Closed consultation

Diogelu mannau addoli ymgynghoriad y llywodraeth (Welsh) (accessible version)

Updated 31 August 2021

Mae’r ymgynghoriad hwn yn cychwyn ar 15 Mawrth 2020 Mae’r ymgynghoriad hwn yn dod i ben am 23:59 ar 28 Mehefin 2020

Ynglŷn â’r ymgynghoriad hwn

I

Mae’r ymgynghoriad hwn yn agored i’r cyhoedd ac wedi ei dargedu at unigolion, busnesau a sefydliadau yng Nghymru a Lloegr sydd â diddordeb yn niogelwch mannau addoli a lleoliadau eraill yn gysylltiedig â ffydd, gan gynnwys ysgolion a chanolfannau cymunedol. Mae’n canolbwyntio ar ddeall pa arfer gorau sydd eisoes yn bodoli i ddiogelu mannau addoli a beth yn fwy ellid ei wneud yn y dyfodol.

Hyd

O 15 Mawrth 2020 hyd 28 Mehefin 2020

Sut i ymateb

Bydd yr ymgynghoriad ar agor hyd at 10 Mai 2020. Ni allwn dderbyn ymatebion ar ôl y dyddiad hwn. Pryd bynnag y bydd yn bosibl, anfonwch eich ymateb i’r ymgynghoriad ar-lein gan ddefnyddio’r ddolen ar dudalen we’r ymgynghoriad. Gallwch hefyd ymateb trwy’r post neu ofyn am fformatau gwahanol fel fersiwn prosesydd geiriau, Saesneg, neu fersiwn hygyrch. Gweler yr adran ‘Ymateb i’r ymgynghoriad hwn’ o’r ddogfen hon am ragor o fanylion. NatCen Social Research sy’n gyfrifol am gasglu, prosesu a dadansoddi’r ymgynghoriad hwn. Am fanylion sut a pham yr ydym yn defnyddio’r wybodaeth a roddwch yn eich ymateb, a sut y byddwn yn gofalu amdani, gweler y ‘Ddogfen Gwybodaeth Data’. Gellir gweld y ddogfen hon ar dudalen we’r ymgynghoriad

Papur ymateb

Bydd crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad hwn yn cael ei gyhoeddi ar-lein yn.

Rhagair gan yr Ysgrifennydd Cartref

Mae’r Deyrnas Unedig yn mwynhau hanes balch o ryddid crefyddol. Ers canrifoedd, mae dilynwyr bron bob ffydd sydd ar gael wedi cyrraedd yma a chael hafan ddiogel lle gallant addoli mewn heddwch, heb ofni cael eu herlid.

Mae mannau addoli wedi cael eu cysylltu â seintwar bob amser. Heddiw, maent yn ganolfannau cymdeithasol a chymunedol. Gallant gynnig bwyd, addysg a man i gysgu. Maent yn achubiaeth i’r rhai sy’n cael bywyd yn anodd ac angen cefnogaeth emosiynol. Maent yn rhan anhepgor o fywydau miliynau o bobl. Ond weithiau, mae’r tystion gweladwy yma i gred grefyddol yn dod yn dargedau i gasineb.

Bydd llawer yn cofio ychydig fisoedd cyntaf 2019 pan welwyd cyfres o ymosodiadau erchyll ar fannau addoli ar draws y byd. Llofruddiwyd 20 o bobl mewn cadeirlan Gatholig yn Ynysoedd y Philipinau. 51 mewn mosg yn Christchurch, Seland Newydd. Mwy na 250 mewn eglwysi yn Sri Lanka.

Yn ein gwlad ni, yr ymosodiad ar Fosg Finsbury Park oedd yr un amlycaf yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond ar draws y Deyrnas Unedig mae mannau addoli wedi cael eu targedu, o ymosodiadau llosgi bwriadol ar fosgiau i graffiti neo-Natsïaidd ar synagogau.

Nid yw’r ymosodiadau yma yn mynd heb eu herio. Ochr yn ochr â’n hymdrechion plismona gwrthderfysgaeth eang, mae heddlu lleol, grwpiau cymunedol a ffydd yn gweithio’n galed i ddiogelu mannau addoli. Bydd cynllun Ariannu Diogelwch Amddiffynnol Mannau Addoli’r Llywodraeth yn darparu rhyw £1.6 miliwn o 2019-20 ar gyfer camau diogelu ffisegol ar gyfer mannau addoli. Bydd y ffigwr hwn yn cael ei ddyblu i £3.2 miliwn ar gyfer 2020-21.

Mewn cyfnodau o densiwn rhyngwladol a domestig, gall mannau addoli a’r addolwyr eu hunain deimlo yn agored i niwed yn aml. Mae ar bobl y gellir eu cysylltu yn weledol â chrefydd benodol ofn dioddef ymosodiadau ar lafar neu hyd yn oed rai corfforol. Dyluniwyd mannau addoli i fod yn amlwg, ond mae’r amlygrwydd hwn yn eu gwneud yn dargedau clir i’r rhai sy’n dymuno gwneud niwed iddynt.

Y gwirionedd trist yw y bydd pobl sy’n dod at ei gilydd i addoli yn heddychlon yn dargedau o hyd i’r rhai sy’n defnyddio trais i ledaenu casineb ac ofn. Ond, i sawl ffydd, mae agor eu drysau a chroesawu dieithriaid yn gonglfaen i’w cred, ac yn mynegi’r dyngarwch na fydd fyth yn cael ei siglo na’i frawychu.

Blaenoriaeth y Llywodraeth yw gwarchod addoli agored a rhydd, gan gynnig pob amddiffyniad a allwn ni i arweinwyr ffydd a sefydliadau crefyddol. Rydym wedi lansio’r ymgynghoriad hwn i edrych ar beth sy’n cael ei wneud yn barod, pa mor dda y mae’n gweithio, a sut y gallwn gryfhau’r amddiffyniad yn y dyfodol.

Mae’r Deyrnas Unedig, yn ei hamrywiaeth ryfeddol, yn gryfach nag unrhyw ideoleg. Mae bod yn Brydeinig yn gyfystyr â chael rhyddid llwyr i fynegi eich crefydd – a mannau addoli yw gwarchodleoedd y rhyddid hwnnw. Dylai’r rhai sy’n ceisio hau ofn, casineb a rhaniadau wybod, tra bydd ein mannau addoli yn dal i ffynnu, na fyddan nhw fyth yn ennill.

Y Gwir Anrhydeddus Priti Patel AS Ysgrifennydd Cartref

Cyflwyniad

Mae rhyddid i addoli yn gonglfaen i fywyd Prydain. Mae’r Llywodraeth yn ymroddedig i gefnogi ein grwpiau ffydd fel eu bod yn gallu addoli heb ofn na sarhad.

Mae’r adborth gan grwpiau ffydd yn awgrymu bod pryder cynyddol am ddiogelwch mannau addoli gan gynnwys, ond heb ei gyfyngu i eglwysi, mosgiau, gurdwaras, synagogau a themlau. Bu’r pryder hwn yn arbennig o gryf yn dilyn yr ymosodiadau terfysgol erchyll ar fosgiau yn Christchurch, Seland Newydd. Yn union ar ôl y digwyddiadau hyn, ymrwymodd yr Ysgrifennydd Cartref ar y pryd i ymgynghori ar beth yn fwy y gellid ac y dylid ei wneud i ddiogelu mannau addoli. Fe welwyd rhagor o ymosodiadau, gan gynnwys ar eglwysi yn Sri Lanka a synagog yn San Diego, gan ei gwneud yn fater brys i ddeall barn grwpiau ffydd am y mater, a pha gamau pellach y gellid eu cymryd i wella diogelwch. Amlygodd ymgais i ymosod ar synagog yn Halle, yr Almaen yn Hydref 2019 yn ystod diwrnod mwyaf sanctaidd y flwyddyn i’r Iddewon – Yom Kippur – bwysigrwydd camau diogelwch. Rhwystrodd y drysau oedd ar glo yr ymosodwr rhag mynd i mewn i’r adeilad ac achubodd fywydau 80 o bobl y tu mewn.

Wrth lansio’r ymgynghoriad hwn, rydym yn cydnabod nad yw unrhyw ddwy grefydd yr un fath ac mae’r gwahaniaethau hanesyddol, diwylliannol a diwinyddol hefyd yn siapio agweddau ac arferion o ran diogelwch. Rydym wedi clywed yn glir gan grwpiau ffydd bod angen cael cydbwysedd pwysig rhwng addoli yn agored a heb ofn a chael digon o gamau diogelwch i ddiogelu’r addolwyr.

