Cael tystysgrif ynni newydd

I gael tystysgrif ynni newydd ar gyfer eich cartref, eich eiddo busnes neu’ch adeilad cyhoeddus, mae angen ichi ei asesu.

Mae’r dudalen hon ar gael hefyd yn Saesneg (English).

Trefnu asesiad eiddo i gael un newydd o’r rhain:

  • tystysgrif perfformiad ynni (EPC)
  • tystysgrif ynni i’w harddangos (DEC) ar gyfer adeilad cyhoeddus
  • tystysgrif ac adroddiad arolygu aerdymheru

Mae cost asesiad yn amrywio yn ôl asesydd a maint yr eiddo.

Ar ôl yr asesiad, bydd yr asesydd yn rhoi copi digidol o’ch tystysgrif i chi.

Gallwch hefyd weld neu argraffu tystysgrif ynni sy’n bodoli eisoes.

Dod o hyd i asesydd

Dod o hyd i asesydd achrededig ar gyfer eich cartref, eich eiddo busnes neu’ch adeilad cyhoeddus. Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon.

Mae yna broses wahanol os ydych am ddod o hyd i asesydd achrededig yn yr Alban.

Pan fyddwch yn dod o hyd i asesydd:

  • cysylltu â nhw’n uniongyrchol i drefnu iddyn nhw weld yr eiddo
  • gwirio eu bod yn rhan o gynllun achrededig

Dechrau nawr

Beth mae angen i chi wybod

Gallwch wirio a oes gan yr eiddo dystysgrif ynni ddilys eisoes.

Cael help i ddod o hyd i asesydd ynni

I gael help i ddod o hyd i asesydd, cysylltwch â’r Adran Codi’r Gwastad, Tai a Chymunedau (DLUHC).

dluhc.digital-services@levellingup.gov.uk
Ffôn: 020 3829 0748
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Gwybodaeth am daliadau am alwadau

Os ydych chi’n anfodlon ar yr asesiad

Gallwch gwyno wrth yr asesydd yn uniongyrchol. Os ydych yn dal yn anfodlon, gallwch gysylltu â chynllun achredu’r asesydd. Bydd eu manylion cysylltu nhw ar y dystysgrif perfformiad ynni.