Datganiad i'r wasg

Cyllid iechyd meddwl i fynd i’r afael ag aildroseddu yng Nghymru

Bydd yn ofynnol i droseddwyr yng Nghymru sydd â phroblemau iechyd meddwl lefel isel fynd i’r afael â’r problemau hyn fel rhan o gynllun Llywodraeth y DU i fynd i’r afael ag un o brif achosion troseddu.

  • mae Llywodraeth y DU yn buddsoddi £1.1 miliwn i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol troseddu
  • bydd y cyllid yn llywio troseddwyr i gael triniaeth ac yn lleihau aildroseddu
  • gallai hyd at 750 o droseddwyr gael eu trin fel hwb i amddiffyn y cyhoedd

Bydd tua 700 o droseddwyr yng Nghymru yn cael eu cyfeirio i fynychu triniaeth pan fyddant yn cael dedfryd gymunedol yn y llys, mewn ymdrech i leihau’r gost o £18 biliwn i drethdalwyr o ganlyniad i aildroseddu.

Mae Llywodraeth y DU wedi dyfarnu £1.1 miliwn i G4S gyda Forensic Psychology Consultancy i gynnal y fenter, a fydd yn golygu bod troseddwyr yn cael eu hasesu gan ymarferydd iechyd meddwl i lywio dedfrydu a dechrau triniaeth wedi’i thargedu, neu therapi, o fewn wythnosau. Ar hyn o bryd mae hyn fel arfer yn cymryd llawer mwy o amser – gan gynyddu’r siawns o aildroseddu.

Bydd y cyllid yn cefnogi mwy o droseddwyr i gael mynediad at y driniaeth sydd ei hangen arnynt fel rhan o ddedfryd gymunedol gadarn ac effeithiol sy’n mynd i’r afael ag achosion sylfaenol eu troseddu.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth Prawf Rhanbarthol Cymru, Nic Davies:

Rydyn ni’n gwybod y gall materion iechyd meddwl fod wrth wraidd troseddu yn aml, felly mae triniaeth a chefnogaeth wedi’u targedu yn hanfodol os ydym am amddiffyn y cyhoedd, lleihau aildroseddu a helpu troseddwyr i symud ymlaen â’u bywydau.

Mae’r buddsoddiad hwn yn hwb sylweddol i gymorth iechyd meddwl yng Nghymru a bydd yn ei gwneud hi’n haws i’r Gwasanaeth Prawf oruchwylio troseddwyr yn ystod eu hamser yn y carchar a sicrhau eu bod yn dod yn aelod o gymdeithas sy’n parchu’r gyfraith.

Mae’r gwasanaeth newydd yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus yn Abertawe sydd wedi bod yn cael ei gynnal ers mis Awst 2021. Canfu’r peilot fod 80 y cant o droseddwyr a gymerodd ran yn y math hwn o orchymyn cymunedol wedi profi budd sylweddol i’w hiechyd meddwl.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cymunedol G4S, Ben Lloyd:

Mae ein cymunedau’n gartref i lawer o bobl sydd ag anghenion triniaeth ond sy’n ei chael yn anodd cael gafael ar y cymorth a fyddai’n eu helpu i reoli eu cyflwr neu eu sefyllfa a goresgyn yr heriau y maent yn eu hwynebu.

Tra bod gormod o’r bobl hyn yn dod yn rhan o’r system gyfiawnder, mae gwrandawiad llys yn rhoi cyfle i ddedfrydwyr ystyried beth sydd wedi digwydd, pa gymorth y gall fod ei angen i helpu pobl i ddod yn fwy sefydlog, cyflawni rhywfaint o newid a dychwelyd i rôl weithredol a chyfrannol yn eu teuluoedd a’u cymdogaethau.

Nodyn i’r golygyddion

  • Mae £1.1 miliwn wedi’i ddyfarnu i G4S i gyflawni’r contract hwn tan ddiwedd mis Mawrth 2025.
  • Y tri math o Ofynion Triniaeth Dedfryd Gymunedol (CSTRs) yw Gofynion Triniaeth am Alcohol (ATRs), Gofynion Ailsefydlu ar ôl bod yn Gaeth i Gyffuriau (DRRs), a Gofynion Triniaeth Iechyd Meddwl (MHTRs). Gall y llysoedd ddyfarnu’r rhain i droseddwyr ar ddedfrydau cymunedol a’u gorfodi i gael triniaeth a mynd i’r afael ag achosion sylfaenol troseddu. Gall triniaeth gynnwys sesiynau cwnsela gyda gweithwyr meddygol proffesiynol, profion cyffuriau a rhaglenni achrededig fel cyrsiau rheoli dicter.
  • Bydd y cyllid hwn yn mynd tuag at gymorth a ddarperir drwy Ofynion Triniaeth Iechyd Meddwl (MHTRs).
Cyhoeddwyd ar 29 April 2024