Rydym am ddeall sut y gall mannau addoli gael eu diogelu yn well rhag cael eu targedu oherwydd eich ffydd. Byddai hyn yn cynnwys y mannau addoli eu hunain yn ogystal â’r bobl o’u mewn ac o’u cwmpas. Mae materion ehangach hefyd wrth gwrs am bobl yn cael eu targedu oherwydd eu ffydd grefyddol y tu allan i fannau addoli sy’n cael eu hystyried yn fanwl fel rhan o’r Cynllun Gweithredu Troseddau Casineb.

Mae’r ymgynghoriad hwn ar agor ar draws Cymru a Lloegr gan fod troseddau casineb yn fater sy’n cael ei drin gan y Gweinyddiaethau Datganoledig yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae’n bwysig cofio y dylai pawb, gan gynnwys y llywodraeth, heddlu, addolwyr a’r cyhoedd yn gyffredinol, chwarae rôl wrth ddiogelu mannau addoli. Pwysleisiodd yr adborth gan sefydliadau ffydd bwysigrwydd gweld yr heddlu yn gweithio’n glos gyda’r mannau addoli a phartneriaid lleol eraill. Mae’r Swyddfa Gartref hefyd wedi creu pecyn o gynlluniau a ddyluniwyd i daclo troseddau casineb sy’n targedu mannau addoli. Mae cynllun Ariannu Diogelwch Amddiffynnol Mannau Addoli, sydd ar ei bedwaredd flwyddyn erbyn hyn, yn darparu ar gyfer camau ffisegol gan gynnwys larymau, goleuadau, camerâu cylch cyfyng a ffensys i fannau addoli. Dyblwyd yr arian oedd ar gael yn y bedwaredd flwyddyn o £800,000 i £1.6 miliwn yn dilyn yr ymosodiad yn Christchurch, a bydd yn cael ei ddyblu eto i £3.2 miliwn y flwyddyn nesaf (2020/21). Bydd y Swyddfa Gartref hefyd yn lansio rhaglen hyfforddi diogelwch newydd ar draws pob ffydd yn hwyrach ymlaen eleni, a fydd yn eistedd ochr yn ochr â’r Cynllun Ariannu Diogelwch Gwarchodol Mannau Addoli. Bydd hyn yn sicrhau bod arfer gorau wrth ddiogelu mannau addoli yn cael ei rannu a’i weithredu.

Mae grwpiau Iddewig hefyd yn cael cyllid (£14 miliwn yn 2018-19) gan y llywodraeth i ddarparu diogelwch ychwanegol ar gyfer ysgolion ac adeiladau cymunedol, ac mae cyfran fach o hwn yn cael ei wario ar synagogau. Gweinyddir hwn trwy CST ac fe’i crëwyd i sicrhau diogelwch grwpiau Iddewig rhag bygythiadau terfysgol credadwy. Cychwynnodd y cynllun hwn yn 2010 pan wnaeth yr Adran Addysg gydnabod baich ariannol diogelwch ar grwpiau Iddewig - oedd eisoes wedi bod yn cyflogi gwarcheidwaid diogelwch masnachol ac yn datblygu strwythurau diogelwch gwirfoddol mewn ysgolion, ac a oedd hefyd wedi ymrwymo i dalu am warcheidwaid diogelwch mewn ysgolion a Gynhelir â Grant.

Yn 2015, cynyddwyd y cyllid ar gyfer diogelwch gwarchodol mewn ysgolion Iddewig a lleoliadau Iddewig sensitif gan y Swyddfa Gartref ar ôl sawl ymosodiad angheuol yn erbyn lleoliadau Iddewig (gan gynnwys yn Toulouse, Brwsel, Paris a Copenhagen), cynnydd sylweddol mewn digwyddiadau gwrth-semitig yn y Deyrnas Unedig, ac o ganlyniad i weld yr heddlu yn cynyddu’r asesiad bygythiad ar gyfer grwpiau Iddewig y Deyrnas Unedig.

Bwriad yr ymgynghoriad hwn yw gwella’r cynlluniau hyn, yn ogystal â rhoi tystiolaeth i’r llywodraeth am beth yn fwy sydd angen ei wneud i roi mwy o ddiogelwch i’n mannau addoli – pob un ohonynt â’i hunaniaeth a’i broblemau ei hun. Ei nod yw casglu barn gan aelodau amrywiol o grwpiau ffydd gan gynnwys arweinwyr crefyddol, cynrychiolwyr cyrff llywodraethol, addolwyr ac unigolion â ffydd nad ydyn nhw’n defnyddio man addoli ar hyn o bryd. Rydym yn awyddus iawn i glywed gan grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli (fel menywod) yn ogystal â defnyddio syniadau newydd a blaengar ar sut y gallwn ddeall y problemau a wynebir gan grwpiau ffydd a thaclo troseddau casineb yn fwy effeithiol.

Cwestiynau am Ddemograffeg

Bydd yr ychydig gwestiynau cyntaf yma yn yr ymgynghoriad yn holi yn rhinwedd beth yr ydych yn ymateb i’r ymgynghoriad a hefyd am rai nodweddion personol. Defnyddir y wybodaeth hon i gefnogi dadansoddi ac i’n helpu i ddeall pwy sy’n ymateb i’r ymgynghoriad hwn a chyd-destun eu hatebion.

Ni fydd yn bosibl adnabod unrhyw unigolion mewn unrhyw ddadansoddiad a gynhyrchir. Cyfeiriwch at y ‘Ddogfen Gwybodaeth Data’ am ragor o wybodaeth am sut y bydd eich data yn cael ei ddefnyddio.

C1. Dewiswch yn rhinwedd beth yr ydych yn ymateb i’r ymgynghoriad hwn. Dewiswch unrhyw un sy’n berthnasol.

C2. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dywedwch wrthym pa sefydliad yr ydych yn ei gynrychioli.

C3. Os ydych yn ymateb yn rhinwedd swydd broffesiynol, pa ffydd ydych chi’n ymwneud â hi fel rhan o’r rôl hon?

C4. Faint yw eich oedran?

C5. Pa ryw ydych chi?

C6. Ym mha ranbarth ydych chi’n byw?

C7. Pa un o’r canlynol sy’n disgrifio eich grŵp ethnig orau?

C8. a. A oes gennych unrhyw gyflyrau iechyd corfforol neu feddyliol neu salwch sydd yn parhau, neu y disgwylir iddo barhau, 12 mis neu fwy? b. (os oes i gwestiwn 8a) A yw eich cyflwr neu salwch/ a yw unrhyw un o’ch cyflyrau neu salwch yn lleihau eich gallu i gyflawni gweithgareddau o ddydd i ddydd?

C9. Beth yw eich crefydd? Ar gyfer diben yr ymgynghoriad hwn, diffinnir man addoli fel lleoliad a ddefnyddir yn benodol naill ai dros dro neu yn barhaol, i gynnal defosiwn, gweddïo, neu i gynnal astudiaeth grefyddol.

C10. a. Os ydych chi yn bersonol yn mynd i fan addoli, ar gyfartaledd, pa mor aml ydych chi’n mynychu b. (os nodir yn mynychu man addoli yng nghwestiwn 10a) Beth sy’n disgrifio lleoliad eich man addoli orau? c. (os nodir yn mynychu man addoli yng nghwestiwn 10a) Pa grefydd y mae’ch man addoli yn perthyn iddi? d. (os nodir yn mynychu man addoli yng nghwestiwn 10a) Amcangyfrifwch y nifer o unigolion sy’n mynychu eich man addoli neu ganolfan gymunedol gysylltiedig â ffydd mewn wythnos arferol.

Adran 1: Graddfa a Pha Mor Gyffredin

Dyluniwyd y cwestiynau yn yr adran hon i ddeall rhagor pa mor gyffredin yw profiadau personol yn gysylltiedig â throseddau casineb, eu graddfa a phrofiadau personol ohonynt. Bydd hyn yn gadael i ni adeiladu ar ein dealltwriaeth o’r broblem ar hyn o bryd, a’r bylchau presennol yn y dystiolaeth, fel yr amlinellir isod.

