Astudiaeth achos

£90,000 ar gyfer Neuadd Ddawns y Frenhines yn Nhredegar

Mae wedi mynd â’i ben iddo yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Nawr, gyda £90,000 gan y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol, mae gwaith adnewyddu allweddol wedi cael ei gymeradwyo.

Mae gan Neuadd Ddawns y Frenhines, sydd wedi’i lleoli yn nhref Tredegar yn ne Cymru, hanes cyfoethog. Codwyd yr adeilad fel sinema ym 1910 ac mae wedi gwasanaethu fel:

  • llawr sglefrio
  • clwb nos
  • neuadd ddawns

Mae wedi mynd â’i ben iddo yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Nawr, gyda £90,000 gan y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol, mae gwaith adnewyddu allweddol wedi cael ei gymeradwyo.

Bydd y cyllid yn caniatáu i’r adeilad ddod yn gartref ar gyfer prosiectau cymunedol. Bydd y neuadd ddawns wedi’i hadnewyddu yn:

  • gweithredu fel man digwyddiadau
  • croesawu’r gymuned

Cartref i Academi Ffilm Blaenau Gwent

Sefydliad nid er elw yw Academi Ffilm Blaenau Gwent sy’n addysgu amrywiaeth o sgiliau i bobl ifanc leol fel y gallant wneud ffilmiau proffesiynol, gan gynnwys:

  • ysgrifennu sgript
  • cyflwyno
  • ffilmio

Dywedodd Kevin Philips, Prif Swyddog Gweithredol, Cymru Creations:

Bydd yn rhoi hwb i’r dref. Mae’n hen adeilad tywyll ar hyn o bryd. Rydym yn gobeithio ei adnewyddu i safon dda. Bydd Academi Ffilm Blaenau Gwent yn cael cartref parhaol i fyny’r grisiau. Bydd y llawr gwaelod ar gyfer digwyddiadau o bob math ac i ddod â’r gymuned at ei gilydd eto.

Dysgwch fwy am ffyniant bro.

Cyhoeddwyd ar 17 January 2023