Arweinydd Archwilio Cwynion

Clare Kirby

Bywgraffiad

Ymunodd Clare â Swyddfa’r Dyfarnwr ym mis Ebrill 2019 fel Arweinydd Archwilio Cwynion ac fel aelod o’r Uwch Dîm Arwain. Cyn hynny, roedd hi’n gweithio i Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Bu hi’n arwain Timau Archwilio Cwynion yr Asiantaeth am chwe blynedd. Wedi iddi ymuno â’r Gwasanaeth Sifil ym mis Medi 2000, gwnaeth ei hangerdd dros gyfiawnder gweinyddol ddechrau wrth iddi weithio i’r Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd rhwng 2008 a 2013.

Mae gan Clare Radd Meistr ym maes Datrys Anghydfodau, ac mae’n Gyfryngydd achrededig. Mae’n aelod o Gymdeithas yr Ombwdsmyn ers 2018, ac mae’n cyd-arwain y Fforwm Cwynion Traws-Lywodraethol.

Arweinydd Archwilio Cwynion

Mae’r Arweinydd Archwilio Cwynion yn gyfrifol am oruchwylio gwaith y timau archwilio yn Swyddfa’r Dyfarnwr.

Swyddfa’r Dyfarnwr