Mae mannau addoli yn lleoliadau cyhoeddus canolog y mae grwpiau ffydd yn ymgynnull o’u cwmpas. Mae’n bwysig i’r bobl sy’n eu defnyddio deimlo bod ganddynt yr offer priodol i atal ac ymateb i droseddau a all gael eu cyflawni yn erbyn y sefydliad neu’r rhai sy’n ei fynychu. Mae hyn yn cynnwys y ffyrdd priodol o atal troseddau (er enghraifft, camau diogelu addas), a gwybod pryd i roi adroddiad ac i bwy.

Mae’r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron yn diffinio a chofnodi troseddau casineb fel “unrhyw drosedd a ddehonglir gan y dioddefydd neu unrhyw unigolyn arall i fod wedi ei hysgogi gan elyniaeth neu ragfarn yn seiliedig ar hil neu hil dybiedig rhywun; crefydd neu grefydd dybiedig; cyfeiriadedd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol tybiedig; anabledd neu anabledd tybiedig ac unrhyw drosedd a ysgogir gan elyniaeth neu ragfarn yn erbyn rhywun sy’n drawsryweddol neu y tybir ei fod yn drawsryweddol.”

Tueddiadau Cyffredinol

Wrth ddefnyddio’r dystiolaeth sydd ar gael, rydym yn deall bod y tueddiadau tymor hir yn ymwneud â phob ffurf ar droseddau casineb yn gwella – mae erlid wedi lleihau, ac mae’r nifer y ceir adroddiadau amdanyn nhw wedi codi dros y degawd diwethaf. Amcangyfrifodd Arolwg Trosedd i Gymru a Lloegr (CSEW) bod cyfartaledd o 184,000 o ddigwyddiadau o drais casineb y flwyddyn rhwng 2015/16 a 2017/18. Mae’r amcangyfrif 40% yn is na’r amcangyfrifon blynyddol ar gyfer 2007/08 hyd 2008/09.

Yn 2018/19, roedd 103,379 o droseddau casineb wedi eu cofnodi gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr, cynnydd o 10% mewn cymhariaeth â’r flwyddyn flaenorol. Roedd cynnydd yn y pum ffrwd o droseddau casineb sy’n cael eu monitro yn fewnol gan yr heddlu. Cynyddodd troseddau casineb crefyddol o 3% (i 8,566 o droseddau).

Mae hyn yn parhau tuedd yn y tymor hwy yr ystyrir ei bod o ganlyniad i welliannau cyffredinol yn arferion cofnodi’r heddlu, mwy o ddioddefwyr yn dod ymlaen i roi adroddiad a gwell dealltwriaeth gan yr heddlu o droseddau casineb - ond hefyd oherwydd cynnydd sydyn mewn troseddau casineb yn dilyn digwyddiadau fel ymosodiadau terfysgol.

Pa mor Gyffredin yn ôl Dioddefwr

Yn 2018/19, cofnododd yr heddlu grefydd y dioddefwr a dargedwyd mewn 87% o droseddau casineb crefyddol. O’r rhain, roedd 47% o’r troseddau casineb crefyddol wedi eu hanelu at Fwslemiaid (3,530 o droseddau). Roedd 18% arall wedi eu hanelu at Iddewon (1,326 o droseddau). Mewn 17% o droseddau, cofnodwyd nad oedd y grefydd yn hysbys.

Ar sail data o’r CSEW ar gyfer 2015/16 hyd 2017/18, amcangyfrifir bod 39,000 o ddigwyddiadau troseddau casineb wedi eu hysgogi gan grefydd y flwyddyn (Atodiad Tabl 3.01). Roedd y cyfanswm hwn wedi ei rannu yn deg rhwng troseddau personol (23,000 o ddigwyddiadau) a throseddau aelwyd (16,000).

O’r arolygon cyfun yma, amcangyfrifir bod 0.1% o oedolion yn ddioddefwyr troseddau casineb wedi eu hysgogi gan grefydd yn y 12 mis cyn y cyfweliad. Dangosodd CSEW 2015/16 i 2017/18 bod oedolion Mwslimaidd yn fwyaf tebygol o ddioddef troseddau casineb wedi eu hysgogi gan grefydd (0.8%).

Roedd oedolion gyda grŵp ethnig Asiaidd yn fwy tebygol o fod yn ddioddefwyr troseddau casineb wedi eu hysgogi gan grefydd nag oedolion o grŵp ethnig Gwyn (0.5% a llai na 0.1% yn eu tro, CSEW 2015/16 hyd 2017/18).

Lleoliadau

Dan y Cynllun Ariannu Diogelwch Amddiffynol Mannau Addoli, mae’r Swyddfa Gartref wedi rhoi camau diogelu i fannau addoli yn unig. Ond yn 2019/20 mae’r cynllun wedi cael ei ymestyn i wahodd ceisiadau o ganolfannau ffydd cymunedol cysylltiedig (diffinnir hyn fel canolfan gymunedol sy’n cael ei rhedeg gan fan addoli neu yn agos at fan addoli sydd yn seiliedig ar ffydd, a lle mae addoli yn digwydd yn gyson). Gwnaed y penderfyniad hwn i gydnabod y ffaith bod canolfannau cymuned hefyd yn cael eu defnyddio fel mannau addoli, ac y gallant fod yr un mor agored i niwed.

Yn ystod y drafodaeth hon mae arnom angen ystyried pa fannau addoli eraill sydd yn fwy agored i niwed ac a all gael eu targedu oherwydd eu cyswllt â ffydd a pha lefel o ddiogelwch a chefnogaeth a ddymunir.

Mae rhanddeiliaid wedi trafod amrywiaeth eang o safleoedd gyda chysylltiadau â grwpiau ffydd fel rhai all fod yn agored i niwed. Mae’r rhain yn cynnwys ysgolion, canolfannau gofal plant, cartrefi henoed, canolfannau chwaraeon a chanolfannau cymunedol nad ydynt yn cael eu defnyddio i addoli ond ar gyfer ymgysylltu â’r gymuned ehangach. Codwyd pryder yn neilltuol am ysgolion ffydd yn dod yn darged oherwydd y crynhoad mawr o bobl agoredi niwed ar unrhyw un adeg.

Ond, oherwydd mai cyfyngedig yw’r ymchwil mae’n anodd dweud a yw sefydliadau fel clybiau ieuenctid, cartrefi henoed ac ysgolion yn fwy agored i niwed os ydyn nhw yn gysylltiedig â ffydd benodol mewn cymhariaeth â sefydliadau seciwlar.

Tu allan i adeiladau

Rydym yn cydnabod y byddai’n amhosibl diogelu’r holl addolwyr yn llwyr ar eu ffordd i’w man addoli ac oddi yno. Ond, mae pryder bod unigolion yn fwy agored i niwed ar yr adegau hyn, yn arbennig os ydyn nhw’n cerdded mewn gwisg draddodiadol neu yn cario eitemau sy’n ei gwneud yn fwy amlwg beth yw eu hunaniaeth grefyddol. Gall hyn gynnwys Iddewon yn cerdded i’r synagog ac oddi yno ar y Sabath pan na fyddant yn gallu gyrru, neu grwpiau Sikh yn cludo’r ysgrythurau sanctaidd o Gurdwara ar gyfer gwasanaethau arbennig yng nghartrefi pobl.

Mae camau amrywiol y gall mannau addoli eu cymryd yn barod i ddiogelu eu haddolwyr hyd yn oed pan na fyddant mewn man addoli, gan gynnwys hyfforddiant ymwybyddiaeth a gwell ymgysylltu â gwasanaethau gorfodi’r gyfraith yn lleol.

Yn ychwanegol mae sawl ffydd yn cynnal dathliadau mawr yn yr awyr agored. Gall bod y tu allan i fan addoli wneud iddyn nhw deimlo yn fwy agored i niwed heb gael yr amddiffynfa y mae strwythur ffisegol yn ei roi.

Rhoi adroddiadau am droseddau casineb

Mae’n bwysig i bob aelod o fannau addoli a’r cyhoedd yn gyffredinol deimlo wedi eu grymuso a chael digon o wybodaeth i roi adroddiad am droseddau casineb. Mae’n anodd datblygu dealltwriaeth lawn o natur, dosbarthiad a pha mor gyffredin yw troseddau casineb gyda’r data cyfyngedig sydd ar gael. Mae hefyd yn anodd creu darlun clir o’r hyn sy’n ysgogi pobl i droseddu. Er bod yr Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr yn rhoi dealltwriaeth i ni o’r tueddiadau o ran dioddefwyr troseddau casineb, nid yw’r data y mae’n ei roi yn ymdrin â gwahaniaethau manwl yn y profiadau rhwng grwpiau.

