Datganiad i'r wasg

Y Canghellor yn cyflwyno ‘Cyllideb ar gyfer Twf Tymor Hir’ yng Nghymru

Mwy o doriadau mewn trethi i bobl sy’n gweithio a mwy o fuddsoddi mewn diwydiannau potensial uchel yw’r prif benawdau gan y Canghellor Jeremy Hunt

  • Yr economi’n troi cornel, gyda’r disgwyl y bydd chwyddiant yn gostwng i lefel y targed yn y chwarter nesaf, cyflogau’n codi’n gyflymach na phrisiau yn gyson a gwell twf nag yng ngwledydd ein cymdogion yn Ewrop. 
  • Y Canghellor yn elwa ar gynnydd gyda ‘Chyllideb ar gyfer Twf Tymor Hir’, gan lynu wrth y cynllun drwy roi £640 y flwyddyn yn ôl ym mhoced gweithwyr Cymru diolch i newidiadau yn Natganiad yr Hydref ac ail doriad mewn Yswiriant Gwladol ym mis Ebrill ar gyfer mwy nag 1.2 miliwn o bobl sy’n gweithio yng Nghymru.
  • Y Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel yn cael ei asesu fesul aelwyd erbyn Ebrill 2026, a chymorth i’w roi ar unwaith i deuluoedd sy’n gweithio drwy gynyddu’r trothwy i £60,000 a haneru’r gyfradd ar gyfer ad-dalu Budd-dal Plant – yn golygu hwb o £1,260 ar gyfartaledd i tua hanner miliwn o deuluoedd sy’n gweithio ledled y DU.
  • Bydd gyrwyr ceir yn arbed £50 eleni ar gyfartaledd gan fod y toriad o 5c a’r rhewiad yn y dreth danwydd yn parhau tan fis Mawrth 2025, a bydd tafarndai, bragdai a distyllfeydd yng Nghymru yn elwa o rewiad pellach yn y dreth alcohol tan fis Chwefror 2025 – gan arbed arian i’w cwsmeriaid hefyd o ganlyniad.
  • Bydd y mesurau newydd ar gyfer rhyddhad treth a buddsoddi yn helpu i roi’r DU ar y blaen mewn diwydiannau uchel eu twf fel y sector creadigol, gweithgynhyrchu uwch a gwyddorau bywyd, tra sicrhawyd dyfodol ynni niwclear yng Nghymru drwy gytundeb i gaffael safle Wylfa yn Ynys Môn.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn cael cyllid ychwanegol o tua £170 miliwn drwy fformiwla Barnett, ar ben yr £820 miliwn ychwanegol a gafodd drwy weithredu’r fformiwla ers iddi gael y setliad mwyaf erioed o £18 biliwn y flwyddyn yn yr Adolygiad o Wariant yn 2021.
  • Mae’r ‘Gyllideb ar gyfer Twf Tymor Hir’ yn glynu wrth y cynllun drwy sicrhau trethi is a mwy o fuddsoddi, gan gynyddu’r economi 0.2% yn 2028-29 a chwrdd â rheolau cyllidol – gan gymryd y penderfyniadau hirdymor sydd eu hangen i adeiladu dyfodol gwell.

Mwy o doriadau mewn trethi i bobl sy’n gweithio a mwy o fuddsoddi mewn diwydiannau potensial uchel yw’r prif benawdau yn y ‘Gyllideb ar gyfer Twf Tymor Hir’ a gyflwynwyd gan y Canghellor Jeremy Hunt heddiw, dydd Mercher 6 Mawrth.  Gyda’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR) annibynnol yn cadarnhau bod disgwyl i chwyddiant ostwng i lefel y targed flwyddyn yn gynt nag a ragwelwyd o’r blaen, cyflogau’n codi’n gyson a’r economi’n perfformio’n well na gwledydd ein cymdogion yn Ewrop, dywedodd y Canghellor y byddai’n glynu wrth y cynllun i wella safonau byw drwy wobrwyo am waith a thyfu’r economi.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru David TC Davies:

Mae’r Gyllideb hon yn un bwysig iawn i Gymru sydd yn dangos uchelgais parhaus y llywodraeth hon i ddod â budd i bobl ledled y wlad.

