Stori newyddion

Pymtheg o bobl yn cael eu cydnabod gan Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi Gorllewin Morgannwg

Mae ymdrechion 15 o bobl, gan gynnwys pedwar cadét ifanc, o bob rhan o Orllewin Morgannwg wedi cael eu cydnabod gan gynrychiolydd y Brenin dros y sir.

Lord-Lieutenant of West Glam Awards. Copyright: RFCA for Wales.

I gydnabod eu gwasanaeth rhagorol a’u hymroddiad i ddyletswydd, dyfarnwyd Tystysgrif Teilyngdod yr Arglwydd Raglaw i un ar ddeg o bobl gan Mrs Louise Fleet YH, yn y seremoni yn John Chard VC House, Abertawe ddydd Iau 25 Ionawr.

Yr un ar ddeg oedd yr Is-gomander Andrew Davies a Karen Osmond y ddau o HMS CAMBRIA; Helen Short o Gorfflu Cadetiaid Môr Abertawe; Rhingyll Staff Stephen Davies o Gatrawd 157 (Cymru) y Corfflu Logisteg Brenhinol; y Capten Simon Chaplin o Lu Cadetiaid y Fyddin Gwent a Phowys; Ail Lefftenant Steve Jones a’r Uwch Sarjant a Hyfforddwr Callum Williams ill dau o ACF Dyfed a Morgannwg; Hyfforddwr Sifilaidd Stewart Lawrence, y Swyddog Hedfan Julia Havard, yr Is-gapten Francesca O’Brien a’r Sarjant Hedfan Thomas Jenkins i gyd o Gadetiaid Awyr Adain Cymru Rhif 3 yr Awyrlu Brenhinol.

Cafodd cyflawniadau pedwar cadét yr Arglwydd Raglaw hefyd eu cydnabod a’u dathlu yn ystod y digwyddiad a fynychwyd gan i 100 o bobl.

Cafwyd amlinelliad o’u hamser gyda’r cadetiaid, gan gynnwys uchafbwyntiau eu rôl dros y 12 mis diwethaf, gan y Sarjant Lliw a’r Cadet Madison Chaplin o Lu Cadetiaid y Fyddin Gwent a Phowys; y Sarjant Hedfan a’r Cadet Ioan Osbourne o Gadetiaid Awyr Rhif 3 Adain Gymreig yr Awyrlu Brenhinol; Uwchgapten y Gatrawd MacKenzie Bryan o ACF Dyfed a Morgannwg a’r Cadet Arweiniol Jessica Flynn o Gorfflu Cadetiaid Môr Abertawe.

Mae’r rôl, sy’n parhau tan fis Medi, yn cynnwys mynychu nifer o achlysuron swyddogol gyda’r Arglwydd Raglaw fel digwyddiadau’r Cofio, ymweliadau Brenhinol a gorymdeithiau brenhinol.

Mae bron i 5,000 o gadetiaid yng Nghymru sy’n ennill sgiliau a chymwysterau trwy weithio gyda chymunedau lleol, elusennau a thrwy gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ymarferol.

Mae maes llafur y cadetiaid yn cael ei ddarparu gan 1,850 o oedolion sy’n hyfforddwyr gwirfoddol a chynorthwywyr sifil, sy’n rhoi o’u hamser hamdden yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau.

Trefnwyd y digwyddiad gwobrwyo gan Gymdeithas y Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid dros Gymru (RFCA dros Gymru) - sefydliad sydd wedi cefnogi’r Lluoedd Arfog ers dros 100 mlynedd.

Cyhoeddwyd ar 26 January 2024