Mae diffyg rhoi adroddiadau am droseddau casineb yn golygu nad yw data’r heddlu yn cynrychioli maint y broblem yn llawn. Yn fwy penodol, nid yw’r data yn gadael i ni ddynodi troseddau sydd wedi eu hanelu yn benodol at y man addoli ei hun yn rhwydd; er enghraifft, gall difrod troseddol fel graffiti gael ei alw yn ymddygiad gwrthgymdeithasol – gan ei gwneud yn anodd amcangyfrif yn union pa mor fregus yw’r lleoliadau yma.

Mae nifer o elusennau sy’n cynnig cefnogaeth arbenigol os na fydd unigolyn am roi adroddiad am drosedd yn uniongyrchol i’r heddlu. Gall y gefnogaeth yma gynnwys gwasanaethau cyfieithu neu hyd yn oed gefnogaeth emosiynol os byddant yn teimlo’n anesmwyth yn rhoi adroddiad i’r heddlu. Gallant roi adroddiad am droseddau ar ran unigolyn neu roi cyngor i unigolion am ymateb i ddigwyddiadau na fydd efallai yn cyrraedd trothwy’r heddlu ar gyfer trosedd. Yn ychwanegol, gall rhywfaint o adroddiadau gan drydydd partïon gasglu ystadegau unigol ar gyfer eu crefydd benodol hwy.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am sut i roi adroddiad am Droseddau Casineb.

Cwestiynau

Mae’r cwestiynau canlynol yn holi am amgyffrediad a phrofiadau o bryderon am ddiogelwch mewn ac o gwmpas mannau addoli. Sylwer, ni fyddwn yn gallu gweithredu ar adroddiadau am droseddau a gofnodir yn yr ymgynghoriad hwn. Rydym yn eich annog i roi adroddiad am bob trosedd i naill ai’r heddlu lleol neu sefydliad trydydd parti sy’n derbyn adroddiadau. Am ragor o wybodaeth sut y bydd eich data yn cael ei ddefnyddio edrychwch ar y ‘Ddogfen Gwybodaeth Data’.

C11. a. Disgrifiwch pa mor ddiogel y mae mynd i’ch man addoli yn teimlo. Ar gyfer diben yr ymgynghoriad hwn, diffinnir man addoli fel lleoliad a ddefnyddir yn benodol naill ai dros dro neu yn barhaol, i gynnal defosiwn, gweddïo, neu i gynnal astudiaeth grefyddol. b. (os dewisir dewis ar raddfa yn nghwestiwn 11a) Hoffem ddeall y rhesymau pam y gall pobl fod yn teimlo’n ddiogel neu beidio wrth fynychu eu man addoli. Wrth feddwl am yr ateb a roddwyd gennych i’r cwestiwn blaenorol, a allwch esbonio pam eich bod wedi ei ddewis?

Mae’r ychydig gwestiynau nesaf am droseddau casineb a gyflawnir yn erbyn mannau addoli.

Diffinnir Troseddau Casineb fel “unrhyw drosedd a ddehonglir gan y dioddefydd neu unrhyw unigolyn arall i fod wedi ei hysgogi gan elyniaeth neu ragfarn yn seiliedig ar hil neu hil dybiedig rhywun; crefydd neu grefydd dybiedig; cyfeiriadedd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol tybiedig; anabledd neu anabledd tybiedig ac unrhyw drosedd a ysgogir gan elyniaeth neu ragfarn yn erbyn rhywun sy’n drawsryweddol neu y tybir ei fod yn drawsryweddol.”

Sylwer, ni fyddwn yn gallu gweithredu ar adroddiadau am droseddau a gofnodir yn yr ymgynghoriad hwn. Rydym yn eich annog i roi adroddiad am bob trosedd i naill ai’r heddlu lleol neu sefydliad trydydd parti sy’n derbyn adroddiadau. Am ragor o wybodaeth sut y bydd eich data yn cael ei ddefnyddio edrychwch ar y ‘Ddogfen Gwybodaeth Data’.

C12. a. Wrth feddwl am y man addoli yr ydych yn ei fynychu fel arfer, a ydych yn ymwybodol o unrhyw droseddau casineb sydd wedi ei dargedu yn y pum mlynedd diwethaf? b. (os ydw yng nghwestiwn 12a) Dywedwch ragor wrthym am y digwyddiadau hyn, gan gynnwys pam eich bod yn ystyried eu bod yn droseddau casineb, beth ddigwyddodd, ble, pryd, ac unrhyw fanylion eraill yr ydych yn meddwl eu bod yn berthnasol.

C13. a. Wrth feddwl am fannau addoli eraill yr ydych yn gyfarwydd â nhw ond nad ydych yn eu mynychu fel arfer, a ydych yn ymwybodol o unrhyw droseddau casineb sydd wedi eu targedu yn y pum mlynedd diwethaf? Gall hyn gynnwys mannau addoli yn eich ardal leol, rhai yr ydych wedi ymweld â nhw yn y gorffennol, neu rai y mae ffrindiau neu deulu yn eu mynychu. b. (os ydw yng nghwestiwn 13a) Dywedwch ragor wrthym am y digwyddiadau hyn, gan gynnwys pam eich bod yn eu hystyried i fod yn droseddau casineb, beth ddigwyddodd, ble, pryd, ac unrhyw fanylion eraill yr ydych yn meddwl eu bod yn berthnasol.

C14. a. Yn eich barn chi, a yw patrymau troseddau casineb mewn ac o gwmpas mannau addoli wedi newid o gwbl dros y pum mlynedd diwethaf? Gall hyn gynnwys newidiadau yn eu hamlder neu’r math o droseddau casineb a brofwyd, neu newidiadau yn lefel y pryder am droseddau casineb. b. (os ydyn i gwestiwn 14a) Disgrifiwch sut yr ydych yn meddwl y mae patrymau troseddau casineb wedi newid ac unrhyw dystiolaeth yr ydych wedi ei gweld o hyn. Gall yr enghreifftiau o dystiolaeth gynnwys profiadau personol, profiadau pobl yr ydych yn eu hadnabod, gwybodaeth ar y cyfryngau, neu ymchwil.

Yn awr fe fyddem yn hoffi i chi feddwl am bryderon diogelwch a all effeithio ar sefydliadau ffydd yn fwy eang.

C15. a. Yn eich barn chi, a oes sefydliadau ffydd heblaw mannau addoli (er enghraifft, canolfannau cymunedol, cartrefi henoed, ysgolion), lle mae pobl yn gallu teimlo yn anniogel? b. (Os oes i ateb 15a) Amlinellwch y sefydliadau ffydd yma a pham y gall pobl deimlo yn anniogel yno.

C16. Wrth feddwl am unrhyw bryderon am ddiogelwch a/neu ddigwyddiadau troseddau casineb y gallwch fod wedi eu trafod yn barod, a allwch chi ddisgrifio’r effaith y maen nhw wedi ei gael, os o gwbl? Gall yr effeithiau gynnwys, er enghraifft, rhai emosiynol, ariannol, neu newidiadau mewn ymddygiad, a gallant gynnwys effeithiau arnoch chi, y man addoli/sefydliad ffydd, neu’r gymuned yn ehangach.

Adran 2: Anghenion Penodol i Ffydd

Nod yr adran hon a’i chwestiynau yw rhoi dealltwriaeth lawn o ofynion gwahanol pob ffydd wahanol a’r ffyrdd y maen nhw’n agored i niwed. Yn ychwanegol at hyn fe fyddem yn hoffi deall pwy o’r grwpiau ffydd sy’n teimlo’n fwyaf agored i niwed a phryd. Er enghraifft, mae arnom angen ystyried mannau eraill sy’n gysylltiedig â grwpiau ffydd sy’n fwy agored i niwed ac a all gael eu targedu. Mae arnom angen edrych ar sut i flaenoriaethu diogelwch a chefnogaeth ar draws y lleoliadau agored i niwed yma.