Mae caffael safle Wylfa ar gyfer datblygiad niwclear newydd yn newyddion gwych i Ynys Môn a’r economi ehangach yng Nghymru. Dyma’r cam nesaf ar ein taith at ddyfodol sero net gyda ffynonellau ynni diogel sydd hefyd yn gosod y sylfaen ar gyfer hwb mawr i’r economi.

Bydd mwy nag 1.2 miliwn o bobl sy’n gweithio yng Nghymru yn elwa o’r cyhoeddiad heddiw am doriad mewn Yswiriant Gwladol a bydd teuluoedd ar eu hennill wrth i ni gynyddu’r trothwy ar gyfer hawlio Budd-dal Plant.

Rydyn ni hefyd yn parhau i fuddsoddi’n uniongyrchol mewn cymunedau gan ddarparu £20 miliwn i’r Rhyl, £5 miliwn i Gasnewydd, £1.6 miliwn ar gyfer Theatr Clwyd a £10 miliwn i Venue Cymru. Ac rydyn ni wedi cyhoeddi buddsoddiad o £5 miliwn ar gyfer Porth bwyd-amaeth a fydd yn cefnogi prosiectau sy’n canolbwyntio ar faterion fel ffermio sero net ledled gogledd a chanolbarth Cymru.

Yn ogystal â hyn, darperir cyllid canlyniadol o tua £170 miliwn drwy fformiwla Barnett i Lywodraeth Cymru, ar ben y grant bloc mwyaf erioed, i’w wario ar gyfrifoldebau datganoledig fel iechyd ac addysg.

Mae’r Gyllideb hon yn un sy’n rhoi mwy o arian ym mhocedi miliynau o bobl ac yn dangos bod Llywodraeth y DU yn parhau i ddod â budd i bobl ledled Cymru.

Gan adeiladu ar sail y toriad o 2 bwynt canran yn Yswiriant Gwladol y Cyflogai yn Natganiad yr Hydref, mae Mr Hunt wedi cyhoeddi ail doriad o 2c o 10% i 8% o fis Ebrill. Aeth y Canghellor ymhellach hefyd gyda thoriadau treth i weithwyr hunangyflogedig, ar ôl gostwng Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 o 9% i 8% a diddymu’r gofyniad i dalu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 yn Natganiad yr Hydref. Heddiw cyhoeddodd doriad pellach o 2c mewn Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 i’r hunangyflogedig i 6%.

Ar y cyd â’r newidiadau yn Natganiad yr Hydref, mae’r cyhoeddiadau heddiw yn golygu toriad mewn trethi o fwy na £20 biliwn y flwyddyn ledled y DU sydd yn cyfateb i doriad cyfartalog o £640 y flwyddyn mewn trethi i fwy nag 1.2 miliwn o weithwyr yng Nghymru. Maent hefyd yn arwain y ffordd at wneud rhagor o doriadau mewn Yswiriant Gwladol pan fydd modd cyflawni hynny heb gynyddu benthyciadau neu beryglu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd da. Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi dweud y bydd y gostyngiadau hyn yn arwain at yr hyn sy’n cyfateb i tua 200,000 o weithwyr amser llawn ychwanegol erbyn 2028/29, wrth i bobl gynyddu eu horiau gwaith ac ymuno â’r gweithlu. Yr hwb hwn yw’r rheswm dros roi blaenoriaeth gan y Canghellor i doriadau mewn Cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn ei ‘Gyllideb ar gyfer Twf Tymor Hir’, a’r rheswm y bydd yn parhau i wneud hynny pan fydd hynny’n bosibl ar sail gyllidol gyfrifol. Eglurodd mai ei uchelgais tymor hir yw rhoi pen ar yr annhegwch o drethu dwbl ar waith.

