i’r llall, o ystyried bod y data’n adrodd y dyddiad y cafodd y nwyddau eu clirio, ac nid pryd y symudwyd y nwyddau. Ni chafodd y data ond ei gasglu o Ionawr 2021, felly, yn ystod blwyddyn gyntaf casglu’r data, mae’n debygol y byddai llai na blwyddyn lawn o drafodiadau wedi’u cofnodi oherwydd yr oedi o ran adrodd. [footnote 44]

Ffigwr 2.6: Cyfrif blynyddol o’r datganiadau llawn a chyfrif o’r busnesau sy’n gysylltiedig â datganiadau llawn a gliriwyd gan CThEF wedi’u rhannu yn ôl gwahanol systemau datgan

Dwy siart far yn dangos y cyfrif blynyddol o ddatganiadau llawn (y siart far gyntaf) a chyfrif o’r busnesau (yr ail siart far) sy’n gysylltiedig â datganiadau llawn a gliriwyd gan CThEF wedi’u rhannu yn ôl gwahanol systemau datgan.

Mae’r siart far gyntaf sy’n dangos nifer y datganiadau gyda datganiadau llawn a gliriwyd gan CThEF, yn dangos, yn 2021, mai cyfanswm nifer y datganiadau oedd 1,040,000 gyda’r Gwasanaeth Cymorth i Fasnachwyr (TSS) yn cyfrif am 950,000 o ddatganiadau a’r Gwasanaeth Datganiadau Tollau (CDS) yn cyfrif am 90,000 o ddatganiadau. Yn 2022, cyfanswm nifer y datganiadau oedd 1,470,000 gyda’r Gwasanaeth Cymorth i Fasnachwyr (TSS) yn cyfrif am 1,340,000 o ddatganiadau a’r Gwasanaeth Datganiadau Tollau (CDS) yn cyfrif am 130,000 o ddatganiadau. 

Mae’r ail siart far sy’n dangos y cyfrif o fusnesau a chanddynt ddatganiadau llawn a gliriwyd gan CThEF, yn dangos, yn 2021, mai cyfanswm y cyfrif o fusnesau oedd 10,500, gyda’r Gwasanaeth Cymorth i Fasnachwyr (TSS) yn cyfrif am 9,500 o fusnesau a’r Gwasanaeth Datganiadau Tollau (CDS) yn cyfrif am 1,200 o fusnesau. Yn 2022, cyfanswm y cyfrif o fusnesau oedd 12,800, gyda’r Gwasanaeth Cymorth i Fasnachwyr (TSS) yn cyfrif am 12,100 o fusnesau a’r Gwasanaeth Datganiadau Tollau (CDS) yn cyfrif am 1,400 o fusnesau.

Ffynhonnell: Data gweinyddol o Gwasanaeth Datgan Tollau CThEF

Pwy sy’n masnachu oddi mewn i’r DU?

Yn yr adran hon, rydym yn adolygu’r dystiolaeth orau sydd ar gael i ddarparu mewnwelediadau i’r graddau y mae gwahanol fathau o fusnesau’n masnachu â rhannau eraill o’r DU, ynghyd â’r rhwystrau posibl a wynebir ganddynt. Rydym hefyd yn nodi p’un a fu newid ers adroddiad blynyddol 2022 i 2023. Rydym yn dibynnu ar yr Arolwg o Fewnwelediadau ac Amodau Busnes[footnote 45] (BICS), gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sy’n cynnwys cwestiynau ynghylch cyfran y busnesau yn y DU sy’n masnachu â gwledydd eraill yn y DU, ynghyd â’r heriau a wynebir gan fusnesau wrth wneud hynny, a data ar fasnach genedlaethol. Nodir bod data’n seiliedig ar amcangyfrifon a bwysolwyd o’r arolwg busnesau pythefnosol (BICS) ynghylch perfformiad ariannol, y gweithlu, prisiau, masnach a gwytnwch busnesau. Anfonwyd yr arolwg i tua 39,000 o fusnesau yn y DU, ac mae’r canlyniadau a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yn seiliedig ar gyfradd ymateb o tua 20%-30% (7,800 - 11,700 o fusnesau) ar draws Tonnau 63 - 95 o’r arolwg.[footnote 46]

Gofynnodd BICS i fusnesau p’un a oeddent wedi gwerthu nwyddau neu wasanaethau i/o wledydd eraill y DU.[footnote 47] Cynhwyswyd cwestiwn newydd ar bryniannau yn y BICS ar gyfer Hydref 2023. Nid oes ond un pwynt data ar gyfer pryniannau, felly nid ydym yn dod i gasgliadau o’r ymatebion ond yn hytrach yn adrodd y canfyddiadau’n unig. Y flwyddyn nesaf, bydd rhagor o bwyntiau data’n ein galluogi i wneud cymariaethau mwy buddiol.

Mae’r canlyniadau’n gyson â’r canfyddiadau yn adroddiad blynyddol 2022 i 2023, gyda thua 15% o fusnesau’n adrodd eu bod wedi gwerthu i wledydd eraill y DU.[footnote 48] Er cymhariaeth, roedd tua 10% o fusnesau wedi allforio’n rhyngwladol yn y 12 mis diwethaf.[footnote 49] Roedd tua 10% o fusnesau’n adrodd eu bod wedi prynu gan wledydd eraill y DU o fewn y 12 mis diwethaf.[footnote 50]

Masnach yn ôl sectorau diwydiant

Mae tystiolaeth BICS yn awgrymu, ar y cyfan, bod busnesau yn y sectorau gweithgynhyrchu a chyfanwerthu a manwerthu yn fwy tebygol o fasnachu â gwledydd eraill y DU (gweler Ffigur 2.7.7). Ar gyfartaledd, mae canlyniadau’r arolwg yn dangos bod dros 30% o fusnesau o fewn y diwydiant gweithgynhyrchu yn gwerthu i wledydd eraill y DU, tra bo tua 18% o fusnesau yn y sector hwn yn nodi eu bod yn prynu gan wledydd eraill y DU (mae data ynghylch pryniannau’n un pwynt data).[footnote 51] O ran busnesau o fewn diwydiant y fasnach gyfanwerthu a manwerthu, ar gyfartaledd, mae tua 25% yn gwerthu i wledydd eraill y DU, tra bo tua 15% yn dweud eu bod yn prynu gan wledydd eraill y DU.[footnote 52]

Ffigwr 2.7: Cyfran y busnesau sy’n gwneud gwerthiannau/pryniannau oddi mewn i’r DU yn ôl sectorau diwydiant

Graff bar yn dangos cyfran y busnesau sy’n gwneud pryniannau a gwerthiannau oddi mewn i’r DU yn ôl sectorau diwydiant.

O ran y sector Adeiladu, cyfran y busnesau â phryniannau o weddill y DU yw 11% ac mae cyfran y busnesau a oedd wedi gwerthu i Weddill y DU yn gyfartaledd o 4%.

O ran y sector gweithgareddau gwasanaethau eraill, cyfran y busnesau â phryniannau o weddill y DU yw 11% ac mae cyfran y busnesau a oedd wedi gwerthu i Weddill y DU yn gyfartaledd o 5%.

O ran y sector gweithgareddau llety a bwyd, cyfran y busnesau â phryniannau o weddill y DU yw 10 ac mae cyfran y busnesau a oedd wedi gwerthu i Weddill y DU yn gyfartaledd o 5%.

O ran y sector trafnidiaeth a storio, cyfran y busnesau â phryniannau o weddill y DU yw 5% ac mae cyfran y busnesau a oedd wedi gwerthu i Weddill y DU yn gyfartaledd o 12%.

O ran y sector gweithgareddau iechyd pobl a gwaith cymdeithasol, cyfran y busnesau â phryniannau o weddill y DU yw 9% ac mae cyfran y busnesau a oedd wedi gwerthu i weddill y DU yn gyfartaledd o 8%.

O ran y sector gweithgareddau proffesiynol, gwyddonol a thechnegol, cyfran y busnesau â phryniannau o weddill y DU yw 10% ac mae cyfran y busnesau a oedd wedi gwerthu i weddill y DU yn gyfartaledd o 16%.

O ran y sector gweithgareddau gweinyddol a chefnogi, cyfran y busnesau â phryniannau o weddill y DU yw 9% ac mae cyfran y busnesau a oedd wedi gwerthu i weddill y DU yn gyfartaledd o 14%.

O ran y sector gweithgareddau eiddo tirol, cyfran y busnesau â phryniannau o weddill y DU yw 7% ac mae cyfran y busnesau a oedd wedi gwerthu i weddill y DU yn gyfartaledd o 9%.

O ran y sector gwybodaeth a chyfathrebu, cyfran y busnesau â phryniannau o weddill y DU yw 7% ac mae cyfran y busnesau a oedd wedi gwerthu i weddill y DU yn gyfartaledd o 14%.

O ran sector y celfyddydau, adloniant a hamdden, cyfran y busnesau â phryniannau o weddill y DU yw 6% ac mae cyfran y busnesau a oedd wedi gwerthu i weddill y DU yn gyfartaledd o 15%.

O ran y sector addysg, cyfran y busnesau â phryniannau o weddill y DU yw 2% ac mae cyfran y busnesau a oedd wedi gwerthu i weddill y DU yn gyfartaledd o 19%.

O ran y sector gweithgynhyrchu, cyfran y busnesau â phryniannau o weddill y DU yw 18% ac mae cyfran y busnesau a oedd wedi gwerthu i weddill y DU yn gyfartaledd o 33%.

O ran y fasnach gyfanwerthu a manwerthu; y sector atgyweirio cerbydau a beiciau modur, cyfran y busnesau â phryniannau o weddill y DU yw 15% ac mae cyfran y busnesau a oedd wedi gwerthu i weddill y DU yn gyfartaledd o 24%.

Ffynhonnell: Yr Arolwg o Fewnwelediadau ac Amodau Busnes

Cwestiynau BICS: ‘In the last 12 months, has your business sold goods or services to customers in other UK nations?’ ‘In the last 12 months, has your business purchased goods or services from suppliers in other UK nations’.

Nodiadau:  Data ar Werthiannau: Cyfartaledd Ton 63 (8-21 Awst 2022), Ton 68 (17-30 Hydref 2022), Ton 75 (23 Ionawr - 5 Chwefror 2023), Ton 81 (17 Ebrill 2023 i 30 Ebrill 2023), Ton 88 (24 Gorffennaf 2023 i 6 Awst 2023) a Thon 95 (30 Hydref 2023 i 12 Tachwedd 2023). Data ar Werthiannau: Ton 94 (16 Hydref 2023 i 29 Hydref 2023).

Mae’r data ar fasnach genedlaethol yn dangos bod cyfran y gwerthiannau oddi mewn i’r DU yn ôl sectorau diwydiant yn amrywio yn ôl gwledydd y DU (gweler Ffigur 2.8). Er enghraifft, yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, mae’r sector Gweithgynhyrchu’n cyfrif am y gwerth mwyaf o ran gwerthiannau i weddill y DU, tra yn yr Alban, Busnes a gwasanaethau eraill oedd y sector mwyaf. Mae hyn yn gyson â’n canfyddiadau o fewn adroddiad blynyddol 2022 i 2023.

  • yn 2021, roedd gwerthiannau’r Alban i weddill y DU yn dibynnu’n helaeth ar Fusnes a gwasanaethau eraill[footnote 53], yn enwedig gweithgareddau ariannol ac yswiriant, yr amcangyfrifwyd eu bod yn werth £9.2 biliwn (19% o werthiannau’r Alban). Mewn cymhariaeth, roedd gwerthiannau rhyngwladol yn dibynnu mwy ar weithgynhyrchu.[footnote 54] Bu hon yn duedd gyson ers 2019. Nid yw’r data o ran pryniannau yn ôl sectorau ar gyfer 2021 ar gael ar gyfer yr Alban[footnote 55]

  • o ran Cymru, yn 2021, roedd y sector gweithgynhyrchu yn cyfrif am bron i hanner (49.1%, £16.0 biliwn) gwerth gwerthiannau i weddill y DU.[footnote 56] Dilynwyd hyn gan y sector busnes a gwasanaethau eraill (23.9%, £7.8 biliwn). Y sector masnach, llety a thrafnidiaeth oedd yn cyfrif am y gyfran uchaf o bryniannau yng Nghymru o weddill y DU yn 2021, sef 37.2% (£13.9 biliwn).[footnote 57] Dilynwyd hyn gan y ffaith bod bron i chwarter y pryniannau yn dod o’r sector gweithgynhyrchu (24.5%, £9.1 biliwn), yn 2021

  • o ran Gogledd Iwerddon, roedd y sector gweithgynhyrchu hefyd yn cyfrif am bron i hanner (43%, £5.9 biliwn) gwerth y gwerthiannau o weddill y DU. Roedd y sector masnach, llety a thrafnidiaeth yn cyfrif am y gyfran uchaf o bryniannau yng Ngogledd Iwerddon o weddill y DU yn 2021, sef 64.7% (£8.5 biliwn). Mae hyn yn gyson â data ar gyfer pryniannau yn 2019 a 2020, a gweithgynhyrchu oedd y sector mwyaf ond un (19.1%, £2.5 biliwn yn 2021)

Ffigwr 2.8: Amcangyfrifon o werthiannau/pryniannau oddi mewn i’r DU yn ôl sectorau diwydiant, 2021

Dau graff bar yn dangos amcangyfrifon o werthiannau a phryniannau yn 2021 i/o wledydd eraill y DU ar gyfer yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon ar gyfer pum sector diwydiant eang (y sector cynradd a chyfleustodau; adeiladu; busnes a gwasanaethau eraill; gweithgynhyrchu; a masnach, llety a thrafnidiaeth).

Mae’r siart far gyntaf, sy’n dangos cyfran y gwerthiannau oddi mewn i’r DU yn ôl sectorau diwydiant eang, yn dangos, o ran yr Alban, y gwnaed 17% o’r gwerthiannau i wledydd eraill y DU gan y sector cynradd a chyfleustodau; 4% gan y sector adeiladu; 37% gan y sector busnes a gwasanaethau eraill; 24% gan y sector gweithgynhyrchu; a 19% gan y sector masnach, llety a thrafnidiaeth. O ran Cymru, gwnaed 4% o’r gwerthiannau i wledydd eraill y DU gan y sector cynradd a chyfleustodau; 4% gan y sector adeiladu; 24% gan y sector busnes a gwasanaethau eraill; 49% gan y sector gweithgynhyrchu; a 19% gan y sector masnach, llety a thrafnidiaeth.  O ran Gogledd Iwerddon, gwnaed 2% o’r gwerthiannau i wledydd eraill y DU gan y sector cynradd a chyfleustodau; 18% gan y sector adeiladu; 14% gan y sector busnes a gwasanaethau eraill; 43% gan y sector gweithgynhyrchu; a 22% gan y sector masnach, llety a thrafnidiaeth.

Mae’r ail siart far yn dangos cyfran y pryniannau oddi mewn i’r DU yn ôl sectorau diwydiant eang. O ran yr Alban, nid oedd unrhyw ddata ynghylch pryniannau yn ôl sectorau yn 2021. O ran Cymru, gwnaed 24% o’r pryniannau gan wledydd eraill y DU gan y sector cynradd a chyfleustodau; 4% gan y sector adeiladu; 10% gan y sector busnes a gwasanaethau eraill; 24% gan y sector gweithgynhyrchu; a 37% gan y sector masnach, llety a thrafnidiaeth.  O ran Gogledd Iwerddon, gwnaed 1% o’r pryniannau gan wledydd eraill y DU gan y sector cynradd a chyfleustodau; 9% gan y sector adeiladu; 5% gan y sector busnes a gwasanaethau eraill; 19% gan y sector gweithgynhyrchu; a 65% gan y sector masnach, llety a thrafnidiaeth.

Ffynhonnell: Northern Ireland Economic Trade Statistics, 2022;; Arolwg Masnach Cymru, 2021; GDP Quarterly National Accounts Scotland: 2023; Export Statistics Scotland, 2021.

Noder: Nid yw’r Alban yn rhyddhau data ynghylch pryniannau yn ôl sector.

Masnach yn ôl maint busnesau

Mae ein dadansoddiad o’r dystiolaeth sydd ar gael yn awgrymu bod maint busnesau’n parhau i effeithio ar y tebygolrwydd o fasnachu oddi mewn i’r DU. Mae tystiolaeth o’r BICS yn awgrymu fod busnesau mwy yn fwy tebygol o fasnachu ar draws y DU na rhai llai, yn nhermau gwerthiannau a phryniannau.[footnote 58] Fel y dangosir yn Ffigur 2.9., gwnaeth llai na 15% o ficrofusnesau (0-9 o weithwyr) werthiannau i wledydd eraill y DU, mewn cymhariaeth â 40% o fusnesau mawr (250+ o weithwyr). Adlewyrchir y duedd hon o ran pryniannau hefyd.

Ffigwr 2.9: Y gyfran o fusnesau sydd â gwerthiannau/pryniannau oddi mewn i’r DU yn ôl band maint (cyflogeion)

Graff bar sy’n dangos cyfran y busnesau sydd â gwerthiannau a phryniannau i/o weddill y DU yn ôl band maint.

Dengys y graff bod cyfartaledd o 13% o fusnesau â 0-9 o gyflogeion wedi gwerthu i wledydd eraill y DU, a bod 9% wedi prynu gan wledydd eraill y DU. 

O ran busnesau â 10-49 o gyflogeion, roedd cyfartaledd o 23% yn gwerthu i wledydd eraill y DU ac, o ran pryniannau, roedd y ffigur hwn yn 18%. 

Roedd cyfartaledd o 37% o fusnesau â 50-99 o gyflogeion wedi gwerthu i wledydd eraill y DU, ac 26% wedi prynu gan wledydd eraill y DU. 

O ran busnesau â 100-249 o gyflogeion, roedd cyfartaledd o 41% yn gwerthu i wledydd eraill y DU a 30% wedi prynu gan wledydd eraill y DU.

Roedd cyfartaledd o 43% o fusnesau a chanddynt dros 250 o gyflogeion wedi gwerthu i wledydd eraill y DU, ac roedd 32% wedi prynu gan wledydd eraill y DU.

Ffynhonnell: Yr Arolwg o Fewnwelediadau ac Amodau Busnes

Cwestiynau BICS: ‘In the last 12 months, has your business sold goods or services to customers in other UK nations?’ ‘In the last 12 months, has your business purchased goods or services from suppliers in other UK nations’.

Nodiadau: Busnesau bach sy’n cyfrif am gyfran fawr o sampl y BICS

Data ar Werthiannau: Cyfartaledd Ton 63 (8-21 Awst 2022), Ton 68 (17-30 Hydref 2022), Ton 75 (23 Ionawr - 5 Chwefror 2023), Ton 81 (17 Ebrill 2023 i 30 Ebrill 2023), Ton 88 (24 Gorffennaf 2023 i 6 Awst 2023) a Thon 95 (30 Hydref 2023 i 12 Tachwedd 2023). Data ar Werthiannau: Ton 94 (16 Hydref 2023 i 29 Hydref 2023).

Ar y cyfan, cefnogir tystiolaeth o’r BICS gan ddata arall ynghylch masnach oddi mewn i’r DU, o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, fel y gwelir yn Ffigur 2.10.

  • o ran yr Alban a Gogledd Iwerddon, o 2019-2021, cafwyd darlun cyson bod busnesau mwy yn cynrychioli cyfran uwch o werthiannau i weddill y DU (cyfran o tua 60% ar gyfer yr Alban, a thua 45% ar gyfer Gogledd Iwerddon)

  • o ran Cymru, yn 2021, roedd busnesau mawr yn cyfrif am gyfran uwch o’r fasnach ar draws y DU na rhai llai, yn nhermau gwerthiannau (38%, £12.4 biliwn) a phryniannau (64%, £23.8 biliwn).[footnote 59] O ran gwerthiannau, mae hyn yn newid o 2019, pryd gwelwyd, o ychydig, mai busnesau canolig eu maint oedd â’r gyfran fwyaf o gyfanswm y gwerthiannau i weddill y DU (39%, £13.6 biliwn), a ddilynwyd yn agos gan fusnesau mawr (38%, £13.3 biliwn). O ran pryniannau, mae’r duedd wedi aros yr un fath, gyda busnesau mawr yn cynrychioli’r mwyafrif o’r fasnach i weddill y DU (57%, £15.6 biliwn yn 2019)

Ffigwr 2.10: Amcangyfrifon o werthiannau/pryniannau oddi mewn i’r DU yn ôl maint busnesau, 2021

Graff bar yn dangos amcangyfrifon o werthiannau a phryniannau i/o wledydd eraill y DU, ar gyfer yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, yn ôl maint busnesau (Bach = 0-49 o gyflogeion, Canolig = 50-249 o gyflogeion, Mawr = 250+ o gyflogeion).

O ran yr Alban, gwnaed 20% o’r gwerthiannau i wledydd eraill y DU gan fusnesau Bach, 21% gan fusnesau Canolig, a 59% gan fusnesau Mawr. O ran yr Alban, nid oedd unrhyw ddata ynghylch pryniannau yn ôl maint busnesau yn 2021.

O ran Cymru, gwnaed 34% o’r gwerthiannau i wledydd eraill y DU gan fusnesau Bach, 28% gan fusnesau Canolig, a 38% gan fusnesau Mawr. O ran Cymru, gwnaed 22% o’r pryniannau gan wledydd eraill y DU gan fusnesau Bach, 14% gan fusnesau Canolig, a 64% gan fusnesau Mawr.

O ran Gogledd Iwerddon, gwnaed 31% o’r gwerthiannau i wledydd eraill y DU gan fusnesau Bach, 20% gan fusnesau Canolig, a 48% gan fusnesau Mawr. O ran Gogledd Iwerddon, gwnaed 44% o’r pryniannau gan wledydd eraill y DU gan fusnesau Bach, 24% gan fusnesau Canolig, a 33% gan fusnesau Mawr.

Ffynhonnell: Northern Ireland Economic Trade Statistics, 2022; Arolwg Masnach Cymru, 2021; GDP Quarterly National Accounts Scotland: 2023; Export Statistics Scotland, 2021.

Noder: Nid yw’r Alban yn rhyddhau data ynghylch pryniannau

Dyma feintiau busnesau: Bach = 0-49 o weithwyr, Canolig = 50-249 o weithwyr, Mawr = 250+ o weithwyr

Profiadau o fasnach oddi mewn i’r DU

Ar sail y BICS[footnote 60], mae’r sefyllfa’n parhau, o ran dros hanner y busnesau a werthodd nwyddau a gwasanaethau i gwsmeriaid yng ngwledydd eraill y DU, nid oeddynt wedi wynebu unrhyw heriau wrth wneud hynny.[footnote 61] O’r busnesau hynny a oedd wedi ymwneud â masnachu â gwledydd eraill y DU, mae’r nifer sy’n profi heriau o ganlyniad i wahaniaethau o ran rheolau neu reoliadau yn isel, sef llai na 10%, ac mae wedi parhau i fod yn isel dros gyfnod o amser.[footnote 62] Yn adroddiad blynyddol 2022 i 2023, nodwyd mai costau trafnidiaeth[footnote 63] oedd y broblem fwyaf, ond, erbyn hyn, diffyg galw[footnote 64] yw’r pryder mwyaf a adroddwyd, gyda 17% o fusnesau’n nodi’r broblem hon. Nodwyd y profwyd heriau’n ymwneud â Phrotocol Gogledd Iwerddon gan gyfartaledd o 8% o fusnesau wrth werthu nwyddau neu wasanaethau i wledydd eraill yn y DU.[footnote 65]

Casgliad

Yn 2021, roedd masnach oddi mewn i’r DU yn dal i fod yn bwysig i wledydd y DU, gan gynrychioli rhwng 43% a 65% o werthiannau a phryniannau allanol Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Roedd hyn yn cynrychioli gwerth £94.7 biliwn o werthiannau oddi mewn i’r DU ar gyfer Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ynghyd â £119.1 biliwn o ran pryniannau oddi mewn i’r DU yn 2021. Hyd yma, nid ydym yn gweld llawer o newid dros amser, naill ai wrth edrych yn ôl i 2019 neu, yn achos Gogledd Iwerddon, lle mae gennym niferoedd mwy cyfredol, wrth edrych ymlaen at 2022. Mae’n rhy fuan i wneud sylwadau ar dueddiadau cyffredinol o ystyried y problemau o ganlyniad i Covid-19. Nid yw data cyfredol ar gyfer Lloegr ar gael.[footnote 66] Fel y nodwyd yn adroddiad blynyddol y llynedd, roedd y Ganolfan Ragoriaeth Ystadegau Economaidd (ESCoE) yn amcangyfrif bod cyfanswm y gwerthiannau oddi mewn i’r DU (sy’n cynnwys ffigyrau ar gyfer Lloegr) yn dod i tua £190 biliwn yn 2015.

Yn yr adroddiad ar gyfer eleni, rydym yn defnyddio data ychwanegol y Swyddfa Ystadegau Gwladol gan BICS a CThEF, i gael gwell dealltwriaeth o lifau masnach rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon. Mae data BICS yn awgrymu bod cyfartaledd o 4.5% o fusnesau’n dweud eu bod wedi anfon nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon yn y 12 mis diwethaf (er bod hyn yn cynrychioli cyfran isel o fusnesau, mae hyn yn cynrychioli gwerth sylweddol o ran nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, gyda CThEF yn adrodd ‘Total value associated with full declarations cleared by HMRC for movements of goods into Northern Ireland from Great Britain in 2022 was £14.1 billion, up 13% from the 2021 total value of £12.4 billion’. O ran cyd-destun, roedd gwerth datganiadau tollau yn 2021 yn cynrychioli tua 24% o Gynnyrch Domestig Gros Gogledd Iwerddon[footnote 67]. O ran nwyddau a anfonwyd o Ogledd Iwerddon i Brydain Fawr, roedd hyn yn llai na 2%. Ar ben hynny, mae CThEF yn adrodd, ar sail data tollau, ‘the total number of unique businesses moving goods into Northern Ireland from Great Britain in 2022 is 12,800, up by 22% when compared with the 2021 business count of 10,500’, er y dylid cymryd gofal wrth gymharu ffigyrau o un flwyddyn i’r llall oherwydd oedi cyn cael data, fel yr eglurwyd ym mharagraff 2.21.

Mae tystiolaeth BICS yn dangos, yn gyffredinol, bod busnesau yn y sectorau masnach gweithgynhyrchu a chyfanwerthu a manwerthu yn fwy tebygol o fasnachu â gwledydd eraill yn y DU. Mae data masnach cenedlaethol yn dangos bod cyfran y gwerthiannau yn ôl sectorau diwydiant yn amrywio yn ôl gwledydd y DU. Er enghraifft, yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, roedd y sector Gweithgynhyrchu yn cyfrif am y gwerth mwyaf o ran gwerthiannau i weddill y DU, tra yn yr Alban, busnes a gwasanaethau eraill oedd y sector mwyaf. O ran pryniannau oddi mewn i’r DU, nid oes gennym ond data ar gyfer Cymru a Gogledd Iwerddon, sy’n dangos i ni mai pryniannau o’r sector Masnach, Llety a Thrafnidiaeth sy’n cyfrif am y gyfran fwyaf o gyfanswm y pryniannau allanol, a ddilynir gan y sector Gweithgynhyrchu. Bu hon yn duedd gyson o ran gwerthiannau a phryniannau yn ôl sector diwydiant oddi mewn i’r DU ers 2019.

Yn 2021, yn nhermau gwerthiannau oddi mewn i’r DU, gwelsom fod cwmnïau mwy yn cyfrannu cyfran uwch o gyfanswm y gwerthiannau allanol i weddill y DU ar gyfer Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae hyn yn duedd gyson ers 2019 o ran yr Alban a Gogledd Iwerddon. O ran Cymru, yn 2019, o ychydig, busnesau o faint canolig oedd â’r gyfran fwyaf o werthiannau o fewn y DU, sef 39%, o gymharu â busnesau mawr, sef 38%. Ar ben hynny, ar y cyfan, caiff y data hwn ar gyfer masnachu oddi mewn i’r DU ei gefnogi gan dystiolaeth o’r BICS, sy’n dal i ddangos i ni fod masnachu’n fwy cyffredin ymhlith busnesau mwy.

Yn olaf, rydym yn dal i weld bod busnesau yn gyffredinol yn ei chael yn hawdd masnachu â gwledydd eraill o fewn y DU, gyda’r mwyafrif o gwmnïau yn ymateb i’r BICS gan ddweud nad ydynt wedi gorfod wynebu unrhyw heriau.

Yn gyffredinol, mae’r data sydd ar gael ynghylch masnachu oddi mewn i’r DU yn dal i fod yn gyfyngedig, ond mae gwelliannau ar y gweill. Fel y nodwyd ym Map Llywio Strategaeth Ddata’r[footnote 68] OIM, dylai prosiectau yr ymgymerir â hwy wella’r gyd-ddealltwriaeth o’r modd y mae marchnad fewnol y DU yn gweithredu. Disgwyliwn y bydd amcangyfrifon o ran masnachu oddi mewn i’r DU, sy’n cynnwys pob un o bedair gwlad y DU, ar gael erbyn hydref 2024. Yn ogystal â hyn, y flwyddyn nesaf, gyda rhagor o bwyntiau data, bydd modd i ni wneud cymariaethau gwell o ran gwerthiannau a phryniannau ar sail data’r BICS.

 Tirwedd a datblygiadau rheoliadol

Canfyddiadau Allweddol

  • dros y flwyddyn ddiwethaf, cafwyd cynnydd sylweddol yn nifer y gwahaniaethau arfaethedig mewn rheoliadau o fewn cwmpas Deddf Marchnad Fewnol y DU (UKIMA)

  • mae’r mwyafrif o’r rheoliadau arfaethedig hyn yn ymwneud â nwyddau, er y cafwyd datblygiadau hefyd o ran gwasanaethau a phroffesiynau a reoleiddir

  • y sector nwyddau a effeithir fwyaf yw bwyd a diod. O ran gwasanaethau, mae’r rheoliadau arfaethedig yn berthnasol i amrywiaeth ehangach o weithgareddau economaidd. Mae nifer fechan o reoliadau arfaethedig yn ymwneud â diffinio proffesiynau newydd a reoleiddir

  • ar gyfartaledd, mae llawer mwy o weithgaredd economaidd (o ran hynny a fesurir gan gyflogaeth) o fewn gwasanaethau y tu hwnt i gwmpas UKIMA na hynny yn achos nwyddau, ond mae maint y sector gwasanaethau o gymharu â’r sector nwyddau yn golygu, mewn termau absoliwt, bod y rhan fwyaf o’r gweithgaredd economaidd sy’n ddarostyngedig i’r UKIMA o fewn gwasanaethau  

  • hyd yma, dim ond effeithiau gweddol fach a welwyd ar y farchnad fewnol o ran nwyddau. Mae’n rhy fuan i ganfod effeithiau yng nghyswllt gwasanaethau. Nid ydym wedi nodi effeithiau o ran y proffesiynau a reoleiddir

Yn y bennod hon, rydym yn trafod y dirwedd reoliadol a’r datblygiadau rheoliadol o fewn cwmpas UKIMA mewn perthynas â nwyddau, gwasanaethau a phroffesiynau a reoleiddir. Rhaid deall y drafodaeth honno yng ngolau amryw ddatblygiadau o ran cyfundrefn y farchnad fewnol sydd wedi digwydd dros y flwyddyn ddiwethaf. Nodir crynodeb o’r newidiadau hynny yn Atodiad A. Dylid hefyd ei darllen ar y cyd â’r data ar lifau masnach cyfanredol a drafodwyd ym Mhennod 1, sy’n helpu i leoli’r datblygiadau hyn a drafodwyd yn y bennod hon yn eu cyd-destun ehangach. Yn ogystal â hynny, mae pedwar o’r datblygiadau rheoliadol a drafodir gennym yn y bennod hon yn ffurfio’r sail ar gyfer yr astudiaethau achos o strategaethau busnesau mewn ymateb i wahaniaethau rheoliadol a nodir ym Mhennod 4.

Nwyddau

Asesiad o’r dirwedd reoliadol mewn perthynas â nwyddau

Dengys Ffigur 3.1, o ran bob gwlad, y gyfran o gyflogaeth[footnote 69] sydd mewn is-sectorau lle mae llunio polisïau ar gyfer sectorau penodol yn dod o fewn un o dri chategori:

  • cyflogaeth mewn is-sectorau lle mae llunio polisïau ar gyfer y sectorau penodol hynny yn fater a gedwir yn ôl (h.y. nid yw’n ddarostyngedig i wahaniaethau rheoliadol rhwng y gwledydd)[footnote 70]

  • cyflogaeth mewn is-sectorau lle bo llunio polisïau ar gyfer sector penodol wedi’i ddatganoli ond wedi’i eithrio o UKIMA (h.y. gall fod yn ddarostyngedig i wahaniaethau rheoliadol ond nid y MAPs)

  • cyflogaeth mewn is-sectorau lle bo llunio polisïau ar gyfer sectorau penodol wedi’i ddatganoli ond heb ei eithrio o UKIMA (h.y. gall fod yn ddarostyngedig i wahaniaethau rheoliadol a’r MAPs)

Dengys y data, o ran bob gwlad, mae cyfran y gyflogaeth yn yr is-sectorau nwyddau sydd yn y categori cyntaf (lle na ellir cael gwahaniaeth rheoliadol o fewn Prydain Fawr a dim ond rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn achos gwahaniaethau rhwng y DU a’r UE) yn gyfran fechan o gyfanswm y gyflogaeth yn y sector nwyddau (i weld manylion y fethodoleg a ddefnyddiwyd i gyfrifo’r ffigyrau hyn, gweler Atodiad B – dylid trin yn ffigyrau fel amcangyfrifon bras). O ran yr is-sectorau nwyddau lle gallai rheoliadau fod yn wahanol, ym mhob gwlad, dim ond canran fechan sydd mewn is-sectorau sydd wedi’u heithrio o UKIMA

Ffigwr 3.1: Gweithgaredd economaidd y sector nwyddau (canran o gyfanswm cyflogaeth y sector nwyddau[footnote 71] yn ôl y berthynas â gwahaniaethau rheoliadol a’r MAPs

Set o bedair siart gylch yn dangos gweithgaredd economaidd y sector nwyddau ar gyfer bob gwlad yn y DU fel canran o gyfanswm cyflogaeth y sector nwyddau ar gyfer bob gwlad yn y DU, yn ôl categorïau’r berthynas â gwahaniaethau rheoliadol a’r Egwyddorion Mynediad i’r Farchnad (wedi’i neilltuo neu ei heithrio; wedi’i datganoli neu ei heithrio; ac wedi ei datganoli heb ei heithrio).