Un enghraifft o’r gwahaniaethau o fewn grwpiau ffydd yw, yn hanesyddol, mae llawer o grwpiau ffydd wedi gweithredu polisi drws agored – gan groesawu unigolion sy’n ymarfer y ffydd a newydd-ddyfodiaid i’w man addoli heb rwystrau tra bydd eraill yn defnyddio camau diogelwch ychwanegol gan gynnwys gwirio bagiau, gwarcheidwaid neu gamerâu mynediad. Mae llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dal i ailadrodd ei bod yn bwysig cael y cydbwysedd cywir rhwng darparu diogelwch a gadael i fannau addoli fod ar agor i’r gymuned fel y byddant yn gweld yn briodol.

Anghenion Grwpiau Ffydd Gwahanol

Wrth ddylunio unrhyw gamau ar gyfer grwpiau ffydd, rydym yn awyddus i ddeall anghenion gwahanol grwpiau gwahanol yn fwy clir.

Mae’r canlynol yn rhoi enghreifftiau o ystyriaethau diogelwch a phryderon penodol yr ydym wedi eu clywed gan grwpiau ffydd Mwslimaidd, Iddewig, Sikh, Hindŵ, a Christnogion. Ond, rydym yn cydnabod na fydd hyn yn holl gynhwysol, ac efallai na fydd hyn yn wir am bob man addoli mewn grŵp ffydd penodol. Yn ychwanegol y mae llawer ffydd leiafrifol a all fod yn agored i droseddau casineb yn eu man addoli ac o’i gwmpas, gan gynnwys addolwyr Jain a Bwdhaidd yr ydym am gael clywed am eu hanghenion. Nod yr ymgynghoriad hwn yw annog ymatebwyr i roi tystiolaeth o anghenion penodol eu ffydd i roi darlun mor llawn â phosibl.

Grwpiau Mwslimaidd

Disgrifiodd grwpiau Mwslimaidd (sy’n ffurfio’r lleiafrif crefyddol mwyaf gyda 3 miliwn o aelodau yn y Deyrnas Unedig), bryderon difrifol am eu diogelwch. Gwaethygwyd hyn gan ddigwyddiadau, gan gynnwys yr ymosodiad terfysgol ger mosg Finsbury Park yn 2017. Ond dengys data’r heddlu hefyd mai Mwslimiaid sydd fwyaf tebygol o roi adroddiad am gael eu targedu o ran troseddau casineb wedi eu hysgogi gan grefydd (roedd tua 47% o droseddau casineb y rhoddwyd adroddiad amdanynt wedi targedu Mwslimiaid yn 2018/2019).

O ganlyniad, dynododd rhai rhanddeiliaid bod rhai mannau addoli Mwslimaidd wedi cynyddu eu diogelwch dros y blynyddoedd diwethaf, gyda rhai yn datblygu cynlluniau diogelwch gan gynnwys defnyddio camerâu cylch cyfyng, giatiau, a gweithdrefnau gwagu a chyfyngiadau symud.

Mae nifer o arferion mewn sefydliadau ffydd Mwslimaidd sydd angen ystyriaeth benodol yng nghyswllt diogelu addolwyr. Mae’r enghreifftiau sydd wedi eu codi yn cynnwys: * yr arferiad bod addolwyr yn tynnu eu hesgidiau wrth fynd i mewn i fosg, gydag oblygiadau o ran cynlluniau gwagu ac ymatebion argyfwng; * y ffaith bod dynion a menywod yn aml yn cael eu gwahanu mewn ystafelloedd gwahanol ac felly dylai diogelwch a chyfathrebu priodol gael eu rhoi yn y ddwy ardal, ac; * yn ystod deg diwrnod olaf mis sanctaidd y Ramadan, mae’n beth cyffredin i bobl gysgu yn y mosg er mwyn rhoi eu hamser i addoli. Mae hyn yn golygu bod pobl yn y mosg 24 awr y dydd, gan godi ystyriaethau diogelwch ychwanegol.

Grwpiau Iddewig

Mae grwpiau Iddewig yn amlwg yn wahanol yn eu hagwedd at ddiogelwch mewn cymhariaeth â chrefyddau eraill. Dros sawl degawd mae grwpiau Iddewig a’r Community Security Trust (CST) wedi buddsoddi yn drwm mewn diogelwch cymunedol Iddewig, o ran yr arian a wariwyd ac amser staff.

Bydd y rhan fwyaf o synagogau ac adeiladau cymunedol Iddewig yn ystyried gweithdrefnau diogelwch allanol ac yn cau eu drysau ar amseroedd sensitif, ynghyd â sicrhau bod camau diogelu digonol fel ffensys uchel, giatiau diogel, a chamera cylch cyfyng i atal pobl o’r tu allan rhag mynd i mewn ac i atal ymosodiadau.

Elusen yw CST sy’n arwain ar ddiogelu grwpiau Iddewig. Maent yn rhedeg cynllun diogelwch gwirfoddol lle mae unigolion yn cael eu hyfforddi i gymryd cyfrifoldeb eu hunain am ddiogelu eu cymuned leol. Mae ganddynt fwy na 2,500 o wirfoddolwyr sy’n helpu i roi diogelwch i tua 300,000 o bobl Iddewig ar draws y Deyrnas Unedig.

Mae grwpiau Iddewig hefyd yn cael cyllid (£14 miliwn yn 2018-19) gan y llywodraeth i ddarparu diogelwch ychwanegol ar gyfer ysgolion ac adeiladau cymunedol, ac mae cyfran fach o hwn yn cael ei wario ar synagogau. Gweinyddir hwn trwy CST ac fe’i crëwyd i sicrhau diogelwch grwpiau Iddewig rhag bygythiadau terfysgol credadwy. Cychwynnodd y cynllun hwn yn 2010 pan wnaeth yr Adran Addysg gydnabod baich ariannol diogelwch ar grwpiau Iddewig - oedd eisoes wedi bod yn cyflogi gwarcheidwaid diogelwch masnachol ac yn datblygu strwythurau diogelwch gwirfoddol mewn ysgolion, ac a oedd hefyd wedi ymrwymo i dalu am warcheidwaid diogelwch mewn ysgolion a Gynhelir â Grant.

Yn 2015, cynyddwyd y cyllid ar gyfer diogelwch gwarchodol mewn ysgolion Iddewig a lleoliadau Iddewig sensitif gan y Swyddfa Gartref ar ôl sawl ymosodiad angheuol yn erbyn lleoliadau Iddewig (gan gynnwys yn Toulouse, Brwsel, Paris a Copenhagen), cynnydd sylweddol mewn digwyddiadau gwrth-semitig yn y Deyrnas Unedig, ac o ganlyniad i weld yr heddlu yn cynyddu’r asesiad bygythiad ar gyfer grwpiau Iddewig y Deyrnas Unedig.

Grwpiau Sikh

Roedd tua 430,000 o Sikhiaid yn y Deyrnas Unedig yn ôl cyfrifiad 2011. Fel rhan o’u haddoliad, maent yn gweithredu ceginau cymunedol neu “Langars” i roi bwyd i’r addolwyr yn ogystal â phobl o bob cefndir all fod yn dymuno ei gael. Mae’r Langar yn cael ei ddarparu am ddim gan wirfoddolwyr bob dydd. Mae hyn yn golygu, fel rhan o’u haddoliad, bod nifer fawr o unigolion nad ydynt yn eu hadnabod yn aml yn cael mynediad i’r Gurdwara ac yn ei ddefnyddio. Dywedodd cynrychiolwyr y ffydd wrthym nad ydyn nhw’n credu mewn troi pobl i ffwrdd o’r Gurdwara oni bai eu bod yn creu perygl neu yn torri rheolau’r Gurdwara yn benodol (er enghraifft dod i mewn yn feddw neu yn cario tybaco neu alcohol).

Mae llawer o Gurdwara yn gweithredu polisi drws agored o ychydig cyn toriad gwawr hyd yn hwyr y nos, sy’n codi ei heriau ei hun. Mae gan lawer gamerâu cylch cyfyng a chamau diogelwch yn eu lle yn barod ac mae gan leiafrif warcheidwaid diogelwch cyflogedig neu wirfoddol yn ystod cyfnodau prysur iawn. Yn ychwanegol, mae llawer o Gurdwara hefyd yn ganolfannau cymunedol gydag aelodau hŷn neu agored i niwed, yn eu defnyddio yn aml yn ystod y dydd. Adroddodd sawl Gurdwara bod eu ffenestri wedi cael eu torri neu bod unigolion wedi dioddef sarhad hiliol wrth fynd i mewn neu adael, a all gael effaith sylweddol ar yr unigolion agored i niwed yma.

