Papur polisi

Ardoll Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Diweddarwyd 13 December 2021

1. Ar bwy mae’r ardoll yn debygol o effeithio

Mae’r ardoll yn debygol o effeithio ar gyflogwyr, cyflogeion a’r hunangyflogedig sy’n agored i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol, ac unigolion a fyddai’n agored i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol oni bai am gyfyngiadau oedran pensiwn. Nid effeithir ar unigolion sydd ond yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 a Dosbarth 3.

2. Disgrifiad cyffredinol o’r mesur

Mae’r mesur hwn yn darparu ar gyfer cynnydd dros dro o 1.25 pwynt canrannol i brif gyfraddau a chyfraddau ychwanegol cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1, Dosbarth 1A, Dosbarth 1B a Dosbarth 4 ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023. Bydd y refeniw a godir yn mynd yn uniongyrchol i gefnogi’r GIG a chyrff cyfatebol ledled y DU. O fis Ebrill 2023 ymlaen, bydd cyfraddau’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn gostwng yn ôl i lefelau blwyddyn dreth 2021 i 2022, a byddant yn cael eu disodli gan Ardoll Iechyd a Gofal Cymdeithasol newydd o 1.25% lle bydd y refeniw’n cael ei glustnodi i roi cymorth i gyrff iechyd a gofal cymdeithasol y DU.

Ni fydd y cynnydd dros dro i gyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023 yn effeithio ar unigolion sydd dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth, ond byddant yn agored i dalu’r ardoll o fis Ebrill 2023 ymlaen.

Bydd yr Ardoll Iechyd a Gofal Cymdeithasol newydd yn agored i’r un rhyddhadau, yr un trothwyon a’r un gofynion o ran y cyfraniadau Yswiriant Gwladol cymwys (Dosbarth 1, Dosbarth 1A, Dosbarth 1B neu Ddosbarth 4) y mae’r Ardoll yn daladwy mewn perthynas â nhw.

3. Amcan y polisi

Mae’r llywodraeth wedi ymrwymo i reoli arian cyhoeddus yn gyfrifol. Bydd y cynllun ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol a nodwyd gan y Prif Weinidog a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn arwain at gynnydd parhaol mewn gwariant. Byddai’n anghyfrifol talu’r costau hyn drwy gynyddu lefelau benthyca, yn enwedig yng nghyd-destun y lefelau uchaf erioed o fenthyca a dyledion i ariannu’r ymateb economaidd i COVID-19. Felly, mae’r llywodraeth wedi penderfynu cynyddu trethiant.

Mae angen ateb hirdymor ym mhob rhan o’r DU i ariannu iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r ardoll hon yn rhoi dull gweithredu ledled y DU, sy’n ein galluogi i gyfuno a rhannu risgiau ac adnoddau ledled y DU, gan ddangos manteision yr Undeb i’n holl ddinasyddion.

3.1 Cefndir y mesur

Cyhoeddwyd y mesur hwn ar 7 Medi 2021, ac mae’n cael ei weithredu cyn gynted â phosibl i gynyddu’r arian ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

4. Cynnig manwl

4.1 Dyddiad gweithredol

Bydd y cynnydd trosiannol i brif gyfraddau a chyfraddau ychwanegol cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn dod i rym ar 6 Ebrill 2022, a bydd yn para ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023 yn unig. Bydd yr Ardoll Iechyd a Gofal Cymdeithasol newydd yn dod i rym ar 6 Ebrill 2023.

4.2 Y gyfraith bresennol

Mae Deddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 (a’r hyn sy’n cyfateb iddi yng Ngogledd Iwerddon) yn nodi’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol amrywiol y mae cyflogeion, cyflogwyr ac unigolion hunangyflogedig yn agored iddynt. Mae Adran 5 yn darparu ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 cynradd ac eilaidd (cyflogeion a chyflogwyr), mae Adran 10 yn darparu ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A, mae Adran 10A yn darparu ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1B (cyflogwyr), ac mae Adran 15 yn darparu ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 (hunangyflogedig).

