Canllawiau

Delio â TB yn eich buches: beth i'w wneud os canfyddir TB buchol yn eich buches yng Nghymru

Diweddarwyd 14 February 2024

Applies to Scotland and Wales

Statws TB eich buches

Caiff pob buches ei dosbarthu’n fuches statws heb TB swyddogol (OTF) oni fydd un o’r canlynol yn gymwys:

  • caiff statws y fuches ei ystyried yn anhysbys oherwydd bod prawf TB yn hwyr
  • mae amheuaeth y gallai’r fuches fod wedi’i heintio â TB, er enghraifft o archwiliad yn y lladd-dy
  • mae achos o TB yn y fuches, sy’n golygu bod un neu fwy o’ch anifeiliaid yn methu prawf TB (gelwir yr anifeiliaid hyn yn adweithyddion)

Os bydd prawf TB yn hwyr

Bydd yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn rhoi eich buches o dan gyfyngiadau symud a chaiff ei statws heb TB swyddogol ei atal. Rhoddir statws heb TB swyddogol wedi’i atal (OTFS) i’r fuches. Bydd canlyniadau prawf negatif yn caniatáu i’ch buches gael ei statws heb TB swyddogol yn ôl.

Os amheuir bod TB yn eich buches

Caiff eich buches ei rhoi o dan gyfyngiadau symud a chaiff ei statws heb TB swyddogol ei atal (OTFS).

Os caiff statws eich buches ei atal oherwydd amheuaeth bod TB mewn anifail yn ystod archwiliad yn y lladd-dy, bydd angen i chi gael canlyniad prawf PCR (adwaith cadwynol polymerasau) (neu feithriniad, yn absenoldeb PCR) negatif a phrawf gwirio clir cyn y gall eich buches adennill ei statws heb TB swyddogol.

Os bydd yr anifail yr amheuir ei fod yn heintiedig yn cael canlyniad PCR, neu feithriniad, positif, neu os canfyddir unrhyw adweithydd i’r prawf croen TB, bydd eich buches yn dod yn fuches sydd wedi’i heintio â TB.

Os bydd achos o TB yn eich buches

Caiff eich buches ei rhoi o dan gyfyngiadau a bydd yn rhaid i chi ddilyn y rheolau ar gyfer buchesi sydd wedi’u heintio â TB.

Caiff statws heb TB swyddogol buchesi yng Nghymru ei ddiddymu os canfyddir achos newydd o TB. Rhoddir statws heb TB swyddogol wedi’i ddiddymu (OTFW) iddynt:

  • os canfyddir unrhyw adweithydd i’r prawf croen TB
  • os oes gan anifail a anfonir i’w ladd oherwydd prawf gwaed TB positif friwiau sy’n nodweddiadol o TB neu os yw’n cael canlyniad meithriniad positif
  • os yw samplau o anifail yr amheuir ei fod wedi’i heintio â TB mewn archwiliad mewn lladd-dy yn rhoi canlyniad positif i brawf PCR neu feithriniad

Pan gaiff statws OTF eich buches ei atal neu ei ddiddymu

Statws heb TB swyddogol wedi’i atal (OTFS)

Os amheuir achos o TB, caiff statws OTF eich buches ei atal a chaiff eich buches a phob rif daliad parhaol a dros dro cysylltiedig eu rhoi o dan gyfyngiadau symud.

Amheuir bod achos o TB yn eich buches pan fydd unrhyw un o’r canlynol yn gymwys:

  • pan fydd briwiau yr amheuir eu bod yn arwyddion o TB ar anifail yn eich buches, ar ôl iddo gael ei archwilio mewn lladd-dy
  • pan amheuir bod gan anifail yn eich buches TB mewn safle rendro neu gwb cŵn hela
  • mae un neu fwy o ‘adweithyddion amhendant’ wedi’u canfod yn eich buches
  • pan welir arwyddion clinigol a all fod yn arwyddion o TB mewn anifail byw – gall y rhain gynnwys llesgedd, syrthni, anhawster i anadlu, peswch cronig a theneuo
  • mae prawf eich buches yn hwyr, neu ni ellir profi rhai o’ch gwartheg neu eich gwartheg i gyd am eu bod yn wyllt ac yn anhydrin – yn yr achosion hyn ni ellir diystyru’r posibilrwydd y gallai anifail yn eich buches fod wedi’i heintio â TB

Bydd APHA yn eich hysbysu am ganlyniadau post mortem a statws TB eich buches.

Statws heb TB swyddogol wedi’i ddiddymu (OTFW)

Caiff statws heb TB swyddogol eich buches ei ddiddymu os oes achos o TB yn eich buches pan fydd un neu fwy o’r canlynol yn gymwys:

  • pan fydd un anifail neu fwy wedi methu’r prawf croen twbercwlin ac yn cael eu dosbarthu’n adweithyddion
  • pan fydd anifail â chanlyniad adweithydd amhendant yn cael canlyniad amhendant pellach ar adeg ei ailbrofi
  • pan fydd un adweithydd amhendant neu fwy (i’r prawf croen twbercwlin) yn profi’n bositif i brawf gwaed TB statudol
  • pan fydd adweithyddion amhendant wedi’u datrys a symudwyd yn anghyfreithlon o Loegr i Gymru yn profi’n bositif i brawf gwaed TB
  • pan gaiff Mycobacterium bovis (M.bovis), sef y bacteria sy’n achosi TB buchol, ei ganfod gan PCR, neu feithriniad, o samplau post mortem a gymerwyd o anifail yn eich buches
  • pan fydd ffactorau sy’n dangos bod risg uwch o haint

Os caiff statws heb TB eich buches ei ddiddymu

Caiff eich buches a phob rhif daliad parhaol a dros dro cysylltiedig eu rhoi o dan gyfyngiadau symud.

Gellir adolygu canlyniadau profion TB blaenorol hefyd.

Gellir darllen canlyniadau profion TB mewn 2 ffordd wahanol, gan ddefnyddio dehongliad safonol neu ddehongliad llym.

Pan wneir profion arferol ar fuches OTF, caiff y canlyniadau eu darllen fel arfer gan ddefnyddio dehongliad safonol. Os caiff adweithyddion eu nodi, bydd y profwr yn ailddehongli’r prawf yn ôl y dehongliad llym.

Os caiff statws heb TB eich buches ei ddiddymu, efallai y caiff canlyniadau’r prawf croen twbercwlin diwethaf neu ran o’r prawf eu hadolygu gan ddefnyddio dehongliad llym. Gwneir hyn pan fydd risg uchel o haint o hyd yn eich buches. Gallai’r adolygiad o ganlyniadau’r prawf olygu y caiff mwy o anifeiliaid eu dosbarthu’n adweithyddion neu’n adweithyddion amhendant.

Mewn ardaloedd penodol yng Nghymru, defnyddir y dehongliad llym hefyd mewn profion cyffiniol ac y profion 6 mis a 12 mis a gynhelir ar ôl i achos o TB ddod i ben.

Byddwch yn cael llythyr gan APHA a fydd yn dweud wrthych:

  • canlyniadau’r archwiliad post mortem o’ch adweithyddion
  • unrhyw asesiad o’ch buches
  • Statws TB eich buches

Os oes gan eich buches statws OTFW, bydd angen dau brawf cyfnod byr olynol â chanlyniadau negatif er mwyn i’r cyfyngiadau gael eu codi ac er mwyn i’ch buches adennill statws OTF.