Dengys y siart gylch gyntaf weithgareddau economaidd y sector nwyddau ar gyfer Lloegr. Mae 96% o gyfanswm cyflogaeth y sector nwyddau yn Lloegr yn cyfrif am ‘wedi’i datganoli heb ei heithrio’; 2.2% ar gyfer ‘wedi’i datganoli ond wedi ei heithrio’; ac 1.8% ar gyfer wedi’i neilltuo neu ei heithrio.

Dengys yr ail siart gylch weithgareddau economaidd y sector nwyddau ar gyfer yr Alban. Mae 97% o gyfanswm cyflogaeth y sector nwyddau yn yr Alban yn cyfrif am ‘wedi’i datganoli heb ei heithrio’; 1.5% ar gyfer ‘wedi’i datganoli ond wedi ei heithrio’; ac 1.3% ar gyfer wedi’i neilltuo neu ei heithrio.

Dengys y drydedd siart gylch weithgareddau economaidd y sector nwyddau ar gyfer Cymru. Mae 95.1% o gyfanswm cyflogaeth y sector nwyddau yn yr Alban yn cyfrif am ‘wedi’i datganoli heb ei heithrio’; 2.4% ar gyfer ‘wedi’i datganoli ond wedi ei heithrio’; ac 2.5% ar gyfer wedi’i neilltuo neu ei heithrio.

Dengys y bedwaredd siart gylch weithgareddau economaidd y sector nwyddau ar gyfer Gogledd Iwerddon. Mae 98.1% o gyfanswm cyflogaeth y sector nwyddau yng Ngogledd Iwerddon yn cyfrif am ‘wedi’i datganoli heb ei heithrio’; 1.9% ar gyfer ‘wedi’i datganoli ond wedi ei heithrio’; ac 0% ar gyfer wedi’i neilltuo neu ei heithrio.

Ffynhonnell:

Prydain Fawr: Cronfa ddata NOMIS, data 2021, cyfrif yn ôl Cyflogaeth

Gogledd Iwerddon: Business Register and Employment Survey, data 2021, cyfrif yn ôl Cyflogeion 

Noder: Lluniwyd y siartiau ar y sail bod pob un ohonynt yr un maint ac ni chawsant eu llunio ar sail y gyfran o ffigyrau cyflogaeth bob gwlad sydd yn y Sector Nwyddau.

Gweler Atodiad B os gwelwch yn dda: ASESIAD O’R DIRWEDD REOLIADOL am ragor o wybodaeth ynghylch y berthynas â’r gwahaniaeth rheoliadol a’r MAPs. Fodd bynnag, wrth ddehongli’r ffigyrau hyn, rhaid nodi, ym mhob gwlad yn y DU, bod gwasanaethau’n cyfrif am gyfran llawer uwch o gyflogaeth (a chynnyrch economaidd) nag y mae nwyddau. Mae’r sector Gwasanaethau yn Lloegr yn cyfrif am 86% o gyflogaeth, o gymharu â dim ond 14% o gyflogaeth yn Lloegr a geir yn y sector Nwyddau. Felly, yn fras, mae sector gwasanaethau Lloegr yn chwe gwaith mwy na sector nwyddau Lloegr. O ran yr Alban, y ffigyrau cyfatebol yw 83% a 17%; 82% a 18% yng Nghymru; ac 85% a 15% yng Ngogledd Iwerddon.

Newidiadau rheoliadol presennol ac sydd ar y gweill o ran nwyddau

Yn ein rôl statudol o ran monitro’r farchnad fewnol, gan gynnwys gwahaniaethau rheoliadol a allai effeithio ar ei gweithrediad, rydym wedi nodi lefel uwch o ddatblygiadau rheoliadol perthnasol o gymharu ag adroddiad blynyddol 2022 i 2023. Rydym hefyd wedi gweld nifer gynyddol o achosion lle gallai datblygiadau cychwynnol o ran polisïau fod wedi dangos gwahaniaethau rheoliadol ond fod Llywodraethau, yn y diwedd, wedi cyrraedd lefel o gysondeb i ganiatáu ymgynghoriadau ledled y DU.

O ran y sectorau bras yr ydym yn ystyried y bydd gwahaniaethau rheoliadol yn fwyaf tebygol o ddigwydd, nid ydynt wedi newid ers adroddiad blynyddol 2022 i 2023. Mae’r rhain yn cynnwys (ond heb eu cyfyngu iddynt) yr amgylchedd, bwyd a diod, mesurau iechyd cyhoeddus, a lles anifeiliaid.

Canfuwyd y datblygiadau rheoliadol yr ydym yn canolbwyntio arnynt yn yr adran hon trwy gasglu gwybodaeth o ffynonellau sydd ar gael i’r cyhoedd (fel deunydd a gyhoeddir gan y Llywodraethau, cyhoeddiadau), ymgysylltu rheolaidd â rhanddeiliaid, cyflwyniadau i ffurflen wê yr OIM, ynghyd â holiaduron a anfonwyd at y pedair llywodraeth yn y DU.[footnote 72] Nid yw’r rhestr a gyflwynir yn yr adran hon yn gyflawn. Mae’n cynnwys datblygiadau rheoliadol a chanddynt lefel dda o fanylion o ran polisïau sydd ar gael i’r cyhoedd i lywio ein dealltwriaeth o’r gwahaniaethau rheoliadol posibl a/neu y mae rhanddeiliaid wedi creu rhyw lefel o ddiddordeb ynddynt. Ni ddylid dod i unrhyw gasgliadau yng nghyswllt y drefn y cyflwynwyd y rheoliadau ynddi yn yr adran hon.

Yn adroddiad blynyddol 2022 i 2023, nodwyd nifer o ddatblygiadau rheoliadol gennym a oedd yn effeithio, neu yr oedd ganddynt y potensial i effeithio, marchnad fewnol y DU. O’r rheiny, cynhwysir pedwar ohonynt (cynhyrchion plastig untro, Cynlluniau Dychwelyd Ernes, cyfyngiadau ar fwyd a diod sy’n uchel mewn braster, halen neu siwgr, a Bridio Manwl) fel astudiaethau achos ym mhennod 4. Darparwn fanylion ynghylch y rheoliadau hynny isod. Nodir yr holl ddatblygiadau rheoliadol eraill a nodwyd gennym yn Atodiad C.

Cynhyrchion Plastig Untro

Daethpwyd â mesurau i rym ledled y Du i fynd i’r afael â’r broblem o wastraff cynhyrchion plastig untro. Ar yr adeg y cyhoeddwyd ein hadroddiad blynyddol yn 2022 i 2023, roedd Llywodraeth y DU (yn Lloegr) a Llywodraeth yr Alban wedi rhoi gwaharddiadau ar waith ar gyflenwi, ac yn achos yr Alban, gweithgynhyrchu cynhyrchion plastig untro penodol.[footnote 73] Ar ben hyn, daethpwyd i gytundeb ynghylch eithriad a fyddai’n diystyru’r MAPs mewn perthynas â’r cynhyrchion hyn o dan y Fframwaith Cyffredin Adnoddau a Gwastraff.[^74]

Ers adroddiad blynyddol 2022 i 2023, mae Llywodraethau’r Du a Chymru wedi cyflwyno gwaharddiadau pellach ar werthu cynhyrchion plastig untro.[footnote 75] Yn Lloegr, daeth gwaharddiad newydd Llywodraeth y DU i rym ar 1 Hydref 2023, ac mae’n gwahardd y cyflenwad o gynnyrch plastig untro megis cyllyll a ffyrc plastig, ffyn balŵns, platiau, blychau neu bowlenni a mathau penodol o gynwysyddion bwyd polystyren, cynwysyddion diod a chwpanau.[footnote 76] Daeth gwaharddiad Llywodraeth Cymru i rym ar 30 Hydref 2023, ac mae’n gwahardd y cyflenwad o’r cynnyrch plastig untro a ganlyn: platiau plastig, cyllyll a ffyrc, troyddion ar gyfer diodydd, ffyn balŵns, gwellt yfed, ffyn cotwm plastig, a chwpanau a chynwysyddion bwyd sydd wedi’u gwneud o bolystyren. Mae deddfwriaeth Llywodraeth Cymru’n darparu ar gyfer ‘ail gyfnod’ o’i gwaharddiad, yr ydym yn ei drafod yn Atodiad C, paragraffau C.12-C.14.

Mae cwmpas y gwaharddiadau’n amrywio yn nhermau’r cynhyrchion plastig untro a gynhwysir ynddynt. Er enghraifft, nid yw’r cyflenwad o bowlenni neu flychau plastig ond wedi’i wahardd yn Lloegr, ac nid ydynt wedi’u cynnwys o fewn gwaharddiadau yn unman arall yn y DU. Ni chaiff ei gynnwys ychwaith o fewn yr eithriad presennol ar gyfer cynhyrchion plastig untro, ac felly bydd yn ddarostyngedig i’r MAPs ar gyfer nwyddau.[footnote 77] Mae’r gwaharddiadau’n amrywio hefyd o ran y gweithgareddau a waherddir. Tra bo’r gwaharddiadau yn Lloegr a Chymru’n gwahardd y cyflenwad o gynhyrchion penodol, mae’r gwaharddiad presennol yn yr Alban hefyd yn gwahardd eu gweithgynhyrchu yn yr Alban.

Yng Ngogledd Iwerddon, nid oes unrhyw gyfyngiadau ar hyn o bryd ar eitemau plastig untro, ond mae’r Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA) wedi ymgynghori ynghylch opsiynau o ran polisi ar gyfer lleihau’r defnydd o gwpanau diod a chynwysyddion bwyd plastig untro, gan gynnwys gwaharddiad ar ddefnyddio’r eitemau hyn fel un opsiwn. Eglurodd DAERA i ni na wnaed unrhyw reoliadau sy’n cyfyngu’r defnydd o gynhyrchion plastig untro yng Ngogledd Iwerddon oherwydd nad oedd Cynulliad gweithredol ar waith ar hyn o bryd, ond bydd cyfyngiadau at y dyfodol yn mynd y tu hwnt i’r rheiny a roddwyd ar waith ym Mhrydain Fawr oherwydd rhwymedigaethau o dan Fframwaith Windsor. Nodir y cyfyngiadau sydd wedi’u cynllunio at y dyfodol yn Nhabl 4.1.

Cynlluniau Dychwelyd Ernes (DRS)

Nod cynlluniau dychwelyd ernes yw cynyddu’r cyfraddau ailgylchu ar gyfer cynwysyddion diod trwy gymell prynwyr i’w dychwelyd. Maent yn gweithio trwy godi tâl ar gynwysyddion o fewn cwmpas y cynlluniau y gellir ei adennill pan gaiff cynhwysydd ei ddychwelyd. Gan fod y cyfrifoldeb am bolisïau rheoli gwastraff wedi’i ddatganoli yn y DU, cyfrifoldeb y pedair llywodraeth ar draws y DU yw datblygu a chyflwyno cynllun dychwelyd ernes. Fel y nodwyd yn ein hadroddiad blynyddol ar gyfer 2022 i 2023, mae’r pedair llywodraeth yn gweithio tuag at ddatblygu cynlluniau dychwelyd ernes.

Yn dilyn cyhoeddi adroddiad blynyddol 2022 i 2023, roedd Llywodraeth y DU wedi cytuno ar eithriad am gyfnod penodol ar gyfer cynllun Llywodraeth yr Alban, yr oedd i fod i gael ei lansio cyn y cynllun ar y cyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.[footnote 78] Ym mis Mai 2023, nododd Llywodraeth y DU na fyddai unrhyw eithriad ond yn cynnwys plastig PET, a chaniau alwminiwm a dur - ni fyddai’n cynnwys gwydr. Ers hynny, mae Llywodraeth yr Alban wedi gohirio lansiad ei chynllun er mwyn ei gychwyn ar yr un pryd a’r dyddiad lansio a gynlluniwyd (1 Hydref 2025) ar gyfer y cynllun ar y cyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.[footnote 79] Nid yw rheoliadau ar gyfer sefydlu’r cynllun ar y cyd ar gael ar hyn o bryd, a disgwylir y bydd y Sefydliad Rheoli Ernes (gweinyddwr y cynllun) yn cael ei phenodi erbyn haf 2024.[footnote 80]

Gwahaniaeth sylweddol sy’n parhau rhwng y cynlluniau yw’r deunyddiau sydd o fewn eu cwmpas. Yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, y deunyddiau a gynhwysir yw plastig polyethylen tereffthalad (PET), cynhwysyddion dur ac alwminiwm.[footnote 81] Yn ogystal â’r deunyddiau hynny, mae Cymru a Lloegr hefyd yn bwriadu cynnwys cynwysyddion gwydr yn eu cynlluniau, er nad yw eu safbwyntiau ar hyn wedi’u cadarnhau’n llawn hyd yma.[footnote 82]

Dywedodd Llywodraeth Cymru wrthym ei bod wedi ymrwymo o hyd i gynnwys cynwysyddion gwydr yn y cynllun ar y cyd fel y mae’n berthnasol i Gymru. Nid yw Llywodraeth yr Alban wedi cadarnhau p’un a fydd cynwysyddion gwydr yn dal i fod wedi’u cynnwys yn ei chynllun. Nododd DBT ei waith gyda’r Llywodraethau Datganoledig o ran datblygu cynlluniau rhyngweithredu ledled y DU nad ydynt yn creu rhwystrau masnachu diangen. Amlygodd DAERA y rhoddwyd ystyriaeth i oblygiadau gwahaniaethau o ran cwmpas (e.e. gwydr) fel rhan o ddatblygu DRS ledled y DU.

Bwyd a diod sy’n uchel mewn braster, halen neu siwgr (HFSS)

Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi rheoliadau ar waith i gyfyngu ar hyrwyddo bwydydd HFSS a dargedir trwy gynigion arbennig o ran prisiau yn ôl cyfaint a’r modd y’u lleolir yn Lloegr o dan reoliadau’r Food (Promotion and Placement) (England) Regulations 2021.[footnote 83] O ran cyfyngiadau ar leoli cynhyrchion sy’n uchel mewn braster, halen a siwgr mewn lleoliadau gwerthu allweddol fel mannau talu, mynedfeydd siopau, ar bennau eiliau, a’r hyn sy’n cyfateb iddynt ar-lein, daethant i rym ym mis Hydref 2022.

Ers adroddiad blynyddol 2022 i 2023, o ran cyfyngiadau Llywodraeth y DU ar hyrwyddo cynhyrchion HFSS yn Lloegr trwy gynigion arbennig o ran prisiau yn ôl cyfaint, fel ‘prynu un a chael un am ddim’ neu ‘3 am 2’, a oedd i fod i ddod i rym ar 1 Hydref 2023, fe’u gohiriwyd ymhellach tan 1 Hydref 2025.[footnote 84] Mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu cyflwyno ei chyfyngiadau ar hyrwyddo cynhyrchion sy’n uchel mewn braster, halen a siwgr yn 2024. Bydd hyn fwy neu lai’n cysoni Cymru a Lloegr o ran y cyfyngiadau ar leoli cynhyrchion a chynigion arbennig o ran prisiau yn ôl cyfaint. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn bwriadu cyd-fynd â Lloegr o safbwynt yr un categorïau o ran cynhyrchion a gynhwysir yn y ddeddfwriaeth. Fodd bynnag, rhoddir ystyriaeth hefyd i’r opsiynau ar gyfer cynnwys rhagor o gyfyngiadau ar brydau bargen (‘meal deals’), hyrwyddo prisiau dros dro, ac unedau arddangos a leolir ar eu pennau eu hunain mewn siopau.

Mewn datganiad i Senedd yr Alban, cadarnhaodd Llywodraeth yr Alban ei chynlluniau i ymgynghori ynghylch manylion rheoliad arfaethedig i gyfyngu ar hyrwyddo bwyd a diod llai iachus sy’n cael eu gwerthu i’r cyhoedd. Disgwylir y caiff yr ymgynghoriad ei gyhoeddi ddechrau 2024.

Yng Ngogledd Iwerddon, mae cyfyngiadau ar hyrwyddo cynhyrchion HFSS yn cael eu hystyried fel rhan o fframwaith strategol drafft newydd ar gyfer gordewdra, sydd wedi’i gyflwyno ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

Mae’n debygol y bydd cysondeb cyffredinol o ran yr hyn a gynhwysir o fewn cwmpas y cyfyngiadau ar hyrwyddo HFSS ar draws y DU. Yn amodol ar ganlyniad ymgynghoriad pellach gan Lywodraeth yr Alban, mae’n bosibl y gall gwahaniaeth rheoliadol godi yng nghyswllt cynnwys prydau bargen a gostyngiadau prisiau dros dro o fewn cwmpas cyfyngiadau HFSS yng Nghymru a’r Alban, ond nid o fewn Lloegr.

Bridio Manwl

Fis Mai 2022, cyflwynodd Llywodraeth y DU y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl), sy’n addasu diffiniad Organebau Wedi’u Haddasu’n Enetig (GMOs) yn Lloegr i eithrio organebau penodol a grëwyd drwy dechnolegau bridio manwl. Bwriad y newid yw symleiddio’r broses o gael awdurdodaeth i farchnata planhigion ac anifeiliaid sydd wedi’u bridio’n fanwl (PBOs), mewn perthynas â’r gofynion ar gyfer awdurdodi organebau sydd wedi’u haddasu’n enetig.

Ers adroddiad blynyddol 2022 i 2023, cafodd Deddf Technoleg Enetig (Bridio Manwl) 2023 (y Ddeddf Bridio Manwl) ei phasio ym mis Mawrth 2023, ac mae’n ceisio dileu planhigion ac anifeiliaid sydd wedi’u bridio’n fanwl o’r ddeddfwriaeth GMO, gan gyflwyno deddfwriaeth i ddatblygu fframwaith amgen i reoleiddio eu defnydd, gan gynnwys cofrestr o blanhigion ac anifeiliaid sydd wedi’u bridio’n fanwl. Disgwylir y bydd is-deddfwriaeth a fydd yn nodi’r modd y bydd y Ddeddf Bridio Manwl yn gweithio’n ymarferol ar waith erbyn diwedd 2024.

Nid yw’r Ddeddf Bridio Manwl ond yn berthnasol i Loegr. Nid yw Cymru na’r Alban yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth debyg, ac maent yn dal i wylio’r datblygiadau ar lefel yr UE yn ofalus, a dywedodd Llywodraeth Cymru wrthym ei bod yn ystyried ei hymagwedd tuag at olygu genynnau. O dan Fframwaith Windsor, mae’n ofynnol i Ogledd Iwerddon ddilyn rheoliadau’r UE mewn perthynas ag organebau wedi’u haddasu’n enetig. Dylid nodi’n arbennig bod yr UE wedi cyhoeddi ei chynnig ar gyfer deddfwriaeth yng nghyswllt planhigion a gafwyd o ganlyniad i dechnegau genomig penodol, ynghyd â’r bwyd a’r porthiant sy’n deillio ohonynt, ac os caiff ei deddfu, byddai’n arwain at ddeddfwriaeth debyg i’r Ddeddf Bridio Manwl.[footnote 85] Fodd bynnag, nid yw hyn yn debygol o ddigwydd hyd nes y bydd darpariaethau’r Ddeddf Bridio Manwl wedi’u rhoi ar waith a’u bod yn weithredol.

Bydd gweithredu’r Ddeddf Bridio Manwl ac is-ddeddfwriaeth gysylltiedig yn arwain at wahaniaeth rheoliadol rhwng Lloegr a gweddill y DU. O ran y gwahaniaeth rheoliadol hwn, amlygodd DBT i ni, o dan Ddeddf UKIMA, gellir marchnata planhigion ac anifeiliaid sydd wedi’u bridio’n fanwl, ynghyd â’r bwyd a’r porthiant sy’n deillio ohonynt, yn gyfreithiol mewn rhan arall o’r DU. Nododd DBT hefyd eu bod yn monitro rheoliadau byd-eang ar dechnoleg enetig, gan gynnwys yn yr UE.

Rhagor o ddatblygiadau rheoliadol mewn perthynas â nwyddau

Caiff rhagor o ddatblygiadau rheoliadol a nodwyd gennym mewn perthynas â nwyddau eu rhestru isod, gyda’r manylion wedi’u nodi yn Atodiad C:

  • tân gwyllt

  • trapiau glud a maglau ar gyfer cnofilod

  • fêps

  • hysbysebu alcohol

  • rhagor o fesurau yng nghyswllt cynhyrchion plastig untro

  • isafbris uned am alcohol

  • polisïau sero net (dileu boeleri nwy a cheir petrol/diesel yn raddol)

  • weips gwlyb sy’n cynnwys plastig

  • diwygiadau i’r gyfraith a gymhathwyd ar gyfer gwin

  • cŵn ‘XL Bully’

Gwasanaethau

Asesiad o’r dirwedd reoliadol yng nghyswllt gwasanaethau

Dengys Ffigur 3.2, ar gyfer bob gwlad, mae cyfran y gyflogaeth ym maes gwasanaethau sydd yn yr is-sectorau nad ydynt yn ddarostyngedig i wahaniaethau rheoliadol yn llawer mwy (yn amrywio o 13% i 4%) na hynny ar gyfer nwyddau. Yn yr un modd, o ran pob gwlad, mae cyfran y gyflogaeth o fewn yr is-sectorau gwasanaeth sydd wedi’i datganoli ond sydd wedi’i heithrio o UKIMA hefyd yn uwch o lawer na hynny ar gyfer nwyddau. Mae hyn yn golygu bod cyfran y gyflogaeth sydd yn y trydydd categori o is-sectorau, sydd efallai’n ddarostyngedig i wahaniaeth rheoliadol a’r MAPs, rhywfaint yn llai nag ar gyfer nwyddau, er mae’n dal i fod y categori mwyaf.

Am y rheswm hwn, ym mhob gwlad, mae cyfanswm nifer y bobl a gyflogir mewn is-sectorau gwasanaeth sydd efallai’n ddarostyngedig i wahaniaeth rheoliadol a’r MAPs yn dal i fod yn fwy na’r nifer gyfatebol ar gyfer nwyddau.

Ffigwr 3.2: Gweithgaredd economaidd y sector gwasanaethau (canran o gyfanswm cyflogaeth y sector gwasanaethau[footnote 86] yn ôl y berthynas â gwahaniaethau rheoliadol a’r MAPs

Set o bedair siart gylch yn dangos gweithgaredd economaidd y sector gwasanaethau ar gyfer bob gwlad yn y DU fel canran o gyfanswm cyflogaeth y sector nwyddau ar gyfer bob gwlad yn y DU, yn ôl categorïau’r berthynas â gwahaniaethau rheoliadol a’r Egwyddorion Mynediad i’r Farchnad (wedi’i neilltuo neu ei heithrio; wedi’i datganoli neu ei heithrio; ac wedi ei datganoli heb ei heithrio).

Dengys y siart gylch gyntaf weithgareddau economaidd y sector gwasanaethau ar gyfer Lloegr. Mae 59% o gyfanswm cyflogaeth y sector gwasanaethau yn Lloegr yn cyfrif am ‘wedi’i datganoli heb ei heithrio’; 27% ar gyfer ‘wedi’i datganoli ond wedi ei heithrio’; ac 13% ar gyfer wedi’i neilltuo neu ei heithrio.

Dengys yr ail siart gylch weithgareddau economaidd y sector gwasanaethau ar gyfer yr Alban. Mae 58% o gyfanswm cyflogaeth y sector gwasanaethau yn yr Alban yn cyfrif am ‘wedi’i datganoli heb ei heithrio’; 32% ar gyfer ‘wedi’i datganoli ond wedi ei heithrio’; ac 10% ar gyfer wedi’i neilltuo neu ei heithrio.

Dengys y drydedd siart gylch weithgareddau economaidd y sector gwasanaethau ar gyfer Cymru.  Mae 59% o gyfanswm cyflogaeth y sector gwasanaethau yng Nghymru yn cyfrif am ‘wedi’i datganoli heb ei heithrio’; 32% ar gyfer ‘wedi’i datganoli ond wedi ei heithrio’; ac 9% ar gyfer wedi’i neilltuo neu ei heithrio.

Dengys y bedwaredd siart gylch weithgareddau economaidd y sector gwasanaethau ar gyfer Gogledd Iwerddon. Mae 65% o gyfanswm cyflogaeth y sector gwasanaethau yng Ngogledd Iwerddon yn cyfrif am ‘wedi’i datganoli heb ei heithrio’; 31% ar gyfer ‘wedi’i datganoli ond wedi ei heithrio’; ac 4% ar gyfer wedi’i neilltuo neu ei heithrio.

Ffynhonnell:

Prydain Fawr: Cronfa ddata NOMIS, data 2021, cyfrif yn ôl Cyflogaeth

Gogledd Iwerddon: Business Register and Employment Survey, data 2021, cyfrif yn ôl Cyflogeion 

Noder: Lluniwyd y siartiau ar y sail bod pob un ohonynt yr un maint ac ni chawsant eu llunio ar sail y gyfran o ffigyrau cyflogaeth bob gwlad sydd yn y Sector Gwasanaethau

Datblygiadau rheoliadol presennol ac sydd ar y gweill o ran gwasanaethau

Roedd y dystiolaeth a gasglwyd gennym ar gyfer ein hadroddiadau blynyddol a chyfnodol a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2023 yn canolbwyntio’n bennaf ar weithrediad y MAPs mewn perthynas â nwyddau, gan nad oeddem wedi canfod tystiolaeth o newidiadau rheoliadol a allai ryngweithio gyda’r MAPs gan eu bod yn berthnasol i wasanaethau. Yn yr adroddiad hwn, rydym wedi ehangu’r hyn a gynhwysir gennym o ran y farchnad fewnol trwy gynnwys dadansoddiad ychwanegol o wasanaethau. Rydym wedi nodi’r datblygiadau rheoliadol a ganlyn mewn perthynas â gwasanaethau , a nodir y manylion yn Atodiad C:

  • trapiau glud ar gyfer cnofilod

  • rheoleiddio triniaethau cosmetig

  • safonau cenedlaethol ar gyfer tacsis a cherbydau hurio preifat

  • trwyddedu gweithgareddau sy’n ymwneud ag anifeiliaid

  • mesurau twristiaeth (trwyddedu llety gosod tymor byr ac ardollau ymwelwyr)

Proffesiynau a reoleiddir

Cyflwyniad

Yn yr adran hon, rydym yn darparu dadansoddiad o’r proffesiynau a reoleiddir yn y DU, gan ddefnyddio gwybodaeth o gofrestr y ‘UK Regulated Professions Register’ a data a gasglwyd gan reoleiddwyr neu ffynonellau cyhoeddus.

Yn gyntaf, darparwn drosolwg economaidd o’r proffesiynau a reoleiddir, gan nodi faint sy’n dod o fewn bob un o’r tri senario gwahanol sydd, gyda’i gilydd, yn disgrifio’r dirwedd reoliadol.

Rydym yn amlinellu natur y gwahaniaethau rheoliadol a ganfuwyd gennym o fewn proffesiynau a reoleiddir sy’n ddarostyngedig i sawl cyfundrefn reoliadol ar hyd a lled gwledydd y DU. Rydym wedyn yn trafod pa broffesiynau a reoleiddir a gaiff eu heffeithio gan faterion a gedwir yn ôl, ac sydd wedi’u heithrio, neu y tu hwnt i gwmpas UKIMA. O ran y proffesiynau hyn, rydym yn cyflwyno amcangyfrifon dangosol o nifer y cofrestriadau proffesiynol a wnaed â’u rheoleiddwyr.

Yn olaf, rydym yn nodi datblygiadau rheoliadol sydd ar y gweill a allai greu rhagor o broffesiynau a reoleiddir yn y dyfodol.

Y dirwedd reoliadol

Ceir 192 o broffesiynau a reoleiddir ar hyd a lled y DU, y daethpwyd o hyd i 3.5 miliwn o gofrestriadau proffesiynol[footnote 87] economaidd weithgar oddi mewn iddynt â rheoleiddwyr. Caiff 81 o broffesiynau eu rheoleiddio ar sail y DU gyfan. Felly, mae’n bosibl bod y 111 sy’n weddill yn ddarostyngedig i wahaniaethau rheoliadol. O blith y rhain, nid yw 90 ond yn gofyn i weithiwr proffesiynol gofrestru â gwahanol reoleiddiwr cenedlaethol er mwyn masnachu ar draws ffin. Mae’r proffesiynau hyn yn cyfrif am tua 1.5 miliwn o gofrestriadau proffesiynol. O ran y 21 sy’n weddill, y mae’r mwyafrif ohonynt yn broffesiynau cyfreithiol, maent yn gofyn i weithiwr proffesiynol gael cymhwyster cenedlaethol gwahanol i fasnachu ar draws ffin. Ceir tua 250,000 o gofrestriadau proffesiynol o fewn y proffesiynau hyn. Er mwyn rhoi’r niferoedd hyn o fewn cyd-destun, ceir tua 36.6 miliwn o weithwyr yn y DU.

Gall rheoleiddio proffesiynau fod y tu hwnt i gwmpas y MAPs, naill ai oherwydd ei fod yn fater a gedwir yn ôl, neu oherwydd ei fod wedi’i eithrio o UKIMA. Y proffesiynau a reoleiddir sy’n faterion a gedwir yn ôl yw Pensaer, Archwilydd, Milfeddyg, nifer o broffesiynau iechyd[footnote 88] ac, yng Nghymru, proffesiynau cyfreithiol. Y proffesiynau a reoleiddir sydd wedi’u heithrio o’r UKIMA yw’r proffesiynau cyfreithiol a dysgu. Nodir rhestr lawn gennym yn Atodiad B o broffesiynau a gedwir yn ôl a rhai sydd wedi’u heithrio.

Daethpwyd o hyd i tua 2.05 miliwn o gofrestriadau gennym â rheoleiddwyr o fewn y proffesiynau a reoleiddir sy’n faterion a gedwir yn ôl, ynghyd â thua 850,000 o gofrestriadau â rheoleiddwyr o fewn y proffesiynau cyfreithiol a dysgu, sydd wedi’u heithrio o’r MAPs.

Dengys Ffigur 3.3 gyfran y cofrestriadau proffesiynol sy’n dod o dan broffesiynau a gedwir yn ôl, sydd wedi’u heithrio, neu nad ydynt wedi’u cadw’n ôl na’u heithrio. Mae ein data’n debygol o danddatgan yn sylweddol cyfran y cofrestriadau o fewn proffesiynau sydd wedi’u datganoli heb eu heithrio, gan y byddai’r mwyafrif o’r 82 proffesiwn nad oedd modd i ni gasglu data yn eu cylch yn dod o fewn y categori hwn.

Ffigwr 3.3: Gweithgaredd economaidd proffesiynol a reoleiddir (canran o gyfanswm y cofrestriadau proffesiynol economaidd weithredol gyda rheoleiddwyr) yn ôl y berthynas â gwahaniaethau rheoliadol a’r MAPs

Siart gylch sy’n dangos gweithgaredd economaidd proffesiynol a reoleiddir ar gyfer y DU fel canran o gyfanswm y cofrestriadau proffesiynol economaidd weithredol gyda rheoleiddwyr, yn ôl y berthynas â gwahaniaethau rheoliadol a’r Egwyddorion Mynediad i’r Farchnad (wedi’i neilltuo neu ei heithrio; wedi’i datganoli neu ei heithrio; ac wedi ei datganoli heb ei heithrio).

Dengys y siart gylch y gweithgaredd economaidd proffesiynol a reoleiddir ar gyfer y DU. Mae 23% o gyfanswm y cofrestriadau proffesiynol economaidd weithredol gyda rheoleiddwyr yn y DU yn cyfrif am ‘wedi’i datganoli heb ei heithrio’; 27% ar gyfer ‘wedi’i datganoli ond wedi ei heithrio’; ac 13% ar gyfer wedi’i neilltuo neu ei heithrio.

Ffynhonnell: Cyfrifiadau’r OIM – gweler Atodiad B

Noder: Ar sail data ar gyfer 110 o’r 192 o broffesiynau a reoleiddir yn y DU

Mae’n nodedig bod nifer o’r proffesiynau cyfreithiol sy’n gofyn i weithiwr proffesiynol gael cymhwyster cenedlaethol gwahanol i fasnachu ar draws ffin wedi’u heithrio o’r UKIMA o fewn o leiaf un o wledydd y DU. Fodd bynnag, gan fod yr holl reoliadau sy’n llywodraethu’r proffesiynau nad ydynt yn rhai a gedwir yn ôl neu wedi’u heithrio yn weithredol cyn cychwyn yr UKIMA, nid yw’r MAPs yn berthnasol iddynt hwy ychwaith ar hyn o bryd (gan nad yw rheoliadau a gyflwynwyd cyn yr UKIMA yn ddarostyngedig i’w darpariaethau). Efallai y bydd y MAPs yn berthnasol i unrhyw newidiadau at y dyfodol i’r gofynion o fewn y proffesiynau hyn a reoleiddir, neu i unrhyw broffesiynau a gaiff eu rheoleiddio o’r newydd.

Datblygiadau rheoleiddiol

Rydym wedi nodi nifer fechan o ddatblygiadau rheoleiddiol mewn perthynas â’r proffesiynau a reoleiddir. Nodwn y caiff rhai o’r rhain eu cyflwyno ar y cyd â rheoleiddio’r gwasanaethau cysylltiedig. Nodir rhagor o fanylion ynghylch pob un o’r datblygiadau rheoliadol hyn yn Atodiad C.

  • ardystio trydanwyr

  • trwyddedu cerddwyr cŵn a darparwyr gwasanaethau eraill ar gyfer cŵn

  • trwyddedu ymarferwyr sy’n darparu triniaethau cosmetig anfeddygol

  • trwyddedu arolygwyr adeiladu

  • trwyddedu unigolion sy’n ymwneud â chludo gwastraff

  • trwyddedu aciwbigo, tyllu’r corff, electrolysis, a thatŵio

  • rheoleiddio Technegwyr Fferyllfa

Casgliadau

I raddau helaeth, mae’r sector nwyddau’n dod o fewn cwmpas y MAPs, gyda dim ond cyfran fechan o gyfanswm y gyflogaeth o fewn y sector nwyddau nad yw’n ddarostyngedig iddynt trwy fod yn faterion a gedwir yn ôl neu eu bod wedi’u heithrio o’r MAPs. Y sector nwyddau sydd wedi gweld y datblygiadau mwyaf arwyddocaol o ran gwahaniaethau rheoliadol dros y deuddeng mis diwethaf, o ran y cyflwynwyd nifer uwch reoliadau ar gyfer y sector hwn nag o ran y sector gwasanaethau neu gymwysterau proffesiynol.

