Os bydd eich Credyd Cynhwysol yn cael ei adolygu

Efallai y bydd eich cais Credyd Cynhwysol yn cael ei adolygu i sicrhau eich bod yn cael y taliad a’r gefnogaeth gywir.

Os bydd eich cais yn cael ei adolygu, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn cysylltu â chi ac yn rhoi gwybod i chi drwy eich cyfrif ar-lein.

Bydd angen i chi anfon rhai dogfennau i’r DWP i gadarnhau eich manylion a chael cyfweliad ffôn.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English)

Pa ddogfennau y bydd angen i chi eu hanfon

Byddwch yn cael neges yn eich cyfrif ar-lein yn gofyn i weld eich ID a’ch cyfriflenni banc.

Efallai y bydd angen i chi hefyd rannu dogfennau am eich amgylchiadau a faint o Gredyd Cynhwysol rydych yn ei gael. Er enghraifft, efallai y bydd angen i chi ddarparu dogfennau am eich:

  • costau tai
  • enillion neu incwm arall
  • hunangyflogaeth
  • arbedion
  • costau gofal plant
  • plant
  • cyflwr iechyd
  • cyllid Myfyrwyr
  • cyfrifoldebau gofalu

Eich cyfweliad

Cewch eich gwahodd i gyfweliad dros y ffôn i drafod eich cais. Os na fyddwch yn mynychu’r cyfweliad, efallai y bydd eich taliad yn cael ei atal.

Os nad ydych yn cael y swm cywir o Gredyd Cynhwysol

Efallai y bydd yr adolygiad yn canfod eich bod yn cael gormod neu ddim digon yn eich taliad Credyd Cynhwysol.

Os oes angen i’ch Credyd Cynhwysol newid, byddwch yn cael neges yn eich cyfrif ar-lein. Bydd eich taliadau yn y dyfodol yn cael eu newid ac efallai y byddwch yn cael:

  • taliad ychwanegol i wneud yn iawn am yr hyn rydych heb ei gael

  • tynnu arian oddi ar eich taliadau

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad a wnaed yn ystod eich adolygiad, gallwch herio’r penderfyniad.