Bydd angen cymryd camau eraill hefyd, gan gynnwys:

  • caiff unrhyw anifeiliaid a symudwyd o’ch buches yn ystod y cyfnod heintiedig eu holrhain a’u profi os yw hynny’n briodol
  • caiff unrhyw fuchesi yn yr ardal eu harchwilio a’u profi os bydd hynny’n briodol (profion cyffiniol)
  • gellir ystyried lladd unrhyw anifeiliaid eraill sy’n wynebu risg uwch o haint fel cysylltiadau uniongyrchol
  • o dan amgylchiadau eithriadol, gellir ystyried lladd yr anifeiliaid sy’n weddill yn y grŵp neu’r fuches os yw’r haint yn ddifrifol ac yn helaeth
  • gellir ystyried rhoi profion gwaed ategol i’r anifeiliaid yn eich buches

Bydd APHA yn hysbysu’ch awdurdodau iechyd ac iechyd amgylcheddol lleol am ganlyniadau’r archwiliadau post mortem neu os ceir canlyniad PCR, neu feithriniad, positif.

Yr hyn y mae’n rhaid i chi ei wneud

Rhaid i chi gydymffurfio â chyfyngiadau symud buches. Mae hyn yn golygu na ddylech symud gwartheg naill ai ar y safle sydd o dan gyfyngiadau nac oddi arno oni chewch drwydded gan APHA.

Os ydych yn cynhyrchu llaeth, rhaid i chi:

  • hysbysu prynwr eich llaeth cyn gynted ag y caiff y cyfyngiadau eu cyflwyno am na chaniateir defnyddio llaeth i’w yfed gan bobl o unrhyw fuches sydd o dan gyfyngiadau TB oni chaiff ei drin â gwres
  • sicrhau na fydd llaeth o unrhyw fuchod sy’n adweithyddion yn mynd i mewn i’r gadwyn fwyd ddynol – gellir gwaredu’r llaeth hwn drwy’r system slyri ond rhaid i chi gydymffurfio â’r rheoliadau ynglŷn â rheoli gwastraff
  • ni ddylech werthu llaeth heb ei basteureiddio i ddefnyddwyr nac i’w ddefnyddio wrth gynhyrchu cynhyrchion llaeth heb eu pasteureiddio

Sut yr ymchwilir i’r clefyd

Bydd un o filfeddygon APHA yn cysylltu â chi i gynnal ymchwiliad i glefyd ar gamau cynnar yr achos.

Bydd yn rhoi cyngor i’ch helpu i leihau’r risg o ledaenu TB buchol a’i ddileu o’ch buches, gan ei gwneud yn bosibl i’r cyfyngiadau gael eu codi. Bydd angen gwybodaeth arno am eich fferm a sut y caiff ei rheoli er mwyn llunio adroddiad clefyd ar gyfer eich buches. Bydd angen i chi feddu ar y canlynol:

  • cofnodion symud, sy’n mynd yn ôl o leiaf ddeufis, ar gyfer symudiadau nas cofnodwyd ar y System Olrhain Gwartheg, fel symudiadau i dir pori neu adeiladau dros dro
  • unrhyw wybodaeth leol a allai helpu i gadarnhau ffynhonnell y clefyd, a ble neu sut y gallai ledaenu

Bydd milfeddyg APHA hefyd yn:

  • asesu ffynonellau posibl yr haint
  • asesu a chynghori ar unrhyw symudiadau a ganiateir i’ch helpu i reoli’ch busnes tra byddwch o dan gyfyngiadau
  • cadarnhau ffiniau’ch daliad ac unrhyw gyswllt posibl â buchesi eraill
  • gweithio allan a oes rhywogaethau eraill ar y fferm a allai ddal TB
  • esbonio’r drefn brofi a sut y gall amrywio yn dibynnu ar ganlyniad yr archwiliadau post mortem a’r profion labordy ar adweithyddion

Bydd y milfeddyg yn rhoi cyngor i chi ar sut i leihau’r risg o ledaenu’r clefyd a’i ddileu o’ch buches er mwyn i’r cyfyngiadau gael eu codi.

Cewch gyngor ar y canlynol:

  • materion o ran iechyd y cyhoedd a goblygiadau’r achos
  • graddau’r cyfyngiadau ar eich safle a ph’un a oes cyfyngiadau symud ar wahân wedi’u rhoi ar safleoedd eraill rydych yn eu ffermio
  • lleihau effaith y cyfyngiadau ar eich busnes
  • rheoli’r risg y bydd yr haint yn lledaenu yn eich buches ac i fuchesi eraill
  • cyfyngu ar fynediad bywyd gwyllt i’ch safle
  • trwyddedau y gellir eu rhoi neu unrhyw amodau ychwanegol a all fod yn angenrheidiol, i’ch galluogi i reoli’ch da byw a’ch busnes yn effeithiol pan fyddwch o dan gyfyngiadau
  • profion gwaed ategol

Beth i’w wneud ag anifeiliaid sy’n cael canlyniad positif i brawf TB (anifeiliaid sy’n adweithyddion)

Adweithydd yw anifail sydd wedi methu prawf ar gyfer TB buchol. Gall hwn fod yn:

  • brawf croen
  • prawf TB gama interfferon
  • unrhyw brawf TB perthnasol arall fel prawf gwrthgyrff IDEXX

Mae adweithyddion hefyd yn cynnwys anifeiliaid sydd wedi cael canlyniad amhendant i ddau brawf olynol gan ddefnyddio dehongliad safonol.

Caiff unrhyw adweithyddion a nodir drwy brawf croen TB eu tagio ar unwaith gan ddefnyddio tag clust DNA er mwyn sicrhau y caiff yr anifail cywir ei ladd.

Rhaid i chi wahanu adweithydd oddi wrth weddill eich buches ar unwaith nes ei fod yn cael ei ladd. Bydd APHA yn trefnu i’r anifail gael ei symud ymaith mor fuan â phosibl i helpu i reoli’r clefyd, lleihau’r risg y bydd yn lledaenu yn y fuches a’ch helpu i adennill statws heb TB swyddogol eich buches.

Yr hyn y mae’n rhaid i chi ei wneud gyda llaeth o wartheg sy’n adweithyddion

Ni ddylai llaeth gan fuwch sy’n adweithydd gael ei yfed gan bobl. Ni ddylech ei ychwanegu at eich swmpdanc.

Ni ddylech fwydo llaeth heb ei drin i loi na mamaliaid eraill ar y safle gan y gallai eu heintio a pheri i’r clefyd barhau’n hirach yn eich buches.

Gellir cael gwared ar laeth gwartheg sy’n adweithyddion yn eich system slyri ond rhaid cael eithriad gwastraff ar gyfer ei daenu ar y tir. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am daenu slyri ar y tir gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Sut y caiff anifeiliaid eu prisio a’ch iawndal

Bydd anifeiliaid sy’n cael eu dosbarthu’n adweithyddion yn cael eu symud ymaith oddi wrth eich buches yn orfodol a’u lladd.

Caiff y gwartheg sy’n adweithyddion eu prisio cyn eu lladd a chewch iawndal priodol amdanynt. Rhaid i chi sicrhau bod y dogfennau adnabod a’r gofynion tagio ar gyfer yr anifeiliaid yn gywir ac yn gyfredol.

Caiff iawndal am anifeiliaid yng Nghymru ei weithio allan drwy brisiad a gynhelir gan brisiwr penodedig a ddewisir gan APHA.

Sut y caiff anifeiliaid eu prisio

Bydd angen i chi ddarparu unrhyw wybodaeth berthnasol ar adeg prisio, er enghraifft, cofnodion cynhyrchu llaeth a thystysgrifau pedigri.