O ran y mwyafrif o’r rheoliadau arfaethedig hyn, nid ydynt wedi dod i rym eto, ac felly nid yw eu holl effeithiau ar y farchnad fewnol wedi dod i’r amlwg hyd yma. Tra bydd rhai o’r rheoliadau arfaethedig yn berthnasol i is-sectorau cymharol fach, at ei gilydd, mae faint o weithgaredd economaidd sy’n ddarostyngedig i wahaniaethau rheoliadol yn cynyddu dros amser. Ceir lefel uwch hefyd mewn rhai is-sectorau nag eraill, ac yn arbennig o ran rheoliadau arfaethedig a fydd yn berthnasol i gyfran fawr o’r sectorau bwyd a diod ar y cyd. Mae hyn yn creu rhyw fath o glytwaith o effeithiau posibl, y mae rhai wedi lleihau effaith rheoliadau newydd ar y farchnad fewnol. I gael gwell dealltwriaeth o hyn, mae ein hastudiaethau achos ym Mhennod 4, y mae bob un ohonynt yn archwilio ymatebion busnesau i reoliadau sy’n ymwneud â nwyddau, yn mynd ati’n fanylach i archwilio’r modd y gall ymatebion busnesau amrywio rhwng gwahanol reoliadau. Yn gyffredinol, gwelwn fod effaith gwahanol reoliadau ar y farchnad fewnol mewn perthynas â nwyddau dros y flwyddyn ddiwethaf yn gymharol fach.

Nid yw’r MAPs yn debygol o fod yn berthnasol (am eu bod yn faterion a gedwir yn ôl neu’n eithriadau) i gyfran fwy o weithgaredd o ran gwasanaethau (fel y mesurwyd gan ddata cyflogaeth) na hynny yn achos nwyddau. Yn ogystal â hynny, mae natur leol y ddarpariaeth o wasanaethau yn cymhlethu’r darlun ymhellach o ran y modd y gallai’r datblygiadau hyn effeithio masnach a’r farchnad fewnol. Mae gwahaniaethau rheoliadol mewn perthynas â gwasanaethau yn dechrau ymddangos, er bod llai o ddatblygiadau rheoliadol na’r rheiny o ran y sector nwyddau. Mae’r rheoliadau arfaethedig yn ymwneud ag amrywiaeth eang o weithgareddau economaidd, mewn cyferbyniad â datblygiadau o ran nwyddau sy’n ymwneud yn arbennig â bwyd a diod, gyda sawl un o’r rhai eraill yn gysylltiedig â diogelu’r amgylchedd.

O ystyried cymhlethdod dadansoddi’r maes gwasanaethau a bod gwahaniaethau rheoliadol ond yn dechrau dod i’r wyneb, rydym o’r farn ei bod yn rhy fuan i ganfod unrhyw effeithiau clir ar y farchnad fewnol. Ein bwriad yw parhau i fonitro datblygiadau yng nghyswllt gwasanaethau, gan gynnwys rhoi ystyriaeth bellach i effaith rheoliadau ar y farchnad fewnol sy’n berthnasol i wasanaethau a gaiff eu cyflenwi’n bennaf neu’n gyfan gwbl yn lleol.

Mae gweithwyr proffesiynol a reoleiddir yn cyfrif am gyfran sylweddol o’r holl unigolion a gyflogir. Ar sail data cofrestru ar gyfer 110 o’r 192 o broffesiynau a reoleiddir, amcangyfrifwn fod o leiaf 3.5 miliwn o gofrestriadau economaidd weithgar â rheoleiddwyr, sydd ychydig yn llai na 10% o’r holl unigolion a gyflogir.[footnote 89] Mae ychydig o dan 1% o’r holl bobl a gyflogir yng nghategori’r gweithwyr proffesiynol a reoleiddir sy’n ddarostyngedig i’r gwahaniaethau rheoliadol mwyaf, hynny yw, amgylchiadau sy’n golygu bod rhaid iddynt gael cymhwyster gwahanol i ymarfer ar draws ffin. Mae’n nodedig bod sawl un o’r proffesiynau hyn wedi’u heithrio o’r UKIMA ac felly ni fyddai’r MAPs yn berthnasol, hyd yn oed pe byddai’r rheoliadau sy’n eu llywodraethu’n newid. O ran y gweithwyr proffesiynol hyn a reoleiddir, gwelwn nad oes fawr o bosibilrwydd bod y modd y mae’r farchnad fewnol yn gweithredu wedi newid ers cyflwyno’r UKIMA.

O ran proffesiynau eraill a reoleiddir sydd ar hyn o bryd yn ddarostyngedig i wahaniaethau rheoliadol, y prif wahaniaeth yw cofrestriad â rheoleiddiwr/rheoleiddwyr eraill er mwyn gallu masnachu ar draws ffin. Rydym o’r farn fod hyn yn llai o rwystr i fasnach na gofyniad am gymhwyster gwahanol, ac y dylid ei asesu’n unol â hynny. Er hyn, mae’r holl reoliadau sy’n berthnasol i’r proffesiynau hyn a reoleiddir wedi bod yn weithredol cyn yr UKIMA, ac maent y tu hwnt i’w chwmpas (felly nid yw’r MAPs yn berthnasol). Os bydd y rheoliadau’n newid, efallai y bydd yr UKIMA yn berthnasol ond, o ran hyn, nodwn, yn hanesyddol, bod newid o ran rheoleiddio proffesiynau sefydledig yn digwydd yn anaml, ac nad yw unrhyw un o’r llywodraethau yn y DU yn cynnig gwneud unrhyw newidiadau ar hyn o bryd.

Mae’r darlun yn wahanol o ran proffesiynau a gaiff eu rheoleiddio o’r newydd. Nid yw yr un o’r rhain yn rhai a gedwir yn ôl neu sydd wedi’u heithrio o’r UKIMA, ac mae newidiadau rheoliadol yn fwy tebygol gan fod holl gynigion y llywodraethau mewn perthynas â phroffesiynau a reoleiddir yn ymwneud ar hyn o bryd â diffinio proffesiynau newydd a reoleiddir. Mae data ynghylch masnach drawsffiniol gan y proffesiynau a effeithir gan y rheoliadau hyn yn brin; ar hyn o bryd nid ydym ond yn nodi, fel arfer, bod sawl un ohonynt yn darparu eu gwasanaethau’n lleol ac felly gellir rhagweld bod nifer yr achosion o fasnach drawsffiniol yn fach.

Yn ei gyfanrwydd, y darlun sy’n ymddangos o ran y proffesiynau a reoleiddir yw na welir unrhyw newid o ran y modd y mae’r farchnad fewnol yn gweithredu yng nghyswllt y proffesiynau hyn ers i’r UKIMA ddod i rym, ac ymddengys nad yw’n debygol y bydd y darlun hwnnw’n newid yn y dyfodol agos.

Astudiaethau achos yng nghyswllt strategaethau busnes

Canfyddiadau allweddol

  • mae’n llawer gwell gan fusnesau gael cysondeb rheoliadol gan ei fod yn lleihau costau ac yn symleiddio newidiadau o ran cyflenwadau

  • mae gan fusnesau amrywiaeth o strategaethau ar gyfer ymateb i wahaniaethau rheoliadol

  • ymhlith yr ymatebion y mae mabwysiadu safon uchel sy’n cydymffurfio â’r gofynion ym mhob gwlad; camau i leihau cymhlethdod y gadwyn gyflenwi, fel creu cynnyrch sy’n cydymffurfio â rheoliadau ledled y DU, neu leihau amrywiaeth y cynhyrchion a gyflenwir; neu dynnu’n ôl o gyflenwi ar gyfer gwledydd penodol

  • mae’r ymateb penodol a ddewisir yn dibynnu ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys costau’r strategaeth; cymhlethdod y gadwyn gyflenwi ar hyn o bryd; rhwyddineb olrhain a labelu nwyddau; gwerth brandiau; disgwyliadau cwsmeriaid ac ansicrwydd cyfreithiol

  • gall effeithiau rheoliad a gyflwynwyd gan un wlad godi mewn gwledydd eraill

  • mewn rhai amgylchiadau, gall llunwyr polisïau leihau unrhyw effeithiau niweidiol o ran masnach sy’n gysylltiedig â gwahaniaethau rheoliadol trwy ddylunio polisïau’n ofalus

Am y tro cyntaf, rydym wedi ymgymryd â rhywfaint o astudiaethau achos sy’n archwilio’r strategaethau penodol a ddefnyddir gan fusnesau i reoli gwahaniaethau rheoliadol ar hyd a lled eu gweithrediadau, i’n helpu ni i ddeall sut mae marchnad fewnol y DU yn datblygu. Mae’r astudiaethau achos yn rhoi sylw manwl i effeithiau gwahaniaethau rheoliadol a dylid eu darllen ar y cyd â’r drafodaeth ehangach, fwy cynhwysfawr ynghylch datblygiadau o fewn y farchnad fewnol, a nodir ym mhenodau 2 a 3.

Er mai ychydig iawn o ddata a oedd ar gael o ran strategaethau busnesau ar adeg cyhoeddi adroddiad blynyddol 2022 i 2023 (yn rhannol oherwydd lefel isel o ymwybyddiaeth ymhlith busnesau o’r UKIMA a’r MAPs), roedd eisoes yn dod yn amlwg erbyn yr adeg y cyhoeddwyd ein hadroddiad ar reoliadau Defra yng nghyswlllt mawn[footnote 90] y gallai busnesau fabwysiadu unrhyw un o amrywiaeth strategaethau, ac, fel rheol, bod y strategaethau sy’n sbarduno’r penderfyniad hwnnw’n amlweddog.

I wella ein dealltwriaeth o’r strategaethau busnes hyn, ac i gael gwell dealltwriaeth o’r modd y gallant amrywio gan ddibynnu ar y cyd-destun, cynhaliwyd pedair astudiaeth achos gennym lle mae gwahaniaethau rheoliadol wedi digwydd, neu eu bod yn debygol o ddigwydd yn y dyfodol agos. Rydym wedi archwilio’r dulliau a fabwysiadwyd gan fusnesau mewn ymateb i’r gwahaniaethau rheoliadol hynny.

Dewiswyd y pedair astudiaeth achos, cynhyrchion plastig untro, cynlluniau dychwelyd ernes, bwyd sy’n uchel mewn braster, halen a siwgr, a bridio manwl, oherwydd y lefel o wahaniaethau rheoliadol a ragwelwyd, ynghyd â’r tebygolrwydd bod busnesau eisoes wedi addasu i reoliadau sydd mewn grym, neu’n debygol o fod wedi datblygu cynlluniau o ran y modd y gallent wneud hynny.

Mae’r astudiaethau achos yn archwilio’r ymateb a ragwelir gan fusnesau (ac, mewn rhai achosion, eu hunion ymateb) i wahaniaethau rheoliadol. Er y gellir gweld trywydd cyffredinol y farchnad fewnol o’n canfyddiadau, byddai angen gwneud rhagor o ymchwil manylach i gael darlun manylach sy’n ceisio mesur yr effaith. Mewn rhai achosion, bydd angen rhagor o wybodaeth ynghylch natur benodol y gwahaniaeth rheoliadol a fydd yn ymddangos yn y diwedd cyn y gellir cael darlun manylach. Am y rhesymau hyn, rydym wedi hoelio ein sylw ar ddeall y modd y mae busnesau sy’n ddarostyngedig i’r rheoliadau hyn ym mhob un o’r pedwar ardal wedi newid, neu’n bwriadu newid eu gweithrediadau.

Cynhaliwyd yr ymchwil trwy gyfres o gyfweliadau â busnesau sy’n gweithredu o fewn diwydiannau a effeithir gan y rheoliadau. Roedd y cyfweliadau’n ceisio canfod unrhyw ffactorau sy’n ymwneud yn benodol â’r diwydiant dan sylw, ac yn archwilio amrywiaeth yr ysgogwyr posibl y tu ôl i strategaeth y busnes, sy’n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt: costau, cymhlethdod, cystadleuaeth a chystadleugarwch, y rhyngweithiad rhwng y rheoliad sy’n newydd a rheoliadau eraill, sicrwydd cyfreithiol, brandio ac enw da, nodau corfforaethol ehangach (fel rhai yng nghyswllt yr amgylchedd, ymrwymiadau cymdeithasol ac o ran llywodraethu (‘ESG’)), y galw o ran cwsmeriaid, ynghyd â rôl allforion a mewnforion rhyngwladol. Dewiswyd busnesau i’w cyfweld gan ystyried yr angen i ganfod busnesau sy’n gweithredu ym mhob un o bedair gwlad y DU, ac sydd â’u pencadlys ynddynt. Roedd ein sampl yn cynnwys busnesau mawr a bach, er bod busnesau mawr ar y cyfan yn fwy parod i gymryd rhan mewn cyfweliad, ac felly mae ein sampl yn fwy cynrychiadol o fusnesau mawr sy’n gweithredu ar draws y DU na mathau eraill o fusnesau.

I ddechrau, rydym yn disgrifio’r cyd-destun penodol yng nghyswllt pob un o’r pedair ardal, a’r hyn a ddywedodd y busnesau wrthym ynghylch eu paratoadau ar gyfer y rheoliadau, a’r ffactorau sy’n sail i’r paratoadau hynny. I orffen, rydym yn nodi themâu a thueddiadau sy’n gyffredin ymhlith y pedair astudiaeth achos, ac yn trafod eu perthnasedd i sectorau eraill ac o ran rheoliadau eraill.

Cynhyrchion plastig untro

Cyflwyniad

Fel rhan o’r newid i economi gylchol, ac i leihau lefelau o wastraff plastig, mae’r DU a’r Llywodraethau Datganoledig wedi ceisio lleihau dibyniaeth y DU ar gynhyrchion plastig untro (SUP). Gan ddechrau ym mis Hydref 2029, mae mesurau deddfwriaethol i gyfyngu ar y cyflenwad o eitemau plastig untro, y mae’n gyffredin iddynt gael eu taflu, wedi’u gweithredu’n gynyddol yng Nghymru, yr Alban a Lloegr, ac wedi’u cynnig yng Ngogledd Iwerddon (er bod y cynigion yng Ngogledd Iwerddon wedi’u hatal ar y cyfan hyd nes y bydd Cynulliad Gogledd Iwerddon yn dychwelyd). Mae pob gwlad wedi cymryd eu camau eu hunain, gan greu gwahaniaethau o ran polisïau a’r amserlen ar gyfer rhoi cyfyngiadau ar waith.

Ceir disgrifiad manwl o’r mesurau a roddwyd ar waith ym mhob gwlad ym mharagraffau 3.8 – 3.11, a cheir rhagor o fanylion yn Atodiad C. Mae Tabl 4.1 isod yn crynhoi’r gwahaniaethau rhwng y mesurau:

Tabl 4.1 Mesurau deddfwriaethol i gyfyngu ar y cyflenwad o eitemau plastig untro yn ôl gwledydd y DU

Graffigyn sy’n dangos y gwahanol fesurau deddfwriaethol a gymerwyd ym mhob gwlad yn y DU i gyfyngu ar y cyflenwad o eitemau plastig untro.

Cafodd ffyn cotwm plastig eu gwahardd yn yr Alban ym mis Hydref 2019, yn Lloegr ym mis Hydref 2020, ac yng Nghymru ym mis Hydref 2021. Disgwylir gwaharddiad deddfwriaethol yng Ngogledd Iwerddon hefyd, ar ôl ei ohirio’n flaenorol hyd nes y bydd Cynulliad Gogledd Iwerddon yn dychwelyd. Nid yw ffyn cotwm plastig o fewn cwmpas yr UKIMA gan eu bod wedi’u cynnwys o fewn gwaharddiad.

Cafodd gwellt yfed a throyddion plastig eu gwahardd yn Lloegr ym mis Hydref 2020, yn yr Alban ym mis Mehefin 2022, ac yng Nghymru ym mis Hydref 2023. Disgwylir gwaharddiad deddfwriaethol yng Ngogledd Iwerddon hefyd, ar ôl ei ohirio’n flaenorol hyd nes y bydd Cynulliad Gogledd Iwerddon yn dychwelyd. Nid yw gwellt yfed a throyddion plastig o fewn cwmpas yr UKIMA gan eu bod wedi’u cynnwys o fewn gwaharddiad.

Cafodd cyllyll a ffyrc neu weill bwyta plastig, ynghyd â ffyn balŵns a phlatiau plastig, a chynwysyddion bwyd, diodydd neu gwpanau polystyrene, eu gwahardd yn yr Alban ym mis Mehefin 2022, ac yng Nghymru a Lloegr ym mis Hydref 2023. Disgwylir gwaharddiad deddfwriaethol yng Ngogledd Iwerddon hefyd, ar ôl ei ohirio’n flaenorol hyd nes y bydd Cynulliad Gogledd Iwerddon yn dychwelyd. Nid yw cyllyll a ffyrc neu weill bwyta plastig, ynghyd â ffyn balŵns a phlatiau plastig, a chynwysyddion bwyd, diodydd neu gwpanau polystyrene, o fewn cwmpas yr UKIMA gan eu bod wedi’u cynnwys o fewn gwaharddiad.

Cafodd powlenni neu flychau plastig eu gwahardd o Loegr ym mis Hydref 2023. Nid oes unrhyw gynigion i wahardd yr eitemau hyn yng Nghymru, yr Alban na Gogledd Iwerddon. Mae powlenni neu flychau plastig o fewn cwmpas yr UKIMA.

Caiff cynhyrchion plastig ocso-ddiraddadwy eu gwahardd yng Nghymru erbyn gwanwyn 2026. Nid oes unrhyw gynigion i wahardd yr eitemau hyn yn Lloegr neu’r Alban. Disgwylir gwaharddiad deddfwriaethol yng Ngogledd Iwerddon hefyd, ar ôl ei ohirio’n flaenorol hyd nes y bydd Cynulliad Gogledd Iwerddon yn dychwelyd. Mae cynhyrchion plastig ocso-ddiraddadwy o fewn cwmpas yr UKIMA.

Caiff bagiau siopa plastig eu gwahardd yng Nghymru erbyn gwanwyn 2026. Nid oes unrhyw gynigion i wahardd yr eitemau hyn yn Lloegr, yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon. Mae bagiau siopau plastig o fewn cwmpas yr UKIMA.

Caiff caeadau polystyren ar gyfer cwpanau a chynwysyddion bwyd tecawê eu gwahardd yng Nghymru erbyn gwanwyn 2026. Nid oes unrhyw gynigion i wahardd yr eitemau hyn yn Lloegr na’r Alban. Cynhaliwyd ymgynghoriad ynghylch mesurau mewn perthynas â’r eitemau hyn yng Ngogledd Iwerddon, ac mae cynllun gweithredu drafft yn disgwyl am ystyriaeth gan Weinidog. Mae caeadau polystyren ar gyfer cwpanau a chynwysyddion bwyd tecawê o fewn cwmpas yr UKIMA.

Caiff labeli eu gosod ar hidlyddion tybaco sydd wedi’u gwneud o blastig yng Ngogledd Iwerddon, ar ôl gohirio hyn yn flaenorol hyd nes y bydd Cynulliad Gogledd Iwerddon yn dychwelyd. Nid oes unrhyw gynigion yng nghyswllt yr eitemau hyn yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban. Mae hidlyddion tybaco sydd wedi’u gwneud o blastig o fewn cwmpas yr UKIMA.

Nid oes unrhyw gynigion i gyfyngu ar y cyflenwad o fagiau plastig bychain (‘sachets’) yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon. Mae bagiau plastig bychain o fewn cwmpas yr UKIMA.

Cynhaliwyd ymgynghoriad yng Ngogledd Iwerddon ar fesurau yng nghyswllt cwpanau plastig untro, ac mae cynllun gweithredu drafft yn disgwyl am ystyriaeth gan Weinidog. Nid oes unrhyw gynigion i gyfyngu’r cyflenwad o gwpanau plastig untro yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban. Mae cwpanau plastig untro o fewn cwmpas yr UKIMA.

Tabl troednodyn: [footnote 91]
Tabl troednodyn: ​[footnote 92]
Tabl troednodyn: [footnote 93]

Ac eithrio ffyn cotwm plastig a ffyn balŵns plastig untro, mae’r cyfyngiadau wedi canolbwyntio ar eitemau plastig untro a ddefnyddir ar gyfer cynhyrchion bwyd a diod. Rydym felly wedi canolbwyntio ein hastudiaeth achos ar y modd y mae manwerthwyr bwyd a diod wedi ymateb i’r cyfyngiadau ar eitemau plastig untro.

Gofynasom i fusnesau amlinellu’r ffactorau sy’n ysgogi eu dulliau o reoli gwahanol gyfyngiadau cenedlaethol ar gynhyrchion plastig untro megis gwellt yfed, troyddion  diod, cyllyll a ffyrc, gweill bwyta, platiau, powlenni a blychau, a chynwysyddion bwyd a chwpanau diod polystyren (y cyfeiriwn atynt fel ‘eitemau plastig untro sydd o fewn y cwmpas’ yng ngweddill yr adran hon). Ni holwyd busnesau ynghylch rheoli cyfyngiadau ar ffyn cotwm plastig a ffyn balŵns plastig untro.

Derbyniwyd tystiolaeth gennym gan bedair o archfarchnadoedd mwyaf y DU. Dewiswyd yr archfarchnadoedd am y graddau yr oedd eu gweithrediadau wedi’u heffeithio gan gyfyngiadau ar eitemau plastig untro, ac o ystyried bod y gweithrediadau hyn yn ymestyn ledled gwledydd y DU, am eu profiad o wahaniaethau rheoliadol. Aethom ati hefyd i gyfweld gwneuthurwr deunydd pacio bwyd a diod rhyngwladol, sy’n cyflenwi ar gyfer nifer o fanwerthwyr mawr yn y DU. Yn ogystal â hyn, archwiliwyd ymrwymiadau cyhoeddus a datganiadau eraill yng nghyswllt lleihau plastig gan nifer o gadwyni coffi tecawê a bwytai mwyaf y DU.

Isod, rydym yn amlinellu’r dulliau o reoli’r cyfyngiadau ar eitemau plastig untro a ddefnyddiwyd gan y busnesau a archwiliwyd gennym. Rydym wedyn yn trafod y ffactorau y dywedodd yr archfarchnadoedd wrthym eu bod yn ysgogi eu dulliau gweithredu, cyn cloi trwy wneud rhywfaint o sylwadau ar yr astudiaeth achos.

Dulliau a fabwysiadwyd mewn ymateb i wahaniaethau o ran cyfyngiadau ar eitemau plastig untro

Ein barn ni yw, yn y rhan fwyaf o achosion, bod y busnesau a archwiliwyd gennym yn ystyried y cyflenwad o eitemau plastig untro ar sail y DU gyfan, yn hytrach na thrin gwledydd ar sail gwahanol gyfundrefnau a marchnadoedd ar wahân. Mewn sawl achos, mae hyn yn golygu bod manwerthwyr wedi tynnu eitemau plastig untro sydd o fewn y cwmpas yn ôl o wledydd y DU lle byddai modd eu cyflenwi’n gyfreithiol o hyd.

Archfarchnadoedd

Roedd pob un o’r pedair archfarchnad y buom yn siarad â hwy yn adrodd eu bod wedi cyflenwi eitemau plastig untro sydd o fewn y cwmpas yn y gorffennol. Fodd bynnag, yn raddol, dros gyfnod o amser, cawsant eu dileu o’u cadwyni cyflenwi yn y DU, ac yn fwy felly ers 2018, mewn ymateb i gyflwyno cyfyngiadau. Mae pob un o’r pedair archfarchnad erbyn hyn wedi mynd ati’n raddol i ddileu’r holl eitemau plastig untro sydd o fewn y cwmpas ar hyd a lled y DU, ac adroddwyd ganddynt nad ydynt yn disgwyl y byddant yn cyflenwi’r rhain i gwsmeriaid yn y DU yn y dyfodol.

Roedd yr archfarchnadoedd wedi nodi tri maes busnes a oedd yn flaenorol yn ymwneud â chyflenwi eitemau plastig untro sydd o fewn y cwmpas i gwsmeriaid yn y DU. O fewn y meysydd hyn, darperir eitemau amgen bellach yn eu lle. Roedd yr archfarchnadoedd yn adrodd gwahaniaethau main iawn o ran eu defnydd o eitemau plastig untro ym mhob un o’r meysydd busnes a oedd yn effeithio eu penderfyniadau mewn ymateb i’r gwahanol gyfyngiadau cenedlaethol:

  • mae’n arferol i ddarparu eitemau megis cyllyll a ffyrc, cynwysyddion bwyd a diod, troyddion diod a gwellt yfed i gwsmeriaid sy’n bwyta cynhyrchion bwyd ac yn yfed diodydd tecawê yn y siopau. Mae’n arferol i gaffis o fewn siopau, y gweithredir tua 1,000 ohonynt gan y pedair archfarchnad, ynghyd ag unedau eraill o fewn siopau, fel bariau salad, cownteri bwyd poeth a chonsesiynau bwyd a diod, ddarparu’r eitemau hyn

  • caiff rhai cynhyrchion bwyd a diod sydd wedi’u rhagbecynnu, a ddyluniwyd i’w bwyta neu eu hyfed ‘wrth fynd’, eu pecynnu mewn bowlenni neu flychau, ac maent yn cynnwys eitemau eraill fel cyllyll a ffyrc ac ati. Mae’r archfarchnadoedd yn gwneud y cynhyrchion hyn yn ogystal â’u hadwerthu

  • caiff llawer o’r eitemau sydd o fewn y cwmpas eu gwerthu fesul pecynnau mawr i’w defnyddio adref

O ran lle daeth archfarchnadoedd ar draws gwahaniaethau o ran amseriad cyfyngiadau cenedlaethol, maent wedi mabwysiadu strategaeth o ddileu eitemau plastig untro sydd o fewn y cwmpas o’u cadwyni cyflenwi ledled y DU cyn y bydd y cyfyngiad cenedlaethol cyntaf yn dod i rym. Cafodd gwellt yfed a throyddion diod plastig untro eu dileu o gadwyni cyflenwi’r archfarchnadoedd yn y DU bron yn gyfan gwbl cyn y gwaharddiad yn Lloegr a ddaeth i rym ym mis Hydref 2020. A chafodd eitemau plastig untro megis cyllyll a ffyrc, gweill bwyta, platiau a chynwysyddion a chwpanau polystyren eu dileu o gadwyni cyflenwi’r archfarchnadoedd yn y DU bron yn gyfan gwbl cyn y gwaharddiad yn yr Alban, a ddaeth i rym ym mis Mehefin 2022. Am gyfnod byr, roedd rhai o’r archfarchnadoedd wedi parhau i gyflenwi eitemau plastig untro sydd o fewn y cwmpas yng ngwledydd y DU lle nad oedd cyfyngiadau ar waith eto, er mwyn cael gwared ar weddill eu stoc.

O ran lle y daethant ar draws gwahaniaethau yng nghwmpas y cyfyngiadau cenedlaethol, mewn gwirionedd, mae’r archfarchnadoedd wedi mabwysiadu strategaeth o weithredu yn ôl y ‘safon gyffredin uchaf’, sef mabwysiadu un polisi ar gyfer y DU gyfan sy’n cydymffurfio â’r rheoliadau ym mhob gwlad. Mae pob un o’r tair archfarchnad y buom yn siarad â hwy a chanddynt weithrediadau yng Ngogledd Iwerddon wedi rhoi’r gorau i gyflenwi eitemau plastig untro sydd o fewn y cwmpas yng Ngogledd Iwerddon, er nad oes yno unrhyw gyfyngiadau, yn unol â’u safbwynt yng ngwledydd eraill y DU. Yn yr un modd, mae bob un o’r pedair archfarchnad wedi rhoi’r gorau i gyflenwi powlenni a blychau plastig untro ym mhob gwlad yn y DU, er mai dim ond Lloegr yw’r unig wlad sydd wedi gwahardd cyflenwi’r eitemau hyn.

Yn ogystal â’n cyfweliadau â’r archfarchnadoedd, archwiliwyd datganiadau cyhoeddus gennym a wnaed yng nghyswllt eitemau plastig untro gan sampl o wyth o’r cadwyni coffi tecawê a bwytai mwyaf sy’n gweithredu yn y DU.

Mae datganiadau cyhoeddus gan y busnesau hyn yn awgrymu, fel yn achos yr archfarchnadoedd, eu bod yn ystyried cyflenwi eitemau plastig untro sydd o fewn y cwmpas ar sail y DU gyfan. Roedd pob un o’r cadwyni coffi a bwytai wedi dileu gwellt yfed plastig untro o’u cadwyni cyflenwi yn y DU cyn y gwaharddiad a ddaeth i rym yn Lloegr ym mis Hydref 2020. Roedd rhai o’r busnesau hefyd wedi dileu gwellt plastig untro’n raddol o’u gweithrediadau byd-eang ehangach ar yr un pryd.

Yn yr un modd, mae pob un o’r cadwyni bwytai wedi dileu cyllyll a ffyrc plastig untro’n raddol o’u cadwyni cyflenwi yn y DU. Roedd un gadwyn fwytai wedi treialu cyllyll a ffyrc sydd wedi’u gwneud o bapur yn yr Alban, Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon, cyn y gwaharddiad ar gyllyll a ffyrc plastig untro a ddaeth i rym yn yr Alban ym mis Mehefin 2022. Ar ôl cyfnod treialu byr, roedd hefyd wedi dileu cyllyll a ffyrc plastig untro’n raddol yng Nghymru a Lloegr hefyd. Mae nifer o’r cadwyni coffi a bwytai wedi gosod rhagor o derfynau amser cyhoeddus er mwyn mynd ati’n raddol i ddileu eitemau plastig untro’n gyfan gwbl.

Hefyd, mae tystiolaeth gan y gwneuthurwr deunydd pecynnu a gyfwelwyd gennym yn awgrymu bod manwerthwyr bwyd a diod mawr yn ystyried y modd y cyflenwir eitemau plastig untro ar sail y DU. Mae’r gwneuthurwr yn darparu deunydd pecynnu bwyd a diod i nifer o fanwerthwyr bwyd a diod mawr yn y DU. Dywedodd y gwneuthurwr wrthym ei fod yn cynhyrchu un math ‘craidd’ o gynnyrch ar gyfer ei gwsmeriaid yn y DU, sydd wedi’i ddylunio i gydymffurfio â’r holl gyfyngiadau ar eitemau plastig untro sydd ar waith ledled gwledydd y DU. Mae gan y gwneuthurwr hefyd y gallu i gynhyrchu cynhyrchion pwrpasol, megis deunydd pecynnu a ddyluniwyd i gyflawni gofyniad cenedlaethol penodol, os gofynnwyd am hynny gan fanwerthwyr. Fodd bynnag, dywedodd y gwneuthurwr wrthym, yn y mwyafrif o achosion, bod manwerthwyr yn gofyn am ddeunydd pecynnu nad yw’n cynnwys plastig untro, ac nid ydynt yn gofyn am fwy nag un fanyleb o ran deunydd pecynnu ar gyfer eu gweithrediadau yn y DU.

Ffactorau sy’n dylanwadu ar y penderfyniad i fabwysiadu dulliau gweithredu ar gyfer y DU gyfan

Roedd yr archfarchnadoedd a’r gwneuthurwr deunydd pecynnu wedi canfod manteision sylweddol o ganlyniad i gael un model gweithredu ar gyfer y DU gyfan, sy’n gofyn am un safbwynt cyffredin o ran y cyflenwad o eitemau plastig untro yng ngwledydd y DU. Roeddynt yn amlygu manteision gweithrediadau llai cymhleth, gan gynnwys arbedion ariannol a llai o risg o ran cydymffurfiaeth â gofynion cyfreithiol. Roedd yr archfarchnadoedd wedi amlinellu ymhellach nifer o ffactorau sy’n gysylltiedig â chost ac effeithiolrwydd dewisiadau amgen yn lle eitemau plastig untro, ynghyd â newid costau. Roeddynt hefyd yn cyfeirio at ystyriaethau o ran brandiau yn eu penderfyniadau, gan gynnwys rôl ymrwymiadau yng nghyswllt sicrhau cynaliadwyedd, cydymffurfiaeth â deddfwriaeth leol ynghyd â ‘chysondeb brandiau’. Rydym yn archwilio bob un o’r ffactorau a ddisgrifiwyd i ni isod.

Llai o gymhlethdod

Roedd yr archfarchnadoedd yn amlygu pwysigrwydd manteisio i’r eithaf ar arbedion maint yn eu gweithgareddau busnes, sy’n gallu cynhyrchu arbedion ariannol sylweddol os gwneir hyn ar hyd a lled pob agwedd ar eu portffolios. O ganlyniad i hyn, disgrifiodd un archfarchnad bod cynnal un model gweithredu ar gyfer y DU yn ‘allweddol i’n busnes’.

Dywedwyd wrthym fod modd gwneud arbedion ariannol o ran caffael a dosbarthu wrth gyflenwi eitemau o’r un ‘safon’ ledled holl wledydd y DU. Mae unffurfiaeth cyflenwadau yn symleiddio gofynion o ran caffael, gan leihau’r amser y mae angen i reolwyr a staff arall ei dreulio ar reoli cyflenwyr. Mae hyn hefyd yn lleihau’r angen i systemau olrhain y stoc a ddosbarthir, gan yr anfonir yr un eitemau i bob siop. Mae’r gweithrediadau llai cymhleth yn lleihau costau hyfforddi staff.

Dywedodd yr archfarchnadoedd wrthym eu bod yn gwneud arbedion ariannol o ran gweithgynhyrchu hefyd, wrth gyflenwi’r un cynhyrchion bwyd a diod sydd wedi’u rhagbaratoi i wledydd ledled y DU. O ran cynhyrchion unffurf sy’n cydymffurfio â’r gofynion yng nghyswllt eitemau plastig untro ym mhob gwlad, gellir eu gwneud ar un llinell gynhyrchu, sy’n lleihau costau gweithgynhyrchu.

Roedd y gwneuthurwr deunydd pecynnu’n adleisio’r farn hon hefyd. Dywedodd wrthym na fyddai cynhyrchu mwy nag un ‘safon’ o gynnyrch craidd ar gyfer marchnad y DU yn economaidd hyfyw. Os byddai manwerthwr yn gofyn am ddeunydd pecynnu pwrpasol, sy’n cynnwys plastig untro, yna byddai’r costau cynhyrchu’n uwch oherwydd bod llai o arbedion maint. Byddai hyn yn cael ei adlewyrchu ar sail pris uwch.