Mae Mr Hunt hefyd wedi cyhoeddi y bydd y Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel yn cael ei asesu fesul aelwyd erbyn Ebrill 2026, ac y bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar y ffordd i gyflawni hyn. 

Er mwyn sicrhau bod teuluoedd sy’n gweithio yn elwa o gynnydd yn eu henillion cyn gwneud y newid hwn, bydd y trothwy ar gyfer dechrau ad-dalu Budd-dal Plant yn cynyddu ym mis Ebrill o £50,000 i £60,000 – cynnydd o 20% a fydd yn golygu y bydd 170,000 yn llai o deuluoedd yn talu’r dreth hon ledled y DU eleni – tra na fydd angen ad-dalu Budd-dal Plant yn llawn nes bydd enillion yn fwy nag £80,000. Mae hyn yn rhoi hwb o £1,260 ar gyfartaledd i tua hanner miliwn o deuluoedd sy’n gweithio, yn codi i bron £5,000 i rai teuluoedd o’i gymryd gyda’r toriadau mewn trethi ers Datganiad yr Hydref. Bydd hyn yn rhoi diwedd ar yr annhegwch presennol lle mae dau riant sy’n ennill £49,000 y flwyddyn yn cael y Budd-dal Plant llawn ac aelwyd lle mae un person yn ennill mwy na £50,000 yn cael dim Budd-dal Plant o gwbl. Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn dweud y bydd y newidiadau nesaf hyn yn y Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel yn arwain at gynnydd mewn oriau gwaith a fydd yn cyfateb i gynnydd o 10,000 yn y gweithlu amser llawn. 

Bydd y toriadau treth a buddsoddiadau newydd yn helpu i roi’r DU ar y blaen mewn diwydiannau uchel eu twf. Bydd cymorth o fwy nag £1 biliwn i ddiwydiannau creadigol y DU, yn cynnwys rhyddhad mwy o drethi i leihau’r gost o gynhyrchu effeithiau gweledol mewn cynyrchiadau ffilm a theledu o’r ansawdd uchaf; cyflwynir rhyddhad o 40% ar ardrethi busnes tan 2034 ar gyfer stiwdios ffilmiau cymwys, a chredyd treth newydd ar gyfer ffilmiau Prydeinig annibynnol sydd â chyllideb o lai na £15 miliwn. Bydd cerddorfeydd, amgueddfeydd, orielau a theatrau hefyd yn cael budd o ryddhad parhaol o dreth o 45% ar gyfer cynyrchiadau teithiol a rhyddhad o 40% ar gyfer cynyrchiadau nad ydynt yn teithio. Bydd Llywodraeth y DU hefyd yn darparu £10 miliwn i Venue Cymru, Conwy drwy’r Gronfa Ffyniant Bro ac £1.6 miliwn tuag at ailddatblygu Theatr Clwyd, gan helpu i sicrhau dyfodol y theatr gynhyrchu fwyaf yng Nghymru sy’n enwog am ei chynyrchiadau theatr o’r radd flaenaf a’i chefnogaeth i’r iaith Gymraeg.

Bydd pecyn o £360 miliwn yn cefnogi prosiectau ymchwil a datblygu a gweithgynhyrchu arloesol ar draws y sectorau modurol, awyrofod a gwyddorau bywyd, a chyllid pellach o £45 miliwn i gyflymu ymchwil feddygol i glefydau cyffredin fel canser, dementia ac epilepsi – tra bydd £120 miliwn ychwanegol yn cael ei ddyrannu i’r Rhaglen Cyflymu Twf Diwydiannau Gwyrdd i ddatblygu cadwynau cyflenwi ar gyfer cynlluniau ynni gwynt ar y môr a dal a storio carbon.