Er mwyn prisio anifail cyflo, bydd angen i chi ddangos y dystysgrif diagnosis beichiogrwydd filfeddygol i’r prisiwr pan fydd yn ymweld. Rhaid i ddyddiad yr archwiliad ar gyfer y beichiogrwydd fod o fewn 90 diwrnod i ddyddiad y prisiad, a rhaid iddo gael ei gynnal drwy archwiliad mewnol â llaw neu ddiagnosis uwchsain.

Mae Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007 (fel y’u diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol i wartheg gael eu hadnabod drwy dagiau clust a phasbort. Os nad oes gan eich gwartheg dagiau clust neu basbort, neu os nad yw’r pasbort yn ddilys, ni fydd gwerth i’r anifeiliaid ar y farchnad am na ellir eu gwerthu ar y farchnad agored.

Mae’r prisiadau yn derfynol ac yn gyfrwymol ar bob parti, sy’n golygu na ellir negodi’r pris a roddir gan y prisiwr.

Bydd APHA yn trefnu i Lywodraeth Cymru dalu am y prisiad.

Sut y caiff eich iawndal ei gyfrifo

Dim ond am anifeiliaid sy’n cydymffurfio â gofynion Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007 (fel y’u diwygiwyd) y mae iawndal yn daladwy.

Ni chewch unrhyw iawndal am anifail sydd i’w ladd, sy’n trigo ar eich daliad cyn iddo gael ei ladd, waeth beth fo achos ei farwolaeth.

Yr uchafswm a delir am anifail unigol yw £5,000.

Gall y cyfrifiad a ddefnyddir i weithio allan yr iawndal a delir o dan Orchymyn TB (Cymru) 2010 (fel y’i diwygiwyd) gael ei leihau o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • achos o dorri rhwymedigaethau’r ceidwad mewn perthynas â phrofion TB, ynysu anifeiliaid, neu ofynion gwahardd symud
  • methiant i gynnal prawf TB ar amser
  • methiant i gydymffurfio â Hysbysiad Gofynion Milfeddygol neu Hysbysiad Gofynion Bioddiogelwch
  • lle caiff anifail ei ladd am ei fod yn wyllt neu’n anhydrin ac na ellir ei brofi
  • methiant gweithredwr i gydymffurfio ag amodau uned besgi gymeradwy
  • oedi gan y ceidwad cyn caniatáu i anifail gael ei symud i’w ladd
  • lle bo ceidwad yn brechu, yn trin anifail buchol ar gyfer TB, neu’n cynnal prawf TB heb ganiatâd ysgrifenedig gan Weinidog Cymru

Os na chyflawnir rhwymedigaethau’r ceidwad, bydd lefel y lleihad yn dibynnu ar ba mor ddifrifol yw’r achos. Gallai hyn olygu mai dim ond 5% o werth y farchnad y byddwch yn ei gael.

Bydd gostyngiad o 50% o iawndal yn gymwys i’r holl wartheg a symudir i ddaliad sydd o dan gyfyngiadau TB o dan drwydded a ddaw’n adweithyddion mewn achos o TB wedi hynny. Gall fod eithriad os oes symudiad rhwng safleoedd sydd o dan gyfyngiadau TB ar wahân o fewn yr un daliad. Cewch eich hysbysu os bydd hyn yn gymwys i’ch buches.

Gall gostyngiad o 50% o iawndal fod yn gymwys hefyd i wartheg a gaiff eu symud o fewn daliad sydd o dan gyfyngiadau TB, sy’n destun Cynllun Gweithredu ac y mae hysbysiadau TB2 ar wahân yn gymwys i barseli tir o fewn y daliad.

Os caiff swm yr iawndal ei leihau, efallai y gohirir eich taliadau gan y bydd APHA yn aros am y ffigurau achub gan y lladd-dy cyn atgyfeirio’r achos at Lywodraeth Cymru i’w dalu. Y gwerth achub fydd isafswm yr iawndal a delir i chi, hyd yn oed os yw’n fwy na’r iawndal gostyngol.

Symud anifeiliaid sy’n adweithyddion ymaith a’u lladd

Fel arfer, APHA fydd yn trefnu bod gwartheg sy’n adweithyddion yn cael eu symud ymaith, eu cludo a’u lladd, ond gallwch chi drefnu hyn yn breifat os dymunwch.

Mewn achosion eithriadol, gellir lladd adweithyddion ar eich safle a gellir symud y carcas er mwyn cynnal archwiliad post mortem a’i waredu. Trefnir hyn gan APHA os na fydd eich anifail yn addas i deithio neu’n addas i bobl ei fwyta, er enghraifft o ganlyniad i gyfnod tynnu cyffuriau yn ôl estynedig.

APHA yn symud anifeiliaid ymaith i’w lladd

APHA fydd yn gyfrifol am drefniadau a chost symud yr adweithydd i ladd-dy, ac ar ôl hynny ei ladd a gwaredu’r carcas os nad yw’n addas i bobl ei fwyta.

Bydd cludydd sydd wedi’i gontractio yn cysylltu â chi i gytuno ar ddyddiad i symud eich anifail neu’ch anifeiliaid ymaith. Dylech helpu i lwytho eich anifail.

Rhaid i chi sicrhau eich bod yn gwneud y canlynol:

  • anfon y ddogfennaeth gywir gyda’ch anifeiliaid i’r lladd-dy a bod y rhifau tagiau clust yn cyd-fynd â’r dogfennau
  • cyflwyno’r anifeiliaid cywir i’w casglu a’u lladd. Ni fydd APHA yn talu iawndal os cyflwynir yr anifail anghywir i’w ladd. Gallai methiant i gyflwyno adweithydd i’w ladd dorri amodau’r Gorchymyn TB
  • bod eich anifeiliaid yn addas i’w cludo. Chi sy’n parhau i fod yn gyfrifol am les yr anifeiliaid yr effeithiwyd arnynt cyn iddynt gael eu symud ymaith i’w lladd, yn enwedig sicrhau eu bod yn ddigon iach i’w cludo yn unol â Gorchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) (Cymru) 2007
  • rhaid bod eich gwartheg mewn cyflwr derbyniol o ran glendid er mwyn iddynt gael eu lladd yn hylan yn unol â Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 (fel y’i diwygiwyd). Ni fydd y cludydd yn llwytho anifeiliaid brwnt. Gallai oedi cyn symud yr anifeiliaid tra rydych yn trefnu iddynt gael eu glanhau neu eu cneifio arwain at lai o iawndal

Mae’r ddeddfwriaeth ar gael yn legislation.gov.uk/cy.

Gallwch archebu copïau o’r ddeddfwriaeth o The Stationery Office Ltd.

Symud anifeiliaid ymaith i’w lladd drwy drefniadau preifat

Os byddwch yn ei drefnu’n breifat, bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • hysbysu APHA pa ladd-dy rydych yn anfon yr anifail iddo ac ar ba ddyddiad. Byddant yn rhoi gwybod i chi a yw’r lladd-dy yn cymryd anifeiliaid sy’n adweithyddion yn rheolaidd o dan gontract. Ar gyfer lladd-dai nad ydynt o dan gontract yn unig, rhaid i chi gadarnhau â’r lladd-dy a thîm lleol yr Asiantaeth Safonau Bwyd bod y trefniadau preifat ar gyfer lladd yr anifeiliaid yn gallu mynd rhagddynt ar gyfer y nifer gofynnol o adweithyddion, a’r dyddiad y cânt eu lladd
  • sicrhau eich bod yn cael y ffurflenni perthnasol gan APHA, yn eu cwblhau fel y bo angen ac yn eu hanfon gyda’r anifeiliaid i’r lladd-dy
  • sicrhau bod rhifau’r tagiau clust ar y dogfennau yn cyfateb i’r rhifau ar dagiau clust swyddogol yr anifeiliaid
  • sicrhau bod y gwaith papur a’r ffurflenni perthnasol yn cael eu hanfon gyda’r anifeiliaid i’r lladd-dy

Os dewiswch drefnu i’ch anifeiliaid gael eu lladd yn breifat, ni thelir iawndal, ond bydd y lladd-dy yn talu unrhyw dâl am achub yn uniongyrchol i chi.