Manteision o safbwynt cydymffurfiaeth gyfreithiol

Dywedodd un archfarchnad wrthym fod cyflenwi’r un uned cadw stoc (SKU)[footnote 94] ar gyfer bob gwlad yn y DU yn helpu i leihau ei risg o beidio â chydymffurfio â chyfyngiadau lleol yn ddamweiniol. Roedd yr archfarchnad yn amlinellu ei phroses gynhyrchu ar gyfer cynhyrchion bwyd a diod sydd wedi’u rhagbecynnu, sy’n digwydd ar un llinell gynhyrchu. Yn y pwynt cynhyrchu, nid yw cyrchfan cynnyrch o ran y siop y bydd yn mynd iddo wedi’i benderfynu. Gan fod yr archfarchnad yn cynhyrchu un SKU i gydymffurfio â’r holl gyfyngiadau cenedlaethol ar eitemau plastig untro, nid oes angen iddi olrhain dosbarthiad cynhyrchion unigol, ac nid oes unrhyw risg y bydd cynhyrchion yn cael eu hanfon i’r lleoliadau anghywir.

Costau cynhyrchion amgen

Roedd pob un o’r pedair archfarchnad wedi dweud wrthym fod costau cynhyrchion amgen yn lle rhai plastig untro yn ffactor yn y penderfyniadau a wneir ganddynt, gan fod y cynhyrchion diblastig amgen yn ddrytach. Dywedodd yr archfarchnadoedd yr oeddem wedi siarad â hwy eu bod, yn y mwyafrif o achosion, wedi talu’r costau eu hunain, yn hytrach na’u pasio ymlaen i gwsmeriaid. Roedd un archfarchnad yn cydnabod bod hyn wedi arwain at lai o elw ar rai cynhyrchion. Dywedwyd wrthym nad yw cwsmeriaid yn barod i dalu prisiau uwch i ariannu mentrau cynaliadwyedd, er bod cwsmeriaid yn eu cefnogi’n gryf. Mewn sawl achos, darperir eitemau sydd o fewn y cwmpas am ddim i gwsmeriaid, er enghraifft, o ran y rheiny sydd wedi prynu bwyd a diod mewn caffi o fewn un o’r siopau. Mae hyn yn ei wneud yn anodd pasio’r costau ymlaen.

Costau newid

Soniwyd yn aml fod colli stoc yn gost yn sgil newid. Yn ystod y cyfnod trosglwyddo o eitemau plastig i ddiblastig, roedd yr archfarchnadoedd yn ceisio lleihau hyn trwy ailddosbarthu stoc a oedd wedi’i gwahardd mewn un wlad yn y DU i siopau mewn lleoliadau eraill, a oedd yn dal i allu derbyn cyflenwadau o’r stoc. Er hynny, roedd rhaid dileu rhywfaint o stoc yn y diwedd i sicrhau cydymffurfiaeth â chyfyngiadau.

Mae eitemau diblastig sy’n cymryd lle rhai plastig yn cael eu profi’n drylwyr cyn eu cyflwyno mewn siopau. Dywedodd un siop wrthym ei bod yn cymryd cyfnod o 18 mis i amnewid eitem blastig untro yn ei chadwyn gyflenwi ag un amgen, gyda’r profion yn cymryd y rhan fwyaf o’r amser hwn.

Roedd yr archfarchnadoedd hefyd wedi amlygu costau anuniongyrchol dileu eitemau plastig untro’n raddol. Treuliwyd cryn dipyn o amser rheolwyr yn dod o hyd i gyflenwyr sy’n gallu cyflenwi eitemau yn lle rhai plastig untro, neu’n gweithio gyda chyflenwyr newydd i gyflawni’r gofynion newydd. Yn ogystal â hyn, roedd amnewid eitemau plastig untro o fewn cadwyni cyflenwi yn golygu bod angen gwneud newidiadau i systemau TG, bod angen cynnal rhagor o wiriadau ar stoc, a bod costau uwch ar gyfer hyfforddi staff.

Effeithiolrwydd eitemau amgen yn lle rhai plastig untro

Dywedodd yr archfarchnadoedd wrthym, ar y cyfan, bod cyflenwyr wedi gallu darparu eitemau amgen effeithiol yn lle’r rhai plastig untro sydd o fewn y cwmpas, er am gost uwch, a derbyniwyd y rhain gan y mwyafrif o gwsmeriaid.

Fodd bynnag, nid oedd cwsmeriaid wedi croesawu’r angen i ddileu eitemau plastig untro sydd o fewn y cwmpas yn unfrydol. Rhoddodd un archfarchnad enghraifft i ni o ran cyflwyno gwellt yfed papur, a dderbyniodd groeso cymysg gan gwsmeriaid. Derbyniodd yr archfarchnad rywfaint o adborth negyddol am eu heffeithiolrwydd o gymharu â gwellt yfed plastig, ac mae dod o hyd i rywbeth effeithiol yn lle gwellt yfed plastig untro yn waith sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd.

Roedd yr archfarchnadoedd wedi mynegi pryder y byddai camau i leihau’r defnydd o blastig yn y dyfodol yn anoddach nag y bu’r broses hyd yma o ran dileu’r eitemau plastig untro sydd o fewn y cwmpas. Dywedwyd wrthym fod yr eitemau plastig untro hawsaf i’w dileu wedi cael eu dileu’n raddol, naill ai’n wirfoddol, neu mewn ymateb i’r cyfyngiadau. O ran yr eitemau plastig untro sydd ar ôl yn y gadwyn gyflenwi, ychydig iawn o eitemau amgen sydd ar gael ar hyn o bryd.

I gael dealltwriaeth well o rôl eitemau amgen effeithiol, aethom ati gyda’r archfarchnadoedd i archwilio p’un a fyddent yn defnyddio’r un dulliau gweithredu ar gyfer bagiau (‘sachets’) plastig untro bychain ag a ddefnyddiwyd ganddynt ar gyfer eitemau plastig untro eraill. Defnyddir y bagiau bach hyn fel arfer ar gyfer sawsiau a phupur a halen ac ati mewn lleoliadau bwyd tecawê. Nid ydynt yn rhan o’r cyfyngiadau ar hyn o bryd ond fe’u trafodwyd gan rai o’r pedair llywodraeth fel targed posibl ar gyfer cyfyngiadau at y dyfodol.

Roedd yr archfarchnadoedd yn teimlo mai ychydig iawn o ddewisiadau amgen a oedd ar gael yn lle’r bagiau plastig untro bach hyn. Eglurwyd ganddynt y byddai angen i gyflenwyr ddatblygu rhagor o gynhyrchion er mwyn gallu darparu cynhyrchion cyfatebol o ddeunyddiau cynaliadwy. Un dewis amgen yn lle defnyddio bagiau saws plastig o fewn y siopau fyddai darparu cynhwysydd saws mawr i gwsmeriaid, yn hytrach na dognau unigol. Fodd bynnag, teimlwyd fod gan hyn ei anfanteision, fel diffyg gallu i reoli dognau, a allai arwain at fwy o wastraff bwyd a chostau uwch. Dywedodd yr archfarchnadoedd wrthym fod hyn yn golygu bod rhaid gwneud cyfaddawd rhwng gwahanol amcanion cynaliadwyedd: lleihau plastig ar un llaw, a lleihau gwastraff bwyd ar y llaw arall. Dywedodd yr archfarchnadoedd wrthym, er y byddai’n well ganddynt fabwysiadu un safbwynt yn  y DU ar gyflenwi bagiau plastig untro bach, yn yr un modd ag y maent ar gyfer eitemau plastig untro eraill, pe bai cyfyngiadau gwahanol ar fagiau plastig untro bach yn cael eu cyflwyno yn y dyfodol, byddai angen iddynt bwyso a mesur ymhellach y manteision a’r anfanteision o ddileu bagiau plastig untro bach yn raddol cyn penderfynu p’un a oedd hyn yn bosibl.

Ystyriaethau o ran brandiau

Trwy gydol ein trafodaethau â’r archfarchnadoedd, roedd yn glir eu bod yn ystyried bod dileu eitemau plastig untro yn raddol yn dda ar gyfer eu brandiau. At ei gilydd, rhoddwyd tri rheswm am hyn. Yn gyntaf, mae mentrau i leihau plastig yn rhan amlwg o ymrwymiadau a gyhoeddir gan yr archfarchnadoedd yng nghyswllt cynaliadwyedd, y dywedasant wrthym fod eu cwsmeriaid yn eu cefnogi. Yn ail, mae dileu eitemau plastig untro sydd o fewn y cwmpas yn raddol, yn y gwledydd a chanddynt gyfyngiadau, yn dangos cydymffurfiaeth â deddfwriaeth leol, y mae cwsmeriaid yn ei ddisgwyl. Yn drydydd, mae rhoi’r un safonau ar waith ar gyfer cynhyrchion ar hyd a lled holl leoliadau eu siopau yn helpu i gynnal cysondeb o ran brandiau.

Mae pob un o’r pedair archfarchnad wedi cyhoeddi ymrwymiadau o ran cynaliadwyedd y mae mentrau i leihau plastig yn nodwedd amlwg ohonynt. Roedd yr archfarchnadoedd wedi amlygu eu hymrwymiadau yn ein trafodaethau, ac wedi pwysleisio eu bod yn cefnogi’r nod o ran rhoi cyfyngiadau ar waith ar gyfer eitemau plastig untro. Dywedasant wrthym mai dileu eitemau plastig untro’n raddol, os oes eitemau amgen effeithiol ar gael, oedd ‘y peth iawn i’w wneud’. O ystyried eu hymrwymiadau, roedd yr archfarchnadoedd eisoes yn mynd ati’n raddol i ddileu rhai o’r eitemau plastig untro sydd o fewn y cwmpas cyn i ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno. Dywedodd un archfarchnad wrthym ei bod wedi dechrau gweithio tuag at ddileu eitemau plastig untro’n raddol mor fuan â 2015, a’i bod wedi dileu’r mwyafrif o eitemau plastig untro sy’n dod o fewn y cwmpas o’i chadwyn gyflenwi yn 2018.

Mae’r archfarchnadoedd yn gweld bod eu cwsmeriaid hefyd yn cefnogi camau i ddileu eitemau plastig untro’n raddol, gydag un archfarchnad yn dweud wrthym fod lleihau’r defnydd o blastig wedi bod yn ystyriaeth ‘uchel ym meddyliau’r cyhoedd’ yn y blynyddoedd cyn y pandemig Covid-19. Gwelir ymrwymiadau o ran cynaliadwyedd fel maes cystadleuaeth rhwng yr archfarchnadoedd nad yw ar sail prisiau. Dywedodd un archfarchnad wrthym, pe bai cwsmeriaid o’r farn nad oedd wedi gwneud fawr o ymdrech i ddileu eitemau plastig untro’n raddol, roedd perygl y byddai’n colli cyfran o’r farchnad i gystadleuwyr sydd wedi rhoi mentrau mwy effeithiol ar waith i leihau plastig.

Casgliadau

O ran y busnesau y siaradasom â hwy (y mae’n bwysig nodi bod bob un ohonynt yn fusnesau mawr a chanddynt weithrediadau trawsffiniol sylweddol a chadwyni cyflenwi cymhleth), roeddynt wedi nodi amrywiaeth o ffactorau a oedd wedi dylanwadu ar eu penderfyniadau o ran sut i fynd i’r afael â gwahaniaethau o ran cyfyngiadau ar eitemau plastig untro.

Gwelwn fod y dulliau a ddefnyddiwyd gan yr archfarchnadoedd i reoli gwahanol gyfyngiadau ar gyfer eitemau plastig untro, ynghyd â’r ffactorau a oedd yn eu hysgogi, yr un fath, ni waeth pa wlad a gymerodd y cam cyntaf i gyflwyno cyfyngiad. Mae’r archfarchnadoedd wedi wynebu amrywiaeth o senarios, gyda gwahanol wledydd yn symud gyntaf i gyfyngu ar wahanol eitemau plastig untro, ond gwnaed y penderfyniad ganddynt i ddileu’r holl eitemau a oedd o fewn y cwmpas o’u cadwyni cyflenwi ledled y DU, cyn yr adeg y daeth y cyfyngiad cenedlaethol cyntaf i rym - gan weithredu yn ôl y ‘safon gyffredin uchaf’. Mae hyn yn debygol o fod yn fewnwelediad defnyddiol i lunwyr polisïau. Yn ein barn ni, o ran eitemau plastig untro, mae’n debygol y dylanwadwyd ar y dull gweithredu hwn gan debygrwydd y trywydd a gymerwyd gan bob gwlad o ran polisi, ynghyd â natur y gwahaniaethau rhwng y polisïau yng nghyswllt rhai eitemau o ran cyfyngiadau amser.

Mae sylwadau’r busnesau ynghylch costau’n galw am eu harchwilio ymhellach. Roedd costau a oedd yn gysylltiedig â defnyddio deunyddiau (diblastig) amgen, y gellid fod wedi’u hosgoi trwy gyflenwi eitemau plastig untro mewn rhai awdurdodaethau ym mhle y gellid parhau i gyflenwi’r eitemau hynny’n gyfreithlon. Fodd bynnag, roedd rhaid gosod y rhain yn erbyn costau cadwyni cyflenwi mwy cymhleth y byddai eu hangen i ddarparu ar gyfer defnyddio eitemau plastig a diblastig mewn gwahanol rannau o’r un busnes. Ar gyfer yr astudiaeth achos hon, nid oeddym wedi gofyn i’r busnesau fesur y cyfaddawd hwn, ond eglurwyd ganddynt y gall y costau sy’n gysylltiedig â chymhlethdod cadwyni cyflenwi gynyddu’n gyflym. Rhagwelwn ei bod yn debygol y bydd cyfaddawd tebyg yn bodoli ar gyfer mathau eraill o wahaniaethau rheoliadol.

Roedd rôl brandio ac, i raddau llai, rôl unrhyw bolisi corfforaethol o ran cydymffurfio â deddfwriaeth leol, yn bwysig iawn i’r busnesau y siaradasom â hwy, sef rhywbeth yr ydym yn ei adnabod sy’n wir, o leiaf yn rhannol, am lawer o fusnesau mawr. Fodd bynnag, gall dylanwad y ffactorau hyn, o ran busnesau llai a chanddynt frandiau gwannach, ynghyd â gweithrediadau trawsffiniol mwy cyfyngedig a/neu gadwyni cyflenwi llai cymhleth, fod yn wahanol; byddai angen i ni wneud rhagor o waith i asesu hyn.

Cynlluniau dychwelyd ernes

Cyflwyniad

Mae’r astudiaeth achos hon yn archwilio’r ffactorau a ystyriwyd gan wneuthurwyr diodydd wrth feddwl am sut i fynd i’r afael â gwahaniaethau rheoliadol rhwng gwledydd y DU. Roedd gennym ddiddordeb arbennig yn y modd yr oedd busnesau’n ystyried y defnydd o’r MAPs.

Mae tan tua 50 o wledydd ar hyn o bryd gynlluniau dychwelyd ernes (DRS). O fewn cynlluniau dychwelyd ernes arferol, bydd cwsmeriaid yn talu swm ychwanegol wrth brynu diod mewn cynhwysydd. Caiff y swm hwn ei ad-dalu wedyn pan fydd y cwsmer yn dychwelyd y cynhwysydd i bwynt dynodedig, sydd yn aml yn lleoliad manwerthu.[footnote 95]

Gall llywodraethau fod â sawl amcan mewn golwg wrth gyflwyno cynlluniau dychwelyd ernes. Y bwriad fel arfer fydd ceisio newid ymddygiad ymhlith cwsmeriaid, manwerthwyr a chynhyrchwyr diodydd, er mwyn ailgylchu cymaint o gynwysyddion diod â phosibl. Mae cynlluniau dychwelyd ernes hefyd yn galluogi ffrwd gwastraff ar wahân ar gyfer eitemau o fewn y cwmpas, sy’n golygu y gellir defnyddio rhagor o’r deunydd a gesglir ar gyfer ei ailgylchu. Ymhlith y nodau eraill o fewn cynllun, gellir lleihau ysbwriel a chostau glanhau, ynghyd â lleihau’r defnydd o ynni a deunyddiau.

Caiff y cynlluniau hyn eu hystyried yn aml fel rhan o economi gylchol ehangach, ynghyd â mesurau ehangach o ran cyfrifoldebau cynhyrchwyr, sy’n bwriadu cymell cynhyrchwyr i sicrhau bod eu cynhyrchion yn ailgylchadwy, a lleihau’r defnydd o ddeunydd pecynnu diangen.

Mae cynlluniau dychwelyd ernes yn gofyn am fecanwaith llywodraethu, i reoli llifau arian a deunyddiau. Gellir cyflawni hyn trwy sefydlu sefydliad rheoli ernes (DMO), a ariennir gan y diwydiant ac a weithredir ar sail nid-er-elw. Gellir dal y sefydliad rheoli ernes yn gyfrifol am weithredu’r cynllun yn effeithiol, gan gynnwys, er enghraifft, cyflawni targedau ar gyfer casglu deunydd gwastraff. Ceir rhagor o fanylion ynghylch y rheoliadau arfaethedig ym mharagraffau 3.12 – 3.15.

Er mwyn casglu tystiolaeth i ystyried y cwestiwn hwn, siaradasom â chynhyrchwyr, cyfanwerthwyr a manwerthwyr sy’n ymwneud â’r sector diodydd yn y DU. Roedd y busnesau y siaradasom â hwy’n amrywio o frandiau rhyngwladol i gyflenwyr arbenigol. Ymgysylltwyd hefyd â chyrff masnach sydd, gyda’i gilydd, yn cynrychioli barnau dros 1,000 o fusnesau o fewn y sector diodydd.

Roedd y busnesau y siaradasom â hwy’n rhagweld y gallai fod gwahaniaethau o ran dyluniad a dulliau gweithredu rhwng cynlluniau dychwelyd ernes yn y DU, gan gynnwys o ran amseriad eu gweithredu a’r deunyddiau a gynhwysid o fewn eu cwmpas. Ar sail y ddealltwriaeth hon, roedd y mwyafrif o fusnesau’n paratoi ar gyfer amgylchedd masnachol ym mhle byddai cyfnod o wahaniaethau rheoliadol, ac efallai gwahaniaethau rheoliadol parhaol (gyda’r goblygiad efallai na fyddai’r amryw gynlluniau’n gallu rhyngweithredu).

Aethom ati i archwilio’r ymateb i’r gwahaniaethau rheoliadol a ragwelwyd gyda’r busnesau hyn o safbwynt y gwahaniaethau amserol a hefyd y gwahaniaethau posibl o ran dyluniad cynlluniau. O ran yr ail o’r rhain, rydym wedi gweithio ar sail y ddealltwriaeth, er eu bod yn cael eu datblygu ar y cyd, gall fod gwahaniaethau o ran dyluniad cynlluniau rhwng cynlluniau Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Gall fod gwahaniaethau hefyd rhwng y cynlluniau hynny a’r cynllun yn yr Alban. Nod yr astudiaeth achos hon yw deall y strategaeth fusnes mewn ymateb i wahaniaethau rheoliadol posibl sy’n codi yn sgil datblygu gwahanol gynlluniau dychwelyd ernes mewn gwahanol wledydd o fewn y DU, a hynny ar wahanol adegau.

Dulliau gweithredu a fabwysiadwyd mewn ymateb i wahaniaethau o ran gofynion cynlluniau dychwelyd ernes

Wrth ystyried effeithiau penodol cyflwyno cynllun dychwelyd ernes mewn un wlad yn y DU, dywedodd cynhyrchwyr a manwerthwyr (y gallant yn aml fod yn rhannau o’r un busnes) eu bod yn defnyddio tair prif strategaeth:

  • parhau i fasnachu fel yr oeddent yn flaenorol, ynghyd â chydymffurfio â deddfwriaeth leol, gan naill ai ymgorffori costau’r cynllun neu eu pasio ymlaen trwy’r gadwyn gyflenwi ac, yn y diwedd, i gwsmeriaid

  • parhau i fasnachu o fewn y wlad sy’n cyflwyno’r rheoliadau ond gan gynnig llai o amrywiaeth o ran cynhyrchion i leihau costau a chymhlethdod

  • canolbwyntio ar gyflenwi un wlad neu is-set o wledydd. Gallai hyn olygu newid sylw i ganolbwyntio ar brif farchnad y busnes, a allai fod o fewn y wlad sy’n cyflwyno’r rheoliadau, neu mewn gwlad arall

O ganlyniad i’n trafodaethau â rhanddeiliaid, rydym wedi nodi ffactorau sy’n cael eu hystyried gan fusnesau wrth benderfynu rhwng y strategaethau hyn.

Ffactorau sy’n dylanwadu ar benderfyniad busnesau i barhau i fasnachu fel yr oeddent yn flaenorol 
Enw da brandiau a chydymffurfiaeth

Roedd nifer o randdeiliaid yn cyfeirio at y sector diodydd, ynghyd â’r diwydiant bwyd a diod ehangach, fel amgylchedd ag iddo ‘lefel uchel o gydymffurfiaeth’, lle’r oedd busnesau’n dueddol o weithredu yn ôl y ‘safon gyffredin uchaf’ o ran rheoliadau. Yn ymarferol, roedd hyn yn golygu y byddai busnesau’n aml yn symud ymlaen yn gynt na rheoliadau, er enghraifft yng nghyswllt gofynion iechyd ac amgylcheddol, oherwydd y gwelwyd mai dyma beth fyddai cwsmeriaid yn ei ddisgwyl, ac er mwyn gwneud newidiadau i linellau cynnyrch neu gadwyni cyflenwi yn ôl amserlen addas.

O ran y cyd-destun hwnnw, roedd y mwyafrif o’r rhanddeiliaid y siaradasom â hwy’n ffafrio cynlluniau dychwelyd ernes, ac yn gefnogol iawn i allu cynlluniau i ryngweithredu o fewn y DU. O ran enghraifft benodol y cynllun arfaethedig yn yr Alban, roedd nifer o randdeiliaid yn pwysleisio eu bod wedi ymgysylltu â’r cynllun o’r cychwyn cyntaf, gan gynnwys fel aelodau a sefydlodd Sefydliad Rheoli Ernes y cynllun, sef ‘Circularity Scotland’. Roedd manwerthwyr a chanddynt siopau ffisegol wedi gwneud paratoadau helaeth i gymryd rhan yn y cynllun hwnnw, ac roedd rhai cynhyrchwyr wedi archwilio dulliau i gyflawni gofynion y cynllun, wrth gynnal beth yr oeddent yn ei gynnig ar y pryd o fewn marchnad yr Alban.

Roedd ffactorau y cyfeiriwyd atynt yn aml yn y penderfyniadau hyn yn cynnwys enw da’r brand yng nghyswllt cydymffurfiaeth. Fel rhan o hyn, roedd rhanddeiliaid hefyd yn cyfeirio at ddisgwyliadau cwsmeriaid o ran y modd y byddai brand yn ymateb i reoliadau, gan gynnwys yng nghyswllt unrhyw negeseuon amgylcheddol ehangach sy’n gysylltiedig â’r brand. Roedd rhai busnesau wedi treialu gweithrediadau ar gyfer pwyntiau dychwelyd cynwysyddion, gan amlygu dymuniad i fod yn gwbl barod i weithredu gofynion y cynllun. Roedd y busnesau hyn fel arfer wedi gwneud buddsoddiad cyfalaf yn yr isadeiledd a fynnir i weithredu pwynt dychwelyd, a oedd yn tanlinellu eu hymrwymiad i gyflenwi’r cynllun yn llwyddiannus.

Roedd agwedd benodol ar enw da brandiau’n amlwg o’n trafodaethau â rhanddeiliaid. Roedd busnesau sydd wedi’u lleoli yn yr Alban, yn enwedig cynhyrchwyr llai, wedi cofrestru â chynllun yr Alban oherwydd eu bod wedi lleoli eu brandiau o fewn y farchnad fel ‘cynhyrchion Albanaidd’, a bod cymryd rhan ym marchnad yr Alban yn rhan annatod o’u brand. O ran canolbwyntio ar werthiannau yng ngweddill y DU, hyd yn oed yn y tymor byr, nid oedd hyn yn strategaeth hyfyw hyd yn oed pe baent yn cyflawni gwerthiannau sylweddol yn y marchnadoedd hynny. Rydym o’r farn, er nad yw’r ystyriaeth hon ond yn berthnasol i gyfran fechan o fusnesau, gallai effaith debyg fod yn berthnasol i wledydd eraill sy’n cyflwyno eu cynlluniau dychwelyd ernes eu hunain.

Amlygrwydd cadwyni cyflenwi

Roedd nifer o randdeiliaid yn amlygu strwythur cymhleth y gadwyn gyflenwi diodydd yn y DU. Trafodir hyn ymhellach isod. Roedd cynhyrchwyr mawr (gan gynnwys manwerthwyr mawr a chanddynt amrywiaeth helaeth o’u brandiau eu hunain) yn fwy tebygol na busnesau eraill i fod â chyrchfannau rhagbenodedig ar gyfer eu cynhyrchion. Gallai hyn ganiatáu mwy o gyfle i olrhain cynhyrchion trwy’r gadwyn gyflenwi, gan olygu bod y busnesau mwy hyn sy’n gweithredu ledled y DU mewn lle gwell i dargedu cyflenwadau o gynhyrchion a oedd yn cydymffurfio â gofynion rheoliadol o fewn gwlad benodol (er y byddai gwneud hynny’n dal i arwain at gostau a chymhlethdod).

# Y gallu i basio costau ymlaen

O ran bod busnesau wedi penderfynu parhau i fasnachu fel yr oeddent yn flaenorol, roedd yn debygol y byddai costau uwch yn cael eu pasio ymlaen i gwsmeriaid. Bydd cynllun dychwelyd ernes fel arfer yn cynyddu prisiau manwerthu, i adlewyrchu ychwanegu’r ernes, ynghyd â’r angen i ddarparu ar gyfer costau’r cynllun. Roedd busnesau’n nodi’n glir y byddai costau’r cynllun yn cael eu pasio i gwsmeriaid, gan mai ychydig iawn o le oedd yna i ymgorffori costau o fewn sector lle gallai maint yr elw fod yn dynn.[footnote 96] Roedd y gallu i basio’r costau hyn ymlaen yn ystyriaeth ar gyfer busnesau sy’n dewis peidio ag addasu eu strategaeth gyffredinol i liniaru’r costau.

Ffactorau sy’n dylanwadu ar benderfyniad i gynnig llai o amrywiaeth a / neu i ganolbwyntio ar wledydd penodol

Roedd y mwyafrif o’r rhanddeiliaid y siaradasom â hwy yn nodi sut y gallai costau gynyddu o fewn eu busnesau a’u cadwyni cyflenwi o ganlyniad i reoliadau a oedd yn wahanol rhwng gwledydd. Aethom ati i archwilio’r rhain gyda golwg ar ddeall p’un a fyddai busnesau’n newid unrhyw beth yng nghyswllt eu dulliau gweithredu er mwyn lliniaru’r costau hyn.

Dosbarthu gan gyfanwerthwyr yn y sector diodydd

O safbwynt y farchnad fewnol, mae’n nodedig yr oedd cadwyni cyflenwi’n dueddol o gael eu strwythuro ar sail y DU gyfan (neu, mewn rhai achosion, ledled Prydain Fawr). Gan adleisio sylwadau a wnaed gan fusnesau yn ein hymchwil ansoddol[footnote 97] ar gyfer adroddiad blynyddol 2022 i 2023, nid oedd y sector yn dueddol o ystyried ffiniau mewnol y DU. Er enghraifft, yn aml, gallai safleoedd dosbarthu wasanaethu mwy nag un wlad, yn enwedig os oeddent wedi’u lleoli’n gymharol agos i ardaloedd ar y ffin. Nid oedd cynhyrchu llinellau cynnyrch ar wahân ar gyfer bob gwlad yn nodwedd arferol o’r sector.

Tra byddai cynhyrchwyr mawr yn fwy tebygol o fod â chyrchfannau rhagbenodedig ar gyfer cynhyrchion, o ran Busnesau Bach a Chanolig (BBaCh), clywsom y gallai tua 90% o’u stoc gael ei werthu i gyfanwerthwyr, ac ar yr adeg y maent yn prynu’r stoc, ni fyddent o reidrwydd yn gwybod i ba gwsmer y byddai’r stoc yn cael ei gwerthu iddo yn y diwedd, na’i lleoliad. Gallai cynhyrchion basio trwy sawl cyfryngwr cyn cyrraedd eu safle gwerthu terfynol. Roedd olrhain cynhyrchion yn gymhleth, a gallai’r gallu i gipio data trwy’r gadwyn gyflenwi fod yn amrywiol; byddai sefydlu systemau dibynadwy ar gyfer olrhain a chipio data yn ychwanegu at gostau.

O ran lle mae rheoliadau’n gwahaniaethu rhwng gwledydd, byddai angen i warws gynnal lleoliadau ar wahân ar gyfer stoc ar gyfer bob marchnad lle mae gwahanol reoliadau ar waith. Roedd rhanddeiliaid o’r farn, yn ogystal â gwneud pethau’n fwy cymhleth, byddai’n cynyddu costau mewn modd arall. Efallai y byddai angen cynyddu’r stoc a gedwir oherwydd anhyblygrwydd o ran y gallu i symud stoc rhwng gwledydd. Gallai fod prinder o ran y stoc sy’n cael ei dal ar gyfer un wlad, a gormodedd o stoc yn cael ei dal ar gyfer un arall, ond ni ellid cyflenwi stoc a fwriadwyd ar gyfer un wlad i wlad arall os nad oedd y stoc honno’n cyflawni gyfynion y wlad honno o ran ei chynllun dychwelyd ernes. Nododd rhai cynhyrchwyr bod maint y gwerthiannau yn y diwydiant diodydd yn cael ei ddylanwadu gan nifer o ffactorau, gan gynnwys y tywydd. Byddai’n her i gynhyrchwyr a chyfanwerthwyr geisio rhagweld faint o stoc a fynnwyd ar gyfer bob gwlad. Pe bai angen rhagor o stoc, byddai hynny’n cynyddu costau cadw stoc, a gallai hefyd olygu bod angen rhagor o le mewn warws. Roedd yn debygol y gallai penderfyniad gan un wlad i newid ei gofynion rheoliadol gael effeithiau mewn gwledydd eraill a wasanaethir gan y gadwyn gyflenwi honno o ran costau a chymhlethdodau. Gallai busnesau ymateb i fwy o gymhlethdod trwy ailganolbwyntio eu gweithgareddau ar eu prif farchnad, ac efallai nad y wlad sy’n cyflwyno’r rheoliad yw honno.

Dyblygu unedau cadw stoc

Wrth ddatblygu ei chynllun, roedd Llywodraeth yr Alban yn cydnabod y potensial am dwyll a symud eitemau’n ddamweiniol o wledydd eraill yn y DU. Fel cynllun y mae cynhyrchwyr yn gyfrifol amdano, y cynhyrchwyr diodydd a gweinyddwr y cynllun sy’n gyfrifol am fynd i’r afael â’r risgiau hyn, gan mai’r cynhyrchwyr hynny fyddai’n ysgwyddo unrhyw gostau o ganlyniad i unrhyw dwyll. Roedd gweinyddwr y cynllun yn derbyn unedau cadw stoc penodol (SKUs) ar gyfer cynwysyddion a roddir ar y farchnad yn yr Alban, neu dâl ychwanegol i ffioedd cynhyrchwyr ar gyfer rheoli’r cynllun lle defnyddir un cod bar ar gyfer y DU, fel modd o fynd i’r afael â’r risgiau hyn.

Yn gyffredinol, roedd busnesau’n nodi y byddai dyblygu unedau cadw stoc i ddarparu ar gyfer gwahanol reoliadau rhwng y gwledydd yn cynyddu costau. Er enghraifft, mewn ffatri sy’n cynhyrchu 80,000 o boteli yr awr, gallai oedi er mwyn newid o gynhyrchu eitemau nad ydynt yn rhan o gynllun dychwelyd ernes i gynhrchu eitemau sydd yn rhan o gynllun dychwelyd ernes olygu, yn gynyddol, y gellid hepgor miloedd o unedau cynnyrch er mwyn gwasanaethu’r hyn a allai fod yn rhan gymharol fach o fusnes cyffredinol y farchnad. Yn gyffredinol, roedd busnesau’n ystyried na fyddai’r costau sy’n gysylltiedig ag unedau cadw stoc ar gyfer gwlad benodol ond yn economaidd hyfyw os oedd maint y gwerthiannau’n ddigonol i gyfiawnhau costau sy’n deillio o’u dyblygu.

Roedd busnesau’n pwysleisio y byddai dyblygu unedau cadw stoc, yn ei hun, yn achosi cyfyngiadau, hyd yn oed pe bai faint o nwyddau a fasnachir yn gyffredinol yn cadw’n sefydlog. Byddai gwahanol unedau cadw stoc yn gofyn am wahanol drefniadau storio a thrin, a byddai goblygiadau o ran data ac adrodd, gan gynnwys yr anhawster o ran olrhain cynhyrchion y’u bwriedir ar gyfer dim ond un wlad yn y DU.

Labelu

Roedd rhai rhanddeiliaid yn nodi costau sy’n gysylltiedig â labelu pecynnau â’r pris wedi’i farcio arnynt, hynny yw, cynhyrchion a chanddynt y pris manwerthu wedi’i argraffu ar y label, mewn amgylchiadau lle’r oedd yr ernes yn amrywio rhwng y gwledydd. Dywedodd manwerthwr wrthym fod rhoi sticeri ar gynhyrchion ar gyfer gwledydd penodol yn fwy costus a llai effeithlon na phecynnau â’r pris wedi’u marcio arnynt.

Strategaethau ar gyfer lliniaru costau

Roedd llawer o’r costau y nodwyd gan randdeiliaid eu bod yn codi o wahaniaethau rheoliadol yn amrywio yn ôl nifer y llinellau cynnyrch (neu unedau cadw stoc) a weithredwyd gan y busnes, heb ystyried faint o gynhyrchion a gysylltir â phob uned cadw stoc. Mae hwn yn ffactor hanfodol o ran deall strategaethau lliniaru costau busnesau. Roedd rhanddeiliaid yn ystyried, ar y cyfan, bod yr arbediad cost yn sgil dileu cynnyrch, y mae’r nifer ohono sy’n cael ei werthu’n isel, o’r portffolio yn debyg i gostau dileu un y mae’r nifer ohono sy’n cael ei werthu’n uchel. Dywedasant fod hyn yn arwain at ddwy strategaeth bosibl, y mae pa mor ddeniadol ydynt yn amrywio yn ôl y portffolio cynhyrchion a weithredir gan fusnes.