Yn yr un modd â phob ffurf ar droseddau casineb, rydym yn asesu nad yw adroddiadau yn cael eu rhoi am bob trosedd gasineb yn erbyn grwpiau Sikh. Ond, mae rhanddeiliaid hefyd wedi mynegi pryder y gall erlid ar grwpiau Sikh fod yn llai amlwg oherwydd cymysgu rhwng grwpiau ffydd, gan arwain at weld pobl Sikh yn cael eu targedu gan droseddau wedi eu hysgogi gan deimladau gwrth-Fwslimaidd. Ni fydd troseddau o’r fath yn cael eu cofnodi o angenrheidrwydd fel rhai gwrth-Sikh gan yr heddlu, gan ei gwneud yn anos i ddynodi’r erlid arnynt.

Grwpiau Hindŵ

Disgrifiodd grwpiau Hindŵ sut y mae angen i’w camau diogelwch, nid yn unig ddiogelu’r bobl a’r adeiladau, ond hefyd y duwiau o’u mewn. Oherwydd y gred bod y duwiau yn byw yn eu temlau, gall dinistrio a difrodi eu mannau addoli gael effaith negyddol ychwanegol.

Mae rhai temlau Hindŵ wedi dioddef ymosodiadau o gwmpas adegau gwyliau, Diwali yn arbennig, pan fydd yn hysbys bod y blychau rhoddion yn llawn. Bu digwyddiadau lle mae duwiau wedi cael eu dwyn oherwydd eu bod yn cynnwys metelau gwerthfawr a gemau.

Er y gall y troseddau mewn achosion o’r fath fod wedi eu hysgogi gan fudd ariannol yn hytrach na chasineb, gall y troseddau hyn fod yn rhai sy’n peri gofid mawr i grwpiau Hindŵ oherwydd sancteiddrwydd y duwiau.

Grwpiau Cristnogol

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Daesh, a sefydliadau eithafol eraill wedi bod yn targedu Cristnogion o gwmpas y byd, gan gynnwys y Cristnogion yn y gymuned Yazidi. Anelwyd ymosodiadau Pasg 2019 yn Sri Lanka at eglwysi pan oedden nhw ar eu prysuraf ac felly ar eu mwyaf agored i niwed.

Yn Ebrill 2019, cyhoeddodd Esgob Truro adroddiad dros dro “Independent Review for the Foreign Secretary of FCO Support for Persecuted Christians”. Mae’n datgan mai Cristnogaeth yw’r grefydd sy’n cael ei herlid fwyaf yn y byd. Daeth yr adroddiad i’r casgliad, yn 2016, bod Cristnogion wedi eu targedu mewn 144 o wledydd – cynnydd o 125 yn 2015 yn ôl y Pew Research Centre. Daw’r erlid ar sawl ffurf ac mae’n cynnwys gorfodi i newid crefydd, ymosodiadau, arweinwyr yn diflannu, bomio eglwysi a thrais rhywiol, yn erbyn menywod yn arbennig.

Gan beidio ag anghofio’r bygythiad rhyngwladol, wrth siarad â grwpiau Cristnogol amrywiol, rydym wedi clywed bod y pryderon diogelwch yn y Deyrnas Unedig yn parhau yn gymharol fychan. Rydym wedi clywed bod gan y cadeirlannau mwyaf gynlluniau diogelwch ond mai pryder mwyaf eglwysi llai yw dwyn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Anghenion Unigolion mewn Grwpiau Ffydd

Trwy ymgysylltu â grwpiau ffydd rydym yn deall bod gan aelodau gwahanol anghenion penodol yn aml. Gall hyn fod oherwydd eu bod yn bresennol ar adegau gwahanol o’r dydd neu eu bod yn defnyddio rhannau gwahanol o’r sefydliad. Mae’r ystyriaethau eraill yn cynnwys ffactorau personol fel oedran, rhyw, iechyd neu iaith.

Gall rhai o’r ffactorau hyn olygu bod angen cymryd camau mewn sefydliadau ffydd i sicrhau bod y grwpiau hyn yn cael eu diogelu’n addas. Mae’r enghreifftiau yn cynnwys sicrhau bod camau diogelwch ar gael ar oriau addas ac ym mhob ardal sy’n agored i niwed, bod gwybodaeth ar gael ar ffurf hygyrch, a bod yr holl unigolion yn gallu mynd allan yn ddiogel a chyflym.

Os yw’r man addoli yn cael ei ddefnyddio gan bobl hŷn yn bennaf, yna efallai y bydd angen cefnogaeth ychwanegol i ymdrin â phroblemau symudedd. Ar wahân i hynny, gall presenoldeb gwarcheidwaid diogelwch greu problemau ychwanegol; er enghraifft, atal pobl gyda rhai mathau o salwch meddwl rhag cael hyder i fynd i fan addoli rhag ofn cael eu holi.

Yn yr un modd, gall menywod fod â phryderon ychwanegol am ddiogelwch mewn cymhariaeth â dynion. Mewn sawl crefydd mae dynion a menywod yn eistedd ar wahân yn y mannau addoli, boed hynny mewn ystafell ar wahân neu ar ddwy ochr wahanol i’r un ystafell. Mewn rhai grwpiau gall fod gweithgareddau cymdeithasol ar wahân i fenywod ar adegau y tu allan i oriau agor arferol ar gyfer y man addoli. Gall menywod hefyd fod yn fwy tebygol o ddefnyddio canolfannau cymunedol am resymau heblaw addoli, er enghraifft ar gyfer canolfannau plant a meithrinfeydd.

Rydym wedi clywed pryderon gan rai grwpiau nad yw rhannau menywod wedi eu diogelu cystal â rhannau’r dynion bob tro. Mae’r problemau cyffredin yn aml yn cynnwys golau annigonol yn ystod y nos a llwybr cyflym at allanfeydd argyfwng neu lwybrau ffoi, yn arbennig os byddant mewn ystafelloedd ar wahân neu i fyny’r grisiau. Yn y grwpiau Mwslimaidd amlygwyd hefyd y gall menywod gael eu targedu yn fwy cyffredin gan droseddwyr troseddau casineb oherwydd bod eu ffydd yn weladwy trwy eu gwisg, gan ychwanegu at eu hymdeimlad o fod yn agored i niwed.

Cwestiynau

Nod yr adran hon yw deall ffactorau penodol sydd angen eu hystyried wrth ymdrin ag anghenion diogelwch mewn mannau addoli ac o’u cwmpas i wahanol grwpiau ffydd. Yn ychwanegol at hyn, fe fyddem yn hoffi deall pa grwpiau mewn grŵp ffydd sy’n teimlo’n fwyaf bregus, a pham.

C17. a. A oes unrhyw anghenion penodol i ffydd yr ydych yn gwybod amdanynt sydd angen eu hystyried wrth ddiogelu mannau addoli? Gall y rhain gynnwys arferion crefyddol neu ddiwylliannol neu rai agweddau ffisegol ar gyfer y mannau addoli fel tynnu esgidiau, nifer o fynedfeydd i addolwyr, neu fannau ar wahân i ddynion a menywod. b. (os dewisir dewis ar y raddfa yng nghwestiwn 17a) Dywedwch ragor wrthym am anghenion penodol i ffydd y dylid eu hystyried wrth ddiogelu mannau addoli.

Gall rhai grwpiau mewn ffydd fod yn fwy bregus nag eraill pan fyddant mewn man addoli neu o’i gwmpas. Gall hyn gynnwys y rhai sy’n cael anhawster defnyddio cyfleusterau neu wahanol rannau o’r adeilad neu a all fod yn darged mwy gweladwy ar gyfer troseddau casineb.

C18. Isod mae nifer o grwpiau y gall rhai pobl eu hystyried yn fwy agored i niwed nag eraill pan fyddan nhw mewn mannau addoli neu o’u cwmpas. Wrth feddwl am y grwpiau hyn mewn grŵp ffydd, nodwch pa mor agored i niwed yr ydych yn meddwl y mae pob grŵp. Gallai hyn fod yn eich grŵp ffydd chi neu un yr ydych yn gyfarwydd ag o.

