Ein llywodraethiant
Y prif bwyllgorau gwneud penderfyniadau a rheoli yn APHA.
Bwrdd APHA
Mae’r bwrdd yn cwrdd 6 gwaith y flwyddyn. Mae’n gyfrifol am y canlynol:
- gosod cyfeiriad strategol yr asiantaeth
- sicrhau bod yr asiantaeth yn cyflawni ei thargedau
- rheoli risg
- rheoli’r ffordd rydym yn gweithio ac yn cyfathrebu ag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) a llywodraethau Cymru a’r Alban.
Cadeirydd y Bwrdd yw Chris Nicholson, Prif Gyfarwyddwr Anweithredol APHA. Yr aelodau a’r bobl sy’n mynychu yw:
- Lizzie Peers, Cyfarwyddwr Anweithredol
- Laura Green, Cyfarwyddwr Anweithredol
- Mike Venables, Cyfarwyddwr Anweithredol
- Deep Sagar, Cyfarwyddwr Anweithredol
- David Holdsworth, Prif Weithredwr APHA
- Kevin Ingram, Cyfarwyddwr Cyllid APHA
- Jenny Stewart, Cyfarwyddwr Gwyddoniaeth a Thrawsnewid
- Yvonne Spencer, Cyfarwyddwr Gwyddoniaeth Thrawsnewid
- Ian Brown, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gwyddonol APHA
- Nicola Hirst, Cyfarwyddwr Darparu Gwasanaethau APHA
- Michelle Reynolds, Cyfarwyddwr Cynllunio Strategaeth ac Arloesi APHA
- Andrew Soldan, Cyfarwyddwr Milfeddygol APHA
- Christine Middlemiss, Prif Swyddog Milfeddygol (DU)
- Nicola Spence, Prif Swyddog Iechyd Planhigion Defra
- Vicki Brookes, Dirprwy Gyfarwyddwr Adnoddau Dynol
Pwyllgor Archwilio a Risg APHA
Mae’r pwyllgor yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn gyda chyfarfodydd ychwanegol os bydd angen. Mae’n gyfrifol am y canlynol:
- cefnogi’r bwrdd yn y gwaith o reoli risg
- asesu perfformiad yr asiantaeth
- adolygu rheolaeth ariannol yr asiantaeth
- hysbysu’r bwrdd am ganlyniadau’r archwiliadau mewnol ac allanol
Y cadeirydd yr Lizzie Peers, Cyfarwyddwr Anweithredol, ac yr aelodau eraill yw:
- Deep Sagar, Cyfarwyddwr Anweithredol
- David Horne, Aelod Annibynnol
Y bobl sy’n dod i’r cyfarfod yn rheolaidd yw:
- David Holdsworth, Prif Weithredwr APHA
- Kevin Ingram, Cyfarwyddwr Cyllid APHA
- Russ Baldwin, Pennaeth Cyllid a Phartneriaeth Busnes APHA
- Natalie Towers, Prif Archwilydd Mewnol Defra ac GIAA
- Rebecca Andrew, Rheolwr Risg a Sicrwydd APHA
- Swyddfa Archwilio Genedlaethol
Tîm Arwain Cyfarwyddiaeth APHA
Mae Tîm Arwain y Gyfarwyddiaeth yn cyfarfod yn fisol ac mae’n gyfrifol am y canlynol:
- rhedeg APHA o ddydd i ddydd
- gweithredu gwelliannau
- monitro cyflawniadau yn erbyn targedau
- awdurdodi a rheoli rhaglen newid yr asiantaeth
Y cadeirydd yw David Holdsworth, Prif Weithredwr APHA. Yr aelodau eraill yw:
- Kevin Ingram, Cyfarwyddwr Cyllid APHA
- Jenny Stewart, Cyfarwyddwr Gwyddoniaeth a Thrawsnewid
- Yvonne Spencer, Cyfarwyddwr Gwyddoniaeth Thrawsnewid
- Ian Brown, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gwyddonol APHA
- Nicola Hirst, Cyfarwyddwr Darparu Gwasanaethau APHA
- Michelle Reynolds, Cyfarwyddwr Cynllunio Strategaeth ac Arloesi APHA
- Andrew Soldan, Cyfarwyddwr Milfeddygol APHA
Bwrdd Cynghori Gwyddoniaeth APHA
Mae’r bwrdd yn cyfarfod saith gwaith y flwyddyn. Mae’n cefnogi Bwrdd APHA a’r Swyddog Cyfrifyddu yn eu cyfrifoldebau o ran goruchwylio a sicrhau gwaith gwyddonol APHA.
Y Cadeirydd yw Laura Green, Cyfarwyddwr Anweithredol. Mae’r aelodau eraill yn cynnwys amrywiaeth o wyddonwyr ac arbenigwyr allanol sy’n gweithio ar wyddoniaeth ac ymchwil milfeddygol a llywodraethol.
Pwyllgor Iechyd a Diogelwch Strategol APHA
Mae’r pwyllgor yn cyfarfod bob chwarter. Mae’n cefnogi Bwrdd APHA (ac mae hefyd yn atebol i Dîm Arwain y Gyfarwyddiaeth).
Mae’n goruchwylio’r gwaith o weithredu strategaeth iechyd a diogelwch APHA i sicrhau bod yr asiantaeth yn parhau i geisio codi safonau a gwella’r diwylliant iechyd a diogelwch. Mae’r pwyllgor yn datrys ac yn penderfynu ar faterion o fewn ei gylch gwaith ac mae’n cyfeirio problemau heb eu datrys at Dîm Arwain y Gyfarwyddiaeth.
Y cadeirydd yw David Holdsworth, Prif Weithredwr APHA. Cynghorydd Iechyd a Diogelwch Corfforaethol APHA yw’r dirprwy gadeirydd. Mae’r aelodau yn cynnwys uwch-reolwyr sy’n cynrychioli ardaloedd gwahanol yr asiantaeth.
Cyfarfodydd Bwrdd a Phwyllgor APHA