Yn gyntaf, gallai busnes leihau’r amrywiaeth o gynhyrchion a gynigir ganddo (naill ai dim ond yn y wlad a chanddi’r rheoliadau llymaf neu ar draws y DU). Cyflawnir hyn fel arfer trwy ddileu’r llinellau cynnyrch â’r meintiau gwerthiannau isaf. Byddai’r strategaeth hon yn fwyaf addas ar gyfer busnes a chanddi rywfaint o gynhyrchion â maint gwerthiannau mawr, sy’n cyfrif am y mwyafrif o’r gwerthiannau a’r elw, ynghyd â ‘chynffon’ o linellau cynhyrchion llai poblogaidd. Mae maint y busnes yn llai perthnasol na phroffil ei phortffolio o gynhyrchion - dywedodd cwmnïau rhyngwladol a BBaCh wrthym eu bod yn ystyried lleihau eu hamrywiaeth o gynhyrchion fel strategaeth.

Yn gyffredinol, byddai lleihau’r amrywiaeth o gynhyrchion yn golygu gorfod tynnu nifer fawr efallai o gynhyrchion, y mae meintiau eu gwerthiannau’n fach, yn ôl o’r farchnad. Wrth wneud hyn, dywedodd rhai cynhyrchwyr wrthym y byddent yn ceisio cynnal cydbwysedd o ran y cynhyrchion, yn hytrach na dileu llinellau cyfan. Cyfeiriodd rhai at ganolbwyntio ar gynnig ‘diogel’ o ran cynhyrchion, sy’n golygu amrywiaeth digonol lle gellid rheoli costau ychwanegol cydymffurfiaeth â’r cynllun. Roedd busnesau’n derbyn, unwaith yr oeddent wedi tynnu’n ôl o rai meysydd cynhyrchion, y gallai fod yn anodd dychwelyd iddynt, gan y byddai cwsmeriaid yn cael eu colli.

Mae graddfa’r gostyngiad posibl yn amrywiaeth y cynhyrchion yn anodd i’w fesur. Nid oedd yr un o’r rhanddeiliaid y siaradasom â hwy wedi cymryd penderfyniad cadarn i leihau ei amrywiaeth ac, yn rhannol, byddai’r arbedion o ran costau yn dibynnu ar y graddau yr oedd y cynlluniau’n wahanol, ac nid oedd eu manylion llawn ar gael yn gyfan gwbl i’n rhanddeiliaid ar yr adeg y siaradasom â hwy. Er hynny, fel enghraifft, awgrymodd manwerthwr i ni y gallai bod gostyngiad posibl o 20-30% yn yr unedau cadw stoc sydd ar gael yn yr Alban, ar draws brandiau diodydd meddal a chwrw, oherwydd y cymhlethdod sy’n codi o ofynion cynlluniau dychwelyd ernes ledled gwledydd y DU (naill ai dros dro neu’n barhaol). Gallai graddfa unrhyw ostyngiad yn y cynhyrchion sydd ar gael amrywio yn ôl, er enghraifft, gwahaniaethau rhwng meintiau gwerthiannau ar gyfer llinell gynnyrch benodol ym mhob gwlad.

Yn ail, gallai busnes dynnu’n ôl o wlad (neu wledydd) yn gyfan gwbl, gan ganiatáu iddynt ganolbwyntio eu gweithgareddau ar gydymffurfio â’r rheoliadau o fewn ychydig o farchnadoedd dewisedig. Byddai’r strategaeth hon yn fwyaf addas i fusnes a chanddo ddim ond cynhyrchion â maint gwerthiant isel o fewn ei bortffolio (fel yn achos rhai cynhyrchwyr artisan), neu fusnes y mae’r mwyafrif o’i werthiannau mewn is-set o wledydd y DU. Roedd ein rhanddeiliaid yn sôn llai am y strategaeth hon na lleihau amrywiaeth cynhyrchion, ond o ran un cynhyrchydd, yr oedd y mwyafrif o’i werthiannau ar lefel genedlaethol ac a oedd yn ystyried bod ei gynnyrch yn eitem yr oedd ‘rhaid ei stocio’ gan archfarchnadoedd yn ei wlad gartref, ond nid yn unman arall, yn awgrymu efallai na fyddai ond yn canolbwyntio ar ei farchnad gartref, yn amodol ar gadarnhau manylion y cynlluniau ledled y DU.

Ffactorau sy’n dylanwadu ar y defnydd o MAPs

Roedd busnesau’n mynegi ychydig iawn o ddiddordeb mewn defnyddio’r MAPs i ddod ag eitemau nad ydynt yn rhan o gynllun dychwelyd ernes i mewn i’r Alban. Rhoddodd busnesau nifer o resymau dros hyn. Yn arbennig, dywedodd cynhyrchwyr wrthym, fel arianwyr y cynllun, roeddynt wedi ymrwymo i’w lwyddiant. Ni fyddai’n gwneud synnwyr i roi eitemau ar y farchnad a fyddai’n tanseilio amcanion y cynllun dychwelyd ernes. Gallem dybio, mewn achosion lle ariennir canlyniadau gan ddiwydiant, ceir cymhelliant clir i’r diwydiant wneud y mesur yn llwyddiant, ac y byddai hyn yn fwy o anogaeth nag unrhyw fantais a fyddai efallai’n deillio o’r MAPs.

Ffactor arwyddocaol arall oedd ymagwedd y sector bwyd a diod tuag at gydymffurfiaeth, gan gynnwys mabwysiadu gofynion newydd cyn i reoliadau ddod i rym. Hyd yn oed pe byddai busnesau wedi gallu dod ag eitemau nad ydynt yn rhan o gynllun dychwelyd ernes i mewn yn gyfreithlon, roeddynt yn ystyried bod defnyddio’r MAPs yn cyfateb i fanteisio ar ‘ffordd ymwared’. Roedd busnesau’n cysylltu’r canfyddiad hwn ag enw da eu brand a disgwyliadau cwsmeriaid y byddai brandiau’n ‘gwneud y peth iawn’; gallai defnyddio’r MAPs niweidio eu brandiau yng ngolwg rhai cwsmeriaid. Nodwn nad oedd modd i ni archwilio’n llawn p’un a fyddai manwerthwyr llai, nad oes ganddynt efallai’r un gwerthoedd o ran brand, yn fwy parod i ddefnyddio’r MAPs - yn enwedig os ydynt yn gweld bod mantais o ran costau yn sgil gwneud hynny.[footnote 98]

Roedd busnesau hefyd yn cyfeirio at ystyriaethau o ran logisteg. Dywedodd nifer o fanwerthwyr wrthym y byddai gwerthu eitemau a gynhwyswyd mewn cynllun dychwelyd ernes, ac eitemau nad ydynt yn rhan o gynllun dychwelyd ernes, gyda’i gilydd yn creu dryswch i gwsmeriaid ac yn cymhlethu cadwyni cyflenwi ymhellach. O ran cynllun yr Alban, roedd rhai manwerthwyr yn cwestiynu p’un a fyddai’n gyfreithlon i stocio cynhyrchion nad ydynt yn rhan o gynllun dychwelyd ernes, hyd yn oed pe bai’r cynhyrchion hynny wedi mynd i mewn i’r Alban yn gyfreithlon, oherwydd y rhwymedigaethau a roddir ar fusnesau gan ddeddfwriaeth cynlluniau. Yn y cyd-destun hwnnw, byddai dibyniaeth ar y MAPs yn dod yn risg ychwanegol.

Casgliadau

Mae’r astudiaeth achos hon wedi amlygu dynameg bwysig a allai effeithio strategaeth busnes yng nghyswllt gwahaniaethau rheoliadol rhwng cynlluniau dychwelyd ernes y gallent hefyd fod ag arwyddocâd ehangach o ran marchnadoedd eraill.

Ymddengys bod rôl portffolio cynhyrchion sy’n cynnwys cynhyrchion a chanddynt feintiau gwerthiannau gwahanol iawn (h.y. cynhyrchion â maint gwerthiannau uchel ac isel) yn arwyddocaol, o leiaf i’r graddau o ran nad yw costau gwahaniaethau rheoliadol yn gymesur â meintiau gwerthiannau.

Mae gwasgariad daearyddol gwerthiannau a strwythur y gadwyn gyflenwi sy’n cynnal y gwerthiannau hynny yn dylanwadu ar yr ymateb - yn enwedig o ran lle maent wedi’u canolbwyntio o fewn is-set o wledydd y DU, yn yr un modd ag y mae’r canfyddiad bod brand yn gysylltiedig â lleoliad neu wlad benodol. Gallai hyn fod yn fwy cyffredin yn y sector bwyd a diod, ac yn enwedig ymhlith cynhyrchwyr artisan.

Roedd diogelu gwerthoedd brandiau yn bwysig, a byddai’n debygol o arwain at gydymffurfiaeth â rheoliadau lleol yn hytrach na defnyddio’r MAPs, o leiaf ymhlith y busnesau hynny a oedd wedi buddsoddi yn eu brandiau, yn enwedig manwerthwyr. Nid oedd gan yr un o’r rhanddeiliaid y siaradasom â hwy unrhyw ddiddordeb mewn cael eu herio dros eu defnydd o’r MAPs, a llai felly o ran amddiffyn eu safbwynt gerbron y gyfraith pe bai angen, yn enwedig os oedd rheoliadau lleol yn rhoi rhwymedigaethau penodol ar fusnesau a allai greu tensiwn o ran y defnydd o MAPs. Nodwn, heb gyfraith achosion i egluro’r safbwynt, bod yr ansicrwydd yn debygol o barhau.[footnote 99]

Bwydydd sy’n uchel mewn braster, halen a siwgr

Cyflwyniad

Mae’r astudiaeth achos hon yn archwilio’r modd y mae busnesau’n llywio eu ffordd trwy’r gwahaniaethau rheoliadol ledled y DU yng nghyswllt cynlluniau sy’n hyrwyddo bwydydd sy’n uchel mewn braster, halen a siwgr (HFSS).

Mae llywodraethau ledled Cymru, Lloegr a’r Alban[footnote 100] wedi cyflwyno polisïau i fynd i’r afael â phryderon ynghylch lefelau gordewdra cynyddol, yn enwedig ymhlith plant, trwy weithredu cyfyngiadau ar hyrwyddo cynhyrchion sy’n uchel mewn braster, halen a siwgr mewn siopau ac ar-lein. Mae’r rhain yn cynnwys hyrwyddo cynigion arbennig o ran prisiau yn ôl cyfaint (e.e., disgowntiau amleitem) a hyrwyddo cynhyrchion trwy eu lleoliad (e.e., cyfyngu ar leoli cynhyrchion sy’n uchel mewn braster, halen a siwgr mewn siopau ac ar-lein). Ceir disgrifiad manwl o’r polisïau hyn ym mharagraffau 3.16-3.20.

Mae’n debygol y bydd pob gwlad yn y DU yn dilyn yr un diffiniad ar gyfer cynhyrchion sy’n uchel mewn braster, halen a siwgr, gan ddefnyddio model proffilio maethynnau (NPM) 2004[footnote 101], ond gallai math y polisïau hyrwyddo a chategorïau’r cynhyrchion o fewn y cwmpas wahaniaethu o un wlad i’r llall. Gofynasom felly am farnau rhanddeiliaid o ran y modd y maent yn bwriadu mynd i’r afael â’r gwahaniaethau posibl hyn. Siaradasom â manwerthwyr bwyd a gwneuthurwyr bwyd Prydeinig a rhyngwladol mawr sy’n gwerthu cynhyrchion sydd o fewn categorïau’r bwydydd sy’n uchel mewn braster, halen a siwgr. Cafwyd barnau cymdeithasau masnach hefyd er mwyn cael dealltwriaeth gyffredinol o’r modd y mae’r diwydiant wedi ymateb i gyfyngiadau ar hyrwyddo bwydydd sy’n uchel mewn braster, halen a siwgr, ynghyd â thimau polisi o fewn y pedair llywodraeth sy’n gyfrifol am faterion yn ymwneud â bwyd a diod.

Dulliau o fynd i’r afael â gwahaniaethau mewn polisïau sy’n hyrwyddo bwydydd sy’n uchel mewn braster, halen a siwgr

Mae gwneuthurwyr bwyd a manwerthwyr bwyd (sydd hefyd weithiau’n wneuthurwyr bwyd trwy eu brandiau eu hunain) yn wynebu dewisiadau penodol o ran y modd y maent yn ymateb i wahaniaethau rheoliadol o fewn un wlad neu ragor yn y DU. Yn fras, yr opsiynau hynny yw:

  • gwerthu cynhyrchion presennol gan gydymffurfio â rheoliadau lleol yng nghyswllt gweithgareddau hyrwyddo

  • ailfformiwleiddio’r cynnyrch/cynhyrchion a effeithiwyd a chynnig y fersiwn sydd wedi’i ailfformiwleiddio yn unig yn y wlad/gwledydd lle bo angen y cynnyrch sydd wedi’i ailfformiwleiddio, i sicrhau bod y cynnyrch y tu hwnt i’r cyfyngiadau ar fwydydd sy’n uchel mewn braster, halen a siwgr

  • ailfformiwleiddio’r cynnyrch/cynhyrchion a chynnig y fersiwn sydd wedi’i ailfformiwleiddio i’w werthu ledled y DU

  • cyflwyno cynhyrchion newydd, nad ydynt yn uchel mewn braster, halen a siwgr, y gellir eu cynnig fel rhan o gynllun hyrwyddo ochr yn ochr â’r cynhyrchion sydd wedi’u hen sefydlu

  • peidio â chynnig y cynnyrch/cynhyrchion dim ond yn y gwledydd hawsaf o ran y gallu i gyflawni gofynion y rheoliadau oddi mewn iddynt

  • defnyddio’r MAPs i werthu llinellau cynnyrch presennol ar draws ffiniau

Dywedodd y busnesau y siaradasom â hwy y byddai’r strategaeth a fabwysiadir ganddynt yn amrywio yn ôl y cynnyrch penodol o dan sylw. Fodd bynnag, roedd barn gyffredin ei bod yn well osgoi cynhyrchu gwahanol gynhyrchion ar gyfer gwahanol wledydd, os yn bosibl.

Cafwyd barn gyffredin mai’r cynhyrchion agosaf at y proffil ar gyfer eu hystyried fel cynhyrchion nad oedd yn uchel mewn braster, halen a siwgr oedd y rhai mwyaf addas i’w hailfformiwleiddio, ond byddai angen strategaethau amgen ar gyfer cynhyrchion eraill (ac roedd barnau o ran yr ymateb gorau’n amrywio rhwng busnesau). Gan ddibynnu ar natur y gwahaniaethau rhwng gwledydd, cydnabuwyd efallai nad oedd yn bosibl datblygu cynnyrch a oedd yn osgoi cyfyngiadau ar fwydydd sy’n uchel mewn braster, halen a siwgr ym mhob gwlad, am gost a oedd yn gystadleuol ym mhob gwlad. Yn y senario hwnnw, dywedodd y mwyafrif o’r busnesau mai lleihau amrywiaeth y cynhyrchion, ynghyd â thynnu eitemau a chanddynt faint gwerthiannau isel o’r portffolio, oedd yr ymateb mwyaf tebygol.

Ffactorau sy’n dylanwadu ar y dewis o strategaeth
Agweddau cwsmeriaid

Ar sail ein hymgysylltiad â gwneuthurwyr bwyd, deallwn, cyn y cyhoeddiad ynghylch cyfyngiadau ar hyrwyddo bwydydd sy’n uchel mewn braster, halen a siwgr, roedd y diwydiant bwyd a diod eisoes yn ymateb i agweddau a oedd yn esblygu ymhlith cwsmeriaid tuag at opsiynau iachach. Roedd busnesau’n mynd ati’n rhagweithiol i fabwysiadu mesurau i wella ansawdd maethol eu cynhyrchion, gan lansio mentrau a oedd yn canolbwyntio ar leihau halen, siwgr a faint o galorïau a oedd ynddynt. Gwnaed hyn ochr yn ochr â busnesau a oedd yn gweithio tuag at dargedau gwirfoddol a nodwyd gan Lywodraeth y DU. Nodir yn arbennig y gwelwyd gostyngiadau parhaus yn yr halen a gynhwysir mewn cynhyrchion, yn unol â thargedau gwirfoddol a osodwyd i ddechrau yn 2006 gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.[footnote 102] O ganlyniad i hynny, cydnabyddir yn gyffredinol bod y DU yn flaenllaw trwy’r byd o ran y camau a gymerwyd i leihau halen mewn cynhyrchion.[footnote 103] Bu busnesau’n gweithio ar dargedau penodol yng nghyswllt halen ar gyfer 28 categori a osodwyd gan Lywodraeth y DU[footnote 104], y mae’r mwyafrif ohonynt yn gategorïau a gynhwysir yn y cyfyngiadau ar hyrwyddo bwydydd sy’n uchel mewn braster, halen a siwgr.[footnote 105] Yn ogystal â hyn, dywedodd manwerthwyr wrthym hefyd eu bod wedi ymrwymo i raglenni lleihau siwgr a chalorïau gwirfoddol Llywodraeth y DU.[footnote 106]

Roedd y newid rhagweithiol hwn yn y diwydiant bwyd a diod yn adlewyrchu cydnabyddiaeth bod disgwyliadau cwsmeriaid yn esblygu, ynghyd ag ymrwymiad gwirfoddol i gynnig dewisiadau mwy maethlon, hyd yn oed cyn gweithredu mesurau rheoliadol. Roedd rhai busnesau y siaradasom â hwy yn nodi bod eu strategaethau ailfformiwleiddio’n canolbwyntio ar y sgoriau NPM, cyn cyhoeddi’r cyfyngiadau ar hyrwyddo bwydydd sy’n uchel mewn braster, halen a siwgr. Fodd bynnag, dywedodd y mwyafrif o fusnesau wrthym mai dim ond ar ôl y cyhoeddiad ar y cyfyngiadau ar hyrwyddo bwydydd sy’n uchel mewn braster, halen a siwgr y daeth yr NPM yn fesur allweddol iddynt o ran targed.

Strategaeth ailfformiwleiddio

Dywedodd busnesau wrthym y defnyddir ailfformiwleiddio’n aml fel un o’r strategaethau allweddol i gynnig cynhyrchion iachach i gwsmeriaid. Mae ailfformiwleiddio’n broses hir, sy’n cymryd llawer iawn o amser, gyda chynhyrchion yn cael eu hystyried fel arfer mewn cylchoedd o 1 i 3 blynedd. Roedd cyhoeddi cyfyngiadau ar hyrwyddo bwydydd sy’n uchel mewn braster, halen a siwgr yn annog busnesau i roi mwy o bwyslais ar ailfformiwleiddio cynhyrchion a oedd yn agos i beidio â bod yn uchel mewn braster, halen a siwgr ar sail eu sgoriau NPM eu hunain, yn ogystal â ffactorau eraill (e.e., targedau maethol mewnol/allanol, yr hyn y mae cwsmeriaid yn ei ffafrio o ran blas, ac arloesedd).

Yn ôl busnesau, cyflawnir newidiadau o ran ailfformiwleiddio cynhyrchon yn raddol, gydag addasiadau bach yn cael eu gwneud bob tro er mwyn diogelu ansawdd cynhyrchion a sicrhau bod cwsmeriaid yn eu derbyn. O ran busnesau a oedd wedi gwneud newidiadau sylweddol i gynhyrchion yn y gorffennol, roeddynt wedi profi colledion mawr o ran cwsmeriaid, sy’n pwysleisio pwysigrwydd newidiadau graddol. Roedd rhai busnesau y siaradasom â hwy yn gallu ailfformiwleiddio cynhyrchion a oedd yn agos i gyflawni statws cynhyrchion nad ydynt yn uchel mewn braster, halen a siwgr, yn gyflym, i sicrhau cydymffurfiaeth cyn i’r ddeddfwriaeth ddod i rym, gan eu galluogi i barhau i hyrwyddo eu cynhyrchion mewn mannau amlwg mewn siopau. Roedd y busnesau hyn fel arfer wedi cydweddu eu hymdrechion i ailfforfmiwleiddio â’r NPM, cyn i’r cyfyngiadau ar hyrwyddo bwydydd sy’n uchel mewn braster, halen a siwgr ddod i rym.

Fodd bynnag, roedd nifer o’r busnesau y siaradasom â hwy yn pwysleisio mai dim ond cyfran fechan o’u cynhyrchion[footnote 107] a oedd â’r potensial i gael eu hailfformiwleiddio i gyflawni’r gofynion o ran cydymffurfiaeth. Roedd gwneuthurwyr yn pwysleisio amharodrwydd i newid cynhyrchion sy’n uchel mewn braster, halen a siwgr sy’n sgorio’n uwch, fel siocled neu hufen iâ, gan eu hystyried yn ddanteithion y dylid eu caniatáu. Gallai ailfformiwleiddio cynhyrchion o’r fath i gyflawni’r meini prawf ar gyfer cynhyrchion nad ydynt yn uchel mewn braster, halen a siwgr greu cynnyrch na fyddir yn ei adnabod mwyach. Mewn amgylchiadau o’r fath, dywedodd busnesau wrthym y byddai’n well ganddynt gyflwyno cynhyrchion newydd sy’n cydymffurfio â’r gofynion, ochr yn ochr â chynhyrchion sefydledig. O ganlyniad i hyn, ceir cyfyngiadau sylweddol o ran busnesau sy’n defnyddio ailfformiwleiddio fel modd o ymateb i’r rheoliadau a llywio’u ffordd trwyddynt.

Eglurodd y busnesau nad oedd gwahaniaethau rheoliadol posibl wedi cael effaith ar eu gweithgareddau o ran ailfformiwleiddio; roedd y gwaith a wnaed ganddynt yn y cyswllt hwn yn angenrheidiol at ddibenion eraill.

Cadarnhaodd yr holl fusnesau y siaradasom â hwy eu bod ar hyn o bryd yn trin y DU fel un farchnad, heb unrhyw amrywiadau o ran cynhyrchion ar draws eu gwledydd cartref, ac eithrio bod rhai cynhyrchion yn gallu defnyddio cynhwysion o ffynonellau lleol. Roedd y busnesau’n pwysleisio, tra bo gwahaniaethau rheoliadol yn codi pryderon ac yn cynyddu’r ansicrwydd o ran y gallu i gynllunio at y dyfodol, ni fyddai’r ystyriaeth hon ar ei phen ei hun efallai’n eu sbarduno i wneud newidiadau sylweddol i’w strategaethau. Fodd bynnag, pan ofynnwyd iddynt beth fyddai’n digwydd pe bai gwahaniaethau sylweddol rhwng y gwledydd, yn enwedig pe bai un wlad yn penderfynu ar ddiffiniad llymach o fwydydd sy’n uchel mewn braster, halen a siwgr nag unrhyw un arall, awgrymodd y busnesau efallai na fyddai’n benderfyniad hyfyw yn ariannol i gyflenwi cynhyrchion llai poblogaidd yn y marchnadoedd hynny. Mewn amgylchiadau o’r fath, byddent yn debygol o leihau’r amrywiaeth o gynhyrchion.

Awgrymodd y mwyafrif o fusnesau, pe bai rheoliadau llymach mewn mannau eraill yn y DU yn y dyfodol, efallai y byddent yn ystyried ailfformiwleiddio cynhyrchion fesul achos, er mwyn i un cynnyrch gydymffurfio â’r gofynion ym mhob gwlad. Fodd bynnag, byddai’r penderfyniad yn dibynnu ar raddau’r gwahaniaeth; po fwyaf yw’r gwahaniaethau, yr anoddaf y bydd i weithredu yn ôl y ‘safon gyffredin uchaf’. Rydym o’r farn y bydd yn anodd mabwysiadu’r dull gweithredu yn ôl y ‘safon gyffredin uchaf’, a bydd yn fwy tebygol y bydd busnesau’n wynebu’r risg y bydd cystadleuwyr sydd wedi dibynnu ar y MAPs yn gwerthu cynhyrchion yn rhatach na hwy.

Dywedodd rhai busnesau wrthym fod ganddynt y gallu (ac yn arbennig, eu bod yn gweithredu ar raddfa) i ganiatáu i’w dull gweithredu ar gyfer y DU fod yn wahanol i hynny ar gyfer Ewrop.[footnote 108] Pwysleisiwyd ganddynt, yn nhermau ryseitiau a fformiwleiddiadau, na fyddai’n ymarferol, oherwydd costau gweithredu gwahanol safonau ledled marchnad y DU, yn enwedig ar ben y gwahaniaethau rhwng yr UE/DU.

Maint y farchnad a ffactorau eraill

Gan ystyried y gwahaniaeth o ran maint rhwng y farchnad yn Lloegr a gwledydd eraill y DU, yn nhermau faint o gynhyrchion sydd ar gael a nifer y siopau, roedd busnesau’n mynegi pryderon ynghylch rhedeg sawl fersiwn o gynnyrch ar gyfer gwahanol wledydd. Gallai sefyllfa rhai cynhyrchion y cynhyrchir niferoedd isel o ohonynt fod yn fregus oherwydd arbedion maint, ac nid ydynt yn cyrraedd yr isafswm o ran niferoedd ar gyfer archebion a osodir gan rai manwerthwyr. O ganlyniad i hyn, gallai cyflenwi rhai cynhyrchion i wledydd llai fod yn anhyfyw yn ariannol oherwydd costau gweithgynhyrchu. Byddai hyn yn lleihau amrywiaeth y cynhyrchion sydd ar gael mewn marchnadoedd llai, sy’n ddarostyngedig i gyfyngiadau llymach (neu nad ydynt ond yn wahanol efallai).

Holwyd manwerthwyr yn fwy penodol ynghylch y modd y maent yn bwriadu ymateb i gynllun Llywodraeth Cymru i gyfyngu ar gynigion ar gyfer prydau bargen (‘meal deals’), hyrwyddo prisiau dros dro, ac unedau arddangos a leolir ar eu pennau eu hunain mewn siopau. Tra bod y mwyafrif o fanwerthwyr yn mynegi pryder ynghylch y gwahaniaeth hwn, roeddynt yn pwysleisio ei bod yn rhy fuan i benderfynu sut i ymateb. Fodd bynnag, nododd y manwerthwyr y byddent yn parhau i gynnig cynhyrchion dewisedig ar gyfer prydau bargen yn Lloegr. Nid oedd yn bosibl iddynt ddweud ar hyn o bryd p’un a fyddent yn ailfformiwleiddio neu’n cyfnewid y cynhyrchion a gynigir mewn prydau bargen yng Nghymru. Eglurwyd ganddynt hefyd nad oedd ganddynt unrhyw gynlluniau i ailfformiwleiddio cynhyrchion y byddent yn cael eu heffeithio gan y gwaharddiad yng Nghymru ar hyrwyddo prisiau dros dro a’r cynhyrchion a arddangosir mewn mannau amlwg ar unedau arddangos a leolir ar eu pennau eu hunain. Yn ogystal â hyn, nododd y busnesau eu bod yn disgwyl i weld beth fyddai’r cyfyngiad ar fwydydd sy’n uchel mewn braster, halen a siwgr yn yr Alban a Gogledd Iwerddon cyn ystyried eu hymateb posibl hwy.

Mae gwahaniaethau rheoliadol hefyd yn codi’r posibilrwydd o wahaniaethau o ran labelu a deunydd pecynnu, yn enwedig o ran cynhyrchion yng Nghymru a’r Alban sy’n hyrwyddo prisiau dros dro ar eu pecynnau. Roedd y mwyafrif o’r busnesau y siaradasom â hwy eisoes wedi newid o arddangos prisiau neu eiconau ar eu deunydd pecynnu, gan ddewis labelu o fewn y siopau i amlygu cynhyrchion sy’n cael eu hyrwyddo. Roedd rhai busnesau’n pwysleisio hefyd eu pryderon ynghylch costau ychwanegol a’r dryswch o ran p’un a oedd angen mwy nag un fersiwn o ddeunydd pecynnu ar gyfer yr un cynnyrch, yn ychwanegol i’r gofynion eraill, fel y labeli ‘not for EU’[footnote 109] ar gyfer cynhyrchion Prydeinig a werthir ar hyd a lled y DU. Byddai’r pwysau hwn o ran costau yn amlygu rhywfaint o’r pwysau o ran costau a drafodwyd yn flaenorol yng nghyswllt eitemau nad oes niferoedd mawr ohonynt yn cael eu cynhyrchu, a byddai hyn yn debygol o arwain at leihau’r amrywiaeth o gynhyrchion a gynigir. Roedd hyn yn amlygu’r berthynas rhwng graddfa bosibl effaith gwahaniaethau rheoliadol ar fusnesau, a ph’un a ellir mynd i’r afael â hyn yn y mannau gwerthu yn hytrach nag o fewn cadwyni cyflenwi busnesau.

Casgliadau

Mae’r astudiaeth achos yng nghyswllt bwydydd sy’n uchel mewn braster, halen a siwgr wedi bod yn ddefnyddiol o ran ei bod wedi creu darlun cliriach mewn sawl modd. Yn gyntaf, roedd yn bwysig nodi nad oedd y prif ymateb o blith nifer o’r busnesau y siaradasom â hwy wedi’i ysgogi gan y rheoliadau newydd yng nghyswllt bwydydd sy’n uchel mewn braster, halen a siwgr. Yn hytrach na hynny, nodwyd bod ailfformiwleiddio cynhyrchion yn weithgaredd hirsefydlog o fewn y diwydiant y gellid ei addasu yn ôl gofynion y rheoliadau newyd ar gyfer rhai cynhyrchion. Gan fod ailfformiwleiddio’n gostus ac yn cymryd llawer o amser (ac yn arwain at rai risgiau o ran y gall rhai gwsmeriaid wrthod y cynnyrch sydd wedi’i ailfformiwleiddio), down i’r casgliad, mewn sawl achos, efallai nad yw ailfformiwleiddio cynhyrchion yn ymateb cyffredin i wahaniaethau rheoliadol. O ran yr un dymuniad i leihau cymhlethdod o fewn y gadwyn cyflenwi a’r costau sydd ynghlwm wrth hynny, sy’n nodwedd o’n hastudiaethau achos yng nghyswllt eitemau plastig untro a chynlluniau dychwelyd ernes, soniwyd am hyn yn aml gan fusnesau yng nghyswllt y rheoliadau ar gyfer bwydydd sy’n uchel mewn braster, halen a siwgr.

Roedd yr ymateb i’r cyfyngiadau ar fwydydd sy’n uchel mewn braster, halen a siwgr, ynghyd â’r gwahaniaethau rheoliadol posibl, yn amrywio ymhlith y busnesau y siaradasom â hwy, er bod ganddynt farn gyffredin y byddai’n well osgoi cynhyrchu gwahanol gynhyrchion ar gyfer gwahanol wledydd, os yn bosibl.

Roedd rhai busnesau’n disgwyl derbyn effaith y cyfyngiadau ar hyrwyddo ar gyfer rhai o’u chynhyrchion heb wneud newidiadau. Rydym o’r farn bod hon yn strategaeth haws i’w mabwysiadu os oes rhywfaint o ddiogelwch rhag cystadleuedaeth gan fusnesau nad ydynt yn gorfod cydymffyrfio â’r rheoliadau.

Cyfeiriodd rhai busnesau at leihau amrywiaeth eu cynhyrchion (yn enwedig dileu cynhyrchion nad ydynt yn cynhyrchu llawer ohonynt) fel ymateb posibl. Tra bo hon yn strategaeth gredadwy, nid oedd yr un o’r busnesau y siaradasom â hwy wedi gwneud unrhyw gynlluniau pendant o ran hyn, ac roedd yn amlwg y byddai’r graddau y byddai’r amrywiaeth o gynhyrchion yn cael ei lleihau yn sensitif i’r costau penodol y byddid yn eu hysgwyddo. O ran y rheoliadau ar gyfer bwydydd sy’n uchel mewn braster, halen a siwgr, byddai’r costau hynny’n fwy tebygol o fod yn gysylltiedig â gofynion o ran pecynnu, a gellid lliniaru llawer o’r rhain trwy newid o roi negeseuon i hyrwyddo cynigion ar ddeunydd pecynnu yn y ffatri, i’w harddangos o fewn siopau. Roedd hyn yn amlygu y bydd effaith gwahaniaethau rheoliadol ar fusnesau yn cael ei dylanwadu hefyd gan b’un a oes modd mynd i’r afael â hynny yn y man gwerthu, neu ph’un a fydd yn effeithio ar gadwyni cyflenwi busnesau.

Roedd rhai busnesau’n dal i benderfynu beth yn union y byddent yn ei wneud unwaith y bydd yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cyhoeddi eu cyfyngiadau ar fwydydd sy’n uchel mewn braster, halen a siwgr. Fodd bynnag, dywedodd y busnesau, er ei bod yn amlwg bod angen cyfnodau hir o amser i wneud newidiadau (mae ailfformiwleiddio cynnyrch yn enghraifft dda), gellir rhoi newidiadau eraill ar waith heb fod angen cymaint o rybudd. Mae’n dilyn ymlaen o hyn, o leiaf yn y tymor byr, efallai bod amrywiaeth yr opsiynau sydd ar gael i fusnes o ran ymateb i wahaniaethau rheoliadol yn dibynnu ar faint o amser sydd ganddynt i baratoi eu hymateb.

Bridio manwl

Cyflwyniad

Mae’r astudiaeth achos hon yn archwilio’r ffactorau sy’n dylanwadu ar sut y bydd busnesau’n cynllunio i reoli gwahaniaethau o ran rheoliadau sy’n codi o ran y modd y dylid trin cynhyrchion sy’n cael eu datblygu trwy dechnoleg bridio manwl (PB). Rydym wedi canolbwyntio ar fusnesau o fewn y gadwyn gyflenwi grawn, fel gwenith a haidd, gan y tyfir y cnydau hyn ar raddfa lawer mwy yn y DU.[footnote 110] Yn ogystal â hyn, yn gyffredinol, mae gan gnydau grawn gadwyni cyflenwi mwy cymhleth na chnydau garddwriaethol arferol fel ffrwythau a llysiau.

Organebau sydd wedi’u bridio’n fanwl (PBOs) yw planhigion neu anifeiliaid a gynhyrchir gan ddefnyddio technegau golygu genynnau sy’n addasu genom organeb ar gyfer nodweddion dewisedig. Mae bridio manwl yn cynhyrchu canlyniadau y gellid fod wedi digwydd yn naturiol, neu y cawsant eu cyflawni trwy ddulliau bridio traddodiadol, ond yn gyflymach. Felly mae organebau sydd wedi’u bridio’n fanwl yn wahanol i blanhigion neu anifeiliaid lle mae dilyniannau genynnau o rywogaethau eraill wedi’u hymgorffori o fewn genom yr organeb (GMOs). Gellir adnabod organebau sydd wedi’u haddasu’n enetig trwy brofi am bresenoldeb genynnau o rywogaethau eraill, ond mae’r diffyg genynnau estron mewn organebau sydd wedi’u bridio’n fanwl yn atal y profi hwn, felly maent yn anoddach i’w hadnabod.

