Budd-dal Plant pan fo’ch plentyn yn troi’n 16 oed

Mae’ch Budd-dal Plant yn dod i ben ar 31 Awst ar neu ar ôl pen-blwydd eich plentyn yn 16 oed os yw’n gadael addysg neu hyfforddiant. 

Mae Budd-dal Plant parhau os yw’ch plentyn yn parhau ag addysg neu hyfforddiant cymeradwy, ond mae’n rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF).

Cewch lythyr yn ystod blwyddyn olaf eich plentyn yn yr ysgol, a fydd yn gofyn i chi gadarnhau ei gynlluniau.  

Dim ond y person sy’n hawlio’r Budd-dal Plant sy’n gallu rhoi gwybod i CThEF ynghylch newidiadau i gynlluniau ei blentyn.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Addysg gymeradwy

Mae’n rhaid i’r addysg fod yn amser llawn (mwy na 12 awr bob wythnos, ar gyfartaledd, o astudio dan oruchwyliaeth neu brofiad gwaith sy’n ymwneud â’r cwrs). Gall y rhain gynnwys:

  • Lefelau A neu debyg – er enghraifft Pre-U, y Fagloriaeth Ryngwladol

  • Lefelau T

  • Scottish Highers

  • NVQs a’r rhan fwyaf o gymwysterau galwedigaethol hyd at lefel 3 – heb gynnwys uwch brentisiaethau

  • addysg yn y cartref – os y’i dechreuwyd cyn i’ch plentyn droi’n 16 oed neu ar ôl iddo droi’n 16 oed os oes ganddo anghenion addysgol arbennig ac anableddau (yn agor tudalen Saesneg)

  • hyfforddeiaethau yn Lloegr

Mae’n rhaid i’ch plentyn gael ei dderbyn ar y cwrs cyn iddo droi’n 19 oed.

Ni allwch gael Budd-dal Plant os yw’ch plentyn yn astudio cwrs ‘uwch’, fel gradd prifysgol neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch BTEC, neu os bydd cyflogwr yn talu am y cwrs.

Os yw’ch plentyn yn aros mewn addysg cymeradwy

Os yw’ch plentyn yn 16 neu 17 ac yn parhau ag addysg gymeradwy, rhowch wybod i CThEF gan ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein.

Bydd angen eich ID Defnyddiwr a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth. Os nad oes gennych gyfrif personol ar gyfer Porth y Llywodraeth, gallwch greu un.

Dechrau nawr

Os yw’ch plentyn rhwng 18 a 20 ac yn parhau ag addysg gymeradwy, rhowch wybod i CThEF gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein CH297.

Os yw’ch plentyn yn gadael addysg gymeradwy

Rhowch wybod i CThEF os yw’ch plentyn yn gadael addysg neu hyfforddiant cymeradwy gan ddefnyddio ffurflen CH459 ar-lein (yn agor tudalen Saesneg).

Hyfforddiant cymeradwy

Dylai hyfforddiant cymeradwy fod yn ddi-dâl a gall gynnwys y canlynol:

  • yng Nghymru: Prentisiaethau Sylfaenol, Hyfforddeiaethau neu gynllun Twf Swyddi Cymru+

  • yn yr Alban: rhaglen No One Left Behind

  • yng Ngogledd Iwerddon: PEACE IV Children and Young People 2.1, Training for Success neu Skills for Life and Work

Nid yw cyrsiau sy’n rhan o gontract gwaith yn gymeradwy.

Os yw’ch plentyn yn aros mewn hyfforddiant cymeradwy

Rhowch wybod i CThEF os yw’ch plentyn yn parhau ag addysg neu hyfforddiant cymeradwy gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein CH297.

Os yw’ch plentyn yn gadael hyfforddiant cymeradwy

Rhowch wybod i CThEF os yw’ch plentyn yn gadael addysg neu hyfforddiant cymeradwy gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein CH459 (yn agor tudalen Saesneg).

Seibiannau dros dro

Cysylltwch â CThEF am seibiannau yn addysg neu hyfforddiant eich plentyn – e.e. os yw’n newid coleg. Efallai y cewch Fudd-dal Plant yn ystod y seibiant.

Pan fo addysg neu hyfforddiant cymeradwy yn dod i ben

Pan fo’ch plentyn yn gadael addysg neu hyfforddiant cymeradwy, bydd taliadau’n dod i ben ar ddiwedd mis Chwefror, 31 Mai, 31 Awst neu 30 Tachwedd (p’un bynnag ddaw gyntaf).

Gwneud cais am estyniad

Mae’n bosibl y gallech gael Budd-dal Plant am 20 wythnos (a elwir yn ‘estyniad’) os yw’ch plentyn yn gadael addysg neu hyfforddiant cymeradwy a’i fod naill ai’n:

Gallwch wneud un o’r canlynol:

I fod yn gymwys, mae’n rhaid i’ch plentyn fodloni’r canlynol:

  • bod yn 16 neu 17 oed

  • gweithio llai na 24 awr yr wythnos

  • peidio â chael budd-daliadau penodol (er enghraifft Cymhorthdal Incwm)

Mae’n rhaid i chi fod wedi bod â hawl i Fudd-dal Plant yn union cyn i’r plentyn adael yr addysg neu’r hyfforddiant cymeradwy a rhaid gwneud cais amdano cyn pen 3 mis ar ôl iddo adael.

Dulliau eraill o roi gwybod i ni

Cysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF i roi gwybod am gynlluniau neu newidiadau.