Datganiad i'r wasg

Cyhoeddi cyllid hollbwysig a phwerau newydd i Gymru mewn Cytundeb Dydd Gŵyl Dewi

Mae’r Prif Weinidog a’r Dirprwy Brif Weinidog wedi cyhoeddi mesurau cyllido hollbwysig heddiw ynghyd â rhagor o bwerau i’r Cynulliad Cenedlaethol.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
New powers for Wales image

Mae’r mesurau cyllido, sy’n rhan o becyn datganoli Dydd Gŵyl Dewi Llywodraeth y DU – yn cynnwys cyflwyno “cyllid gwaelodol” i warchod cyllid perthnasol Cymru ac i roi sicrwydd i Lywodraeth Cymru gynllunio ar gyfer y dyfodol a datblygu’r economi. Mae’n chwalu’r rhwystr olaf a godwyd gan Lywodraeth Cymru er mwyn galw refferendwm ar ddatganoli treth incwm.

Ochr yn ochr â hynny cyhoeddodd Llywodraeth y DU y dylai Cymru gael pwerau ychwanegol dros ynni, trafnidiaeth, yr amgylchedd ac etholiadau fel rhan o fframwaith ar gyfer datganoli.

Mae’r fframwaith – a gyhoeddir cyn Dydd Gŵyl Dewi – yn nodi cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer llunio setliad datganoli clir i Gymru a fydd yn addas i’r dyfodol. Mae’n seiliedig ar y consensws gwleidyddol ar ddatganoli pellach sydd wedi cael ei sicrhau drwy Ysgrifennydd Cymru drwy’r broses Dydd Gŵyl Dewi.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, fod angen i Lywodraeth Cymru nawr ganolbwyntio ar sut gallai ddefnyddio’r pwerau newydd hyn i wella economi Cymru.

Mae’r cytundeb yn datgan y dylai’r Cynulliad Cenedlaethol allu ostwng yr oed pleidleisio i 16 ar gyfer etholiadau’r Cynulliad, gosod ei derfynau cyflymder ei hun a chael rheolaeth dros ffracio, carthffosiaeth, porthladdoedd a rheoleiddio tacsis a bysiau.

Roedd consensws gwleidyddol hefyd y dylid cydnabod y Cynulliad Cenedlaethol fel sefydliad parhaol, mewn deddfwriaeth, ac y dylai gael y pŵer i newid ei enw os yw’n dymuno gwneud hynny.

Mae’n datgan hefyd y dylai Cymru symud at “fodel cadw pwerau” – yn unol â’r model yn yr Alban – gyda’r gyfraith yn nodi pa gyfrifoldebau sy’n aros yn San Steffan.

Dywedodd y Prif Weinidog, David Cameron:

Mae cytundeb Dydd Gŵyl Dewi gyrhaeddwyd heddiw yn cynrychioli un o’r trosglwyddiadau mwyaf o rym yn hanes datganoli yng Nghymru.

Mae hyn oll am greu setlaidau parhaol ar draws y Deyrnas Unedig i’w gwneud hi’n gryfach a thecach.

Mae’n golygu mwy o gyfrifoldeb i Gynulliad Cymru.

Mae’n golygu mwy o benderfyniadau yn cael eu gwneud yma yng Nghymru a mwy o gyfle i bobl Cymru ddal eu gwleidyddion yn gyfrifol.

Ac mae’n golygu bod yn rhaid i’r rheiny sy’n gwario arian trethdalwyr hefyd fod yn fwy cyfrifol am ei godi.

Rwy’n gobeithio mai nid am ba bwerau dylid eistedd ymhle fydd y ddadl fawr nesaf, ond yn hytrach am sut y dylid defnyddio’r pwerau hynny.

Sut y gall y ddau Llywodraethau Cymru wneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau ffyniant Cymru am ddegawdau i ddod.

Mae hyn yn ddatganoli doeth.

Mae’n setliad parhaol i Gymru sy’n gweithio i Gymru, heddiw, yfory ac am genedlaethau i ddod.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg:

Rwyf wrth fy modd fy mod yn cael cyhoeddi Setliad Cyfansoddiadol newydd i Gymru. Mae hwn yn gytundeb gwerth ei ddathlu ar Ddydd Gŵyl Dewi: gan fynd â ni gam arall at Hunanlywodraeth yng Nghymru a Phrydain sy’n decach ac yn gryfach.