Bydd cyfleoedd ar gael ledled Cymru, gyda miliynau o bunnoedd o gyllid i’r Rhyl drwy’r Cynlluniau Tymor Hir ar gyfer Trefi a’r economi wledig hollbwysig ledled gogledd a chanolbarth Cymru. Sicrhawyd dyfodol ynni niwclear yng Nghymru hefyd wedi i Lywodraeth y DU ddod i gytundeb â Hitachi i gaffael safle Wylfa yn Ynys Môn. Mae gogledd Cymru ac Ynys Môn wedi chwarae rhan anrhydeddus yn y diwydiant niwclear, ac yn cynnig y sgiliau a’r arbenigedd sydd eu hangen i gynnal prosiectau yn y dyfodol gyda photensial i drawsnewid yr economi leol.

Mae’r Canghellor wedi cymryd camau hefyd i wneud y system dreth yn symlach a thecach. Bydd y system dreth i’r rheini sydd heb ddomisil yn y DU yn cael ei diddymu a’i disodli gan system decach o fis Ebrill 2025 lle bydd newydd-ddyfodiaid i’r DU yn talu’r un dreth â phawb arall ar ôl pedair blynedd – gan godi £2.7 biliwn y flwyddyn erbyn 2028/29. Gan y bydd ffawdelw’r sector olew a nwy o brisiau uwch yn para’n hirach na’r disgwyl, bydd y cymal machlud ar yr Ardoll Elw Ynni yn cael ei ymestyn o un flwyddyn hyd fis Mawrth 2029, gan godi £1.5 biliwn a hybu buddsoddi yn niogelwch ynni’r DU drwy addo i ddeddfu i ddiddymu’r Ardoll os bydd prisiau’r farchnad yn gostwng i’r norm hanesyddol yn gynt na’r disgwyl.

O ganlyniad i benderfyniadau yng Nghyllideb y Gwanwyn, bydd Llywodraeth Cymru yn cael cyllid ychwanegol o tua £170 miliwn yn 2024-25 drwy fformiwla Barnett. Mae hyn ar ben y setliad mwyaf erioed o £15 biliwn y flwyddyn a gafodd yn yr Adolygiad o Wariant yn 2021 a’r cyllid ychwanegol o £820 miliwn a gafodd ers hynny drwy weithredu fformiwla Barnett.

Mae rhagolygon a ddarparwyd ar gyfer hyn gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn cadarnhau y bydd cydeffaith y penderfyniadau a gymerwyd yng Nghyllideb y Gwanwyn a’r ddau ddigwyddiad cyllidol blaenorol yn cynyddu maint yr economi 0.7% ac yn cynyddu cyfanswm yr oriau o waith i’r hyn sy’n cyfateb i 300,000 o weithwyr amser llawn erbyn 2028-29 – ac y bydd y gydeffaith o bolisi llywodraeth ers Datganiad yr Hydref 2022 yn arwain at leihau’r baich trethi 0.6%ym mlwyddyn olaf y rhagolygon. Bydd y cyhoeddiadau heddiw yn lleihau chwyddiant yn 2024/25, yn dod â’r hyn sy’n cyfateb i fwy na 100,000 o bobl i’r gweithlu erbyn 2028-29 ac yn creu twf parhaol o 0.2% yn yr economi – gyda’r benthyca yn gostwng ym mhob blwyddyn yn y rhagolygon.

Trethi is

Gyda’r economi’n troi cornel a disgwyl i’r ddyled ostwng fel cyfran o Gynnyrch Domestig Gros, mae’r Canghellor wedi cyflwyno rhagor o doriadau mewn trethi i bobl sy’n gweithio – gan wobrwyo am waith, hybu twf a helpu teuluoedd gyda chostau byw. 

