Stori newyddion

Diolch i gyflogwyr am gefnogi milwyr wrth gefn mewn noson wobrwyo arbennig yng Nghaerdydd

Mae 17 sefydliad anhygoel o Gymru wedi derbyn Gwobr Arian y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn (ERS) ar gyfer 2023.

Silver ERS Awards 2023. Copyright: RFCA for Wales

Mae 17 sefydliad anhygoel o Gymru wedi derbyn Gwobr Arian y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn (ERS) ar gyfer 2023.

Cafodd cyflogwyr o bob rhan o Gymru eu cydnabod am y gefnogaeth y maent yn ei rhoi i Gymuned y Lluoedd Arfog mewn digwyddiad arbennig a gynhaliwyd yn HMS CAMBRIA, Caerdydd ddydd Iau 28 Medi.

Arweinydd y noson oedd Sian Lloyd a thraddodwyd yr anerchiad agoriadol gan y Cyrnol Sion Walker, Dirprwy Gadlywydd Brigâd 160 (Cymru).

Y derbynwyr oedd:

  • Age Cymru Dyfed
  • APK Security Ltd
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
  • Prifysgol Metropolitan Caerdydd
  • Cyngor Sir Caerfyrddin
  • Espanaro Ltd
  • Heddlu Gwent
  • Addysg a Gwella Iechyd Cymru
  • Involve Recruitment
  • Cyngor Castell-nedd Port Talbot
  • North Wales 4x4 Ltd
  • Regimental Cleaning Services Ltd
  • The Family Foundation
  • The Mentor Ring
  • Topwood Ltd
  • Valley Veterans
  • YourNorth Veteran Support CIC

Cyflwynwyd y gwobrau ar y cyd gan y Cadlywydd Steve Drysdale OBE, y Cyrnol Sion Walker, Dirprwy Gadlywydd Brigâd 160 (Cymru) a Swyddog Awyr Cymru, Comodor yr Awyrlu Adrian Williams OBE.

Traddodwyd yr anerchiad i gloi gan gadeirydd yr RFCA dros Gymru, y Brigadydd Russ Wardle OBE DL.

O dan y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn, mae’r Wobr Arian ERS yn cydnabod cyflogwyr sydd wedi dangos eu cefnogaeth weithredol i gymuned y Lluoedd Arfog drwy weithredu polisïau ymarferol yn y gweithle.

Er mwyn ennill Arian, rhaid i sefydliadau ddangos yn rhagweithiol nad yw cymuned y Lluoedd Arfog dan anfantais annheg fel rhan o’u polisïau recriwtio. Rhaid iddynt hefyd sicrhau bod eu gweithlu’n ymwybodol o’u polisïau cadarnhaol tuag at faterion pobl Amddiffyn ar gyfer milwyr wrth gefn, Cyn-filwyr, Gwirfoddolwyr Oedolion y Lluoedd Cadetiaid, a phriod a phartneriaid y rhai sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog.

Dywedodd yr Athro Cara Aitchison, Is-ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd: “Ar ran ein cymuned yn Met Caerdydd, mae’n bleser mawr gen i dderbyn y wobr hon

sy’n cyd-fynd cystal â’n gwerthoedd, ein pwrpas a’n blaenoriaethau. Mae’r Brifysgol yn cydnabod gwerth cefnogi’r Lluoedd Arfog,

gan gynnwys personél sy’n gwasanaethu, milwyr wrth gefn, cyn-filwyr a theuluoedd milwrol a’r ystod eang o sgiliau a phrofiad y maen nhw’n eu cynnig i’n cymuned.”

Dywedodd Mr Craig Middle, Cyfarwyddwr Ymgysylltu â Chyflogwyr Rhanbarthol y Weinyddiaeth Amddiffyn yn y De, “Rydym wrth ein bodd bod cymaint o gyflogwyr yng Nghymru wedi cael eu cydnabod gyda’r Wobr Arian.”

Mae 2023 yn dathlu deng mlynedd o’r cynllun gwobrwyo. I gael gwybod mwy am yr ERS a sut y gallai eich sefydliad gefnogi personél amddiffyn yn y gweithle drwy Gyfamod y Lluoedd Arfog, cysylltwch â:

  • Craig Middle, Cyfarwyddwr Ymgysylltu â Chyflogwyr Rhanbarth y De, wa-reed@rfca.mod.uk Ffôn symudol: 07970 493086.

  • Tony Fish, Cyfarwyddwr Ymgysylltu â Chyflogwyr Rhanbarth y Gogledd, wa-reed2@rfca.mod.uk Ffôn symudol: 07508 193902.

Cyhoeddwyd ar 4 October 2023