Mae Cytundeb Dewi Sant, sy’n derbyn y rhan fwyaf o argymhellion ail Adroddiad Silk, yn cynyddu’r pwerau datganoledig sydd gan Gymru mewn meysydd pwysig fel ynni, trafnidiaeth a’r amgylchedd. Mae’n braenaru’r tir ar gyfer Cynulliad cryfach a mwy hunanlywodraethol – gan roi mwy o reolaeth i Gymru dros ei faterion ei hun. Ac mae’n dechrau’r broses o ddarparu cyllid teg i Gymru.

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddatganoli ar draws pob rhan o’r DU, ac mae gennym ni record gref mewn Llywodraeth. Gyda’n gilydd rydyn ni’n gosod y sylfaen ar gyfer Cymru sy’n wyrddach ac yn fwy ffyniannus. Bydd ein gwlad i gyd ar ei hennill, gan greu’r swyddi a’r twf sydd eu hangen arnom i greu cymdeithas decach ac economi gryfach i bawb.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, a arweiniodd gyfres o gyfarfodydd gyda gwleidyddion yng Nghymru i sicrhau’r fframwaith:

Mae hwn yn becyn cryf sy’n creu’r sylfaen ar gyfer setliad datganoli cryfach, tecach a pharhaol i Gymru. Mae’r pwerau newydd hyn yn creu cyfle pwysig i Gymru, mae pwrpas i’r pwerau hyn.

Fel Llywodraeth y DU rydyn ni’n credu mewn cydbwyso’r economi er mwyn gallu creu cyfoeth yn decach ac yn fwy cyfartal ar draws y wlad i gyd. Mae’r Pecyn Dydd Gŵyl Dewi hwn yn rhoi’r offer i ni helpu i gael cydbwysedd yn ôl i’r economi yma yng Nghymru hefyd.

Rwy’n ddiolchgar i’r holl bleidiau Cymreig am gymryd rhan yn y broses hon yn y fath ysbryd da ac am eu parodrwydd i sicrhau ein bod yn cychwyn o sefyllfa o bragmatiaeth a chonsensws yn hytrach na dogma ac ymraniad.

Fel cenedl fach, credaf ein bod yn llawer cryfach wrth weithio gyda’n gilydd a dyma’r ffordd y bydd angen i ni wneud pethau os ydym yn awr am gyflawni’r pecyn hwn drwy ddeddfwriaeth.

Mae argymhellion y fframwaith yn cynnwys:

  • Dylai prosiectau ynni hyd at 350 megawat gael eu penderfynu gan Weinidogion Cymru. Byddai hyn yn cynnwys y rhan fwyaf o ffermydd gwynt ar y tir a thechnolegau adnewyddadwy i harneisio grym y llanw
  • Dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru fod â phwerau dros ddatblygu porthladdoedd i wella seilwaith cludiant Cymru.
  • Dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael y pŵer i ostwng oedran pleidleisio i 16 ar gyfer etholiadau’r Cynulliad. Mae gan y Cynulliad eisoes rym i ostwng oedran pleidleisio i 16 ar gyfer refferendwm ar ddatganoli pwerau treth incwm.
  • Dylai pob pŵer yn ymwneud ag etholiadau’r Cynulliad a Llywodraeth Leol gael eu datganoli. Mae hyn yn cynnwys penderfynu ar y system etholiadol, nifer yr etholaethau, eu ffiniau, amseru etholiadau a chynnal yr etholiadau eu hunain.
  • Dylai Gweinidogion Cymru gael y pŵer i benodi un aelod o fwrdd Ofcom i gynrychioli buddiannau Cymru.
  • Dylid cynnal adolygiad o Doll Teithwyr Awyr a allai agor y drws iddo gael ei ddatganoli i Gymru.

Fel rhan o’r fframwaith, mae llywodraeth y DU hefyd wedi addo edrych ar argymhellion Comisiwn Smith sy’n berthnasol i Gymru.

Bydd hyn yn galluogi’r llywodraeth newydd, ar ôl yr Etholiad Cyffredinol, i wneud penderfyniadau’n fuan yn y Senedd nesaf ynghylch a ddylid rhoi rhagor o argymhellion Smith ar waith ar gyfer Cymru.

Darllenwch Ddogfen Dydd Gŵyl Dewi yn llawn yma

Cyhoeddwyd ar 27 February 2015