4.3 Diwygiadau arfaethedig

Bydd y Bil Ardoll Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn darparu ar gyfer ardoll o 1.25% sy’n daladwy ar swm o enillion neu elw y mae cyflogai, cyflogwr neu unigolyn hunangyflogedig eisoes yn agored i dalu cyfraniad Yswiriant Gwladol cymwys (CYG Dosbarth 1, 1A, 1B a 4) arno. At ddibenion gweinyddol, bydd yr ardoll yn gweithredu yn yr un modd â chyfraniadau Yswiriant Gwladol, felly bydd y Bil yn cymhwyso deddfwriaeth cyfraniadau Yswiriant Gwladol at yr ardoll.

Bydd y Bil newydd yn nodi sut y bydd yr enillion o’r Ardoll Iechyd a Gofal Cymdeithasol newydd yn cael eu defnyddio.

Bydd y Bil hefyd yn gwneud darpariaethau trosiannol a fydd yn diwygio Rhan 1 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 (a’r hyn sy’n cyfateb iddi yng Ngogledd Iwerddon) ar gyfer blwyddyn dreth 2022-23 ac yn cymhwyso cynnydd dros dro o 1.25 pwynt canrannol at bob un o’r cyfraddau cyfraniadau Yswiriant Gwladol cymwys.

4.4 Crynodeb o’r effeithiau

4.5 Yr effaith ar y Trysorlys (£bn)

2020 to 2021 2021 to 2022 2022 to 2023 2023 to 2024 2024 to 2025 2025 to 2026
gwag gwag gwag gwag gwag gwag

Bydd y costio terfynol yn amodol ar waith craffu gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, a bydd yn cael ei nodi yn y Gyllideb.

4.6 Yr effaith economaidd

Rhagwelir y bydd y mesur yn cael effaith facroeconomaidd sylweddol, gyda chanlyniadau’n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, enillion, chwyddiant ac elw cwmnïau. Mae effeithiau ymddygiadol yn debygol o fod yn fawr, a bydd y rhain yn cynnwys penderfyniadau ynghylch a ddylid ymgorffori neu beidio, a phenderfyniadau busnes ynghylch biliau cyflog a recriwtio.

4.7 Yr effaith ar unigolion, aelwydydd a theuluoedd

Mae’r dadansoddiad o’r effaith sy’n dilyn yn ymwneud yn benodol ag effaith y darpariaethau deddfwriaethol a amlinellir uchod. Cyflwynir colledion o’u cymharu â’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol y byddai unigolion wedi’u hwynebu pe bai’r gyfradd wedi aros yr un fath.

Telir yr ardoll gan unigolion cyflogedig a hunangyflogedig sy’n ennill mwy na’r Prif Drothwy a’r Terfyn Elw Isaf (£9,568 ym mlwyddyn dreth 2021 i 2022). Ym mlwyddyn dreth 2022 i 2023, byddai disgwyl i unigolyn sy’n ennill incwm canolrifol trethdalwr cyfradd sylfaenol, sef £24,100, dalu £180 ychwanegol; a byddai disgwyl i unigolyn sy’n ennill incwm canolrifol trethdalwr cyfradd uwch, sef £67,100, dalu £715 yn ychwanegol.

Bydd colledion gwirioneddol i drethdalwyr unigol yn amrywio yn ôl amgylchiadau unigol.

Efallai y bydd effaith ar ffurfio teuluoedd, ar sefydlogrwydd teuluoedd neu ar chwalfa deuluol gan y bydd unigolion, sydd ond yn llwyddo i ymdopi’n ariannol ar hyn o bryd, yn gweld eu hincwm gwario’n gostwng.