Rhaid i’r anifeiliaid sy’n adweithyddion gael eu lladd o fewn 10 diwrnod gwaith o gael eu nodi. Os na ellir gwneud hynny, gall y cyfrifoldeb am symud yr anifeiliaid ymaith gael ei drosglwyddo i APHA, a allai arwain at lai o iawndal.

Os caiff carcas yr anifail ei gondemnio (nid yw’n addas i bobl ei fwyta) neu ei gondemnio’n rhannol, oherwydd TB neu reswm arall, gall y tâl am achub a delir gan y lladd-dy fod yn llai neu efallai na wneir unrhyw daliad. Nid yw APHA yn gyfrifol am dalu iawndal am unrhyw daliad gostyngedig, neu am unrhyw gostau sy’n gysylltiedig â gwaredu’r carcas.

Archwiliad post mortem o wartheg sy’n adweithyddion

Caiff carcasau gwartheg sy’n adweithyddion eu harchwilio, lle y bo’n briodol, am dystiolaeth o haint a, lle y bo angen, i gasglu samplau o feinweoedd ar gyfer diagnosis mewn labordy.

Gall natur y briwiau a’u maint yn y carcas ddangos a oedd y clefyd ar gam cynnar neu gam datblygedig neu sut y cafodd yr anifail ei heintio.

Os oes sawl adweithydd, efallai na fydd samplau yn cael eu casglu o bob anifail sy’n cael ei ladd. Bydd y labordy yn cynnal profion PCR ar samplau a gasglwyd o’r adweithydd er mwyn ceisio canfod TB buchol.

Bydd hyn yn cymryd o leiaf 3 wythnos ac mae’r canlyniadau yn helpu APHA i ddeall natur yr achos o TB. Bydd APHA yn ysgrifennu atoch gyda chanlyniadau unrhyw archwiliad post mortem ac unrhyw samplau a anfonwyd i gynnal profion PCR arnynt.

Os canfyddir briwiau mewn archwiliad post mortem neu os bydd canlyniadau PCR, neu feithriniad, yn bositif ar gyfer M. bovis, caiff statws OTF eich buches ei ddiddymu (OTFW) os cafodd ei atal yn flaenorol (OTFS).

Caiff y canlyniadau o’r prawf croen twbercwlin diwethaf neu ran o’r prawf eu hadolygu a’u hailddehongli. Gwneir y dehongliad llym hwn i leihau’r risg y bydd yr haint yn aros yn eich buches. Gall yr adolygiad olygu y bydd mwy o anifeiliaid yn cael eu dosbarthu’n adweithyddion.

Bydd angen cynnal rhagor o brofion ar eich buches er mwyn lleihau’r risg y bydd yr haint yn aros ar eich fferm.

Ar ôl gorfod symud adweithydd, adweithydd amhendant neu gyswllt uniongyrchol gan APHA, bydd angen i’ch buches gwblhau 2 brawf clir yn olynol.

Bydd y ffordd y dehonglir y profion hyn yn dibynnu ar y risg o haint yn eich buches:

  • Cynhelir profion croen TB fel arfer yn unol â dehongliad safonol
  • lle mae risg uwch o haint mewn buchesi sydd â statws OTFW, defnyddir dehongliad llym er mwyn cynyddu sensitifrwydd y prawf a lleihau’r posibilrwydd o adael gwartheg wedi’u heintio yn eich buches

Nid yw archwiliad post mortem yn dechneg berffaith ar gyfer nodi TB buchol. Nid yw methiant i ganfod briwiau TB neu nodi M.Bovis drwy PCR, neu feithriniad, yn golygu nad oedd yr anifail wedi’i heintio â TB buchol.

Ar gamau cynnar datblygiad y clefyd yn benodol, yn aml nid yw’r briwiau’n weladwy, ac oherwydd natur yr organeb, nid yw bob amser yn bosibl ei chanfod mewn samplau.

Prif ddiben archwiliad post mortem a PCR, neu feithriniad, ar adweithyddion prawf yw nodi difrifoldebau’r haint a pha fath o haint ydyw, yn hytrach na chanfod a yw’r clefyd yn bresennol ai peidio. Mae hyn yn ddefnyddiol er mwyn cefnogi ymdrechion i reoli’r clefyd.

Os oes gennych adweithyddion amhendant

Mae adweithyddion amhendant yn bwysig am fod statws clefyd yr anifail yn ansicr.

Rhaid i unrhyw anifail sydd wedi’i ddosbarthu’n adweithydd amhendant gael ei gadw ar y fferm a’i wahanu oddi wrth weddill y fuches er mwyn lleihau’r risg y bydd TB yn lledaenu i wartheg eraill. Bydd eich buches yn destun cyfyngiadau symud yn awtomatig os nad oes cyfyngiadau arno eisoes.

Bydd APHA yn cyflwyno hysbysiad ynysu i chi yn cadarnhau bod gennych adweithydd amhendant ac yn rhoi cyfarwyddiadau ynghylch yr hyn y mae’n rhaid i chi ei wneud. Mae’r hyn sy’n digwydd nesaf yn dibynnu’n bennaf ar b’un a ganfuwyd adweithyddion yn yr un fuches.

Adweithyddion amhendant a nodwyd mewn buchesi heb eu heintio

Pan gaiff adweithwydd amhendant ei nodi, caiff y fuches gyfan ei rhoi o dan gyfyngiadau symud. Bydd y cyfyngiadau hyn ar waith nes bod yr adweithydd amhendant yn cael ei brofi eto ac yn cael canlyniadau negatif.

Profir adweithyddion amhendant eto ar ôl 60 diwrnod.

Os bydd prawf yr adweithydd amhendant yn glir (canlyniad negatif), gall ailymuno â’r fuches a chaiff y cyfyngiadau symud eu codi.

Os na fydd ail brawf yr adweithydd amhendant yn glir (canlyniad positif), bydd yn dod yn adweithydd a chaiff ei symud ymaith i’w ladd. Bydd y fuches yn dod yn fuches sydd wedi’i heintio.

Os yw’n dal i fod yn adweithydd amhendant, gyda chanlyniad adweithydd amhendant o dan ddehongliad safonol mewn dau brawf yn olynol, caiff ei ddosbarthu’n adweithydd a’i symud ymaith i’w ladd yn yr un ffordd ag adweithydd prawf. Bydd y fuches yn dod yn fuches sydd wedi’i heintio.

Mewn ardaloedd penodol yng Nghymru, defnyddir y dehongliad llym mewn profion cyffiniol ac yn y profion 6 mis a 12 mis a gynhelir ar ôl i achos ddod i ben.

Os caiff adweithyddion amhendant eu nodi yn un o’r profion hyn, ond dim adweithyddion, bydd yr adweithyddion amhendant yn cael prawf gwaed gama interfferon TB ychwanegol.

Bydd unrhyw anifail â chanlyniad positif yn dod yn adweithydd ac yn cychwyn achosion o TB.

Os bydd yr holl adweithyddion amhendant yn rhoi canlyniadau negatif i’r prawf gama interfferon, bydd y prawf yn cael ei ailddehongli i ddehongliad safonol. Bydd unrhyw adweithyddion amhendant sy’n weddill yn y dehongliad safonol yn cael ail brawf croen TB.

