Gwirio’ch cofnod Yswiriant Gwladol

Gallwch wirio’ch cofnod Yswiriant Gwladol ar-lein er mwyn gweld:

  • yr hyn yr ydych wedi’i dalu hyd at ddechrau’r flwyddyn dreth bresennol (6 Ebrill 2024)
  • unrhyw gredydau Yswiriant Gwladol yr ydych wedi’u cael
  • a oes bylchau o ran cyfraniadau neu gredydau sy’n golygu bod yna flynyddoedd nad ydynt yn cyfrif tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth (nid ydynt yn ‘flynyddoedd cymwys’)
  • a allech elwa ar dalu cyfraniadau gwirfoddol (yn agor tudalen Saesneg) i lenwi unrhyw fylchau
  • sut bydd y rhagolwg o’ch Pensiwn y Wladwriaeth yn newid os ydych yn dewis talu cyfraniadau gwirfoddol
  • a allwch dalu cyfraniadau gwirfoddol ar-lein, a faint y bydd hyn yn ei gostio

Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Dechrau nawr

Cyn i chi ddechrau

Er mwyn gwirio’ch cofnod Yswiriant Gwladol, bydd angen i chi fewngofnodi i’ch cyfrif treth personol gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth.

Os nad oes gennych gyfrif treth personol

Mae angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch er mwyn creu cyfrif treth personol. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID) eisoes, gallwch greu un pan fyddwch yn mewngofnodi am y tro cyntaf.

Bydd angen eich rhif Yswiriant Gwladol neu’ch cod post arnoch, a dau o’r canlynol:

  • pasbort dilys y DU
  • trwydded yrru cerdyn-llun y DU a gyhoeddwyd gan y DVLA (neu’r DVA yng Ngogledd Iwerddon)
  • slip cyflog o’r tri mis diwethaf, neu ffurflen P60 gan eich cyflogwr ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf
  • manylion hawliad am gredyd treth, os gwnaethoch un
  • manylion o Ffurflen Dreth Hunanasesiad o’r ddwy flynedd ddiwethaf, os cyflwynoch un
  • gwybodaeth sy’n cael ei chadw ar eich cofnod credyd, os oes gennych un (megis benthyciadau, cardiau credyd, neu forgeisi)

Ffyrdd eraill o wneud cais

Gallwch ofyn am ddatganiad Yswiriant Gwladol ar bapur:

Bydd angen i chi roi gwybod pa flynyddoedd yr ydych am i’ch datganiad eu cwmpasu. Ni allwch ofyn am ddatganiadau ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol na’r un flaenorol.

Gallwch hefyd ysgrifennu at Gyllid a Thollau EF (CThEF).

Gweithrediadau Treth Bersonol
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST

Os ydych wedi talu Yswiriant Gwladol ar Ynys Manaw

Ni fydd eich cofnod yn dangos cyfraniadau Yswiriant Gwladol o Ynys Manaw os byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar ôl 5 Ebrill 2016.

Anfonwch e-bost i swyddfa Yswiriant Gwladol Ynys Manaw i gael gwybod faint yr ydych wedi’i dalu.

Swyddfa Yswiriant Gwladol Ynys Manaw
nationalinsurance.itd@gov.im

Yn ogystal, gallwch anfon llythyr i’r swyddfa.

National Insurance contributions
Income Tax Division
Government Office
Bucks Road
Douglas
Isle of Man
IM1 3TX