  • Yn dilyn toriad o 2 bwynt canran yn Natganiad yr Hydref, bydd prif gyfradd Yswiriant Gwladol y Cyflogai yn cael ei thorri eto o 2 bwynt canran pellach o 10% i 8% ym mis Ebrill – gostyngiad o un rhan o dair yn y brif gyfradd Yswiriant Gwladol sy’n golygu y bydd gweithwyr yng Nghymru ar gyflog cyfartalog o £30,100 yn cael toriad treth o £700 o gymharu â’r flwyddyn ddiwethaf. 
  • Yn dilyn toriad o 1 pwynt canran yn Natganiad yr Hydref, bydd prif gyfradd y Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 i weithwyr hunangyflogedig yn cael ei thorri 2 bwynt canran pellach o 8% i 6% o fis Ebrill.
  • Bydd mwy nag 1.2 miliwn o weithwyr yng Nghymru ar eu hennill o £640 ar gyfartaledd o ganlyniad i doriadau mewn trethi personol a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU ers yr hydref.
  • Bydd y Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel yn cael ei weinyddu ar sail aelwydydd yn hytrach nag unigolion erbyn Ebrill 2026, ac ymgynghoriad ar hyn yn cael ei gynnal maes o law, tra bydd tua hanner miliwn o deuluoedd sy’n gweithio yn elwa o gynnydd yn y trothwy o £50,000 i £60,000 a chynyddu’r lefel ar gyfer ad-dalu Budd-dal Plant yn llawn i £80,000 – a hynny’n werth £1260 i bob teulu ar gyfartaledd.   
  • Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn dweud y bydd newidiadau mewn Cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn arwain gyda’i gilydd at yr hyn sy’n cyfateb i 200,000 o weithwyr amser llawn newydd yn ymuno â’r farchnad lafur erbyn 2028-29 wrth i bobl gynyddu eu horiau gwaith ac ymuno â’r gweithlu, tra bydd y newidiadau a gadarnhawyd yn y Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel yn dod â’r hyn sy’n cyfateb i 10,000 ychwanegol o weithwyr amser llawn. 
  • Bydd y prif gyfraddau treth danwydd yn cael eu rhewi eto tan fis Mawrth 2025 a’r toriad dros dro o 5c yn cael ei ymestyn hefyd, gan arbed tua £50 eleni i yrwyr ceir yng Nghymru a £250 ers cyflwyno’r toriad o 5c – toriad treth o £5 biliwn.
  • Bydd y mesur i rewi treth alcohol am chwe mis a gyhoeddwyd yn Natganiad yr Hydref yn cael ei ymestyn tan 1 Chwefror 2025, gan arbed 2c i ddefnyddwyr ar beint o gwrw, 1c ar beint o seidr, 10c ar botel o win a 33c ar botel o wirod o gymharu â phrisiau pe byddai’r cynnydd arfaethedig wedi mynd yn ei flaen. Bydd 38,000 o dafarndai ledled y DU yn cael budd o hyn a bydd yn gostwng chwyddiant eleni yr un pryd.
  • Bydd y ffi o £90 am Orchymyn Rhyddhau o Ddyled, sy’n rhewi taliadau dyled am 12 mis, yn cael ei diddymu a’r meini prawf cymhwysedd yn cael eu ehangu fel y bydd mwy o aelwydydd sy’n ceisio delio â dyledion problemus yn cael yr help sydd ei angen arnynt, a bydd y cyfnod hiraf ar gyfer taliadau ymlaen llaw Credyd Cynhwysol yn cael ei ymestyn o 12 mis i 24 mis.  
  • Bydd cyfradd uchaf Treth ar Enillion Cyfalaf (CGT) ar eiddo yn cael ei thorri o 28% i 24% o fis Ebrill 2024, gan sbarduno’r farchnad eiddo preswyl a hybu’r miloedd o swyddi sy’n dibynnu arni. 

Buddsoddi a ffyniant bro

Gan adeiladu ar sail y buddsoddiadau diweddar yn y DU gan Google, Nissan a Microsoft, mae Mr Hunt wedi cyhoeddi buddsoddiadau newydd cyffrous mewn sectorau twf allweddol ac wedi amlinellu cynlluniau i helpu busnesau o bob maint i dyfu.