Tra bod buches yn destun cyfyngiadau tan i un neu fwy o adweithyddion amhendant gael eu hailbrofi, caiff pob daliad parhaol a dros dro cysylltiedig ei roi o dan gyfyngiadau symud ar wahân.

Pan fyddwch o dan gyfyngiadau symud, bydd angen trwydded arnoch gan APHA i symud gwartheg i ddaliadau cysylltiedig, oddi arnynt neu rhwng y daliadau hynny. Rhaid i wartheg sy’n symud rhwng daliadau cysylltiedig fod wedi cael prawf croen clir yn ystod y 30 diwrnod blaenorol oni bai eu bod o dan 42 diwrnod oed.

Caiff statws y fuches ei newid i OTFW os:

  • bydd adweithydd amhendant yn cael canlyniad positif i brawf gwaed
  • bydd adweithydd amhendant a roddodd ganlyniad prawf gwaed negatif yn cael prawf croen TB arall a bydd naill ai’n adweithydd neu’n adweithydd amhendant yn yr ail brawf hwn

Adweithyddion amhendant a nodwyd mewn buchesi sydd wedi’u heintio

Bydd cyfyngiadau symud y fuches gyfan yn gymwys a bydd yr adweithyddion amhendant yn cael eu rheoli o fewn y gyfundrefn profion parhaus ar gyfer achosion o TB.

Fel arfer caiff adweithyddion amhendant eu profi eto ar ôl 60 diwrnod, fel rhan o’r prawf cyfnod byr, gyda gweddill y fuches:

  • os bydd y profion ar adweithydd amhendant yn glir, gall ailymuno â’r fuches
  • os yw’n dal i fod yn adweithydd amhendant caiff ei ddosbarthu’n adweithydd a’i symud ymaith i’w ladd yn yr un ffordd ag adweithydd prawf. Bydd hyn yn digwydd pan fydd anifail yn cael canlyniad adweithydd amhendant o dan ddehongliad safonol mewn dau brawf yn olynol
  • os yw’r anifail wedi’i nodi’n adweithydd amhendant mewn dau brawf yn olynol, ond bod un o’r canlyniadau hyn neu’r ddau ohonynt o dan ddehongliad llym yn unig, bydd angen i’r anifail gael prawf gama interfferon (ac weithiau prawf gwrthgyrff IDEXX). Os yw’n cael canlyniad negatif i’r profion gwaed TB hyn, bydd yn cael trydydd prawf croen, sef yr un olaf. Os yw’r anifail yn dod yn adweithydd amhendant am y trydydd tro caiff ei symud ymaith i’w ladd fel adweithydd

Os byddai’r prawf lle canfuwyd yr adweithydd amhendant wedi galluogi i’r fuches adennill ei statws OTF, caiff yr adweithydd amhendant ei brofi mewn ail brawf adweithydd amhendant unigol ar ôl 60 diwrnod:

  • os bydd y profion ar adweithydd amhendant yn glir gall ailymuno â’r fuches a gellir codi’r cyfyngiadau ar y fuches a’i galluogi i gael statws heb TB swyddogol
  • os yw’n dal i fod yn adweithydd amhendant, bydd yn gymwys i gael prawf gama interfferon neu gael ei ddosbarthu’n adweithydd, yn dibynnu ar y dehongliad a ddefnyddiwyd i’w ddatgelu fel adweithydd amhendant. Os caiff ei ddosbarthu’n adweithydd, caiff ei symud ymaith i’w ladd yn yr un ffordd ag adweithydd prawf a bydd y fuches yn parhau â’r gyfundrefn profi ar gyfer achos o TB

Mewn buchesi lle mae achos yn para am fwy na 18 mis, ac mewn buchesi â Chynllun Gweithredu Buches Unigol:

  • caiff adweithyddion amhendant lle y defnyddir dehongliad safonol eu symud ymaith
  • caiff adweithyddion amhendant lle y defnyddir dehongliad llym brofion gama interfferon a gwrthgyrff IDEXX pellach

Mewn rhai ardaloedd o Gymru, caiff adweithyddion amhendant sy’n cael prawf terfynol cyn i gyfyngiadau gael eu codi brawf gama interfferon.

Lladd adweithyddion amhendant yn breifat

Gallwch drefnu i adweithydd amhendant gael ei ladd yn breifat ar eich traul eich hun. Rhaid i chi roi gwybod i APHA o leiaf 5 diwrnod gwaith ymlaen llaw. Bydd yn rhoi trwydded a fydd yn caniatáu i’r anifail deithio i ladd-dy o’ch dewis. Rhaid i chi gadarnhau bod y lladd-dy yn derbyn adweithyddion amhendant.

Bydd APHA yn trefnu i’r adweithydd amhendant gael ei archwilio yn y lladd-dy i weld a oes unrhyw dystiolaeth o TB buchol ac efallai y bydd yn gofyn am samplau o feinwe i gynnal profion PCR arnynt. Ni thelir iawndal am unrhyw adweithydd amhendant a gaiff ei ladd yn breifat. Gallai gwneud hyn, yn hytrach nag aros am ganlyniad y prawf TB nesaf, arwain at brofion ychwanegol neu gyfyngiadau hwy ar eich buches, neu’r ddau. Trafodwch y canlyniadau posibl ag APHA.

Os bydd adweithydd amhendant yn trigo ar y fferm neu os bydd yn rhaid ei ddifa am resymau lles, bydd angen i chi hefyd hysbysu APHA ar unwaith gan y bydd angen cynnal archwiliad post mortem yn y rhan fwyaf o achosion. Ni chewch unrhyw iawndal am adweithyddion amhendant sy’n trigo ar eich fferm cyn cael eu lladd.

Mesurau bioddiogelwch y mae’n rhaid i chi eu dilyn

Glanhau a diheintio

Mae glanhau a diheintio yn lleihau’r risg y bydd haint yn lledaenu i wartheg neu anifeiliaid eraill ar eich fferm a allai ddal TB.

Gall TB buchol oroesi yn yr amgylchedd am gyfnod hir, o dan amgylchiadau penodol. Gall hyd y cyfnod amrywio cryn dipyn ac mae’r amodau sy’n effeithio ar hyn yn cynnwys pethau fel tymheredd a lleithder.

Cewch hysbysiad gan APHA ar ddechrau eich achos o TB yn dweud wrthych sut y bydd angen i chi lanhau a diheintio’n drwyadl bob adeilad, offer a chyfarpar lle mae gwartheg sy’n adweithyddion wedi cael eu cadw.

Mae hefyd yn arfer da i ystyried rhoi mesurau bioddiogelwch ychwanegol ar waith er mwyn helpu i atal y risg y bydd yr haint yn lledaenu ymhellach. Dylai storfeydd bwyd a mannau bwydo gael eu diogelu rhag halogiad posibl gan anifeiliaid sydd wedi’u heintio ac anifeiliaid bywyd gwyllt fel moch daear a cheirw. Sicrhewch fod ffensys perimedr, gan gynnwys mynedfeydd, yn ddigonol er mwyn atal cyswllt trwyn wrth drwyn ag anifeiliaid eraill.

Rhaid i’r diheintydd a ddefnyddir ar gyfer glanhau a diheintio fod yn un sydd wedi’i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru i’w ddefnyddio rhag TB buchol a rhaid ei ddefnyddio yn y crynodiad priodol. Edrychwch ar y rhestr o ddiheintyddion a gymeradwyir gan Defra. Mae’n bwysig glanhau a diheintio unrhyw ffitiadau neu gyfarpar a allai fod wedi dod i gysylltiad â phoer, ysgarthion neu laeth adweithyddion TB.

