Datganiad i'r wasg

Prifysgolion Cymru yn arddangos ymchwil ac arloesedd o'r radd flaenaf

Digwyddiad arddangos yn tynnu sylw at ymchwil gan Brifysgolion Cymru, sy'n cael effaith mewn cymunedau yng Nghymru, y DU a ledled y byd.

Secretary of State for Wales David TC Davies speaking to a university researcher.

  • Mae arddangoswyr yn dangos cryfderau allweddol mewn meysydd fel lled-ddargludyddion, technoleg amaeth a Sero Net.
  • Daeth David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’r Gweinidog Gwyddoniaeth, George Freeman i’r digwyddiad, a oedd yn tynnu sylw at gryfderau ymchwil ac arloesi yng Nghymru, gyda’r nod o annog buddsoddiad parhaus mewn ymchwil yng Nghymru.

Mae prifysgolion Cymru yn cyflwyno ymchwil o’r radd flaenaf sy’n gwneud cyfraniadau hollbwysig i’r economi a’r gymdeithas. Dyma’r neges o ddigwyddiad arbennig a gynhaliwyd yn Llundain yr wythnos hon a oedd yn arddangos y gorau o ymchwil ac arloesi yng Nghymru.  

Swyddfa Cymru a Rhwydwaith Arloesi Cymru oedd yn cynnal y digwyddiad yn Lancaster House ar 17 Hydref, a oedd yn tynnu sylw at gryfder ac ehangder ymchwil prifysgolion Cymru, a gallu’r ymchwil i sicrhau manteision amlwg i gymunedau yng Nghymru, y DU a ledled y byd. 

Gyda phrosiectau’n amrywio o ddatgarboneiddio ac arloesi seiber i ganfod firysau a thechnoleg lled-ddargludyddion, dangosodd yr arddangosfa amrywiaeth y sector ymchwil ac arloesi yng Nghymru, a’r rôl hanfodol sydd ganddo i’w chwarae o ran gyrru economi’r DU yn ei blaen a darparu atebion i rai o heriau mwyaf dybryd cymdeithas. 

Mae Cymru eisoes ar flaen y gad mewn meysydd mor amrywiol â Thechnoleg Feddygol, Technoleg Amaeth a Sero Net ac mae ganddi glwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd sydd ymhlith y gorau yn y byd, sy’n sbarduno arloesed mewn technoleg a ddefnyddir ym mhob ffôn symudol bron ar y farchnad heddiw.   

Mae cydweithio hefyd yn un o gryfderau allweddol y sector yng Nghymru, gyda llawer o’r prosiectau yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth ar draws nifer o brifysgolion yng Nghymru. 

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i fuddsoddi bron i £40 biliwn mewn ymchwil a datblygu rhwng 2022 a 2025. Mae prifysgolion Cymru mewn sefyllfa dda i gael gafael ar ragor o gyllid ymchwil ar gyfer ymchwil, gydag ymdrech i gynyddu’r cyllid i ardaloedd yn y DU y tu allan i dde-ddwyrain Lloegr o leiaf 40% erbyn 2030.    

Roedd David TC Davies, Ysgrifennydd Cymru a’r Gweinidog Gwyddoniaeth, George Freeman ymhlith y rhai a oedd yn bresennol yn y digwyddiad, a oedd yn cynnwys 20 arddangosfa, gan gynnwys cipolwg ar dechnoleg delweddu digidol yn seiliedig ar olwg dynol ac arddangos sut gellir defnyddio pŵer niwclear yn y dyfodol.  

Dywedodd David TC Davies, Ysgrifennydd Cymru:  

Roedd yn bleser gennyf groesawu prifysgolion Cymru i’r digwyddiad arbennig iawn hwn a dangos ymrwymiad Llywodraeth y DU i’r sector addysg uwch.  Roedd yn gyfle gwych i UKRI gael blas ar rywfaint o’r gwaith ymchwil ac arloesi anhygoel sydd eisoes yn digwydd yng Nghymru ar draws ein holl brifysgolion.   

Rwyf am i brifysgolion Cymru chwarae rhan hollbwysig wrth osod y DU ar flaen y gad o ran ymchwil a datblygu, ac rwy’n gobeithio bod y digwyddiad hwn wedi ein helpu i wneud cynnydd tuag at y nod cyffredin hwnnw.

Dywedodd yr Athro Paul Boyle, Cadeirydd Rhwydwaith Arloesi Cymru ac Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe: 

Rydyn ni’n croesawu’r cyfle hwn i dynnu sylw at rywfaint o’r gwaith ymchwil ac arloesi anhygoel sy’n digwydd mewn prifysgolion yng Nghymru.  