  • Pecyn sylweddol o gymorth i roi’r DU ar y blaen mewn diwydiannau sy’n tyfu’n gyflym dros y pum mlynedd nesaf, yn cynnwys mesurau newydd gwerth mwy nag £1 biliwn ar gyfer rhyddhau o drethi i ddiwydiannau creadigol, £270 miliwn ar gyfer prosiectau ymchwil a datblygu modurol ac awyrofod, a chyllid ychwanegol o £120 miliwn ar gyfer y Rhaglen Cyflymu Twf Diwydiannau Gwyrdd i helpu i ddatblygu cadwynau cyflenwi ar gyfer ynni gwynt ar y môr a dal a storio carbon.
  • Cyhoeddir deddfwriaeth ddrafft o fewn wythnosau i ymestyn y gallu i hawlio lwfansau cyfalaf llawn – toriad treth o £11 biliwn i fusnesau bob blwyddyn i’w helpu i fuddsoddi am lai – i gynnwys asedau a lesiwyd pan fo hynny’n fforddiadwy, gan gryfhau un o’r systemau lwfansau cyfalaf mwyaf deniadol sydd i’w chael mewn gwledydd mawr. 
  • Bydd Llywodraeth y DU yn ymestyn y rhaglen Parthau Buddsoddi yng Nghymru o bump i 10 mlynedd, fel y bydd Parthau Buddsoddi yng Nghymru yn cael mynediad at gronfa gyllid o £160 miliwn i bob Parth Buddsoddi dros 10 mlynedd. Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn cydweithio ar gynigion ar gyfer y ddau Barth Buddsoddi a ddewiswyd yng Nghymru, un ar draws Caerdydd a Chasnewydd a gaiff ei weithredu gan Gyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain Cymru a’r llall ar draws Wrecsam a Sir y Fflint a gaiff ei weithredu gan Gyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru. 
  • Mae’r cyfnod o 10 mlynedd ar gyfer hawlio rhyddhadau treth Porthladdoedd Rhydd hefyd wedi’i gytuno â Llywodraeth Cymru, fel y bydd rhyddhadau treth ar gael tan fis Medi 2034 mewn safleoedd treth ym Mhorthladd Rhydd Ynys Môn a’r Porthladd Rhydd Celtaidd yng Nghymru – gan hybu buddsoddi drwy roi sicrwydd o ran cymorth gan lywodraeth dros gyfnod hir, creu twf a swyddi, a hyrwyddo economi Cymru.
  • Bydd tref y Rhyl yn cael £20 miliwn dros ddeng mlynedd drwy’r Cynllun Tymor Hir ar gyfer Trefi, gan roi sicrwydd iddi dros y tymor hir ar gyfer darparu prosiectau ar sail anghenion a blaenoriaethau lleol.
  • Bydd Llywodraeth y DU yn cefnogi porth amaeth-dechnoleg, mewn partneriaeth â Chyngor Ceredigion a Llywodraeth Cymru, gyda chyllid o £5 miliwn i gynorthwyo prosiectau dan arweiniad busnes sy’n canolbwyntio ar faterion hanfodol fel ffermio sero net. Bydd hyn yn hybu’r economi wledig hollbwysig drwy sicrhau swyddi, twf a chynhyrchiant uwch ledled gogledd a chanolbarth Cymru.
  • Bydd busnesau bach a chanolig eu maint yng Nghymru yn cael cymorth i fuddsoddi a thyfu drwy estyniad o £200 miliwn i’r Cynllun Gwarantu Twf, a fydd yn helpu 11,000 o fusnesau bach ledled y DU i gael mynediad at y cyllid sydd ei angen arnynt, a chynyddu’r trothwy cofrestru ar gyfer TAW o £85,000 i £90,000 a fydd yn golygu bod tua 28,000 yn llai o fusnesau bach drwy’r DU yn talu TAW.
  • Darperir cyllid o £45 miliwn i gyllido ymchwil feddygol er mwyn datblygu meddyginiaethau newydd i drin clefydau fel canser, dementia ac epilepsi.
  • Diwygiadau i bensiynau a chynilion, yn cynnwys cyflwyno Cyfrif Cynilo Unigol y DU (UK ISA) a fydd yn caniatáu buddsoddiad di-dreth blynyddol ychwanegol o £5,000 mewn ecwiti yn y DU a Bondiau Cynilo Prydeinig newydd a fydd yn cynnig cyfradd warantedig i gynilwyr am 3 blynedd gan sicrhau gwell enillion i gynilwyr.

