Astudiaeth achos

Buddsoddiad gwerth £50 miliwn ar gyfer Crossrail Caerdydd

Mae £50 miliwn o’r Gronfa Ffyniant Bro wedi cael ei ddyrannu dros dro i Gyngor Caerdydd, mewn partneriaeth â Thrafnidiaeth Cymru, i wella trafnidiaeth gyhoeddus yn y ddinas. Bydd y cyllid yn gwella cysylltedd i, ac o, ardal Bae Caerdydd.

Gwelliannau Crossrail Caerdydd

Bydd y cyllid yn cefnogi cam cyntaf Crossrail Caerdydd - a fydd yn rhedeg o Gaerdydd Canolog i Orsaf Drenau Bae Caerdydd.

Mae’r prosiectau y cynlluniwyd iddynt gael cyllid fel rhan o gam 1 yn cynnwys:

  • rheiliau tramffordd newydd i gysylltu Caerdydd Canolog â llinell Bae Caerdydd
  • platfform newydd yng Ngorsaf Caerdydd Canolog
  • trenau newydd
  • platfform newydd yng Ngorsaf Bae Caerdydd
  • gwelliannau i’r parth cyhoeddus rhwng Caerdydd Canolog a Bae Caerdydd

Buddion i’r ardal leol

Bydd y prosiectau hyn yn cynnig llawer o fanteision fel:

  • rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus mwy cynaliadwy i Gaerdydd
  • cyfleoedd cyflogaeth ychwanegol
  • cysylltedd gwell â chanol y ddinas
  • creu lle bywiog i fyw, gweithio, buddsoddi ac ymweld ag ef

Mae rhaglen Crossrail Caerdydd yn rhan o brosiect ehangach Metro De Cymru

Darganfyddwch fwy am Levelling Up

Cyhoeddwyd ar 1 November 2023