Bydd angen i chi lofnodi datganiad ar yr hysbysiad glanhau a diheintio gan APHA unwaith y bydd y broses glanhau a diheintio wedi’i chwblhau ar ôl i’r adweithyddion gael eu symud ymaith. Ni all cyfyngiadau TB gael eu codi ar ddiwedd yr achos nes bod APHA wedi derbyn y datganiad wrthych.

Caiff yr hysbysiad hwn ei gyflwyno o dan amgylchiadau eraill, er enghraifft yn achos heintio ar raddfa helaeth, diboblogi neu adael safle lle mae adweithyddion (neu wartheg eraill o achos parhaus) wedi cael eu lleoli.

Os ydych yn gadael y safle a bod gwartheg eraill nad ydynt o dan gyfyngiadau yn symud i’r safle, bydd angen i chi lanhau a diheintio’r holl adeiladau a ddefnyddiwyd gan unrhyw rai o’ch gwartheg a gadael y tir pori heb wartheg am gyfnod o 60 diwrnod o leiaf, ac am fwy o amser dros y gaeaf.

Fel arfer bydd cyfyngiadau yn parhau ar waith tan 60 diwrnod ar ôl i’ch gwartheg olaf adael y safle ac ar ôl i’r broses glanhau a diheintio gael ei chwblhau.

Gwaredu slyri a thail

Gallwch ddefnyddio’ch slyri neu’ch tail eich hun ar eich tir eich hun tra bod cyfyngiadau TB ar waith, ond dylech ystyried y risg y caiff y clefyd ei ledaenu i dda byw eraill neu fywyd gwyllt.

Mae’n arfer da chwistrellu sarn a thail o safle sydd o dan gyfyngiadau â diheintydd a gymeradwywyd. Yna dylent gael eu symud a’u pentyrru am o leiaf 3 wythnos cyn iddynt gael eu taenu. Yn ddelfrydol, dylai slyri gael ei storio am o leiaf chwe mis cyn cael ei daenu.

Dylid cymryd gofal i atal unrhyw dda byw rhag dod i gysylltiad â sarn a thail sydd wedi’u pentyrru.

Os oes modd, dylid gwaredu tail a slyri o safle sydd o dan gyfyngiadau TB ar dir a ddefnyddir ar gyfer cnydau âr. Fodd bynnag, os oes rhaid i dail neu slyri gael eu gwaredu lle mae gwartheg yn pori, dylid ei daenu o leiaf 60 diwrnod cyn bod unrhyw wartheg yn cael mynd ar y tir. Dylai’r dulliau a ddefnyddir gennych i daenu tail a slyri sydd wedi’u heintio o bosibl osgoi halogi drwy’r awyr.

Profi yn ystod achos o TB

Profion cyfnod byr

Caiff buchesi eu profi tua phob 60 i 90 diwrnod yn ystod achos o TB. Gelwir y profion hyn yn brofion cyfnod byr. Fel arfer mae profion cyfnod byr yn cynnwys pob anifail yn y fuches. Mae’r cyfnod o 60 diwrnod yn dechrau o’r dyddiad y gadawodd yr adweithydd olaf eich buches.

Pan fydd statws TB eich buches wedi’i ddiddymu (OTFW):

  • bydd angen i chi gael dau brawf cyfnod byr clir yn olynol ar ôl i unrhyw adweithyddion gael eu symud ymaith, a phrofion clir ar gyfer unrhyw adweithyddion amhendant
  • caiff canlyniadau’r prawf ar ddechrau’r achos eu hailasesu gan ddefnyddio dehongliad llym
  • caiff dehongliad llym ei ddefnyddio hefyd ar gyfer unrhyw brawf gwirio buches a gynhelir ar unwaith ac ar gyfer y prawf cyfnod byr cyntaf

Bydd y ffordd y dehonglir yr ail brawf cyfnod byr a’r profion cyfnod byr dilynol yn dibynnu ar y risg o haint yn eich buches.

Ni ellir symud gwartheg sydd wedi cael pigiadau twbercwlin oddi ar y safle, hyd yn oed i gael eu lladd, nes i ganlyniadau’r prawf gael eu darllen. Mewn achosion eithriadol, bydd APHA yn rhoi trwydded i ganiatáu symudiadau o’r fath.

Profion gama interfferon a gwrthgyrff IDEXX ar gyfer M.bovis

Gellir defnyddio’r profion gama interfferon a gwrthgyrff IDEXX mewn achos o TB i helpu i adnabod anifeiliaid sydd wedi’u heintio â TB.

Nid yw’r profion hyn yn disodli’r prawf croen twbercwlin, sef y prif brawf sgrinio ar gyfer TB buchol, ond byddant yn gwella’r cyfle o ganfod gwartheg wedi’u heintio.

Defnyddir profion gama interfferon ar y canlynol:

  • anifeiliaid sydd wedi cael prawf twbercwlin negatif neu adweithyddion amhendant ar gyfer pob achos newydd o TB yn yr Ardal TB Isel ac Ardal TB Canolraddol y Gogledd
  • anifeiliaid mewn buchesi sydd wedi cael prawf twbercwlin negatif neu adweithyddion amhendant mewn achosion difrifol o TB, i lywio’r penderfyniadau ynghylch lladd buches yn rhannol neu’n gyfan gwbl
  • anifeiliaid sydd wedi cael prawf twbercwlin negatif neu adweithyddion amhendant mewn buchesi lle mae achosion o ailheintio â TB neu achosion parhaus o’r haint ac sy’n methu â chael eu datrys gan sawl prawf cyfnod byr
  • anifeiliaid sydd wedi’u nodi fel adweithyddion amhendant mewn dau brawf yn olynol ond nad ydynt wedi’u dosbarthu’n adweithyddion oherwydd y dehongliad a ddefnyddir yn y prawf croen
  • anifeiliaid sydd wedi’u nodi fel adweithyddion amhendant o dan ddehongliad llym mewn buchesi ag achosion parhaus o TB ac mewn buchesi â Chynllun Gweithredu
  • anifeiliaid sydd wedi’u nodi fel adweithyddion amhendant mewn buchesi sydd wedi’u heintio mewn rhai lleoliadau yng Nghymru
  • adweithyddion amhendant sydd wedi’u nodi mewn profion cyffiniol a phrofion ar ôl achos 6 mis a 12 mis mewn ardaloedd penodol o’r ardaloedd TB canolraddol ac isel wedi’u darllen drwy ddefnyddio’r dehongliad llym, lle na chafodd adweithyddion eu nodi

Caiff anifeiliaid sy’n methu unrhyw brawf diagnostig statudol ar gyfer TB buchol, gan gynnwys y profion gama interfferon ac IDEXX, eu lladd.

Mae’r Gorchymyn Twbercwlosis yn caniatáu ar gyfer lladd yr anifeiliaid hyn yn orfodol. Mae gennych hawl i’r un trefniadau iawndal ar gyfer yr anifeiliaid hyn a byddant yn cael eu symud ymaith yn yr un ffordd ag adweithyddion i’r prawf croen.

Ni ellir symud gwartheg y mae sampl wedi’i chymryd ohonynt er mwyn cynnal prawf gwaed TB arni oddi ar y safle, hyd yn oed i gael eu lladd, nes i ganlyniadau’r prawf ddod i law. Mewn achosion eithriadol, bydd APHA yn rhoi trwydded i ganiatáu symudiadau o’r fath.