  • Menywod
  • Dynion
  • Pobl hŷn
  • Arweinyddion crefyddol/ffydd
  • Pobl â chyflyrau iechyd corfforol neu feddyliol neu salwchYMGYNGHORIAD DIOGELU MANNAU ADDOLI 18
  • Grwpiau lleiafrifol o ran hunaniaeth ryweddol neu gyfeiriadedd rhywiol
  • Grwpiau o leiafrifoedd ethnig

C19. A oes unrhyw grwpiau eraill yr ydych yn meddwl eu bod yn agored i niwed? Rhestrwch y grwpiau hyn. C20. Os ydych yn meddwl bod rhai grwpiau yn fwy agored i niwed nag eraill, esboniwch pam yr ydych yn meddwl eu bod yn arbennig o agored i niwed ac unrhyw anghenion penodol sydd ganddynt. Os yw eich ymateb yn ymwneud â grŵp o ffydd benodol, dywedwch yn glir pa ffydd yr ydych yn cyfeirio ati.

Adran 3: Hyfforddiant a Rhannu Arfer Da

Trwy’r ymgynghoriad hwn rydym yn croesawu barn ar sut i ddarparu hyfforddiant diogelwch, gan gynnwys sicrhau bod mynediad at gyfarwyddyd yn gyson ac ar safon addas. Yn ychwanegol, rydym yn awyddus i glywed barn grwpiau ffydd am y ffordd fwyaf effeithiol o rannu eu gwybodaeth eu hunain a’u harfer da, yn ogystal â dysgu o brofiad eraill.

Mae nifer o sefydliadau yn cynnal rhyw ffurf ar hyfforddiant diogelwch ar hyn o bryd. Er enghraifft, mae CST yn rhoi hyfforddiant, nid i grwpiau Iddewig yn unig, ond mae hefyd wedi rhoi sgyrsiau i gynrychiolwyr dros 500 o fannau addoli a hefyd wedi cefnogi grwpiau eraill i ddatblygu hyfforddiant ar gyfer eu grwpiau ffydd eu hunain. Yn gynharach eleni, cefnogodd y Swyddfa Gartref Faith Associates i redeg 22 o weithdai hyfforddiant diogelwch i grwpiau Mwslimaidd cyn ac yn ystod y cyfnod Ramadan. Roedd hyn yn ymateb i’r pryderon cynyddol i Fwslimiaid yn dilyn Christchurch. Mae Strengthening Faith Institutions, Tell MAMA a Faith in Action hefyd yn cynnal sesiynau hyfforddi yn ymdrin yn bennaf â grwpiau Mwslimaidd, Hindŵ a Sikh.

Yn dilyn yr ymosodiadau yn Christchurch a Sri Lanka, awgrymodd adborth gan rai grwpiau ffydd eu bod wedi profi mwy o ymwybyddiaeth o broblemau diogelwch a diffyg hyder, gwybodaeth a phrofiad i wybod at bwy i droi i gael cyngor. Gall cwmnïau diogelwch preifat roi cyngor o’r fath; ond, gall hyn godi cymhlethdodau fel costau sy’n rhy uchel i sefydliadau ffydd a diffyg cysondeb o ran ansawdd a’r hyn sy’n cael ei gynnwys yn y cyngor a roddir.

Ym Mawrth 2019, cyhoeddodd y cyn Ysgrifennydd Cartref y byddai’r Swyddfa Gartref yn lansio cronfa newydd £5 miliwn (dros dair blynedd) ar gyfer hyfforddiant diogelwch ar draws pob ffydd. Rydym yn croesawu mewnbwn ar fodelau newydd neu wahanol i roi cyngor, cynnal asesiadau safle, a rhannu arfer da rhwng sefydliadau. Gallai hyn amrywio o fodelau lleol iawn, fel sefydlu rhwydwaith o ‘hwyluswyr diogelwch’ mewn grwpiau ffydd, neu ddulliau mwy traddodiadol ac wedi eu canoli, fel rhoi hyfforddiant trwy un sefydliad.

Dynododd ymgysylltu â rhanddeiliaid bod rhai grwpiau ffydd wedi datblygu systemau cyfathrebu i’w galluogi i rannu gwybodaeth bwysig yn gyflym, fel hysbysu ei gilydd am ddigwyddiadau diogelwch. Er enghraifft, mae llawer o sefydliadau wedi sefydlu eu rhwydweithiau anffurfiol eu hunain, gan gynnwys grwpiau cyfryngau cymdeithasol rhwng arweinwyr gwahanol fannau addoli o fewn yr un ffydd ac ardal leol. Mae gan systemau o’r fath y potensial i fod yn werthfawr iawn, fel rhoi mwy o rybudd i fannau addoli gerllaw i weithredu cynlluniau argyfwng pan fydd digwyddiad yn yr ardal. Gall rhwydweithiau hefyd fod â’r potensial i hwyluso rhannu arfer da. Rydym yn awyddus i ddeall beth fyddai’r ffordd orau o ddefnyddio rhwydweithiau o’r fath.

Cyfathrebu a hyfforddiant i addolwyr

Mae angen i arweinwyr ffydd fod yn ymwybodol o ddiogelwch a chymryd cyfrifoldeb am ddiogelwch eu haelodau, gan gynnwys yr ymrwymiad cyfreithiol i sicrhau diogelwch unigolion yn eu safleoedd. Ond, mae hefyd yn bwysig i unigolion mewn grwpiau ffydd ddeall y rôl y maent hwythau yn ei chwarae i sicrhau bod mannau addoli a’u haddolwyr yn ddiogel. Gall ymwybyddiaeth well o ddiogelwch ymhlith y mynychwyr, nid yn unig helpu i ddiogelu safleoedd pan fyddant yn cael eu defnyddio, ond hefyd gall baratoi aelodau yn well i sicrhau eu diogelwch mewn bywyd bob dydd tu allan i’r sefydliad.

Mae nifer o sefydliadau yn barod i roi hyfforddiant ac rydym yn ystyried bod hyn yn beth positif, ond, rydym yn cydnabod na all unrhyw system hyfforddi gael ei hailadrodd yn union yr un fath ar draws gwahanol grwpiau ffydd, a byddai angen i bob man addoli ystyried ei amgylchiadau ei hun. Yn ychwanegol, mae nifer o faterion y mae angen eu hystyried. Er enghraifft, rydym wedi clywed cwestiynau yn cael eu codi ynglŷn ag a yw adnoddau yn cael eu cyfeirio at y rhai mwyaf agored i niwed, a all yr hyfforddiant fod yn anghyson rhwng sefydliadau, a phryderon bod rhannu gwybodaeth yn eu plith yn gyfyngedig.

Yn ychwanegol, er bod hyfforddiant am ddiogelwch personol yn ymddangos yn boblogaidd ar y dechrau, rydym wedi clywed pryderon am yr angen i ddod o hyd i asiantau cyflawni priodol a all ennyn diddordeb uwch arweinwyr ar draws unrhyw grŵp ffydd. Mae pryder hefyd, yn absenoldeb y gallu i roi hyfforddiant mwy manwl a chyson a chefnogaeth i weithredu’r hyn a ddysgir, y gall manteision tymor hir hyfforddiant fod yn gyfyngedig. Felly, mae gennym ddiddordeb mewn deall gwerth rhaglenni hyfforddi manwl a thymor hwy i helpu i ateb rhai o’r problemau a amlinellwyd.

Gall hyfforddiant gael ei gyflawni gan ddefnyddio nifer o fodelau gwahanol, yn amrywio o gyflwyno yn ganolog mewn gweithdy i ‘hyfforddi hyfforddwr’ neu fodelau dysgu o bell, y cyfan â manteision ac anfanteision amrywiol. Er enghraifft, gall gweithdai wyneb yn wyneb yn cael eu cyflwyno yn ganolog sicrhau cysondeb o ran ansawdd a chynnwys, gan gynnal cyfleoedd i ymateb i gwestiynau a phryderon penodol. Ond, mae hyn yn drwm o ran adnoddau, gall fod yn sensitif i oedi petai’r galw yn fwy na’r gallu, ac mae’n dibynnu ar ymgysylltu cyson gydag oblygiadau posibl o ran cyrraedd. Ar y llaw arall, gall darparu deunyddiau dysgu i gefnogi arweinwyr ffydd i hyfforddi eu grwpiau ffydd fod yn gost effeithiol, cyflym, a manteisio ar adeiladu ar yr ymddiriedaeth mewn cynrychiolwyr ffydd, ond gall arwain at anghysondeb o ran y nifer sy’n ei ddilyn ac ansawdd yr hyn a ddarperir.