Ar hyn o bryd, mae organebau sydd wedi’u bridio’n fanwl yn ddarostyngedig i’r un gyfundrefn reoliadol ag organebau sydd wedi’u haddasu’n enetig o dan ddeddfwriaeth sy’n seiliedig ar ddeddfwriaeth yr UE, ac sy’n berthnasol ledled y DU. Fodd bynnag, pasiwyd Deddf Technoleg Enetig (Bridio Manwl) 2023, (y Ddeddf Bridio Manwl) ym mis Mawrth 2023, gyda’r bwriad o ddileu organebau sydd wedi’u bridio’n fanwl, ynghyd â’r bwyd a’r porthiant a gynhyrchir ohonynt, o gwmpas y ddeddfwriaeth bresennol sy’n rheoleiddio organebau sydd wedi’u haddasu’n enetig. Unwaith y bydd darpariaethau’r Ddeddf Bridio Manwl wedi’u gweithredu, bydd organebau sydd wedi’u bridio’n fanwl yn ddarostyngedig i fframwaith rheoliadol amgen sy’n cynnwys, ymhlith pethau eraill, sefydlu cofrestrau o amryw gategorïau o wybodaeth a fynnir ynghyd â hysbysiadau sy’n berthnasol i organebau sydd wedi’u bridio’n fanwl a’r bwyd a’r porthiant a gynhyrchir ohonynt, ynghyd â chynnal y cofrestrau hynny.

Ceir disgrifiad manwl o’r mesurau perthnasol ym mhob gwlad ym mharagraffau 3.21-3.24. Yn ein barn ni, ymddengys bod gwahaniaeth o ran y modd y caiff cynhyrchion sy’n deillio o dechnegau bridio manwl eu trin o dan ddeddfwriaeth berthnasol, yn ddibynnol ar ym mhle y bwriedir eu gwerthu. Mewn egwyddor, byddai’r MAPs yn caniatáu i gynhyrchion sy’n deillio o dechnegau bridio manwl, a dyfwyd naill ai yn Lloegr, neu sydd wedi’u mewnforio i Loegr o’r tu allan i’r DU, gael eu gwerthu i mewn i Gymru a’r Alban, i fusnesau a chwsmeriaid. Fodd bynnag, ymddengys mai un o effeithiau Cynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon yw na ellir ond gwerthu cynhyrchion manwerthu i gwsmeriaid yng Ngogledd Iwerddon sy’n cynnwys cynhyrchion sy’n deillio o dechnegau bridio manwl o’r fath. Beth bynnag, unwaith y byddai cynhyrchion perthnasol yn cyrraedd gwlad arall yn y DU, byddent yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth y wlad arall honno yng nghyswllt organebau sydd wedi’u haddasu’n enetig. Yn ein barn ni, mae’n bosibl y gallai hyn arwaith at iddynt gael eu hystyried yn organebau sydd wedi’u haddasu’n enetig sydd heb eu cofrestru, gyda’r canlyniad na fyddai unrhyw brosesu pellach yn cael ei ganiatáu, a byddai unrhyw gynhyrchion a gaiff eu ffurfio trwy ddulliau prosesu anghyfreithlon o’r fath yn debygol o gael eu gwahardd hefyd.[footnote 111]

Cyfwelwyd rhanddeiliaid gennym o bob rhan o’r gadwyn gyflenwi grawn, gan siarad â chymdeithasau masnach a chanddynt gysylltiadau â datblygwyr planhigion a chynhyrchwyr planhigion, ynghyd ag undebau ffermwyr, masnachwyr grawn, melinwyr, bragwyr y diwydiant wisgi, gwneuthurwyr ac adwerthwyr bwyd.[footnote 112] Siaradasom hefyd â thimau polisi o fewn pedair llywodraeth y DU, ynghyd â rhai rheoleiddwyr anllywodraethol a chanddynt gyfrifoldeb am faterion yng nghyswllt bwyd a diod.

Ffactorau sy’n effeithio cynlluniau busnesau o fewn y gadwyn gyflenwi grawn ar gyfer gwahaniaethau rheoliadol yng nghyswllt technegau bridio manwl

O ran busnesau ar hyd a lled y sector grawn, o ffermwyr i fanwerthwyr, dywedasant wrthym y byddent yn ystyried amrywiaeth o ffactorau wrth benderfynu sut y byddent efallai’n ymateb i’r gwahaniaethau a ddisgwylir mewn deddfwriaeth yng nghyswllt bridio manwl. Dywedasant wrthym hefyd y byddai ganddynt benderfyniad sylfaenol i’w wneud yn gyntaf, o ran p’un a fyddent yn dewis defnyddio organebau sydd wedi’u bridio’n fanwl. Beth bynnag fyddai’r penderfyniad hwnnw, gellid eu heffeithio o hyd gan benderfyniadau busnesau eraill i ddefnyddio organebau sydd wedi’i bridio’n fanwl, oherwydd yr angen i brofi statws eu hallbynnau a’u cynhyrchion eu hunain yng nghyswllt bridio manwl o fewn tirwedd fasnachol ym mhle defnyddiwyd y ddau.

Ffactorau sy’n dylanwadu ar b’un a ddylid defnyddio organebau sydd wedi’u bridio’n fanwl 

Mae sawl ffactor yn ymwneud â ph’un a ddylai busnesau ddewis tyfu neu ddefnyddio cynhyrchion sy’n deillio o dechnegau bridio manwl. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • barnau cwsmeriaid ynghylch cynhyrchion sy’n deillio o dechnegau bridio manwl, ynghyd â’u dealltwriaeth ohonynt

  • y dystiolaeth sydd ar gael ynghylch manteision a risgiau bridio manwl

  • yr effeithiau posibl ar y gallu i werthu cynhyrchion i farchnadoedd penodol

Barnau cwsmeriaid ynghylch bridio manwl, ynghyd â’u dealltwriaeth o hyn

Er mwyn cynllunio ar gyfer gwahaniaethau o ran deddfwriaeth yng nghyswllt bridio manwl, mae angen i fusnesau a effeithir benderfynu yn y lle cyntaf p’un a ydynt yn dymuno cynhyrchu cynhyrchion sy’n deillio o dechnegau bridio manwl neu eu defnyddio. Y ffactor mwyaf sylfaenol a fyddai’n effeithio’r penderfyniad hwn fyddai p’un a oeddent yn ystyried y byddai cwsmeriaid yn debygol o brynu cynhyrchion sy’n deillio o dechnegau bridio manwl. Dywedodd rhanddeiliaid o bob rhan o’r gadwyn gyflenwi grawn eu bod angen hyder yn eu gallu i werthu cynhyrchion sy’n deillio o dechnegau bridio manwl cyn dewis eu defnyddio, ond teimlent yn gryf nad oedd cwsmeriaid yn y DU yn deall beth yw bridio manwl ar hyn o bryd, nac yn ei gymeradwyo.

Cadarnhawyd pwysigrwydd sicrhau bod cwsmeriaid yn deall beth yw bridio manwl gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Amlygwyd ymchwil a ymgymerwyd ganddynt  ynghylch canfyddiadau cwsmeriaid o fridio manwl, a ganfu bod lefel wybodaeth cwsmeriaid am gynhyrchion sy’n deillio o dechnegau bridio manwl yn isel iawn, a bod gan gwsmeriaid bryderon ynghylch yr hyn a allai fod, ynghyd â pha risgiau a allai fod yn gysylltiedig â’r dechnoleg hon.[footnote 113] Teimlai’r rhanddeiliaid y siaradasom â hwy mai rôl i’r llywodraeth oedd darparu addysg i gwsmeriaid ar dechnegau bridio manwl, ond canfu astudiaeth yr Asiantaeth Safonau Bwyd bod gan gwsmeriaid fwy o ffydd mewn gwyddonwyr, ffermwyr a rheoleiddiwyr fel yr Asiantaeth Safonau Bwyd i ddarparu cyngor ynghylch bwyd.

Roedd rhanddeiliaid yn cydnabod y byddai barnau cwsmeriaid ynghylch bridio manwl yn debygol o newid dros amser, wrth iddynt ddatblygu dealltwriaeth o’r dechnoleg. Roedd yr ansicrwydd o ran yr hyn y byddai cwsmeriaid efallai ei eisiau yn y dyfodol yn golygu bod nifer o randdeiliaid o’r farn ei bod yn well ‘cadw golwg a disgwyl’ i weld beth wnaiff ddigwydd o ran yr hyn y maent yn ei gynhyrchu eu hunain, ynghyd â’u defnydd o gynhyrchion sy’n deillio o dechnegau bridio manwl.

Y dystiolaeth sydd ar gael ynghylch manteision a risgiau technegau bridio manwl

Dywedodd busnesau sy’n gweithredu ar hyd a lled y gadwyn gyflenwi grawn y byddent hefyd angen rhagor o wybodaeth fanwl ynghylch y manteision a welir o ran technegau bridio manwl, cyn eu defnyddio. Yn gyffredinol, roeddynt yn gadarnhaol iawn ynghylch posibiliadau yng nghyswllt technegau bridio manwl. Roeddynt yn ystyried ei bod yn debygol y byddai ganddynt y potensial i gynhyrchu planhigion sy’n gallu gwrthsefyll effeithiau plâu a chlefydau yn well, byddai modd defnyddio llai o agrogemegion, a gellid defnyddio tir yn effeithlon, gan gynyddu’r hyn a gynhyrchir, a’i allu i wrthsefyll effeithiau sychder ac amodau eraill o ran y tywydd. Er y cydnabuwyd ei bod yn debygol y byddai planhigion sy’n deillio o dechnegau bridio manwl yn ddrytach i’w prynu yn y lle cyntaf, cafwyd y farn, dros amser, y gallai’r enillion o ran y cynnydd yn yr hyn a gynhyrchir a’r gostyngiad mewn costau eraill, fel y rheiny ar gyfer agrogemegion, arwain at fwyd rhatach. Fodd bynnag, y farn gyffredin a gafwyd oedd y byddai angen cael tystiolaeth y gellir ei mesur yn well cyn y byddai busnesau’n tyfu organebau sydd wedi’u bridio’n fanwl neu’n defnyddio cynhyrchion sy’n deillio o dechnegau bridio manwl.

Y gallu i werthu i farchnadoedd penodol

Roedd rhanddeiliaid wedi ystyried hefyd p’un a fyddai defnyddio cynhyrchion sy’n deillio o dechnegau bridio manwl yn debygol o effeithio’r marchnadoedd y gallent werthu’r cynhyrchion hynny iddynt. Oherwydd y safbwynt presennol yng Nghymru a’r Alban, mae’n debygol na fyddid yn caniatáu prosesu unrhyw gynhyrchion sy’n deillio o dechnegau bridio manwl, gan y byddid yn cael eu hystyried fel organebau sydd wedi’u haddasu’n enetig sydd heb eu cofrestru, ac mae’n debygol hefyd y byddai unrhyw gynhyrchion a ffurfir yn cael eu gwahardd hefyd. Felly, o ran sawl sector yng Nghymru a’r Alban, fel melinwyr blawd, bragwyr, cwmnïau porthiant cyfansawdd, siopau bara a distyllwyr, ni fyddent yn dueddol o brynu cynhyrchion sy’n deillio o dechnegau bridio manwl o ystyried na chaniateir iddynt gael eu defnyddio o fewn eu prosesau. Mewn gwirionedd, ni fyddai’r MAPs ond yn hwyluso gwerthu cynhyrchion sy’n deillio o dechnegau bridio manwl a gaiff eu hallforio o Loegr i wledydd erailI y DU, ar ffurf y gellid eu gwerthu i’r cwsmer terfynol heb eu prosesu ymhellach. Er enghraifft, gellid allforio blawd sy’n deillio o dechnegau bridio manwl o Loegr i Gymru a’r Alban, a’i werthu heb orfod ei brosesu ymhellach i gwsmeriaid ei ddefnyddio i bobi a choginio gartref. Yn yr UE ar hyn o bryd, caiff cynhyrchion sy’n deillio o dechnegau bridio manwl eu hystyried fel cynhyrchion sydd wedi’u haddasu’n enetig (GM) hefyd, ac roedd rhanddeiliaid yn lleisio pryderon ynghylch y posibilrwydd o golli’r farchnad hon ar gyfer unrhyw gynhyrchion a fyddai’n cynnwys organebau sydd wedi’u bridio’n fanwl.

Beth bynnag y bo dewis busnesau o ran cynhyrchu neu ddefnyddio cynhyrchion sy’n deillio o dechnegau bridio manwl ai peidio, roeddynt yn cydnabod y gallai gwahaniaethau rheoliadol gael effeithiau ar eu gallu i werthu i rai marchnadoedd. O ran busnesau yn Lloegr a fyddai efallai’n penderfynu tyfu neu ddefnyddio cnydau nad ydynt yn deillio o dechnegau bridio manwl yn unig, roedd ganddynt bryderon y gallai prynwyr yng Nghymru a’r Alban fod yn amharod o hyd i brynu ganddynt oherwydd risg cydnabyddedig bod cynnwys sy’n deillio o dechnegau bridio manwl yn dal i fod yn bresennol.

Mynegodd rhanddeiliad o Ogledd Iwerddon bryderon y gallai parhau i brynu grawn o unrhyw le o fewn Prydain Fawr beryglu eu sefyllfa o fewn yr UE, ynghyd â’u gallu i brofi eu bod wedi bod yn cadw at ddeddfwriaeth yr UE yng nghyswllt cynhyrchion sydd wedi’u haddasu’n enetig (GM). Awgrymwyd ganddynt y gallai’r UE fod â phryderon y gallai’r diffyg ffiniau o fewn Prydain Fawr arwain at ledaenu cynhyrchion sy’n deillio o dechnegau bridio manwl i Gymru a’r Alban o Loegr, ac wedyn ymlaen i Ogledd Iwerddon.

Lleisiwyd pryderon tebyg gan randdeiliaid yn y diwydiant wisgi, a oedd yn ystyried y posibilrwydd o anawsterau o ran allforio wisgi ledled y byd oherwydd pryderon y gellid fod wedi’i wneud o gynhwysion sy’n deillio o dechnegau bridio manwl.

Ffactorau sy’n dylanwadu ar sut i fynd i’r afael â gwahaniaethau rheoliadol

Mae ffactorau sy’n cyfrannu at gynllunio ar gyfer gwahaniaethau rheoliadol naill ai’n ymwneud â newidiadau y byddai disgwyl i’r holl fusnesau yn y sector grawn eu gwneud, beth bynnag yw eu penderfyniad eu hunain o ran tyfu organebau sydd wedi’u bridio’n fanwl neu ddefnyddio cynhyrchion sy’n deillio o dechnegau bridio manwl, neu’n ymwneud â ffactorau eraill y gallent gael effaith ar y gallu i gynllunio’n ofalus ar gyfer gwahaniaethau rheoliadol, neu amseriad hynny. Mae’r ffactorau hyn yn cynnwys:

  • effaith costau ychwanegol ar gyfer pob busnes yn y sector grawn yn sgil gwahanol ddeddfwriaeth mewn gwahanol wledydd

  • cyfleoedd posibl yn sgil y gwahanol reoliadau i fusnesau fanteisio arnynt

  • risgiau i’r busnes o ganlyniad i’r gwahaniaethau

  • graddau’r sicrwydd ynghylch manylion y gwahaniaethau, ynghyd â’r amserlen ar gyfer gweithredu’r ddeddfwriaeth

Effeithiau eraill ar fusnesau o ganlyniad i ddeddfwriaeth wahanol mewn perthynas â thechnegau bridio manwl

Roedd gan fusnesau bryderon y byddai’r gwahaniaethau rhwng gwledydd y DU mewn perthynas â thechnegau bridio manwl yn gorfodi costau a beichiau ychwanegol arnynt. Yr effaith fwyaf a nodwyd gan randdeiliaid oedd y posibilrwydd o fod angen gwahanu cnydau a gynhyrchwyd gan ddefnyddio technegau bridio manwl a chnydau nad ydynt yn deillio o dechnegau bridio manwl. Gellid ystyried bod hyn yn angenrheidiol i sicrhau bod busnesau bwyd a phrosesu porthiant yng Nghymru a’r Alban yn osgoi prosesu cynhyrchion sy’n deillio o dechnegau bridio manwl yn ddamweiniol. Roedd y mwyafrif o’r rhanddeiliaid yn mynegi’r farn na fyddai gwahanu grawn ar raddfa fawr, hynny yw, grawn sy’n deillio o dechnegau bridio manwl a grawn nad yw’n deillio o dechnegau bridio manwl, yn hyfyw yn y DU oherwydd y cymhlethdodau cysylltiedig, diffyg seilwaith digonol ar gyfer storio, yn ogystal â’r costau mawr y byddid yn eu hysgwyddo o ganlyniad i orfod gwneud hyn.

Ar hyn o bryd, yn aml, bydd grawn o un fferm yn cael ei gymysgu â grawn o un arall. Er mwyn i’r gwahanu hwn weithio, byddai angen gwahanu grawn trwy’r gadwyn gyflenwi gyfan. Byddai angen i ffermwyr ddefnyddio combeiniau ar wahân ar gyfer cnydau sy’n deillio o dechnegau bridio manwl a rhai nad ydynt yn deillio o ddefnyddio’r technegau hyn. Byddai angen dyblygu bob cynhwysydd a ddefnyddir ar gyfer storio, cludo a phrosesu’r grawn, neu ei lanhau wrth newid drosodd o rawn sy’n deillio o dechnegau bridio manwl i rai nad ydynt yn deillio o’r technegau hyn. Byddai hyn yn golygu bod angen gwahanu seilos, lorïau, peiriannau melino, llinellau cynhyrchu bwyd a phwyntiau storio mewn depos dosbarthu.

Dywedodd rhai rhanddeiliaid wrthym na fyddai’n bosibl gwarantu bod modd gwahanu grawn yn gyfan gwbl, byddai angen rhywfaint o hyblygrwydd o ran presenoldeb cnydau sy’n deillio o dechnegau bridio manwl. Byddid yn amharu’n sylweddol ar ddiwydrwydd dyladwy yng nghyswllt presenoldeb cnydau sy’n deillio o dechnegau bridio manwl o ganlyniad i ddiffyg prawf sy’n canfod cnydau sy’n deillio o dechnegau bridio manwl. Er y gallai labelu gynorthwyo i olrhain cnydau sydd wedi’u gwahanu, nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol yn y Ddeddf Bridio Manwl i wahanu cynhyrchion sydd wedi’u gwahanu, neu eu labelu ar y sail eu bod yn deillio o dechnegau bridio manwl. Roedd nifer o randdeiliaid o’r farn nad oedd modd goresgyn yr anawsterau yn sgil gwahanu, ac mai’r unig opsiynau hyfyw oedd naill ai cynnwys pob busnes o fewn y rheoliadau, a fyddai’n golygu y byddai grawn sy’n deillio o dechnegau bridio manwl yn cael ei ddefnyddio ledled y DU, neu ddim yn cael ei ddefnyddio o gwbl gan fusnesau sy’n defnyddio blawdiau arferol, nad ydynt yn rhai arbenigol.

Mewn cyferbyniad, dywedodd rhai rhanddeiliaid wrthym fod gwahanu’n digwydd eisoes yn achos y cyfeintiau cymharol fach o flawdiau organig a rhai arbenigol eraill, felly roedd gwahanu yn bosibl eisoes, er ar raddfa fechan.

Yn ogystal â hyn, dywedodd un gwneuthurwr bwyd mawr sy’n gwneud cynhyrchion o rawn wrthym fod ganddynt eisoes lefel dda o reolaeth dros eu cadwyn gyflenwi, gan ddechrau gyda pha amrywiadau o rawn a dyfwyd gan ffermwyr yn benodol ar eu cyfer hwy, ynghyd â dulliau gwahanu sydd eisoes ar waith ar hyd y gadwyn gyflenwi am resymau ansawdd. Roeddynt yn teimlo y byddent mewn sefyllfa dda i allu eithrio cynhyrchion sy’n deillio o dechnegau bridio manwl, pe bai gwahaniaethau’n codi o ran deddfwriaeth yng nghyswllt technegau bridio manwl.

Ar ben hyn, er yr ymddengys bod gwahanu cynhyrchion yn arbennig o heriol o safbwynt grawn, roedd rhai rhanddeiliaid o’r farn, o ran cnydau garddwriaethol fel tatws a thomatos, bod dulliau gwahanu sylweddol ar waith oherwydd ystod eang amrywiadau’r planhigion. O ran y cynhyrchion hyn, rhoddwyd gwybod i ni fod y cadwyni cyflenwi’n fyr ar y cyfan, ac yn enwedig o ran lle’r oedd ffermwyr yn tyfu cynnyrch yn uniongyrchol ar gyfer manwerthwyr, byddai’n broses gymharol syml i ffermwyr dyfu amrywiadau sy’n deillio o dechnegau bridio manwl pe gofynnid iddynt wneud hynny.

Roedd y diffyg prawf diagnostig ar gyfer cnydau sy’n deillio o dechnegau bridio manwl hefyd yn arwain at bryderon efallai y byddai angen haenau ychwanegol o drefniadau olrhain ac ardystio i brofi statws cnydau, o ran p’un a ydynt yn deillio o dechnegau bridio manwl. O ran yr ansicrwydd presennol mewn perthynas â ph’un a fyddai angen labelu (oherwydd nad yw’n orfodol), ar hyd y gadwyn gyflenwi, ac ar gyfer cwsmeriaid, nodwyd fod hyn hefyd yn rhwystr mawr o ran gallu busnesau i gynllunio ymlaen ar gyfer gwahaniaethau rheoliadol yng nghyswllt technegau bridio manwl.

Cydnabuwyd, tra gallai labelu ar hyd y gadwyn gyflenwi leihau rhai o’r gofynion o ran trefniadau olrhain ac ardystio, byddai hefyd yn faich ac yn ddrud ynddo’i hun. Dywedodd rhanddeiliaid wrthym y gallai labelu arafu llinellau cynhyrchu, ac roedd yn debygol o arwain at aneffeithlonrwydd a gwastraff. Ni fyddai’n bosibl mwyach i werthu cynhyrchion ar hyd a lled Prydain Fawr, gan arwain at ormodedd o gynhyrchion mewn un wlad na fyddent o reidrwydd yn addas i’w defnyddio ar gyfer gwledydd eraill a chanddynt ddiffyg.

Dywedodd un manwerthwr wrthym fod sefyllfa debyg eisoes wedi digwydd o ran y cynhyrchion a gyflenwir ganddynt i Ogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon. O dan Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon Fframwaith Windsor, o ran cynhyrchion sydd i fod i gael eu hanfon i Ogledd Iwerddon gan ddefnyddio’r ‘llinell werdd’, rhaid eu labelu ‘Not for EU’. Dywedodd y manwerthwr wrthym fod gwerthiannau rhai cynhyrchion, fel saladau ac eitemau barbeciw, yn amrywio yn ôl y tywydd, ac roedd effeithiau’r labelu ‘Not for EU’ yn golygu nad oedd yn bosibl mwyach i addasu faint o gynhyrchion a oedd yn cael eu dosbarthu rhwng Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon yn ôl newidiadau o ran y tywydd.

Cyfleoedd yn sgil gwahanol reoliadau

Roedd rhanddeiliaid hefyd yn ystyried p’un a fyddai gwahaniaethau o ran rheoliadau yn cyflwyno cyfleoedd ar gyfer eu busnesau, ynghyd â’r modd y gallant fanteisio ar y rhain. Fel y nodwyd uchod, mewn egwyddor, byddai’r MAPs yn caniatáu gwerthu cynhyrchion sy’n deillio o dechnegau bridio manwl yng Nghymru a’r Alban, ac ymddengys y byddai Fframwaith Windsor (sef, yn benodol, Cynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon) yn caniatáu gwerthu cynhyrchion manwerthu i gwsmeriaid sy’n cynnwys cynhyrchion sy’n deillio o dechnegau bridio manwl yng Ngogledd Iwerddon.

Fodd bynnag, o ystyried mai effaith amlwg y ddeddfwriaeth bresennol yng nghyswllt cynhyrchion GM, sy’n berthnasol yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yw mai dim ond cynhyrchion terfynol y gellir eu gwerthu (o ystyried yr ymddengys y gwaherddir unrhyw brosesu pellach o ran cynhyrchion GM nad ydynt wedi’u cofrestru), byddai hyn yn cyfyngu’n sylweddol ar y cyfle i werthu grawn i’r gwledydd hynny. Ni ddywedodd yr un o’r rhanddeiliaid y siaradasom â hwy y byddent yn defnyddio’r MAPs i werthu cynhyrchion sy’n deillio o dechnegau bridio manwl i weddill y DU.

Risgiau yn sgil gwahaniaethau rheoliadol

Roedd busnesau hefyd yn ystyried y risgiau posibl iddynt hwy yn sgil gwahaniaethau rheoliadol, i weld pa gamau lliniaru a allai fod yn bosibl. Dywedodd busnesau ym maes cynhyrchu bwyd a manwerthu wrthym yr ystyriwyd ar hyn o bryd bod defnyddio cynhyrchion sy’n deillio o dechnegau bridio manwl yn eu busnesau’n risg o safbwynt enw da eu brand. Hyd nes y caiff bwydydd sy’n deillio o dechnegau bridio manwl eu derbyn gan gwsmeriaid, nid oedd rhanddeiliaid yn dymuno eu defnyddio. Roedd lefel y risg a welwyd yn amrywio rhywfaint yn ôl y sector. Er enghraifft, ystyriwyd ei fod yn debygol o fod yn llai ar gyfer y diwydiant bragu, o ystyried bod gan gwrw oes silff gymharol fyr, sy’n caniatáu i stocrestrau cynhyrchion a effeithir gan newidiadau o ran polisi gael eu gwerthu i gael gwared arnynt yn gyflymach. Mewn cyferbyniad, gwelwyd bod y risg yn uwch ar gyfer y diwydiant wisgi, o ran y gellir cadw stoc am ddeuddeg mlynedd neu ragor. Byddai angen iddynt fod yn fwy hyderus o ran y safbwynt y byddai cwsmeriaid yn debygol o gymryd ynghylch cynhyrchion sy’n deillio o dechnegau bridio manwl yn y tymor hwy.

Er bod yr holl randdeiliaid yn unfrydol wrth benderfynu na fyddent yn dewis bod y cyntaf yn eu sector i ddefnyddio cynhyrchion sy’n deillio o dechnegau bridio manwl, roedd nifer ohonynt yn dal i ystyried bod argaeledd cynhyrchion sy’n deillio o dechnegau bridio manwl yn Lloegr yn risg posibl o ran eu henw da. Roedd y diffyg o ran prawf i ganfod cynhyrchion sy’n deillio o dechnegau bridio manwl yn arwain at bryderon ynghylch cyflawni diwydrwydd dyladwy ar eu mewnbwn, er mwyn profi’r statws o ran technegau bridio manwl. Roedd rhai gwneuthurwyr bwyd a oedd yn gweithredu yn yr Alban yn teimlo y byddai’n anodd profi bod eu mewnbynnau’n cydymffurfio â chyfraith GM yr Alban. Roedd ganddynt bryderon y gall bod amheuon o ran cyfreithlondeb eu gweithrediadau a fyddai’n arwain at risgiau i’w henw da.

Cafwyd pryder mwy cyffredinol hefyd ymhlith rhanddeiliaid nad oedd unrhyw fodd effeithiol i wrthbrofi unrhyw honiadau o ddefnyddio cynhyrchion sy’n deillio o dechnegau bridio manwl yn eu busnes, hyd yn oed lle’r oedd yn gyfreithiol i wneud hynny, a bod hyn hefyd yn cynrychioli risg i enw da eu brand. Am gyn hired ag y mae galw cyfyngedig ymhlith cwsmeriaid am gynhyrchion sy’n deillio o dechnegau bridio manwl, roedd yn bwysig iawn i’r rhanddeiliaid y siaradasom â hwy i’w safbwynt o ran dewis i beidio â defnyddio cynhyrchion a oedd yn deillio o dechnegau bridio manwl fod yn glir, a bod modd ei brofi i’w prynwyr ac i unrhyw gadwyn bellach.

Sicrwydd o ran y modd y byddai’r gwahaniaethau rheoliadol yn gweithio, ynghyd â’r amserlenni ar gyfer eu gweithredu

O ran bridio manwl, ceir sawl peth sy’n peri ansicrwydd sy’n gwneud y gallu i wneud cynlluniau manwl yn eithriadol o heriol. Fel y nodwyd yn flaenorol, nid yw’r Ddeddf Bridio Manwl ond yn darparu disgrifiad lefel uchel o’r gyfundrefn newydd, ac mae’n cynnwys pwerau i’r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig wneud darpariaethau ar gyfer rheoleiddio organebau sydd wedi’u bridio’n fanwl yn Lloegr yn nes ymlaen, trwy is-ddeddfwriaeth. Mae’r gwaith o ddatblygu’r is-ddeddfwriaeth hon yn parhau, a disgwylir ar hyn o bryd y caiff ei chyflwyno gerbron y llywodraeth yn ystod haf 2024, ac y bydd yn dod i rym tua diwedd 2024.

Dywedodd nifer o randdeiliaid wrthym na ellid ond ymgymryd â gwaith cynllunio manwl ar gyfer gwahaniaethau o ran y gyfundrefn unwaith y bydd rhagor o fanylion ar gael ynghylch y Ddeddf Bridio Manwl. Pwysleisiwyd ganddynt hefyd bwysigrwydd cael eglurder o ran pa mor debyg y gall manylion y Ddeddf Bridio Manwl fod i gynnig cyfatebol yr EU, sydd fwy neu lai’n gyfatebol, o ran deddfwriaeth yng nghyswllt planhigion a geir trwy dechnegau genomig newydd penodol. Soniodd rhanddeiliaid hefyd am ansicrwydd o ran p’un a fyddai cynigion yr UE yn llwyddo i basio fel cyfraith yn yr UE, ynghyd â diffyg sicrwydd o ran amseriad hynny.

Yn ogystal â hyn, roedd busnesau’n pryderu, tra bo Cymru a’r Alban yn cydweddu ar hyn o bryd â safbwynt yr UE ar dechnegau bridio manwl, gan barhau i ddefnyddio deddfwriaeth GM sy’n adlewyrchu deddfwriaeth GM yr UE, gallai hyn newid yn y dyfodol. Efallai na wnaiff Cymru a’r Alban ddewis cydweddu â chynigion newydd yr UE, gallai hyn newid yn y dyfodol. Efallai na fydd Cymru a’r Alban yn penderfynu cydweddu â chynigion newydd yr UE, pe baent yn cael eu pasio, neu efallai y byddent yn dewis cydweddu â’r Ddeddf Bridio Manwl.

Dywedodd bob busnes y siaradasom â hwy na fyddent yn cynhyrchu neu’n defnyddio cynhyrchion sy’n deillio o dechnegau bridio manwl hyd nes yr oedd manylion y rheoliadau a’u heffaith debygol ar y gadwyn gyflenwi’n glir. Lleisiwyd barnau tebyg ynghylch peidio â defnyddio organebau sydd wedi’u haddasu’n enetig gan nifer o fusnesau pan oedd organebau sydd wedi’u haddasu’n enetig ar gael i ddechrau, ac ystyriwyd gennym p’un a allai mabwysiadu organebau sydd wedi’u bridio’n fanwl ddilyn llwybr tebyg i fabwysiadu organebau sydd wedi’u haddasu’n enetig. Tra bo organebau sydd wedi’u haddasu’n enetig yn gyffredin bellach mewn porthiant anifeiliaid, lle nad oes rhaid eu labelu, dywedodd rhai manwerthwyr wrthym eu bod yn dal i eithrio organebau sydd wedi’u haddasu’n enetig o fewn eu cynhyrchion bwyd os oes angen labelu organebau sydd wedi’u haddasu’n enetig.

Mae’r gofynion o ran labelu organebau sydd wedi’u bridio’n fanwl yn dal i fod yn aneglur, ond hyd yn oed heb labelu, gall manwerthwyr ystyried efallai y bydd cwsmeriaid yn dal barnau cryfach am gynnwys organebau sydd wedi’u bridio’n fanwl mewn bwyd yn hytrach na mewn porthiant, a bod eu defnyddio mewn bwyd yn peri risgiau uwch o ran enw da busnesau. Gallai hyn arwain at fanwerthwyr yn gwneud penderfyniad tebyg i hynny yng nghyswllt eu defnydd o organebau sydd wedi’u haddasu’n enetig, sef eu heithrio o’u bwyd. Gwahaniaeth pwysig rhwng y defnydd o organebau sydd wedi’u haddasu’n enetig a’r defnydd posibl o organebau sydd wedi’u bridio’n fanwl yw, er ei fod yn gyfreithiol i organebau sydd wedi’u haddasu’n enetig gael eu prosesu i’w rhoi mewn bwyd a phorthiant ledled y DU, nid ymddengys bod hyn yn berthnasol i organebau sydd wedi’u bridio’n fanwl yng Nghymru a’r Alban. Mae unrhyw anghyfreithlondeb o safbwynt prosesu organebau sydd wedi’u bridio’n fanwl yn cyflwyno heriau mor fawr, o ran gwahanu cynhyrchion, y gallai wahardd defnydd sylweddol o rawn a gynhyrchwyd trwy dechnegau bridio manwl, hyd yn oed mewn porthiant.

Casgliadau

Wrth ddod i gasgliadau, nodwn mai un gwahaniaeth arwyddocaol, rhwng yr astudiaeth achos hon a’r rhai eraill a ystyriwyd gennym, yw bod y Ddeddf Bridio Manwl yn cyflwyno cyfle i fusnesau, yn hytrach na gwaharddiad ar berfformio camau penodol, neu rwymedigaethau i wneud hynny. Yn ogystal â hyn, roedd y gwahaniaethau a drafodwyd yn yr astudiaeth hon yn bellach i ffwrdd ac yn llai pendant nag o ran yr astudiaethau achos eraill a ymgymerwyd gennym. Rhaid gweld ein casgliadau yn y golau hwn hefyd; wrth i’r sefyllfa ddod yn gliriach, gallai ffeithiau newydd ymddangos.