Pwrpas Rhwydwaith Arloesi Cymru yw cryfhau ymchwil ac arloesi yng Nghymru drwy hwyluso cydweithio rhyngddisgyblaethol, felly roedd yn arbennig o gadarnhaol gweld cynifer o’r prosiectau a oedd yn cael eu harddangos yn dangos gwerth cydweithio ar draws prifysgolion Cymru. 

Byddwn yn parhau i arddangos cryfderau ymchwil yng Nghymru ac rydyn ni’n croesawu rhagor o ymgysylltu â’r llywodraeth a rhanddeiliaid i barhau i gynyddu cyllid ymchwil ac arloesi ym mhrifysgolion Cymru.   

Gyda sector ymchwil ac arloesi sy’n cael ei ariannu’n gynaliadwy, gallwn barhau i greu effaith economaidd a chymdeithasol ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.

Dywedodd y Fonesig Athro Ottoline Leyser, Prif Weithredwr UKRI:   

Mae yna gryfderau ymchwil ac arloesi nodedig ym mhrifysgolion Cymru, ac yn system ymchwil ac arloesi ehangach Cymru. Pan rwyf wedi ymweld â Chymru a chwrdd â rhanddeiliaid yng Nghymru, rwyf wedi siarad â llawer o bobl wych, gan gynnwys ymchwilwyr ac entrepreneuriaid ar ddechrau eu gyrfa, technegwyr, y gymuned leol ac arweinwyr ymchwil byd-eang.  

Mae prifysgolion Cymru yn llwyddiannus iawn wrth ennill cyllid ymchwil o bob rhan o UKRI, gyda chyfraddau llwyddiant yn debyg i weddill y DU. Mae’r prosiectau hyn yn dangos yn gadarn sut mae prifysgolion Cymru yn datblygu ymchwil ar draws ystod eang o feysydd, ac yn sbarduno arloesedd a thwf economaidd, sydd o fudd i’r DU gyfan a thu hwnt.

Nodiadau  

  • Mynychodd pob un o naw o brifysgolion Cymru – Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, y Brifysgol Agored yng Nghymru, Prifysgol Abertawe, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Wrecsam – y digwyddiad yn Lancaster House.
  • Roedd nifer o’r 20 arddangosfa ymchwil a datblygu yn cynnwys timau ar y cyd o wahanol brifysgolion.
  • Daeth y digwyddiad â chynrychiolwyr o Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI), Swyddfa Cymru a’r Adran Gwyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg ynghyd gyda’r nod o annog mwy o gyllid ar gyfer ymchwil yng Nghymru.
  • Yn yr asesiad diweddaraf ledled y DU o ansawdd ymchwil (REF 2021), a gyhoeddwyd yr haf diwethaf, barnwyd bod 89% o ymchwil prifysgolion Cymru yn rhagorol yn rhyngwladol neu o’r radd flaenaf o ran effaith. Mae detholiad o astudiaethau achos effaith REF ar gael yma.
  • Mae Rhwydwaith Arloesi Cymru (WIN) yn fenter gydweithredol a sefydlwyd i gryfhau ymchwil ac arloesi yng Nghymru. Mae gan y Rhwydwaith bedwar prif amcan:
  • Cynyddu cystadleurwydd ymchwil ac arloesi yng Nghymru drwy hwyluso cydweithio er mwyn cynnal prosiectau arloesol ac unigryw.
  • Denu buddsoddiad strategol i Gymru drwy weithio gyda phartneriaid priodol i gyflawni ymchwil ac arloesi effeithiol.
  • Eirioli dros ymchwil ac arloesi yng Nghymru drwy hyrwyddo cryfderau, cyrhaeddiad ac effaith y sector.
  • Hwyluso rhannu cyfleusterau, offer ac arferion rhwng prifysgolion yng Nghymru er mwyn cryfhau’r seilwaith a’r amgylchedd ar gyfer ymchwil.
  • Mae Prifysgolion Cymru yn gorff aelodaeth sy’n cynrychioli buddiannau’r naw prifysgol sydd yng Nghymru. Rydym yn datblygu polisi addysg uwch, yn ymgysylltu â gwleidyddion a rhanddeiliaid, ac yn ymgyrchu ar faterion lle mae gan ein haelodau fuddiannau a rennir. http://www.uniswales.ac.uk/cy
Cyhoeddwyd ar 18 October 2023