Fel y trafodwyd yn yr adran flaenorol, ar draws yr holl ddewisiadau efallai bod ystyriaethau ychwanegol ar gyfer rhai aelodau o grwpiau ffydd. Mae’r enghreifftiau yn cynnwys darparu cefnogaeth dysgu ychwanegol i’r rhai nad ydyn nhw’n siarad Saesneg fel iaith gyntaf er mwyn gwella cydlyniad cymunedol, a sicrhau bod y wybodaeth yn hawdd ei deall i blant.

Cwestiynau

Mae llawer o fannau addoli a sefydliadau ffydd ehangach yn cymryd camau i warchod eu safleoedd a’r bobl sy’n eu defnyddio. Er enghraifft, gall hyn gynnwys sefydliadau yn rhoi cyngor neu hyfforddiant, rhannu gwybodaeth rhwng sefydliadau, gosod camau diogelwch, a phrosesau i roi adroddiadau am ddigwyddiadau. Yn ychwanegol, mae nifer o gynlluniau yn cael eu rhedeg gan y llywodraeth ganolog, gan gynnwys y Cynllun Diogelwch Mannau Addoli a gyflwynwyd i leihau pa mor agored ydyn nhw i droseddau casineb, a chynlluniau ehangach i leihau bygythiadau terfysgol i fannau lle mae tyrfaoedd (er enghraifft, mae ‘Action Counters Terrorism’ (ACT) yn rhoi cyngor ac e-ddysgu a’r ymgyrch ‘Rhed, Cuddia, Dyweda’).

C21. a. Wrth feddwl am y pum mlynedd diwethaf, a ydych yn ymwybodol o unrhyw gamau a gymerwyd neu weithgareddau a drefnwyd gyda’r nod o ddiogelu eich man addoli, neu fan addoli yr ydych yn gyfarwydd ag o, a’r bobl sy’n ei ddefnyddio? Gall hyn gynnwys hyfforddiant penodol, cyngor neu osod mesurau diogelwch ffisegol. b. (os ydw i gwestiwn 21a) Amlinellwch beth oedd y camau neu weithgareddau hyn ac unrhyw fanylion pam eu bod wedi eu cyflawni, a gan bwy. c. (os ydw i gwestiwn 21a) A oedd unrhyw un o’r camau neu weithgareddau hyn wedi eu cyflawni gyda’r nod o ddiogelu grwpiau penodol yn y grwpiau ffydd yn well? Gall yr enghreifftiau gynnwys hyfforddiant wedi ei deilwrio i blant neu’r henoed, neu oleuadau diogelwch ar gyfer mynedfeydd penodol. d. (os oedd i gwestiwn 21c) Amlinellwch ar gyfer pwy yr oedd y camau neu weithgareddau hynny, beth oedden nhw’n ei gynnwys, ac unrhyw fanylion pellach pam eu bod wedi eu cyflawni, sut, a gan bwy.

C22. Beth arall fyddech chi’n hoffi ei weld yn y dyfodol i fannau addoli ymdrin â phryderon diogelwch a diogelu’r bobl sy’n eu defnyddio? Er enghraifft, gall hyn gynnwys sefydliadau yn rhoi cyngor neu hyfforddiant, rhannu gwybodaeth rhwng sefydliadau, gosod camau diogelwch ffisegol, a phrosesau i roi adroddiadau am ddigwyddiadau. Mae gennym ddiddordeb mewn unrhyw syniadau sydd gennych. Rhowch gymaint o fanylion ag sy’n bosibl am beth, pwy a sut y byddai hyn yn cael ei gyflawni.

C23. Wrth feddwl am gynlluniau cyfredol a’r dewisiadau ar gyfer darpariaeth yn y dyfodol, a oes unrhyw fathau o gefnogaeth neu weithgareddau nad ydych yn meddwl bod eu hangen neu na fyddent o gymorth wrth ymdrin â phryderon am ddiogelwch a diogelu mannau addoli a’r bobl sy’n eu defnyddio? Esboniwch beth a pham.

C24. Wrth feddwl am anghenion unrhyw grwpiau agored i niwed y cyfeirir atyn nhw yn gynharach yn yr ymgynghoriad (er enghraifft, menywod, dynion, plant, yr henoed), beth yn fwy ellid ei wneud i leihau’r graddau y maent yn agored i niwed a diwallu eu hanghenion penodol? Er enghraifft, gall hyn gynnwys hyfforddiant, cyngor neu gyfleusterau wedi eu teilwrio. Mae gennym ddiddordeb mewn unrhyw syniadau sydd gennych. Rhowch gymaint o fanylion ag sy’n bosibl.

Adran 4: Rolau a Chyfrifoldebau

Yn yr adran hon rydym yn bwriadu ystyried pwy a beth sydd â chyfrifoldeb am ddiogelwch mannau addoli a’r addolwyr sy’n eu defnyddio. Wrth drafod diogelwch ffydd, mae’n bwysig cofio bod gan bawb ei ran i’w chwarae i gadw addolwyr yn ddiogel. Mae nifer yn rhan o’r broses hon, yn amrywio o’r sefydliadau eu hunain i lywodraeth ganolog, awdurdodau lleol, heddlu, elusennau lleol a chenedlaethol, byrddau mannau addoli, arweinwyr crefyddol ac addolwyr unigol yn ogystal â’r cyhoedd yn gyffredinol.

Mae’r berthynas rhwng yr heddlu a’r gymuned yn un hanfodol i sicrhau bod mannau addoli yn parhau yn ddiogel. Mae’r berthynas hon wedi bod yn gyfyngedig mewn rhai grwpiau ffydd. Ond mae’r adborth gan fannau addoli wedi dangos y gall perthynas gadarnhaol wneud gwahaniaeth sylweddol. Er enghraifft, gall perthynas gref helpu’r heddlu i ddeall achlysuron sensitif pan fydd yn fwy tebygol y bydd angen eu presenoldeb, fel yn ystod gwyliau pwysig pan fydd mwy o addolwyr o gwmpas. Yn ychwanegol, gall y berthynas hefyd roi gwybodaeth a’r hyder i’r man addoli i roi adroddiad am droseddau sy’n galluogi’r heddlu a’r llywodraethau lleol a chenedlaethol i ddyrannu adnoddau yn well.

Mae’r llywodraeth eisoes yn rhoi cefnogaeth sylweddol i fannau addoli. Mae hyn yn cynnwys y cynlluniau a amlinellir yn y cyflwyniad. Mae’r llywodraeth hefyd yn sicrhau bod deddfwriaeth a pholisïau yn eu lle i ddiogelu pobl sydd â ffydd, gan gynnwys Deddf Cydraddoldeb 2010 sy’n nodi hawliau pobl i beidio dioddef gwahaniaethu dan saith o nodweddion gwarchodedig gan gynnwys ffydd a chred (neu ddim ffydd na chred).

Cwestiynau

Mae gan lawer o sefydliadau rôl i’w chwarae wrth ddiogelu mannau addoli a sefydliadau ffydd, ac mae angen iddynt weithio gyda’i gilydd i sicrhau bod y safleoedd yma a’r rhai sydd yn eu defnyddio yn ddiogel. C25. Yn eich barn chi, beth ydych chi’n ei feddwl ddylai rôl y sefydliadau canlynol fod? Ystyriwch beth yr ydych yn ei feddwl y mae’r sefydliadau yma yn ei wneud yn dda ar hyn o bryd a beth allen nhw ei wneud yn wahanol.

  • Mannau addoli a sefydliadau neu rwydweithiau ffydd eraill
  • Llywodraeth Ganolog, gan gynnwys y Swyddfa Gartref a/neu’r Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol
  • Elusennau, yr heddlu, llywodraeth leol, cynghorau a sefydliadau lleol eraill

Adran 5: Dulliau Eraill o Wella Diogelwch

Rydym yn awyddus iawn i’r ymgynghoriad gasglu amrywiaeth eang o safbwyntiau gan grwpiau ffydd a’u cynrychiolwyr ar beth yn fwy y gellid ei wneud i wella diogelwch mewn sefydliadau ffydd ac o’u cwmpas. Yn y rhan olaf hon o’r ymgynghoriad, gofynnir i ymatebwyr gynnwys unrhyw gynigion creadigol i wella diogelwch sefydliadau ffydd a’u haddolwyr nad ydyn nhw wedi cael eu mynegi yn barod.

Cwestiynau

C26. Rhowch unrhyw syniadau neu sylwadau ychwanegol ar sut i ddiogelu mannau addoli a sefydliadau ffydd ymhellach ar unrhyw anghenion penodol all fod gan grwpiau ffydd.