Profi ar ôl codi cyfyngiadau

Ar ôl i gyfyngiadau symud gael eu codi ar ddiwedd achos o TB, bydd eich buches yn adennill ei statws OTF. Fodd bynnag, bydd angen cynnal rhagor o brofion twbercwlin er mwyn sicrhau:

  • na chollwyd unrhyw anifeiliaid sydd wedi’u heintio mewn profion blaenorol
  • nad oes unrhyw anifeiliaid wedi cael eu hailheintio

Mae’r profion hyn yn cwmpasu’r holl wartheg dros 42 diwrnod oed a chynhelir y prawf cyntaf chwe mis i’r dyddiad y cynhaliwyd y prawf cyfnod byr diwethaf cyn i’r cyfyngiadau TB gael eu codi ar eich buches.

Os yw’r prawf yn negatif, bydd angen cynnal ail brawf 12 mis ar ôl dyddiad y prawf chwe mis, oni bai bod eich buches o fewn yr Ardal Triniaeth Ddwys (IAA) lle mae profion rheolaidd yn amlach.

Os bydd yr ail brawf yn negatif, bydd eich buches yn dychwelyd i’r drefn brofi flynyddol arferol.

Mewn ardaloedd penodol yng Nghymru, caiff y profion 6 mis a 12 mis eu darllen yn ôl y dehongliad llym.

Symudiadau ar ac oddi ar safle sydd o dan gyfyngiadau

Gall fod sefyllfaoedd pan fyddwch eisiau symud gwartheg ar eich safle neu oddi arno tra bod y safle o dan gyfyngiadau symud – at ddibenion rheoli, bridio, er mwyn eu lladd, eu gwerthu neu er mwyn iddynt gael eu magu o dan gontract. Yn gyffredinol ni chaniateir unrhyw symudiadau, ond mewn rhai sefyllfaoedd risg isel gellir awdurdodi symudiadau o dan drwydded a gyhoeddir gan APHA.

Mae ceisiadau am drwyddedau symud yn amodol ar asesiad risg milfeddygol unigol gan APHA, sy’n ystyried y posibilrwydd y gallai clefyd gael ei gyflwyno i’ch buches neu y gallai clefyd ledaenu o fewn eich buches ac i fuchesi eraill.

Dylai symudiadau ar neu oddi ar eich safle gael eu trafod gydag un o filfeddygon APHA yn ystod yr ymweliad cychwynnol i drafod sut y gellir rheoli’r clefyd ar eich safle. Gallwch hefyd gysylltu ag APHA am arweiniad.

Os yw’r cyfyngiadau ar waith am fod profion ar eich safle yn hwyr, bydd statws TB eich buches yn anhysbys ac ni chaiff trwyddedau i symud gwartheg ar neu oddi ar y safle eu rhoi, oni bai eu bod yn mynd yn uniongyrchol i ladd-dy.

Symud gwartheg o fewn safle’r achos o TB

Gallwch symud anifeiliaid rhwng rhannau o’ch safle a nodwyd o dan yr un cyfyngiad symud (TB02) heb drwydded. Gall rheoliadau eraill fod yn gymwys o hyd, megis profion cyn symud, rheolau gwahardd symud a’r gofyniad i roi gwybod am symudiadau.

Efallai y bydd yn bosibl symud gwartheg sydd wedi cael prawf negatif o un safle sydd o dan gyfyngiadau TB i safle arall sydd o dan gyfyngiadau TB o dan awdurdod trwydded, ond rhaid i hyn fod yn amodol ar asesiad risg milfeddygol boddhaol, prawf clir yn y 30 diwrnod blaenorol a thrwydded.

Symud gwartheg oddi ar safle sydd o dan gyfyngiadau TB

Gellir rhoi trwydded, ar yr amod bod y risg o ledaenu’r clefyd yn isel, ar gyfer symud anifeiliaid oddi ar eich safle. Gall y symudiadau canlynol gael eu hystyried gan APHA, ond mae angen trwyddedau ar gyfer y symudiadau hyn a dim ond os na fydd y symudiad yn peri risg o ledaenu’r clefyd y cânt eu rhoi.

Symud anifeiliaid i’w lladd

Efallai y cewch drwydded symud gyffredinol (TB24c), a fydd yn golygu nad oes angen i chi wneud cais am drwydded symud benodol bob tro y byddwch yn mynd â gwartheg sydd wedi cael prawf clir i gael eu lladd. Nid oes angen i’r drwydded aros gyda’r anifeiliaid wrth iddynt gael eu cludo.

Mewn sefyllfaoedd lle ceir risg uchel, lle na ellir caniatáu trwydded gyffredinol, bydd angen i chi gael trwydded symud benodol (TB24). Rhaid i chi wneud cais am hon ymlaen llaw a rhaid iddi aros gyda’r anifeiliaid wrth iddynt gael eu cludo. Bydd angen i chi roi rhifau tagiau clust y gwartheg sy’n cael eu symud i APHA i’w cynnwys ar y drwydded hon. Bydd yn nodi pa anifeiliaid y gellir eu symud, dim ond un symudiad penodol y bydd yn ei ganiatáu ac mae am gyfnod penodedig. Rhaid i chi wneud cais am y drwydded hon o leiaf bum diwrnod cyn y symudiad arfaethedig i wneud yn siŵr y bydd trwydded yn cyrraedd mewn pryd i symud yr anifeiliaid.

Yn ogystal â’r drwydded symud angenrheidiol, rhaid i chi wneud yn siŵr bod dogfennau adnabod swyddogol anifeiliaid (pasbort neu dystysgrif o gofrestriad gyda’r System Olrhain Gwartheg) a’r Wybodaeth am y Gadwyn Fwyd (FCI) angenrheidiol wedi’u cynnwys gyda’r anifeiliaid wrth iddynt deithio i’r lladd-dy. Bydd angen dogfennaeth benodol ychwanegol arnoch i anfon adweithyddion, adweithyddion amhendant a chysylltiadau uniongyrchol i gael eu lladd, a darperir hon gan APHA.

Nid yw APHA yn gyfrifol am unrhyw golled nac anghyfleuster a achosir i chi os ydych yn methu â chyflwyno’r holl waith papur angenrheidiol ar gyfer anifeiliaid sy’n cael eu lladd o dan drwydded.

Gofynion eraill wrth symud anifeiliaid i’w lladd

Wrth symud anifeiliaid i’w lladd mae gofynion eraill y dylech eu hystyried.

Glendid

Rhaid i’r holl wartheg a anfonir i ladd-dy fod o safon dderbyniol o ran glendid at ddibenion lladd hylan. Darllenwch gyhoeddiad yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar agweddau gwahanol ar dda byw glân neu gellir ei archebu gan uned cyhoeddiadau’r Asiantaeth Safonau Bwyd ar 0845 606 0667.

Gwartheg a anwyd neu a fagwyd yn y DU cyn 1 Awst 1996

Mae’r gwartheg hyn wedi’u heithrio’n barhaol o’r gadwyn fwyd ac mae’n anghyfreithlon eu hanfon i’w lladd er mwyn iddynt gael eu bwyta gan bobl. Ar ddiwedd eu bywydau cynhyrchiol, rhaid i’r carcasau gael eu trin yn yr un ffordd â stoc trig.

Symud anifeiliaid i’w lladd drwy farchnad ladd neu ganolfan gasglu TB gymeradwy

Gall gwartheg sydd wedi cael prawf croen negatif yn ystod y 90 diwrnod blaenorol, neu loi o dan 42 diwrnod oed sydd heb eu profi, symud i gael eu lladd drwy ganolfan gasglu neu farchnad ‘goch’ sydd wedi cael ei chymeradwyo’n benodol ar gyfer gwartheg sydd o dan gyfyngiadau TB, a hynny o dan drwydded a roddir gan APHA.

