Astudiaeth achos

£9 miliwn ar gyfer canolfan addysg flaenllaw yn y Cymoedd

Ym Mlaenau Gwent, bydd campws peirianneg newydd ar gyfer 600 o bobl ifanc yn cael ei adeiladu gan ddefnyddio dros £9 miliwn o gyllid Ffyniant Bro. Bydd yn cynnig rhaglen o brentisiaethau a lleoliadau diwydiant i'r genhedlaeth nesaf o beirianwyr yn yr ardal.

Campws peirianneg blaenllaw

Bydd cyllid Ffyniant Bro yn cefnogi datblygiad HiVE, sef sefydliad addysg sydd wedi’i leoli yn rhanbarth Blaenau’r Cymoedd. Gweledigaeth HiVE yw arfogi pobl leol â’r sgiliau cywir i gael swyddi medrus iawn â chyflog uchel. Bydd y campws yn galluogi myfyrwyr i ddysgu am a phrofi peirianneg uwch o lefelau 1 i 6. Mae Blaenau Gwent yn ardal sydd wedi wynebu, ac yn parhau i wynebu, heriau economaidd-gymdeithasol sylweddol, a oedd yn y safle isaf yn ddiweddar yn adroddiad Cystadleurwydd diweddaraf y DU..  

Bydd HiVE yn arbenigo mewn:

  • defnyddio realiti estynedig a rhithwir i gynorthwyo dylunio
  • dadansoddi data mewn amser real
  • gweithgynhyrchu

Ar hyn o bryd, nid oes cyfleuster o’r math hwn yn rhanbarth Blaenau’r Cymoedd. Bydd yr arian yn trawsnewid hen adeilad ffatri sydd wedi bod yn wag ers cryn amser yn ffatri addysg a sgiliau uwch-dechnoleg.

Bydd yn cynnwys:

  • ystafelloedd dosbarth ac ardaloedd astudio
  • amrywiaeth o leoedd gweithdy

offer roboteg a gweithgynhyrchu o’r radd flaenaf

Dywedodd Cyngor Blaenau Gwent:

Mewn partneriaeth â Choleg Gwent, a phartneriaid diwydiant, bydd ailddefnyddio’r adeilad ffatri segur, a hyrwyddo adfywio o fewn y gymuned leol, gan gefnogi nodau’r fenter Ffyniant Bro.

Cymorth i ysgolion lleol

Bydd ysgolion ledled Blaenau Gwent ac ysgolion cynradd ac uwchradd Blaenau’r Cwm yn cael mynediad at HiVE, hefyd.

Bydd hyn yn caniatáu iddynt gael:

  • darlithoedd ac arddangosiadau gwadd
  • datblygu gwybodaeth STEM drwy waith prosiect
  • mynediad at offer arbenigol a phrofiadau newydd

Cefnogi’r Rhaglen Cymoedd Technoleg

Mae HiVE wrth galon y Rhaglen Cymoedd Technoleg sydd â’r nod o wneud Cymoedd De Cymru yn ganolfan a gydnabyddir yn fyd-eang ar gyfer datblygu technolegau newydd.

Darganfyddwch fwy am Levelling Up

Cyhoeddwyd ar 1 November 2023