Cyllid cyhoeddus cynaliadwy

Mae’r ‘Gyllideb ar gyfer Twf Tymor Hir’ yn sicrhau trethi is a mwy o fuddsoddi mewn ffordd gyfrifol a fforddiadwy, gan gymryd camau i godi refeniw newydd a’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn cadarnhau y bydd rheolau cyllidol y Canghellor wedi’u cadw. 

  • Bydd y ddyled sylfaenol yn gostwng fel cyfran o’r economi i 92.9% yn 2028/29 – gan gwrdd â’r rheol ar ddyled gyda hyblygrwydd o £8.9 biliwn. Bydd y brif ddyled yn gostwng fel canran o gynnyrch domestig gros bob blwyddyn o 2024/25.
  • Mae lefel y benthyca gan y sector cyhoeddus yn gostwng ym mhob blwyddyn o’r rhagolygon. Y diffyg fydd 2.7% o gynnyrch domestig gros yn 2025-26 – gan gwrdd â’r ail reol gyllidol am ostwng y lefel benthyca yn is na 3% o gynnyrch domestig gros dair blynedd yn gynnar – ac erbyn 2028-29 bydd yn gostwng i 1.2% o gynnyrch domestig gros, sef y lefel isaf er 2001-02.  
  • Bydd mesurau i fynd i’r afael â’r bwlch treth yn dod â £4.5 biliwn ychwanegol y flwyddyn erbyn 2028/29, gan arbed bron £10 biliwn i’r pwrs cyhoeddus ar y cyd â’r polisïau a gyhoeddwyd yn Natganiad yr Hydref.
  • Bydd y system dreth i’r rheini sydd heb ddomisil yn y DU yn cael ei disodli gan system symlach lle bydd newydd-ddyfodiaid yn cael mynediad at gynllun mwy hael ar gyfer pedair blynedd cyntaf eu preswyliad cyn talu’r un dreth â phawb arall, gan godi £2.7 biliwn y flwyddyn erbyn 2028/29 heb rwystro buddsoddi.
  • Bydd y cymal machlud ar yr Ardoll Elw Ynni yn cael ei ymestyn o fis Mawrth 2028 i fis Mawrth 2029 i godi £1.5 biliwn y flwyddyn, ond bydd deddfwriaeth yn y Bil Cyllid yn diddymu’r Ardoll os bydd prisiau’r farchnad yn gostwng i’r norm hanesyddol yn gynt na’r disgwyl – gan gynnal y buddsoddi yn ein diogelwch ynni.
  • Cyflwynir treth ar fêps o fis Hydref 2026 i gymell y rheini nad ydynt yn ysmygu a phobl ifanc i beidio â dechrau fepio, ochr yn ochr â chynnydd untro mewn treth dybaco i gydnabod y rhan y mae fêps yn ei chwarae mewn helpu pobl i roi’r gorau i ysmygu. Gyda’i gilydd, bydd y rhain yn codi £1.3 biliwn erbyn 2028/29.
  • Diddymir y system dreth ar gyfer Llety Gwyliau â Dodrefn o fis Ebrill 2025, gan godi £245 miliwn y flwyddyn a’i gwneud yn haws i bobl yng Nghymru  ddod o hyd i gartref yn eu cymuned.
Cyhoeddwyd ar 7 March 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 12 March 2024 + show all updates
  1. Welsh translation added.

  2. First published.