Cyfarwyddwr Anweithredol

Alun Evans CBE

Bywgraffiad

Bu Alun Evans, am dros ddeng mlynedd ar hugain, yn was sifil gan gynnwys ugain mlynedd yn yr uwch wasanaeth sifil, a bu’n gweithio mewn ystod eang o adrannau’r llywodraeth gan gynnwys yn Rhif 10. Roedd yn Bennaeth Swyddfa’r Alban Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystod refferendwm annibyniaeth i’r Alban yn 2014. Rhwng 2015-2019 roedd yn Brif Weithredwr yr Academi Brydeinig, ac yn dilyn hynny cwblhaodd ei PhD ar hanes y Swyddfa Breifat ym Mhrifysgol Queen Mary, Llundain. Ers 2020 mae’n awdur ac yn ymgynghorydd gwleidyddol. Mae’n Gyfarwyddwr Anweithredol yn Swyddfa Cymru.

Cyfarwyddwr Anweithredol

Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru