Budd-dal Plant
Sut mae’n gweithio
Cewch Fudd-dal Plant os ydych yn gyfrifol am fagu plentyn sydd:
- o dan 16 oed
- o dan 20 os yw’n parhau ag addysg neu hyfforddiant cymeradwy
Dim ond un person all gael Budd-dal Plant ar gyfer plentyn.
Nid oes terfyn ar nifer y plant y gallwch hawlio ar eu cyfer.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Drwy hawlio Budd-dal Plant, gallwch gael:
- lwfans sy’n cael ei dalu i chi ar gyfer pob plentyn – byddwch fel arfer yn ei gael bob 4 wythnos
- credydau Yswiriant Gwladol sy’n cyfrif tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth
- rhif Yswiriant Gwladol ar gyfer eich plentyn heb iddo orfod gwneud cais am un – fel arfer, bydd yn cael y rhif ychydig cyn iddo droi’n 16 oed
Os byddwch yn dewis peidio â chael taliadau Budd-dal Plant, dylech fynd ati o hyd i wneud hawliad er mwyn cael y manteision eraill.
Os bydd newid yn eich amgylchiadau
Rhaid i chi roi gwybod am unrhyw newid mewn amgylchiadau i’r Swyddfa Budd-dal Plant.