Ar gyfer yr astudiaeth hon, siaradasom â busnesau ar hyd y gadwyn gyflenwi grawn, gan fod hon yn farchnad fawr a chymhleth. Efallai nad yw’r sefyllfa o ran grawn yn adlewyrchu marchnadoedd amaethyddol / bwyd eraill a chanddynt gadwyni cyflenwi symlach a chnydau sy’n haws i’w gwahanu, fel llysiau salad. Rydym yn meddwl ei bod yn werth nodi’r pwynt hwn gan ei fod yn awgrymu y gall effaith gwahaniaethau rheoliadol fod yn sensitif iawn i wirioneddau ymarferol y gadwyn gyflenwi a gaiff ei rheoleiddio.

Roedd busnesau cyflenwi grawn yn nodi bod angen eglurder arnynt yng nghyswllt materion yn ymwneud â bridio manwl cyn ystyried defnyddio cynhyrchion sy’n deillio o dechnegau bridio manwl, neu gynllunio ar gyfer gwahaniaethau rheoliadol. Roedd diffyg ymwybyddiaeth ymhlith cwsmeriaid o dechnegau bridio manwl, yr oedd ychydig iawn o’u plaid, wedi arwain rhanddeiliaid i nodi bod angen codi ymwybyddiaeth cwsmeriaid yn ei gylch, ac y byddid yn osgoi cynhyrchion sy’n deillio o dechnolegau bridio manwl hyd nes y bydd cwsmeriaid yn eu derbyn yn gyffredinol. Yn yr un modd, dywedodd rhanddeiliaid wrthym hefyd na fyddent yn defnyddio MAPs i werthu cynhyrchion sy’n deillio o dechnegau bridio manwl i Gymru a’r Alban, gan y byddai gwneud hynny’n cael ei ystyried fel risg i’w henw da. Rydym yn ystyried bod hyn yn amrywiad o thema sy’n ymddangos yn ein hastudiaethau achos eraill; mae’r ymateb i’r gwahaniaethau rheoliadol wedi’i ddylanwadu’n gryf gan yr hyn a ffefrir gan gwsmeriaid, ynghyd â’r galw o du cwsmeriaid, hyd yn oed i’r graddau y bydd busnes yn dewis hepgor y cyfle i werthu cynnyrch y mae’n gyfreithlon i’w werthu.

O ran cynllunio ar gyfer y gwahaniaethau rheoliadol a gaiff eu creu gan y Ddeddf Bridio Manwl, nid yw wedi dechrau eto yn y sector grawn oherwydd yr amryw bethau sy’n creu ansicrwydd. Er bod bob un o’r busnesau y siaradasom â hwy yn cydnabod buddion posibl yn sgil technegau bridio manwl, roedd pob un ohonynt yn siarad am ‘gadw golwg a disgwyl’ am y tro. Ar sail y dystiolaeth a gasglwyd gennym, ein barn ni yw mai’r canlyniad mwyaf tebygol yw mai ychydig iawn a fydd yn mabwysiadu grawn sydd wedi’i gynhyrchu gan ddefnyddio technegau bridio manwl, hyd nes y ceir newid sylweddol o ran dealltwriaeth cwsmeriaid a’r galw yn eu plith, ynghyd â bod gwahaniaethau rheoliadol yng nghyswllt bridio manwl yn lleihau.

Casgliadau cyffredinol yng nghyswllt yr astudiaethau achos

Mae’r astudiaethau achos yn amlygu rhai tueddiadau o ran ymatebion busnesau i wahaniaethau rheoliadol. Er y gellir dysgu o’r tueddiadau hyn, rydym yn cydnabod bod yr astudiaethau achos wedi cael y rhan fwyaf o’u tystiolaeth gan fusnesau mawr, ac nad ydynt ond wedi ystyried pedwar sector. Gall busnesau llai, neu fusnesau sy’n gweithredu mewn gwahanol sectorau, ymateb yn wahanol.

Un o’r canfyddiadau mwyaf nodedig o’n hastudiaethau achos o eitemau plastig untro a chynlluniau dychwelyd ernes yw’r canfyddiad o’r MAPs ymhlith busnesau mwy a chanddynt frandiau cryf ac ôl troed sylweddol o weithrediadau mewn gwledydd datganoledig. Cafwyd barn glir gan y rheiny y siaradasom â hwy bod y MAPs yn annhebygol o gael eu defnyddio i fynd i’r afael â gwahaniaethau rheoliadol o fewn eu busnesau. Mae’n amlwg, os mai barn gyffredinol yw hon, bydd ganddi oblygiadau sylweddol ar gyfer cyfundrefn y farchnad fewnol ond, ar sail yr ymchwil yr ymgymerwyd gennym hyd yma, mae’n anodd dweud yn hyderus pa mor eang y mae’r effaith hon efallai. Byddai angen gwneud rhagor o ymchwil, ond ymddengys yn debygol fod tair elfen gydberthynol am sbarduno’r graddau y caiff y dull gweithredu hwn ei fabwysiadu: pwysigrwydd gwerthoedd brand yn y sector a effeithir; dealltwriaeth cwsmeriaid o’r mater a’u tueddiad i feirniadu busnesau nad ydynt yn mabwysiadu’r safonau lleol; ynghyd â’r tebygolrwydd y bydd busnesau sy’n defnyddio’r MAPs yn codi prisiau is na busnesau sy’n mabwysiadu polisïau sy’n cydymffurfio â gofynion lleol. Gall y ffactorau hyn amrywio rhwng enghreifftiau penodol, a bydd yn debygol y bydd angen eu hystyried fesul achos.

Ail ganfyddiad sy’n bwysig i’w nodi yw bod busnesau wirioneddol yn dymuno cyflawni cadwyn gyflenwi symlach, sy’n cynnwys cynhyrchion penodol syn cydymffurfio â rheoliadau ledled y DU. Lle bu’n dechnegol bosib i wneud hynny, roedd y mwyafrif o’r busnesau y siaradasom â hwy yn gweithio tuag at atebion a oedd yn cyflawni’r dull gweithredu hwn - fel arfer trwy fabwysiadu dull sy’n sicrhau’r safon gyffredin uchaf. Gwelwyd yn gyson mai hon oedd y strategaeth orau ym mhle’r oedd yn ddichonadwy. Nid oedd busnesau ond yn mabwysiadu, neu’n bwriadu mabwysiadu, strategaethau gwahanol mewn senarios lle nad oedd y dull gweithredu hwn yn dechnegol bosibl. Rydym yn ystyried bod y canfyddiad hwn yn arbennig o arwyddocaol - mae’n awgrymu bod busnesau mwy, a chanddynt gadwyni cyflenwi mwy cymhleth ledled y DU, yn debygol o chwarae rôl mewn sefydlu ‘arferion ledled y DU’ sydd y tu hwnt i lunio polisïau unigol gan bob un o’r llywodraethau. Tra derbyniwn y bydd angen gwneud rhagor o ymchwil cyn y gellir dod i gasgliadau mwy pendant, byddai hyn yn awgrymu y gallai Fframweithiau Cyffredin, a mathau eraill o gydweithredu rhynglywodraethol y tu hwnt i’r fframweithiau hynny, gael eu llywio mewn modd defnyddiol gan fwriadau’r busnesau hyn. Nodwn yn y cyswllt hwn na fydd busnesau ond yn gallu gweithredu yn ôl y safon gyffredin uchaf mewn senarios lle mae gwahaniaethau rheoliadol yn caniatáu hynny. Er enghraifft, o ran cynnyrch sy’n ddarostyngedig i reoliad sy’n gofyn am labelu mewn un wlad ond nid mewn gwledydd eraill, gellir sicrhau ei fod yn cydymffurfio ym mhob man trwy roi’r label ar bob cynnyrch, ym mhle bynnag y cânt eu gwerthu. Fel enghraifft syml, byddai gwahaniaeth rheoliadol a fyddai’n gofyn am label glas mewn un wlad a label gwyrdd mewn gwlad arall yn atal dull gweithredu o’r fath. Lle nad oedd modd gweithredu yn ôl y safon gyffredin uchaf, dywedodd busnesau wrthym y byddent yn meddwl am strategaethau eraill, a oedd yn cynnwys lleihau’r amrywiaeth o gynhyrchion a gynigir mewn gwlad a chanddi reoliadau gwahanol, neu ganolbwyntio eu busnes ar un wlad neu is-set o wledydd. Gallai effeithiau’r strategaethau hyn godi mewn gwledydd ar wahân i’r wlad sy’n cyflwyno’r rheoliad.

Roedd nifer sylweddol o fusnesau’n nodi bod lleihau amrywiaeth eu cynhyrchion yn ganlyniad posibl mewn ymateb i wahaniaethau rheoliadol a oedd yn gofyn am gyflenwi gwahanol gynhyrchion i wahanol wledydd. Er ein bod yn meddwl bod hwn yn ymateb credadwy i’r lefel uwch o gostau a chymhlethdod sy’n gysylltiedig â dyblygu llinellau cynnyrch, mae dau bwynt yn werth eu nodi. Yn gyntaf, cynhyrchion nad ydynt ond yn cynhyrchu nifer isel ohonynt fydd y cynhyrchion sydd ‘mewn perygl’, ac efallai na fyddent yn cyfrif am gyfran sylweddol o fasnach drawsffiniol (er nad oes amheuaeth y byddai’n well gan y cwsmeriaid sy’n eu prynu iddynt barhau i fod ar gael). Yn ail, nid oedd yr un o’r busnesau y siaradasom â hwy a oedd wedi nodi bod lleihau’r amrywiaeth o gynhyrchion yn ymateb posibl wedi gwneud unrhyw benderfyniadau pendant eto o ran pa eitemau i’w tynnu’n ôl, ac o ba farchnadoedd. Rydym o’r farn nad yw hyn yn syndod gan y gallai arwain at golli cyfran o’r farchnad (hyd yn oed os yw’r gwneuthurwr yn parhau i werthu cynhyrchion eraill yn y wlad a effeithir, nid oes gwarant y bydd cwsmeriaid yn newid i’r cynhyrchion hyn mewn ymateb i dynnu cynnyrch arall yn ôl). Ar ben hyn, nodwn, o ran bod busnesau’n ceisio tyfu’r gyfran o’r farchnad a maint gwerthiannau’r eitemau nad ydynt yn cynhyrchu llawer ohonynt, gall llwybr twf diweddar fod yn ystyriaeth berthnasol hefyd. Yn ogystal, mae’n bosibl y gall y lle a adawyd yn wag o fewn y farchnad agor cyfleoedd i gystadleuwyr fynd i mewn i’r farchnad a chystadlu, gan efallai ddefnyddio’r cynnyrch arbennig hwnnw i ymosod ar gynhyrchion craidd y busnes a oedd yn cyflenwi’r cynnyrch dan sylw’n flaenorol. O ystyried y lefel uchel o ansicrwydd y byddid yn ei wynebu gan fusnesau wrth geisio dod i gyfaddawd yng nghyswllt yr amryw ystyriaethau hyn, mae’n ymddangos yn debygol y byddai’r mwyafrif o fusnesau’n oedi cyn gwneud penderfyniad i dynnu cynnyrch yn ôl hyd nes i hynny fod yn gwbl angenrheidiol.

Mae’n amlwg hefyd, o ran llawer o gynhyrchion, mae marchnad fewnol y DU yn un rhan o gadwyni cyflenwi byd-eang ehangach, ynghyd â marchnad fyd-eang ehangach. O ran bod angen i rai busnesau ddod o hyd i fewnbynnau o dramor, a’r ffaith, o ran busnesau eraill, bod nifer o’u cwsmeriaid (ac mewn rhai achosion, y mwyafrif o’u cwsmeriaid) mewn marchnadoedd allforio, bydd gan hyn gryn ddylanwad ar y modd y maent yn rhyngweithio â marchnad fewnol y DU. Er enghraifft, ymddengys ei bod yn debygol y bydd datblygiadau o ran y defnydd o rawn a gynhyrchwyd trwy dechnegau bridio manwl yn cael eu llywio yn ôl newidiadau ym mholisi’r UE a barnau cwsmeriaid Ewropeaidd, i’r un graddau ag y cânt eu llywio gan ystyriaethau domestig. Yn achos grawn, mae’r heriau sydd ynghlwm wrth gyflenwi gwahanol gynhyrchion i wahanol farchnadoedd mewnol yn codi o’r anawsterau sy’n deillio o’r angen i wahanu cynhwysion a gynhyrchwyd trwy dechnegau bridio manwl. Fodd bynnag, gallwn weld y gall dylanwad polisïau’r UE (a pholisïau y tu hwnt i’r UE) fod yn berthnasol hefyd mewn senarios ym mhle mae cryn dipyn o gyflenwadau’r DU o gynnyrch neu fewnbwn penodol wedi’u mewnforio, ond nad oes llawer o gyfleusterau cynhyrchu ar gael ar gyfer y cynnyrch neu’r mewnbwn hwnnw. Yn y senarios hyn, efallai y bydd angen i ganlyniadau o fewn y DU addasu i newidiadau ar lefel ryngwladol, a/neu y bydd angen derbyn goblygiadau sylweddol o ran costau sy’n gysylltiedig â dilyn trywydd gwahanol i arferion rhyngwladol. Byddai angen dadansoddi’r mathau hyn o senarios ymhellach cyn gallu dod i gasgliadau cadarnach.

Y ffactor olaf y nodir gennym ei fod yn arbennig o bwysig yw rôl dewisiadau cwsmeriaid. Mewn sawl achos, mae datblygiadau o ran polisïau’n symud ar y cyd ag agweddau a hoffterau cwsmeriaid, neu’n llusgo y tu ôl iddynt. Gellir dadlau y cyflwynwyd datblygiadau o ran polisïau mewn perthynas ag eitemau plastig untro, mawn garddwriaethol a chynlluniau dychwelyd ernes, ar adeg pryd yr oedd barn cwsmeriaid wedi’i llywio i raddau helaeth gan ddealltwriaeth o amcanion y polisïau y tu ôl i’r mentrau hyn, a chefnogaeth i’r polisïau hynny. Caiff hyn ddylanwad ar hyder busnesau o ran dylunio ymateb penodol i ddatblygiadau rheoliadol, gan gynnwys gwahaniaethau rheoliadol, gan ei fod yn ei gwneud yn haws i ragweld ymddygiad cwsmeriaid. Gall busnes fod yn fwy hyderus wrth weithredu yn ôl y ‘safon gyffredin uchaf’, yng nghyswllt eitemau plastig untro er enghraifft, os yw’n deall y byddai cwsmeriaid ledled y DU yn gwerthfawrogi dull gweithredu o’r fath ac yn adlewyrchu hynny trwy brynu cynhyrchion gan y busnes. Fodd bynnag, caiff rhai rheoliadau eu cyflwyno cyn i gwsmeriaid gael cyfle i ddeall amcanion rhai busnesau, a gwneud eu dewisiadau ar sail hynny. Gellir dadlau bod cnydau sy’n deillio o dechnegau bridio manwl yn faes lle nad oes llawer o ddealltwriaeth o’r cynnyrch hyd yma ymhlith cwsmeriaid, ac efallai o ganlyniad i hynny, mae’r galw o du cwsmeriaid yn isel. Mae hyn yn creu ansicrwydd i fusnesau, sy’n amlygu rhai o’r anawsterau o ran mynd i’r afael â gwahaniaethau rheoliadol. Gwelwn debygrwydd rhwng y sefyllfa hon a rhai o’r canfyddiadau a gafwyd yng nghyswllt y farchnad fanwerthu mawn garddwriaethol,[^114] ble cafodd ymateb busnesau i’r rheoliadau arfaethedig ei ddylanwadu’n sylweddol gan ddewisiadau cwsmeriaid ac ymrwymiadau amgylcheddol (yr oeddynt hwy eu hunain yn rhan o ymateb i deimladau ehangach ymhlith cwsmeriaid). Rydym o’r farn bod gwahaniaeth rheoliadol sy’n ymddangos cyn i gwsmeriaid gael cyfle i ddeall yr amcanion y tu ôl i hynny /cyn gweld beth yw’r galw o du cwsmeriaid, yn llai tebygol o arwain at ymateb gan fusnesau ledled y DU na gwahaniaeth rheoliadol sy’n datblygu ar y cyd â dealltwriaeth cwsmeriaid / y galw o du cwsmeriaid, neu’n llusgo y tu ôl i hynny. Yn yr un modd, mae rheoliad yn fwy tebygol o beidio â chael ei dderbyn os yw’n creu cyfle yn hytrach na rhwymedigaeth (fel y bydd rheoliadau yng nghyswllt technegau bridio manwl yn ei wneud), ond mae’n destun cryn dipyn o ansicrwydd o ran p’un a ydyw cwsmeriaid (cwsmeriaid canolradd a chwsmeriaid terfynol) eisiau’r cynnyrch.

Mae’r canfyddiadau o’r astudiaethau achos yn awgrymu efallai bod modd i lunwyr polisïau allu addasu dyluniad eu polisïau er mwyn lleihau effeithiau o fewn y farchnad fewnol gan gadw manteision y polisi. Un dull gweithredu yw archwilio p’un a ellir dylunio rheoliadau er mwyn iddynt ganiatáu ymateb yn ôl y ‘safon gyffredin uchaf’. Bydd hyn yn gofyn am gydgysylltiad a chydweithrediad rhwng llywodraethau, gan y gall y penderfyniadau a wnaed gan un llywodraeth effeithio un arall; gall hyn fod yn her os yw gwahanol lywodraethau’n datblygu polisïau yn ôl gwahanol amserlenni. Ail ddull gweithredu yw ceisio dylunio’r polisi fel bod y pwynt o fewn y gadwyn gyflenwi a effeithir gan y rheoliad mor agos i’r cwsmer terfynol ag y bo modd. Ymddengys fod y dystiolaeth sy’n dod i’r wyneb yn awgrymu bod rheoliadau sy’n dangos eu heffeithiau tuag at ddiwedd y gadwyn gyflenwi’n haws i’w rheoli, am y rheswm syml na fydd ond rhaid gwneud ychydig iawn o newidiadau i’r gadwyn gyflenwi gyfan. Ni fydd yn bosibl dylunio pob polisi yn y modd hwn. Trydydd dull gweithredu yw nodi y gall effeithiau gwahaniaeth o ran rheoliad godi y tu hwnt i’r wlad y’i cyflwynwyd oddi mewn iddi. Mae hyn yn fwy tebygol pan fydd cadwyni cyflenwi’n croesi ffiniau cenedlaethol. Mae gan hyn oblygiadau posibl o ran asesu effaith polisi a hefyd y rôl y gellir ei chwarae gan gydweithrediad rhynglywodraethol.

Casgliadau

Fel y cydnabuwyd gennym yn adroddiad blynyddol 2022 i 2023, mae cyfundrefn marchnad fewnol DU yn dal i fod yn ei dyddiau cynnar, ac felly dim ond dechrau dod i’r amlwg y mae tueddiadau a phatrymau. Ar ben hyn, mae llawer o’r trefniadau o ran polisïau a gaiff effaith bwysig ar natur, ac ehangder a graddau gwahaniaethau rheoliadol yn dal i gael eu sefydlu, gan gynnwys: gweithrediad Fframweithiau Cyffredin; gweithredu’r gyfundrefn eithriadau; ac roedd cwmpas gwasanaethau a gaiff eu heithrio, yn ôl hynny a gynhwysir yn Atodlen 2 o UKIMA, wedi parhau i esblygu dros y flwyddyn flaenorol.

Yn erbyn y cefndir hwn, ni wnaed unrhyw ymgais gennym i ddod i gasgliadau pendant yng nghyswllt cyfeiriad marchnad fewnol y DU at y dyfodol. Er hyn, mae’r datblygiadau rheoliadol dros y flwyddyn ddiwethaf, ynghyd ag ymatebion cychwynnol busnesau i’r datblygiadau hynny, y rhoi rhyw syniad o’r modd y bydd y farchnad fewnol yn newid at y dyfodol.

Yn ein hadroddiad blynyddol ar gyfer 2022 i 2023, nodwyd nifer o ffactorau gennym sydd o bwys arbennig i fusnesau sy’n mynd i’r afael â gwahaniaethau rheoliadol o fewn eu gweithrediadau, ac ar ben hynny, sydd o arwyddocâd o ran datblygiad y farchnad fewnol. Gellir crynhoi’r ffactorau hynny fel: yr effeithiau ar gystadleuaeth o ganlyniad i chwarae teg rhwng gwledydd; y cymhlethdod a welir yn sgil gwahanol ddyddiadau cyflwyno mewn gwahanol wledydd ar gyfer rheoliadau tebyg; y diffyg ymwybyddiaeth am yr UKIMA; ansicrwydd ynghylch effeithiau’r MAPs; a’r rôl a chwaraeir gan gydweithrediad a chydgysylltu rhynglywodraethol o ran mynd i’r afael â rhai o’r materion hyn.

Mae ein dadansoddiad yn yr adroddiad hwn yn cadarnhau pwysigrwydd y ffactorau hyn. Mae ein hastudiaethau achos yn arbennig yn amlygu rôl cystadleuaeth drawsffiniol lle mae’n bosibl y byddai rhaid i fusnesau orfod cydymffurfio â gwahanol safonau oherwydd y MAPs (DRS), cymhlethdod gwahanol ddyddiadau cyflwyno (SUP, DRS, HFSS), ac ansicrwydd o ran effaith y MAPs ac yn enwedig cyfreithlondeb strategaethau (DRS) penodol. Yn ogystal â hyn, roedd rôl cydweithrediad a chydgysylltu rhynglywodraethol yn thema glir ym mhob astudiaeth achos. Mae ein gwaith ar gyfer adroddiad blynyddol 2023-24, yn enwedig ein hastudiaethau achos, wedi canfod rhagor o ffactorau perthnasol yr ydym yn meddwl eu bod yn debygol o ddylanwadu ar ddatblygiadau rheoliadol presennol a datblygiadau rheoliadol yn y dyfodol.

Mae’r setiau data ar lefel macro a drafodir gennym ym Mhennod 2 yn darparu mewnwelediadau diddorol o ran pwysigrwydd masnach ar gyfer pob un o bedair gwlad y DU. Mae graddfa’r farchnad fewnol yn arwyddocaol fel cyfran o gyfanswm gweithgaredd economaidd y DU ar gyfer bob un o bedair gwlad y DU. Yn yr un modd, mae masnach fewnol yn y DU yn gydran bwysig o waith yng nghyswllt canfod mewnbwn a gwerthiannau nifer o fusnesau yn y DU sy’n gweithredu ar draws amrywiaeth eang o weithgareddau, yn enwedig y rheiny sy’n ymwneud â chynhyrchu nwyddau.

Fodd bynnag, fel y mae’r data ynghylch maint y farchnad a gyflwynir gennym ym Mhennod 3 yn ei wneud yn glir, ar gyfartaledd, mae nwyddau’n fwy agored i wahaniaethau rheoliadol a’r MAPs na gwasanaethau, a cheir nifer uwch o wahaniaethau rheoliadol arfaethedig yng nghyswllt nwyddau yn hytrach na gwasanaethau. Ar y llaw arall, yn ei gyfanrwydd, mae’r sector gwasanaethau mor fawr, er, ar gyfartaledd, bod mwy o weithgareddau gwasanaethau y tu hwnt i gwmpas gwahaniaethau rheoliadol a’r MAPs, mewn termau absoliwt, gwasanaethau sy’n cyfrif am y rhan fwyaf o’r gweithgaredd economaidd sy’n ddarostyngedig i wahaniaethau rheoliadol a’r MAPs. Felly mae lle yn y dyfodol i newidiadau rheoliadol o fewn gwasanaethau fod o leiaf yr un mor bwysig ar gyfer datblygiad marchnad fewnol y DU ag y mae datblygiadau rheoliadol yng nghyswllt nwyddau.

Er eu bod wedi’u cynnwys yn yr UKIMA, mae’n ymddangos yn debygol mai’r maes cymwysterau proffesiynol a fydd yn gweld y newid lleiaf yn yr ychydig flynyddoedd nesaf, ac a gaiff yr effaith leiaf ar y farchnad fewnol. Ychydig iawn o gymwysterau proffesiynol sydd wedi’u cyflwyno ar ôl yr UKIMA (ac a fyddai felly o fewn ei chwmpas). Prif bwrpas unrhyw newidiadau rheoliadol mewn perthynas â chymwysterau proffesiynol yw rheoleiddio proffesiynau newydd (sydd yn aml yn cynnwys niferoedd cymharol fach o ymarferwyr), yn hytrach na diwygio’r trefniadau presennol, ac mae nifer o’r proffesiynau hynny fel arfer yn darparu eu gwasanaethau’n lleol, a phrin y maent yn masnachu ar draws ffiniau.

Am y rhesymau hyn, byddem yn disgwyl gweld mai gwahaniaethau rheoliadol a fyddai’n gyfrifol am unrhyw effeithiau o ran y modd y mae’r farchnad fewnol yn gweithio, o ran nwyddau’n arbennig, ac yn enwedig o fewn yr is-sectorau hynny o nwyddau sy’n ddarostyngedig i’r newidiadau mwyaf o ran rheoliadau, sef bwyd a diod. Er mwyn ystyried hyn yn fanylach, mae’r astudiaethau achos ym Mhennod 4 yn archwilio ymatebion busnesau i newidiadau rheoliadol sy’n effeithio’r sectorau bwyd a diod yn bennaf.

Mae’r astudiaethau achos ym Mhennod 4 yn amlygu bod ymatebion penodol busnesau i wahaniaethau rheoliadol yn sensitif i ddyluniad y rheoliadau a natur benodol y gadwyn gyflenwi a effeithir. Hynny yw, gall rheoliad tebyg gael effeithiau gwahanol iawn rhwng gwahanol ddiwydiannau, a hyd yn oed rhwng gwahanol fusnesau o fewn yr un diwydiant. Gall hyn arwain at amrywiaeth eang o ganlyniadau posibl, gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, bod busnesau’n gorfod darparu ar gyfer rheoliadau lleol, hyd yn oed os yw’r MAPs yn cynnig dewis amgen o safbwynt cyfreithiol, ynghyd â datblygu cynhyrchion newydd a gwneud newidiadau i’r amrywiaeth o gynhyrchion a ddarperir. Mae angen gwneud rhagor o ymchwil i ymatebion tebygol busnesau llai, y rhagdybiwn y bydd ganddynt fwy o ddiddordeb mewn defnyddio’r MAPs, o ystyried efallai bod eu brandiau’n wannach, a bod ganddynt wahanol bolisïau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethol corfforaethol. Rydym hefyd yn ofalus wrth ddefnyddio canfyddiadau ynghylch yr is-sector bwyd a diod o fewn is-sectorau eraill, heb eu dadansoddi ymhellach.

Mae’r astudiaethau achos yn arbennig yn nodi sawl modd y gall llunwyr polisïau addasu dyluniad eu polisïau er mwyn lleihau effeithiau ar y farchnad fewnol. Mae’r rhain yn cynnwys: ystyried dylunio gwahaniaethau rheoliadol i ganiatáu ymateb sy’n gweithredu yn ôl y ‘safon gyffredin uchaf’, a fydd yn gofyn am gydgysylltiad a chydweithrediad rhwng llywodraethau; gan dalu sylw manwl i’r pwynt yn y gadwyn gyflenwi sy’n cael ei effeithio gan reoliad, gan fod pa mor hawdd yw rheoli effeithiau rheoliad yn dibynnu ar ba mor agos ydynt i’r cwsmer terfynol; ynghyd â chydnabod y gall effeithiau gwahaniaeth mewn rheoliad godi y tu hwnt i’r wlad y’i cyflwynwyd ynddi, sy’n fwy tebygol pan fydd cadwyni cyflenwi’n croesi ffiniau cenedlaethol.

Y darlun sy’n datblygu o ran y farchnad fewnol yw, ar un llaw, bod gwahaniaethau rheoliadol yn dechrau cynyddu, er yn araf, a bod nwyddau’n cael eu heffeithio llawer mwy na gwasanaethau, yn enwedig yn y sector bwyd a diod. Ar y llaw arall, mae busnesau’n mynd ati mewn modd creadigol i addasu i’r gwirioneddau rheoliadol newydd, mewn modd sydd yn aml yn diogelu llifau masnach a chadwyni cyflenwi presennol. Nid yw cryfder cymharol y grymoedd hyn yn glir eto, a gall llunwyr polisïau wneud dewisiadau a fydd, hyn yn oed os ydynt yn mynd ar drywydd rheoliadau gwahanol, yn gallu cynorthwyo busnesau i sicrhau bod eu llifau masnach presennol yn parhau i fod ar agor. Mae hwn yn amgylchedd dynamig, a byddwn yn ymgymryd â rhagor o waith trwy gydol 2024 i gael gwell dealltwriaeth o’r modd y bydd polisïau rheoliadol, strategaethau busnes a’r amgylchedd economaidd ehangach yn dylanwadu ar farchnad fewnol y DU.


  1. O dan adran 33(5) o Ddeddf Marchnad Fewnol y DU 2020 mae’n ofynnol i ni baratoi adroddiad o leiaf unwaith ym mhob cyfnod perthnasol o 12 mis ar weithrediad y farchnad fewnol yn y DU, ac ynghylch datblygiadau yng nghyswllt effeithiolrwydd gweithrediad y farchnad honno. 

  2. Mae rhannau 1 i 3 o Ddeddf Marchnad Fewnol y DU yn sefydlu’r egwyddorion mynediad i’r farchnad o safbwynt cydnabyddiaeth gilyddol a pheidio â gwahaniaethu, ar draws pedair gwlad y DU. Yn fyr, mae’r egwyddor cydnabyddiaeth gilyddol yn sicrhau, heb ofynion pellach, bod cynnyrch a gynhyrchwyd y gyfreithiol yn y DU, neu a fewnforiwyd i’r DU, ac y gellir ei werthu’n gyfreithiol mewn un rhan o’r DU, yn gallu cael ei werthu mewn unrhyw ran arall o’r DU, neu o ran gwasanaeth y gellir ei ddarparu’n gyfreithlon mewn un rhan o’r DU gellir ei ddarparu mewn rhan arall o’r DU. Mae’r egwyddor o ran peidio â gwahaniaethu yn sicrhau na fyddir yn gwahaniaethu yn erbyn nwyddau neu wasanaethau sy’n dod o rannau eraill o’r DU mewn modd uniongyrchol neu anuniongyrchol (er mwyn ffafrio nwyddau a gwasanaethau lleol). 

  3. Yn dilyn ymadawiad y DU o’r UE, roedd llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig wedi cytuno i weithio gyda’i gilydd i sefydlu dulliau gweithredu cyffredin mewn rhai meysydd a lywodraethwyd yn flaenorol gan gyfraith yr UE, ond sydd fel arall o fewn meysydd cymhwysedd y llywodraethau neu’r deddfwrfeydd datganoledig. A’r rheiny’n cael eu galw’n ‘fframweithiau cyffredin’, eu nod yw nodi dulliau gweithredu cyffredin ar gyfer y DU, neu Brydain Fawr, ar gyfer meysydd polisi penodol, ac o ran y modd y cânt eu gweithredu a’u llywodraethu. 

  4. Mae Fframwaith Windsor, a ddaeth i rym ar 1 Hydref 2023, yn diwygio rhai darpariaethau o fewn Protocol Gogledd Iwerddon, yr oedd hwnnw ei hun yn ffurfio rhan o Gytundeb Ymadael y DU/UE. Un o nodau Fframwaith Windsor yw lleihau lefel y rheolaethau a’r gwiriadau ar nwyddau sy’n dod i mewn o Brydain Fawr y bwriedir eu gwerthu yng Ngogledd Iwerddon. 

  5. Mae Adrannau 10 ac 18 ac Atodlenni 1 a 2 o Ddeddf Marchnad Fewnol y DU yn cynnwys darpariaethau sy’n eithrio’r defnydd o’r MAPs mewn rhai achosion, gan gynnwys lle mae eithriadau o’r fath yn angenrheidiol er mwyn gweithredu telerau Cytundeb Fframwaith Cyffredin neu gytundeb arall rhwng llywodraeth y DU a llywodraeth ddatganoledig sy’n golygu, mewn rhai achosion, y dylid eithrio materion, gofynion neu ddarpariaethau o weithrediad y MAPs. 

  6. O ran masnach oddi mewn i’r DU, yr hyn a olygir gennym yw masnach rhwng pedair gwlad y DU, sef: Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. 

  7. OIM Data Strategy Roadmap 2023 

  8. A user guide to regional trade 2023 

  9. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol Industry-to-industry payment flows, UK: 2016 i 2023, experimental data and insights. Set ddata arbrofol ar lifau taliadau o un diwydiant i’r llall, ar sail taliadau Debyd Uniongyrchol trwy Bacs, a thaliadau Credyd Uniongyrchol, dienw a chyfanredol. 

  10. Regional gross domestic product: all ITL regions - Y Swyddfa Ystadegau Gwladol: Cynnyrch Domestig Gros (GDP) yn ôl prisiau marchnad presennol (2021), fesul punnoedd, miliwn. 

  11. ffigyrau Cynnyrch Domestig Gros y Swyddfa Ystadegau Gwladol, yn ôl prisiau marchnad 2021, yn dangos mai Cynnyrch Domestig Gros y DU oedd £1921 biliwn yn 2015, sy’n awgrymu bod gwerthiannau oddi mewn i’r DU yn cynrychioli tua 10% o’r Cynnyrch Domestig Gros yn 2015. 

  12. Mae ffigyrau Cynnyrch Domestig Gros y Swyddfa Ystadegau Gwladol, yn ôl prisiau marchnad 2021, yn dangos mai Cynnyrch Domestig Gros Lloegr oedd £1652 biliwn yn 2015; roedd Cynnyrch Domestig Gros yr Alban yn £149 biliwn; roedd Cynnyrch Domestig Gros Cymru’n £67 biliwn; ac roedd Cynnyrch Domestig Gros Gogledd Iwerddon yn £42 biliwn yn 2015, sy’n awgrymu bod y fasnach ryngranbarthol yn £91.6 biliwn ar gyfer Lloegr; £50.3 biliwn ar gyfer yr Alban; £36 biliwn ar gyfer Cymru; a £10.8 biliwn ar gyfer Gogledd Iwerddon, sy’n cynrychioli 5.5%; 33.7%; 54.2%; a 25.5% o Gynnyrch Domestig Gros bob gwlad, yn y drefn honno. 

  13. Roedd Lloegr yn cyfrif am 89.6% (£45.1 biliwn) o werthiannau oddi mewn i’r DU o’r Alban, 89.6% (£32.7 biliwn) o Gymru, a 85.8% (£9.3 biliwn) o Ogledd Iwerddon. 

