Codau treth
Pam y gallai’ch cod treth newid
Efallai y bydd CThEF yn diweddaru’ch cod treth os yw un o’r canlynol yn berthnasol:
-
rydych yn dechrau cael incwm o bensiwn neu swydd ychwanegol
-
mae swm eich Pensiwn y Wladwriaeth yn newid
-
mae’ch cyflogwr yn rhoi gwybod i CThEF eich bod wedi dechrau neu stopio cael buddiannau o’ch swydd (yn agor tudalen Saesneg)
-
rydych yn cael budd-daliadau’r Wladwriaeth sy’n drethadwy
-
rydych yn hawlio Lwfans Priodasol
-
rydych yn hawlio treuliau rydych yn cael rhyddhad treth arnynt
Mae’n bosibl hefyd y rhoddir cod treth dros dro i chi os byddwch yn newid swydd.
Mewngofnodwch i’ch cyfrif treth personol i wirio neu ddiweddaru’ch manylion gyda CThEF.