Datganiad i'r wasg

Llywodraeth y DU yn gwobrwyo gwaith gyda hwb o £701 y flwyddyn i weithwyr yng Nghymru

Bydd y gweithiwr cyfartalog yng Nghymru ar ei ennill o £701 y flwyddyn wrth i’r llywodraeth dorri trethi

HM Treasury

  • Bydd y gweithiwr cyfartalog yng Nghymru ar ei ennill o £701 y flwyddyn wrth i’r llywodraeth dorri trethi 
  • Bydd dros 1.2 miliwn o weithwyr yng Nghymru yn elwa wrth i doriadau Yswiriant Gwladol gael eu hadlewyrchu mewn cyflogau y mis hwn 
  • Bydd 27 miliwn o gyflogeion yn elwa ym mhob cwr o’r wlad yn sgil toriadau treth sy’n gwobrwyo gwaith ac yn tyfu’r economi

Bydd y gweithiwr nodweddiadol yng Nghymru ar ei ennill o £701 o ganlyniad i doriadau olynol i gyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG) gweithwyr, a fydd yn cael ei hadlewyrchu mewn cyflogau y mis hwn. 

Bydd 27 miliwn o weithwyr ledled y DU yn gweld cynnydd yn y cyflog yn eu poced o 6 Ebrill ymlaen, gyda dros 1.2 miliwn o bobl yn elwa yng Nghymru yn unig. 

Mae’r arbedion yn deillio o’r toriadau olynol i gyfraniadau YG a gyhoeddwyd gan y Canghellor, gan ostwng prif gyfradd cyfraniadau YG cyflogeion o 12% i 8% a phrif gyfradd cyfraniadau YG gweithwyr hunangyflogedig o 9% i 6%. 

Mae’r toriadau hyn yn bosibl oherwydd bod yr economi’n troi cornel, diolch i gamau pendant y llywodraeth i ostwng chwyddiant o 11.1% i 3.4%. Mae’r llywodraeth yn glynu wrth ei chynllun economaidd ac, yn y tymor hwy, mae ganddi’r uchelgais o dorri cyfraniadau YG ymhellach, gan ddiddymu’r dreth ddwbl annheg ar waith.   

Dywedodd Jeremy Hunt, Canghellor y Trysorlys: 

Mae’r toriadau treth a ddaw i rym yr wythnos hon yn dangos bod ein cynllun economaidd yn gweithio, gan roi £701 y flwyddyn yn ôl ym mhocedi pobl sy’n gweithio ledled Cymru. 

Bydd pobl yn dechrau gweld yr arbediad hwn yn eu cyflog y mis hwn a, phan fydd yn gyfrifol gwneud hynny, byddwn yn mynd gam ymhellach – drwy roi terfyn ar y dreth ddwbl annheg ar y rheini sy’n ennill eu hincwm drwy waith.

Dywedodd David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru: 

Rwy’n falch iawn y bydd dros 1.2 miliwn o weithwyr yng Nghymru yn elwa o’r toriad Yswiriant Gwladol heddiw, a hynny ar ben y toriad cyntaf o ddau bwynt canran ym mis Ionawr eleni, gan roi £700 yn fwy ym mhoced y gweithiwr nodweddiadol. Mae chwyddiant yn dod i lawr hefyd, sy’n helpu pobl i deimlo’n well eu byd wrth i’r economi droi cornel.

Gan ystyried y diwygiadau i gyfraniadau YG yn Natganiad yr Hydref a Chyllideb y Gwanwyn gyda’i gilydd, dyma doriad treth cyffredinol sy’n werth dros £20 biliwn y flwyddyn – y toriad mwyaf erioed i YG cyflogeion a gweithwyr hunangyflogedig. 

Oherwydd y toriadau cyfun i gyfraniadau YG cyflogeion a gweithwyr hunangyflogedig, mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn rhagweld y bydd cyfanswm yr oriau a weithir yn cynyddu cyfwerth â bron i 200,000 o weithwyr amser llawn erbyn 2028-29, gan helpu i dyfu’r economi.  

Mae’r newidiadau hyn yn golygu, ar gyfer unigolion sengl ar gyflogau cyfartalog, y byddai trethi personol wedi bod yn is yn y DU nag yn Ffrainc, yr Almaen a phob economi G7 arall, ar sail data diweddaraf y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD).

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion

  • Mae’r cynnydd yn seiliedig ar gyflog cyfartalog o £30,101 yng Nghymru. Mae’r cyfrifiadau’n seiliedig ar lefel gymedrig enillion blynyddol pob gweithiwr, gan ddefnyddio Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer 2023.
Cyhoeddwyd ar 4 April 2024