4.8 Effeithiau ar gydraddoldeb

Ni ragwelir y bydd effeithiau uniongyrchol ar grwpiau sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig gan fod y mesur hwn yn berthnasol ni waeth beth fo’u hamgylchiadau personol neu eu nodweddion gwarchodedig i’r graddau yr effeithir arnynt gan newidiadau i gyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Gan y bydd yr ardoll yn gyfradd o 1.25% ar yr holl incwm sy’n uwch na’r Prif Drothwy, yr uchaf yw enillion unigolyn, y mwyaf y bydd yn ei dalu. Mae unigolion ag enillion uwch yn tueddu i fod yn wyn, yn ddynion a heb anabledd. Ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023 yn unig, bydd y mesur hwn hefyd yn effeithio ar y rhai hynny sydd o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn unig.

Yn 2022 i 2023, o’r 29.0 miliwn o unigolion a fydd ar eu colled oherwydd y mesur hwn, mae 15.6 miliwn (54%) yn ddynion ac mae 13.4 miliwn (46%) yn ferched.

Mae’r mesur hwn hefyd yn debygol o gael effaith anghymesur ar unigolion y mae eu hincwm yn cynnwys enillion neu elw yn bennaf, yn hytrach na mathau eraill o incwm megis incwm o eiddo, incwm pensiwn neu gynilion oherwydd nad yw’r Ardoll Iechyd a Gofal Cymdeithasol, na chyfraniadau Yswiriant Gwladol, yn cael eu codi ar y mathau hynny o incwm.

4.9 Yr effaith ar fusnesau, gan gynnwys sefydliadau cymdeithas sifil

Disgwylir i’r mesur hwn gael effaith sylweddol ar dros 1.6 miliwn o gyflogwyr y bydd yn ofynnol iddynt gyflwyno’r newid hwn. Bydd costau untro yn cynnwys ymgyfarwyddo â’r newid a gallent hefyd gynnwys diweddaru meddalwedd neu systemau i adlewyrchu’r newid. Gallai cost untro arall gynnwys diweddaru cofnodion cyflogres cyflogeion i adlewyrchu’r newid hwn. Bydd y mesur hwn hefyd yn effeithio ar ddarparwyr meddalwedd gyflogres a fydd yn cael cost ymgyfarwyddo untro a bydd hefyd yn ofynnol iddynt ddiweddaru meddalwedd i adlewyrchu’r newid hwn, a gellir trosglwyddo’r gost i gwsmeriaid.

Disgwylir i brofiad cwsmeriaid aros yr un fath ar y cyfan gan nad yw’r mesur hwn yn newid yn sylweddol sut mae cyflogwyr yn rhyngweithio â CThEM. Ni ddisgwylir i’r mesur hwn effeithio ar sefydliadau cymdeithas sifil.

4.10 Yr effaith weithredol (£m) (CThEM neu eraill)

Bydd cyflwyno’r ardoll ym mis Ebrill 2023, a’r trefniadau trosiannol ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023, yn galw am newidiadau i systemau TG Cyllid a Thollau EM. Bydd costau staff ychwanegol hefyd er mwyn rhoi cymorth i gwsmeriaid a sicrhau cydymffurfiad â’r system newydd. Mae’r costau hynny’n cael eu meintioli ar hyn o bryd.

4.11 Effeithiau eraill

Mae effeithiau eraill wedi cael eu hystyried ac nid oes yr un wedi’i chanfod.

4.12 Monitro a gwerthuso

Caiff y mesur ei fonitro drwy wybodaeth a gesglir o dderbyniadau Yswiriant Gwladol a’r Ardoll.

4.13 Cyngor pellach

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y newid hwn, cysylltwch â’r Tîm Polisi Cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn nics.correspondence@hmrc.gov.uk.

4.14 Datganiad

Mae’r Gwir Anrhydeddus Jesse Norman AS, Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys, wedi darllen y Nodyn Effaith a Gwybodaeth Treth hwn, ac mae’n fodlon, o ystyried y dystiolaeth sydd ar gael, ei fod yn cynrychioli barn resymol am gostau, manteision ac effeithiau tebygol y mesur.