Gall y symudiad hwn ddigwydd o dan drwydded symud gyffredinol (TB24b), y bydd angen i chi nodi rhifau tagiau clust y gwartheg sy’n cael eu symud arni, a gall APHA roi’r drwydded hon ar yr amod bod yr asesiad risg yn foddhaol.

Symudiad i safleoedd eraill sydd o dan gyfyngiadau TB

Gellir rhoi trwydded i symud gwartheg sydd wedi cael prawf clir o fewn y 30 diwrnod blaenorol o un safle sydd o dan gyfyngiadau i un arall, ond rhaid bod gan y safle y symudir y gwartheg iddo statws TB sydd â’r un risg neu risg uwch na’r fferm wreiddiol.

Mae’r symudiadau hefyd yn amodol ar asesiad risg milfeddygol cyn y gellir rhoi trwydded. Efallai y bydd rhai goblygiadau i’ch trefn brofi eich hun hefyd os prynwch wartheg oddi wrth fferm arall sydd o dan gyfyngiadau TB. Bydd APHA yn eich hysbysu am hyn cyn i drwydded gael ei rhoi.

Symud anifeiliaid i unedau pesgi cymeradwy

Gellir anfon gwartheg o fuchesi sydd o dan gyfyngiadau y mae eu profion croen yn negatif i unedau pesgi cymeradwy o dan drwydded er mwyn eu magu a’u pesgi cyn eu hanfon i gael eu lladd. Gellir anfon lloi heb eu profi sydd o dan 42 diwrnod oed i uned besgi gymeradwy hefyd o dan drwydded.

Fel arfer, ni chaniateir y symudiadau hyn os gallai’r prawf nesaf ar y fuches arwain at godi cyfyngiadau symud, oni bai bod yr anifeiliaid:

  • yn lloi o dan 42 diwrnod oed
  • yn lloi rhwng 42 a 89 diwrnod oed a’u bod yn dod o ddaliad llaeth (ar yr amod bod y risg yn dderbyniol)

Symud i unedau gwahanu TB cymeradwy

Gellir anfon gwartheg o un fuches sydd o dan gyfyngiadau ac sydd wedi cael canlyniad prawf croen negatif yn ystod y 60 diwrnod blaenorol i uned wahanu TB gymeradwy o dan drwydded dros gyfnod o chwe wythnos. Er mwyn i’r uned wahanu adennill statws heb TB, bydd angen i’r holl wartheg yn yr uned gael dau brawf negatif yn olynol, gyda’r prawf diwethaf o leiaf 120 diwrnod ar ôl i’r anifail olaf gael ei symud i’r uned.

Symud anifeiliaid drwy arwerthiant arbennig ar gyfer gwartheg sydd o dan gyfyngiadau TB

Gall gwartheg symud, o dan drwydded, drwy arwerthiant arbennig ar gyfer gwartheg sydd o dan gyfyngiadau TB sydd wedi cael ei gymeradwyo gan APHA at y diben hwn. Cynhelir yr arwerthiannau hyn yng Nghymru a Lloegr. Rhaid bod yr holl wartheg wedi cael prawf croen â chanlyniadau negatif yn ystod y 90 diwrnod blaenorol, ac eithrio lloi o dan 42 diwrnod oed.

Fel arfer, ni chaniateir y symudiadau hyn os gallai’r prawf nesaf ar y fuches arwain at godi cyfyngiadau symud, oni bai bod yr anifeiliaid:

  • yn lloi o dan 42 diwrnod oed
  • yn lloi rhwng 42 a 89 diwrnod oed a’u bod yn dod o ddaliad llaeth (ar yr amod bod y risg yn dderbyniol)

Caniateir symudiadau o’r arwerthiannau hyn naill ai i uned besgi gymeradwy yng Nghymru a Lloegr, neu i ladd-dy yng Nghymru a Lloegr.

Dysgwch fwy am gyfleusterau cymeradwy ar gyfer gwartheg sydd o dan gyfyngiadau TB.

Symud gwartheg ar safle sydd o dan gyfyngiadau TB o safle nad yw o dan gyfyngiadau

Gallwch wneud cais am drwydded i symud gwartheg o safle nad yw o dan gyfyngiadau i’ch safle chi. Bydd angen i chi gwblhau eich prawf cyfnod byr cyntaf cyn y gellir ystyried rhoi trwydded i chi ailgyflenwi stoc eich buches.

Dim ond ar ôl asesiad risg boddhaol gan APHA y gellir rhoi trwydded ac efallai y bydd yn cynnwys amodau ychwanegol. Bydd yn nodi o ble y gellir symud yr anifeiliaid ac mae’n ddilys am gyfnod penodedig yn unig. Gall nodi rhifau tagiau clust yr anifeiliaid y caniateir iddynt gael eu symud.

Cysylltwch ag APHA os bydd angen lloi sugno arall arnoch cyn y prawf cyfnod byr cyntaf.

Symud carcasau o’ch safle

Os bydd adweithydd amhendant, cysylltiad uniongyrchol neu adweithydd yn trigo neu fod yn rhaid ei ladd ar eich fferm am resymau lles, dylech hysbysu APHA ar unwaith – mae gwasanaeth cyswllt 24 awr ar gael.

Nid oes angen trwydded arnoch i symud y carcas ond rhaid i chi hysbysu APHA cyn ei symud oherwydd efallai y bydd am gynnal archwiliad post mortem. Os na ellir cynnal archwiliad post mortem a gwaith samplu, efallai y bydd angen cynnal profion ychwanegol ar y fuches a fydd yn arwain at oedi cyn i’r cyfyngiadau gael eu codi.

Ni ddylech byth aros i gysylltu ag APHA cyn trefnu i anifail gael ei ladd os bydd oedi yn peryglu lles yr anifail.

Ni chewch hawlio unrhyw iawndal am adweithyddion, adweithyddion amhendant na chysylltiadau uniongyrchol sy’n trigo ar eich fferm cyn y dyddiad y bwriedir eu lladd.

Yn ogystal â’r gofynion TB hyn, rhaid cydymffurfio ag amodau eraill wrth symud stoc trig.

Ceir rhagor o wybodaeth yn National Fallen Stock Company (NFSCo) neu ffoniwch 0845 054 8888.

Rhagor o wybodaeth

Mae gwahaniaethau sylweddol rhwng y polisïau ar TB buchol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Mae manylion y polisïau hyn ar gael ar wefan GOV.UK.

Os ydych yn ffermio ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, dylech fod yn ymwybodol y bydd lleoliad eich anifeiliaid ar adeg y prawf yn dylanwadu ar y protocolau sy’n berthnasol i chi.

Gallwch ddarllen canllawiau manylach ar TB buchol, gan gynnwys sut i adnabod y clefyd a rhoi gwybod amdano, ar wefan GOV.UK.

Mae gwybodaeth ar gael hefyd gan Lywodraeth Cymru. Darllenwch:

Gallwch gael rhagor o help a chyngor o TB Hub.

Cysylltu ag APHA

Yng Nghymru, ffoniwch 0300 303 8268.

Gallwch ddewis clywed y neges ffôn yn Gymraeg. Bydd APHA yn ceisio eich rhoi mewn cysylltiad â pherson sy’n siarad Cymraeg.

E-bost: apha.cymruwales@apha.gov.uk

Gallwch anfon gohebiaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg i:

APHA Gwasanaethau Maes Cymru/Wales Field Services
Swyddfeydd Penrallt Offices
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1BN