  14. Nid yw Arolwg Masnach Cymru wedi cyhoeddi data Arolwg Masnach Cymru’n flaenorol ar gyfer 2020 oherwydd anghysondebau a materion o ran ansawdd o ganlyniad i bandemig COVID-19. Er y cynhwysir data 2020 yn yr adroddiad hwn, gydag eglurhad priodol o ran y cyfyngiadau, yn aml, gwneir cymariaethau rhwng data 2021 a data o’r cyfnod cyn y pandemig yn 2019. Mae data 2020 yn ymwneud â chyfnod a effeithiwyd gan y pandemig coronafeirws (COVID-19). O ganlyniad, efallai bod yr orfodaeth i gau busnesau yn ystod y cyfnod hwn, ynghyd â chyfyngiadau’r pandemig, wedi effeithio ar yr ymatebion. Effeithiwyd ar fasnach ryngwladol hefyd am gyfnod hir o ganlyniad i wahanol gyfyngiadau parhaus gan lywodraethau mewn amryw wledydd. 

  15. Yn 2020 a 2021, roedd ‘gwerthiannau heb eu neilltuo’ yn cyfrif am tua £19.9 biliwn a £20.9 biliwn, yn y drefn honno. O gymharu â hyn, yn 2019, dim ond tua £3.9 biliwn oedd o ‘werthiannau heb eu neilltuo’. O ran pryniannau yn 2019, roedd y pryniannau heb eu neilltuo i mewn i Gymru yn £10.5 biliwn, gan godi yn 2020 i tua £49.2 biliwn, ac yn 2021, roedd hyn yn tua £12.7 biliwn o gyfanswm y pryniannau i mewn i Gymru. 

  16. Yn 2020 a 2021, roedd ‘gwerthiannau heb eu neilltuo’ yn cyfrif am tua £19.9 biliwn a £20.9 biliwn, yn y drefn honno. O gymharu â hyn, yn 2019, dim ond tua £3.9 biliwn oedd o ‘werthiannau heb eu neilltuo’. O ran pryniannau yn 2019, roedd y pryniannau heb eu neilltuo i mewn i Gymru yn £10.5 biliwn, gan godi yn 2020 i tua £49.2 biliwn, ac yn 2021, roedd hyn yn tua £12.7 biliwn o gyfanswm y pryniannau i mewn i Gymru. 

  17. Gweler A user guide to regional trade 2023

  18. Export Statistics Scotland 2021. Y ‘Global Connections Survey’ (GCS) yw un o’r prif ffynonellau data sy’n llywio amcangyfrifon allforion yr Alban yn ‘Export Statistics Scotland’. Mae Llywodraeth yr Alban yn anfon y GCS i sampl o 6,000-10,000 o gwmnïau sy’n gweithredu yn yr Alban i gasglu data ynghylch gwerth y gwerthiannau a’r allforion rhyngwladol a’r rheiny i weddill y DU. Dyma’r brif ffynhonnell wybodaeth ar gyfer amcangyfrifon o werth allforion o’r Alban i weddill y DU. Os nad yw gwybodaeth am allforion ar gael trwy’r GCS, bydd ‘Exports Statistics Scotland’ yn defnyddio ffynonellau eraill i gael gwybodaeth am allforion, neu amcangyfrifon o werth allforion fel canran o drosiant busnesau. Mae ‘Exports Statistics Scotland’ yn nodi hefyd bod yr holl ystadegau a gynhwysir ar gyfer economi’r Alban ar y tir, ac nad yw’n cynnwys unrhyw weithgareddau y tu hwnt i’r rhanbarth. O fewn y DU, mae gweithgaredd y tu hwnt i’r rhanbarth yn cynnwys gweithrediadau echdynnu olew a nwy ar y môr, ynghyd â gweithgareddau tramor yng nghyswllt gweinyddiaeth gyhoeddus ac amddiffyn. 

  19. Gweler Export Statistics Scotland: methodology  Mae ESS yn amcangyfrif gwerth allforion fel cyfran o drosiant busnes. Mae argraffiad 2021 yn defnyddio ffynhonnell ddata wahanol ar gyfer gwerth trosiant. Mae hyn yn newid y gwerth allforio canlyniadol ac yn golygu bod y gwerthoedd amcangyfrifedig ar gyfer 2019 a ddyfynnir yn yr adroddiad blynyddol hwn yn wahanol i’r data ar gyfer 2019 a gyhoeddwyd y llynedd. Mae defnyddio’r ffynhonnell ddata newydd hon wedi arwain at ostyngiad o 10.3% yn yr amcangyfrifiad o werthiannau’r Alban i weddill y DU yn 2019, a ostyngodd o £52.0 biliwn i £46.7 biliwn. Ceir ystadegau ynghylch mewnforion (pryniannau) o’r ‘Quarterly National Accounts’. 

  20. GDP Quarterly National Accounts: 2023 Quarter 2 Yr Alban 

  21. Exports statistics Scotland 2021 Ffigur 4. Mae allforion i weddill y DU yn cyfrif am gyfran uwch o gyfanswm allforion yr Alban nag allforion rhyngwladol. 

  22. Arolwg Masnach Cymru (AMC): 2021 (ystadegau swyddogol sy’n cael eu datblygu) - LLYW.CYMRU, tudalen 4. Nodir bod y data’n seiliedig ar arolwg ar-lein gwirfoddol, ac mae nifer yr ymatebwyr ar gyfer rhai ystadegau manwl yn gymharol fach. Cyflawnwyd cyfradd ymateb gyffredinol o 16% ar gyfer AMC 2021 (1,264 o ymatebion o sampl o 8,000 o fusnesau). 

  23. Roedd cyflwyno data a briodolwyd ar draws blynyddoedd ar gyfer gwerthiannau wedi golygu bod amrywioldeb o fewn y sampl a gyflawnwyd ar draws blynyddoedd y cyfnod o waith maes wedi’i leihau. Fodd bynnag, ni fu pryniannau’n destun sylw ar gyfer y newid methodolegol hwn, ac felly mae’r gallu i wneud cymariaethau cadarn ar draws y blynyddoedd yn gyfyngedig. (Arolwg Masnach Cymru (AMC): 2021 (ystadegau swyddogol sy’n cael eu datblygu) - LLYW.CYMRU, tudalen 6). Nodir rhagor o wybodaeth am fethodoleg AMC yn Arolwg Masnach Cymru: gwybodaeth am ansawdd a methodoleg - LLYW.CYMRU 

  24. Mae masnach sydd heb ei neilltuo yn ganlyniad busnesau’n darparu cyfanswm gwerth eu gwerthiannau a/neu eu pryniannau ond nad ydynt yn gallu darparu dadansoddiad daearyddol o’r masnachu hwn. Mae’n bwysig ystyried y newidiadau hyn wrth edrych ar ganlyniadau ar draws y blynyddoedd. Mae cyfran o’r newidiadau o ran y gwerthoedd a welir ar draws y blynyddoedd yn debygol o fod o ganlyniad i gynnydd yng ngwerth y fasnach sydd heb ei neilltuo (Arolwg Masnach Cymru (AMC): 2021 (ystadegau swyddogol sy’n cael eu datblygu) - LLYW.CYMRU, tudalen 49) 

  25. Arolwg Masnach Cymru (AMC) 2021, tudalen 17. 

  26. Yn adroddiad blynyddol 2022/23, adroddwyd bod gwerthiannau 2019 i weddill y DU yn £26 biliwn (51% o’r gwerthiannau allanol). Diweddarwyd y ffigyrau o ganlyniad i welliannau o ran methodoleg data AMC, gweler Arolwg Masnach Cymru: gwybodaeth am ansawdd a methodoleg. Gweler Ffigur 2.4 uchod hefyd. 

  27. Yn 2021, roedd ‘gwerthiannau heb eu neilltuo’ yn cyfrif am £20.9 biliwn. O gymharu â hyn, yn 2019, dim ond tua £3.9 biliwn oedd yn deillio o ‘werthiannau heb eu neilltuo’. 

  28. Arolwg Masnach Cymru (AMC) 2021, tudalen 39 

  29. Mae arolwg NIETS yn seiliedig ar arolwg blynyddol o fasnach busnesau lleol gyda marchnadoedd o fewn Gogledd Iwerddon a thu hwnt. 

  30. Northern Ireland Broad Economy Sales and Exports Statistics Development Plan 2021 

  31. Cyhoeddodd NISRA ‘Overview of Northern Ireland Trade with Great Britain’ ym mis Gorffennaf 2023, sy’n dadansoddi data NIETS ac yn cynnwys data hyd at 2021: NISRA Overview of Northern Ireland Trade with Great Britain 2021. Cafodd y ffigyrau hyn eu diweddaru ar gyfer cyhoeddiad 2022. 

  32. Northern Ireland Economic Trade Statistics, 2022. 

  33. Business Insights and Conditions Survey y Swyddfa Ystadegau Gwladol 

  34. Gwestiynau BICS questions: ‘Has your business sent goods from GB to Northern Ireland in the last 12 months?’ Ym mis Medi 2023, ‘how did the volume of goods your business sent from GB to Northern Ireland compare with the previous calendar month?’ ‘Has your business sent goods from Northern Ireland to GB in the last 12 months?’ Ac ym mis Medi 2023, ‘how did the volume of goods your business sent from Northern Ireland to GB compare with the previous calendar month?’ 

  35. Busnesau sy’n masnachu ar hyn o bryd, ‘currently trading’, yn unig. Yr ymateb cyfartalog o Don 42 (18 Hydref 2021 i 31 Hydref 2021) i Don 94 (16 Hydref 2023 i 29 Hydref 2023). Cafwyd yr amrywiad lleiaf rhwng ymatebion yr arolwg. 

  36. Gweler Ton 68 (17 Hydref 2022 i 30 Hydref 2022); Ton 70 (14 Tachwedd 2022 i 27 Tachwedd 2022); Ton 72 (12 Rhagfyr 2022 i 27 Rhagfyr 2022); Ton 73 (28 Rhagfyr 2022 i 8 Ionawr 2023); Ton 75 (23 Ionawr 2023 i 5 Chwefror 2023 23 Ionawr 2023 i 5 Chwefror 2023 ); Ton 77 (20 Chwefror 2023 i 5 Mawrth 2023); Ton 79 (20 Mawrth 2023 i 2 Ebrill 2023); Ton 81 (17 Ebrill 2023 i 30 Ebrill 2023) Ton 83 (15 Mai 2023 i 28 Mai 2023); Ton 85 (12 Mehefin 2023 i 25 Mehefin 2023) Ton 88 (24 Gorffennaf 2023 i 6 Awst 2023); Ton 90 (21 Awst 2023 i 3 Medi 2023); Ton 92 (18 Medi 2023 i 1 Hydref 2023); a Thon 94 (16 Hydref 2023 i 29 Hydref 2023). 

  37. Busnesau ‘Currently trading’ yn unig. Yr ymateb cyfartalog o Don 42 (18 Hydref 2021 i 31 Hydref 2021) i Don 94 (16 Hydref 2023 i 29 Hydref 2023). Cafwyd yr amrywiad lleiaf rhwng ymatebion i’r arolwg. 

  38. Cwestiwn BICS: ‘In [specified month], how did the volume of goods your business sent from GB to Northern Ireland compare with the previous calendar month?’ Yr ymateb cyfartalog gan Don 44 (1 Tachwedd 2021 i 28 Tachwedd 2021) i Don 94 (1 Medi 2023 i 30 Medi 2023) oedd 48.0% ar gyfer ‘volume stayed the same’, 24.0% ar gyfer ‘volumes decreased’, a 4.7% ar gyfer ‘volume increased’. 

  39. Cwestiwn BICS: ‘In [specified month], how did the volume of goods your business sent from Northern Ireland to GB compare with the previous calendar month?’ Yr ymateb cyfartalog o Don 42 (4 Hydref 2021 i 31 Hydref 2021) i Don 94 (1 Medi 2023 i 30 Medi 2023) oedd 50.6% ar gyfer ‘volume stayed the same’, 28.1% ar gyfer ‘volumes decreased’, a 3.1% ar gyfer ‘volume increased’. 

  40. Dylid nodi, mae’r DU a’r UE wedi cytuno ar Fframwaith Windsor, sy’n sefydlu cynllun masnach mewnol newydd ar gyfer y DU yn seiliedig ar rannu data masnachol ar gyfer symud nwyddau. Mae’r holl ddata a adroddir o fewn datganiad CThEH yn berthnasol i gyfnodau cyn gweithredu Fframwaith Windsor. Summary of movements of goods into Northern Ireland from Great Britain 2022: commentary. Mae CThEF yn datgan na ddylai defnyddwyr gymharu data arolwg NIETS a gyhoeddwyd gan NISRA a’r data yn natganiad CThEF. Mae’r materion yn cynnwys gwahaniaethau o ran methodoleg casglu data, amseroldeb, a chynnwys. Summary of movements of goods into Northern Ireland from Great Britain 2022: methodology notes 

  41. Summary of movements of goods into Northern Ireland from Great Britain 2022: commentary.  Mae’r datganiadau’n nodi: ‘Items on a declaration with a value greater than £100 million are excluded. This is to remove likely erroneous entries and extreme outliers from this release. Any items remaining on the declaration have been included.’ 

  42. Mae ffigyrau Cynnyrch Domestig Gros y Swyddfa Ystadegau Gwladol, yn ôl prisiau marchnad 2021, yn dangos bod Cynnyrch Domestig Gros Gogledd Iwerddon yn £51.7 biliwn yn 2021, sy’n awgrymu bod gwerth y datganiadau tollau yn 2021, sef £12.4 biliwn, yn cynrychioli tua 24% o’r Cynnyrch Domestig Gros. 

  43. Summary of movements of goods into Northern Ireland from Great Britain 2022: commentary 

  44. Defnyddiwyd dyddiad clirio datganiad i ddewis datganiadau o gyfnodau blynyddol 2021 a 2022. Gan fod y cyhoeddiad hwn yn seiliedig ar y dyddiad y cliriwyd y nwyddau, ac nid pryd y symudwyd y nwyddau, dylid nodi’r cafeatau hyn: Efallai y cafodd nwyddau a symudwyd yn 2021 eu hadrodd ar ddatganiad nad oedd CThEF wedi ei dderbyn tan 2022. Byddai’r data ar y datganiad hwn yn cael ei gofnodi ar gyfer cyfnod 2022. Efallai y cafodd nwyddau a symudwyd yn 2022 eu hadrodd ar ddatganiad a gyflwynwyd yn 2023. Byddai’r data ar y datganiad hwn yn cael ei gofnodi ar gyfer cyfnod 2023, ac ni fyddai’n cael ei gynnwys yn y cyhoeddiad hwn. Dylid cymryd gofal wrth ddod i gasgliad ynghylch y newidiadau o flwyddyn i flwyddyn yng nghyswllt nwyddau i mewn i Ogledd Iwerddon o Brydain Fawr. Y diffiniad o’r data hwn yw “Full declarations cleared by HMRC between 1st January 2021 and 31st December 2022 for movements of goods into Northern Ireland from Great Britain”. Defnyddiwyd dyddiad clirio’r datganiad i ddewis datganiadau o gyfnodau blynyddol 2021 a 2022. Summary of movements of goods into Northern Ireland from Great Britain 2022: methodology notes. O ran casglu data ar gyfer nwyddau sy’n symud i mewn i Ogledd Iwerddon o Brydain Fawr, nid oedd ond angen hyn ers 1af Ionawr 2021 fel rhan o Brotocol Gogledd Iwerddon (NIP) a diwedd y Cyfnod Pontio. Summary of movements of goods into Northern Ireland from Great Britain 2021 - GOV.UK (www.gov.uk) 

  45. Business Insights and Conditions Survey y Swyddfa Ystadegau Gwladol 

  46. Business insights and impact on the UK economy - Office for National Statistics (ons.gov.uk) 

  47. Cwestiwm BICS: ‘In the last 12 months, has your business sold goods or services to customers in other UK nations?’ Ymatebion: ‘Yes’, ‘No’, ‘Not Sure’. Roedd yn cynnwys y cyfnod o Awst 2022 i Dachwedd 2023. Cyhoeddiadau: Ton 63 (8-21 Awst 2022), Ton 68 (17-30 Hydref 2022), Ton 75 (23 Ionawr – 5 Chwefror 2023), Ton 81 (17 Ebrill 2023 i 30 Ebrill 2023), Ton 88 (24 Gorffennaf 2023 i 6 Awst 2023) a Thon 95 (30 Hydref 2023 i 12 Tachwedd 2023) Cwestiwn yn yr Arolwg: ‘In the last 12 months, has your business purchased goods or services from suppliers in other UK nations?’ Ymatebion: ‘Yes’, ‘No’, ‘Not Sure’. Roedd y cyfnod yn cynnwys Ton 94 (16 Hydref 2023 i 29 Hydref 2023). 

  48. BICS gwerthiannau i wledydd eraill y DU. Categori: Pob Busnes. Cyhoeddiadau: Ton 63: 14%, Ton 68: 16%, Ton 75: 15%, Ton 81: 16%, Ton 88: 14% a Thon 95: 12%. 

  49. Cwestiwn arolwg BICS: ‘Which of the following best describes your export status?’. Ymateb: ‘Exported in the last 12 months’. Ton 94: 10%. 

  50. BICS pryniannau o wledydd eraill y DU. Pob busnes: Ton 94: 10%. 

  51. BICS gwerthiannau i wledydd eraill y DU yn ôl diwydiant. Gweithgynhyrchu: Ton 63: 29%, Ton 68: 32%, Ton 75: 41%, Ton 81: 39%, Ton 88: 35% a Thon 95: 21.3%. BICS pryniannau o wledydd eraill yn y DU. Gweithgynhyrchu: Ton 94: 18%. 

  52. BICS gwerthiannau i wledydd eraill y DU yn ôl diwydiant. Y fasnach gyfanwerthu a manwerthu: Ton 63: 26%, Ton 68: 25%, Ton 75: 22%, Ton 81: 25%, Ton 88: 23% a Thon 95: 21.3%. Y fasnach gyfanwerthu a manwerthu: Ton 94: 15%. Diffinir ‘Business and other services’ fel gweithgareddau gwybodaeth a chyfathrebu, gweithgareddau ariannol ac yswiriant, gweithgareddau eiddo tirol, gweithgareddau proffesiynol, gwyddonol a thechnegol, gweithgareddau gweinyddol a gwasanaethau cefnogi, addysg a gwasanaethau eraill. 

  53. Exports statistics Scotland 2021 Ffigur 5. Roedd gweithgynhyrchu’n cyfrif am y gyfran fwyaf o werthiannau rhyngwladol yr Alban, ond gwasanaethau oedd yn cyfrif am gyfran fwyaf y gwerthiannau i weddill y DU, a Ffigur 7. Yn 2021, o ran gwerthiannau i weddill y DU, y sector gweithgareddau ariannol ac yswiriant oedd yr un ag iddo’r gwerth mwyaf. 

  54. Mae’r mewnforion blynyddol, gyda dadansoddiad o’r cynhyrchion, ar gael yn y Tablau Cyflenwad a Defnydd (Supply, Use and Input-Output Tables: 1998-2020 - gov.scot (www.gov.scot)), ac yn darparu’r llinell sylfaen ar gyfer amcangyfrifon dros dro yn QNAS, ond mae’r data diweddaraf ar gyfer 1998-2020 ac felly nid yw’n cynnwys data 2021. 

  55. Mae Lloegr yn cyfrif am 87% (£13.8 biliwn), yr Alban 5% (£0.8 biliwn) a Gogledd Iwerddon 4% (£0.7 biliwn). Arolwg Masnach Cymru (AMC): 2021 (mae’r ystadegau swyddogol yn cael eu datblygu - LLYW.CYMRU, tudalen 19 

  56. Mae Lloegr yn cyfrif am 83% (£11.6 biliwn) o werth y pryniannau yn y sector hwn. Arolwg Masnach Cymru (AMC): 2021 (ystadegau swyddogol sy’n cael eu datblygu) - LLYW.CYMRU, tudalen 40 

  57. Cwestiynau BICS: ‘In the last 12 months, has your business sold goods or services to customers in other UK nations?’ Ymateb: ‘Yes’. ‘In the last 12 months, has your business purchased goods or services to customers in other UK nations?’ Ymateb: ‘Yes’. 

  58. Arolwg Masnach Cymru (AMC): 2021 (ystadegau swyddogol sy’n cael eu datblygu) - LLYW.CYMRU, tudalennau 18 a 40. 

  59. Cwestiwn BICS: ‘In the last 12 months, which of the following challenges, if any, has your business experienced when selling goods or services to customers in other UK nations? ‘Challenges related to the Northern Ireland Protocol’; ‘Differences in rules or regulations’; ‘Lack of demand’; ‘Supply chain disruption’; ‘Transport capacity’; ‘Transport costs’; ‘Other’; ‘Not Sure’; ‘Business did not experience any challenges’. 

  60. ‘Business did not experience any challenges’: Ton 63: 56%, Ton 68: 53%, Ton 75: 55%, Ton 81: 60%, Ton 88: 60% a Thon 95: 57%. 

  61. ‘Business did not experience any challenges’: Ton 63: 9% (maint sylfaen 3171), Ton 68: 5% (maint sylfaen 3455), Ton 75: 8% (maint sylfaen 3595), Ton 81: 5%, Ton 88: 5% a Thon 95: 6%. 

  62. ‘Transport costs’: Ton 63: 17% (maint sylfaen 3171), Ton 68: 17% (maint sylfaen 3455), Ton 75: 22% (maint sylfaen 3595), Ton 81: 14%, Ton 88: 14% a Thon 95: 11%. 

  63. ‘Lack of demand’: Ton 63: 14% (maint sylfaen 3171), Ton 68: 14% (maint sylfaen 3455), Ton 75: 12% (maint sylfaen 3595), Ton 81: 12%, Ton 88: 14% a Thon 95: 17%. 

  64. ‘Challenges related to the Northern Ireland Protocol’: Ton 63: 10% (maint sylfaen 3171), Ton 68: 9% (maint sylfaen 3455), Ton 75: 9% (maint sylfaen 3595), Ton 81: 7%, Ton 88: 8% a Thon 95: 7%. 

  65. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi datblygu methodoleg arbrofol https://www.ons.gov.uk/businessindustryandtrade/internationaltrade/methodologies/experimentalmethodologyforproducingukinterregionaltradeestimates er mwyn gallu cymharu’r ystadegau masnach datganoledig a chyfrifo amcangyfrifon ar gyfer Lloegr ar sail data gweddilliol, a defnyddio ffynonellau data eraill (data ynghylch cludo nwyddau, taliadau) i ategu’r arolygon masnach ac i lenwi bylchau mewn data. Bydd hyn yn creu amcangyfrifon cyson yng nghyswllt masnach oddi mewn i’r DU ar gyfer bob un o’r pedair gwlad erbyn hydref 2024. 

  66. Yn ôl prisiau marchnad yn 2021, mae ffigyrau Cynnyrch Domestig Gros y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos y bu Cynnyrch Domestig Gros Gogledd Iwerddon yn £51.7 biliwn yn 2021, sy’n awgrymu bod gwerth y datganiadau tollau, sef £12.4 biliwn, yn 2021, yn cynrychioli tua 24% o’r Cynnyrch Domestig Gros 

  67. OIM Data Strategy Roadmap 2023 

  68. Defnyddiwyd data cyflogaeth gennym oherwydd y lefel uchel o fanylder yn y data sydd ar gael o gymharu â data gwerth ychwanegol gros. Rhagwelwn, pe byddai data gwerth ychwanegol gros ar gael, byddai wedi cynhyrchu ffigyrau canran ychydig yn wahanol, gan fod rhai is-sectorau o’r economi’n cynhyrchu mwy o werth ychwanegol gros fesul gweithiwr nag eraill. 

  69. Mae cyfeiriadau at faterion ‘a gedwir yn ôl’ yn cynnwys materion eithriedig yng Ngogledd Iwerddon. Ond dylid nodi y gallai Llywodraeth y DU ymwahanu Prydain Fawr o reoliadau’r UE ar gyfer nwyddau o fewn materion eithriedig a gynhwysir o fewn Fframwaith Windsor, gan felly greu gwahaniaethau rheoliadol o fewn y DU. 

  70. Yn y cyd-destun hwn mae ‘cyfanswm y gyflogaeth yn y sector nwyddau’ yn cyfeirio at adrannau A-C a F SIC 

  71. Mae ffurflen wê yr OIM yn caniatáu i randdeiliaid adrodd unrhyw broblem o ran prynu neu werthu nwyddau neu wasanaethau rhwng gwahanol rannau o’r DU, neu ynghylch unrhyw anhawster sy’n codi yng nghyswllt defnyddio cymhwyster proffesiynol a ddyfarnwyd yn un rhan o’r DU. Report a UK Internal Market issue

  72. Y DU: The Environmental Protection (Plastic Straws, Cotton Buds and Stirrers) (England) Regulations 2020; Yr Alban: The Environmental Protection (Cotton Buds) (Scotland) Regulations 2019; The Environmental Protection (Single-use Plastic Products) (Scotland) Regulations 2021

  73. The United Kingdom Internal Market Act 2020 (Exclusions from Market Access Principles: Single-Use Plastics) Regulations 2022

  74. Roedd gwaharddiad cynharach Llywodraeth y DU yn cynnwys cyflenwi gwellt yfed, troyddion diod a ffyn cotwm o blastig untro. 

  75. Roedd y nodyn eglurhaol ar gyfer gwaharddiad y DU (a oedd yn berthnasol yn Lloegr) yn cydnabod na fydd eithriad presennol Deddf Marchnad Fewnol y DU yn berthnasol i wahardd blychau a phowlenni plastig untro. 

  76. Policy statement: Scottish Deposit Return Scheme - UK internal market exclusion, 27 Mai 2023. Policy statement: Scottish Deposit Return Scheme - UK internal market exclusion - GOV.UK (www.gov.uk) 

  77. The Deposit and Return Scheme for Scotland (Miscellaneous Amendment) Regulations 2023.  

  78. Introducing a Deposit Return Scheme for drinks containers in England, Wales and Northern Ireland, Ymateb y Llywodraeth, 20 Ionawr 2023, tudalen 29.  

  79. Ibid., tudalen 10 

  80. Ibid., tudalen 10. 

  81. Caiff bwydydd eu dosbarthu’n rhai sy’n uchel mewn braster, halen a siwgr gan ddefnyddio model proffil maethynnau 2004-2005 yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Fodd bynnag, yn rheoliadau Llywodraeth y DU, dim ond cynhyrchion sy’n uchel mewn braster, halen a siwgr sydd wedi’u rhagbecynnu, o fewn 13 categori penodol a fydd yn ddarostyngedig i gyfyngiadau ar eu hyrwyddo. 

  82. Government delays restrictions on multibuy deals and advertising on TV and online - GOV.UK (www.gov.uk) 

  83. Proposal for a Regulation of the European Parliament and of the Council on plants obtained by certain new genomic techniques and their food and feed 

  84. Yn y cyd-destun hwn mae ‘cyfanswm y gyflogaeth mewn gwasanaethau’ yn cyfeirio at adrannau D, E a G-T SIC 

  85. Nid yw cofrestriadau ‘economaidd weithgar’ yn cynnwys y rheiny a feddir gan ymddeoledigion, rhai sy’n dilyn diddordeb hamdden, ac eraill sydd wedi gadael proffesiwn. 

  86. Amlinellir y proffesiynau iechyd penodol a gedwir yn ôl o dan Atodlen 5 o Ddeddf yr Alban 1998, ac o dan Atodlen 7A o Ddeddf Cymru 2017. 

  87. O ystyried na fu modd i ni gael data cofrestru ar gyfer 82 arall o broffesiynau a reoleiddir, bydd yr amcangyfrifiad hwn yn rhy isel. 

  88. Report on the impact of a proposed ban of the sale of horticultural peat in England on the effective operation of the internal market, Office for the Internal Market, Chwefror 2021. Final report (publishing.service.gov.uk) 

  89. Mae’r gwaharddiad ar droyddion diod plastig yn Lloegr yn cynnwys troyddion diod amldro. 

  90. Mae’r gwaharddiad yn Lloegr yn cynnwys Polystyren Ehangedig ac Allwthedig, mae’r gwaharddiad yn yr Alban yn cynnwys Polystyren Ehangedig, ac mae’r gwaharddiad yng Nghymru’n cynnwys Polystyren Ehangedig ac Allwthedig. 

  91. Yn y tabl hwn, nid ydym wedi cynnwys mesurau i gyfyngu ar y galw am fagiau siopa: codir tâl am fagiau siopa untro yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, ac mae ardoll bagiau siopa mewn grym yng Ngogledd Iwerddon. 

  92. O fewn gweithgareddau rheoli stocrestrau, SKU yw cod adnabod unigryw llinell gynnyrch. Fel arfer, mae dilyniant alffaniwmerig yn god bar y gellir ei sganio, mae SKU yn nodi nodweddion (e.e. maint neu frand) sy’n gwahaniaethu’r llinell gynnyrch o linellau cynnyrch eraill. Os yw llinell gynnyrch yn ddarostyngedig i ofynion rheoliadol lleol penodol, gellir adlewyrchu hynny hefyd yn y SKU. 

  93. Ceir awgrymiadau ar gyfer modelau DRS gwahanol sy’n ymwneud â dull gweithredu gwahanol ar gyfer llwybrau dychwelyd. Ar adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn, nid ydym yn meddwl bod unrhyw un o’r modelau amgen hyn wedi cael eu rhoi ar waith. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi peilota DRS digidol, i ganiatáu i gwsmeriaid ddefnyddio’r gwasanaethau casglu ymyl y ffordd presennol i ddychwelyd cynwysyddion sydd o fewn y cwmpas, yn ogystal â defnyddio pwyntiau dychwelyd. https://www.gov.wales/first-minister-visits-worlds-first-town-to-try-digital-bottle-recycling 

  94. Mae cyhoeddiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol: Recent trends in UK food and drink producer and consumer prices: January 2023 https://www.ons.gov.uk/economy/inflationandpriceindices/articles/recenttrendsinukfoodanddrinkproducerandconsumerprices/Ionawr2023#:~:text=In%20the%2012%20months%20to,inputs%20over%20the%20same%20period yn awgrymu bod meintiau’r elw yn y sector bwyd a diod yn cael eu gwasgu fel y mae’r prisiau i’r cwsmer yn cynyddu. 

  95. OIM: Qualitative research with businesses on intra-UK trade: March 2023 OIM: Qualitative research with businesses on intra-UK trade - GOV.UK (www.gov.uk) 

  96. Gwelwyd gennym, mewn achosion lle’r oedd gwahaniaethau rheoliadol yn debygol o fod yn fater ‘tymor agos’, fel gwaharddiadau ar eitemau plastig untro, neu gyflwyno DRS, yn gyffredinol, roedd ymwybyddiaeth o’r MAPs ymhlith busnesau yn uwch na hynny a welsom yn ein hymchwil ansoddol ar gyfer ein hadroddiadau yn 2022 i 2023. Yn rhannol, gall hyn fod oherwydd gweithgareddau cyrff masnach o ran briffio eu haelodau.  

  97. Archwiliwyd y pwynt hwn yn flaenorol yn nhystiolaeth y rhanddeiliaid ar gyfer ein Hadroddiad Cyfnodol ar gyfer 2023. Adroddiad Cyfnodol yr OIM - GOV.UK (www.gov.uk) Er enghraifft, gweler paragraff 2.10 yn yr adroddiad hwnnw. 

  98. Nid yw Gogledd Iwerddon wedi gwneud cyhoeddiad ynglŷn â’r testun hwn. 

  99. Datblygwyd y model proffilio maethynnau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn 2004-2005. Mae bwydydd sy’n sgorio 4 neu ragor o bwyntiau, a diodydd sy’n sgorio 1 neu ragor o bwyntiau, yn cael eu dosbarthu fel rhai ‘llai iachus’. 

  100. Erbyn hyn, cyfrifoldeb yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw cyhoeddi targedau ar gyfer lleihau halen. 

  101. UK Salt Reduction Timeline - Action on Salt 

  102. Salt targets 2017 progress report: A report on the food industry’s progress towards meeting the 2017 salt targets (publishing.service.gov.uk), t32 - t37 

  103. Mae’r rhain yn cynnwys bara, bisgedi a chacennau, bwydydd brecwast wedi’u crasu, grawnfwyd brecwast, creision, pizza, prydau parod, cynhyrchion tatws, pwdinau, a snacs sawrus. 

  104. Roedd Iechyd Cyhoeddus Lloegr wedi herio’r diwydiant bwyd i leihau ei lefelau siwgr a chalorïau mewn bwydydd a diodydd. 

  105. Roedd y rhain yn bennaf yn agos i’r sgôr NPM o bedwar ar gyfer bwyd ac un ar gyfer diodydd. 

  106. Roedd rhai busnesau rhyngwladol yn sôn eu bod yn gallu addasu ryseitiau cynhyrchion yn arbennig ar gyfer marchnad y DU i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r gofynion HFSS, oherwydd poblogrwydd y cynhyrchion a’r galw amdanynt. Er enghraifft, roedd un gwneuthurwr wedi llwyddo i ailfformiwleiddio loli rhew ar gyfer marchnad y DU, sy’n ymwahaniad o Ewrop efallai na fyddai wedi bod yn bosibl ar gyfer cynhyrchion llai poblogaidd. Roedd busnesau eraill wedi archwilio’r posibiliadau o ran ailfformiwleiddio trwy gyflwyno fersiynau llai ac ysgafnach o’u cynhyrchion i gynnig dewis iachach, er nad oedd hyn o reidrwydd yn gwarantu cydymffurfiaeth â’r gofynion HFSS. 

  107. Yn dilyn cyflwyno Fframwaith Windsor, rhaid i gynhyrchion bwyd a gaiff eu cynhyrchu a’u gwerthu yn y DU gael eu labelu fel rhai nad ydynt i’w gwerthu yn yr UE. 

  108. Defra National Statistics: Crops 

  109. Er, o ystyried mai dim ond cynhyrchion manwerthu y gellir eu gwerthu i gwsmeriaid yng Ngogledd Iwerddon, ymddengys bod y potensial i gynhyrchion o’r fath gael eu prosesu ymhellach yn gyfyngedig iawn. 

  110. Mae bragwyr yn prosesu haidd i gynhyrchu brag, sef cynnyrch canolradd a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer bragu a distyllu. 

  111. Cyhoeddiad yr Asiantaeth Safonau Bwyd: 9 Mawrth 2023  Consumer perceptions of precision breeding 

  112. Report: Impact of a proposed ban of the sale of horticultural peat in England on the effective operation of the UK Internal Market - GOV.UK (www.gov.uk)